– Senedd Cymru am 4:51 pm ar 3 Mawrth 2021.
Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar ddeisebau ynghylch datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig. Janet Finch-Saunders.
Cynnig NDM7609 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi'r deisebau canlynol ynghylch datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre:
a) Deiseb P-05-1001 'Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig' a gasglodd 5,348 o lofnodion;
b) Deiseb P-05-1018 'Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol' a gasglodd 11,392 o lofnodion.
Diolch. Unwaith eto, ar ran y Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i drefnu'r ddadl hon. Fel yr un rydym newydd ei chynnal, mae'r ddadl hon hefyd yn seiliedig ar ddwy ddeiseb. Mae'r rhain yn ymwneud â'r cynnig ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre yng Nghaerdydd. Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cynnig adeiladu canolfan newydd ar dir i'r gogledd o'i safle presennol yn yr Eglwys Newydd, gogledd Caerdydd. Byddai'n cymryd lle ei gyfleusterau presennol, sydd wedi bod yn weithredol ers 60 mlynedd. Mae'r ymddiriedolaeth wedi datgan nad oes gan y ganolfan bresennol gyfleusterau na lle i ddiwallu anghenion y nifer cynyddol o bobl sy'n cael diagnosis o ganser.
Eu bwriad ar gyfer yr adeilad newydd yw darparu cyfleusterau modern i drin mwy o gleifion a helpu pobl i fyw'n hwy gyda chanser. Yn amodol ar gymeradwyaeth a chyllid, disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2022 a bydd y ganolfan newydd yn weithredol o 2024. Nawr, mae'r cynlluniau wedi wynebu gwrthwynebiad a chefnogaeth sylweddol yn lleol. Derbyniwyd deisebau'n mynegi'r ddau safbwynt. Felly, fe amlinellaf fanylion y ddwy yn fyr yn awr.
Cyflwynwyd y ddeiseb gyntaf gan Amelia Thomas ar ran Ymgyrch Achub y Dolydd Gogleddol. Casglodd 5,348 o lofnodion ac mae'n galw am ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer Canolfan Ganser newydd arfaethedig Felindre. Mae'r grŵp y tu ôl i'r ddeiseb hon wedi mynegi nifer o bryderon ynglŷn â'r cynigion. Wrth agor y ddadl hon, nid oes gennyf amser i gyfeirio at bob un ohonynt, ond gellir eu crynhoi'n ddwy brif elfen, ac mae'r ddwy ohonynt yn ymwneud â lleoliad arfaethedig y ganolfan.
Yr elfen gyntaf sy'n peri pryder i'r deisebwyr yw colli man gwyrdd a adwaenir yn lleol fel y dolydd gogleddol. Dyma lle mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn cynnig adeiladu'r ganolfan ganser newydd, yn agos at eu safle presennol. Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro sy'n berchen ar y tir ac mae cyngor Caerdydd wedi rhoi caniatâd cynllunio amlinellol o'r blaen ar gyfer tai ar y safle. Mae'r deisebwyr yn mynegi pryder ynglŷn â cholli mannau gwyrdd am resymau ecolegol ac amgylcheddol, yn ogystal ag mewn perthynas â'r effeithiau ar drigolion lleol. Maent hefyd wedi nodi pryderon ynglŷn â llifogydd.
Mae'r ail brif bryder yn ymwneud ag ai safle pwrpasol yw'r model cywir ar gyfer gwasanaethau canser yn y dyfodol. Mae'r deisebwyr, yn ogystal â rhai clinigwyr, wedi dadlau y byddai'r ganolfan yn well o'i chydleoli ar safle ysbyty acíwt. Maent yn tynnu sylw at ddatblygiad parhaus triniaethau canser cymhleth, y dywedant eu bod yn golygu bod cydleoli yn fodel hirdymor mwy addas, gyda thriniaethau anlawfeddygol yn cael eu darparu yn yr un lleoliad â gofal acíwt a llawdriniaethau. Yn y pen draw, mae'r deisebwyr wedi galw am i'r cynnig fod yn destun adolygiad clinigol annibynnol cyn i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ynglŷn ag a ddylid cefnogi'r achos busnes dros y ganolfan newydd.
Rwy'n symud yn awr at yr ail ddeiseb. Mae hon yn cefnogi'r cynigion ar gyfer y ganolfan newydd ac fe'i cyflwynwyd mewn ymateb i'r ddeiseb gyntaf. Mae'n galw ar y Llywodraeth i gefnogi'r cynlluniau i adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, ac fe'i cyflwynwyd gan Natasha Hamilton-Ash gyda chyfanswm o 11,392 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn tynnu sylw at y manteision y bydd ysbyty newydd yn eu cynnig i gleifion, gan ddweud bod ei angen ar frys i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol i wasanaethau. Maent yn dadlau y bydd mewn lleoliad haws ei gyrraedd ar gyfer y mwyafrif llethol o gleifion, yn ogystal â gallu darparu gwasanaethau addas i'r diben i nifer gynyddol o gleifion mewn cyfleuster modern. Maent wedi dadlau y bydd y lleoliad arfaethedig, mewn man gwyrdd gyda gwell mynediad, yn ffactor cadarnhaol ac y bydd yn helpu cleifion i wella, oherwydd y lleoliad naturiol a'r bensaernïaeth iachaol.
Yn gyffredinol, y brif farn a fynegwyd yn gryf gan y rhai sy'n cefnogi'r ddeiseb hon yw'r angen am ganolfan newydd cyn gynted â phosibl, gan dynnu sylw at gyfleusterau a maint annigonol y safle presennol. Mae'r deisebwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r cynlluniau presennol a chefnogi Ymddiriedolaeth GIG Felindre i adeiladu'r ganolfan cyn gynted â phosibl.
Nawr, ceir llawer mwy o fanylion yn sail i'r ddwy ddeiseb, ond mae'r amser sydd ar gael inni yn mynnu y dylwn dynnu'r sylwadau agoriadol hyn i ben yn awr. Rwy'n siŵr y bydd gan Aelodau eraill bwyntiau y maent am eu gwneud am ddwy ochr y ddadl hon. Rwy'n gobeithio hefyd y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni heddiw am y sefyllfa bresennol yn ei ymateb i'r ddadl. Mae'r Pwyllgor Deisebau yn ymwybodol fod cyfyngiadau'n ei atal rhag cynnig barn ehangach ar y datblygiad, o ystyried ei rôl yn gwneud penderfyniadau terfynol ar y cynnig hwn. Serch hynny, rwy'n siŵr y byddai pawb sy'n gysylltiedig â hyn yn croesawu unrhyw wybodaeth neu eglurder pellach ynglŷn â pha bryd a sut y gwneir y penderfyniadau hynny. Diolch.
Rwy'n edrych ar adroddiad Nuffield sy'n ymwneud â'r ddwy ddeiseb sy'n gwrthdaro, ac mae'n ei gwneud yn glir na allwn barhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn mewn adeilad ysbyty sy'n llawer rhy hen i'r diben. Os ydym am wella cyfraddau goroesi canser ar gyfer poblogaeth de-ddwyrain Cymru, mae gwir raid inni symud pethau yn eu blaenau yn awr, ac ni allwn barhau i ohirio penderfyniadau.
Rhaid iddo fod—. Rhaid i ailddatblygu fod yn gyfrwng ar gyfer ail-lunio gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion cleifion yn well, gan gynnwys cael eu trin yn nes at adref, ond gan barhau i ganolbwyntio'r arbenigedd hwnnw mewn canolfan Felindre. Mae rheswm pam y mae Felindre'n ymddiriedolaeth annibynnol. Nid yw'n rhan o fwrdd iechyd, oherwydd rhaid iddi gael diwylliant sy'n hollol wahanol. Mae'r gair 'canser' yn unig yn achosi arswyd ym meddyliau llawer o bobl, felly un o'r pethau pwysicaf y mae Felindre yn ei wneud yw rhoi tawelwch meddwl i gleifion nad dedfryd marwolaeth yw canser yn y rhan fwyaf o achosion. Ond nid proses fecanyddol yw trin canser, ac mae agwedd gadarnhaol a ffocws ar ansawdd bywyd yn rhan hanfodol o'r driniaeth a'r broses ofal. Ac mae angen cefnogi cleifion a'u teuluoedd gyda'r penderfyniad sy'n iawn iddynt hwy yn eu hamgylchiadau hwy.
Felly, nid gwasanaeth i Gaerdydd yn unig yw hwn ond gwasanaeth i dde-ddwyrain Cymru yn gyfan. Ac er bod y rhan fwyaf o'i wasanaethau naill ai'n gemotherapi symudol, y gellir, ac a gaiff yn ôl yr hyn a ddeallaf, ei ddarparu mewn mannau eraill, mae ei wasanaethau radiotherapi, ar hyn o bryd, yn cael eu darparu yn Felindre, oherwydd bod y gost o adeiladu'r cyflymyddion llinellol hyn—fe'u gelwir yn LINACs, mae'n debyg—yn fuddsoddiad cyfalaf enfawr, yn ddrud iawn ac mae'n rhaid ei adeiladu mewn byncer concrid enfawr. Felly, hyd yn hyn, mae'r holl LINACs hyn wedi bod yn Felindre. Ond nodaf fod cynllun newydd Felindre'n cynnwys un LINAC yn Nevill Hall, ac wrth gwrs mae hynny'n bwysig iawn i gleifion, oherwydd mae'n lleihau'r baich teithio i gleifion a'u gofalwyr, a phan fyddwch yn sâl, mae hynny'n bwysig iawn. Ac mae hefyd yn rhan o'n hymdrech i fynd i'r afael â'r ddeddf gofal gwrthgyfartal.
Yn amlwg, mae'n bwysig iawn na ddylai hyn gael ei lyncu gan unrhyw ysbyty cyffredinol, ac i mi, mae'r syniad o adeiladu ar safle'r Mynydd Bychan ar hyn o bryd yn ymddangos yn gwbl amhosibl. Mae safle'r Mynydd Bychan yn anhygoel o brysur. Tan yn ddiweddar, câi ei ddefnyddio fel llwybr osgoi traffig i gymudwyr, ac mae adroddiad Nuffield yn gwbl glir nad yw hwn yn opsiwn ar hyn o bryd. Pan fydd gennym Ysbyty Athrofaol newydd yng Nghymru, efallai y gallech weld rhyw fath o ymgorfforiad ar yr un safle, ond ni all cydleoli olygu amsugno. Felly, mae'n ymddangos i mi, os yw Prifysgol Caerdydd am adeiladu canolfan ymchwil canser newydd, nid wyf yn deall pam nad ydynt yn ystyried ei chydleoli gyda Felindre, rhywbeth nad yw'n bosibl ei wneud ar safle'r Mynydd Bychan ar hyn o bryd. Ni allwch ddarparu canolfan newydd Felindre tra byddwch hefyd yn darparu gofal cleifion i bobl sâl, felly mae'n ymddangos i mi fod cau ysbyty'r Eglwys Newydd yn gyfle euraid i adeiladu nôl yn well ar ffurf canolfan ragoriaeth sy'n sensitif i'r amgylchedd yn unol â rhai o'r pwyntiau a wnaed—
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
—gan y deisebwyr. Felly, nid wyf yn credu y bydd y drafodaeth hon yn cael ei datrys heddiw, ond mae angen ei datrys yn weddol fuan, mae llawer o arian ynghlwm wrth hyn ac mae'n bwysig iawn ein bod yn ei gael yn iawn.
Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Mae'n un anarferol gan ei bod yn dwyn ynghyd dwy ddeiseb sy'n gwrth-ddweud ei gilydd, dwy farn wrthgyferbyniol ar yr un mater. Ac mae'n fater pwysig iawn, dyfodol gwasanaethau canser yn ne-ddwyrain Cymru, a beth bynnag fo'r materion penodol sydd ar waith yma, waeth pa mor gryf yw'r farn am nifer o wahanol agweddau ar hyn, mae ansawdd y gwasanaethau canser hynny o'r pwys mwyaf.
Gwasanaethais ar y Pwyllgor Deisebau am gyfnod, ond mae hynny beth amser yn ôl, felly nid wyf wedi cael unrhyw ymwneud uniongyrchol â'r deisebau hyn fel y cyfryw, ond dros y misoedd diwethaf, yn fy rôl fel Gweinidog iechyd a gofal yr wrthblaid ar ran Plaid Cymru, rwyf wedi cael fy lobïo gan ddwy ochr y ddadl, rwyf wedi siarad â phobl, wedi gwrando ar ddadleuon gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr y cynnig sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd, ac rwyf wedi cyfarfod ag arweinwyr clinigol ac uwch reolwyr yn Felindre. Byddwn i'n dweud fy mod wedi ceisio dysgu cymaint ag y gallaf am y materion sydd yn y fantol yma.
Felly i ba gasgliad y deuthum iddo? Rwyf eisoes wedi nodi fy marn, mewn gwirionedd, mewn gohebiaeth â nifer o bobl sydd wedi cysylltu â mi yn y cyfnod cyn y ddadl hon, ond yn gyntaf, rwyf am nodi beth nad wyf am wneud sylwadau yn ei gylch: nodaf yr ymgyrch yn lleol ar y cynnig i ddatblygu ar y darn hwnnw o dir a elwir yn ddolydd gogleddol, ond yn fy rôl iechyd a gofal, nid wyf yn credu mai fy lle i yw gwneud sylwadau ar y mater cynllunio, os mynnwch, a'r effaith ar amwynder lleol a'r math hwnnw o beth; materion i'r boblogaeth leol yw'r rheini. Rwyf hefyd wedi nodi gwahanol ddadleuon amgylcheddol cysylltiedig a gyflwynwyd. Unwaith eto, deallaf fod y rheini'n bwysig iawn i lawer o bobl, ond nid ydynt yn rhai y dylwn i wneud sylwadau arnynt mewn gwirionedd.
Felly, mae fy niddordeb yma yn nyfodol gwasanaethau canser a sicrhau bod y gwasanaethau gorau posibl yn cael eu datblygu, y canlyniadau gorau posibl yn cael eu ceisio, a'u cydbwyso â pha mor gyflym y gellir cyflawni gwelliannau, ac rwy'n sicr yn gobeithio y gall pawb gytuno mai dyna sydd bwysicaf yma.
Mae'r gwasanaethau a ddarperir yn Felindre a gwaith y staff, eu hymroddiad a'u sgiliau, yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, ac yn sicr nid wyf am eiliad yn amau cred arweinwyr clinigol yn Felindre fod y cynllun sydd ganddynt ar y bwrdd yn un cadarn, ei fod yn rhan o'r hyn a allai drawsnewid gwasanaethau canser yn y rhanbarth. Rwyf wedi siarad â hwy am y cynlluniau; ni fyddent yn cefnogi cynlluniau nad oeddent yn credu y byddent yn gweithio, ac maent yn bobl sydd wedi rhoi eu bywydau proffesiynol i ymladd canser, ac yn bobl rwy'n eu parchu'n fawr.
Ar yr un pryd, rwyf hefyd wedi clywed a darllen digon o bryderon ac wedi cael digon o ohebiaeth gan bobl—gan gynnwys clinigwyr a gweithwyr iechyd, yn y gorffennol a'r presennol—i ddeall bod pryderon gwirioneddol ynglŷn â'r dewis o fodel clinigol, fod achosion angerddol yn cael eu gwneud mewn perthynas â'r ddadl honno rydym wedi'i chlywed yn cael ei hamlinellu am ddarpariaeth bwrpasol yn erbyn cydleoli gyda gwasanaethau acíwt. Codwyd amheuon ynghylch gwahanol rannau o'r broses a ddilynwyd, ynglŷn â thryloywder ar nifer o adegau yn y broses, ynghylch elfennau o'r ffordd y mae'r cynnig wedi'i ariannu, ac o'u cymryd gyda'i gilydd, credaf fod yr anghydweld sylfaenol ar strategaeth ar un lefel a drwgdybiaeth ar lefel arall yn niweidiol i'r uchelgais cyffredinol rwyf am i bawb ei gefnogi, fel y dywedais, os yw hynny'n bosibl. Yn y cyd-destun hwnnw, credaf o ddifrif y dylai'r Llywodraeth gamu i mewn i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu hymchwilio'n gyflym iawn, mewn ffordd y gwelir ei bod yn wirioneddol annibynnol, a dylid gwneud hynny'n ddi-oed, fel y dywedais.
Mae canser yn cyffwrdd â phawb ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae ceisio sicrhau bod ein gwasanaethau canser y gorau y gallant fod o fudd i bawb ble bynnag yr ydym yng Nghymru. Yr hyn rwyf am ei weld yma yw prosiect sy'n rhoi gwasanaethau Felindre ar sylfaen gadarnach ar gyfer y dyfodol yn cael ei gyflymu, ac yn bendant nid ei arafu.
Ni allaf wneud cyfiawnder yn y ddadl hon â'r nifer fawr o negeseuon twymgalon i gefnogi cynigion Felindre o bob rhan o fy etholaeth, ond credaf y gallai un llythyr gan Richard Case yn Llanharan helpu. Mae Richard yn ysgrifennu fel hyn:
Fel gyda'r mwyafrif o bobl yn ne-ddwyrain Cymru, mae gan Ganolfan Ganser Felindre le arbennig iawn yn fy nghalon. Treuliais lawer gormod o amser yn eu hadeiladau tra'n cefnogi fy ngwraig a dreuliodd flwyddyn yn cael triniaeth ar gyfer canser y fron, a hefyd am y radiotherapi a gafodd Cian, ei fab annwyl iawn.
Fodd bynnag, fe wnaeth y staff anhygoel, yn ogystal â'r dechnoleg ddiweddaraf, wella fy ngwraig a galluogi Cian i gael dwy flynedd arall gyda ni. Nid yw'n swnio'n llawer, ond estynnodd ei ddisgwyliad oes o draean a sicrhau y gallem fwynhau'r atgofion anhygoel a adawodd ar ei ôl yn ystod y cyfnod hwnnw—atgofion a fydd bob amser yn cael eu trysori gan y rhai ohonom a adawodd ar ôl.
Mae safle presennol Felindre wedi tyfu'n fwy na gallu ei leoliad presennol i'w gynnal. Mae taer angen mwy o le a moderneiddio pellach. Er ei bod yn ganolfan gwbl weithredol gyda chanlyniadau rhagorol, nid dyma'r olygfa fwyaf croesawgar o ran ei hamgylchedd, ac mae mynediad i'r safle o ran cysylltiadau trafnidiaeth a chyflymder y traffig sy'n mynd drwy bentref yr Eglwys Newydd yn aml yn gwneud y daith yn anghyfleus ac yn straen i bobl Ogwr sydd angen triniaeth.
Felly, nid yw adeiladu canolfan newydd ar dir presennol neu ar leoliad tir llwyd fel Ysbyty'r Eglwys Newydd yn ymarferol. Byddai angen cynlluniau cyfaddawdol i geisio gosod gwasanaethau ar safle sydd eisoes yn anaddas i'r diben. Mae'r safle sy'n eiddo i Felindre ac sydd wedi'i argymell ar gyfer y datblygiad yn ddelfrydol ar gyfer anghenion y gwasanaethau hanfodol y bydd yn eu cartrefu. Nid wyf am weld rhagor o fannau gwyrdd yn cael eu datblygu lle nad oes angen, ond o edrych ar y cynlluniau, mae'n ymddangos bod pob ystyriaeth ecolegol wedi cael sylw, a bydd yn gwneud y mannau gwyrdd sy'n weddill yn fwy ymarferol a gweithredol ar gyfer y gymuned.
Yr opsiwn arall a grybwyllwyd fyddai cynnwys Felindre fel rhan o safle GIG acíwt a allai gynnig gwasanaethau iechyd ychwanegol, a mynediad at wasanaethau a darpariaethau brys. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod hwn yn opsiwn synhwyrol gan fod cyfran fawr o bobl sy'n cael gofal oncoleg yn derbyn triniaeth imiwnoataliol neu ag imiwnedd gwan. Mae'n bosibl y gallai cael y cleifion hyn yn cymysgu â chleifion eraill sydd â chlefydau trosglwyddadwy fod yn broblem fawr.
Cawsom broblemau ac ystyriaethau tebyg gyda Cian, ac yn ogystal ag ystyriaethau iechyd, mae gwir angen moderneiddio safle Ysbyty Athrofaol Cymru hefyd, mae'r cysylltiadau trafnidiaeth yn ofnadwy ac nid oes lle yno. Felly, ni all ddarparu ar gyfer unrhyw wasanaethau pellach, a phe penderfynid creu safle acíwt newydd, byddai hynny'n cymryd cryn dipyn o amser i'w gyflawni ac mae'n siŵr y byddai'n creu pryderon tebyg os nad rhai mwy, yn debyg i'r rhai sydd gan y bobl sy'n protestio yn erbyn safle Felindre. Nid oes rhagor o amser i'w gael. Rhaid rhoi diwedd ar ohirio, a darparu gwasanaethau.
Lywydd, gallwn fod wedi defnyddio geiriau Lindsey o Faesteg neu Heather o Gilfach Goch neu Jean o Sarn neu rai cynifer o bobl eraill o Bencoed a Chefn Cribwr a Blaengarw ac ar draws Ogwr sydd wedi ysgrifennu ataf gyda'u straeon personol yn mynegi eu cefnogaeth gref i gynnig Felindre. Ond rwy'n credu bod Richard wedi siarad yn dda dros bawb a ysgrifennodd ataf, a gofynnaf i bawb sy'n cymryd rhan yn y ddadl heddiw barchu'r safbwyntiau hynny a phawb fydd yn gorfod gwneud penderfyniad yn y pen draw ar y prosiect hwn wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n siarad heddiw mewn dadl sydd wedi ennyn llawer o ddiddordeb a llawer o angerdd ar y ddwy ochr. Mae'r deisebau ger ein bron yn dystiolaeth o hyn, ac mae ychydig dros 17,000 o bobl i gyd wedi'u llofnodi, ac mae nifer fawr o unigolion a grwpiau wedi cysylltu ag Aelodau i gyflwyno eu hachos. Fodd bynnag, o edrych ar bobl yn fy etholaeth i, mae'r duedd yn fawr iawn tuag at gefnogi deiseb P-05-1018, sy'n cefnogi'r cynlluniau presennol. Llofnododd llawer mwy o fy etholwyr y ddeiseb hon, yn hytrach na'r llall. Yn wir, roedd bron i 12 gwaith cymaint yn cefnogi'r cynlluniau presennol.
Yn ogystal, mae fy mag post ar y mater hwn gan etholwyr wedi bod yn unochrog dros ben. Nid yw'n fy synnu, gan fod Felindre yn rhan bwysig o fywydau ac atgofion llawer gormod o fy etholwyr. Mae'n fan lle mae bywydau'n cael eu hachub, lle mae ein staff GIG gweithgar yn ymroi i ddarparu triniaeth a chymorth i bobl sy'n brwydro yn erbyn canser, man sy'n cynnig gobaith. Ysgrifennodd un etholwr am yr ysbyty llawn gobaith a gwirioneddau caled. A gan ein bod yn sôn am ddadl a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Pwyllgor Deisebau, mae'n gwneud synnwyr i archwilio eu barn.
Mae etholwyr sydd wedi cysylltu â mi yn glir eu cefnogaeth i'r prosiect o ran ei botensial i wella diagnosis, triniaeth a chanlyniadau, i ddarparu adeilad newydd sy'n addas at y diben, ac i wneud hynny o fewn amserlen dderbyniol, ar gyfer cyfleuster arbenigol sy'n darparu cymorth canser i'r un o bob dau ohonom a fydd yn datblygu canser ar ryw adeg yn ein bywydau. Ac mae'n gwneud hynny mewn lleoliad cyfleus sy'n lleihau'r pwysau ar bobl sy'n gorfod teithio o'r Cymoedd, fel fy etholwyr i.
Roeddwn yn ffodus i ymweld â'r cyfleuster presennol ychydig flynyddoedd yn ôl gyda'r AS dros Islwyn ac er fy mod yn cydnabod yr enw rhagorol sydd gan yr ysbyty, mae'r angen am gyfleuster newydd a all ddiwallu anghenion cleifion heddiw yn glir. Mae gennyf gydymdeimlad â phryderon y rhai sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau. Gwnaed pwyntiau sy'n rhaid inni eu hystyried yn gydymdeimladol am fynediad, darpariaeth a phwysigrwydd y dolydd gogleddol, ond credaf eu bod yn cael eu hateb yn llawn gan y ffordd y mae'r amgylchedd yn rhan mor bwysig o'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae hwn yn bwynt a wnaed yn argyhoeddiadol gan awduron P-05-1018, gydag awydd am bensaernïaeth iachaol sy'n cyfuno gofal meddygol â natur. Yn wir, dywedir wrthyf y bydd 60 y cant o'r mannau gwyrdd yn cael eu cadw i'w defnyddio gan gleifion canser a thrigolion lleol. Mae angen inni wella canlyniadau i bobl y mae canser yn cyffwrdd â'u bywydau. I bobl yn fy etholaeth i, mae'r cynlluniau presennol yn ymyrraeth o'r fath sydd ei hangen yn daer, ac rwy'n hapus i'w cefnogi heddiw. Diolch.
Lywydd, y tro diwethaf imi siarad ar fater fel hwn oedd i gadw'r adran damweiniau ac achosion brys ar agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Roedd yr ymgyrch honno'n llwyddiannus. Heddiw, rwy'n siarad o blaid cefnogi agor ysbyty sydd ei angen yn ddybryd. Ond a gaf fi ddechrau drwy fynegi fy nghefnogaeth i'r gwaith gwych y mae Felindre wedi'i wneud yn gofalu am gynifer o fy etholwyr dros y blynyddoedd, ac am garedigrwydd a phroffesiynoldeb y staff? Ac rwy'n deall y gall fod teimladau cryf ar faterion yn ymwneud â lleoliad a model, ond rwy'n siarad heddiw'n unswydd ar ran fy etholwyr yn ardal Pontypridd a Thaf Elái, ac rwy'n gwybod bod y teimladau hyn yn cael eu hadlewyrchu'n helaeth ar draws Rhondda Cynon Taf.
Rwyf wedi cael llawer o sylwadau gan etholwyr sy'n gleifion, yn aelodau teuluol, yn staff a chlinigwyr yn Felindre. Mae pob un ohonynt wedi galw arnaf i annog cefnogaeth—a rhywfaint ohono'n eithaf emosiynol, fel y clywsom gan Huw Irranca—i ysbyty newydd Felindre ac iddo fynd yn ei flaen cyn gynted â phosibl, a rhoi diwedd ar yr oedi diddiwedd. Nid prosiect i Gaerdydd yn unig yw hwn, ond i dde Cymru gyfan, ac mae'n hanfodol bwysig i les fy etholwyr. Mae eu neges i mi'n glir, felly fe'i rhoddaf i'r Senedd hon ar eu rhan.
Maent yn dweud wrthyf fod yr oedi wedi mynd rhagddo'n ddigon hir. Maent yn dweud wrthyf na allant aros i'r cyfleuster newydd fynd yn ei flaen. Lywydd, maent yn dweud wrthyf fod yr amser ar gyfer oedi ar ben. Mae fy etholwyr am inni fwrw ymlaen â'r ysbyty newydd hwn, inni gael y cyfleusterau canser ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain rydym eu hangen ac yn eu haeddu, ac i lawer ohonynt, mae'n fater o fywyd a marwolaeth. A dylem fanteisio ar y cyfle i fwrw ymlaen yn awr. Credaf fy mod yn siarad am fwyafrif llethol fy etholwyr. Diolch, Lywydd.
Dwi'n galw nawr ar y Gweinidog i gyfrannu i'r ddadl, Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am ei waith yn ystyried y deisebau hyn ac am eu cyflwyno i'w trafod heddiw. Er bod y deisebau'n amlwg yn gwrthdaro, gwn y bydd pob un ohonom yn cydnabod natur ddilys y pryderon sy'n cael eu codi, a'r angerdd dealladwy sy'n sail iddynt. Rydym i gyd am weld pobl y mae canser yn effeithio arnynt yn cael y gofal a'r canlyniadau gorau posibl. Mae'r angen am ysbyty canser newydd yn ne-ddwyrain Cymru i wasanaethu cymuned ehangach wedi ei gydnabod yn eang ac mae gan y Llywodraeth ymrwymiad maniffesto i helpu i ddarparu un. Felly, nid oes amheuaeth ynglŷn â phwysigrwydd gwella canlyniadau canser a'r angen i hyn gynnwys canolfan ganser newydd. Yr hyn sydd dan sylw yw pa ran y mae ysbyty canser newydd yn ei chwarae yn cyflawni'r canlyniadau gwell hynny a lle sydd orau i'w leoli er mwyn cyflawni'r cyfraniad hwnnw.
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r corff statudol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau oncoleg anlawfeddygol yn ne-ddwyrain Cymru. Mae wedi arwain y gwaith o ddatblygu cynigion ar gyfer canolfan ganser newydd Felindre gyda'i byrddau iechyd comisiynu. Bu'n broses hir a chymhleth a alwai am lawer iawn o waith gan bawb a oedd yn gysylltiedig â hi. Mae hynny'n dod at benderfyniad terfynol yn awr. Rôl Llywodraeth Cymru yn hyn o beth yw asesu cryfder yr achos a wneir drwy ein proses graffu ffurfiol, a gwneud penderfyniad ynglŷn â chymeradwyo ac ariannu. Yn y pen draw, bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad hwnnw ar sail y dadansoddiad a'r argymhellion a wnaed gan ein swyddogion a'u cynghorwyr, a fydd wedi craffu'n fanwl iawn ar y gwaith a wnaed gan Felindre a'r cyngor a ddarperir gan Nuffield ac eraill. Mae'r broses graffu honno bellach wedi'i chwblhau, ac rwy'n disgwyl ystyried y cyngor yn ddiweddarach yr wythnos hon. Felly, ni allaf wneud sylw penodol am y materion a godwyd yn y deisebau, gan y gallai hyn amharu ar unrhyw benderfyniadau sydd i'w gwneud yn y dyddiau nesaf ar yr achosion busnes sydd gerbron Gweinidogion Cymru wrth gwrs.
Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod yn deall y diddordeb yn y cynlluniau a'r pryderon a fynegir gan y ddwy ddeiseb. Byddaf yn rhoi ystyriaeth briodol iddynt wrth wneud penderfyniad, ac wrth gwrs, pan fydd y penderfyniad hwnnw wedi'i wneud, fe gaiff ei gyhoeddi. Diolch, Lywydd.
Janet Finch-Saunders, y Cadeirydd, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon, ac i'r Gweinidog am ei ymateb, er ei fod yn nodi bod ganddo fuddiant rhagfarnus. Roeddwn yn dal yn ddiolchgar am y wybodaeth a gyflwynodd. Wrth gloi, serch hynny, mae'n destun gofid fod mater mor bwysig wedi dod yn un mor ymrannol yn yr ardal leol a thu hwnt. Rydym i gyd yn deall bod hwn yn fater emosiynol iawn i bawb, ac yn sicr mae'r sylwadau hyfryd sydd wedi'u gwneud am yr ysbyty yn ei gyfanrwydd wedi bod yn galonogol iawn i wrando arnynt. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl heddiw yn dangos y bydd y penderfyniad cywir yn cael ei wneud yn y pen draw, ac y gall dwy ochr y ddadl ddod at ei gilydd. Mae'n amlwg fod safbwyntiau cryf ar y ddwy ochr. Gwn y bydd y bobl sydd wedi cefnogi'r ddwy ddeiseb, yn ogystal â'r Pwyllgor Deisebau ei hun, yn aros am benderfyniadau pellach gyda diddordeb. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r deisebau? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Dwi ddim yn gweld nac yn clywed gwrthwynebiad i hynny, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.