– Senedd Cymru am 6:44 pm ar 24 Mawrth 2021.
Symudwn ymlaen at eitem 22, sef y ddadl fer, a symudaf yn awr at ddadl fer heddiw i ofyn i Mark Isherwood siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis—Mark Isherwood.
Diolch. A gaf fi ddechrau eto drwy ddweud cymaint rwyf wedi mwynhau gweithio gyda chi, yn enwedig yng ngogledd Cymru, ac yn bersonol, cymaint y byddaf yn gweld eich colli?
Symudaf ymlaen at fy araith. Rwyf wedi cytuno i gyfraniadau gan Rhun ap Iorwerth a Dawn Bowden ar ddiwedd yr araith hon. Amcangyfrifir bod 3,600 o blant yng Nghymru yn byw gyda chyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd. Er bod gan oddeutu 800 o'r plant hyn anghenion gofal lliniarol parhaus sy'n galw am gysylltiad â gwasanaethau ysbytai, dim ond tua hanner y rhain sy'n cael seibiant mewn hosbisau plant ar hyn o bryd. Bydd yr astudiaeth o ddigwyddedd a nifer yr achosion a gomisiynwyd yn ddiweddar gan grŵp craidd bwrdd gofal diwedd oes Cymru gyfan yn rhoi ffigurau mwy diweddar inni am nifer y plant ag anghenion gofal lliniarol, a disgwylir y bydd y ffigur hwn yn cynyddu'n sylweddol yn eu hadroddiad.
Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol yn y Senedd hon, noddais a siaradais yn nigwyddiad Wythnos Gofal Hosbis Hospice UK ym mis Hydref 2019, pan ddywedais fod hosbisau plant yn dweud er eu bod yn gweithredu ar sail "prynu un, cael saith neu wyth am ddim", cyllid gwastad statudol y maent wedi bod yn ei gael ers deng mlynedd.
Y mis canlynol, arweiniais ddadl yma, gan nodi adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol ar anghydraddoldebau mynediad at ofal hosbis a gofal lliniarol, pan ddywedais,
'Mae hosbisau plant Cymru yn galw am weithredu ar yr argymhellion a wnaed gan adroddiad y grŵp trawsbleidiol ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru ariannu'r astudiaeth sy'n archwilio'r galw am ofal lliniarol i blant yng Nghymru ac i ba raddau y mae hynny'n cael ei gyflawni.'
Flwyddyn yn ddiweddarach, ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd y ddwy elusen hosbis plant yng Nghymru, Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith, eu hadroddiad ar y cyd, 'Lleisiau ein Teuluoedd'. Roedd yr adroddiad hwn yn cyflwyno'n rymus ac yn glir, ac yn eu geiriau hwy, pryderon pwysicaf teuluoedd sydd â phlant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd.
Roeddent yn galw hosbisau plant yng Nghymru yn 'achubiaeth', ac yn dweud eu bod angen mwy o'r gofal na all ond hosbisau ei ddarparu a hynny ar frys, yn enwedig mewn perthynas â gofal seibiant. Mae'r adroddiad yn amlinellu eu cynnig i symud tuag at fodel ariannu cynaliadwy sy'n cyd-fynd yn well ag elusennau hosbisau plant ym mhob gwlad arall yn y DU. Bydd yr arian hwn yn rhoi hyder i hosbisau plant yng Nghymru allu cynnal ac ehangu eu gwasanaethau er mwyn diwallu'n well anghenion pob plentyn sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd, ledled y wlad, gan helpu yn eu tro i wireddu uchelgais Cymru i fod yn wlad dosturiol. Maent yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i sefydlu cronfa achub ar gyfer hosbisau plant yn nhymor nesaf y Senedd ac yn sicr, bydd fy mhlaid i'n ymrwymo i'r addewid hwnnw.
Mae hosbisau plant yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau plant a theuluoedd y mae eu byd wedi ei droi wyneb i waered gan ddiagnosis o salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Gyda theuluoedd yn disgrifio hosbisau plant fel eu hachubiaeth, dywedodd y mwyafrif helaeth o deuluoedd a holwyd ar gyfer yr adroddiad mai hosbisau oedd eu hunig ffynhonnell neu eu prif ffynhonnell o ofal seibiant. Fodd bynnag, gan ddibynnu bron yn gyfan gwbl ar gyllid elusennol, dim ond tua chwarter yr amser y gallant ddiwallu'r anghenion hynny. Mae'r neges yn glir iawn: mae angen mwy o gymorth ar deuluoedd a hynny ar frys. Nid yw'n ymwneud â chyllid COVID, er eu bod yn ddiolchgar amdano. Mae'n ymwneud â chreu ffynhonnell ariannu gynaliadwy fel nad ydynt yn dibynnu ar haelioni'r cyhoedd yng Nghymru am 90 y cant neu fwy o'u cyllid, yn enwedig ar yr adeg hon o ansicrwydd economaidd mawr.
Ac nid yw'n ymwneud â seibiant yn unig. Fel rhan o'r ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol, maent yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi plant a theuluoedd yn eu hosbisau, gartref, yn yr ysbyty, ac yn ein cymunedau, gan gynnwys gweithwyr cymorth i deuluoedd, cymorth i frodyr a chwiorydd, cwnsela profedigaeth a gofal diwedd oes.
Ddydd Llun, siaradais â Nerys Davies o Lanrwst, un o nifer o deuluoedd a rannodd eu stori hosbis gyda mi. Cafodd mab Nerys, Bedwyr, sy'n bump oed, ac sydd bellach yn defnyddio Tŷ Gobaith, ddiagnosis o syndrom genetig Coffin-Siris ddwy flynedd yn ôl. Mae'r cyflwr yn achosi anabledd dysgu sylweddol ac mae'n eithriadol o brin, gyda dim ond 200 o blant yn cael diagnosis ohono yn fyd-eang. Mae Bedwyr hefyd yn cael ei fwydo drwy diwb, mae ganddo broblemau anadlu ac nid yw'n gallu siarad. Fel y dywed Nerys, 'Nid yw hynny'n ei atal rhag cyfathrebu serch hynny. Mae'n cyfathrebu llawer drwy symudiadau, felly mae'n mynd â chi i'r gegin, i'r cwpwrdd, lle cedwir ei fyrbrydau. Mae e'n ddireidus iawn.' Mae gofalu am blentyn sydd â chyflwr fel un Bedwyr yn rôl amser llawn. Fel y dywed Nerys, 'Rydych chi'n edrych ymlaen yn fawr at y pethau bach y mae pobl eraill yn gallu eu cymryd yn ganiataol, fel gallu cysgu yn y nos neu eistedd i fwyta pryd o fwyd mewn heddwch, hyd yn oed os mai dim ond ffa pob ar dost yw'r pryd, neu ddim ond i gael cwpanaid o de. Mae seibiant hosbis mor bwysig i ni fel rhieni, yn gorfforol ac yn feddyliol, oherwydd hebddo, mae teuluoedd yn mynd i wynebu argyfwng yn y pen draw. Bydd hynny'n costio llawer mwy i'r gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd ymdrin ag ef yn y pen draw.' Fel y dywedodd wrthyf hefyd, 'Gallwn fynd i Ysbyty Gwynedd, ond mae gan Dŷ Gobaith wybodaeth arbenigol ar gyfer plant, ac mae'n wasanaeth un-mewn-miliwn i bob un ohonom.'
Daeth Bryn a Liz Davies o Fae Cinmel yn ymwybodol am y tro cyntaf fod gan eu baban yn y groth gyflwr ar y galon yn y sgan 20 wythnos. Yn ddwy oed, ar ôl cael dwy lawdriniaeth fawr eisoes, cafodd Seren ddiagnosis hefyd o anhwylder genetig eithriadol o brin. Roedd Seren wrth ei bodd gyda'i hymweliadau seibiant â Thŷ Gobaith. Gan ei bod mor hapus ac yn cael gofal gan nyrsys proffesiynol, a oedd yn gwybod am ei chyflwr ac yn ei ddeall, roedd Liz a Bryn yn teimlo y gallent ddal i fyny ar gwsg mawr ei angen ac ailwefru eu batris, a threulio amser gyda'u mab, Iwan. Meddai Bryn, 'Roedd yn dawelwch meddwl gwybod bod Seren mewn dwylo da iawn, a rhoddodd hynny amser i ni wneud yn siŵr fod Iwan yn cael plentyndod hefyd.' Yn anffodus, bu farw Seren ym mis Ionawr eleni, yn ddim ond chwe blwydd oed.
Dioddefodd Oliver Evans o Acrefair haint feirysol pan oedd yn fabi sydd wedi ei adael gyda chlefyd cronig yr ysgyfaint a phroblemau gyda'i arennau. Er mwyn goroesi, mae angen iddo fod wedi'i gysylltu 24 awr y dydd â'i gyflenwad ocsigen personol ei hun, a chymryd cyfres gyfan o wahanol feddyginiaethau. Fel y dywedodd ei fam, 'Yn ystod cyfyngiadau symud COVID, pan oeddem yn gwarchod, maent hwy yno drwy'r amser hefyd, yn fy ffonio'n rheolaidd i gadw llygad arnom a chynnig help a chyngor, a hyd yn oed yn dod i siarad drwy'r ffenestr mewn cyfarpar diogelu personol llawn. Fe wnaethant hyd yn oed ein helpu drwy gasglu holl feddyginiaeth Oliver a dod ag ef atom. Ni allaf ddechrau meddwl sut beth fyddai bywyd i ni heb Dŷ Gobaith. Hwy'n bendant yw ein hachubiaeth.'
Mae hosbisau plant yn darparu gofal a chymorth gydol oes dwys iawn, yn bennaf dros gyfnod estynedig, blynyddoedd lawer yn aml, yn hytrach na'r gofal dwys iawn sy'n aml yn digwydd yn sydyn ond am gyfnod cymharol fyr sy'n fwy cyffredin yn y sector oedolion. Nid yw mater cyllid anghyfartal i hosbisau plant yng Nghymru yn newydd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maent wedi syrthio ar ôl gwledydd eraill y DU o ran y cymorth sydd ar gael i'r teuluoedd mwyaf agored i niwed hyn. Mae hosbisau plant yn yr Alban yn cael hanner eu cyllid gan y wladwriaeth. Yn Lloegr, mae'n 21 y cant; yng Ngogledd Iwerddon, mae'n 25 y cant. Cyhoeddodd Gweriniaeth Iwerddon yn ddiweddar y byddai'n ariannu 30 y cant o gostau rhedeg hosbisau plant. Yng Nghymru, mae'r ffigur cymharol yn llai na 10 y cant.
Yr hyn sydd wedi newid yw'r dystiolaeth a gasglwyd yn adroddiad 'Lleisiau ein Teuluoedd', ynglŷn â'r effaith y mae'r setliad ariannu cyfyngedig hwn yn ei chael ar rai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Dyna pam eu bod yn galw am gronfa achub i hosbisau plant yng Nghymru, er mwyn ariannu nosweithiau ychwanegol hanfodol o ofal mewn hosbisau plant i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yng Nghymru. Roedd 'Lleisiau ein Teuluoedd' yn glir: mae nosweithiau ychwanegol o seibiant dan arweiniad nyrsys ar gyfer pob plentyn a theulu, gyda chefnogaeth yr hosbisau, yn hanfodol i iechyd meddwl a'r berthynas rhwng aelodau'r teulu cyfan, ac yn eu hachub rhag torri. Caniatáu i hosbisau ddatblygu perthynas gadarnhaol â'r teulu drwy gydol oes plentyn, gan sefydlu gwaith partneriaeth dibynadwy, a dealltwriaeth ddyfnach o anghenion y plentyn a'r teulu. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at ofal diwedd oes a chymorth profedigaeth mwy effeithiol, a chanlyniadau gwell i'r teuluoedd ar yr adeg y maent yn wynebu'r anochel a'r torcalon o golli eu plentyn. Lleihau derbyniadau heb eu cynllunio a derbyniadau mewn argyfwng i'r ysbyty i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, gan leihau'r baich ar y GIG yn ei dro. Sicrhau y gall ein hosbisau gynnal ac ehangu eu gofal mewn meysydd eraill, megis ffisiotherapi a chymorth therapiwtig arall, cymorth a chyngor clinigol, ac fel rhan o ecosystem ehangach darparwyr gofal diwedd oes y GIG a chymorth profedigaeth. Rhoi hyder ariannol i hosbisau gynllunio i ehangu gwasanaethau cynaliadwy, a chyrraedd mwy o blant a theuluoedd, gan wybod y gallant ddiwallu eu hanghenion heb amddifadu eraill o wasanaethau hanfodol. Cefnogi llywodraeth leol i fodloni ei gofynion statudol mewn perthynas â gofal seibiant, na ellir ei fodloni heb sector hosbisau plant cynaliadwy. Symud Cymru o waelod tabl y gwledydd cartref, o ran cyllid y pen i hosbisau plant. Ac yn y pen draw, sicrhau bod Cymru'n cymryd cam hanfodol ymlaen yn ein cenhadaeth genedlaethol i ddod yn wlad dosturiol.
Rwyf am orffen drwy ddyfynnu'r hosbisau plant eu hunain, a ddywedodd wrthyf: 'Rydym yn falch o fod yn elusennau. Nid ydym yn chwilio am gardod, rydym yn chwilio am rywbeth sy'n gwarantu i'r teuluoedd hyn y byddwn yno ar eu cyfer. Rydym am ddiwallu'r angen.' Yn olaf, ond nid yn lleiaf, roeddent yn dweud, 'Mae cyllid statudol yn gorffen wrth ein drysau ar hyn o bryd. Byddai agor hyn yn ein galluogi i gynnig mwy o ofal seibiant a mwy o wasanaethau i'r rhai sydd ein hangen.' Sut y gallai unrhyw un anghytuno â hynny? Diolch.
Diolch, Mark Isherwood, am y cyfle i ddweud ychydig eiriau yn y ddadl olaf un yn y pumed Senedd, ac mae hi'n ddadl bwysig iawn. Yr oll dwi eisiau ei ddweud ydy na allwn ni orbwysleisio pwysigrwydd y gofal sy'n cael ei gynnig yn ein hosbisau plant ni yng Nghymru. Ac mae cael ymrwymiad cwbl gadarn gan y Llywodraeth i sicrhau cefnogaeth i'r sector yma yn allweddol. Dwi'n edrych ymlaen, gobeithio, i gael cyfle i gynyddu'r gefnogaeth honno yn y chweched Senedd.
Dwi eisiau ategu galwad Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan i sefydlu lifeline fund, cronfa fyddai'n gwneud yn union beth mae hi'n ei ddweud, sef bod yn achubiaeth i'r hosbisau eu hunain, yn cefnogi a chynnal eu gwaith nhw, yn caniatáu ymestyn eu gwaith, ond, yn allweddol, yn gwneud hynny er mwyn cynnig lifeline i'r teuluoedd sydd mor ddibynnol ar y gwasanaethau. Mae yna ddiffyg dybryd o ofal seibiant i blant a dyma gyfle i roi sylfaen gadarnach i wasanaethau mewn blynyddoedd i ddod.
Diolch, Mark Isherwood, am gyflwyno'r ddadl bwysig iawn hon, ac roeddwn am ddweud mor addas yw hi ein bod yn trafod mater mor bwysig ar ddiwrnod olaf tymor y Senedd hon. Ac rwyf am siarad yn fyr iawn am deulu yn fy etholaeth.
Rwyf eisiau siarad am Caden. Mae'n byw gyda'i fam, Lisa, ym Merthyr Tudful, a dywedodd Lisa fod ei bywyd wedi stopio y diwrnod y cafodd hi Caden, oherwydd wedyn daeth yn nyrs iddo, 24 awr y diwrnod, saith diwrnod yr wythnos. Credaf y gall llawer o rieni newydd uniaethu â hynny, yn enwedig wrth ymdopi â'r pandemig, ond pan ychwanegwch y straen o wybod bod gan y bachgen bach hwn salwch sy'n cyfyngu ar fywyd ac y gallai'r bywyd hwnnw ddod i ben ar unrhyw adeg, gallai'r pwysau hwnnw fod yn aruthrol. Cyn mynd i Dŷ Hafan a chael gofal seibiant, dywedodd Lisa fod y pwysau'n aruthrol iddi, nid oedd yn ymdopi ac roedd hi'n gwadu'r modd roedd y pethau hyn yn effeithio arni. Diolch byth, fe gafodd y gofal seibiant a gynigiwyd i Caden a'i deulu wared ar y pwysau hwnnw: fe wnaeth ganiatáu iddynt ddal i fyny â'u cwsg; rhoddodd le diogel iddynt siarad am yr heriau roeddent yn eu hwynebu; ac roedd Caden wrth ei fodd yn chwarae a rhyngweithio â phlant eraill. Newidiodd bopeth i'r teulu hwnnw.
Dyna pam y mae'r teuluoedd hyn yn cyfeirio at y gofal a gânt mewn hosbisau fel achubiaeth, fel y mae Mark Isherwood eisoes wedi'i ddweud, a pham y mae cymaint o angen cronfa achub bwrpasol. Rwy'n nodi bod adolygiad ar ariannu hosbisau wedi'i gyhoeddi, ac rwy'n croesawu hynny, ond gwyddom eisoes nad yw anghenion y bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru'n cael eu diwallu'n llawn. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn i gyd ymrwymo heddiw, fel un o weithredoedd terfynol y Senedd hon, i sicrhau bod cronfa achub yn flaenoriaeth ar unwaith i'r Senedd nesaf.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl, Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl bwysig hon i'r Siambr ac i Dawn Bowden a Rhun ap Iorwerth am y cyfraniadau y gwrandewais arnynt. Ac rwy'n cydnabod y straeon y mae pob un ohonynt wedi'u hadrodd am yr effaith uniongyrchol y mae hosbisau plant yn ei chael, nid yn unig ar y plant, ond ar eu teuluoedd ehangach a'u gofalwyr hefyd. Rwy'n cydnabod, a dylwn ddweud, Lywydd, fod un o'r hosbisau plant yn fy etholaeth i mewn gwirionedd. Mae hosbis Tŷ Hafan yn Sili, ym mhen deheuol De Caerdydd a Phenarth. Felly, cyn fy amser fel Gweinidog yn y Llywodraeth, roedd gennyf rywfaint o ddealltwriaeth eisoes o'r gwasanaethau eithriadol o bwysig y mae hosbisau'n eu darparu ar gyfer gofal diwedd oes, ond yn fwy na hynny, fel y dywedais, y cymorth y maent yn ei ddarparu i gleifion, teuluoedd a gofalwyr.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bob blwyddyn, mae ein hosbisau plant yn cefnogi tua 500 o blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yma yng Nghymru, ac mae'r cydbwysedd hwnnw o ofal diwedd oes a gofal parhaus i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal yn deillio o gyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd yn aml yn digwydd dros nifer o flynyddoedd. Rwyf hefyd am gydnabod y cymorth a'r cyngor amhrisiadwy y mae ein hosbisau plant yn eu darparu i deuluoedd ar gyfer rheoli poen a symptomau gofidus eu plentyn, ond hefyd, fel y dywedodd yr Aelodau, y seibiant byr y gallant eu cynnig i deuluoedd, y cymorth gofal diwedd oes tosturiol a'r gefnogaeth emosiynol hyd at a thu hwnt i farwolaeth plentyn. Mae ymchwil yn dangos bod nifer gyffredinol y plant a'r bobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd wedi cynyddu, ac mae modelu'n awgrymu y bydd y niferoedd hynny'n parhau i gynyddu ychydig flwyddyn ar ôl blwyddyn dros y degawd nesaf. Mae hynny'n rhannol oherwydd bod disgwyliad oes yn cynyddu, gyda phobl yn byw'n hirach oherwydd datblygiadau mewn triniaethau a thechnolegau meddygol. O ganlyniad, mae mwy o bobl ifanc yn symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, sydd wedi bod yn her i hosbisau'r plant hynny, wrth iddynt reoli'r pontio yng ngofal pobl y maent wedi'u hadnabod ers amser maith.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gofal lliniarol a gofal diwedd oes i oedolion a phlant yn barhaus. Byddwn yn parhau i weithio gyda hosbisau i sicrhau eu bod yn gallu cael y cymorth a'r cyllid sydd ei angen arnynt. Ar hyn o bryd rydym yn buddsoddi £8.4 miliwn bob blwyddyn i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol. Mae llawer o hwn, wrth gwrs, yn mynd i gefnogi hosbisau oedolion a phlant. Rydym hefyd wedi dyrannu £9.3 miliwn o gyllid brys i hosbisau drwy gydol y pandemig er mwyn diogelu eu gwasanaethau clinigol craidd ac i gryfhau cymorth profedigaeth. Credaf fod pob un ohonom yn ymwybodol fod eu ffynonellau incwm arferol gan y cyhoedd wedi lleihau'n sylweddol drwy'r flwyddyn eithriadol a aeth heibio. Yn wir, mae dros £2 filiwn o'r arian wedi'i ddyrannu i'n hosbisau plant yma yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'r bwrdd gofal diwedd oes i adolygu cyllid ar gyfer hosbisau, ac mae'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Yn dilyn y ddadl flaenorol yn y Siambr ar ofal lliniarol ym mis Chwefror, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith ehangach sy'n mynd rhagddo ar draws gofal lliniarol i oedolion a phlant. Roedd yn cynnwys ymarfer pwyso a mesur gan y bwrdd gofal diwedd oes, a fydd yn sefydlu llinell sylfaen o gapasiti ar draws y gwasanaethau i oedolion a'r gwasanaethau i blant. Bydd hefyd yn cynnig ystyriaeth o'r datblygiadau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion yn y dyfodol. Rwy'n credu mai dyna'r pwynt sydd wedi'i wneud yma mewn gwirionedd: sut y mae sicrhau bod cyllid yn diwallu'r anghenion y deallwn y byddant yn digwydd yn y dyfodol. Mae'r ymarfer pwyso a mesur, a fydd ar gael yn ddiweddarach y mis hwn, wedi'i lywio gan fodel gwasanaeth i fynd i'r afael â mynediad teg i blant â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd yng Nghymru a ddatblygwyd gan Dr Richard Hain. Ef yw'r arweinydd clinigol ar gyfer gofal lliniarol pediatrig yng Nghymru. Cadarnhaodd y datganiad ysgrifenedig hefyd y caiff yr ymarfer pwyso a mesur ei gefnogi gan asesiad modd o ofal lliniarol pediatrig, a bydd hwnnw'n darparu data cadarn i gynllunio gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yma yng Nghymru. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei gomisiynu ar hyn o bryd.
Y mis diwethaf, cyfarfûm â phrif weithredwyr Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith i drafod yr adroddiad 'Lleisiau ein Teuluoedd' a'u hargymhelliad ar gyfer cronfa achub. Cawsom drafodaeth ddefnyddiol ac adeiladol ar y symudiad tuag at fodel ariannu mwy cynaliadwy ar gyfer hosbisau—un sy'n cyd-fynd yn well ag elusennau cyffelyb yng ngwledydd eraill y DU—a phwysigrwydd gofal seibiant wrth gwrs. Rydym yn parhau i werthfawrogi'r cymorth a'r gefnogaeth y mae ein holl ofalwyr di-dâl yn eu darparu mewn amgylchiadau sy'n aml yn anodd iawn yn emosiynol. Maent yn rhan hanfodol o'n system iechyd a gofal yma yng Nghymru. Dyna pam rwy'n falch ein bod ni wedi lansio ein strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl ddoe. Mae'r strategaeth honno'n amlinellu ein cefnogaeth bresennol i ofalwyr di-dâl ac yn edrych ymlaen at sut y gallwn wella cymorth i sicrhau bod pob gofalwr yn cael bywyd ochr yn ochr â'u cyfrifoldebau gofalu. Mae'n nodi pedair blaenoriaeth genedlaethol ddiwygiedig i'w dilyn gan gynllun cyflawni manylach yr hydref hwn. Mae seibiant a gwyliau byr yn faes ffocws allweddol yn y strategaeth newydd honno.
Mae'r cymorth presennol i ofalwyr di-dâl, wrth gwrs, yn cynnwys cyllid o fewn y setliad llywodraeth leol i awdurdodau lleol allu cyflawni eu dyletswydd i gefnogi gofalwyr di-dâl o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym hefyd yn darparu £1 filiwn o gyllid blynyddol i fyrddau iechyd lleol a'u partneriaethau gofalwyr, ynghyd ag arian sydd ar gael drwy'r gronfa gofal canolraddol. Mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn parhau i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau, gan dargedu grwpiau allweddol, a all gynnwys darparu cymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol i ofalwyr. Mae hynny'n cynnwys cyfleoedd ar gyfer gwyliau byr. Rydym hefyd yn darparu cyllid i Gronfa'r Teulu i ddarparu grantiau i deuluoedd a phlant anabl ar gyfer seibiant a gwyliau byr ac eitemau eraill.
Yr wythnos hon, cyhoeddais y fframwaith clinigol cenedlaethol. Mae'n nodi sut y dylai gwasanaethau clinigol ddatblygu dros y degawd nesaf ac yn cadarnhau bod datganiadau ansawdd yn cael eu cyflwyno i bennu disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol. Mae'r fframwaith clinigol cenedlaethol yn disgrifio sut y bydd llwybr clinigol a rhaglenni cenedlaethol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, megis gofal diwedd oes, yn cefnogi gwell cynlluniau system a gwella ansawdd wrth ddarparu ein gwasanaethau. Bydd rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn cael ei sefydlu, unwaith eto gyda datganiad ansawdd lefel uchel ar gyfer datblygu gofal diwedd oes, a bydd hynny ynddo'i hun yn codi proffil gofal diwedd oes yn sylweddol o fewn ein byrddau iechyd ac yn sicrhau ffocws newydd ac atebolrwydd i'r agenda hon.
Er bod gwaith yn cael ei wneud, rwyf wedi ymestyn y cynllun cyflawni presennol ar gyfer gofal diwedd oes i fis Mawrth y flwyddyn nesaf, ynghyd ag £1 filiwn o gyllid i gefnogi ei weithrediad, tra bod y trefniadau newydd hynny'n cael amser i sefydlu a gwreiddio'n iawn. Bydd yr estyniad hwn yn caniatáu inni fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd a modelau gofal newydd y bu'n rhaid eu defnyddio yn ystod y pandemig, yn ogystal ag ystyriaeth o flaenoriaethau gan unrhyw Lywodraeth newydd yng Cymru. Byddai angen i unrhyw gynllun newydd ar gyfer darparu gofal diwedd oes gael ei lywio gan glinigwyr a lleisiau cleifion a chyd-fynd â'r weledigaeth a nodir yn y fframwaith clinigol cenedlaethol. Mae'r gwaith o ddatblygu'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal profedigaeth hefyd yn parhau, a bydd yr Aelodau'n gwybod bod hynny bellach yn destun ymgynghoriad wyth wythnos. Mae hwnnw'n nodi egwyddorion craidd a safonau gofynnol, ac unwaith eto fe'i cefnogir gan £1 filiwn o gyllid ychwanegol. Goruchwyliwyd y fframwaith hwnnw gan y grŵp llywio cenedlaethol ar brofedigaeth, sy'n cynnwys cynrychiolaeth o hosbisau ac elusennau profedigaeth plant a phobl ifanc ymhlith ei aelodau.
Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i rôl hanfodol ein holl staff hosbis, yn hosbisau oedolion a phlant, a'r gwaith y maent yn ei wneud yn darparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Yn benodol ar gyfer y ddadl hon, hoffwn gydnabod y cyfraniad a wnânt i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd sy'n byw gyda salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Rwy'n hynod ddiolchgar i bob un ohonynt am gynnal y gefnogaeth hanfodol hon drwy gydol y pandemig yn yr amgylchiadau mwyaf anodd. Gallaf sicrhau'r Siambr fod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod gan bawb fynediad at ofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel i oedolion a phlant. Byddwn yn parhau i weithio gyda hosbisau plant ac oedolion ledled Cymru i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw, gan gynnwys yr adolygiad, ac yna'r canlyniadau yn sgil cyflawni'r adolygiad o gyllid. Diolch, Lywydd.
Diolch i'r Gweinidog. Mae hwnna'n golygu ein bod ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Fe wnawn ni gymryd toriad byr tan bod y bleidlais yn gallu cychwyn. Toriad byr, felly.