1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 10 Mawrth 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a ydych yn difaru’r ffaith bod cyfraddau gosod capasiti ynni adnewyddadwy newydd wedi gostwng bob blwyddyn o dan Lafur yng Nghymru ers 2015?
Credaf ein bod wedi gwneud llawer iawn i gefnogi’r gwaith o osod cynlluniau ynni adnewyddadwy. Rwyf wedi gweithio'n agos iawn gydag unrhyw un sy'n fodlon cyflwyno'r cynlluniau. Yfory, byddaf yn cyfarfod â datblygwyr ac yn edrych ar gynlluniau newydd. Mae’n rhaid ichi ddeall ein bod wedi darparu cryn dipyn o gyllid hefyd, ond mae gwir angen datblygwyr arnom ac mae angen inni weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl ysgogiadau'n cael eu defnyddio mewn perthynas â gosod cynlluniau newydd.
Ond nid yw hynny'n newid y ffaith bod y gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn arafu o dan wyliadwriaeth Llafur. Dylai datgan argyfwng hinsawdd olygu cynyddu gwaith datblygu a'i gyflymu, ond nid ydych wedi cyflawni hynny. Nawr, efallai na ddylem synnu, o ystyried eich bod yn torri cymorth i’r sector ynni dŵr, er enghraifft, yng Nghymru, gan adael llawer o'r cynlluniau hynny'n wynebu trafferthion ariannol, ac mae'n debyg fod eich penderfyniad wedi lleihau hyder eraill hefyd a oedd yn ystyried datblygu cynlluniau ynni newydd tebyg.
Ac nid yr arafu o ran datblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru o dan eich gwyliadwriaeth yw'r unig beth y dylech ei fod yn edifar yn ei gylch wrth gwrs. Mae gwastraff plastig yn un arall. Mae'n bla y mae pob un ohonom am ei gweld yn cael ei threchu gyda chynnydd enfawr mewn ymyriadau i fynd i'r afael â'r broblem. Cefais fy ethol i'r Senedd hon yn 2011, a bryd hynny, roedd sôn am weithredu ar gynllun dychwelyd ernes. Ddeng mlynedd a dwy Lywodraeth Lafur yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros am yr ymyriadau hynny. Onid oes cywilydd arnoch nad oes gennym gynllun dychwelyd ernes yng Nghymru o hyd?
Mae hyn yn rhywbeth, fel y gwyddoch, sydd wedi dod yn ôl i fy mhortffolio yn ddiweddar, ac rwyf wedi cael sawl trafodaeth ynghylch cynllun dychwelyd ernes. Credaf mai'r peth pwysicaf i mi yw sicrhau nad yw cynllun dychwelyd ernes yn arwain at unrhyw ganlyniadau gwrthnysig, oherwydd fel y gwyddoch, rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd mewn perthynas â'n hailgylchu. Rydym wedi cyrraedd y targed ailgylchu o 65 y cant. Credaf ein bod flwyddyn o flaen y targed a oedd gennym, ac mae hynny oherwydd tri pheth: arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru, arweinyddiaeth awdurdodau lleol, a phobl Cymru sydd wedi croesawu ailgylchu. Nawr, mae angen inni symud i'r cam nesaf, a dyna pam y lansiais strategaeth yr economi gylchol yn ddiweddar.
Os mai cael 'sawl trafodaeth’ yn unig yw arweinyddiaeth, i ddyfynnu'r hyn rydych newydd ei ddweud wrthyf yn eich ateb, nefoedd, rydych wedi cael gwerth 10 mlynedd o sawl trafodaeth, Weinidog, fel Llywodraeth, ac rydych wedi mynd o arwain y DU ar yr agenda hon i geisio dal i fyny. Nid dyma weithredoedd Llywodraeth sydd o ddifrif ynglŷn ag argyfwng plastigau. A gallwch ofyn i'ch etholwyr eich hun, oherwydd gwn am grŵp—y Wrexham Litter Pickers—a gasglodd dros 1,000 o fagiau o sbwriel a gwastraff plastig yn ddiweddar, gan bwysleisio unwaith eto yr angen am fwy o frys ar y mater hwn.
Nawr, gallwn dynnu sylw at feysydd eraill rydych yn gyfrifol amdanynt lle nad ydych wedi gwneud yn ddigon da. Gwyddom am y Ddeddf aer glân. Mae hynny'n rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn dadlau o’i phlaid ers blynyddoedd lawer—rhywbeth y gwnaethoch gytuno â ni yn y pen draw ei bod yn angenrheidiol, ond serch hynny, mae’r ymateb poenus o araf gan y Llywodraeth yn golygu, unwaith eto, nad ydych wedi ei chyflwyno, a bydd angen i Lywodraeth a Senedd newydd roi’r ddeddfwriaeth hon, a fydd yn achub bywydau, ar waith o'r diwedd.
Ond mae'n rhaid imi ddweud, efallai mai'r siom fwyaf i mi yw eich methiant i sicrhau'r safonau effeithlonrwydd ynni uchaf mewn cartrefi newydd. Chwech neu saith mlynedd yn ôl, rwy'n cofio Llafur yn cyflwyno safonau newydd i'w hymgorffori yn rheoliadau adeiladu Rhan L. Nawr, galwodd Plaid Cymru ar y pryd am safonau effeithlonrwydd ynni uwch. Gwnaethoch bleidleisio yn erbyn hynny, gan fynnu cael safonau mwy cymedrol, ond fe wnaethoch hynny—gwnaeth Llafur hynny—gan ddweud y byddech yn mynd i’r afael â hynny yn y Senedd hon. A bellach, wrth gwrs, chwe blynedd yn ddiweddarach, gwyddom eich bod wedi methu gwneud hynny, a chyda'r methiant hwnnw, wrth gwrs, rydych wedi sicrhau lefel uwch o aneffeithlonrwydd ynni mewn cartrefi newydd yng Nghymru y bydd yn rhaid i Lywodraeth yn y dyfodol fynd i'r afael â hwy drwy ôl-osod a gwneud ymyriadau costus eraill mewn blynyddoedd i ddod. Felly, pam fod y Llywodraeth Lafur hon wedi torri ei haddewidion ar gynifer o'r materion hyn? Ac a dweud y gwir, pam y dylai pobl Cymru gredu unrhyw beth a ddywedwch yn y dyfodol, o gofio eich methiant i gyflawni eich addewidion?
Dylwn ddatgan fy mod yn aelod o'r Wrexham Litter Pickers y cyfeiriodd Llyr Gruffydd atynt—mae'n rhaid inni gofio nid y Llywodraeth sy'n taflu sbwriel; pobl sy'n taflu sbwriel—a hoffwn ganmol y gwaith y maent wedi'i wneud. Ac fe fyddwch yn ymwybodol o'r cynllun atal sbwriel a thipio anghyfreithlon y soniais amdano mewn ateb cynharach i Jayne Bryant.
Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud llawer iawn mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni ac wedi gwario miliynau o bunnoedd ar gartrefi. Mae gennym stoc dai hen iawn yma yng Nghymru a chredaf fod fy nghyd-Weinidog Julie James wedi gwneud gwaith gwych yn sicrhau nad ydym yn adeiladu cartrefi yn awr y bydd angen eu hôl-osod ymhellach ymhen blynyddoedd i ddod. A chredaf mai’r hyn rydym yn ei weld yma yw nid chi’n dangos methiannau'r Llywodraeth hon, gan nad wyf yn cydnabod y rhai y soniwch amdanynt, ond maniffesto Plaid Cymru.
Llefarydd y Ceidwadwyr nawr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, Weinidog, gan mai rhain yw cwestiynau olaf y llefarwyr ar gyfer y tymor hwn, roeddwn am ddiolch i chi. Rydym wedi cael craffu a herio bywiog a chadarn, a hoffwn ddiolch i chi am eich atebion ar hyd y daith. Diolch, Lesley.
Nawr, yn ôl y Papur Gwyn ar Fil aer glân (Cymru), efallai na fydd rheoliadau’n cael eu gosod tan wanwyn 2024—byddai hynny chwarter canrif i mewn i fywyd Senedd Cymru, er i'r Prif Weinidog ddweud wrth y Siambr hon ym mis Mai 2019 fod y ddadl wedi bod yn mynd rhagddi ers degawd, ei fod eisoes wedi cael trafodaethau gyda chi, ac ar yr adeg honno, fod y gwaith paratoi mewnol yn Llywodraeth Cymru wedi dechrau ynghylch sut y gallai Deddf aer glân gael ei datblygu. Bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae Llywodraeth Cymru wedi methu cyflawni’r addewid yng nghais arweinyddiaeth y Prif Weinidog—ac rwy'n dyfynnu—i
'ddatblygu Deddf Aer Glân newydd i sicrhau y gall ein plant fynd i'r ysgol, bod yn egnïol a chwarae y tu allan yn ddiogel heb ofn problemau anadlu, megis asthma, oherwydd y lefelau llygredd yn rhai o'n trefi a'n dinasoedd.'
Ym mis Medi 2019, fe ddywedoch chi wrth y Siambr hon eich bod yn parhau i wneud cynnydd tuag at gyflwyno Deddf aer glân i Gymru. A ydych bellach yn difaru methiant Llywodraeth Cymru yn ystod tymor y Senedd hon i gyflwyno’r Ddeddf hon neu hyd yn oed i gyflwyno Bil drafft ac asesiad effaith reoleiddiol llawn? Diolch.
Diolch. Byddwn wedi bod wrth fy modd yn cyflwyno Deddf aer glân drwy'r Llywodraeth hon. Fel y dywedwch, roedd yn rhan o gais arweinyddiaeth y Prif Weinidog yn ôl ym mis Rhagfyr 2018, felly ychydig dros ddwy flynedd yn ôl. A beth sydd wedi digwydd yn ystod y ddwy flynedd honno? Credaf y gallwch gydnabod pam fod cymaint o bwysau wedi bod ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru ac, yn anffodus, nid oedd gennym y capasiti i gyflwyno Bil aer glân a Deddf wedyn yn ystod tymor y Llywodraeth hon, ac rwy’n gresynu at hynny a gwn fod y Prif Weinidog yn gresynu at hynny. Fodd bynnag, ni chredaf fod unrhyw Aelod yn y Senedd hon nad ydynt yn gallu deall bod ein rhaglen ddeddfwriaethol wedi ymwneud yn gyfan gwbl â phandemig COVID-19, ac, wrth gwrs, gadael yr Undeb Ewropeaidd a'r pwysau y mae hynny wedi’i roi ar ein capasiti cyfreithiol, ac fel y dywedaf, ar ein rhaglen ddeddfwriaethol.
Fodd bynnag, yr hyn rydym wedi'i wneud yw lansio'r cynllun aer glân ar gyfer Cymru, a gyhoeddais yn ôl ym mis Awst y llynedd. Mae hwnnw’n nodi ystod o gamau i gyflawni'r gwelliannau y mae pob un ohonom yn dymuno’u gweld yn ansawdd yr aer ledled Cymru.
Nid oes angen deddfwriaeth arnoch ar gyfer popeth o reidrwydd, felly credaf fod y cynllun aer glân hwnnw wedi sicrhau rhai o'r gwelliannau rydym am eu gweld. Cyhoeddais hefyd yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Fil aer glân (Cymru) ar 13 Ionawr. Fel y gwyddoch, bydd hwnnw’n cau ar 7 Ebrill, fel y gall y Llywodraeth, yn nhymor y Llywodraeth nesaf, fod mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â'r Ddeddf, fel y dymuna.
Diolch. Er ichi yr oeddech chi'n iawn wrth gyfaddef i’r Senedd ym mis Ionawr y byddech wedi dymuno cyflwyno’r Papur Gwyn ar y Bil aer glân yn gynt, ni ellir gwadu’r ffaith y byddai camau deddfwriaethol cyflym wedi bod o fudd i iechyd y cyhoedd. Mae'r baich marwolaethau hirdymor y gellir ei briodoli i gysylltiad â llygredd aer rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Mae mwy na 57 o ganolfannau iechyd, 54 o bractisau meddygon teulu a thri ysbyty ar lefelau uwch na therfyn diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer PM2.5.
Fe wnaethoch chi hyd yn oed nodi bod llygredd aer, fel COVID, yn effeithio'n anghymesur ar y rhai mwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn ein cymdeithas. Er bod llygredd aer yn cael ei gydnabod fel perygl mwyaf y byd o ran iechyd yr amgylchedd, a’r ffaith bod eich asesiad effaith rheoleiddiol presennol yn amcangyfrif bod yr effaith iechyd ariannol yn £950 miliwn y flwyddyn, rydych wedi dewis blaenoriaethu deddfwriaeth ar lygredd amaethyddol, a fydd, yn ôl eich memorandwm esboniadol eich hun, yn effeithio'n negyddol ar iechyd meddwl a llesiant.
Mewn argyfwng iechyd ac argyfwng hinsawdd, a ydych yn cydnabod y dylech fod wedi canolbwyntio mecaneg y Llywodraeth ar gynorthwyo iechyd pobl drwy ddeddfu ar lygredd aer, yn hytrach nag effeithio'n negyddol ar iechyd y cyhoedd drwy ddynodi Cymru gyfan yn barth perygl nitradau? Fe wnaethoch dynnu sylw, yn gwbl gywir, at y pwysau sydd wedi bod ar y Llywodraeth gyda chyngor cyfreithiol a chyngor arall i gyflwyno deddfwriaeth. Fe wnaethoch fethu gyda'r Ddeddf aer glân, ond serch hynny, roeddech yn barod i fradychu'r ffermwyr gyda'r parth perygl nitradau. Beth yw'r rhesymeg wrth wraidd hynny, Weinidog?
Wel, nid wyf yn bradychu’r ffermwyr. Yr hyn rwy’n ceisio’i wneud yw lleihau nifer yr achosion o lygredd amaethyddol sy'n cael effaith negyddol enfawr ar ansawdd ein haer, yn ogystal ag ansawdd ein dŵr. Felly, mae arnaf ofn nad yw'r ddadl a wnaed gennych yn gwneud unrhyw synnwyr. A gadewch imi ddweud yn glir: nid oes a wnelo hyn â’r parthau perygl nitradau yn unig. Nid oes a wnelo â nitradau yn unig. Mae hyn yn ymwneud â ffosffadau. Mae hyn yn ymwneud ag achosion o lygredd amonia hefyd. Felly, mae'n fwy na’r parth perygl nitradau y clywaf amdano o hyd.
Mewn perthynas ag iechyd meddwl wrth gwrs, nid oes arnoch eisiau unrhyw beth a fyddai'n niweidiol i iechyd meddwl unrhyw un. Rwyf wedi rhoi cryn dipyn o arian i wasanaethau cymorth iechyd meddwl ar gyfer ein sector amaethyddol, gan fy mod yn deall ei fod yn gyfnod anodd. Ond yr un peth sydd wedi achosi’r trallod mwyaf i ffermwyr yn nhymor y Llywodraeth hon ac yn ystod fy nghyfnod yn y portffolio hwn yw gadael yr Undeb Ewropeaidd, a'r ansicrwydd ynghylch hynny.
Nawr, mae’r gyllideb ar gyfer 2021-22 yn dystiolaeth bellach o’ch diffyg blaenoriaeth i lygredd aer. Fe wnaethoch chi gyfaddef i’n Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig nad oes amcangyfrif cost manwl i’w gael o hyd ar gyfer y cynllun aer glân a gyhoeddwyd saith mis yn ôl. Mae'r £3.4 miliwn o gyllid refeniw a'r £17 miliwn o gyllid cyfalaf a ddyrannwyd ar gyfer gweithredu ar ansawdd aer yr un fath â'r flwyddyn flaenorol, ac felly mae'n cynrychioli toriad mewn termau real.
Mewn gwirionedd, gwn nad dyma’r tro cyntaf i hyn gael ei godi gyda chi, gan y gwnaed gwaith craffu arnoch mewn perthynas â’r mater yn ystod y pwyllgor ym mis Ionawr, pan wthioch chi'r pryderon ynghylch cyllid i un ochr drwy ddweud wrthym unwaith eto fod gennych flaenoriaethau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd yn y gyllideb, ac wrth gwrs, effaith COVID-19. Fel y gwyddoch, rwy'n cydnabod yr her honno, ond mae'n dal i fod angen i chi egluro pam nad oes amcangyfrif cost manwl i’w gael ar gyfer y cynllun hwn, a pham y gwnaethoch benderfyniad gwleidyddol i ddadflaenoriaethu'r argyfwng iechyd a achoswyd gan lygredd aer drwy wneud toriad mewn termau real i’r cyllid.
Wel, fel y gwyddoch, mae'n rhaid ichi wneud penderfyniadau ynglŷn â’ch cyllideb. Pot cyfyngedig o arian yn unig sydd ar gael, ac wrth gwrs, rydych yn gwneud hynny. Mae llawer o alw am y gyllideb honno, ac mae'n ymwneud â sicrhau bod digon o arian ar gyfer popeth. Ond yn amlwg, nid yw bob amser yn wir eich bod yn gallu cynyddu cyllid yn y meysydd y dymunwch. Mae'n ymwneud â sicrhau eich bod yn darparu ar gyfer cymaint ag y gallwch. Yr hyn a wnaeth y cynllun aer glân, fel y dywedaf, oedd nodi'r ystod o gamau gweithredu i gyflawni gwelliannau er budd iechyd y cyhoedd, fel y nodoch chi, a bioamrywiaeth, ac wrth gwrs, ein helpu gyda'r argyfwng hinsawdd. Ac rwy'n ceisio sicrhau bod digon o gyllid. Rydym yn agosáu at ddiwedd cyllideb eleni, a chredwch fi, mae ceisio rheoli'r tanwariant a'r gorwariant yn gamp eithaf anodd y mae swyddogion, diolch byth, yno i fy nghynghori arni. Felly, ni chredaf ein bod wedi dadflaenoriaethu hyn. Ac yn amlwg, wrth inni fwrw ymlaen â’r Bil ar gyfer Deddf aer glân, bydd cryn dipyn o dystiolaeth y gellir craffu arni mewn perthynas â'r gyllideb. Ond rwy'n gobeithio y ceir cydnabyddiaeth fod gennym benderfyniadau anodd iawn i'w gwneud—mae gan bob llywodraeth—a’n bod yn gwneud ein gorau i sicrhau, ac yn sicr pan edrychaf yn ôl ar eleni, credaf fod pawb mewn gwahanol rannau o fy mhortffolio wedi cael y cyllid oedd ei angen.