– Senedd Cymru am 3:24 pm ar 3 Mawrth 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gyflwyno'r cynnig hynny. Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddechrau, efallai, drwy chwalu ychydig o fythau. Nid yw Plaid Cymru o blaid derbyn y status quo ar ansawdd dŵr. Rydym yn cefnogi camau gweithredu a rheoliadau cryfach ar lygredd. Felly, mae unrhyw un sydd am ddisgrifio'r ddadl hon mewn ffordd sy'n awgrymu fel arall yn camarwain pobl yn fwriadol. Rydym yn llwyr gefnogi'r angen i fynd i'r afael â llygredd dŵr, ac rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rheoliadau i wneud hynny. Y broblem yma, serch hynny wrth gwrs, yw nad y rheoliadau hyn a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yw'r ateb cywir.
Mae'r rheoliadau hyn yn anghymesur. Cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru—cyngor yr arbenigwyr, wrth gwrs—i Lywodraeth Cymru oedd dynodi 8 y cant o Gymru yn barth perygl nitradau. Mae'r Llywodraeth wedi anwybyddu hynny ac wedi mynd am ffigur o 100 y cant. Pam fod hynny'n broblemus? Wel, am eich bod yn cosbi pawb, y diwydiant cyfan, gyda’r gofyniad i ffermydd ym mhob rhan o Gymru, hyd yn oed y rhai nad ydynt wedi torri unrhyw reolau, mewn dalgylchoedd nad ydynt efallai wedi cael unrhyw ddigwyddiadau llygredd, dalu degau o filoedd o bunnoedd, arian nad yw ganddynt mewn gwirionedd, ar seilwaith nad yw, i rai, yn angenrheidiol pan edrychwch ar y dystiolaeth.
Bydd canlyniadau amgylcheddol anfwriadol hefyd wrth gwrs. Mae defnyddio dyddiadau’r calendr yn hytrach nag amodau tywydd i bennu pryd y gellir gwasgaru slyri yn hurt. Mynegodd y Gweinidog ei hun bryder ynghylch y dull hwn ychydig fisoedd yn ôl pan ofynnais iddi amdano. Ac mae eraill, fel yr amgylcheddwr amlwg Tony Juniper, sy'n cadeirio Natural England—mae wedi dweud nad yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae'n gynnig afresymol a fydd yn achosi cynnydd enfawr mewn nitradau ar adegau penodol o'r flwyddyn, a allai wedyn, wrth gwrs, arwain at broblemau llygredd newydd mewn ardaloedd lle nad oes problemau ar hyn o bryd.
Yn ôl amcangyfrifon y Llywodraeth ei hun, bydd y costau cyfalaf ymlaen llaw i’r diwydiant ffermio allu cydymffurfio â'r rheoliadau hyn rywle rhwng £109 miliwn a £360 miliwn. Mae'r £360 miliwn hwnnw £30 miliwn yn fwy na chyfanswm cyllideb polisi amaethyddol cyffredin blynyddol Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Mae hyd yn oed amcangyfrif isaf Llywodraeth Cymru yn nodi y byddai’r gost i ffermydd Cymru yn 42 y cant o gyfanswm incwm ffermio Cymru yn 2019. Mae llawer o ffermydd eisoes yn gweithredu ar y nesaf peth i ddim, a bydd hyn yn eu gwthio dros y dibyn. Mae colli'r ffermydd hyn yn golygu colli rhywfaint o'n capasiti cynhyrchu bwyd wrth gwrs, sy'n golygu lefelau uwch o fewnforio bwyd, gyda chost amgylcheddol bellach ynghlwm wrth hynny. Dywed un prosesydd llaeth fod eu dadansoddiad yn dangos y bydd traean o’u ffermydd llaeth o bosibl yn rhoi’r gorau i gynhyrchu. Bydd colli'r ffermydd teuluol bach a chanolig hynny’n golygu twf yn nifer yr unedau ffermio mawr, gan arwain at fwy o ffermio llaeth ar raddfa ddiwydiannol. Sawl gwaith y mae'r Aelodau yn y Senedd hon wedi dadlau yn erbyn hynny?
Wrth gwrs, nid ffermwyr yn unig fydd yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i gydymffurfio â’r rheoliadau hyn; mae 1,000 o ffermydd cyngor yng Nghymru, a bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ddod o hyd i hyd at £36 miliwn i dalu am y seilwaith newydd angenrheidiol. Ddoe ddiwethaf, bu’n rhaid i gyllideb y Llywodraeth ddod o hyd i fwy o arian ar gyfer cronfa galedi’r awdurdodau lleol. A yw cynghorau mewn difrif yn mynd i allu dod o hyd i ddegau o filiynau o bunnoedd o arian ychwanegol, pan fo'r Llywodraeth eisoes yn gorfod camu i mewn i dalu am wasanaethau craidd? Felly, gwyddom beth fydd yn digwydd; bydd mwy o ffermydd cyngor yn cael eu gwerthu, gan leihau ymhellach y cyfle i bobl ifanc a newydd-ddyfodiaid ddechrau ffermio.
Nid yw dynodi Cymru gyfan yn barth perygl nitradau yn ateb syml. Mae adroddiad monitro gan CNC wedi dangos mai dau yn unig o 11 o safleoedd parthau perygl nitradau dynodedig sydd wedi dangos gwelliant mewn lefelau llygredd. Ac mae tystiolaeth o wledydd eraill yn gymysg, a dweud y lleiaf. Mae 100 y cant o Ogledd Iwerddon wedi bod yn barth perygl nitradau ers degawd, ond hyd yn oed heddiw, mae ansawdd eu dŵr yn salach na’n dŵr ni. Felly, y cwestiwn y dylem fod yn ei ofyn i'n hunain yma yw pam fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu rheoliadau yma nad ydynt yn cyflawni canlyniadau yn rhywle arall, yn enwedig pan wyddom fod dulliau eraill yn cael effaith gadarnhaol. Un cynllun o'r fath yw cynllun y faner las. Roedd y Gweinidog yn ymwybodol ohono sawl blwyddyn yn ôl, ond mae bellach, yn hwyr iawn, yn dangos diddordeb. Mae'r rhaglen honno wedi bod ar waith ers pum mlynedd. Mae wedi llwyddo i leihau, ar gyfartaledd, dros 1 dunnell y fferm o'r nitradau sy'n gadael ffermydd y rheini sy'n rhan o'r cynllun, ac mae hynny'n llawer gwell na gwaith modelu‘r parthau perygl nitradau, sy’n nodi y gellid sicrhau gostyngiad o 10 y cant yn lefel y nitradau. Pam y mae Llywodraeth Cymru yn bodloni ar ddull torri a gludo yma mewn perthynas â pharthau perygl nitradau, yn hytrach nag adeiladu ateb a wnaed yng Nghymru, wedi'i deilwra ar gyfer ein hamgylchiadau ein hunain?
Gwyddom fod cyfreithwyr NFU Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ddoe, yn nodi eu pryderon ynghylch cyfreithlondeb y penderfyniad i gyflwyno'r rheoliadau hyn. Yn amlwg, nid wyf yn disgwyl i'r Gweinidog wneud sylwadau ar hynny am resymau cyfreithiol, ond credaf ei fod yn rhoi rheswm arall i Lywodraeth Cymru gymryd cam yn ôl ac ailedrych ar ei chynigion. Er mwyn sicrhau mwy o gonsensws a deddfwriaeth fwy effeithiol ar y mater pwysig hwn, credaf y dylai'r rheoliadau hyn, am y tro, gael eu tynnu'n ôl gan y Llywodraeth neu eu dirymu gan y Senedd. Os bydd hyn yn digwydd, rwy’n addo amser ac ymrwymiad fy mhlaid i weithio gyda’r Llywodraeth ar gyflwyno set fwy soffistigedig o reoliadau wedi’u targedu cyn diwedd y flwyddyn. Mae pob un ohonom eisiau mynd i'r afael â llygredd dŵr. Mae pob un ohonom eisiau mynd i’r afael â phroblem y mae angen mynd i’r afael â hi unwaith ac am byth, ac mae angen inni reoleiddio er mwyn gwneud hynny. Ond nid y set benodol hon o reoliadau sydd ger ein bron heddiw, am y rhesymau rwyf wedi'u hamlinellu, yw'r ffordd orau o gyflawni hynny, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy nghynnig. Diolch.
Diolch. Galwaf ar Mick Antoniw, fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Mick Antoniw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 22 Chwefror 2021, ac wrth wneud hynny nodwyd bod y cynnig a drafodir heddiw eisoes wedi'i gyflwyno. Un pwynt teilyngdod a gynhwyswyd yn ein hadroddiad, ac fe amlinellaf hwnnw'n fyr ar gyfer yr Aelodau.
Mae rheoliad 30 o'r rheoliadau yn galluogi Corff Adnoddau Naturiol Cymru i gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson wneud gwaith neu gymryd rhagofalon neu gamau eraill, fel a bennir yn yr hysbysiad. Gellir apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn hysbysiadau rheoliad 30. Pan wneir apêl o'r fath, mae rheoliad 31(6) yn datgan bod y cyfnod cydymffurfio yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru, a gall cyfarwyddyd o'r fath gynnwys estyniad i'r cyfnod hwnnw.
Credwn fod hyn yn bwysig oherwydd, pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod angen gwaith, rhagofalon neu gamau eraill, mae'n ymddangos bod amgylchiadau lle mae'n ofynnol i apelyddion gymryd camau o'r fath ar yr un diwrnod ag y daw canlyniad eu hapêl yn hysbys. Gall hyn olygu nad yw apelwyr yn gallu cydymffurfio â'r penderfyniad mewn pryd. Os yw ein hasesiad yn gywir, mae'r pŵer i Weinidogion Cymru ymestyn y cyfnod cydymffurfio yn bwysig er mwyn lleihau'r risg y bydd hyn yn digwydd.
Gofynasom i Lywodraeth Cymru ymateb i'n hasesiad. Mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau, wrth benderfynu a ddylent arfer eu pŵer i arfer disgresiwn ai peidio, y bydd Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig i'w dyletswydd cyfraith gyhoeddus i weithredu'n rhesymol. Mae ymateb y Llywodraeth i'n hadroddiad hefyd yn nodi bod y mecanwaith yn darparu amddiffyniad digonol i apelyddion rhag gorfod gwneud gwaith neu weithredu o fewn amserlen annigonol pan ddaw canlyniad eu hapêl yn hysbys. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch i fy nghyd-Aelod, Llyr Gruffydd, am gyflwyno'r cynnig hwn i ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn dadl y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos diwethaf, ac mae'n deg dweud bod y bleidlais yn y ddadl honno'n agos iawn wir. Nawr, Weinidog, rwyf wedi gofyn i chi, rydym wedi dadlau, rydym wedi trafod, yn y Siambr ac yn y pwyllgor. Rydym wedi gofyn i chi wneud yn union yr hyn y mae Llyr Gruffydd wedi'i ddweud—naill ai dirymu, neu i ddod i gasgliadau eraill yn sicr, a pheidio â chosbi ein ffermwyr fel hyn.
Nawr, fel y dywedoch chi wrthyf yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig fis diwethaf, yr hyn y mae'n rhaid ichi ei ddeall yw bod llawer iawn o ffermwyr nad ydynt yn llygru. Felly, sut rydych yn credu y mae'r nifer fawr o ffermwyr hynny bellach yn teimlo, gan wybod eich bod: un, yn eu cosbi gyda rheoliadau nad ydynt yn gymesur; dau, yn cynnig cyn lleied â 3.6 y cant o'r arian sydd ei angen i dalu'r costau cyfalaf ymlaen llaw; tri, yn eu gwthio i sefyllfa lle gallent fod yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar gollfarn, ar dditiad i ddirwy? Pam eich bod wedi dewis peidio ag ymateb i argymhellion is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol, gan gynnwys 4.4, sy'n galw'n benodol am archwilio'r dulliau mwyaf effeithiol o reoli maethynnau, cynllunio ar raddfa fawr a chyflymder, a 4.11, sy'n galw am adolygiad o gyllid?
Mae gweithredu cyfarwyddeb nitradau 30 mlwydd oed yr Undeb Ewropeaidd, er gwaethaf Brexit, yn ddiangen ac yn gwbl annerbyniol. Dengys tystiolaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru y dylai arwynebedd y tir fod yn 8 y cant, nid 100 y cant. Addawodd is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru weithio ar nodi cynhyrchion sy'n bodoli eisoes a allai helpu i leihau llygredd, megis weed wipers, rheoli porthiant manwl, sgwrwyr, systemau rinsio clyfar, systemau amsugno, gwahanyddion slyri mewn cafnau caeau, ffensys glannau afon a gwelyau cyrs—pob mesur rhesymol y gellid ei gymryd yn lle hynny. Gallech fod yn cefnogi dull y faner las, sef dull partneriaeth o dan arweiniad ffermwyr, ac ymateb i'r fframwaith dŵr drafft a'r safon dŵr, a rannwyd gyda chi ym mis Mawrth 2020.
Yn ôl y memorandwm esboniadol, mae potensial am effaith negyddol ar les meddyliol ein ffermwyr. Maent yn wynebu anobaith ynghylch hyfywedd hirdymor eu busnesau, eu cartrefi teuluol, a'n cyflenwad bwyd. Mae pryderon iechyd meddwl yn y sector yn cynyddu'n gyflym, felly pam rydych yn cyflwyno'r rheoliadau er gwaethaf y rhybudd iechyd meddwl yn eich memorandwm esboniadol eich hun? Mae Caws Glanbia wedi tynnu sylw at bryderon difrifol am effaith y rheoliadau ar ddiogelwch y cyflenwad llaeth yng Nghymru. Mae cyfreithwyr Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi nodi eu pryderon ynghylch cyfreithlondeb y penderfyniad hwn. Dylai pawb ohonom bleidleisio o blaid dirymu heddiw, Aelodau, gan fod y rheoliadau'n debygol o niweidio ffermydd Cymru a llesiant cymunedau. Does bosibl mai fi yw'r unig Aelod o'r Senedd sydd wedi cael cannoedd a channoedd o negeseuon e-bost gofidus oddi wrth ein cymuned ffermio. Hoffwn ofyn ichi wrando arnynt hwy y tro hwn, pob un o'ch etholwyr, gwrandewch arnynt. Weinidog, rwy'n dweud wrthych, fel y dywedais yr wythnos diwethaf: mae'n cymryd person mawr i ddweud, 'Wyddoch chi beth? Roeddwn i'n anghywir ynglŷn â hyn.' Yn wir, rydych chi yn anghywir—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Iawn. Rydych chi'n anghywir. Gwrth-drowch y penderfyniad hwn heddiw. Diolch.
Byddaf fi a fy ngrŵp yn cefnogi cynnig Plaid Cymru. Yn ystod fy mhum mlynedd fel Aelod o'r Senedd, nid wyf erioed wedi cael cynifer o negeseuon e-bost ar unrhyw bwnc. Nid yn unig fod y gohebwyr yn erbyn y mesurau hyn, roeddent yn daer iawn am eu dirymu, oherwydd roeddent yn poeni beth fyddai'n digwydd i'w bywoliaeth pe baent yn dod yn gyfraith.
Bydd llawer o fy nghyfraniad i'r ddadl hon yn dyblygu'r ffeithiau, y ffigurau a'r dadleuon a gyflwynwyd gennyf yn nadl y Ceidwadwyr yr wythnos diwethaf, ond nid wyf yn ymddiheuro am hynny oherwydd mae pob un ohonynt yn haeddu cael eu hailadrodd. Unwaith eto, mae'r diwydiant ffermio cyfan yng Nghymru, undebau, sefydliadau a ffermwyr eu hunain, yn credu bod y rheoliadau hyn, sy'n gweithredu set gyffredinol o reoliadau slyri ar gyfer diwydiant ffermio Cymru yn ei gyfanrwydd, yn gwbl anghymesur â'r broblem o ran cost a gweithrediad. Mae hyn yn arbennig o wir o gofio bod y cod gwirfoddol sydd bellach ar waith wedi arwain at ostyngiad o 24 y cant yn nifer yr achosion o lygredd dros y blynyddoedd diwethaf. Nid yw'r cynigion hyn yn fawr o wobr am yr ymdrech enfawr a wnaed gan bawb yn y diwydiant ffermio. Efallai fod un digwyddiad llygredd yn un digwyddiad yn ormod, ond nid ceisio atal y llygredd drwy niweidio'r diwydiant ffermio yn ei gyfanrwydd yw'r ateb. Mae'n ffaith syml y bydd llawer o ffermwyr yn gorfod rhoi'r gorau iddi oherwydd na fyddant yn gallu fforddio'r gost o weithredu.
Mae hyn yn arbennig o wir am ein ffermydd mynydd sydd eisoes mewn trafferthion. Rwy'n disgwyl llythyr gan Dylan Jones, swyddog caffael llaeth ar gyfer Caws Glanbia, y cynhyrchydd caws mozzarella mwyaf yn Ewrop, sydd wedi'i leoli yn Llangefni. Maent yn defnyddio 300 miliwn litr o laeth y flwyddyn, a daw'r cyfan, bron, gan ffermwyr Cymru. Dywed ei fod yn teimlo y bydd y rheoliadau hyn yn arwain at fethiant llawer o'i gyflenwyr, sy'n golygu y bydd yn rhaid iddynt ddod o hyd i'w llaeth o fannau eraill. Mae'r ffigur a neilltuwyd—£22 miliwn ar gyfer Cymru gyfan—yn gwbl annigonol ar gyfer maint y buddsoddiad sydd ei angen, o gofio bod ffigurau a nodwyd gan y Llywodraeth ei hun yn nodi costau cyfalaf llawn ymlaen llaw o £360 miliwn. Mae'r diwydiant ffermio ynghanol newid enfawr, gyda Brexit a'r aflonyddwch a achosir gan COVID. Sut y mae'r Llywodraeth yn disgwyl i ffermwyr ymdopi â'r gost ychwanegol enfawr hon?
Amcangyfrifir mai £300 miliwn yw'r ffigur cost a budd dros yr 20 mlynedd nesaf, yn erbyn buddsoddiad o £800 miliwn. Sut y gellir cyfiawnhau hyn pan nad oes ond 113 o 953 dalgylch yn methu? Does bosibl na fyddai targedu'r ardaloedd hyn yn llawer mwy costeffeithiol. Os bydd y mesurau llym hyn yn mynd rhagddynt, byddwn yn gweld llawer o'n ffermwyr sydd eisoes yn dlawd yn methu. Dywed y Gweinidog ei bod wedi ymgysylltu â'r diwydiant ffermio, ond mae'r diwydiant yn dweud bod bron bopeth a ddywedant wedi cael ei anwybyddu. Rwy'n ailadrodd eto: ffermwyr Prydain yw'r ffermwyr mwyaf gweithgar ac arloesol yn Ewrop, ac mae eu safonau hwsmonaeth yn well nag yn unman arall. Mae Brexit yn creu cyfle enfawr i'n ffermwyr lenwi'r bwlch yn y gadwyn fwyd. Rwy'n siŵr y byddant yn ymateb i'r her, fel bob amser. Mae'n golygu y byddwn yn bwyta bwydydd mwy iachus sydd wedi'u cynhyrchu'n well. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth i helpu'r diwydiant, yn hytrach na chreu rhwystrau i'w hatal rhag goroesi. Rwy'n annog yr Aelodau Llafur i ddangos dewrder moesol personol, nid ymlyniad gwasaidd at bolisi'r Llywodraeth, a phleidleisio o blaid y cynnig hwn. Mae'n ddeddfwriaeth wael. Dylech gefnogi'r diwydiant ffermio, a pheidio ag ymroi i wleidyddiaeth plaid. Mae'r cyfan yn y fantol i'r diwydiant ffermio. Ac yn arbennig, rwy'n annog Kirsty Williams a Dafydd Elis-Thomas i bleidleisio yn erbyn y cynigion llym hyn. Diolch.
Nid wyf am ymroi i wleidyddiaeth plaid ar hyn, ond yr hyn rwyf am ei wneud yw mynegi rhywfaint o'r meddwl rwyf wedi'i wneud ar y mater hwn, a rhai o'r safbwyntiau a fynegwyd wrthyf gan etholwyr hefyd. Ond yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru am gyfarfod â mi yr wythnos diwethaf. Cawsom gyfarfod awr o hyd, ac rydym wedi bod mewn trafodaethau ar y mater hwn y llynedd, ac mae'n sicr bod pryder gwirioneddol yn y gymuned ffermio mewn perthynas â'r rheoliadau hyn, yn enwedig o ran yr angen i gadw cynllun rheoli maethynnau, y cyfyngiadau ar wasgaru, a fydd galw am gyfleusterau storio y mae rhai ffermydd yn pryderu y byddant eu hangen i storio slyri—yn enwedig ffermydd bach na allant amsugno'r gost. Nawr, rwyf wedi codi hyn, o ganlyniad i'r sgyrsiau hynny gyda Llywodraeth Cymru, ac rwyf wedi cael ymateb, a hoffwn i'r Gweinidog ymhelaethu arno yn ei hateb i'r ddadl hon.
Yn gyntaf oll, dywedodd ymateb Llywodraeth Cymru fod y gofynion yn y rheoliadau yn sylfaenol ac nad oes angen cynnal profion pridd, fel y mae'n rhaid ei wneud yn yr Alban, a'u bod yn gydnaws â meddalwedd rheoli maethynnau a ddefnyddir gan y diwydiant fel mater o drefn. Darperir gwerthoedd safonol ar gyfer cynnwys maethynnol tail ac mae offer cam wrth gam ar gael. Gall dulliau llawer mwy soffistigedig o reoli maethynnau fod yn rhywbeth y gall y cynllun ffermio cynaliadwy ei ddarparu. Nid oes angen cyflogi ymgynghorwyr, yn enwedig ar ffermydd bach, oherwydd gall Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio ddarparu cyngor annibynnol pwrpasol ac arbenigol, ac mae cyllid ar gael ar gyfer hynny hefyd drwy Cyswllt Ffermio.
Ac roedd y mater arall a godais yn ymwneud â gwasgaru'r slyri, lle dywedasant nad oes angen storio ar fferm fach ym mhob amgylchiad, gan y gallwch ei drin fel tail, y caniateir ei wasgaru o hyd o dan y rheoliadau newydd. Nid yw'r cyfnodau hynny'n berthnasol i dail buarth, y gellir ei storio mewn cae, yn ddarostyngedig i amodau penodol ar gyfer lleihau'r risg o lygredd. Os ydynt yn cynhyrchu mwy o slyri, byddai hyn yn risg sylweddol o lygredd ac ni fyddai'n cydymffurfio â'r rheoliadau presennol.
Nawr, dyna'r ymateb rwyf wedi'i gael ynghylch pryderon rwyf wedi'u dwyn i sylw Llywodraeth Cymru. Hoffwn pe bai'r Gweinidog yn gallu dweud wrthym, pe bai'r pryderon a fynegwyd gan y siaradwyr blaenorol yn cael eu gwireddu, y bydd hyblygrwydd o fewn y cynllun i fynd i'r afael â hynny, a rhoi cymorth i'r ffermwyr a allai gael eu heffeithio'n ormodol mewn ffyrdd nad yw Llywodraeth Cymru wedi'u hystyried yn eu hateb i mi.
Felly, mae wedi bod yn rhywbeth rwyf wedi'i ystyried yn ofalus iawn, ac mae angen i mi ddod yn ôl at fy etholaeth. Mae fferm laeth o faint diwydiannol yng Ngelli-gaer yn fy etholaeth i. Mae'n fferm enfawr, a chafwyd adroddiadau—. Mae'n debyg eich bod wedi gweld adroddiad ar WalesOnline a oedd yn dweud mai Gelli-gaer yw'r pentref sy'n drewi drwy gydol y flwyddyn. Nawr, gwn fod hyn yn gysylltiedig â llygredd afonydd, ond er hynny, mae arogleuon yn broblem enfawr mewn perthynas â gwasgaru slyri. Rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda thrigolion ac CNC. Dywedodd CNC wrthyf—. Pan siaradais â hwy o'r blaen, roeddent yn dweud, 'Nid oes gennym bwerau i ymdrin â hyn. Mae arogl cryf ac annymunol yng Ngelli-gaer, ac nid oes gennym bwerau i ymdrin â hyn.' Pan siaradais ag CNC yr wythnos diwethaf, roeddent yn dweud y bydd y rheoliadau hyn yn rhoi pwerau iddynt ymdrin â hynny; bydd hyn yn rhoi'r pwerau iddynt. Yn wir, roeddent yn dweud y byddent yn mynd ymhellach, a sicrhau bod cynllun ffosffad wedi'i gynnwys ynddo hefyd. Nid yw'r Llywodraeth yn mynd mor bell â hynny.
Mae pobl yng Ngelli-gaer, Pen-y-bryn, Nelson ac Ystrad Mynach wedi dioddef yn rhy hir gyda phroblemau'n ymwneud â'r fferm honno yng Ngelli-gaer, a'r rheoliadau sydd ar fai, nid y fferm, ac mae angen rheoliadau cryfach arnom o dan yr amgylchiadau hynny. Felly, o dan yr amgylchiadau hynny, byddwn yn galw am barth perygl nitradau ar gyfer fy ardal i, ar gyfer y gymuned honno. Mae pobl Gelli-gaer, Ystrad Mynach, Nelson a Phen-y-bryn eisiau mwy o reoliadau ffermio, nid llai. Maent eisiau mwy o reoleiddio gweithgarwch, nid llai, oherwydd nid oes ganddynt ddigon o bwerau ar hyn o bryd i ymdrin â'r pryderon sydd ganddynt—
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
—ynglŷn â gweithgarwch yn eu cymuned. Felly, gyda hynny mewn golwg, mae wedi bod yn benderfyniad anodd i'w wneud, ond o dan yr amgylchiadau yn fy nghymuned i, amgylchiadau a welais drosof fy hun, mae'n rhaid imi gefnogi'r rheoliadau hyn.
A gaf fi ddiolch i'r nifer o bobl sydd wedi gohebu â mi, nifer o ffermwyr, y clywais ganddynt ar y pwnc hwn? Efallai mai'r agwedd fwyaf brawychus ar hyn yw'r nifer o weithiau yr addawodd y Gweinidog, ar gofnod ac yn y lle hwn, na fyddai'n cyflwyno'r mathau hyn o gynigion ynghylch parth perygl nitradau nes bod y pandemig COVID wedi dod i ben. Ac eto, dyma hi'n gwneud hynny. Mae wedi torri addewid, oni bai fy mod wedi camddeall rhywbeth yma, ond rwy'n credu bod hyn yn bradychu'r hyn a addawyd mewn modd brawychus.
Rwyf hefyd wedi fy nharo gan y ffordd y mae wedi trin CNC. Rydym wedi gwario symiau enfawr ar y sefydliad hwn, sydd i fod yn gorff hyd braich i roi cyngor iddi, ac mae hwnnw wedi gwneud adroddiad mawr, gyda llawer o waith yn sail iddo, sy'n dweud, 'Dylem gynyddu'r arwynebedd yng Nghymru o 2.5 y cant i tua 8 y cant.' Ac eto, yma mae hi'n ei godi i 100 y cant. Beth yw diben cael y corff hwn, o ystyried y ffordd y mae hi wedi'i drin?
Nawr, hoffwn ddyfynnu un o'r rhai sydd wedi gohebu â mi, rhywun sydd wedi bod yn rhedeg fferm laeth ers 45 mlynedd i'r gorllewin o'r Gelli Gandryll, ac sydd wedi ennill gwobrau Ffermwr Llaeth y Flwyddyn a Ffermwr Glaswelltir y Flwyddyn yn y gorffennol. Ac un pwynt y mae'n ei wneud yw ei fod, ar ei fferm, wedi llwyddo i leihau'r defnydd o wrtaith cemegol 20 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf drwy ddefnyddio slyri'n fwy amserol. Ac mae hefyd yn pwysleisio costau cynyddol cyfnod storio o bum mis a'r baich ychwanegol o gadw cofnodion, rhywbeth y mae'n erfyn arnom i beidio â'i ddiystyru. Efallai ei bod yn hawdd i ni mewn Llywodraeth neu wleidyddiaeth—efallai nad yw llenwi ffurflenni ychwanegol yn waith mor galed â hynny, ond i'r rheini sydd â busnesau gwahanol ac nad ydynt wedi arfer gwneud hynny, neu nad ydynt yn hoffi gwneud hynny, mae'n faich sylweddol iawn, ac rwy'n credu bod angen inni ddeall hynny.
Y prif reswm rwyf eisiau dyfynnu'r unigolyn penodol hwn yw bod ganddo fab sy'n ffermio yng Ngwlad yr Haf, ac mae dau ddalgylch yno. Mae un yn barth perygl nitradau ond nid yw'r llall, ac mae'r hyn sydd angen ei wneud yn dibynnu ar lefel y llygredd. Ac mae gan y dalgylch sy'n barth perygl nitradau is-afon yn y rhan uchaf a dynnwyd allan o'r parth pan gafodd gwelliannau eu gwneud. Pam na allwn gael system fel honno, sy'n sensitif i anghenion lleol, yn hytrach nag un polisi i bawb ledled Cymru, ddim ond i fod yn wahanol i Loegr ac yn groes i'r addewidion a wnaed? Dros ein ffin, gwelwn fod 58 y cant o ardaloedd yn cael eu trin yn y ffordd hon, ond mae'n bosibl hefyd iddynt wneud cais i gynyddu faint o slyri y gellir ei wasgaru o 170 kg i 240 kg neu 250 kg yr hectar, yn dibynnu ar yr ardal ac yn dibynnu a yw hynny'n briodol o ystyried yr amgylchedd ar y pryd. Does bosibl na fyddem yn llawer gwell ein byd gyda sensitifrwydd o'r fath i anghenion lleol, yn hytrach na'r polisi lletchwith hwn ledled Cymru gyfan.
Clywsom gan Jenny Rathbone yr wythnos diwethaf yn dweud na allwch reoleiddio siop gigydd yn wahanol ar un ochr i'r hyn a wnewch ar yr ochr arall. Sut ar y ddaear y mae honno'n gymhariaeth sy'n dweud felly bod yn rhaid rheoleiddio Cymru gyfan fel un uned? Ac roeddwn yn teimlo, o'i sylwadau, a rhai eraill a gawsom gan Aelodau'r Blaid Lafur, mai gwir amcan hyn yw gwthio gwartheg oddi ar y tir, ac mae'n ymwneud â newid hinsawdd a lleihau allyriadau a'r ffaith nad yw'r Blaid Lafur yn deall nac yn cefnogi ein ffermwyr. Rwy'n credu ei bod yn anghywir sefydlu'r parth perygl nitradau hwn ar draws Cymru gyfan. Dylem gael dull mwy cymesur, fel y mae Llywodraeth y DU wedi'i fabwysiadu, a chredaf y dylem bleidleisio dros y cynnig hwn i ddirymu a dyna fydd fy mhlaid i, Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, yn ei wneud.
Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffths?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Bydd sicrhau Cymru fwy gwyrdd yn dibynnu ar ymrwymiad ac arbenigedd ein ffermwyr. Mae ganddynt rôl unigryw yn cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel ar yr un pryd â diogelu cynefin, amddiffyn ein priddoedd gwerthfawr, dal carbon a glanhau ein haer a'n dŵr er budd iechyd pobl, ac iechyd ein planed wrth gwrs. Mae'r angen a welwn am y rheoliadau llygredd amaethyddol hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i degwch. Mae'n fater o degwch i genedlaethau'r dyfodol, fel bod ganddynt fynediad at eu treftadaeth naturiol, yr ymddiriedir ynom i'w diogelu. Mae'n fater o degwch i'r ffermwyr sydd eisoes yn mynd y tu hwnt i ofynion rheoleiddio, gan feithrin enw da i'r sector am gynnal y safonau amgylcheddol uchaf. Ni fu'r enw da hwn erioed yn bwysicach nag y mae ar hyn o bryd, er mwyn bodloni disgwyliadau ein partneriaid masnachu rhyngwladol a'n cwsmeriaid yn y DU.
Mae'r enw da hwn a'n treftadaeth naturiol dan fygythiad o ganlyniad i lygredd amaethyddol. Rwy'n anghytuno â Janet Finch-Saunders sy'n dweud bod y rheoliadau'n cosbi ffermwyr. Fe ddywedaf wrthi pwy sy'n cael eu cosbi: ffermwyr sydd eisoes yn ymgymryd ag arferion da o ran rheoli maethynnau, atal llygredd o'u ffermydd eu hunain, ac sy'n gorfod gwylio wrth i eraill wneud y lleiafswm posibl, gyda chost unrhyw ddifrod yn cael ei drosglwyddo i eraill—costau trin dŵr yn cael eu hychwanegu at filiau cwsmeriaid, y gost i enw da'r sector, a'r pris rydym i gyd yn ei dalu yn sgil colli pysgod, pryfed, cynefinoedd sensitif a chymeriad ein cefn gwlad. Mae hyn wedi bod yn falltod ar enw da ffermio yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
Ers imi ddod i'r swydd, rwyf wedi ceisio creu cyfle i'r diwydiant amaethyddol ac eraill gamu ymlaen a mynd i'r afael â'r broblem heb reoleiddio pellach. Yn anffodus, ni fu gostyngiad cyson mewn llygredd amaethyddol. Ers 2001, cafodd bron i 3,000 o achosion o lygredd acíwt yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth eu cadarnhau ledled Cymru, gan barhau ar gyfradd gyfartalog o fwy na thri achos bob wythnos dros y tair blynedd diwethaf. Yn 2020, pan ymchwiliwyd i lai o ddigwyddiadau yr adroddwyd yn eu cylch oherwydd pandemig COVID, roedd nifer yr achosion yn dal yn uwch nag yn 2015, 2016 a 2017. Cofnodwyd mwy o ddigwyddiadau yn 2018 nag unrhyw flwyddyn arall yn yr 20 mlynedd diwethaf. Hyd yn oed gyda'r sylw presennol yn y cyfryngau ers imi gyhoeddi'r rheoliadau hyn ar 27 Ionawr, mae CNC wedi derbyn 49 o adroddiadau llygredd yn ymwneud ag amaethyddiaeth, ac ar 1 Mawrth, roedd 20 ohonynt wedi'u cadarnhau. Dyma'r digwyddiadau a gadarnhawyd lle mae CNC wedi gallu cadarnhau digwyddiadau yr adroddwyd wrthynt yn eu cylch. Fodd bynnag, digwyddiadau llygredd acíwt yw'r enghraifft fwyaf gweladwy o lygredd amaethyddol. Mae llygredd gwasgaredig yn digwydd dros amser ac mae'n niweidio ansawdd dŵr, yn cyfrannu at lygredd aer ac yn cynyddu allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae gwybodaeth anghywir am y rheoliadau wedi bod yn achosi straen diangen i ffermwyr, a bydd llawer ohonynt, ymhell o gael eu gorfodi allan o fusnes fel y mae'r wrthblaid wedi'i honni, mewn sefyllfa dda i fodloni'r safonau rheoleiddio newydd ac elwa o reoli maethynnau yn well ar eu ffermydd. Gall ffermwyr sy'n ansicr sut y gallant gydymffurfio ofyn am gymorth a chyngor drwy wasanaeth cynghori Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru, gan gynnwys sut i gael gafael ar y cymorth ariannol sydd ar gael. Mae'r rheoliadau wedi'u targedu at weithgareddau sy'n peri risg o lygredd, lle bynnag y maent yn digwydd.
Yn hytrach na safon sylfaenol, dywed y gwrthbleidiau y dylem fabwysiadu un dull o fynd i'r afael â llygredd ffosfforws yn y naw ardal cadwraeth arbennig afon, dull gwahanol i'r cyrff dŵr sy'n methu cyrraedd safonau'r gyfarwyddeb fframwaith dŵr, un arall ar gyfer trothwyon nitradau, ac un arall eto ar gyfer dalgylchoedd yr effeithir arnynt gan ddigwyddiadau llygredd acíwt ac yn y blaen—prosbectws ar gyfer dryswch ac oedi. Ni fyddai dull gweithredu o'r fath yn gwneud dim i wella llygredd aer na lleihau allyriadau; nid ydynt yn ddewisiadau amgen ymarferol nac ystyrlon. Mae gosod safon sylfaenol yn golygu y gall y disgwyliadau fod yn glir, gan ei gwneud yn haws i ffermwyr fod yn hyderus eu bod yn cydymffurfio, a'i gwneud yn haws i wasanaethau cynghori a'r rheoleiddiwr gynorthwyo ffermwyr i gydymffurfio. Lle mae gweithgareddau'n rhai risg isel, megis mewn perthynas â ffermio defaid, mae'r gofynion yn fach iawn. Bydd y gofynion yn cael eu cyflwyno dros amser, a'r cam cyntaf fydd ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr ddilyn arferion da o ran pryd a ble i wasgaru slyri, fel y mae llawer eisoes yn ei wneud.
Yn nadl y Torïaid yr wythnos diwethaf, ceisiais ddod o hyd i gonsensws gyda phleidiau eraill, o ystyried yr argyfyngau hinsawdd a natur, y gallem gydnabod mai'r cam cyntaf, fel y nodir yng nghyngor y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, fyddai gwneud yr arferion da presennol yn safonau sylfaenol ledled Cymru. Ni allai Plaid Cymru na'r Torïaid dderbyn yr angen i weithredu, gan ddangos eu diffyg ymwybyddiaeth o ddisgwyliadau'r cyhoedd. Byddai'n well ganddynt anwybyddu'r cyngor gwyddonol a chaniatáu i Gymru fod yn lloches olaf i lygredd amaethyddol. Rwy'n ddiolchgar i'r ffermwyr sy'n cefnogi'r camau rydym yn eu cymryd i wneud gwahaniaeth, ac i randdeiliaid eraill, fel yr Ymddiriedolaeth Natur a grwpiau genweirio, sydd wedi mynegi'r hyn y gellir ei gyflawni, a pham ei fod mor bwysig, mewn ffordd mor glir.
Mae'r rheoliadau llygredd amaethyddol yn un cam, ond yn gam pwysig iawn, yn y daith tuag at afonydd glanach, aer glanach, a sicrhau mai yng Nghymru y ceir y ffermio mwyaf ystyriol o natur a'r hinsawdd yn y byd. Ar ôl heddiw, bydd llawer mwy i'w wneud o hyd i gyflawni ein huchelgeisiau i sicrhau economi sero-net, sy'n gadarnhaol o ran natur, lle caiff buddion ein treftadaeth naturiol gyfoethog eu rhannu'n deg. Gobeithio y bydd yr holl Aelodau o'r Senedd heddiw yn dangos eu hymrwymiad i'r uchelgeisiau hynny yn y penderfyniad a wnânt. Pleidleisiwch yn erbyn y cynnig i ddirymu, pleidleisiwch yn erbyn gostwng safonau amgylcheddol yng Nghymru, pleidleisiwch yn erbyn gohirio ein hymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, a phleidleisiwch yn erbyn llygredd amaethyddol yng Nghymru. Diolch.
Diolch ichi am hynny. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sy'n dymuno gwneud ymyriad, felly galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl. Llyr.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mi wnes i gychwyn y ddadl yma drwy annog Aelodau i gydnabod y ffaith nad oedd y cynnig yma yn rhyw fath o alwad inni beidio â gweithredu, a dyw'r cynnig yma'n sicr ddim yn alwad arnom ni i beidio â chyflwyno rheoliadau ac i anwybyddu'r broblem. Yn anffodus, mae sylwadau'r Gweinidog wrth gloi'r ddadl wedi dangos ei bod hi heb wrando gair ar beth ddywedais i, ac mae hynny'n siom i mi. Rôn i'n meddwl gwell ohoni, a bod yn onest. Ac i daflu rhyw fath o honiadau o'r fath i fy nghyfeiriad i, dwi'n cymryd hynny fel insult difrifol, a dwi yn drist ei bod hi wedi teimlo bod angen gwneud hynny. Dwi ddim yn gwybod faint o weithiau dwi yn gorfod dweud fy mod i o ddifrif ynglŷn â gweithredu ar y broblem yma. Yr her i fi, wrth gwrs, yw dyw yr hyn sydd ger ein bron ni ddim yn fy marn i yn mynd i gyflawni'r canlyniadau rŷn ni eisiau eu gweld.
Nawr, mi ddywedodd y Gweinidog ei bod hi wedi rhoi cynnig i'r diwydiant i ddod â datrysiadau gerbron. Wel, efallai bydd hi'n cofio bod y diwydiant wedi cyflwyno dau adroddiad iddi yn cynnwys argymhellion ynglŷn â'r ffordd ymlaen—yn yn Ebrill 2018, un ym Mawrth y flwyddyn diwethaf. Mae'n nhw'n dal i aros am ymateb gan y Gweinidog i'r cynigion hynny. Felly, peidied hi â dweud ei bod hi wedi rhoi cyfle i'r sector i ymateb. Dyw hi ddim, ac mae hynny yn gamarweiniol, oherwydd mae hi wedi anwybyddu'r hyn sydd wedi cael ei gynnig iddi.
Nawr, mi fuaswn i yn cefnogi'r rheoliadau yma petawn i'n credu eu bod nhw am weithio, ond mae yna gymaint o gwestiynau am y canlyniadau amgylcheddol anfwriadol ddaw yn eu sgil nhw, am yr effaith andwyol y byddan nhw'n eu cael ar ddyfodol ffermydd yng Nghymru, y tebygrwydd y bydd e yn arwain at golli rhai o'n ffermydd teuluol ni a'r effaith ehangach y bydd hynny'n ei gael, wrth gwrs, ar yr economi wledig ac ar gymdeithas yng nghefn gwlad. Dyw portreadu'r ddadl yma fel dewis rhwng rheoleiddio neu beidio â rheoleiddio ddim yn disgrifio yn deg y dewis sydd o'n blaenau ni mewn gwirionedd y prynhawn yma. Yr hyn fyddai cefnogi'r cynnig yma yn ei wneud yw sicrhau bod y Llywodraeth yn cymryd cam yn ôl i edrych ar yr opsiynau amgen fydd yn dod â gwell canlyniadau i'r amgylchedd a llai o ddinistr i'r economi a chymunedau gwledig. Dwi'n barod i chwarae fy rhan i yn hynny o beth. Y cwestiwn yw: ydych chi?
Diolch ichi am hynny. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiadau, felly pleidleisiwn ar yr eitem hon yn y cyfnod pleidleisio.