– Senedd Cymru am 4:30 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Eitem 5, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar goed a phren. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch yn fawr. Gadewch i mi ddechrau trwy ddweud bod coed yn bethau da. Mae'n rhaid i ni ddiogelu'r coed sydd gennym ni, a phlannu 86 miliwn yn fwy ohonyn nhw yng Nghymru erbyn diwedd y degawd hwn, os ydym am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae angen newid sylweddol arnom o ran creu coetiroedd, a thrawsnewid yn y ffordd y defnyddir coed Cymru ar draws ein heconomi.
Dros y mis diwethaf, rwyf wedi arwain ymarfer i fynd i wraidd mater i nodi ar frys y rhwystrau sy'n atal cynnydd a'r camau gweithredu i'w goresgyn. Rwyf wedi cael fy nghefnogi gan dasglu bach sy'n cynnwys arbenigwyr yn y meysydd hyn, a hoffwn i ddiolch i bob un ohonyn nhw am yr amser y maen nhw wedi ei roi, a'u hawydd i ysgogi newid. Rwyf i hefyd wedi siarad â chynrychiolwyr llawer o grwpiau sydd â diddordeb, gan gynnwys ffermwyr, coedwigwyr, sefydliadau anllywodraethol, proseswyr ac adeiladwyr tai.
Rydym yn derbyn y targedau plannu coed a bennwyd gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU. Er mwyn cyrraedd sero net, mae angen i ni blannu 43,000 hectar o goed newydd erbyn 2030, gan godi i 180,000 hectar erbyn 2050. I fod yn glir, Dirprwy Lywydd, bydd hyn yn gofyn am blannu 15 gwaith yn fwy o goed nag yr ydym wedi eu plannu yng Nghymru eleni. Dim ond trwy gynghrair ar gyfer newid y bydd hyn yn bosibl, gan gynnwys llawer o bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd. Felly, heddiw, hoffwn i alw ar bobl i ymuno â ni i gyflawni'r newid hanfodol hwn, ac mae'n dechrau gydag unigolion a chymunedau ledled Cymru. Am bob baban newydd-anedig yng Nghymru, rydym yn plannu coeden newydd yng Nghymru ac yn Uganda. Rydym ni wedi dysgu gwersi gwerthfawr o'n partneriaeth â phobl Mbale ac mae angen i ni eu gweithredu yn fwy eang yma erbyn hyn.
Gadewch i ni ddechrau gyda'r neges yr ydym ni'n ei chyflwyno gyda'r elusen Maint Cymru yn Affrica: mae coed yn anhygoel. Maen nhw'n achub bywydau drwy gadw ein haer yn lân. Mae coed yn gwella iechyd pobl; mae tystiolaeth glir o fanteision lluosog i'n llesiant, o ganlyniad i straen a phwysedd gwaed is pan fyddwn yn ymyl coed. Byddai'n dda gen i pe bawn i'n agos atyn nhw yn amlach. Lefelau uwch o weithgarwch corfforol, gwell iechyd meddwl, cynnydd mewn natur gymdogol, lefelau troseddu is hefyd; mae coed yn hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â'n hargyfwng natur, ar gyfer helpu i wella bioamrywiaeth, ac, wrth gwrs, ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd, trwy amsugno carbon, lliniaru llifogydd a disodli cynhyrchion carbon-ddwys fel concrit wrth adeiladu tai. A gallan nhw ein helpu i greu mwy o swyddi hefyd. Mae gwaith wedi dechrau ar weithredu ymrwymiad ein maniffesto i ddatblygu strategaeth ddiwydiannol coed a chreu economi goed gryfach i Gymru.
Rydym ni eisiau i bob teulu sydd â gardd blannu mwy o goed, a phob ysgol a grŵp cymunedol i ymuno â chynllun coed am ddim Coed Cadw. Mae angen i ni ei gwneud yn haws i gymunedau blannu coed, ac yn haws iddyn nhw ryngweithio ag awdurdodau. O ganlyniad i'r ymarfer i fynd at wraidd y mater, rydym ni wedi cytuno bod angen i gyrff cyhoeddus fapio'r tir y maen nhw'n berchen arno a nodi'n rhagweithiol ble y gellir plannu mwy o goed.
Mae'n hanfodol ein bod ni'n gweithio gyda'r ffermwyr a thirfeddianwyr eraill yng Nghymru, ac yn dysgu oddi wrthyn nhw, a bydd angen iddyn nhw blannu llawer o'r coed hyn. Roedd yn amlwg o'n hymarfer nad dim ond mwy o gyngor sydd ei angen arnom; mwy o ymgysylltu sydd ei angen arnom—ymgysylltu gwirioneddol; miloedd o sgyrsiau â phob ffermwr i weld beth sy'n addas i'w fferm, i'w cael nhw yn rhan o'r ateb y mae angen i ni ei weld. A dangos iddyn nhw y gall plannu coed ddigwydd ochr yn ochr â gweithgareddau ffermio eraill, o safbwynt ariannol a chymdeithasol. Mae'r drefn grantiau bresennol yn gweithredu yn erbyn hynny, ac mae angen i hynny newid. Yn ogystal â phlannu coetiroedd newydd, mae angen i ni hefyd blannu'r hyn a ddisgrifir fel 'gwrychoedd ac ymylon', fel coed ar hyd ffiniau caeau, coed gwasgaredig, gwrychoedd a lleiniau cysgodi—rwyf i wedi dysgu rhai geiriau newydd, Dirprwy Lywydd, yn rhan o'r ymarfer hwn. Y mae wedi bod yn brofiad diddorol iawn.
Mae rhai enghreifftiau gwych i ddysgu ohonyn nhw, gan gynnwys y prosiect Cefnogi'r Coed ger y Fenni, yr ymwelais ag ef ddoe, prosiect dan arweiniad ffermwyr mewn consensws â chymunedau i blannu coed ar dir anghynhyrchiol a chreu ffynonellau incwm newydd gan ddiogelu eu cymunedau ar gyfer y tymor hwy. Mae angen mwy o enghreifftiau fel y rhain arnom, felly rwy'n sefydlu gweithgor newydd i ystyried modelau ar frys i ddenu buddsoddiad i faes creu coetiroedd, ac yn hollbwysig, heb amharu ar gymunedau presennol a phatrymau tirfeddiannaeth. Rwy'n poeni, Dirprwy Lywydd, am y duedd i rannau helaeth o dir fferm gael eu prynu gan fuddiannau allanol, trwy ymarfer gwyrddgalchu. Nid oes angen i hyn ddigwydd, fel yr ydym wedi ei weld gyda Cefnogi'r Coed, ac rwyf i'n awyddus i gymryd camau i sicrhau nad yw hynny'n mynd yn rhemp.
Mae llawer o'r coed sydd wedi eu plannu yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael eu hariannu drwy ein cynllun creu coetir Glastir. Yn y gorffennol, mae cyllid trwy'r cynllun hwn wedi bod yn rhy anghyson a'r broses ar gyfer cael cyllid yn rhy gymhleth ac araf. Rwyf i wedi meddwl ar adegau, tybed sut yn y byd y gwnaethom ni lwyddo i blannu cynifer o goed ag sydd gennym ni, a bod yn onest. Mae'r tasglu wedi nodi nifer o gamau gweithredu i newid hyn. Byddwn yn agor ffenestr newydd yn y cynllun presennol i sicrhau bod y cyfan o'r £17 miliwn yr ydym wedi ei ddyrannu i blannu coed yn cael ei wario eleni, ac rwyf i wedi gofyn i CNC gyflwyno newidiadau ar unwaith i gyflymu'r broses gyflenwi, i arwain y gwaith o ailwampio'r canllawiau yr ydym yn eu darparu ar blannu coed, a chanolbwyntio yn hytrach ar allgymorth i helpu pobl i gyflawni pethau a sicrhau bod pethau'n iawn ar ddechrau prosiect.
O'r flwyddyn nesaf ymlaen, byddwn yn cyflwyno cynllun gwell i gefnogi'r gwaith o greu coetiroedd, gyda chyllid annibynnol i alluogi pobl i gynllunio coetir newydd fel ein bod yn creu llif o brosiectau sy'n barod i'w plannu pan fydd yr arian ar gael. Rwyf i'n awyddus i lawer o'r ardaloedd a gefnogir gan y cynlluniau hyn fod yn rhan o'r goedwig genedlaethol, i greu rhwydwaith o ardaloedd coetir o ansawdd uchel ledled Cymru. Mae angen i ni wneud mwy hefyd i gefnogi pobl i greu coetiroedd newydd neu wneud gwelliannau i goetiroedd presennol i fodloni safonau'r goedwig genedlaethol. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn agor y grant buddsoddi mewn coetiroedd i ganiatáu i bobl wneud cais am y cymorth hwn.
Mae wythdeg y cant o'r pren sy'n cael ei ddefnyddio yn y DU yn cael ei fewnforio, a dim ond 4 y cant o'r 1.5 miliwn tunnell o bren wedi ei gynaeafu sy'n cael ei brosesu i'w ddefnyddio fel pren gradd adeiladu yng Nghymru. Felly mae cyfle gwirioneddol i broseswyr a gweithgynhyrchwyr coed yng Nghymru gyfrannu at yr economi goed hon, gan greu swyddi newydd yn y Gymru wledig yn ogystal â datblygu cadwyn gyflenwi arloesol ar gyfer defnydd bywyd hirach sydd â gwerth ychwanegol uchel. Dylem ni fod yn rhoi llai o sylw i gynhyrchu paletau, a rhoi mwy o'n sylw i ddefnyddio'r pren hwnnw i adeiladu cartrefi Cymru sy'n dal ac yn cadw carbon. Bydd hynny'n gofyn am gydgysylltu ar draws y gadwyn gyflenwi. Felly, mae gen i weithgor newydd arall i ystyried cynnwys strategaeth ddiwydiannol pren newydd i Gymru ar frys. Mae angen i ni greu gwerth ychwanegol trwy'r gadwyn gyfan, ac mae llawer y gallwn ei ddysgu oddi wrth Weriniaeth Iwerddon yn hyn o beth.
Rydym ni wedi cyhoeddi y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd, restr o'r 39 o gamau y mae'r tasglu wedi cytuno arnyn nhw, ochr yn ochr â'r datganiad ysgrifenedig. Nawr, mae angen i ni barhau â'r momentwm. Byddaf yn cloi, os caf i, gyda sylw a wnaed yn ystod un o'n cyfarfodydd gan Mark McKenna o'r prosiect 'Down to Earth'. Dywedodd, wrth fyfyrio ar un o'n sgyrsiau, 'Mae'r atebion yna. Mae angen i ni fuddsoddi ac mae angen i ni gynllunio'. Ac rydym yn bwriadu gwneud hynny. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020, plannwyd 200 hectar o goetir newydd yng Ngogledd Iwerddon, 2,330 yn Lloegr, a 10,860 yn yr Alban, ond dim ond 80 hectar y llwyddodd Cymru i'w plannu. Mor ddifrifol yw'r methiant hwn y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud yr hyn y mae wedi ei wneud mewn meysydd eraill—mewn gwirionedd mae wedi gostwng y targed plannu o 5,000 i 2,000 hectar y flwyddyn. Gallai targed wedi ei leihau fel hyn arwain at gymharu ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at blannu coed yn hawdd â'r datgoedwigo yr ydym yn darllen amdano yn y clasur llenyddol The Lord of the Rings—The Two Towers. Yn wir, gellid cymharu Llafur Cymru ag Ents, yn trafod problemau am amser maith cyn gweithredu. I fod yn wirioneddol uchelgeisiol, Dirprwy Weinidog, byddech chi'n ceisio adfer y nod o 5,000 hectar y flwyddyn.
Mae coedwigaeth yn cael ei dosbarthu yn ein hadroddiad CCRA3 ein hunain fel rhywbeth y mae 'angen mwy o weithredu' arni. Felly, a wnewch chi weithredu ar yr argymhelliad i asesu dewisiadau rheoli ar gyfer plâu a chlefydau sydd erbyn hyn yn gallu gwrthsefyll plaladdwyr presennol ac archwilio ymhellach fentrau rheoli a all wella cydnerthedd, fel arallgyfeirio? Mae'r adroddiad yn nodi cyfleoedd hefyd i ehangu rhywogaethau sefydledig sy'n bodoli eisoes, fel y ffynidwydden Douglas a'r fasarnen, ac i rywogaethau sy'n tyfu'n gyflym sy'n cael eu dethol ar gyfer ffynonellau bio-ynni. Felly, a wnewch chi nodi ble mae'r cyfleoedd hynny drwy'r ymarfer mapio y bydd ein cyrff cyhoeddus yn ei gynnal yn awr?
Mae traean o'r rhyw 309,000 hectar o goetir yng Nghymru ar dir amaethyddol, ond eto ddoe fe wnaethoch chi ddweud na fydd y mwyafrif helaeth o goetiroedd newydd yn cael eu plannu gan Lywodraeth Cymru ond gan y cymunedau—y ffermwyr a thirfeddianwyr eraill ledled Cymru. Mae braidd yn haerllug i chi hawlio clod pan ydych chi mewn gwirionedd yn lleihau'r targedau. Rwyf i hefyd yn pendroni ynghylch pam nad oedd eich tasglu yn cynnwys NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a'r Gynghrair Cefn Gwlad. A wnewch chi egluro a ydych chi'n mynd i weithio gyda nhw a'u cynnwys nhw yn y gweithgor newydd sy'n ystyried modelau i ddenu buddsoddiad i greu coetiroedd?
Dirprwy Lywydd, mae cynllun creu coetiroedd Glastir wedi bod yn rhy gymhleth ac anodd i ffermwyr ymgysylltu ag ef. Felly, pa mor ffyddiog ydych chi, Dirprwy Weinidog, y bydd y newidiadau yr ydych yn eu cyflwyno yn symleiddio'r cynllun, ac a wnewch chi sicrhau bod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo'n briodol am sefydlu a rheoli coed a'u ffermydd? Mae nifer o adroddiadau am fuddsoddwyr preifat yn prynu rhannau helaeth o dir fferm i blannu coed, fel arfer o'r tu allan i'r ardal, a dyna'r rhan o'ch datganiad yr ydym ni yn cytuno â hi. Mae'n rhaid i ni ystyried hyn mewn gwirionedd. Felly, a wnewch chi egluro pa gamau a fydd yn cael eu cynnwys ym mhroses gymeradwyo garlam newydd Cyfoeth Naturiol Cymru i ddiogelu'r cynefinoedd agored gwerthfawr hyn rhag plannu amhriodol a sicrhau mai dim ond i'n ffermwyr gweithredol gwirioneddol yma yng Nghymru y rhoddir cymorth?
Mae rhagolygon yn rhagweld bydd cyfanswm y pren meddal fydd ar gael yng Nghymru yn gostwng o swm sefydlog o 2 miliwn metr ciwbig yn 2016 i 1.5 miliwn yn unig erbyn 2041. Felly, a wnewch chi roi mwy o eglurder i'r Siambr ynghylch sut y byddwch chi'n mynd i'r afael â'r pryderon sylweddol a godwyd gan y sector coedwigaeth fasnachol y bydd y cyfraddau plannu ac ailstocio isel yn lleihau'r cyflenwad o bren masnachol yn y dyfodol? Mae yna brinder staff a phrinder adnoddau difrifol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y gwyddom ni i gyd, felly a ydych chi wedi asesu effaith gwerthu hyd at 30 y cant o'u pren drwy ffyrdd eraill yn lle'r model presennol sy'n canolbwyntio ar werthu am y gwerth ariannol uchaf? Yn dibynnu ar y nifer sy'n cael eu recriwtio, gallai'r swyddogion coetir fod yn gyfrifol am hyd penodol o dir, oherwydd y gallen nhw fod â swyddogaeth allweddol mewn cadw'r seilwaith draenio yn glir hefyd.
Yn olaf, rwy'n pryderu'n fawr ynghylch y ffaith mai dim ond 1 y cant o orchudd coed trefol Cymru sydd mewn ardaloedd tai dwysedd uchel. Yn ôl 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel', mae gennych chi uchelgais i gynyddu gorchudd canopi coed a chreu coetiroedd ger trefi a dinasoedd—dim llawer o sôn am hynny yma heddiw. Felly, pa gynnydd sydd wedi bod ers cyhoeddi'r adroddiad hwnnw ym mis Mawrth 2019?
Dirprwy Weinidog, rydym ni i gyd yn awyddus i weld mwy o goed, ond rydym ni'n dymuno gweld mwy o weithredu a llai o eiriau. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Mae bob amser yn anodd, rwy'n gwybod, i lefarwyr y gwrthbleidiau orfod ysgrifennu cyfraniad cyn i Weinidog nodi'r hyn sy'n digwydd, ac mae'n drueni bod llawer o'r hyn y gwnaeth hi fy nghyhuddo i ohono wedi cael sylw yn fy natganiad. Mae hi yn fy atgoffa i ychydig o'r hen ddywediad bod rhai pobl yn gwrthod derbyn 'ie' yn ateb.
Fe wnaethoch chi fy meirniadu am beidio â gosod targed o 5,000 pan oeddwn i wedi dweud ein bod ni'n derbyn targed y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ar gyfer plannu coed, sef 5,000. Felly, mae hynny'n bryder y gallaf i ei roi o'r neilltu. Yn wir, rwy'n hapus i fynd trwy—. Nid oes gen i amser heddiw i fynd trwy bopeth a ddywedodd hi, ond nid wyf i'n credu bod llawer—[Torri ar draws.] Pe bai hi'n peidio â fy heclo, byddwn i'n gwneud fy ngorau i ateb ei chwestiynau; mae hi'n tynnu fy sylw. Nid wyf yn credu y bydd unrhyw beth a ddywedodd hi yn y datganiad yna yn broblem i ni. Rwy'n credu bod y tasglu wedi mynd i'r afael â'r holl faterion hynny, ac rydym ni'n sicr wedi ceisio gwneud hynny.
O ran symud cyfrifoldeb oddi wrth Lywodraeth Cymru trwy ddweud bod angen i hyn fod yn gynghrair ar gyfer newid—rwy'n credu bod hynny yn camddeall ac yn camliwio yn llwyr yr hyn yr ydym yn ei ddweud a'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni. Mae'n rhaid i hyn fod yn ddull gweithredu system gyfan. Yn sicr, mae gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae, a dyna pam yr ydym ni wedi nodi'r newidiadau i feini prawf y grant, y parodrwydd sydd gennym i dderbyn mwy o risg—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Dirprwy Weinidog ateb y cwestiynau, os gwelwch yn dda.
Rwy'n ateb eich cwestiynau mor amyneddgar ag y gallaf ac yn mynd trwyddyn nhw un ar y tro. Gallwn i fod wedi bod yn llawer mwy llym yn fy ymateb, a dweud y gwir, Janet Finch-Saunders. Rwy'n ceisio bod yn garedig i chi, ond rydych chi'n ei gwneud hi'n anodd.
Yn hytrach nag eithrio'r undebau, nid ydym wedi eithrio'r undebau. Roedd hwn yn dasglu â phwyslais manwl iawn. Nid oedd hwn yn gorff cynrychioliadol gyda'r holl randdeiliaid. Mae'r NFU a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfrannau at adroddiad rheoli tir y mentrau coedwigaeth sy'n sail i'n dadansoddiad. Fe wnes i gyfarfod â'r NFU a'r FUW a Choed Cymru ar wahân yn rhan o fwrdd crwn, a buon nhw'n gweithio'n agos iawn gyda'r tasglu ac yn chwarae rhan annatod ynddo. Felly, rwy'n gwybod ei bod yn hawdd ticio blychau i gadw pawb yn hapus; nid dyna oedd diben yr ymarfer hwn: ei ddiben oedd holi'r ffeithiau yn fanwl a chanolbwyntio ar weithredu i'w symud ac rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud hynny ac rwy'n credu ein bod ni—ar ôl i chi gael amser i fyfyrio a bod ychydig yn fwy hael, efallai y byddwch chi'n derbyn ein bod ni wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yma.
O ran diffyg staff Cyfoeth Naturiol Cymru, nid oes sefydliad yng Nghymru na all gyflwyno achos dros fod â mwy o staff. Rydym ni i gyd yn cael trafferth o ran capasiti. Dyna un o ganlyniadau cyni, ac mae angen iddi ddeall canlyniadau gweithredoedd ei phlaid ei hun ynghylch hynny. Ond un peth sydd wedi dod i'r amlwg yn hyn o beth: mae 81 o aelodau staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn treulio eu hamser yn prosesu ac yn cymeradwyo cynlluniau coetir ar hyn o bryd. Byddwn yn eu rhyddhau, felly yn hytrach nag ymarfer biwrocrataidd sy'n arafu pethau, rydym yn eu rhyddhau i chwarae rhan mewn helpu i blannu mwy o goed ac mae hynny'n rhywbeth y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei groesawu.
O ran gorchudd coed trefol, mae hynny yn rhan bwysig o'n cynlluniau. Dywedais ein bod ni'n awyddus i bob teulu blannu coeden; dywedais i hefyd ein bod ni'n awyddus i bob corff cyhoeddus nodi tir sydd ar gael a gweithio'n rhagweithiol gyda chymunedau i blannu coed ym mhob man y gallwn ni. Felly, rwyf i yn credu os wnewch chi roi'r gorau i'r tinc gwrthbleidiol a chanolbwyntio ar y cynnwys, ein bod ni mewn gwirionedd yn cytuno ar bopeth bron.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi hefyd, Weinidog, am y datganiad. Rwy’n croesawu uchelgais y Llywodraeth yn y maes hwn, ac rwy'n cytuno fod coed yn rhyfeddol. Mae mor bwysig bod Cymru yn cael economi coedwigoedd sydd yn gwarchod coed, sy'n ehangu'r niferoedd o goed yn y wlad ac sy'n creu swyddi a deunyddiau adeiladu fydd yn rhan o'n hadferiad economaidd. Mae'n amlwg y bydd angen buddsoddiad sylweddol mewn sgiliau yn y gweithlu a hefyd mewn technoleg plannu coed. Gall miloedd o swyddi gael eu creu, a bydd buddiannau mawr i'n cymunedau yn dod fel canlyniad. A allaf i ofyn, felly, am fwy o fanylder ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y sgiliau hyn y bydd eu hangen ar gyfer cyrraedd y targedau, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn annog mwy o bobl newydd mewn i'r diwydiant yma trwy brentisiaethau? Byddai'n dda cael manylder ar hynny ac amserlen fras, os yn bosib. Ac a fyddech chi'n gallu manylu rhywfaint ar sut y byddech chi'n buddsoddi yn y dechnoleg angenrheidiol ar gyfer y cynlluniau uchelgeisiol hyn?
Gan droi at ffermydd, y pwnc sydd wedi codi yn barod yn ein trafodaethau heddiw: dŷn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i blannu coed mewn ffordd sydd wedi cael ei thargedu'n effeithiol; bod angen y goeden gywir yn y lle cywir am y rhesymau cywir. Ac mae angen i'r cynlluniau hyn wneud yn siŵr eu bod yn cynnwys y bobl sydd yn gwybod y tir, gan gynnwys ffermwyr. Rydych chi wedi cyfeirio, Weinidog, yn barod at dystiolaeth sydd yn peri pryder am ffermydd cyfan yn cael eu prynu gan gwmnïau mawr rhyngwladol er mwyn plannu coed, ac mae wedi dod i'n sylw ni y gallai arian Glastir gael ei ddefnyddio i helpu cynlluniau fel hyn. Dwi'n gwybod fod hyn wedi cael ei drafod yn barod yn beth oedd Janet Finch-Saunders yn codi, ond buaswn i hefyd yn awyddus i roi ar y record pa mor bwysig fydd hi i gefnogi cymunedau gwledig i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol eu hunain, er mwyn helpu i gyrraedd y targedau. Felly, beth fyddwch chi'n ei wneud er mwyn gweithio gyda'r cymunedau, gweithio gyda'r ffermwyr yn y man yna?
Ac i droi, yn olaf, at blannu coed trefol, neu yn ein trefi a phentrefi, mae buddiannau amlwg yn dod o blannu coed mewn ardaloedd o'r fath, gan gynnwys ansawdd aer, lleihau sŵn a rheoli tymheredd. Mae nifer o'r ffactorau hyn yn cael effeithiau da ar iechyd meddwl a seicoleg trigolion y trefi hefyd.
Nawr, a allwch chi—? A dyma fy nghwestiwn olaf, felly, yn mynd mewn i a fydd Llywodraeth Cymru yn gallu manylu yn fwy ar sut fyddwch chi'n manteisio ar y buddion mwyaf posibl o blannu coed yn ein trefi, gan gynnwys yr amrywiaeth angenrheidiol o fathau gwahanol o goed, a beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r bygythiadau a'r pwysau sydd yn wynebu coed trefol? Diolch.
Diolch yn fawr am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. O ran eich pwynt olaf, ynghylch y bygythiad i goed trefol, roeddwn i wedi dweud yn glir iawn ar y dechrau cyntaf fod angen i ni ddiogelu'r coed sydd gennym ni. Nawr, nid yw hynny'n golygu y gellir cadw pob coeden o dan bob amgylchiad. Un o'r pwyntiau a wnaeth fy nharo i yn ystod yr ymarfer hwn yw ein bod ni wedi colli ein perthynas â'n coetiroedd, ac rwy'n credu bod perthynas a dealltwriaeth iach o goetiroedd yn peri i ni ddeall bod angen torri coed weithiau. Dyna pam, yn aml, yr ydym ni'n eu tyfu, os byddwn yn eu hailblannu, ac mae'n amlwg bod angen ei wneud fesul achos, ond ni ddylem ni osgoi'r ffaith bod angen torri coed weithiau. Nid wyf i'n credu y byddai dealltwriaeth iach o economi coetiroedd yn atal hynny. Mae gweledigaethau croes ar adegau rhwng y coetiroedd brith hyn â phelydrau o olau yn taro llawr y goedwig a'r gwrthgyferbyniad weithiau â darlun diwydiannol o goetiroedd, ac mae lle i'r ddau, ac mae angen dulliau gweithredu gwahanol ar y ddau.
Yn sicr mae potensial i greu swyddi, fel y dywedais i, drwy'r gadwyn werth. Ar hyn o bryd mae gennym ni gasgliad o felinau llifio sydd â model busnes sy'n eu gwasanaethu yn weddol dda, ac nid oes ganddyn nhw gymhelliant mawr i darfu ar hynny. Rwy'n credu bod angen i ni chwarae rhan fwy gweithredol wrth darfu ar hynny fel Llywodraeth, a sicrhau bod y galw yno a bod y cyflenwad yno i'r busnesau hynny allu mentro a buddsoddi yn eu hoffer cyfalaf eu hunain a buddsoddi yn eu gweithlu eu hunain. A bod yn deg, pan wnes i gyfarfod â nhw, roedden nhw'n cefnogi hynny yn fawr, ac maen nhw'n sicr yn rhan o'r ateb. Rwy'n credu bod llawer mwy o luosogrwydd y gallwn ei gyflwyno i'r system wrth i ni ddechrau creu amgylchedd gwahanol. Rhoddwyd enghraifft gan Woodknowledge Wales—ar hyn o bryd rydym ni'n anfon tua 70,000 o ffenestri UPVC i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn gyda chyllid gan gyrff cyhoeddus ar gyfer ffenestri newydd. Mae yna alw am ffenestri ffrâm bren os byddwn ni'n defnyddio dull gweithredu cydgysylltiedig, ac yn y pen draw bydd hynny'n creu hyder busnes ac, wrth gwrs, yr angen am fwy o goed. Felly, mae hyn i gyd yn gysylltiedig.
Rydych chi'n gofyn am fwy o fanylion am y ffordd yr ydym ni'n buddsoddi mewn sgiliau a thechnoleg ac mae arnaf ofn na allaf i roi hynny i chi ar hyn o bryd, ond mae bwriad yn sicr i ddechrau datblygu cynlluniau i wneud hynny, a gobeithio, i gynnal y tasglu a'i ehangu i sicrhau bod gennym ni'r bobl iawn gyda'i gilydd. Dyna a ddysgais yn fawr o hyn: roedd gennym ni'r bobl a oedd yn ymwneud â gweithredu hyn o amgylch y bwrdd gyda'r bobl ag arbenigedd, sydd â'r grym penodol i herio, a thrwy broses ddwys o gydweithio, nodi rhwystrau mewn modd systematig a chynnig atebion. Rydym ni wedi cynnig 49 o argymhellion a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rwy'n credu bod honno yn broses iach iawn y mae angen iddi barhau.
O ran defnyddio cyllid Glastir i ganiatáu i fewnfuddsoddwyr, os hoffech chi, ddod i mewn a phrynu ffermydd, yr hyn a ddysgais yn fawr o'r model Cefnogi'r Coed oedd bod gennym ni yma grŵp o bobl o Gymru sy'n cael eu harwain gan ffermio sydd â rheolaeth a pherchnogaeth yn lleol ond sy'n denu arian drwy gredydau carbon o gyrff allanol. Felly, mae gennym ni a bydd gennym ni fwy o alw am wrthbwyso carbon, ac yn hytrach na dim ond sefyll yn ôl a gadael i'r farchnad lenwi'r bwlch hwnnw, a gweld mwy o ffermydd Cymru yn cael eu prynu gan gyrff o'r tu allan i Gymru, rwy'n credu bod angen i ni gamu i mewn yma a hwyluso'r berthynas hon lle gellir defnyddio'r arian hwnnw drwy gredydau carbon, ond eich bod chi'n denu'r arian hwnnw i gymunedau fel bod y berchnogaeth a'r rheolaeth yn aros yn lleol.
Rwy'n gobeithio bod hynny yn ymdrin â chynifer o'r pwyntiau ag y gallaf yn yr amser sydd ar gael. Byddaf i'n hapus i wneud gwaith dilynol.
Rwy'n croesawu datganiad Llywodraeth Cymru. Gofynnais am ddatganiad ar goed ychydig wythnosau yn ôl, a diolch byth bod gennym ni un erbyn hyn. A gaf i ddweud hefyd gymaint yr wyf i'n croesawu naws datganiad y Gweinidog? Mae angen llawer mwy o goed arnom i ddiwallu ein hanghenion newid hinsawdd, i leihau'r perygl o lifogydd ac i ddiogelu bioamrywiaeth. Ond mae angen i ni gynnwys y cyhoedd. Pe bai pawb â gardd yn plannu un goeden, byddai hynny dros filiwn o goed. Mae angen i ni weld cynghorau yn plannu coed mewn parciau ac ar ochr y ffordd—rydym ni wedi colli llawer gormod o goed o ochr y ffordd—ac mae angen eu plannu mewn niferoedd mawr. Os gallwn ni ennyn brwdfrydedd cymunedau i blannu coed ar dir sy'n dal i ddangos creithiau diwydiannol, fel y gwelsom yng Nghwm Tawe isaf yn y 1970au, gall drawsnewid ardal yn gyfan gwbl.
Mae gen i ddau gwestiwn. Roedd cynlluniau yn y 1970au sef 'Plant a Tree in '73' a 'Plant One More in '74'. Roedden nhw'n llwyddiannus iawn. A ellir ailadrodd hyn yn 2023 a 2024? Ac a yw'r Gweinidog wedi dod i'r un casgliad a mi fod angen comisiwn coedwigaeth arnom, ac er y gall rannu swyddogaethau swyddfa gefn â Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd angen iddo sefyll ar ei ben ei hun, i hybu, monitro a rheoli coedwigaeth?
Diolch yn fawr iawn, ac mae hwnna'n syniad ysbrydoledig, 'Plant a tree in 2023 and another in 2024'. Fe gymeraf hwnna oddi arnoch chi heb gywilydd, rwy'n credu, Mike Hedges—rwy'n credu bod hynny yn wych. Af i ffwrdd a chreu rhywbeth gyda hwnna. Diolch yn fawr iawn, iawn; mae'n awgrym ardderchog.
O ran corff yn debyg i'r comisiwn coedwigaeth, efallai fy mod i wedi siarad mewn gormod o god yn fy ymateb, ond fe wnes i ddweud wrth edrych ar enghraifft Iwerddon y bydd angen i ni ddysgu gan gorff sy'n ychwanegu gwerth ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan. Yn ogystal â bod â chyfraddau plannu coed llawer uwch na ni, mae ganddyn nhw system well o lawer ar gyfer moniteiddo hynny hefyd, a'i ddefnyddio er budd economaidd a chreu cyfoeth lleol ohono. Ac rwy'n credu bod angen i ni edrych ar hynny hefyd.
Un o'r pethau rwy'n credu y mae angen i ni feddwl amdano—ac nid oeddwn i'n dymuno gwneud hyn yn yr ymarfer byr, cryno hwn, oherwydd ni allwn fod yn wamal yn ei gylch—ond i edrych i weld ble mae'r casgliad gorau o swyddogaethau yn hyn o beth, ac ai CNC yw'r corff iawn. Rwy'n credu ein bod ni wedi eu sefydlu i faglu a methu weithiau trwy ofyn iddyn nhw fod yn rheoleiddiwr ac yn hyrwyddwr, ac rwy'n credu bod hynny yn anodd iawn i unrhyw gorff ei wneud. Fel y dywedais i, maen nhw'n cael eu beirniadu yn aml am fod mor araf a biwrocrataidd, ond maen nhw'n gwneud pethau yr ydym ni wedi gofyn iddyn nhw eu gwneud, a rhan o'r hyn y mae'r swyddogaeth hon drwy'r ymarfer hwn yn bwriadu ei wneud yw tynnu rhywfaint o hynny oddi arnyn nhw, i'w gwneud yn haws iddyn nhw fel nad ydyn nhw bob amser dan y lach, ond i ymdrechu i wneud pethau sy'n mynd i helpu, sef yr hyn y maen nhw'n dymuno ei wneud, i fod yn deg. Ond rwy'n credu bod cwestiwn agored ynghylch beth yw'r corff iawn i wneud y swyddogaeth gydgysylltu honno. Efallai nad Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwnnw, ond rwyf i'n awyddus i ddod i'r casgliad hwnnw mewn modd meddylgar ac amyneddgar.
Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r cynlluniau uchelgeisiol. Mae angen i ni blannu mwy o goed i fynd i'r afael â newid hinsawdd a lleihau'r siawns o amodau tywydd mwy eithafol, fel y glaw a arweiniodd at y llifogydd ym mis Chwefror 2020. Ym mis Hydref 2020, cwblhaodd CNC ei adolygiad rheoli ystadau tir a lluniodd 10 argymhelliad allweddol i newid eu dull gweithredu presennol, yn ogystal ag argymhellion mwy penodol yn dilyn y llifogydd ym Mhentre. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithredu ar bob un o'r 10 argymhelliad yn dilyn yr adolygiad, yn ogystal â'r argymhellion yn dilyn y llifogydd ym Mhentre? Rwy'n hapus i dderbyn ateb ysgrifenedig gan y Gweinidog yn ddiweddarach.
Efallai y gallaf i roi pwyntiau i Buffy Williams am geisio troi hon yn drafodaeth ynghylch sefyllfa llifogydd ym Mhentre. Rwy'n ofni nad yw hynny'n rhywbeth yr edrychwyd arno yn benodol. Byddwn i'n hapus i ysgrifennu diweddariad ar sut y mae CNC yn bwrw ymlaen â'r adolygiad hwnnw. Ond byddwn i yn dweud mai yr hyn y mae'r ymarfer hwn wedi ei amlygu yw swyddogaeth bwysig plannu coed o ran lliniaru ac atal llifogydd, ac mae hynny'n rhan bwysig iawn o'r cynlluniau y mae angen i ni eu datblygu. Felly, mae hynny'n helpu o ran yr hyn yr ydym yn ei wybod eisoes sy'n rhan annatod o system o dywydd cythryblus amlach.
A gaf i groesawu'r datganiad heddiw? Rwy'n frwdfrydig iawn ynghylch coed fel yr ydych chi, ac rwy'n credu ei bod yn gwbl wych bod y targed uchelgeisiol cenedlaethol hwn yn cael ei osod yn awr. A gaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru hefyd am y grantiau a ddarparodd drwy Cadwch Gymru'n Daclus a Coed Cadw ar gyfer plannu coedwig fechan ym Mae Cinmel yn fy etholaeth i, sydd wedi sbarduno'r gymuned leol i blannu perllannau cymunedol a choed ar ymylon glaswellt? Dyma'r math o adwaith cadwynol, rwy'n credu, y gallai Llywodraeth Cymru fod yn chwilio amdano.
Fodd bynnag, mae gen i un pryder, ac mae hynny'n ymwneud â thorri coed. Rwy'n gwybod bod rhywun arall eisoes wedi codi hyn—Delyth Jewell—yn gynharach, ond nid yw Deddf Coedwigaeth 1967 yng Nghymru a Lloegr yn caniatáu i awdurdodau lleol wrthod trwyddedau torri coed ar hyn o bryd i ddiogelu poblogaethau bywyd gwyllt lleol fel y wiwer goch, ac rwyf i'n hyrwyddwr mawr o'r rhywogaeth honno. Mae Llywodraeth yr Alban wedi newid y gyfraith mewn gwirionedd er mwyn gallu gwrthod trwyddedau at y diben hwnnw. A gaf i annog Llywodraeth Cymru i ystyried a allai newid tebyg yn y gyfraith fod yn bosibl yma yng Nghymru er mwyn amddiffyn nid yn unig gwiwerod coch, ond unrhyw fywyd gwyllt pwysig arall ledled Cymru a allai fod dan fygythiad o ganlyniad i weithrediadau torri coed?
Diolch am yr ymyriad adeiladol yna, ac rwyf i wedi galw Darren Millar yn llawer o bethau dros y blynyddoedd, ond byth yn un brwdfrydig dros goed. Felly, dyna un i'w ychwanegu at y rhestr. Rwy'n credu ei fod yn llygad ei le wrth ddweud bod tensiynau polisi a chanlyniadau hurt ac anfwriadol weithiau, ac mae'n rhoi enghraifft dda iawn yna. Felly, byddwn i'n hapus iawn i edrych ar hynny, gan fy mod i'n credu ei bod yn broblem.
Rwy'n croesawu ymrwymiad llwyr y Gweinidog i'r achos hwn ac mae'r uchelgais a'r penderfyniad i'w gweld yn glir. Byddwn i'n annog y Gweinidog i symud mor gyflym ag y gall i gynyddu gorchudd coed yn ein trefi a'n dinasoedd. Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cael mannau gwyrdd ger eich cartrefi. Mae coed yn rhoi cysgod, yn lleihau tymheredd y stryd, yn amsugno carbon deuocsid, yn hidlo llygredd aer, yn gwella draeniad ac yn lliniaru llifogydd, ac yn darparu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt a phlanhigion. Ni ddylai strydoedd â choed ar eu hyd fod yn rhywbeth a welir yn y maestrefi yn unig, mae'n rhaid eu hannog nhw yn ardaloedd mwyaf poblog ein trefi a'n dinasoedd hefyd. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi ychydig mwy o fanylion am ei gynlluniau i sicrhau bod hyn yn digwydd? Ac mae annog plannu gwrychoedd yn ein hardaloedd trefol yn bwysig hefyd, boed hynny o amgylch ein cartrefi neu ein hysgolion, felly a wnaiff y Gweinidog ddweud sut y bydd hyn yn cyd-fynd â'r strategaeth hefyd?
Mae galwad genedlaethol yn annog pawb i gymryd rhan, yn syniad ardderchog ac yn rhywbeth sydd wedi bod yn llwyddiannus o'r blaen, fel y soniodd Mike Hedges eisoes. Cafodd llawer o'r coed a blannwyd yng Nghaerllion yn fy etholaeth i yn ystod y 1970au eu plannu yn ystod yr ymgyrch 'Plant a Tree in '73' a 'Plant Some More in '74'—
A wnaiff yr Aelod ddod i gasgliad nawr, os gwelwch yn dda?
Gwnaf. Byddwn i'n rhybuddio bod yn rhaid iddi fod y goeden iawn yn y lle iawn, ynghyd â'r gwrychoedd—efallai 'Plant a Yew yn '22'. Beth bynnag fo'r teitl neu'r rhywogaethau brodorol, byddwn i'n annog y Gweinidog i gadw'r momentwm o ran hyn. Mae'n rhaid i ni weld y cynllun hwn yn cael ei wireddu.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r holl bwyntiau a wnaeth. Rwy'n credu bod y pandemig wedi dangos i ni y cysylltiad â natur y gall ymddiddori yn eich gardd a phlannu coed ei feithrin, ac rwy'n sicr wedi ei weld yn achos fy ngardd fy hun.
Os ydym am ymateb i her newid hinsawdd, fel yr ydym ni wedi ei drafod yn y Siambr hon yn yr wythnosau diwethaf, mae angen i ni newid pethau'n sylweddol. Ac rwy'n credu, o'i wneud yn iawn, y gall annog pobl i blannu mwy o goed eu hunain ddechrau'r daith honno o ddeall perthynas â natur a'r camau y mae angen i bob un ohonom ni eu cymryd yn ein gardd flaen a'n gardd gefn ein hunain yn rhan o gyfres ehangach o symudiadau newid ymddygiad, a dyna fy mwriad i.
Rydym ni wedi cyhoeddi rhai pethau heddiw, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu cyhoeddi mwy wrth i'r misoedd fynd heibio.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cyflwyno'r datganiad hwn heddiw, ac mae'n amlwg iawn eich bod chi'n benderfynol o yrru hyn yn ei flaen. Ac rwy'n credu eich bod chi wedi nodi gyda'i gilydd y problemau sydd yn peri rhwystr, ac mae hynny'n gwneud bywyd yn haws i gyflawni hyn, ac rwy'n credu bod hynny'n wych.
Gan ein bod ni'n brin o amser, hoffwn i siarad am y rhan gwrychoedd ac ymylon yn eich datganiad, oherwydd eu bod nhw'n hanfodol ar gyfer cynefin. Yr hyn yr ydym ni i gyd yn ei weld, yn aml iawn, pan fydd datblygiad tai, yw'r holl wrychoedd ac ymylon wedi eu rhwygo allan a'r holl dir wedi ei glirio, ac yna rhywbeth yn cael ei roi yn ôl yn eu lle. Felly, a gaf i ofyn i chi siarad â'r Gweinidog arall sy'n gyfrifol am gynllunio ar gyfer datblygu, er mwyn gallu efallai ymgorffori rhai o'r gwrychoedd hynafol hynny yn y datblygiad trefol heb orfod dinistrio'r hyn sydd yno yn peri rhwystr? Diolch.
Diolch. Fel y dywedais i wrth drafod trafnidiaeth, mae angen i ni wneud y peth iawn i'w wneud y peth hawdd i'w wneud, ac rwy'n credu bod hynny'n berthnasol i'r holl heriau newid ymddygiad o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd. Rwy'n credu bod y cysyniad o wrychoedd ac ymylon, y tynnwyd fy sylw ato gan Coed Cadw, sydd wedi gwneud gwaith da iawn ar hyn, yn un pwysig iawn, oherwydd bod taith anodd o'n blaenau wrth i rai ffermwyr ystyried yr agenda hon yn fygythiad i'w ffordd o ffermio, a dyna pam y mae angen i ni gael sgyrsiau gyda phob un ohonyn nhw i weld beth sy'n addas i'w tir. A gall pob un ohonyn nhw nodi darnau o dir lle bydden nhw'n gwbl gyfforddus â chael gwrychoedd ac ymylon wedi eu gorchuddio gan goed, ac rwy'n credu bod hynny'n ddechrau pwysig iawn iddyn nhw ar y daith newid ymddygiad o ran y ffordd y maen nhw'n ffermio hefyd.
O ran pwynt penodol gwrychoedd hynafol, nid wyf i'n gwybod digon am hynny i roi ateb deallus i chi, felly, os nad oes ots gennych chi, fe af i ffwrdd, meddwl amdano, siarad â phobl fwy clyfar, a rhoi ateb i chi yn ddiweddarach.
Diolch, Dirprwy Weinidog.
Ac a gaf i ddiolch i'r ddau Weinidog am eu hatebion byr a chryno a ganiataodd i mi alw ar lawer o Aelodau i ofyn eu cwestiynau? Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn mynd i ffwrdd dros yr haf ac yn ymarfer eu hamseru ar rai ohonyn nhw hefyd.