– Senedd Cymru am 4:19 pm ar 9 Mawrth 2021.
Felly, symudwn ymlaen yn awr at eitem 12, sy'n ddadl ar gyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2021-22, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig, Rebecca Evans.
Cynnig NDM7611 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2021-22 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c;
b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c; ac
c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c.
Diolch am y cyfle i agor y ddadl hon ar gyfraddau treth incwm Cymru. Fel y gwyddoch chi, cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymru ym mis Ebrill 2019 ac maen nhw'n berthnasol i dalwyr treth incwm sy'n byw yma yng Nghymru. Cafodd cyfraddau Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf eu nodi yng nghyhoeddiad y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr. Yn unol ag ymrwymiadau blaenorol, ni fydd unrhyw newidiadau i lefelau treth incwm Cymru yn 2021-22. Bydd hyn yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu'r un dreth incwm â'u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn parhau i roi sefydlogrwydd i drethdalwyr wrth i ni geisio mynd i'r afael ag effeithiau tymor hwy y pandemig a chytundeb Brexit Llywodraeth y DU.
Ynghyd â'r grant bloc, mae trethi Cymru yn hanfodol i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y mae llawer mewn cymdeithas yn dibynnu arnyn nhw. Mae diogelu'r gwasanaethau hyn bellach yn bwysicach nag erioed, ac mae heriau sylweddol wrth symud ymlaen. Mae'n siomedig bod y bwriad yn y dyfodol i rewi trothwy cyfradd sylfaenol treth incwm, a gynhwyswyd yng nghyhoeddiad Cyllideb Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, wedi effeithio mwy ar y rhai lleiaf abl i fforddio talu. Mae hyn yn mynd yn groes i'n hymrwymiad i ddarparu systemau treth blaengar yma yng Nghymru.
Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, sy'n gyfrifol am weinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru. Rwy'n falch o adrodd bod y prosiect Cyfraddau Treth Incwm Cymru wedi'i derfynu’n ffurfiol ar ôl ei weithredu'n llwyddiannus. Ychydig o dan £8 miliwn oedd cost derfynol y prosiect gweithredu, a oedd yn llai na'r rhagolwg gwreiddiol. Un o elfennau olaf y prosiect oedd diwygio'r crynodeb treth blynyddol sydd ar gael i bob trethdalwr, drwy eu cyfrif personol gyda CThEM. I drethdalwyr Cymru, mae hyn bellach yn dangos faint o gyfraddau treth incwm Cymru y maen nhw wedi'u talu am y flwyddyn dreth. Ochr yn ochr â hyn, rydym ni wedi datblygu cyfrifiannell Cyfraddau Treth Incwm Cymru ar-lein, gan roi dadansoddiad o le mae cyfraniadau unigol wedi'u dyrannu ar draws gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Mae'r ddau gynnyrch hyn yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Gyfraddau Treth Incwm Cymru a sut y maent cael eu gwario, gan ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.
Roeddwn hefyd yn falch bod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar weinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, wedi cadarnhau bod gan Gyllid a Thollau EM reolau a gweithdrefnau digonol ar waith i sicrhau bod cyfraddau treth incwm Cymru yn cael eu hasesu a'u casglu'n briodol, yn ogystal â'r mesurau llywodraethu priodol. Gofynnir i'r Senedd heddiw gytuno ar benderfyniad cyfraddau trethi Cymru, a fydd yn pennu cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2021-22, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth y prynhawn yma.
Nid ydym yn cefnogi, ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru, y cyfraddau treth incwm hyn yng Nghymru, ac fe hoffem ni bleidleisio yn eu herbyn, ond nid wyf am wneud hynny, oherwydd os na chânt sêl bendith, byddwn yn gweld twll enfawr yn ein gwariant cyhoeddus oherwydd y swm a dynnwyd oddi ar y grant bloc. Felly, byddwn yn ymatal ar y cynnig hwn.
Yn sicr, nid ydym yn cefnogi'r cyfraddau treth incwm hyn yng Nghymru oherwydd ni ddylid cael cyfraddau treth incwm Cymru, oherwydd cawsom refferendwm yn 2011, pan sicrhawyd pleidleiswyr, ar y papur pleidleisio, 'Ni all y Cynulliad ddeddfu ar dreth, beth bynnag fo canlyniad y bleidlais hon.' Mae'r addewid hwnnw wedi'i dorri, ac mae arnaf ofn bod y refferendwm hwnnw wedi'i annilysu o ganlyniad.
Yn 2016, mis Rhagfyr, cytunodd Mark Drakeford, y Gweinidog Cyllid, y Prif Weinidog erbyn hyn, â Llywodraeth San Steffan i ddatganoli cyfraddau treth incwm Cymru, ar ôl cytuno'n flaenorol i beidio â gwneud hynny, gyda'r sicrwydd hwnnw ar y papur pleidleisio. Ac fe dorrwyd yr addewid hwnnw. Gwelsom, yn Neddf Cymru 2017, y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn torri eu haddewid hefyd. Cawsom ein sicrhau na fyddai cyfraddau treth incwm Cymru heb refferendwm pellach. Nid felly y bu.
Croesawaf yr hyn a ddywed y Prif Weinidog am roi cyhoeddusrwydd i gyfraddau treth incwm Cymru. Mae llawer o bobl nad ydynt yn ymwybodol ohonyn nhw, oherwydd nid ydyn nhw wedi newid. Ond, mewn un agwedd bwysig iawn, bu newid, oherwydd pan gawsom ni y cyfraddau treth incwm hynny yng Nghymru wedi'u datganoli, lleihawyd y grant bloc o swm cyfatebol, ac roedd angen rhagweld faint y cai'r grant bloc ei leihau yn y dyfodol, gan gynnwys ystyried rhagolwg ar gyfer y cyfraddau treth incwm hynny yng Nghymru. Nawr gwelwn ein bod yn cael £35 miliwn yn llai o arian nag y byddem ni, oherwydd y cyfraddau treth incwm hynny yng Nghymru, oherwydd nad ydyn nhw wedi esgor ar gymaint ag y rhagwelwyd, ac yr ydym ni yng Nghymru mewn perygl oherwydd hynny, oherwydd datganoli cyfraddau treth incwm Cymru. Wrth gwrs, mae materion eraill y gall y Gweinidog cyllid siarad amdanyn nhw o ran y compact cyllidol, ond ni ddylai'r cyfraddau treth incwm hynny yng Nghymru fod wedi'u datganoli, ac mae cost o £35 miliwn yn rhwym wrth hynny.
Nawr, beirniadodd y Prif Weinidog Lywodraeth y DU am rewi'r trothwy treth incwm personol, gan ddweud mai'r rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf talu fyddai'n dioddef fwyaf. Wrth gwrs, nid yw'r rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf talu yn talu'r dreth incwm, oherwydd mae llawer yn ennill llai na'r trothwy hwnnw, ac yn arbennig felly yng Nghymru. Gwelwn hefyd rewi'r trothwy cyfradd uchaf, sydd, wrth gwrs, yn arwain at gostau'n cael eu talu gan y rhai sy'n fwy abl i dalu'r costau hynny, felly synnais o glywed y feirniadaeth honno. Mae angen i ni ddeall bod datganoli'r cyfraddau hyn, hyd yn oed os nad ydynt wedi newid, yn costio £35 miliwn y flwyddyn, o ystyried y refeniw nad ydym yn ei gael, a'i fod yn tanseilio ffydd, ac mae'n annilysu'r refferendwm hwnnw yn 2011 oherwydd bod yr addewid y seiliwyd ef arno wedi'i dorri.
Diolch. A gaf i alw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl? Rebecca Evans.
Diolch yn fawr iawn i Mark Reckless am ei sylwadau yn y ddadl. Mae gennyf ddiweddariad iddo a allai newid ei feddwl o ran gwerth cyfraddau treth incwm Cymru, oherwydd yn seiliedig ar ragolygon cyfredol, effaith net cyfraddau treth incwm Cymru yw cynnydd o £30 miliwn yn 2021-22, a hynny, wrth gwrs, yn wahanol i'r rhagolwg o finws £35 miliwn yn rhagolygon trethi Cymru ym mis Rhagfyr. Ac mae hynny'n ymwneud yn rhannol â chanlyniad data diweddar sy'n dangos perfformiad enillion cymharol uwch i dalwyr y dreth incwm yma yng Nghymru. Felly, gallai hynny newid barn Mark Reckless o bosibl am gyfraddau treth incwm Cymru, er fy mod yn amau na fydd yn ddigon i wneud hynny. Ond rwy'n falch ei fod yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu â threthdalwyr, oherwydd rydym ni yn gweithio'n agos gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i sicrhau bod pobl yma yng Nghymru yn fwyfwy ymwybodol o gyfraddau treth incwm Cymru. Ac mae ein harolygon, yr ydym ni wedi'u comisiynu gan Beaufort Research, yn dangos bod cynnydd o ran ymwybyddiaeth pobl. Ac fel yr wyf wedi sôn yn y Pwyllgor Cyllid ac yn fy sylwadau agoriadol, rydym ni wedi cyflwyno rhai eitemau newydd eleni, gan gynnwys y gyfrifiannell cyfraddau treth incwm Cymru y gall unigolion ei defnyddio ar-lein i weld yn union i le mae eu cyfraddau treth incwm Cymru yn mynd o ran cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gam arall ymlaen o ran addysg, ymwybyddiaeth, a hefyd, yn bwysig, tryloywder yma yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar i Mark Reckless am ei gyfraniad, ond byddwn yn gofyn i bob cyd-Aelod gefnogi ein cyfraddau treth incwm Cymru heddiw. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiad, felly pleidleisiwn eto ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.