1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 14 Gorffennaf 2021.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gyda'r Gweinidog gan arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru? OQ56769
Diolch, Heledd. Rwyf wedi cyfarfod â thîm arwain Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddar, ochr yn ochr â'r Dirprwy Weinidog, Lee Waters, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio'n agos iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'n holl bartneriaid ledled Cymru i sicrhau y gallwn ymateb yn effeithiol i heriau sylweddol newid hinsawdd, gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau llifogydd difrifol.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mi ddylwn i ddatgan fan hyn fy mod i'n gynghorydd yn Rhondda Cynon Taf hefyd. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, bod Llywodraeth Cymru wedi rhoddi arian i nifer o gynghorau lleol, gan gynnwys cyngor Rhondda Cynon Taf, i wario ar amddiffynfeydd dros dro rhag llifogydd ar gyfer tai, megis giatiau atal llifogydd ac ati, ac mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Er bod yna nifer o dai wedi elwa o hyn, mae yna anghysondeb o ran sut mae'r penderfyniad yn cael ei wneud o ran pa dai sy'n gymwys neu beidio. Er enghraifft, ar un stryd ym Mhontypridd, mi gafodd 30 o dai lifogydd yn Chwefror 2020, ond 13 o dai sy'n cael cynnig giatiau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud nad yw gweddill y tai ddim efo cymaint o risg o lifogydd. Mae'n anodd iawn i fi egluro i bobl pam eu bod nhw ddim yn gymwys i gael y giatiau yma, a hwythau wedi cael llifogydd ar union yr un pryd. Gaf i ofyn ichi felly, oherwydd dwi wedi methu â chael atebion i hyn: a fedr y Gweinidog ymyrryd yn y mater hwn, os gwelwch yn dda, a gofyn am ddiweddariad o ran sut mae arian y Llywodraeth yn cael ei wario, a sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud o ran pa dai sy'n gymwys neu beidio? Dwi'n siŵr y byddai nifer o bobl yn cytuno y dylai pob cartref a ddioddefodd lifogydd gael yr un cynnig.
Diolch am hynny, Heledd. Os ydych eisiau ysgrifennu ataf gyda manylion y tai nad ydynt wedi'u cynnwys, rwy'n fwy na pharod i ymchwilio i hynny ichi.
Prynhawn da, Weinidogion. A gaf fi ddechrau drwy ddatgan buddiant, gan fy mod yn gynghorydd yn sir Ddinbych? Weinidog, cafodd fy etholaeth i, Dyffryn Clwyd, ei tharo'n galed gan storm Ciara y llynedd a storm Christoph eleni. Er na allwn wneud fawr ddim am y tywydd, gallwn roi camau ar waith i liniaru ei effaith. Yn anffodus, fel llawer o awdurdodau lleol, mae sir Ddinbych wedi canfod nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gymorth mawr ar adegau a'i fod yn rhwystr ar adegau eraill. Boed yn gwlferi nad ydynt yn cael eu clirio mewn da bryd, neu'n fesuryddion afonydd nad ydynt yn cael eu trwsio, neu'n litani gyfres o faterion sy'n ymddangos yn fach, gyda'i gilydd maent yn arwain at lifogydd dinistriol i fy etholwyr. Hyd yn oed wrth geisio dysgu gwersi o lifogydd y llynedd, wynebodd cynghorwyr a swyddogion sir Ddinbych elyniaeth. Weinidog, a wnewch chi wrando ar y rhybudd yn awr nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu gwneud y gwaith a chytuno i gynigion y Ceidwadwyr Cymreig i greu asiantaeth lifogydd genedlaethol i Gymru? Diolch.
Diolch ichi am hynny, Gareth. Onid yw'n bwysig ymdrin â materion difrifol fel llifogydd yn anwleidyddol? Fel y gwyddoch, rydym wrthi'n adolygu'r trefniadau rheoli llifogydd eisoes. Rydym eisoes wedi croesawu nifer o adroddiadau adran 19 gan awdurdodau lleol mewn perthynas ag amddiffyn rhag llifogydd, ac rydym yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, swyddogion Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod gennym y lefel gywir o amddiffyniad rhag llifogydd, gan yr asiantaeth gywir, yn y lle cywir ar yr adeg gywir. Nid wyf eisiau dweud unrhyw beth yn erbyn ein partneriaid awdurdod lleol y gwn iddynt weithio'n galed iawn drwy gydol y gaeaf, a thrwy gydol y gaeaf cyn hynny, er mwyn amddiffyn pobl rhag llifogydd, ac wrth fynd i'r afael â chanlyniadau uniongyrchol llifogydd. Ond wrth gynnal adolygiad, mae'n rhaid dweud y gwneir adolygiad o'r holl bartneriaid, ac anaml iawn y gwelais adolygiad lle mae un partner wedi gwneud yn gwbl ragorol a bod y bai i gyd ar y partner arall. Felly, mae'n ddyletswydd arnom ni i gyd, mewn modd anwleidyddol yma, i ddeall yr hyn a aeth o'i le a rhoi'r systemau ar waith i sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi a bod gennym yr amddiffyniad gorau posibl rhag llifogydd y gaeaf hwn. Dyna'n union y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud.
Weinidog, fel y gwyddoch, rwyf wedi mynegi fy marn yn glir yn y Siambr hon wrth drafod Cyfoeth Naturiol Cymru a digwyddiadau llifogydd 2020. Wedi dweud hynny, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cymorth a roddwyd i bob awdurdod rheoli perygl llifogydd ers y llifogydd i wella mesurau i amddiffyn rhag llifogydd ac atal llifogydd ar draws Rhondda, trwsio cwlferi a systemau draenio ym Mhentre, Treorci, Ynys-hir a Blaenllechau, a chynlluniau ar gyfer wal lifogydd ym Mritannia. Rydym wedi dweud yn y Siambr ac mewn cyfarfodydd allanol fod angen gweithgor i ddysgu gwersi mis Chwefror 2020. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r awdurdodau rheoli perygl llifogydd ynglŷn â'r gweithgor?
Diolch yn fawr iawn, Buffy. Rydym wedi cael cyfres helaeth o drafodaethau ynglŷn â hyn. Fel y dywedais, rydym yn awr yn bwriadu cael adolygiad o'r gwersi a ddysgwyd, a mynd i'r afael â chyfres o argymhellion i wella lefel yr amddiffyniad rhag llifogydd a ddarperir i'r gymuned. Rydym wedi darparu'r swm mwyaf erioed o gyllid i reoli perygl llifogydd. Yn 2020-21, cynyddodd cyllid refeniw Cyfoeth Naturiol Cymru o £1.25 miliwn i £21 miliwn, a chafodd hwn ei gynnal yn 2021-22, ynghyd â £17 miliwn pellach mewn cyllid cyfalaf. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, fodd bynnag, i fynegi fy niolch i lawer o staff Cyfoeth Naturiol Cymru a weithiodd y tu hwnt i'r galw yn ystod y llifogydd. Rwy'n credu ei bod yn hawdd anghofio'r bobl ar lawr gwlad sydd wedi gweithio'n galed iawn mewn amgylchiadau anodd iawn, ochr yn ochr â swyddogion awdurdodau lleol, swyddogion o awdurdodau tân ac achub ac eraill, gan wynebu heriau mawr wrth wneud hynny. Rwy'n credu bod hynny ar goll yn rhai o'r sgyrsiau hyn. Rydym yn hapus iawn, wrth gwrs, i edrych eto ar weddill—fe wyddoch fy mod eisoes yn gwneud hynny. Gofynnir i Cyfoeth Naturiol Cymru wneud nifer enfawr o bethau i Lywodraeth Cymru, ac mae llawer o'r staff yn eu gwneud yn eithriadol o dda. Rwy'n derbyn yn llwyr nad ydym wedi sicrhau'r gydbwysedd cywir mewn perthynas â chyfrifoldebau dros amddiffyn rhag llifogydd ar hyn o bryd, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i gywiro hynny yn y dyfodol.