– Senedd Cymru am 3:43 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar fforddiadwyedd, ail gartrefi a'r Gymraeg, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Julie James.
Diolch, Llywydd. Bu cryn sylw a thrafodaeth dros y misoedd diwethaf am ail gartrefi ac, y tu hwnt i hynny, tai fforddiadwy i bobl ifanc yng Nghymru. Rydym ni'n ymwybodol iawn o'r heriau a wynebwn ac rydym eisoes wedi cymryd camau clir tuag at fynd i'r afael â'r rhain. Fodd bynnag, gallwn wneud mwy a byddwn yn gwneud mwy. Wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, rydym wedi gwrando ar alwadau gan gymunedau ledled Cymru ac wedi gweithredu arnyn nhw. Rydym ni wedi cynnal trafodaethau trawsbleidiol, ac adlewyrchir ein penderfyniad clir i fynd i'r afael â'r heriau a wynebwn yn ein rhaglen lywodraethu ac mewn ymrwymiadau gweinidogol.
Rydym wedi croesawu gwaith rhagorol ac argymhellion clir Dr Simon Brooks yn ei adroddiad, 'Ail gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru'. Yn wir, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a minnau wedi ysgrifennu at Dr Brooks, yn nodi ein hymateb ac yn amlinellu ein camau nesaf. Llywydd, mae hon yn llywodraeth sy'n benderfynol o gymryd camau gwirioneddol ac uchelgeisiol, a heddiw rwy'n nodi ein dull tair elfen o fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau.
Mae llawer o'r ddadl ail gartrefi wedi canolbwyntio ar nifer o'n cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn bennaf mewn rhannau gwledig ac arfordirol o'r wlad. Gwyddom fod dimensiwn ieithyddol gwirioneddol a difrifol i'r her hon. Mae'n un sy'n torri ar draws ein hymrwymiad i 'Cymraeg 2050' a phwysigrwydd hanfodol sicrhau bywiogrwydd y Gymraeg fel iaith gymunedol. Yn ogystal ag ystyriaethau ieithyddol sylweddol, rhan greiddiol o'r mater sy'n cael ei wynebu yw tai fforddiadwy yn gyffredinol, ac nid yng Nghymru yn unig, ond mewn sawl rhan o'r DU ac yn wir y tu hwnt.
Gan adeiladu ar ein llwyddiant ysgubol yn y tymor diwethaf, pryd y gwnaethom ragori ar ein targed cartrefi fforddiadwy, mae ein rhaglen lywodraethu yn adlewyrchu'r ymrwymiad parhaus hwn i ddarparu 20,000 o gartrefi newydd ledled Cymru. Yn hollbwysig, eiddo carbon isel fydd y rhain i'w rhentu yn y sector cymdeithasol. I gefnogi'r ymrwymiad hwn, rydym bron wedi dyblu ein buddsoddiad ariannol eleni—buddsoddiad uchelgeisiol a sylweddol iawn ar unrhyw gyfrif, ac un a fydd yn cynnig manteision clir, gwirioneddol i bobl leol ac i'w cymunedau.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu mesurau treth, cynllunio a thai effeithiol i sicrhau bod buddiannau pobl leol yn cael eu diogelu. Ac nid ydym yn troi oddi wrth ein safbwynt clir ar dreth trafodiadau tir ar gyfer prynu ail gartrefi. Yn hyn i gyd, byddwn yn diogelu buddiannau penodol ein cymunedau Cymraeg drwy gynllun tai cymunedau Cymraeg, gan gadw gafael ar fforddiadwyedd ar draws pob cymuned yng Nghymru.
Mae'r dull tair elfen yn cychwyn gweithredu gwirioneddol ar y cyd i reoli ail gartrefi yn deg dros dymor y Senedd hon, gan sicrhau hefyd bod tai fforddiadwy o ansawdd da ar gael i bawb. Yn gyntaf, cymorth: i ymdrin â materion fforddiadwyedd, byddwn yn targedu ac yn teilwra ein rhaglenni tai presennol ar draws deiliadaethau. Wrth wneud hyn, byddwn yn defnyddio profiadau o gyflwyno rhaglenni llwyddiannus fel cymorth i brynu, a hybu'r mathau o atebion creadigol yr ydym wedi eu gweld mewn sawl rhan o Gymru. Dros yr haf nesaf, bydd fy swyddogion yn llunio pecyn y gallwn ddechrau ei dreialu. Byddwn yn ei werthuso'n drylwyr fel y gallwn fod yn sicr ei fod yn gwneud gwahaniaeth clir a mesuradwy.
Yn ail, ein fframwaith rheoleiddio a'r system. Er mwyn ymdrin â mater ail gartrefi, byddwn yn darparu ar gyfer gwell rheolaeth dros ail gartrefi ychwanegol ac eiddo a gaiff ei osod ar gyfer gwyliau tymor byr, drwy newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio a'r system. Mae angen i rannau o'r system newid, a byddwn yn eu newid. Byddwn yn sefydlu cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau, gan gynnwys eiddo a osodir am dymor byr. Byddwn yn ystyried cymhlethdodau cyfreithiol o ran sut y gallwn brofi newidiadau i'r system gynllunio, ac rwyf hefyd yn benderfynol y bydd yr holl systemau sydd naill ai ar waith neu sy'n cael eu harchwilio, yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.
Ac yn drydydd, cyfraniad tecach, fel bod systemau trethu cenedlaethol a lleol yn sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol i'r cymunedau y maen nhw'n prynu ynddyn nhw. Yn rhan o'r gwaith hwn, rydym yn edrych yn fanwl iawn ar amgylchiadau lle gellir trosglwyddo rhywfaint o eiddo i'r rhestr ardrethi annomestig ac, o ganlyniad, weithiau byddan nhw'n osgoi talu'r dreth gyngor a'r ardrethi annomestig. Ni all hynny fod yn iawn yn sicr a byddwn yn cyflwyno cynigion i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Gwyddom y gall perchnogion ail gartref gefnogi economïau lleol ac yn aml maen nhw'n gwneud hynny, ac rydym ni'n coleddu ein henw da fel cymdeithas groesawgar. Er hynny, mae'n bwysig bod pawb yng Nghymru yn gwneud cyfraniad teg. Dyna pam yr ydym ni'n adolygu trefniadau treth leol ac yn ystod yr haf, byddwn yn cyflwyno dewisiadau ar gyfer ymgynghori.
Nid oes dim o hyn yn syml wrth gwrs, sy'n rhywbeth y mae Dr Brooks yn ei gydnabod hefyd. Fodd bynnag, ni fydd hynny'n ein rhwystro. Byddwn yn treialu ein dulliau gweithredu, gan weithio gyda phartneriaid, yn ystod yr haf. Rydym eisoes wedi cael un cynnig i gymryd rhan mewn cynllun treialu ac rwyf wedi ysgrifennu i wahodd trafodaethau cwmpasu pellach. Mae ein gweithredoedd yn y maes hwn yn cynrychioli gweithio beiddgar, trawslywodraethol. Mae Gweinidogion ar draws Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan ac yn parhau i gymryd rhan. Rydym wedi sefydlu grŵp gorchwyl trawsbortffolio, a byddwn yn parhau â'n deialog ar draws y pleidiau. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, nid oes gan yr un blaid fonopoli ar syniadau da.
Dros yr haf byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gytuno ar y sail a'r lleoliad neu'r lleoliadau ar gyfer cynllun treialu wedi'i werthuso; datblygu pecyn cymorth cydlynol ac effeithiol i'w dreialu o fewn y cynllun treialu; dechrau datblygu cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau a pharhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch ffurf y model y byddwn yn ei weithredu, gan gynnwys y trefniadau cofrestru ac arolygu. Byddwn yn ymgynghori ar newidiadau posibl i drethi lleol i helpu awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanarlwyo, a byddwn yn sefydlu cynllun tai cymunedau Cymraeg drafft ar gyfer ymgynghori yn yr hydref. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ein cefnogi wrth i ni ddechrau gweithio ar y mater heriol ond pwysig iawn hwn. Diolch, Llywydd.
Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad drwy ddweud pa mor siomedig, unwaith eto, yr wyf i fel Aelod a ddychwelwyd i'r Senedd hon. Rwy'n rhan o'ch grŵp gorchwyl. Mae Mabon a finnau wedi cwrdd â chi, ar ran Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig, ar gyfer dwy sesiwn erbyn hyn, ac eto dyma ni, rydym ni'n gweld bod y cyhoeddiad wedi ei roi i'r wasg ddoe. A Llywydd, hoffwn ofyn—. Mae hwn yn dod yn fater eithaf pwysig. Mae Aelodau—Aelodau newydd yn arbennig—yn dweud wrthyf i, 'Ai dyma sut y mae pethau'n gweithio yn y Senedd?', a dywedaf innau, 'Nage, nid fel hyn.' Felly, byddwn yn gofyn i bob Gweinidog weithio gyda'u swyddogion a sicrhau, pan ddychwelwn ni ym mis Medi, y cynhelir busnes mor bwysig â hwn yn y fan yma, o barch i'n Haelodau etholedig, ac na chaiff ei wneud drwy'r cyfryngau. Diolch.
Nawr, yn amlwg, mae hwn yn fater rhy bwysig i ni gael unrhyw gecru gwleidyddol dibwys yn ei gylch, felly rwyf eisiau ein gweld ni'n gweithio'n gyffredinol o ddifrif. Ac mae'n deg dweud bod yr adroddiad gan Dr Simon Brooks yn ddiddorol iawn i'w ddarllen, ac mae'n codi rhai pwyntiau pwysig, gan gynnwys mai prin
'yw’r dystiolaeth mai ail gartrefi sy’n bennaf gyfrifol am brisiau tai uchel yn hytrach na phrynwyr sy’n symud i’r ardaloedd hyn er mwyn byw yno’n barhaol'; ni fyddai bod â llai o ail gartrefi yn newid y ffaith bod yn rhaid i brynwyr lleol gystadlu â phrynwyr o'r tu allan i ardal; byddai ehangu stoc tai heb ddiwydrwydd dyladwy yn sicr o annog symudiad sylweddol yn y boblogaeth o rannau eraill o'r DU i ardaloedd sensitif o ran iaith; ac ni all pobl leol gystadlu yn y farchnad dai yn erbyn prynwyr o'r tu allan i'r gymuned.
Felly, os yw'r Senedd hon wedi ymrwymo'n wirioneddol i gydweithredu trawsbleidiol ar yr argyfwng tai, gofynnaf i chi, Gweinidog, unwaith eto i gytuno i adfer yr hawl i brynu yng Nghymru ac ailfuddsoddi'r enillion gwerthu hynny. Ar gyfer pob un tŷ a werthir, gellir adeiladu tair uned newydd. A ydych chi'n cytuno â mi, drwy weithredu ar ganfyddiad Dr Brooks fod ail gartrefi mewn gwirionedd yn broblem ranbarthol a lleol—nid ydyn nhw o reidrwydd yn broblem genedlaethol—y gallem ni fynd ar drywydd yr hawl i brynu ac ailfuddsoddi enillion gwerthu yn y wardiau y mae ail gartrefi yn effeithio fwyaf arnyn nhw ac, wrth wneud hynny, creu mwy o gartrefi i'n pobl leol? Byddai ein datrysiad hawl i brynu o fudd mor enfawr i ardaloedd fel Abersoch ac Aberdaron, sydd â chymhareb fforddiadwyedd incwm o gymharu â phrisiau tai o 10.7:1.
Yn dilyn Deddf Tai (Cymru) 2014, mae gan awdurdodau lleol yr hawl i godi premiwm treth leol o hyd at 100 y cant ar ail gartrefi. Mae awdurdodau lleol wedi bod yn gyndyn iawn i gynyddu premiymau, ac mae rhesymau, y gellir eu cyfiawnhau, dros hyn. Mae yna ddiffyg cydnabod llwyr y manteision y mae rhai o'n cartrefi gwyliau, ein hail gartrefi, yn eu cynnig i'r economïau lleol. Yn sicr yn Aberconwy, maen nhw'n darparu swyddi, maen nhw'n rhoi cymorth i'n heconomi, ac rwy'n gwbl yn erbyn y premiymau uchel hyn. Felly, a wnewch chi egluro pam yr ydych chi'n credu y bydd defnyddio systemau trethu cenedlaethol a lleol ychwanegol yn effeithiol o ran mynd i'r afael ag effaith ail gartrefi? Rydym i gyd eisiau cael mwy o fanylion ynghylch pa fesurau trethiant sydd gennych chi mewn golwg, ond nid wyf i'n credu bod hwn yn fater y gallwch drethu eich ffordd allan ohono.
Rydych yn gwybod beth a ddywedais i y tu ôl i'r llenni yn ein cyfarfodydd: credaf ei bod yn bryd erbyn hyn i ni weithio ar draws y diwydiant a'r sector cyfan. Mae angen i ni weithio gyda'n landlordiaid a'n tenantiaid; mae angen i ni weithio gyda'n darparwyr tai, y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, landlordiaid y sector preifat, ac mae angen i ni weithio gyda'r rhai yn y diwydiant gosod eiddo ar gyfer gwyliau. Mae pobl wedi cael eu difrïo bron, erbyn hyn am fod ag ail gartref, a gwn yn fy etholaeth fy hun, y nifer—. Cefais gynhadledd fach ar dai ddydd Gwener, pryd y dywedwyd wrthyf yn bendant gan y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant fod llai o gartrefi ar gael erbyn hyn, oherwydd bod pobl yn tynnu'n ôl o'r sector ac yn ffafrio Airbnb, yn ffafrio gosod eiddo ar gyfer gwyliau. Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar hyn gydag ymagwedd amlweddog iawn. Ac rwy'n credu hefyd fod yn rhaid i ni ysgafnu rhywfaint ar yr iaith elyniaethus rwy'n ei chlywed yn y ddadl hon—nid gennych chi, hoffwn ychwanegu, y Llywodraeth.
Rwy'n hapus i weithio gyda chi, yn awyddus iawn i weithio gyda chi; rwyf eisiau sicrhau bod gan ein pobl leol y lletyau hynny y mae arnyn nhw eu hangen gymaint, ond fel y dywedais, ni fydd hyn yn cael ei ddatrys dros nos. Rwy'n credu bod Dr Simon Brooks wedi gwneud y pwynt hwnnw: mae'n mynd i gymryd amser i newid cwrs y llong fawr honno. Mae angen i ni ddechrau, ond mae angen i'r sgyrsiau hynny ddechrau yn drawsbleidiol ar draws y Senedd hon. Diolch, Llywydd.
Diolch yn fawr iawn, Janet. O ran y pwyntiau am y cyfryngau, rwy'n derbyn eich pwynt; rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod aelodau'r Senedd yn cael yr wybodaeth yn gyntaf, felly rydym wedi ymdrafferthu i sicrhau bod aelodau'r Senedd yn cael copi o'r llythyr sy'n mynd yn ôl at Dr Simon Brooks heddiw a bod y llefarwyr wedi cael y datganiad llafar yn gynharach. Rwy'n derbyn y pwynt yn gyfan gwbl, felly byddwn yn sicr yn gweithio gyda'r grŵp trawsbleidiol ar hynny.
Mae rhai cymhlethdodau gwirioneddol yn y fan yma, onid oes? Felly, un o'r pethau mawr yr ydym ni eisiau ei wneud yw gweithio gyda phawb i ddeall beth yw'r diffiniadau o'r termau amrywiol hyn. Ail gartref, cartref a feddiannir gan rywun nad yw'n dod o'r gymuned, cartref a feddiannir gan rywun sy'n gweithio yn y gymuned ond sy'n dychwelyd i rywle arall dros y penwythnos, cartref a feddiannir yn rhannol gan rywun ac sy'n cael ei osod i rywun arall yn rhannol; mae nifer fawr o wahanol ffyrdd o wneud hyn. Felly, mae rhai o'r materion yn dibynnu ar ddiffiniad, ac yn sicr nid wyf eisiau difrïo neb. Mae pawb yn gwneud cyfraniad, ond mae angen i ni sicrhau ei fod yn gyfraniad teg.
Nid wyf yn cytuno â chi ar yr hawl i brynu. Mae llu o broblemau ynghylch yr hawl i brynu, yn rhannol am nad oes gennym ddigon o dai cymdeithasol, felly nid yw gwerthu rhywfaint ohonynt yn gwneud unrhyw synnwyr. Ond hefyd, wrth gwrs, yr unig ffordd y gall pobl fforddio prynu'r cartrefi cymdeithasol y maen nhw'n byw ynddyn nhw yw eu prynu gyda disgownt sylweddol, ac nid yw'r pris disgownt yn cynhyrchu digon o arian i adeiladu'r gyfres nesaf o gartrefi cymdeithasol. Rwy'n credu eich bod wedi tanamcangyfrif yn sylweddol, yn anffodus, faint o arian y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Felly, mae problemau gwirioneddol ynghylch hynny.
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau ein bod yn adeiladu digon o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu fel y gall pobl sydd eu eisiau nhw eu cael nhw, ac felly credaf ein bod ni'n gytûn ar hynny. Rwyf i, wrth gwrs, yn benderfynol iawn o wneud hynny, ac i sicrhau ein bod yn eu hadeiladu yn y lle iawn, ar gyfer y mynediad cymunedol iawn i'r cartrefi cymdeithasol hynny hefyd. Mae gennym yr argyfwng tai yr ydym wedi'i drafod yn y Senedd hon nifer o weithiau bellach, Llywydd, a fyddai'n cymryd—. Mae pob un yn ddadl ynddi hi ei hun. Ond rwy'n hapus iawn i ymgysylltu ar draws y pleidiau ar nifer o atebion i hynny.
Y peth olaf yr wyf i eisiau ei ddweud yw ynghylch y mater o weithio gyda'r landlordiaid. Rydym yn benderfynol o roi cynllun cofrestru ar waith ar gyfer gosod eiddo ar gyfer gwyliau. Mae rhai o'r problemau yn deillio o'r ffaith ei bod yn anos bod yn landlord parhaol nag yw hi i fod yn un dros dro, felly mae angen ymdrin â hynny, ac mae angen i ni fod yn siŵr bod pobl yn glynu wrth y safonau cywir a'r cyfundrefnau treth cywir a phopeth arall. Felly, byddwn yn gwneud hynny, ac rwy'n hapus iawn, Janet, i weithio gyda chi i sicrhau bod hynny'n gymesur ac yn cynhyrchu'r canlyniadau y mae'r ddwy ohonom yn dymuno eu gweld.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am y datganiad yma. Dwi innau eisiau rhoi ar y record hefyd pa mor siomedig oeddwn i i ffeindio fod y datganiad yma wedi cael ei wneud yn gyhoeddus i'r cyfryngau neithiwr, ac eich bod chi wedi bod yn Nhyddewi yn ffilmio ddoe, ac ein bod ni ddim wedi clywed dim byd amdano fo tan heddiw. Ond hyderaf na fydd hynny yn digwydd eto.
Os caf i yn gyntaf edrych, felly, ar y datganiad yn gyffredinol, fel rydych chi wedi sôn, mae'r Senedd yma eisoes wedi pasio cynnig yn datgan bod yna argyfwng tai. Fe gofiwch inni wneud hynny ryw dair wythnos yn ôl, a chwarae teg, gwnaethoch chi fel Llywodraeth ddim gwrthwynebu'r cynnig—a'i gefnogi e, mewn gwirionedd. Mae'r argyfwng ail dai yn un symptom yn unig o argyfwng llawer dyfnach a llawer iawn mwy sydd yn wynebu cymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae'n golygu nad ydy pobl o Fôn i Fynwy yn medru fforddio prynu tai yn eu cymunedau. Fel y soniais i yn y ddadl honno rhai wythnosau yn ôl, mae hyn yn ganlyniad i farchnad sydd yn rhemp, a Llywodraeth ar ôl Llywodraeth sydd yn ofn ymyrryd yn y farchnad a sicrhau bod tai yn gartrefi, ac nid yn fuddsoddiad ariannol neu'n statws moethus i'w fwynhau yn achlysurol.
Ond rŵan at fanylion eich datganiad. Dwi'n falch gweld y datganiad yn cynnig ychydig yn fwy o fanylion mewn gwirionedd na'r hyn a gyflwynwyd yn y wasg. Dwi'n croesawu'r ffaith bod yna gydnabyddiaeth o'r diwedd fod yna broblem yn wynebu ein cymunedau—yn yr achos yma, cymunedau Cymraeg eu hiaith. Ond mae'r addewidion, yr ymrwymiad i ragor o ymgynghori, hanner addewidion ac oedi yn arwain rhywun i feddwl nad ydy'r Llywodraeth mewn gwirionedd yn gwerthfawrogi llawn difrifoldeb y sefyllfa. Nid problem ydy o, ond argyfwng.
Mae'r cynllun cofrestru statudol, er enghraifft, ar gyfer pob tŷ llety gwyliau i'w groesawu. O'r diwedd, bydd gennym ni well data a gwybodaeth fanwl ar bwy sy'n cadw busnesau dilys a chyfreithlon, a phwy sy'n ceisio chwarae'r system. Gall hyn gynorthwyo wrth geisio cau'r loophole sy'n galluogi pobl i drosi tai i dreth fusnes. A dwi'n croesawu eich bod chi wedi ymrwymo i edrych ar gau'r loophole. Ond er mwyn eich arbed chi rhag gwastraffu unrhyw ragor o'ch amser yn ymgynghori eto fyth, mi wnaf eich hysbysu chi rŵan fod yr Association of Accounting Technicians eisoes wedi edrych i mewn i hyn, ac wedi gwneud argymhellion i Lywodraeth San Steffan, ac mae Llywodraeth San Steffan, o dan y Ceidwadwyr yn Lloegr, yn edrych i gau'r loophole yma yn barod. Pam na wnewch chi weithredu ar hyn yn syth?
Rydych chi'n sôn am dreialu newid defnydd o fewn cynllunio i greu adran newydd ar gyfer lletyau tymor byr. Pam y treialu? Does dim angen cyfnod prawf fel hyn. Mae yna gynsail eisoes yn bodoli ar gyfer hyn efo tai amlfeddiannaeth. A does dim angen deddfwriaeth newydd, does dim rhaid gwastraffu amser rhagor yn edrych ar dreialu mwy o bethau. Rhaid ichi fod yn ddewr a gweithredu. A wnewch chi, felly, ymrwymo i weithredu ar hyn mor fuan â phosib?
Yn fwy pryderus fyth ydy'r amwysedd yn eich geiriau chi wrth sôn am dreialu adran newydd ar gyfer ail dai, gan eich bod chi'n sôn am edrych ar y potensial o dreialu adran newydd o'r fath yma o fewn y rheolau cynllunio. Peidiwch â gwastraffu rhagor o amser. Dwi'n gwybod bod yna bryderon ac amheuon am y polisi yma, ond dysgwch o wledydd eraill. Mae llywodraethau yn y Swistir yn gweithredu ar hyn yn barod, a hynny yn llwyddiannus. A wnewch chi estyn allan i wledydd fel y Swistir i ddysgu'r gwersi ganddyn nhw? Mae'r amser wedi dod i gymryd camau ystyrlon o blaid ein cymunedau ac o blaid pobl sydd wedi ein hethol ni. Fe gewch chi ein cefnogaeth ni i weithredu. Mae rhai o'n cymunedau ni bellach wedi mynd ar goll, ac eraill ar eu gliniau. Da chi, gweithredwch. Does dim angen ystyried potensial a threialu rhagor. Mae cyngor tref Nefyn eisoes wedi agor y drws ichi. Cymerwch y cyfle i gydweithio â nhw a chymunedau eraill sy'n galw allan am gymorth.
Yn olaf, dwi'n falch gweld eich bod chi yn sôn am edrych ar dreth trafodion tir, ond eto, does yna ddim ymrwymiad clir. Mae profiad gwledydd eraill yn dangos yn glir fod cynyddu treth gyffelyb ar bryniant ail dai, trydydd tai, ac yn y blaen, yn gymorth, ac yn sicrhau rheoli ar y farchnad. Gwnewch rywbeth yn ei gylch o. Gallwch chi wneud hyn heb hyd yn oed addasu ar unrhyw ddeddfwriaeth. Does dim angen oedi pellach. Mae prisiau tai yn saethu i fyny o flaen ein llygaid ni, a phobl ifanc yn gorfod gadael eu cymunedau neu fyw mewn tai israddol. Os nad ydych chi'n cymryd camau i weithredu rŵan hyn, yna byddwn ni'n gweld mwy o gymunedau yn mynd ar goll a mwy o bobl yn symud o'u cymunedau. Does dim amser gennym ni i'w golli. Gweithredwch rŵan hyn. Diolch.
Diolch, Mabon. Rwy'n deall eich angerdd chi a rhwystredigaeth pobl nad ydyn mewn Llywodraeth ynghylch y rheswm bod yn rhaid i ni dreialu ac ymgynghori ar bethau, ond y rheswm yw bod yn rhaid i ni ymgynghori ar newidiadau i'r rheolau; fel arall byddwn yn cael ein hadolygu'n farnwrol, a bydd y broses yn arafu y dra helaeth. Felly, rwy'n rhannu eich rhwystredigaeth, ond mae'n rhaid i ni ymgynghori yn ei gylch. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni amrywiaeth o safbwyntiau ar waith a'i fod yn ymgynghoriad dilys. Byddwn yn sicr yn ymgynghori ar y newidiadau i'r rheolau cynllunio.
Un o'r pethau yr wyf i eisiau edrych arno yn arbennig, serch hynny, yw pa un a oes rhaid i ni gael un ateb sy'n addas i bawb. Mae'n rhan arbennig o gymhleth o gyfraith cynllunio, ond hoffwn i'n fawr—. Wel, rydym ni'n cymryd cyngor ynghylch pa un a allwn ni fod â rheolau cynllunio penodol mewn cymunedau penodol, nad ydyn nhw yn angenrheidiol mewn mannau eraill yng Nghymru, ac felly nid oes rhaid i ni orfodi trefniadau newid defnydd penodol mewn ardaloedd lle nad oes angen iddyn nhw gael y math hwnnw o reolaeth, yn enwedig, er enghraifft, yng nghanol dinasoedd ac yn y blaen, lle ceir problem hollol wahanol, er yn gyfartal, o ran y math o faterion yr ydym yn edrych arnyn nhw.
O ran fforddiadwyedd, mae amrywiaeth o broblemau o ran fforddiadwyedd a'r nifer cynyddol o gartrefi sydd y tu allan i ddosbarth fforddiadwyedd pobl leol. Nid ydyn nhw i gyd yn ymwneud ag ail gartrefi. Mae rhai ohonyn nhw yn ymwneud â'r gyfundrefn fenthyca, er enghraifft. Nid yw'n anghyffredin o gwbl yn fy etholaeth i, i bobl ddod ataf sydd wedi talu rhent sy'n fwy o lawer nag y byddai'n rhaid iddyn nhw ei dalu am forgais dros gyfnod hir o amser, dim ond i ganfod nad yw hynny'n cyfrif dim o gwbl o ran eu statws ariannol, a'u hanallu i fforddio blaendal, oni bai fod ganddyn nhw fanc mam a dad i'w helpu, mae'n afresymol. Felly, ni allan nhw byth fynd ar y gris cyntaf hwnnw, er eu bod yn amlwg wedi gallu fforddio talu rhent llawer mwy na'r taliad morgais ers amser maith. Felly, mae angen i ni weithio gyda chynlluniau fel Cymorth i Brynu a chyda'n benthycwyr i sicrhau bod gennym feysydd lle gallwn helpu pobl leol i gael gafael ar yr adnoddau ariannol i brynu'r cartrefi y maen nhw eisiau eu prynu. Felly, nid yw'n ymwneud â dim ond cost y cartrefi drutaf.
Un o'r ffyrdd yr ydym yn ceisio gwneud hynny yw gyda'r ymddiriedolaeth tir cymunedol y siaradais â hi ddoe yn Solfach, lle mae gennym ni gynllun rhannu ecwiti, i bob pwrpas, fel y gall pobl gael troed ar yr ysgol, gallan nhw gael ychydig o werth datblygol y tŷ y maen nhw'n byw ynddo, ond nid oes ganddyn nhw'r hawl i'w werthu i unrhyw un o'u dewis eu hunain am elw enfawr; gallan nhw dynnu eu hecwiti allan a symud ymlaen os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Rwy'n awyddus iawn i edrych ar gynlluniau o'r math hwnnw ledled Cymru. Un o'r problemau mawr gyda chynllunio yw y gallwch, yn aml iawn, reoli'r gwerthiant cyntaf ond nid y rhai dilynol. Felly, gallwn reoli gwerthiant y tŷ fel prif dŷ y tro cyntaf iddo gael ei werthu; mae'n anodd iawn gwneud hynny ar gyfer y pedwerydd gwerthiant. Ac felly, un o'r pethau yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yw sicrhau ein bod yn cadw'r tŷ hwnnw yn dŷ lleol ymlaen i'r dyfodol, ac mae hynny wedi profi'n llawer anos ei wneud ar draws y byd. A gallaf eich sicrhau, Mabon, fy mod yn sicr yn edrych ar enghreifftiau rhyngwladol o hyn, ond yn anffodus, hyd yn hyn, maen nhw i gyd yn dangos yr un problemau—mae'r un cyntaf yn iawn ac mae'r rhai dilynol yn llawer mwy problemus. Felly, byddwn yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau hynny. Rwy'n awyddus iawn i gael rhyw fath o gyfran euraid, cyfran gyhoeddus, gan fod hynny'n atal y gwerthiant ymlaen i unrhyw un o'ch dewis am unrhyw bris o'ch dewis chi, ac yn cadw'r tŷ hwnnw mewn perchnogaeth leol. Ond mae hynny, wrth gwrs, yn gyfaddawd o ran y trefniant perchen-feddiannydd yr ydym yn gyfarwydd ag ef ledled Prydain. Felly, byddwn yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud i dreialu rhywfaint o hynny.
Nid ni yw storfa'r holl wybodaeth dda; rwy'n hapus iawn i weithio'n drawsbleidiol gyda chi, yn gyhoeddus ac mewn gweithgorau y tu ôl i'r llenni i sicrhau ein bod yn archwilio'r holl syniadau da. Mae nifer o syniadau da wedi'u cyflwyno eisoes ynghylch partneriaethau cymdeithasol, mentrau cymdeithasol, cymryd rheolaeth dros drefniadau gosod eiddo ar gyfer gwyliau penodol ac ati, yr wyf i'n awyddus iawn i'w harchwilio hefyd. Yr hyn rwy'n ceisio ei ddangos yn y fan yma, Llywydd, yw ein bod ni'n barod iawn i edrych ar amrywiaeth o atebion a fydd yn wahanol i bob cymuned yng Nghymru, oherwydd y mae gan bob cymuned broblem wahanol; nid ydyn nhw i gyd yr un fath. Mae gennym ni un gymuned sydd wedi cynnig ei hun fel cynllun treialu, ond dim ond yr un sydd gennym ni ar hyn o bryd. Felly, os yw Aelodau'r Senedd eisiau annog cymunedau yn eu hardaloedd hwy i ddod ymlaen a threialu rhai o'r trefniadau hyn, byddwn yn fwy na pharod i siarad â nhw yn fuan iawn i roi hynny ar waith.
Llywydd, byddaf, rywbryd yn y dyfodol, yn dod i lawr y Senedd ac yn nodi'r mater o ba mor hir y mae hi'n ei gymryd i ni gael gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth. Rwy'n credu bod angen i bobl yn y gymdeithas yng Nghymru ddeall rhai o'r cyfyngiadau, oherwydd mae'n rhwystredig iawn cael yr alwad i weithredu, gan wybod ei bod yn wirioneddol amhosibl cyflawni yn y cyfnod byr hwnnw, yr hyn y mae pobl wir yn dymuno ei weld.
Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cael y datganiad hwn heddiw. Rydym yn brin o dai, rydym yn brin o dai fforddiadwy. Mae prisiau tai wedi cynyddu oherwydd prinder adeiladau, ond hefyd mae polisïau'r Llywodraeth fel Cymorth i Brynu a gwyliau treth trafodiadau tir wedi codi prisiau. Mae'r prinder tai mwyaf yng Nghaerdydd ac Abertawe a chyfeiriaf y Gweinidog at restrau aros tai cyngor y ddwy ddinas hynny. Mae'n amlwg i mi fod angen mwy o dai cyngor arnom. Yr unig adeg, ar ôl y rhyfel, pan oedd y cyflenwad tai yn cyfateb i'r galw am dai oedd pan godwyd tai cyngor ar raddfa fawr a bod gennym dai cyngor ar gael, ac yr oedd llety a bod tai a oedd yn cael eu rhentu yn breifat o'r blaen ar gael ar gyfer perchen-feddiannaeth. Roedd yn sefyllfa lle'r oedd pawb ar eu hennill. Rydym wedi mynd i sefyllfa o ddim tai cyngor—neu ychydig iawn o dai cyngor—yn cael eu hadeiladu, a llawer o lety rhent preifat. Sefyllfa lle mae pawb ar eu colled. Er mai'r ateb tymor hwy yw adeiladu mwy o dai cyngor, ceir atebion tymor byr. A fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi terfyn ar ryddhad ardrethi busnes ar dai ac yn trin pob tŷ fel un sy'n ddarostyngedig i'r dreth gyngor? Yn olaf, pam y mae Llywodraeth Cymru yn credu na fydd prosiect treialu ddim ond yn arwain at ddadleoli, yn hytrach na newid yng ngweithredoedd pobl?
Diolch yn fawr iawn, Mike. Mae eich ymrwymiad hir i wthio Llywodraethau i adeiladu mwy o dai cyngor a thai cymdeithasol yn hysbys iawn ac yn cael ei gydnabod. Ac rydych chi yn llygad eich lle: un o'r problemau mwyaf sydd gennym ni yn yr argyfwng tai ledled Cymru yw nifer y bobl mewn llety dros dro neu lety is-safonol; mae angen i ni adeiladu, ar raddfa fwy ac yn gyflym, y tai cymdeithasol y mae arnom eu hangen yn wirioneddol ledled Cymru. Mae angen i ni hefyd sicrhau eu bod wedi eu hadeiladu yn y mannau cywir. Mae angen dybryd nifer fawr iawn mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, ond mae angen llawer iawn o dai cyngor ledled Cymru, weithiau mewn amlenni anheddau bychain mewn pentrefi bychain lle mae pobl angen aros, weithiau mewn amlenni mwy mewn dinasoedd lle mae angen mawr ar bobl i gael cartref gweddus.
Mae angen i ni hefyd weithio gyda'n landlordiaid yn y sector rhentu preifat, ac mae llawer ohonyn nhw yn gweithio'n hapus iawn ochr yn ochr â ni, i sicrhau bod eu tai nhw yn cael eu defnyddio hefyd. Rwy'n cymeradwyo i Aelodau ar draws y Siambr—fel y gwnaf bob amser—y cynllun lle y caniatawn i landlordiaid yn y sector rhentu preifat drosglwyddo eu tai i ni fel y gallwn eu gwneud yn fforddiadwy ar gyfer tenantiaid cymdeithasol tra byddwn yn dod â'r tŷ yn ôl i'r safon y mae gan bobl hawl ei disgwyl yn y sector rhentu preifat—sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill Mike, fel y dywedwch yn wir.
Mae gennym nifer o faterion yr ydym eisiau bwrw ymlaen â nhw. O ran ardrethi busnes, rwyf eisoes wedi dweud wrth ateb siaradwr blaenorol y byddwn yn cynnal ymgynghoriad ynghylch beth yn union yw lefel trothwy ardrethi busnes y dylid ei ganiatáu, pa un a ddylai'r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach fod yn berthnasol ac a ddylid caniatáu hynny o gwbl, wrth gwrs. Mae problemau ynghylch eiddo a osodir ar gyfer gwyliau dilys, wedi'u hadeiladu fel adeiladau gwyliau, pa un a ydyn nhw yn cael eu rhedeg gan fusnesau neu'n cael eu rhedeg gan gwmnïau; os ydyn nhw'n gorfod talu treth gyngor ddomestig, efallai y bydd ganddyn nhw broblemau. Felly, mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n cael hyn yn iawn yn gyffredinol. Ac, wrth gwrs, bydd y cynllun cofrestru ar gyfer eiddo a osodir yn dod i rym gan fod gennym ni bobl yn cofrestru naill ai fel landlordiaid sector preifat neu fel gweithredwyr gwyliau cofrestredig, a chawn weld beth a ddaw allan o hynny. Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny.
Rydym ni wedi bod mewn sefyllfa dda iawn yng Nghymru, oherwydd mae gennym ni Rhentu Doeth Cymru yn gweithio gyda'n landlordiaid yn y sector preifat. Rydym wedi cael cyfoeth o wybodaeth a pherthynas dda gyda'n landlordiaid o ganlyniad i hynny, sy'n destun cenfigen i Lywodraethau mewn mannau eraill yn y DU. Byddwn i'n gobeithio cael rhywbeth tebyg iawn yn y sector gosod gwyliau. Rydym eisoes wedi cael ychydig o gyfarfodydd da iawn gydag Airbnb, sy'n un o'r gweithredwyr mwyaf yn y sector hwnnw. Maen nhw yn gwthio cynllun cofrestru mewn nifer o wledydd ar hyn o bryd, felly rydym ni'n awyddus i adeiladu ar eu harbenigedd nhw hefyd.
Ond, yn fras, Mike, rwy'n cytuno â chi: y ffordd wirioneddol allan o'r argyfwng tai yw adeiladu y nifer o gartrefi cymdeithasol y mae arnom eu hangen fwyfwy ledled Cymru, a sicrhau nad system ddogni ydyw ond system sy'n hygyrch i bawb sydd eisiau cael y math hwnnw o gartref.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. A minnau'n rhywun sy'n cynrychioli ardal hynod ddeniadol yn y gorllewin, lle mae tai i brynwyr tro cyntaf yn brin, rwy'n croesawu'r ffaith bod hwn yn ddull tair elfen. Er nad wyf yn cytuno â phob un yn ddiamod, rwy'n falch nad yw'n bolisi gordd unigol, a allai achosi llawer mwy o niwed na lles yn y pen draw. Ni allwn ni ychwaith danbrisio'r manteision economaidd enfawr a ddaw yn sgil y diwydiant gwyliau domestig, gyda sir Benfro ar frig rhestr ddiweddar o'r cyrchfannau mwyaf poblogaidd i bobl o Brydain, gyda phobl yn mwynhau croeso cynnes i fythynnod gwyliau ledled y sir.
Mae gennyf i ddiddordeb yn y cynllun tai cymunedau Cymraeg y soniasoch amdano yn eich datganiad, ac rwy'n gofyn a oes rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn. Fel gyda phob ymgynghoriad, mae angen i hyn fod mor bellgyrhaeddol â phosibl, ac rwy'n gobeithio y rhoddir ystyriaeth ddifrifol i farn pawb sy'n cyfrannu, yng nghasgliad yr ymgynghoriad, ac nad ymarfer ticio blychau yn unig yw hwn. Yn ail, soniasoch am ddatblygu cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau, gan gynnwys eiddo ar osod am dymor byr. A gaf i ofyn pwy fydd yn rheoli'r cofrestriadau hyn, Gweinidog? A fydd yn disgyn ar ysgwyddau'r awdurdodau lleol, ac, os felly, a fyddan nhw'n cael eu hariannu yn unol â hynny, neu a fydd y gost yn disgyn ar ysgwyddau perchnogion y lletyau gwyliau, gyda'r tâl yn adlewyrchu'r nifer o ran yr eiddo? Diolch.
Diolch yn fawr am y gyfres yna o gwestiynau ac am y gefnogaeth a nodwyd gennych ar y dechrau. O ran cynllun tai cymunedau Cymraeg, mae hynny ym mhortffolio fy nghyfaill a'm cydweithiwr Jeremy Miles, sy'n eistedd gyferbyn â mi heddiw. Mae e'n bwriadu cyflwyno cynllun ymgynghori drafft yn fuan iawn, felly ni wnaf i ddwyn ei glodydd wrth roi amser i hynny nawr.
O ran y cynllun cofrestru, rydym yn gweithio, fel y dywedais, gydag Airbnb, fel y darparwr mwyaf o'r mathau hyn o gynlluniau. Un o'r pethau y byddwn yn ymgynghori arno yw pa ffurf a ddylai fod ar y cynllun—mae hynny'n anodd ei ddweud, 'pa siâp ddylai fod gan y cynllun'—a phwy ddylai fod yn gyfrifol am ei weinyddu. Un o'r posibiliadau yw gwneud hynny yn yr un ffordd a wnawn ni yn achos Rhentu Doeth Cymru, drwy awdurdod lleol arweiniol yr ydym yn ei ariannu, yn amlwg, i wneud hynny. Ond, mae dewisiadau eraill ar gael a byddwn yn ymgynghori ar hynny, yn ogystal ag union natur y cynllun cofrestru, sut yr ydych yn cofrestru a phopeth arall cysylltiedig, pan fyddwn yn gwneud yr ymgynghoriad hwnnw. Rwy'n hapus iawn i gymryd barn Aelodau'r Senedd hefyd drwy'r trefniadau gweithio trawsbleidiol.
O ran gwerth y bunt dwristiaeth, ni allwn gytuno mwy. Mae fy nheulu i wedi bod yn mynd i sir Benfro ar ein gwyliau ers 30 mlynedd. Rydym ni'n mynd ac rydym ni'n rhentu bwthyn i lawr yno gan wraig yr wyf yn ei hadnabod ers blynyddoedd lawer. Rydym yn awyddus iawn i wneud hynny. Rydym yn ceisio bod yn gyfeillgar ac yn groesawgar pan fyddwn yno yn ystod ein tro ni, ac i wario ein punt Abertawe yn sir Benfro, fel y dylem ni pan fyddwn yn mwynhau cefn gwlad.
Nid yw hwn yn ymarfer i wneud Cymru yn lle annymunol neu digroeso—dim o gwbl. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod gennym ni gymunedau cynaliadwy sy'n gallu ffynnu gyda'n diwydiant twristiaeth, oherwydd mae ar y diwydiant twristiaeth ei hun angen i'r bobl fod yn byw yno'n lleol er mwyn gallu cymryd y swyddi a gwasanaethu'r diwydiant twristiaeth ei hun. Nid yw'r rhain yn bethau sy'n gwrthdaro â'i gilydd; mae'r rhain yn bethau sy'n gytûn â'i gilydd. Y cyfan y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau, fel Llywodraeth, ein bod yn rhoi'r llwyfannau ar waith i sicrhau bod hynny'n rhywbeth cyfan sy'n gytûn, ac nid yn rhywbeth cyfan sy'n wasgarog, sef yr hyn yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd rwy'n credu.
Mae Plaid Cymru wedi chwarae rhan adeiladol wrth bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn cefnogi cymunedau sy'n dioddef o ganlyniad i effeithiau ail gartrefi. Yn anffodus, mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn hynod siomedig a gwan. Nid cynllun sydd yma, ond tri phennawd byr a niwlog, a dim manylion. Ni fydd ymgynghori a chynlluniau peilot ddim yn cynorthwyo pobl ifanc sydd angen cartref ac sy'n cael eu prisio o'u cymunedau y funud hon.
Wnewch chi, plis, roi heibio’r syniad o gomisiwn i drafod ail gartrefi? Does dim angen comisiwn; mae yna faterion ymarferol y gellir eu rhoi ar waith ar unwaith. Er enghraifft, i sôn am y cynllun cofrestru ar gyfer llety gwyliau, dydy ei gwneud hi'n statudol i gofrestru eiddo gwyliau ddim yn mynd i fynd at wraidd y broblem, felly pam nad ydych chi'n rhoi cyfundrefn drwyddedu ar waith ar unwaith, fel sydd mewn gwledydd eraill, ac wedyn mi fyddai modd rhoi cap ar niferoedd mewn cymunedau sydd dan bwysau sylweddol? Efo chofrestru yn unig, onid creu biwrocratiaeth ddiangen mae hyn mewn gwirionedd, heb gael gwir effaith ar y sefyllfa? A gaf i ofyn am y gwaith fydd yn digwydd dros yr haf? Wnewch chi ymrwymo i ddod yn ôl i'r Senedd cyn diwedd Medi efo chynllun clir, yn cynnwys camau penodol ac amserlen frys ar gyfer gweithredu o'r hydref ymlaen?
Felly, gan ymdrin â'r rheina gan ddechrau gyda'r olaf, Siân, yn hollol, byddwn yn dod yn ôl i'r Senedd yn nhymor yr hydref i roi adborth am yr hyn a wnaethom ni dros yr haf—yr ymgynghoriad ac ati—ac i gynnwys Aelodau'r Senedd. Byddwn hefyd yn cynnal cyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol y tu ôl i'r llenni drwy gydol yr haf ac i mewn i'r hydref yn ogystal â sicrhau ein bod yn codi'r holl faterion yn y fan honno.
Rwy'n credu bod y cynllun cofrestru a'r cynllun trwyddedu wedi cyfuno braidd, ond maen nhw mewn gwirionedd yn eithaf ar wahân. Rwy'n credu bod rhinwedd mewn cynllun cofrestru. Yn gyntaf oll, mae'n ein galluogi i ddeall beth yn union yw'r broblem, ac yn ail mae'n gwneud i bobl sydd eisiau gwneud Airbnb feddwl o ddifrif am yr hyn y maen nhw'n ei wneud, ac mewn gwirionedd ceir materion sy'n ymwneud â safonau ac ati. Byddwch yn gwybod am y problemau mawr a geir pan fo llety gwely a brecwast teuluol lleol yn gorfod cydymffurfio â'r holl safonau ac ati o'i gymharu ag Airbnb lleol nad oes rhaid iddo gydymffurfio â'r safonau, a'r holl faterion sy'n cyd-fynd â hynny. Felly, mae rhai materion difrifol gwirioneddol yn ymwneud â hyn, a dyna pam y mae Airbnb yn awyddus iawn i gael y mathau hyn o gynlluniau cofrestru.
O ran cynllun trwyddedu, rydym yn archwilio hynny hefyd. Mae hynny'n debyg iawn i'r cynlluniau y bydd y rhai hynny ohonom sydd â phrifysgolion mawr yn ein hardaloedd yn ymwybodol ohonyn nhw yng nghyd-destun tai myfyrwyr amlfeddiannaeth. Nid yw hynny'n ateb syml, addas i bob diben, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fel un sydd â chyfran fawr iawn o'm hetholaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer tai myfyrwyr amlfeddiannaeth, er bod gennym ni gynllun trwyddedu ar waith. Daw hynny â rhai problemau yn ei sgil. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw dysgu o'r problemau hynny a sicrhau nad ydym yn eu dyblygu yn y sector hwn. Ond rwy'n benderfynol iawn y bydd gennym gynllun sy'n caniatáu i awdurdodau lleol gyfyngu ar nifer y tai gwag, os hoffech chi. Mae rhai problemau o ran diffiniad, y trafodais mewn ymateb cynharach, Llywydd, yn berthnasol yn y fan yma, ond rydym ni'n awyddus iawn i gael y cynllun hwnnw ar waith fel y gallwn gael capiau ar nifer y tai nad ydyn nhw yn cael eu meddiannu yn barhaol. Mae wedi bod yn anodd iawn o ran tai myfyrwyr amlfeddiannaeth i leihau os yw eisoes wedi mynd yn uwch na'r cap. Felly, byddwn yn archwilio dewisiadau i'w lleihau mewn rhai ardaloedd, oherwydd, er enghraifft, yn un o'r wardiau yn fy etholaeth i, mae gennyf i un stryd lle nad oes neb yn byw ynddi—tai myfyrwyr amlfeddiannaeth yw'r cyfan—ac, wrth gwrs, gwelwn hynny mewn rhai cyrchfannau gwyliau, gydag eiddo a osodir ar gyfer gwyliau hefyd. Felly, mae'n broblem debyg gydag achos gwahanol iddi. Felly, rwy'n awyddus iawn i ddysgu o brofiadau pobl ledled Cymru, ledled y DU, ac o amgylch Ewrop ynghylch sut i ymdrin â rhai o'r materion anodd iawn hyn. Yn union yr un fath â'r twristiaid—mae'r myfyrwyr yn dod â bwrlwm, cyfoeth ac amrywiaeth i'r ddinas, ond maen nhw hefyd yn diflannu am gyfnodau hir iawn, gan adael busnesau sy'n ei chael hi'n anodd goroesi drwy'r cyfnod gwag hwnnw. Nid yw'n sefyllfa annhebyg, felly mae'r gyfatebiaeth yn ddilys.
Felly, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi, Siân, cyn gynted ag y gallwn i sicrhau ein bod yn cael y cynllun cywir yn y lle cywir ledled Cymru. Ac fel y dywedais, po fwyaf y byddwch yn siarad â gwahanol gymunedau, y mwyaf y sylweddolwch fod cyfres wahanol o broblemau ym mhob cymuned, ac nid wyf yn credu y bydd dull gweithredu sy'n addas i bawb ledled Cymru yn gweithio ychwaith, felly dyna pam yr ydym eisiau treialu rhai o'r cynigion sydd gennym mewn cymunedau sy'n hapus i'n helpu gyda'r cynlluniau treialu hynny.
Gweinidog, gwn y bydd trigolion y Rhondda, yn enwedig ein pobl ifanc a'n teuluoedd ifanc, yn ddiolchgar o glywed bod y Llywodraeth yn adeiladu ar waith y Senedd flaenorol, gan gymryd camau i fynd i'r afael â'r argyfwng tai difrifol. Mae graddedigion wedi cysylltu â mi a adawodd y Rhondda i fynd i'r brifysgol ac sydd bellach eisiau dychwelyd i'w trefi genedigol i brynu eu cartrefi eu hunain, ond sy'n wynebu problem fforddiadwyedd wirioneddol oherwydd cynnydd sydyn yn y galw yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud gan brynwyr o'r tu allan i'n cymunedau. Rwyf i, wrth gwrs, yn croesawu â breichiau agored unigolion a theuluoedd sy'n dymuno byw yn ein cymunedau yn y Rhondda, ond mae mor bwysig ein bod yn dod o hyd i gydbwysedd teg. A wnaiff y Gweinidog sicrhau bod cartrefi fforddiadwy ar gael i bobl ifanc sy'n dychwelyd i'w trefi genedigol yn y Cymoedd a sicrhau nad ydynt yn cael eu prisio allan o'r farchnad?
Gwnaf. Diolch yn fawr iawn Buffy, ac mae hynna'n dangos yn glir, onid yw, fod y mater yn broblem ledled Cymru am gyfres wahanol o resymau. Felly, mae gennym ni broblemau mewn ardaloedd sydd o amgylch dinasoedd mawrion sy'n dod yn drefi cymudo, fel petai; mae gennym ni broblemau gyda gwyliau; mae gennym ni broblemau gyda myfyrwyr; mae gennym ni ystod eang o broblemau ledled Cymru. Nid oes unrhyw un ateb syml ar gyfer hyn—dyna'r gwir bwynt yr ydym yn ei weld yn y fan yma. Os darllenwch chi adroddiad Dr Simon Brooks, ac, yn wir, ein hymateb ni, a bydd hwnnw gan bob Aelod erbyn hyn, fe welwch ei fod yn cydnabod nad oes un ateb syml, addas at bob diben. Yr hyn y bydd ei angen arnom yw amrywiaeth o fesurau ledled Cymru sy'n gweithio'n wahanol mewn gwahanol gymunedau, i sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i'n pobl ifanc ac, yn wir, i'n teuluoedd a'n holl gymunedau. A dyna fydd y cymysgedd hwnnw o dai cymdeithasol da sydd ar gael i bawb, oherwydd nid yw hyn wedi ei ddogni mwyach—cynlluniau rhannu ecwiti, tai cydweithredol, tai tir cymunedol—ac yna, y mathau o gynlluniau yr ydym wedi eu gweld o ran Cymorth i Brynu ac ati sy'n caniatáu i bobl gael y droed honno ar yr ysgol dai. A dywedais eisoes, wrth ateb siaradwr blaenorol, mai un o'r pethau yr ydym ni eisiau ei wneud yw gweithio gyda benthycwyr i sicrhau bod pobl sy'n gallu dangos cofnodion rhentu da yn dal i gael eu hystyried ar gyfer cynigion morgais. Felly, y ffordd y mae'r farchnad honno yn gweithio sydd y tu ôl i rai o'r problemau a welwn ni ar hyn o bryd hefyd. Ac, wrth gwrs, rwyf hefyd wedi sôn am y gwahanol faterion trethiant ac ati y byddwn yn rhoi sylw iddyn nhw hefyd. Ond rwy'n hapus iawn, Buffy, i weithio gyda chi, ac unrhyw un o'r cymunedau sydd gennych, i weld beth allwn ni ei dreialu yn rhai o'r cymunedau hynny hefyd.
Yr haf diwethaf, adroddwyd bod bron i 40 y cant o'r eiddo a werthwyd yng Ngwynedd yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2020 wedi'u prynu fel ail gartrefi, ond mae tystiolaeth anecdotaidd gref yn dangos bod hyn yn deillio o nifer anghymesur o fawr o ail gartrefi presennol ar y farchnad. Pan ofynnais o'r blaen i Lywodraeth Cymru pa ddadansoddiad yr oedd wedi'i wneud felly i weld a oedd hon yn sampl gynrychioliadol, atebodd 'dim'. Nid yw'r angen i bobl leol allu cael gafael ar dai fforddiadwy o safon dda mewn mannau poblogaidd o ran cartrefi gwyliau yn fater newydd; roedd yr un peth yn wir pan werthodd fy nheulu ein cartref gwyliau ni yn Abersoch hanner can mlynedd yn ôl, ac adeiladwyd nifer fawr o gartrefi gwyliau sy'n dal i gael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau heddiw yn gynyddol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llawer o berchnogion nid yn unig yn gysylltiedig â phobl leol yn economaidd ond hefyd drwy gyfeillgarwch personol a hyd yn oed priodas—ac rwy'n siarad o brofiad personol yn y fan yma—mae trethu perchnogion ail gartref mewn lleoliadau gwyliau poblogaidd yn trosglwyddo perchnogaeth i berchnogion ail gartref cyfoethocach neu'n peri i dai gael eu cofrestru o dan amodau beichus gydag asiantaethau swyddfeydd prisio fel eiddo ar osod cyfreithlon.
Yn dilyn toriadau enfawr Llywodraeth Cymru yn y grant tai cymdeithasol, cyfarfu pwyllgor rhanbarth gogledd Cymru y Cynulliad ym Mhwllheli ym mis Hydref 2003—18 mlynedd yn ôl—i gymryd tystiolaeth gan bobl leol am yr argyfwng tai fforddiadwy mewn cymunedau yno—
A wnaiff yr Aelod ofyn y cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda?
—pan gynigiwyd atebion y gellir eu cyflawni i ni. Felly, yn hytrach na drysu'r mater hwn gydag ail gartrefi wedi'u hadeiladu at y diben hwnnw, fel yr oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw, pa gamau uniongyrchol y byddwch chi yn eu cymryd nawr felly i nodi'r angen lleol penodol yn y mannau poblogaidd hyn ar gyfer cartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol ac, ar wahân, tai fforddiadwy ar gyfer rhent canolradd, neu berchentyaeth cost isel, ac yna i sicrhau mwy o gyflenwad o'r ddau fath yn y mannau poblogaidd i ddiwallu'r angen hwn?
Ie. Diolch, Mark. Rwy'n deall y pwynt yr ydych yn ei wneud am gartrefi a adeiladwyd fel cartrefi gwyliau. Fodd bynnag, mae problem wirioneddol ynghylch tai sy'n wag mewn cymunedau ledled Cymru sy'n cael effaith uniongyrchol ar hyfywedd gwasanaethau lleol eraill. Ac, fel yr ydych chi wedi fy nghlywed yn dweud droeon yn y datganiad hwn heddiw, mae'r mater hwn yn ymwneud â bod gennym gymunedau cynaliadwy ledled Cymru, gyda lefel o bob math o berchentyaeth ynddyn nhw sy'n gynaliadwy. Pan fyddwch chi wedi gogwyddo lefelau o unrhyw fath o berchentyaeth neu feddiannaeth yn anghymesur, yna fe gewch broblemau. Cymunedau cynaliadwy deiliadaeth gymysg ar draws y byd, yw'r rhai y gwyddom eu bod yn gweithio mewn gwirionedd, ac felly nid wyf i'n credu ein bod yn anghytuno â hynny; y broblem yw sut ydym ni'n cyflawni cymuned gynaliadwy pan fydd gennym eisoes gymunedau nad ydyn nhw bellach yn gynaliadwy am amryw o resymau, fel yr ydym wedi ailadrodd o amgylch y Siambr heddiw. Ac mae amrywiaeth o resymau sy'n achosi anghynaladwyedd un ddeiliadaeth: mae rhai ohonyn nhw yn ymwneud â threfniadau gwyliau; mae rhai ohonyn nhw yn ymwneud â threfniadau myfyrwyr; mae rhai ohonyn nhw yn ymwneud â threfniadau cymudo; mae rhai ohonyn nhw—ceir amrywiaeth o faterion fforddiadwyedd.
Ac, mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf i am dderbyn unrhyw bregeth gan unrhyw Dorïaid ynghylch y rheswm na wnaethom ni adeiladu unrhyw dai hyd at ychydig o flynyddoedd yn ôl, oherwydd gwyddoch chi cystal â minnau fod Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 wedi ein gwahardd rhag gwneud hynny, ac mai dim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl y tynnwyd y cap hwnnw, oherwydd fe gymerodd y Torïaid 40 mlynedd i ddod i'w coed ynghylch pam y dylem ni adeiladu tai cymdeithasol. [Torri ar draws.]—Wel, fe wnaethoch chi ofyn i mi ac rwy'n rhoi'r ateb i chi. Felly, y pwynt ynghylch hynny yw y gallwn ni nawr adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa fawr ledled Cymru, a byddwn yn gwneud hynny. Dylem fod wedi gwneud hynny amser maith yn ôl, ond cawsom ein hatal rhag gwneud hynny gan bolisïau'r Llywodraeth Geidwadol. Rwy'n falch iawn o ddweud nad yw'r polisïau hynny—wel, rydych wedi callio rhywfaint—yn berthnasol yng Nghymru mwyach, ac felly gallwn erbyn hyn adeiladu ar raddfa fawr yn gyflym, oherwydd dyna'r ateb mewn gwirionedd: adeiladu'r tai cywir yn y lle cywir ar gyfer y mynediad cywir i bobl. Felly, os nad ydych chi'n hoffi'r ateb, ni ddylech fod wedi gofyn y cwestiwn.
[Anghlywadwy.]
Hist. Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Wel, gallaf i gadarnhau bod Cyngor Sir y Fflint yn adeiladu 500 o dai fforddiadwy i'w rhentu, diolch i bolisïau Llywodraeth Cymru a chyllid hefyd i helpu gyda hynny. Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn ymdrin o ddifrif â'r mater hwn o berchnogaeth ar ail gartrefi gyda'r dull gweithredu tair elfen sydd wedi'i hamlinellu. Dim ond yr wythnos hon, cysylltodd etholwr â mi. Mae hi wedi gweld cynnydd o 40 y cant o ran cartrefi yn ei hardal yn Llandudno sy'n cael eu prynu i'w gosod ar gyfer gwyliau, ac yn ddiweddar cafodd lythyr drwy ei drws, sy'n darllen fel hyn:
'Rwy'n awyddus i brynu ail gartref yn ardal Llandudno, Conwy yn y 18 mis nesaf. Pan ddaw ffyrlo i ben, os bydd prisiau tai'n gostwng, yna mae'n debyg y byddwn i'n aros i weld pryd ac at ba bris y byddant yn cyrraedd eu man isaf. Felly, rwy'n awyddus i ymrwymo cyn gynted ag y bo modd er mwyn peidio â chaniatáu i benderfyniadau yn sgil cynnwrf yn y farchnad fy rhwystro. Felly, i mi, mae'n strategaeth hirdymor.'
Ffoniodd y preswylydd i egluro beth oedd yr awdur yn ei olygu wrth hyn, ac roedd yn glir iawn mai ei nod yw sicrhau'r elw mwyaf posibl. Rwy’n credu bod hyn yn dystiolaeth o'r pwysau clir sydd ar bobl leol i werthu gan y rhai sy'n ceisio budrelwa, a maint y problemau yr ydym ni'n eu hwynebu yn y gogledd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr fod fy rhanbarth yn y gogledd yn cael ei ystyried ar gyfer y cynllun treialu a gafodd ei grybwyll yn gynharach. Felly, hoffwn i wneud y cais hwnnw i chi, os gwelwch yn dda.
Felly, rwy'n croesawu'r cynigion sydd wedi'u nodi—
A wnewch chi ofyn y cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda?
Rwy'n croesawu'r cynigion a gyflwynwyd, a hoffwn i gynnig y rhanbarth hwnnw, os yw hynny'n bosibl. Mae'n ddrwg gennyf i, nid wyf i'n gorffen gyda chwestiwn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Carolyn, a byddwn, wrth gwrs, byddwn ni'n ymchwilio i'r posibilrwydd o wneud cynllun treialu yn eich rhanbarth chi—rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Ond rydych chi newydd grynhoi'r broblem, onid ydych chi? Oherwydd, i'r rhan fwyaf o bobl gyffredin, yr unig fuddsoddiad mawr y maen nhw'n eu gwneud yn eu bywyd yw'r tŷ y maen nhw'n byw ynddo, ac felly, pan fyddan nhw'n ei werthu, maen nhw eisiau sicrhau'r elw mwyaf posibl, ac mae hynny'n gwbl ddealladwy. A dyna un o'r rhesymau pam yr ydym ni eisiau treialu'r mesurau hyn, oherwydd rydym ni eisiau bod yn siŵr bod yr holl bobl yn y gymuned yn hapus ag effaith rhai o'r mesurau y byddwn ni'n eu cael. Nid oes amheuaeth na fydd rhai o'r mesurau wedi'u crybwyll heddiw yn gostwng prisiau tai mewn rhai ardaloedd, felly mae angen i ni sicrhau bod y gymuned yn hapus â hynny, oherwydd mae'n rhoi iddyn nhw y gymuned gynaliadwy a chynhwysol y maen nhw eisiau bod yn rhan ohoni. Nid wyf i'n dweud y bydd gennym ni 100 y cant o bobl yn hapus â hynny, ond mae angen i ni fod yn siŵr bod pobl yn deall effaith yr hyn sy'n cael ei awgrymu. Mae gennym ni nifer fawr o gynlluniau ledled y byd, ledled y DU, a oedd yn llawn bwriad da pan gawsant eu sefydlu, a gafodd ganlyniadau anfwriadol sylweddol ar farchnadoedd eiddo anwadal, felly mae angen i ni fod yn siŵr ein bod ni'n gwneud y peth iawn i'r bobl iawn. Ac fe orffennaf i drwy ddweud fy mod i'n gwbl falch o weithio gyda chi i gyflwyno cynllun treialu yn eich rhanbarth chi, ond un o'r pethau y gwnaethoch chi ei nodi, yn gwbl briodol, yw mai'r ffordd go iawn allan o'r argyfwng hwn yw adeiladu'r nifer iawn o dai y mae arnom ni eu hangen yn y mannau cywir ledled Cymru i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gartref fforddiadwy y gallan nhw ei alw yn eiddo iddyn nhw eu hunain.
Diolch, Gweinidog.