– Senedd Cymru ar 3 Mawrth 2021.
Mae'r ddadl nesaf gan grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio, a'r ddadl honno ar fuddsoddi mewn ysgolion. Dwi'n galw ar Caroline Jones i gyflwyno'r cynnig. Caroline Jones.
Cynnig NDM7606 Caroline Jones
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y diffyg buddsoddi mewn seilwaith ysgolion dros y degawdau diwethaf wedi golygu nad yw llawer o ysgolion yn addas at y diben.
2. Yn croesawu buddsoddiadau diweddar fel Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ond yn gresynu at y ffaith bod awdurdodau lleol yn eu defnyddio fel cyfrwng i uno ysgolion.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi terfyn ar greu ysgolion mawr iawn sy'n niweidiol i brofiad dysgu pobl ifanc;
b) sicrhau nad yw awdurdodau addysg lleol yn defnyddio diffyg buddsoddiad fel esgus i gau ysgolion cymunedol; ac
c) cyhoeddi canllawiau i awdurdodau addysg lleol i sicrhau nad oes rhaid i ddisgyblion ysgol deithio mwy na 15 munud mewn car neu ar gludiant cyhoeddus i fynychu eu hysgol agosaf.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol. O oedran ifanc, dysgais wers werthfawr—nad yw mwy bob amser yn well. Efallai fy mod yn 12 oed pan gafodd fy ysgol gymunedol fach ei huno ag un lawer mwy o faint. Collasom y berthynas bersonol gyda'n hathrawon, a dod yn wyneb arall yn y môr o wynebau. Diolch byth, yn ôl bryd hynny, roedd uno o'r fath yn ddigwyddiad prin, a châi ysgolion cymunedol barhau i gynnig addysgu personol o safon. Yn anffodus, methodd Llywodraethau olynol o bob lliw gwleidyddol fuddsoddi yn yr ysgolion hynny, gan ganiatáu i lawer gormod ohonynt ddadfeilio. Er ein bod yn croesawu'r buddsoddiad diweddar drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, nid yw'n ddigon, ac mae'n rhy hwyr i lawer o'r ysgolion cymunedol a orfodwyd i gau nid am eu bod yn cynnig addysg wael—ddim o gwbl—ond am ei bod yn fwy costeffeithiol eu cau a throsglwyddo eu disgyblion i ysgol fawr.
Yn fy rhanbarth i, aeth cyngor Castell-nedd Port Talbot ati, gyda'u rhaglen strategol gwella ysgolion, sy'n deitl chwerthinllyd, i gau Ysgol Gyfun Cymer Afan ac ysgolion cynradd yng nghwm Afan i greu ysgol gydaddysgol newydd i 1,200 o ddisgyblion rhwng tair ac 16 oed. Aeth y cyngor yn groes i ddymuniadau disgyblion, rhieni a swyddogion etholedig. Ymladdodd y Cynghorwyr Scott Jones, Ralph Thomas a Nicola-Jayne Davies yn galed dros eu cymunedau. Aeth rhieni â'r cyngor i'r Uchel Lys hyd yn oed, a gwrthodwyd eu hachos, nid am nad oedd iddo unrhyw rinwedd, ond am fod y barnwyr wedi dyfarnu nad adolygiad barnwrol oedd y ffordd briodol o orfodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Nid yw uno ysgolion fel hyn yn ymwneud â gwella addysg pobl ifanc; yn anad dim, maent yn ymwneud ag arbed arian. Caniatawyd i awdurdodau lleol rwygo'r galon o lawer o gymunedau er mwyn diogelu cyllidebau ac i atal gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd o waith atgyweirio rhag cronni. Mae'r ysgolion mawr hyn fel arfer yn bell o lawer o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan orfodi disgyblion i gymudo am amser maith. Nid yw'n anarferol i ddisgyblion wynebu dwy awr o deithio bob dydd. Mae hyn yn niweidiol i les pobl ifanc a gall effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol, ac mae hefyd yn gorfodi disgyblion i roi'r gorau i deithio llesol. Os yw'n cymryd awr mewn car neu fws, sut y gellid disgwyl i bobl ifanc gerdded neu feicio? Ac rydym mewn argyfwng hinsawdd, ond unwaith eto, rydym yn rhoi economeg o flaen yr amgylchedd. Er mwyn arbed costau, rydym yn gorfodi mwy a mwy o bobl ifanc i ddibynnu ar gludiant cerbydau, yn hytrach na theithio llesol sy'n ystyriol o'r blaned. Pa neges y mae hynny'n ei rhoi i genedlaethau'r dyfodol?
Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y gwelliannau a gyflwynwyd ac i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr iawn.
[Anghlywadwy.] Mae'n ddrwg gen i. Roeddwn i'n siarad ffwl-pelt, ond roeddwn i ar miwt ar y pwynt yna. Felly, jest i ddweud bod yna ddau welliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg, felly, yn ffurfiol i gynnig gwelliant 1.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cyfle i ddysgu yn yr amgylcheddau dysgu gorau.
2. Yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol ac am ddewis model dysgu priodol ar gyfer ardal benodol.
3. Yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol, wrth wneud newidiadau mawr i ysgolion, gan gynnwys cau ysgolion, gydymffurfio â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac ystyried ystod o ffactorau – yn bennaf oll, buddiannau dysgwyr.
4. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn ystâd ysgolion a cholegau, ac yn parhau i wneud hynny drwy ei Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif;
b) am fuddsoddi mwy na £300 miliwn yn ein hysgolion a’n colegau eleni; y gwariant blynyddol uchaf ers cychwyn y rhaglen;
c) yn craffu ar y buddsoddiad yn y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif i sicrhau bod dulliau teithio llesol yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth newydd; a
d) yn adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sy’n pennu’r amodau ar gyfer awdurdodau lleol o ran y gofyniad i ddarparu dull teithio i ddysgwyr rhwng y cartref a’r ysgol, i sicrhau ei fod yn parhau yn addas i’r diben.
Diolch. Fe wnaethoch i mi boeni braidd am funud, Lywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Diolch. Dwi'n galw ar Suzy Davies, felly, nawr, i gyflwyno gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood.
Gwelliant 2—Mark Isherwood
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi terfyn ar danariannu disgyblion yng Nghymru;
b) darparu cyllid teg i awdurdodau lleol i ddiogelu ysgolion gwledig;
c) cyflwyno prosiectau yng ngham B Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif i ddechrau ailadeiladu Cymru;
d) sicrhau bod pob ysgol newydd yn cael ei chynllunio mewn ffordd sy'n ymwybodol o anabledd;
e) gwrthsefyll creu ysgolion mawr iawn a sicrhau nad oes unrhyw ysgol yn cael ei chau yn erbyn dymuniadau'r gymuned;
f) sicrhau na all awdurdodau addysg lleol ddefnyddio diffyg buddsoddiad fel esgus i gau ysgolion lleol; a
g) cynnal archwiliad ledled Cymru o gyflwr yr ystâd bresennol ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Diolch, Lywydd. Nid fûm erioed mewn ysgol a gafodd ei huno, fel Caroline Jones, ond bûm mewn rhai a gafodd eu llosgi, ac mae hynny'n sicr yn ffordd o gael ysgol newydd—nid fy mod yn ei hargymell, wrth gwrs.
A gaf fi ddiolch i grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio am gyflwyno'r ddadl heddiw? Fel y gwelwch o'n gwelliant ein hunain, rydym yn cytuno â chryn dipyn o'r cynnig, ac mewn gwirionedd, dim ond 3(c) o'r cynnig sy'n peri trafferth i ni. Rwyf am ddweud o'r cychwyn ein bod yn gefnogol iawn i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond mae gennym ni, fel y grŵp hwn, rai cwestiynau ynglŷn â'r modd y caiff ei gweithredu mewn rhai achosion. Hoffwn ddweud fy mod yn credu bod y gofyniad na ddylai disgyblion deithio mwy na 15 munud yn freuddwyd gwrach mewn rhannau o'r Gymru wledig heddiw, heb sôn am y dyfodol. Ond rwy'n credu y dylem edrych ar y profiad hwnnw i sicrhau nad yw ei anfanteision yn cael eu hailadrodd mewn ardaloedd mwy poblog.
Rwyf finnau'n rhannu drwgdybiaeth Caroline ynglŷn â sut y gellir defnyddio ceisiadau i'r rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain fel ymateb i gyllid cynnal a chadw annigonol i gynghorau, a hyd yn oed agendâu eraill, megis starfio darpariaeth chweched dosbarth. Gwelsom rywbeth tebyg i hynny gyda Sant Joseff ym Mhort Talbot—ysgol ffydd a oedd wedi cadw ei chweched dosbarth mewn bwrdeistref lle câi'r holl addysg Saesneg ôl-16 arall ei darparu mewn colegau addysg bellach.
Mae cymunedau a'u hanghenion yn newid oherwydd datblygiadau preswyl a'r ymgyrch dros fwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, felly mae angen ysgolion newydd wedi'u lleoli'n strategol, ond mae hynny'n effeithio ar gyllidebau awdurdodau lleol mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, ceir temtasiwn i adael i rannau mwy anodd o'r ystâd bydru'n araf, sy'n golygu lleihau costau cynnal a chadw, oherwydd mae ased cyfalaf newydd a ariennir yn rhannol yn swnio fel tipyn o wobr. Ac yna, yn ail, gall 22 awdurdod lleol sy'n ceisio cynllunio ar gyfer eu hôl troed eu hunain, ni waeth beth fo'r ymdrechion i gydweithio, ysgogi ymddygiad andwyol ac atal penderfyniadau mwy strategol ac effeithlon. Rwy'n meddwl yn benodol eto am gwm Afan, lle'r arweiniodd ad-drefnu at greu ysgol gynradd o 400 o ddisgyblion, a hynny heb fod mewn adeilad newydd hyd yn oed.
Nid oes amheuaeth y gall adeilad modern sydd wedi'i gynllunio'n dda gynorthwyo dysgu. Mae'n ddigon posibl y bydd dysgu cyfunol yn ystyriaeth ar gyfer cynllunio yn y dyfodol, ond mae'n rhaid i chi allu fforddio'r athrawon hefyd. Bydd yr Aelodau wedi clywed y Ceidwadwyr Cymreig yn galw droeon ar y Llywodraeth i wynebu'r her o ddiwygio cyllid. Gan fynd yn ôl at gynllunio a phwynt (d) ein gwelliant, rwy'n sylweddoli y dylai hygyrchedd fod yn rhan o gynllunio eisoes, ond tybed a yw rhai o'r atria gyda'r nenfydau uchel a welwn yn yr ysgolion newydd hyn mor wych â hynny i blant byddar. Ar bwynt gwahanol, darpariaeth toiledau—faint o feddwl a roddir i breifatrwydd ac urddas a nifer yr unedau, yn enwedig i ferched? 'Na' mawr i doiledau dirywedd fel mater o drefn.
Mae lleoliad yn cyfrif lawn cymaint â chynllun. Mae ysgol fawr Bae Baglan yn adeilad gogoneddus, ond bydd David Rees yn cofio'n dda y llwybr cerdded ofnadwy hwnnw i'r ysgol newydd o Gwrt Sart, nad oedd yn unrhyw fath o gymhelliad i deithio llesol. Ac yn olaf, ysgolion cyfrwng Cymraeg—maent yn aml yn cael eu gadael i feddiannu adeiladau llawer uwch eu cost, naill ai adeiladau o droad y ganrif neu rai sy'n syrthio'n ddarnau, fel Ysgol y Ferch o'r Sgêr yng Nghorneli yn fy rhanbarth i. Mae hynny'n ddatgymhelliad i deuluoedd sy'n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg ac mae'n haeddu sylw blaenoriaethol yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Diolch, Lywydd.
Dwi'n ofni bod y cynnig a gwelliant y Ceidwadwyr yn cymryd rhai materion yn ganiataol, heb dystiolaeth i gefnogi hynny. Mae yna nifer o ysgolion mawr yn fy etholaeth i sydd yn cynnig addysg ardderchog i'r disgyblion. Mae yna nifer o ysgolion bach yn fy etholaeth i sydd hefyd yn darparu addysg ardderchog i'r disgyblion. Mae'n wir hefyd bod maint ysgol yn gallu cael effaith negyddol neu effaith gadarnhaol ar ansawdd addysg. Dwi wedi gweld ysgolion mawr yn cael eu trefnu mewn ffordd effeithiol iawn, yn creu gofodau bychain ac yn hyblyg yn y ffordd y mae sgiliau eu staff yn cael eu defnyddio yn llawn er lles disgyblion. Dwi wedi gweld ysgolion bach yn gwneud gwaith ardderchog er gwaethaf y problemau a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu. Mae yna lawer iawn o ffactorau yn effeithio ar ansawdd addysg, ac mi fyddwn i'n dadlau bod athrawon ardderchog sy'n ysbrydoli disgyblion ac yn codi eu disgwyliadau yn ffactor hollbwysig. Mae hynny'n gallu digwydd mewn ysgolion mawr a bach fel ei gilydd.
Dwi'n mynd i droi rŵan at fater arall sy'n cael sylw yn y cynnig, sef y daith o'r cartref i'r ysgol. Mae gwelliant y Llywodraeth yn crybwyll bod yna adolygiad yn digwydd o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mae adran 10 y Mesur teithio yn cynnwys dyletswydd gyffredinol fod yn rhaid i bob awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru hybu mynediad at addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg pan fyddan nhw'n arfer swyddogaethau o dan y Mesur. Yn y ddogfen ganllaw a gyhoeddwyd yn 2014, mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod angen i awdurdodau lleol weithredu eu dyletswydd i hybu addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg wrth benderfynu ar yr ysgol agosaf addas. Ond, mae'r awgrym bod yr ysgol agosaf yn gallu bod yn addas, er nad ydy hi'n darparu'r cyfrwng iaith o ddewis, yn gyfeiliornus, ac yn deillio o'r ffaith bod y cysyniad o 'ysgol addas' yn cael ei ddiffinio yn gul yn y Mesur, mewn ffordd sydd ddim yn cyfeirio o gwbl at addasrwydd o ran cyfrwng iaith yr addysg sy'n cael ei darparu. Mae hwn yn ymddangos fel gwendid sylfaenol wrth geisio pennu'r dyletswyddau sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth. Felly, mae angen i unrhyw adolygiad sydd yn digwydd gymryd ystyriaeth lawn o hynny, a hefyd o'r dyfarniadau llys diweddar ynglŷn ag addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Rhondda Cynon Taf.
Dwi'n nodi bod cwmpas gwreiddiol yr adolygiad yma wedi cael ei ehangu bellach i gynnwys y grŵp oedran 4 i 16 mlwydd oed yn ogystal ag ôl-16, felly mae yna gyfle yn y fan hyn i wneud gwahaniaeth. Mae'n debyg, erbyn hyn, mai mater i'r Senedd nesaf fydd unrhyw newidiadau yn deillio o'r adolygiad, ac mae hi yn siomedig na fu cynnydd ar hyn y tymor yma. Felly, diolch yn fawr am y cyfle i gynnig y sylwadau yna, ac er ein bod ni yn cytuno efo elfennau o'r cynnig a'r gwelliannau, mae yna elfennau ynddyn nhw i gyd na fedrwn ni ddim eu cefnogi hefyd, ac felly mi fyddwn ni'n pleidleisio yn eu herbyn nhw heddiw. Diolch, Llywydd.
Dwi'n galw nawr ar y Gweinidog Addysg i gyfrannu at y ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain yw'r buddsoddiad mwyaf yn ein hystâd addysg ers y 1960au, ar ôl gweld buddsoddiad o £1.5 biliwn eisoes i wella'r amgylchedd dysgu i'n plant a'n pobl ifanc. Ac ers ei lansio yn 2014, fe'i gwelwyd yn cyflawni 170 o brosiectau newydd neu brosiectau adnewyddu o dan y don gyntaf o fuddsoddiad, ac mae 200 o brosiectau eraill wedi'u cynnig o dan yr ail don o fuddsoddiad, a ddechreuodd yn 2019. Yn wir, y flwyddyn ariannol hon—2020-21—o dan yr amgylchiadau anoddaf, gwelwn y gwariant blynyddol uchaf hyd yma o dan y rhaglen, sef bron i £300 miliwn o fuddsoddiad yn ein hysgolion a'n colegau.
A gaf fi ddechrau drwy groesawu'r pwyntiau a wnaeth Siân Gwenllian am ragoriaeth ym mhob math o ysgol—ysgolion bach, ysgolion mawr, cynradd, uwchradd ac yn ein hysgolion pob oed? A'r arweinyddiaeth honno ac addysgu rhagorol sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Ond byddwn yn dadlau bod gallu gwneud hynny mewn adeilad sy'n addas i'r diben hefyd yn bwysig iawn, ac yn anfon neges glir iawn i'n hathrawon a'n plant fod eu haddysg a'r gwaith sy'n digwydd yn yr adeiladau hynny yn eithriadol o bwysig i ni.
Nawr, nododd Caroline Jones fater cyllidebau cynnal a chadw awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion. A gaf fi ddweud, Caroline, uwchlaw a thu hwnt i raglen yr unfed ganrif ar hugain, bob blwyddyn y bûm yn Weinidog Addysg, rydym wedi gallu rhoi gwerth miliynau o bunnoedd o arian cynnal a chadw ychwanegol i awdurdodau lleol ledled Cymru allu cefnogi eu hysgolion? Yn wir, ddydd Llun yr wythnos hon yn unig, cyhoeddais fuddsoddiad o £50 miliwn i'w rannu rhwng awdurdodau lleol Cymru ar gyfer yr union ddiben hwn, sef cynnal a chadw ysgolion.
Nawr, mae llwyddiant rhaglen yr unfed ganrif ar hugain yn adlewyrchiad o'r gwaith partneriaeth sy'n allweddol i'w gyflawniad, ac mae'n bwysig fod ein rhanddeiliaid allweddol, awdurdodau lleol a cholegau yn strategol yn eu buddsoddiad, ac yn darparu'r ysgolion a'r colegau cywir yn y mannau cywir i ddiwallu anghenion cymunedol lleol. Ac mae'n bwysig fod y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud er budd cymunedau lleol, a dyna pam nad ydym wedi bod yn rhagnodol, gan y gall modelau darparu ysgolion amrywio o un gymuned i'r llall. Fel y gwyddoch yn iawn, awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd mewn ysgolion i sicrhau bod gan eu plant a'u pobl ifanc yr amgylchedd gorau posibl i ddysgu ynddo, a bydd pob un o'r penderfyniadau'n unigryw i'r cymunedau hynny, a chredaf mai ein awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall beth sy'n gweddu i anghenion eu dysgwyr.
Mae'r cod trefniadaeth ysgolion yn gosod safon uchel ar gyfer ymgynghori os oes newidiadau i'r patrwm darparu, ac mae gan bawb sydd â diddordeb gyfle i sicrhau bod eu barn yn hysbys ac yn cael ei chlywed, ac iddi gael eu hystyried pan argymhellir unrhyw newidiadau mawr i ysgolion. Mae'r cod yn sicrhau bod ystod o ffactorau'n cael eu hystyried, a buddiannau dysgwyr yn flaenaf yn eu plith, ond mae pellter teithio hefyd yn ffactor. Gwn fod yr Aelodau wedi mynegi pryderon fod rhai awdurdodau lleol yn cynnal ymgynghoriadau o dan y cod trefniadaeth ysgolion yn ystod y pandemig hwn, a hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at ganllawiau ychwanegol a gynhyrchwyd gennym i awdurdodau lleol ar sut y dylent fynd ati i gynnal ymgynghoriadau o'r fath yn ystod y pandemig hwn.
Nododd Siân Gwenllian fater y Mesur teithio gan ddysgwyr, ac mae'n iawn i dynnu sylw at yr adolygiad. Mae'n nodi mater diddorol o ran yr hyn a ystyrir yn ysgol addas a sut na chaiff iaith ei nodi yn yr adrannau penodol hynny. A gaf fi ddweud, roeddwn yn ddigon ffodus i fod ar y pwyllgor a edrychodd ar y Mesur hwnnw pan ddaeth gerbron y Cynulliad ar y pryd? Rwy'n credu bod y Dirprwy Lywydd ar y pwyllgor gyda mi bryd hynny, ac rwy'n siŵr y gallai'r Dirprwy Lywydd gadarnhau bod y mater hwn wedi'i drafod yn helaeth fel dull posibl o weithredu ond fe'i gwrthodwyd gan y Gweinidog ar y pryd, Ieuan Wyn Jones, fel rhywbeth amhriodol, ond mae'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn rhoi cyfle i ni ailedrych ar y penderfyniadau hynny.
Nawr, mae cod trefniadaeth ysgolion nid yn unig yn cydnabod y potensial ar gyfer cau ysgolion ond ar gyfer y sefyllfaoedd lle dylai ysgolion aros ar agor, ac mewn rhai amgylchiadau, mae'n fwy priodol i ysgolion presennol gael eu hadnewyddu, eu hailfodelu neu eu hymestyn, ac mae'r holl bethau hynny'n bosibl o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fy mod wedi rhoi trefniadau arbennig ar waith, pan gaiff ysgolion gwledig eu hystyried, i sicrhau bod y penderfyniadau gorau'n cael eu gwneud ar gyfer dysgwyr yn y lleoliadau hynny.
Er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno rhaglen yr unfed ganrif ar hugain, rydym hefyd wedi ymgorffori ffrydiau sy'n edrych ar gyfleusterau gofal plant, darpariaeth cyfrwng Cymraeg—ac mae Suzy Davies yn gywir: pan feddyliaf am hanes datblygu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn nhref Aberhonddu, cawsant eu symud i ysgol a oedd wedi'i barnu'n anaddas ac wedi'i gadael gan y disgyblion cyfrwng Saesneg, a dyna lle roeddent. Nawr, yn ffodus, mae ganddynt adeilad newydd, ac yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog, rydym wedi darparu cyllid cyfalaf o 100 y cant i awdurdodau lleol adeiladu mwy o leoedd cyfrwng Cymraeg. Roedd mwy o alw nag y gellid darparu ar ei gyfer am y gronfa honno, ac rwy'n ystyried a allwn ddarparu cymorth pellach o'r math hwn i gefnogi ein nod i sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae gennym hefyd ffrwd sydd wedi ceisio lleihau maint dosbarthiadau babanod a chefnogi addysg ffydd, a lle bo'n bosibl, cefnogi datblygiad canolfannau cymunedol ar safleoedd ysgolion. Ni cheir un model ariannu sy'n addas i bawb, felly mae gennym amrywiaeth o ffyrdd o gefnogi datblygiadau.
Rydym eisoes wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae ysgolion cynradd ac uwchradd newydd ac wedi'u hadnewyddu wedi'i chael ar ddysgwyr, gan wella eu profiad dysgu yn fawr. Ac rydym hefyd wedi gweld bod ysgolion pob oed yn fuddiol mewn rhai lleoliadau cymunedol, gan ganiatáu ar gyfer un tîm arwain a rheoli, i ddarparu mwy o gysondeb dysgu ac addysgu, a mwy o barhad ac agosrwydd i'r dysgwr. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod angen canllawiau polisi i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch creu ysgolion pob oed, a'r agweddau ar addysgeg sy'n gysylltiedig â hwy, sef llesiant ac arweinyddiaeth. Mae angen ystyried, cydnabod a chefnogi'r holl bethau hynny'n ofalus, a dyna pam rydym yn cefnogi'r rhwydwaith ysgolion pob oed i gyflawni ymchwil mewn ysgolion, ac wedi gwneud hynny ers 2019, ac arolwg thematig gan Estyn o ysgolion pob oed i ganolbwyntio ar fanteision a heriau'r model oedran hwnnw. Felly, nid ydym yn bwrw yn ein blaenau'n ddall; mae'r rhain yn fodelau newydd diddorol sy'n cael eu datblygu gan awdurdodau lleol o bob lliw gwleidyddol yng Nghymru, ac rydym yn gweithio gyda hwy i gael ymchwil, i ddeall manteision a heriau modelau o'r fath.
Gan fy mod yn cynrychioli etholaeth wledig, rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith y mae teithiau hir yn ei chael ar ein plant a'n disgyblion, ond am amryw o resymau, nid ystyrir bod cyflwyno terfyn uchaf ar amser teithio yn arbennig o ymarferol, fel yr awgrymodd Suzy Davies. Mae'n annhebygol iawn y bydd yr hyn a allai fod yn amser teithio damcaniaethol priodol mewn un awdurdod lleol yn berthnasol i bawb. Mae buddsoddi mewn ysgolion yn ymwneud â mwy na darparu adeiladau'n unig; mae'n ymwneud â'u gwneud yn addas i'r diben o ddarparu'r amgylchedd dysgu gorau, ac rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae buddsoddiad hyd yma wedi gwella cyfleusterau ac wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgu, addysgu a diwallu anghenion cymunedau lleol. Ac rwy'n falch iawn fod y dull partneriaeth, gyda'n hawdurdodau lleol a chyda'n colegau, yn gweithio'n dda ac yn rhoi hyblygrwydd iddynt nodi'r atebion dysgu gorau ar gyfer eu hardaloedd hwy. Ond diolch yn fawr am y cyfle i ddathlu llwyddiant rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Diolch yn fawr.
Dwi'n galw nawr ar David Rowlands i ymateb i'r ddadl.
Ie, diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Ond fel bob amser, anwybyddir y dadleuon a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Caroline Jones i raddau helaeth. Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i economi ddi-garbon yng Nghymru a bod teithio llesol i chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni eu nodau, ond bydd polisi o ganoli ysgolion, fel y nododd Caroline Jones, bron yn ddi-os yn negyddu gallu ein plant ysgol i gymryd rhan naill ai mewn cerdded neu feicio i'r ysgol. Rydym nid yn unig yn canoli ein hysgolion, rydym yn canoli rhannau o ysgolion, gyda chyflwyno colegau chweched dosbarth—polisi a wrthwynebir yn chwyrn gan lawer o'r gymuned addysgu. Ymhlith pethau eraill, mae'n dileu'r elfen hanfodol a gyflwynir yn aml i amgylchedd yr ysgol wrth i ddisgyblion chweched dosbarth weithredu fel modelau rôl. Unwaith eto, mae'n gwbl groes i egwyddorion amgylcheddol polisi Llywodraeth. Yn fy etholaeth i, sef Torfaen, gwelsom sefydlu coleg chweched dosbarth yng Nghwmbrân, a fynychir gan ddisgyblion o drefi fel Blaenafon, tua 10 milltir i ffwrdd yng ngogledd y fwrdeistref. Ceir ansicrwydd ychwanegol y gallai tywydd garw ym misoedd y gaeaf amharu'n sylweddol ar bresenoldeb yn yr ysgol. Mae Blaenafon yng ngogledd y sir yn cael llawer mwy o eira na de Torfaen.
Ydy, mae'n wir dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwario llawer iawn o arian ar wella llawer o'r ysgolion ledled Cymru. Fodd bynnag, byddwn yn cwestiynu a yw'r arian hwnnw wedi'i wario'n ddoeth. Fel y mae Caroline wedi awgrymu, mae symud i sefydliadau addysgu mawr—mawr iawn—yn golygu bod ein plant ysgol yn colli'r rhyngweithio personol â'u hathrawon, a hyd yn oed â'u cyd-ddisgyblion. Nid yw ysgolion o 1,200 o ddisgyblion neu fwy yn ddim llai na sefydliadau dysgu batri, lle nad yw athrawon yn adnabod ei gilydd, heb sôn am eu disgyblion. Mae bron bob ysgol fawr yn Nhorfaen yn methu yn ôl safonau Estyn, gyda'r rhan fwyaf mewn mesurau arbennig. Mae bwlio yn broblem ddifrifol yn yr ysgolion hyn, gan achosi trallod i filoedd o'n plant ysgol. Mae'n bryd atal y newid i'r mega-ysgolion hyn a chanolbwyntio ar unedau llai, mwy personol lle gall y berthynas rhwng disgybl ac athro feithrin ymddiriedaeth yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth. Diolch, Lywydd.
Diolch. Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar y cynnig yma tan y cyfnod pleidleisio.
Ac rŷn ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac felly fe gymerwn ni doriad byr ar gyfer paratoi ar gyfer y bleidlais. Diolch yn fawr.