– Senedd Cymru am 2:52 pm ar 14 Medi 2021.
Y datganiad nesaf, gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar Affganistan—y Gweinidog, Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Prynhawn da. Rwy'n falch iawn o gael rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y camau yr ydym ni wedi'u cymryd yng Nghymru i ymateb i ymadawiad rhai o ddinasyddion Affganistan â'u gwlad dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ac rwy'n diolch i Aelodau ar draws y Siambr hon am eu hymgysylltiad nhw â hyrwyddo Cymru fel cenedl noddfa. Mae Cymru wedi croesawu dros 50 o deuluoedd o Affganistan erbyn hyn ac mae gwaith yn parhau i gynyddu hyn eto. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn cytuno i ni gyrraedd carreg filltir bwysig iawn.
Rwyf wedi cyfarfod â Llywodraeth y DU a Gweinidogion o'r Alban a Gogledd Iwerddon ar ddau achlysur i gefnogi dull pedair gwlad o ailsefydlu pobl. Ac fe ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Cartref a'r Ysgrifennydd Cymunedau ataf i ddoe i nodi mwy o fanylion ynglŷn â'r cynlluniau. Fe gefais i fy nghalonogi bod rhai o'm ceisiadau i ynghylch y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cynllun newydd i gefnogi dinasyddion o Affganistan a lefel y cyllid sydd ar gael wedi cael eu derbyn. Mae llawer o gwestiynau yn parhau i fod angen eu hateb.
Mae Aelodau wedi gweld llawer iawn o haelioni o ran ymatebion eu hetholwyr nhw. Mae'r caredigrwydd hwn, yn fy marn i, yn ymgorfforiad o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn genedl noddfa. Ac nid yw'r cysyniad hwnnw yn perthyn i Lywodraeth Cymru; mae'n perthyn i'r holl bobl a'r sefydliadau sy'n rhan o'n gwlad ni ac sy'n awyddus i roi'r hyn y gallan nhw at ddiben dyngarol. Fe gefais i fy ngwir galonogi gan ymatebion y cyhoedd, yr elusennau a'r sefydliadau ledled Cymru i gefnogi'r rhai y mae angen cymorth arnyn nhw. Rydym ni'n gweithio'n galed i ddod o hyd i gyfrwng effeithiol ar gyfer y cymorth hwn.
Rwy'n ddiolchgar iawn i bob awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi addo eu cefnogaeth i'r ddau gynllun newydd—polisi adleoli a chynorthwyo Affganistan, neu ARAP, a'r cynllun i ailsefydlu dinasyddion Affganistan. Fe ddylid ystyried y cymorth hwn hefyd yn y cyd-destun ehangach a gefnogwyd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru yn flaenorol ac sy'n parhau sef y cynllun i ailsefydlu pobl o Syria, ac mae llawer wedi parhau i gefnogi'r system o ddydd i ddydd ar gyfer rhoi noddfa i bobl drwy gydol y degawdau diwethaf. Fe fyddwn ni yn ein herio ein hunain i wneud rhagor bob amser, ond nid oes unrhyw amheuaeth nad yw llywodraeth leol yng Nghymru yn chwarae rhan lawn yn yr ymdrech hon. I'r perwyl hwnnw, mae tua 230 o unigolion o 50 o deuluoedd wedi cyrraedd Cymru erbyn hyn. Dim ond trwy waith ymroddedig timau ailsefydlu awdurdodau lleol y bu'r gwaith hwn yn bosibl, a chyllid penodol gan y Swyddfa Gartref i gaffael y llety, ac, mewn rhai achosion, garedigrwydd landlordiaid a sefydliadau eraill i sicrhau bod eu tai nhw ar gael.
Hyd yma, mae gan fwyafrif llethol y teuluoedd hyn yr ydym ni wedi rhoi llety iddyn nhw gysylltiadau eisoes â Chymru yn sgil eu gwaith ochr yn ochr â'r lluoedd arfog sydd â chyswllt cryf â Chymru sydd wedi bod yn weithgar yn Affganistan dros 20 mlynedd. Maen nhw wedi dangos dewrder a sgiliau wrth gefnogi ein lluoedd arfog ni, ac rydym ni wedi gweithio ar y cyd â'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau y gellir lletya'r teuluoedd hyn yng Nghymru, ochr yn ochr â'r ffrindiau y buon nhw'n gweithio i'w hamddiffyn nhw yn Affganistan. Ac fe fydd hi'n fraint i mi gael croesawu rhai o blith y teuluoedd hyn i gwrdd ag Aelodau yn y Senedd yn y dyfodol agos.
Mae'r datrysiad hwn a luniwyd yng Nghymru wedi gofyn am ffyrdd arloesol o weithio. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i Urdd Gobaith Cymru am ymgorffori ei ddibenion dyngarol hirsefydlog drwy ddod i'r adwy a chynnig llety dros dro i'r rhai sydd mewn angen dybryd. Mae cysylltiad dwfn yr Urdd â diwylliant a gwaith Cymru gyda phlant a phobl ifanc yn ychwanegu gwerth sylweddol, ac fe fydd hynny'n gwneud eu harhosiad dros dro nhw yn brofiad llawer mwy cefnogol a hwylus o ran integreiddio nag unrhyw drefniant dros dro arall y gellid ei gynnig iddyn nhw.
Fe hoffwn i ddiolch i lywodraeth leol am roi eu caniatâd a threfnu'r cymorth yn gyflym, y Swyddfa Gartref am sicrhau y gallem ni ddatblygu'r datrysiad hwn, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am eu hymdrechion diflino i gydlynu ymateb dyngarol mor bwysig. Rydym ni wedi gweithio'n agos gyda sefydliadau sy'n cefnogi ffoaduriaid, arweinwyr ffydd, cymunedau Affganistan Cymru sydd eisoes yn byw yma yng Nghymru, a llawer mwy, i sicrhau bod y rhai sy'n cyrraedd yn cael y cymorth gorau posibl.
Mae darparu llety yn allweddol, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod y rhai sy'n cyrraedd yn gallu deall bywyd Cymru hefyd a chael eu cefnogi i ailadeiladu eu bywydau nhw. Mae ein profiad cyfunol ni yng Nghymru yn sgil y cynllun ailsefydlu pobl o Syria a'r system ceisio lloches yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa dda, ond rydym ni'n parhau i drafod ffyrdd o estyn y croeso mwyaf priodol y gallwn ni. Mae ein hymrwymiad i'r cynlluniau hyn yn amlwg, ond rwy'n awyddus i gydnabod bod gennym ni ymrwymiad hirdymor i gefnogi pobl sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Fe gaiff unrhyw un sy'n cael ei ailsefydlu neu ei wasgaru i Gymru ei gefnogi, cyn belled ag y gallwn ni, fel cenedl noddfa.
Mae pobl sy'n byw yn ein cymunedau ni nawr wedi cael eu gorfodi i ffoi o'u gwlad nhw am eu bod nhw'n ofni erledigaeth, ac nid o ran Affganistan yn unig y mae hynny'n wir. Rydym ni wedi annog Llywodraeth y DU i ailfeddwl am y cynigion a gyflwynwyd yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, a fyddai'n creu system ddwy haen ddi-fudd rhwng y rhai sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid sydd wedi cael eu hailsefydlu. Fe ddylid diddymu'r cynigion hyn, ac fe fyddwn ni'n hapus i weithio gyda Llywodraeth y DU ar system ceisio lloches sy'n gweithio mewn gwirionedd ac sy'n ddyngarol.
Fe ddywedodd yr awdur Affgan-Americanaidd Khaled Hosseini un tro,
'Mamau, tadau, chwiorydd, brodyr, plant yw ffoaduriaid sydd â'r un gobeithion a'r un uchelgeisiau â ni—dim ond eu bod nhw, drwy ryw dynged, wedi gweld eu bywydau nhw'n cael eu rhwymo i argyfwng ffoaduriaid byd-eang ar raddfa ddigynsail.'
Rwy'n galw ar bawb yn y fan hon i addo gweithio gyda ni ar ein gweledigaeth ni a rennir o genedl noddfa, ac fe fyddaf i'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau maes o law. Diolch.
Rydym ni'n parhau i gadw at ein hymrwymiad hirsefydlog ni i Gymru fod yn genedl noddfa. Fel y bydd y Gweinidog o bosibl yn ei gofio, fe wnes i noddi a chynnal y digwyddiad Noddfa yn y Senedd bum mlynedd yn ôl. Mae'n rhaid i ni sicrhau y bydd pobl o Affganistan sydd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi, gan gynnwys rhai sy'n dod i'r DU a fu'n gweithio'n agos gyda'r fyddin Brydeinig a Llywodraeth y DU yn Affganistan, ac wedi peryglu eu bywydau wrth wneud hynny, yn cael y cymorth hanfodol y bydd ei angen arnyn nhw i ailadeiladu eu bywydau a bod â dyfodol sy'n sefydlog a diogel. Mae'n rhaid i Gymru wneud ei rhan lawn yn hyn o beth.
Fodd bynnag, ddiwedd mis Awst, fe ofynnwyd i mi am sylw i'r wasg gan Voice of Wales, ar ôl yr adroddiad y gallai parc gwyliau Pontins ym Mhrestatyn gartrefu ffoaduriaid o Affganistan. Fe ddywedwyd wrthyf i nad oedd hi'n ymddangos bod y penderfyniad yn boblogaidd gyda thrigolion lleol yr oedden nhw wedi bod yn siarad â nhw. Fe dderbyniais i wybodaeth wedyn nad oedd Pontins Prestatyn yn cael ei ystyried at y diben hwn. Er hynny, yn eich sesiwn friffio dechnegol chi ddydd Iau diwethaf, roeddech chi'n dweud y byddai llety Urdd Gobaith Cymru yn cael ei ddefnyddio at y diben hwn, fel yr ydych chi wedi ei gadarnhau eto yn eich datganiad heddiw. Pa safleoedd, gan gynnwys hwnnw, a gaiff eu defnyddio ledled Cymru felly? Sut y byddwch chi'n sicrhau eu bod nhw i gyd yn bodloni'r safonau angenrheidiol o ran ansawdd bywyd i unigolion a theuluoedd? Ac yn bwysig iawn, sut ydych chi am sicrhau ymgysylltiad â chymunedau lleol i leihau'r gwrthwynebiad a sicrhau'r ddealltwriaeth a'r gefnogaeth orau bosibl?
Roedd y sylw yn y wasg ar y cyntaf o Fedi yn cadarnhau bod pob un o 22 cyngor Cymru wedi addo cartrefu ffoaduriaid o Affganistan, ond roedd yr ymatebion wedyn yn amrywio o sir Gaerfyrddin yn dweud y bydden nhw'n derbyn tri theulu yn cynnwys 15 o bobl, a sir Fynwy a Chastell-nedd Port Talbot yn dweud y bydden nhw'n rhoi cymorth cychwynnol i dri theulu ac i ddau arall yn ddiweddarach, i sir Benfro yn datgan, 'Dim, ond yn amodol ar ymateb y gymuned', a Phen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf a sir Ddinbych yn methu ag ateb yr un pedwar cwestiwn a roddwyd i bob cyngor. Serch hynny, fe gadarnhaodd sir Ddinbych wedyn y bydd yn rhoi cymorth i bum teulu sy'n ffoaduriaid o dan bolisi cymorth adleoli Affganistan Llywodraeth y DU, ac y gellid cynyddu'r nifer hyd at 10 teulu, yn dibynnu ar setliad ariannu cynhwysfawr neu ymrwymiad y tu hwnt i'r amserlen un flwyddyn ar y pryd.
Beth, felly, yw eich dealltwriaeth chi o ran nifer y lleoliadau sydd ar gael gan gynghorau ledled Cymru erbyn hyn? Sut fyddwch chi'n ceisio sicrhau eu bod nhw i gyd yn cymryd cyfran deg? A sut ydych chi am weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd cymorth ariannol gan y ddwy Lywodraeth yn mynd i'r mannau priodol, gan fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn ariannu erbyn hyn lle bydd cynghorau sy'n cefnogi pobl drwy gynllun ailsefydlu dinasyddion Affganistan neu gynllun polisi adleoli a chymorth Affganistan yn cael £20,520 y pen dros dair blynedd ar gyfer costau ailsefydlu ac integreiddio, a chynghorau lleol a phartneriaid iechyd sy'n adsefydlu teuluoedd yn derbyn hyd at £4,500 y plentyn ar gyfer addysg, £850 i dalu am ddarpariaeth Saesneg i oedolion sydd ag angen am gymorth fel hyn, a £2,600 i dalu am ofal iechyd?
Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau cefnogaeth ehangach gan y gwasanaethau datganoledig y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw, yn enwedig iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol? Ac yn olaf, o ystyried y swyddogaeth allweddol a fydd gan y trydydd sector, eglwysi, a grwpiau ffydd eraill yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw yn y gefnogaeth i oedolion a phlant Affganistan sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru wedi iddyn nhw orfod ffoi o'u cartrefi, sut ydych chi am sicrhau eu bod nhw'n cael eu hintegreiddio yn uniongyrchol i gynlluniau, dyluniad, a darpariaeth y gwasanaethau cymorth o'r cychwyn cyntaf?
Rwy'n diolch i Mark Isherwood am y cwestiynau yna ac yn diolch iddo a'r Ceidwadwyr Cymreig am eu cefnogaeth nhw i'r genedl noddfa. Rwy'n hapus iawn i ymateb i'r cwestiynau, gan gydnabod yn arbennig ein bod ni'n sôn i ddechrau am yr ymateb hwnnw a fu i'r cais am lety dros dro. Rwy'n credu ei bod hi'n ddefnyddiol iawn i ni, ar hyn o bryd—. Unwaith eto, rwyf i wedi ei gwneud hi'n gwbl eglur yn fy natganiad i mai yn ein hymateb Cymreig ni rydym ni wedi gweld Urdd Gobaith Cymru yn gallu bod â rhan, mewn gwirionedd, gan ein galluogi ni i gyrraedd y garreg filltir o 50 teulu cyn gynted ag y gwnaethom ni, ac mor briodol o ran y llety dros dro sy'n cael ei ddarparu, ond yn y tymor byr i raddau helaeth iawn. Felly, yn amlwg, i gael yr ymrwymiad hwnnw, o ran gallu ymateb i weledigaeth ac ymateb a chynnig dyngarol yr Urdd, a ddaeth yn gynnar iawn pan wnaethom ni sylweddoli y byddem ni'n croesawu ffoaduriaid—fe wnaethpwyd hynny gyda chymorth y Swyddfa Gartref, llywodraeth leol, a phawb a fu'n ymwneud â'r ymateb iddyn nhw a gweithio gyda nhw.
Ond, yn amlwg, yr hyn sy'n bwysig yw mai llety dros dro yw hwn yn y tymor byr wrth i ni barhau i weithio'n agos gyda llywodraeth leol i sicrhau llety priodol i'r dyfodol. Mae ansawdd y gefnogaeth y mae'r teuluoedd yn ei chael yn uchel, fel mae pawb yn ei ddeall a'i gydnabod, ac yn adeiladu ar arbenigedd helaeth yr Urdd o weithio gyda phlant. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig siarad mewn gwirionedd am ein cyrchfan ni o ran symud ymlaen gyda'r cymorth, oherwydd mae hyn yn ymwneud â llety dros dro, ond fe ddylai'r ffyrdd y mae awdurdodau lleol yn croesawu teuluoedd o dan y cynlluniau hyn, yn fy marn i, fod yn destun balchder mawr. Fel y dywedais i, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn ymateb i'r her hon. Yn wir, fe ysgrifennodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan—at bob awdurdod yn gynnar ym mis Awst, ac at Lywodraeth y DU, gan ddweud eu bod yn annog pob awdurdod i ymgysylltu, fel y maen nhw wedi gwneud, wrth ymateb. Mae hanner y rhain wedi derbyn teuluoedd eisoes; ac eraill yn gweithio tuag at y canlyniad hwn cyn gynted â phosibl.
Mae yna angen dybryd i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu lletya nawr, ac felly mae'r llety pontio dros dro hwn gennym ni. Ond yna, wrth gwrs, fe fydd hi'n rhaid i ni symud ymlaen i wasgaru pobl, i lety mwy cynaliadwy. A dyna'n union y mae awdurdodau lleol wedi bod yn ei wneud, gan chwarae eu rhan nhw yn y system llety lloches ers cynifer o flynyddoedd. Gan nad ydym ni'n dymuno i deuluoedd fod mewn llety pontio dros dro am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol, oherwydd mae hynny, wrth gwrs, yn arwain at y cwestiynau y gwnaethoch chi eu codi nhw, Mark, ynghylch sicrhau bod teuluoedd wedyn yn gallu rhoi gwreiddiau i lawr, integreiddio â'u cymunedau, gyda chefnogaeth yr holl sefydliadau hynny a fydd yn ymgysylltu â nhw ac sy'n ymgysylltu yn llawn ar hyn o bryd. Rwyf i wedi cyfarfod â phob un o sefydliadau'r trydydd sector, grwpiau ffydd, eglwysi, fel yr oeddech chi'n dweud, y sector gwirfoddol, fel y Groes Goch, y Lleng Brydeinig—pawb sydd â rhan yn y gwaith hwn.
Fe hoffwn i wneud sylwadau i orffen ar eich pwynt chi ynglŷn â chyllid. Rydych chi wedi rhoi'r manylion, Mark Isherwood, am y cyllid—y pecyn integreiddio a gefais i ddoe gan y Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Yr hyn sy'n bwysig am y cyllid hwn yw ei fod yn rhoi rhywfaint o eglurder, er hynny, fel y dywedais i, fe geir cwestiynau i'w gofyn eto. Ond mae hi'n bwysig hefyd o ran yr eglurder ariannol hwnnw ein bod ni'n edrych ar ein cyfrifoldebau ni, y cyfrifoldebau sydd gennym ni a rennir o ran gwasanaethau datganoledig. Felly, er enghraifft, yr wythnos diwethaf—rwy'n credu mai dim ond yr wythnos diwethaf yr oedd hi—pan oeddem ni'n gwybod am ddyfodiad y teuluoedd, roedd yna gydweithrediad agos â chyngor Caerdydd, gyda'r bwrdd iechyd, gyda'r heddlu lleol, gyda phawb sydd â rhan i'w chwarae o ran integreiddio a chefnogi'r teuluoedd hyn, gan ddilyn i raddau helaeth iawn yr hyn a wnaethom ni'n llwyddiannus iawn gyda'r cynllun i ailsefydlu pobl agored i niwed o Syria.
Dwi'n croesawu'r cyfle i ymateb i’r datganiad hwn ynglŷn â’r cynllun adsefydlu yn sgil y sefyllfa ddirdynnol yn Affganistan, a thrafod sut mae a sut gall Cymru roddi cymorth a noddfa i’r rhai sydd eu hangen. A hoffwn ddechrau hefyd drwy ddiolch i’r Gweinidog am drefnu briff inni fel Aelodau o’r Senedd wythnos diwethaf fel bod peth cyfle i gael ein diweddaru hefyd.
Fe wrthwynebodd Plaid Cymru i’r rhyfel yn Affganistan o’r cychwyn cyntaf, gan gwestiynu amcanion milwrol yr ymgyrch a’r tactegau a ddefnyddiwyd, gan rybuddio y gallai peidio â chael strategaeth a nodau pendant arwain at ymyriad tymor hir aneffeithiol. Ac, yn anffodus, dyna’r sefyllfa rydym ynddi heddiw, yng nghanol argyfwng sy’n datblygu ac sydd yn parhau i waethygu oherwydd methiannau Llywodraethau Llafur a’r Ceidwadwyr yn San Steffan. Ond er nad oedd hwn yn rhyfel roeddem yn ei gefnogi, hoffwn ddatgan yn glir heddiw ein cefnogaeth lwyr o ran rhoddi noddfa i’r rhai sy’n ffoi o Affganistan. Fel cenedl noddfa, mae’n allweddol bwysig ein bod yn gwneud popeth i’w croesawu a’u cefnogi.
Fe wnaethoch nodi yn eich datganiad eich bod ddoe wedi derbyn mwy o fanylion am y cynlluniau adleoli ac adsefydlu, a bod rhai o’ch ceisiadau o ran meini prawf wedi’u derbyn. Allwch chi gadarnhau neu rannu, os gwelwch yn dda, pa rai sydd wedi’u derbyn a pha rai sydd wedi’u gwrthod? Hefyd, o ran y cynllun dinasyddion, oes yna unrhyw amcan o ran pryd y bydd hyn yn cychwyn, ac os nad oes dyddiadau, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu helpu dinasyddion yn Affganistan sydd angen cymorth ond methu ei dderbyn fel rhan o’r cynlluniau presennol?
Fe wnaethoch hefyd gyfeirio yn eich datganiad, a hefyd mewn ymateb i Mark Isherwood, ynglŷn â chyllid a bod eich cais o ran hynny wedi’i dderbyn. Ydy hynny’n llwyr, neu oes yna rai pryderon gennych chi yn parhau? A byddwn i’n hoffi gwybod yn glir, felly, beth ydy’r sefyllfa ddiweddaraf ynghylch darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol. Ydych chi hefyd wedi derbyn cadarnhad y bydd cefnogaeth ariannol yn dod gan San Steffan os nad oes cyllid digonol ar gael yng nghyllideb Llywodraeth Cymru?
Mi ydym ni i gyd wedi cyfeirio at yr Urdd, a hoffwn innau ategu ein diolch bod yr Urdd wedi ymrwymo i gynnig lloches, a hefyd eu bod am drefnu amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon, celfyddydol ac addysgol er mwyn cefnogi'r teuluoedd wrth iddynt setlo. Mi welsom ni werth hynny, o ran sut mae cymunedau yn medru setlo yma yng Nghymru, dros yr haf, efo cyfweliadau yn y Gymraeg gyda ffoaduriaid o Syria—rhywbeth oedd yn emosiynol ac yn gwneud imi deimlo'n falch iawn o fod yn Gymraes. A dwi'n gobeithio y gwelwn ni y math yna o olygfeydd gyda ffoaduriaid o Affganistan yn y dyfodol. A yw'r Gweinidog, felly, yn cytuno, fel rhan o roi pob cyfle i ffoaduriaid gwmpasu eu bywyd yng Nghymru yma yn llawn, y dylid hefyd gynnwys rhoi cyfle iddynt ddysgu Cymraeg os ydynt eisiau? Rydych chi hefyd wedi cyfeirio at yr holl sefydliadau trydydd sector a gwirfoddol ac ati sy'n barod iawn i roi cymorth; oes yna unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru o ran hynny?
Wrth gwrs, mae'r sefyllfa yn Affganistan yn digwydd yng nghyd-destun toriadau Llywodraeth San Steffan i gyllideb cymorth datblygu tramor y Deyrnas Unedig, ac, yn anffodus, yn gynharach eleni, fe gyhoeddwyd hynny yng nghyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd gollwng yr ymrwymiad hwn yn tanseilio nodau Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fod yn rym er daioni yn y byd. Ydych chi, felly, Weinidog, yn poeni y bydd y toriadau yma yn golygu llai o gefnogaeth yn y dyfodol i'r rhai sydd mewn angen yn Affganistan, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o sut bydd y toriad yma yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl a gwledydd sydd mewn angen ar draws y byd, gan gynnwys Affganistan, yn y dyfodol?
Yn olaf, allwn ni ddim ond dychmygu'r hyn mae'r unigolion a'r teuluoedd hyn wedi'i wynebu, ac yn parhau i'w wynebu, ac mae'n bwysig heddiw ein bod ni fel Senedd yn gyrru neges glir bod croeso cynnes a Chymreig a thwymgalon i bawb sydd yn dod yma i Gymru. Yn anffodus, fel oedd wedi'i amlygu yn adroddiad diweddar Hope Not Hate, er ein bod yn genedl o noddfa, mae hiliaeth yn parhau yn broblem yma yng Nghymru, ac mae cyfrifoldeb arnom oll i yrru neges bendant nad yw hyn yn dderbyniol. Cymru yw eu cartref rŵan, ac mae cyfrifoldeb arnom i sicrhau eu bod yn derbyn y croeso a'r gefnogaeth sydd yn gwneud iddynt deimlo'n ddiogel yma.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Diolch yn fawr i chi am eich datganiadau cadarn chi y prynhawn yma sy'n cefnogi ein hymateb dyngarol ni a luniwyd yng Nghymru, fel roeddem ni'n dweud, i'r sefyllfa gyda dinasyddion o Affganistan sy'n cael eu croesawu gennym ni yng Nghymru ar hyn o bryd, a chydnabyddiaeth arbennig o'n huchelgais ni a'n dyhead ni i fod yn genedl noddfa. Mae gennym lawer i'w wneud eto i gyflawni hynny, mae hi'n amlwg. Rwy'n credu, unwaith eto, eich cefnogaeth chi a'ch cydnabyddiaeth chi o waith Urdd Gobaith Cymru—fe ddylem ni fynegi hynny fwy nag unwaith y prynhawn yma, rwy'n siŵr. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi'n gallu fy helpu i, yn Weinidog i chi, yn hyn o beth, i ymgysylltu'n llawn â'r heriau gwirioneddol sydd i'w cael. Ac mae'r rhain yn heriau i'n hawdurdodau lleol ni; maen nhw'n heriau i'r sefydliadau trydydd sector sydd â rhan; maen nhw'n heriau y maen nhw eu hunain yn eu codi hefyd. Felly, roedd eglurder ynglŷn â'r cyllid yn hanfodol bwysig. A phe cawn i ymateb i hynny'n arbennig, oherwydd mae hyn yn ymwneud â'ch cwestiynau chi ynghylch yr hyn ddaw nesaf, o ran integreiddio a chyfraddau cyllido.
Rydym ni'n falch y bydd yna gydraddoldeb rhwng trefniadau ariannu ar gyfer y ddau gynllun, y cynllun ARAP a'r cynllun ACRS, ac roeddem ni'n awyddus i gael hynny fel na fydd unrhyw ganlyniadau croes o ran y cymorth y gallai awdurdodau lleol ei roi i'r teuluoedd hyn sy'n cyrraedd. Efallai y caf i ddweud nawr hefyd fy mod i'n falch iawn bod Llywodraeth y DU wedi derbyn y bydd unrhyw un sy'n cyrraedd o dan yr ARAP neu'r ACRS yn cael caniatâd parhaus i aros. Rwyf i wedi dweud fy mod i wedi mynychu dau gyfarfod o'r pedair gwlad. Mae'r rhain yn faterion y gwnaethom ni eu codi yn y cyfarfodydd hyn. Mae sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw yn gam pwysig iawn. Ac yn ogystal â hynny, rydym ni'n parhau i annog Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw'r rhai sy'n ofni erledigaeth o unrhyw fath, a fyddai, fel arfer, yn rhoi'r hawl iddyn nhw fod â statws ffoadur, o dan anfantais o ran cael gafael ar wasanaethau—ein gwasanaethau cyhoeddus ni yw'r rhain—os nad yw eu statws nhw yn ôl y naill gynllun neu'r llall yn cael ei ystyried yn statws ffoadur yn dechnegol. Nid materion technegol ddylai'r rhain fod; materion dyngarol allweddol yw'r rhain ac rydym ni'n cadw llygad barcud arnyn nhw.
Ond roeddwn i'n dymuno dweud hefyd ein bod ni, yn ogystal â hynny, wedi pwyso'n galed i sicrhau, yn ôl y cynllun ailsefydlu dinasyddion, y dylid rhoi ystyriaeth arbennig i bobl sy'n agored i niwed, gan gynnwys menywod a merched sydd mewn perygl, ac aelodau o gymunedau lleiafrifol sydd mewn perygl, sy'n gynnwys LGBTQ+, a lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol. Fe gafodd y pwynt hwnnw ei wneud, ac mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau cydnabyddiaeth o'r ystyriaeth honno. Ond hefyd, ar ôl cyfarfod â theuluoedd o Affganistan yng Nghymru sydd wedi bod yn byw yma ers blynyddoedd lawer, mae llawer ohonyn nhw'n ofidus am eu perthnasau nhw, oherwydd efallai y bydd cysylltiadau, yn amlwg, â phryderon am beryglon ymhlith ein cymunedau o Affganistan yng Nghymru gydag unrhyw gysylltiadau a allai fod ganddyn nhw â theuluoedd yn Affganistan. Felly, dyna rai o'r materion yr ydym ni'n mynd i'r afael â nhw.
Ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig o ran y cwestiynau a ofynnais i ac sydd wedi cael eu hateb yw y caiff cost y cynlluniau ei ddarparu dros dair blynedd yn hytrach na phump. Nawr, yn amlwg, fe fydd angen i ni ystyried yr hyn sy'n digwydd wrth i ni fwrw ymlaen, oherwydd roedd hwn yn wahanol i gynllun Syria, y cynllun pum mlynedd. Ond yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno bod angen y gyfradd hon o gyllid, ond fe fydd yn rhaid i ni edrych ar yr hyn mae hynny'n ei olygu o ran pecyn integreiddio hefyd.
Nid oes gennym eglurder eto ynghylch sut y caiff yr arian ei ddyfarnu, a gaiff ei ddyfarnu yn uniongyrchol i awdurdodau lleol Cymru a byrddau iechyd lleol Cymru. Felly, rydym ni'n gofyn am eglurder ynglŷn â hyn. Nid ydym ni'n dymuno gweld unrhyw fylchau yn y gefnogaeth, ac fe allwn ni adeiladu ar ein profiad ni o system a chynllun ailsefydlu Syria. Rydym yn falch bod Llywodraeth y DU wedi datgan cronfa arall o £20 miliwn o gyllid hyblyg yn y flwyddyn ariannol gyfredol i gefnogi awdurdodau lleol sydd â seiliau cost uwch gydag unrhyw gostau ychwanegol wrth ddarparu gwasanaethau. Nid ydym ni'n gwybod beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol, ond mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n gweithio arno gyda'n cydweithwyr ni mewn llywodraeth leol wrth fwrw ymlaen â hyn.
Rwyf i o'r farn, fel y gwyddom ni, fod llawer o ffoaduriaid yng Nghymru sydd wedi bod yn awyddus i ddysgu Cymraeg ac wedi gwneud hynny. Mae'n rhaid i ni edrych ar ein cynlluniau ni nawr, ein cynlluniau presennol ni, ac ar sut y gallwn ni sicrhau eu bod nhw'n rhai da, ond rwy'n credu bod plant eisoes, o ran ein system addysg ni a'u profiad nhw gyda'r Urdd eisoes o ran y rhai sydd wedi cael llety dros dro, sydd wedi cyrraedd. Fe gânt weld yn gyflym iawn eu bod nhw yng Nghymru a'r hyn y mae hynny'n ei olygu o ran cenedl sy'n ddwyieithog. Felly, mae angen i ni fynd i'r afael â'r holl faterion hyn, ac fe hoffwn i chi fy helpu i o ran craffu a holi wrth i ni symud ymlaen yn ein croeso ni ar gyfer sicrhau y gallwn ni fod yn genedl noddfa, yr ydych chi'n ei chefnogi hi, i'r dinasyddion hyn o Affganistan.
Diolch, Gweinidog, am ddod â'r datganiad heddiw. Rwy'n credu bod llawer o'r pwyntiau yr oeddwn i'n mynd i'w codi gyda chi, mae'n debyg, wedi cael eu gofyn a'u hateb eisoes y prynhawn yma, ond fe hoffwn i gydnabod y gwaith eithriadol sydd wedi cael ei wneud gan ein personél ni yn y lluoedd arfog wrth gefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth yn Affganistan, ynghyd ag asiantaethau'r Llywodraeth a rhai yn Affganistan i sicrhau bod y bobl sydd â'r angen mwyaf i wneud hynny'n gallu dianc rhag y Taliban. Rwy'n croesawu'r dull pedair gwlad y gwnaethoch chi ei egluro yn eich datganiad chi'n fawr iawn hefyd. Roedd hi'n galonogol iawn i weld cenhedloedd yn cydweithio er lles rhai sydd mewn angen. Ac yn ogystal â hynny, roeddwn i'n falch iawn o weld, fel roeddech chi'n sôn, yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y polisi adleoli a chymorth, ac fe fyddan nhw, fel roeddech chi'n sôn, yn cefnogi ac yn cynorthwyo dinasyddion Affganistan sydd wedi cael eu hailsefydlu yn hyn o beth, yn fy marn i. Ac rwy'n credu bod llawer iawn o glod yn ddyledus i awdurdodau lleol am eu cyflymder a pha mor chwim y maen nhw wedi bod wrth ymateb i'r sefyllfa hon, ac wrth reoli'r pwysau ar lawr gwlad hefyd mewn meysydd eraill.
Rwy'n pryderu, fel y gwnewch chithau efallai, Gweinidog, ynglŷn â gwneud yn siŵr fod yna gynllun ac integreiddio hirdymor a chyfle gwirioneddol i ffoaduriaid wrth iddyn nhw ddod i Gymru ac rwy'n diolch i chi am gydnabod y gwahaniaeth sylweddol y bydd yr arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn ei wneud i sicrhau bod yr integreiddio a'r cyfle hwn ar gael i'r ffoaduriaid hynny. Roeddech chi'n sôn am rywfaint o ddiffyg eglurder ynghylch sut y bydd y cyllid hwnnw'n cyrraedd cynghorau a byrddau iechyd. Meddwl oeddwn i tybed a wnewch chi ymrwymo heddiw, os daw'r arian hwnnw drwy gyfrwng Llywodraeth Cymru, y bydd holl arian sy'n cael ei roi yn mynd i'r cynghorau hynny sydd ag angen gwirioneddol amdano, yn hytrach na bod rhywfaint ohono'n cael ei ailgyfeirio i waith yn Llywodraeth Cymru. Ac a wnewch chi ymrwymo hefyd i wrando ar gynghorau a pharhau â'r ymgysylltu hwn â chynghorau, nid yn unig yn ystod y camau adweithiol hyn nawr ond dros y misoedd nesaf hefyd a blynyddoedd hyd yn oed, efallai, i sicrhau ein bod ni'n gweld yr integreiddio gwirioneddol hwn ymysg y ffoaduriaid hyn i'n cymunedau ni ac nad oes yna fwy o dwrw nag o daro o ran y rhaglen gyfredol hon? Diolch, Gweinidog.
Diolch yn fawr iawn, Sam Rowlands, a diolch i chi am gydnabod y ffordd yr ydym ni wedi cydweithio ar draws y pedair gwlad ac, yn wir, gyda'n holl bartneriaid ni yng Nghymru, a hefyd, cyn belled ag y gallwn ni, ar sail drawsbleidiol o ran yr ymateb dyngarol hwn—ymateb Cymru gyfan ac ymateb a luniwyd yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, yn y cyfarfodydd a gawsom ni ein bod ni wedi cynnwys, er enghraifft, Sion Walker o'r 160fed Brigâd (Gymreig), Cyrnol Walker. Yn ei ddatganiad ef, ynghyd â datganiad gan arweinywyr yr Urdd a Chyngor Caerdydd, fe grybwyllodd Sion Walker y cysylltiadau hanesyddol uniongyrchol ag unedau sydd â sail a phresenoldeb yng Nghymru. Ac mae llawer o'r teuluoedd sy'n dod i Gymru wedi gweithio ochr yn ochr â'i gilydd yn ystod cyfnodau anodd iawn yn Affganistan. Mae cydnabyddiaeth o'r cwmnigarwch sydd wedi datblygu yn ystod y cyfnod hwn yn ogystal â balchder yn eu rhan nhw yn yr ymdrech.
Felly, rwyf i o'r farn bod hwn wedi bod yn ymateb arbennig iawn a ddaeth i'r golwg, gyda phawb yn gweithio gyda'i gilydd, ond mae hi'n hollbwysig ein bod ni'n cydnabod yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd, yn enwedig yn rheng flaen yr awdurdodau lleol, oherwydd fe fydd yna lawer sy'n cyrraedd wedi profi llawer iawn o drawma o ganlyniad i'w hymadawiad nhw. Felly, rydym ni'n gweithio gyda Straen Trawmatig Cymru a byrddau iechyd lleol i sicrhau bod cymorth iechyd meddwl yn cael ei ystyried. Rydym ni'n gweld yr awdurdodau lleol yn asesu'r hyn sy'n angenrheidiol o ran lleoedd ysgol, yr hyn sydd ar gael, a hyfforddiant iaith hefyd—rydym ni wedi sôn am hyn—sydd, ar gyfer mudwyr newydd sy'n cyrraedd, yn elfen hanfodol o integreiddio effeithiol. Rydym ni'n asesu, unwaith eto, yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd o ran y cymorth ariannol i ni o ystyried yr anghenion penodol hynny.
Rwyf i o'r farn hefyd fod yn rhaid i ni gydnabod y ceir anghenion eraill, fel COVID-19, a chymorth effeithiol ar gyfer newydd-ddyfodiaid fel y gallan nhw gael eu cynnwys yn ein rhaglen effeithiol ni—hynod effeithiol—i gyflwyno brechlynnau, ac y bydd sgrinio iechyd ar gyfer anghenion iechyd cyffredinol yn cael ei ystyried hefyd. Fe geir pob ystyriaeth ddiwylliannol hefyd, o anghenion bwyd hyd at addoli, fe fydden nhw'n cael eu hystyried. A hefyd, mae awdurdodau lleol yn sicrhau bod dinasyddion yn gallu cofrestru ar gyfer cyfrifon banc, rhifau yswiriant gwladol, meddygfeydd meddygon teulu a deintyddion, a'u bod nhw'n gallu gwneud cais am fudd-daliadau nawdd cymdeithasol. Felly, mae'r ymrwymiad hwn gennym ni oherwydd ein profiad ni, oherwydd y profiad hirdymor sydd gennym ni yma yng Nghymru ond rwyf i hefyd yn dymuno diolch yn fawr iawn, yn olaf, i Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru, sydd eisoes yn gweithio'n effeithiol yng Nghymru. Maen nhw'n gyfrwng allweddol rhyngom ni, llywodraeth leol a'r Swyddfa Gartref. Felly, rydym ni'n cael cyfarfodydd â nhw. Maen nhw'n ymgysylltu ag awdurdodau, yn enwedig o ran symud ymlaen o'r llety dros dro i'r ymgartrefu, gyda llety mwy cynaliadwy. Felly, dull o gydweithio agos iawn sydd gan dîm Cymru yn hyn o beth. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Yn yr ymateb diweddar fe wnaethoch chi anfon llythyr ar y cyd a anfonwyd oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a minnau, ac ynddo fe wnaethoch chi nodi nifer o fanylion. A wnewch chi ddweud mwy wrthym ni am y trafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ynghylch datblygu'r amserlen ar gyfer cynllun ailsefydlu dinasyddion o Affganistan, gan adeiladu ar yr hyn a ofynnodd Heledd Fychan i chi'n gynharach? Rwy'n pryderu yn arbennig am drafferthion menywod a merched sydd mewn perygl o driniaeth annynol ac anghyfiawnder o ran eu hawliau dynol gan y Taliban. Ac yn olaf, Gweinidog, yn eich llythyr chi at ein pwyllgorau ni, roeddech chi'n dweud y byddai Llywodraeth y DU, roeddech chi'n gobeithio, yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, yr UNHCR, ynghylch cymhwysedd ar gyfer y cynllun hwnnw. A ydych chi wedi bod ag unrhyw gysylltiad â'r UNHCR ei hun hyd yma ynghylch y mater hwn o safbwynt cysylltiadau rhyngwladol, os gwelwch chi'n dda?
Diolch yn fawr, Delyth Jewell. Roeddwn i'n falch iawn o gael llythyr cynnar gan Delyth Jewell a Jenny Rathbone fel Cadeirydd y pwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn ogystal â chithau fel Cadeirydd eich pwyllgor chi eich hun, a gan fod hwnnw'n nodi cwestiynau hefyd yr oeddem ni'n barod i'w hateb cyn gynted ag y cawsom ni'r ymatebion gan Lywodraeth y DU a'r ymgysylltiad yr oedd ei angen arnom ni, ond mae cyfle i baratoi yn rhywbeth gwerthfawr, rwy'n siŵr, ar gyfer presenoldeb mewn pwyllgorau yn ogystal ag ymateb i'r cwestiynau hyn.
Rwyf i o'r farn bod gennym ni fwy o eglurder nawr o ran cynllun ailsefydlu dinasyddion Affganistan. Fe fydd hwn yn croesawu hyd at 5,000 o bobl yn ei flwyddyn gyntaf, hyd at gyfanswm o 20,000 dros y blynyddoedd nesaf. Ac fel y dywedais i, fe gydnabyddir bod angen y llwybr hwn at ddiogelwch ar ffoaduriaid sy'n agored i niwed o Affganistan a'r rhai sy'n cael eu rhoi mewn perygl oherwydd digwyddiadau diweddar yn arbennig felly, ac rwy'n falch hefyd o ddarllen yn y llythyr a gefais i oddi wrth Lywodraeth y DU fod hyn yn cynnwys pobl, fel maen nhw wedi dweud, sydd wedi sefyll o blaid gwerthoedd fel democratiaeth, hawliau menywod, a rhyddid i lefaru: mae newyddiadurwyr, gweithredwyr hawliau menywod yn rhai sy'n agored i niwed; rwyf i wedi sôn am hyn eisoes, menywod a merched sydd mewn perygl. Rwyf i wedi clywed sylwadau a phryderon yn cael eu codi gyda mi ynglŷn â menywod ym myd chwaraeon ac rydych chi wedi clywed sôn am rai o'r pryderon a'r canlyniadau sydd gan bobl oherwydd y broblem wirioneddol ynghylch y rhai sydd wedi cael eu gadael ar ôl a'r amgylchiadau iddyn nhw, o ran eu sefyllfa nhw.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi man cychwyn i chi o ran ymateb, ac rwyf i wedi gallu ymateb i chi, Jenny Rathbone, i ddechrau, ond mae yna lawer mwy o bethau i ymateb iddyn nhw, rwy'n deall hynny.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am waith rhagorol. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i gydnabod cyfraniad enfawr ein lluoedd arfog ni wrth gludo 15,000 o bobl o Affganistan i'r Deyrnas Unedig. Fe wn i fod y modd y gwnaeth yr Unol Daleithiau a'r DU ymdrin â'r cilio wedi bod yn destun llawer o ddadleuon, ond i mi, sy'n rhywun sydd wedi ymgartrefu yn y wlad hon, mae angen i'n pwyslais allweddol ni yn awr fod ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i helpu i sicrhau ein bod ni'n cyflawni ein dyletswyddau dyngarol ni i'r rhai sydd wedi dianc rhag yr ofnau, y gwahaniaethu, a dioddefaint yng ngwlad Affganistan nad yw hi'n perthyn iddyn nhw mwyach. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi, wrth groesawu pobl i Gymru, fod angen i ni wneud mwy na dim ond cynnig adeilad i bobl orffwys ynddo, ond cynnig cartref lle mae cysylltiadau â'r gymuned leol yn cael eu creu i helpu pobl i ailaddasu i'w bywydau newydd nhw hefyd a chynnig cyfleoedd yn ein cenedl ni iddyn nhw allu ymestyn at astudiaethau a gwaith yma.
Cyn i mi ofyn un neu ddau o gwestiynau, rwy'n dymuno crybwyll un o'm pryderon i, a'r gwaith sydd ei angen i liniaru'r risg o radicaleiddio yw hwnnw. Mae Islam yn dysgu brawdoliaeth gyffredinol, rhyddid oddi wrth ofn, cydraddoldeb hiliol, ymladd yn erbyn anobaith, a gwroldeb. Mae yna frys o ran gweld cymunedau yn dod at ei gilydd ac yn darparu ar gyfer ei gilydd er lles cyffredinol y wlad hon.
Nawr, gan droi at y cwestiynau, Gweinidog: a oes gan y Gweinidog arweiniad i'w roi ar hyn o bryd ynghylch pa gyfran o'r 15,000 hwnnw y gallwn ni eu cartrefu a'u cefnogi yng Nghymru? A wnaiff y Gweinidog fanylu ar faint o lety y mae hi'n credu sydd ar gael erbyn hyn i gefnogi'r rhai sy'n gallu ymgartrefu yng Nghymru?
Fe gyhoeddodd Prif Weinidog y DU gymorth ariannol i'r GIG ac elusennau i ddarparu cymorth iechyd meddwl i'n personél milwrol ni; a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynlluniau sydd ar waith ar hyn o bryd i sicrhau cefnogaeth i'r rhai sydd ar eu ffordd adref?
Fe gyhoeddodd Prif Weinidog y DU gyrsiau Saesneg rhad ac am ddim ac ysgoloriaethau prifysgol hefyd; pa drafodaethau a gafodd hi gyda phartneriaid yn y sectorau addysg ac addysg uwch ynghylch cwmpas ac adnoddau'r hyn sydd ei angen i ddarparu cymorth cyfatebol i'r rhai sy'n ymgartrefu yng Nghymru?
Yn olaf: pa gyswllt y mae hi wedi'i gael gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch y gofynion ariannu ar gyfer lleoedd ysgolion, a pha asesiadau a gynhaliwyd ledled Cymru i nodi capasiti? Diolch, Gweinidog.
Diolch, Altaf Hussain, a diolch i chi am fod yn bresennol yn y briff technegol yr wythnos diwethaf gyda chwestiynau perthnasol iawn, fel y cododd yr Aelodau i gyd gyda mi'r wythnos diwethaf, sydd wedi ein helpu ni gyda'n gwaith cynllunio. Mae gan y rhan fwyaf o deuluoedd sydd wedi cyrraedd Cymru hyd yn hyn, fel y dywedais i, gysylltiadau uniongyrchol ag unedau'r lluoedd arfog a leolir yng Nghymru neu sydd ag agwedd yng Nghymru. Rwy'n deall, dros y penwythnos diwethaf, fe fu yna rai aduniadau emosiynol y gallaf i wneud sylwadau arnyn nhw efallai rhwng pobl yn cyrraedd o Affganistan a phersonél y lluoedd arfog yma yn y de. Ac rwyf i wedi sôn am y ffaith bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi bod yn ein cefnogi ni gyda chynllunwyr, ac mae hynny'n adlewyrchu'r ffaith i raddau helaeth iawn eu bod nhw wedi ein helpu ni drwy bandemig COVID-19 yn ein canolfannau brechu, fel mae pawb ohonoch chi'n cofio.
Rydym ni wedi cael llawer iawn o gynigion oddi wrth gymunedau ledled Cymru—yn amlwg, yr awdurdodau lleol sydd ar flaen y gad, ond mae'r trydydd sector wedi cynnig hefyd, ac rwy'n credu bod llawer iawn o bobl yn cael eu hysgogi gan y sefyllfa yn Affganistan, ond mae angen i ni ddefnyddio'r gefnogaeth honno, ac fe wn i fod llawer o Aelodau yn gofyn i mi sut y gallan nhw ddefnyddio'r gefnogaeth sydd i'w chael. O ran cynigion o lety, mae'n rhaid i hynny fynd gerbron yr awdurdod lleol. Rwyf i wedi sôn am y ffaith bod awdurdodau lleol yn asesu eu hanghenion nhw o ran lleoedd mewn ysgolion. Rydych chi wedi sôn am addysg uwch hefyd. Fe fydd hynny i gyd yn rhan o'r gwaith y maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, ond fe fyddaf i'n gallu cyflwyno sylwadau wedyn, wrth i ni asesu'r anghenion, yn ôl yr angen i Lywodraeth y DU a rhoi cyfrif am yr effaith—wyddoch chi, i asesu'r effaith y mae hyn yn ei gael ar awdurdodau lleol a'n gwasanaethau cyhoeddus ni, a'r ymateb da a gyflwynwyd eisoes.
Felly, unwaith eto, rwyf i o'r farn bod llawer mwy i ddod eto dros yr wythnosau nesaf, ac, rwy'n gobeithio, fe allaf i ddod yn ôl ac adrodd i'r Senedd yn y fan hon a'r pwyllgorau hefyd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod ni'n cefnogi'r rhai sydd wedi ein cefnogi ni, er eu bod nhw wedi ein cefnogi ni mewn gwlad arall. Fe wyddom ni ein bod ni'n cefnogi ein lluoedd arfog ein hunain, ac mae hynny'n gwbl briodol, ac eto mae'r gwaith a wnân nhw, yn bennaf, yn digwydd mewn mannau eraill. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni yma yng Nghymru yn genedl noddfa. Wrth gwrs, mae llawer o'r cwestiynau yr oeddwn yn mynd i'w gofyn i chi wedi cael eu gofyn yn barod, felly nid wyf i am ofyn yr un rhai eto. Ond mae yna rai cwestiynau amlwg rwy'n credu bod angen i ni eu hystyried.
O ran statws preswylydd sefydlog, pan fydd unigolion wedi cael hwnnw, wrth gwrs, os ydyn nhw mewn sefyllfa i wneud felly, fe allan nhw rannu eu harbenigedd nhw wedyn gyda'r cymunedau y maen nhw'n cael eu setlo ynddyn nhw drwy eu gwaith. Ac mae honno'n fantais fawr, wrth gwrs, i bawb. Ac mae'r gefnogaeth barhaus, wrth gwrs, sydd wedi cael ei chrybwyll sawl tro, yn hanfodol. Ond rwyf i'n pryderu, ac mae hyn wedi cael ei godi mewn mannau eraill, am yr effaith o fewn teuluoedd, yn enwedig ar ferched a menywod, a sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu torri i ffwrdd oddi wrth y gefnogaeth fwy eang a roddir i bawb. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n hanfodol i leisiau menywod gael eu clywed, a phan fyddwn ni'n siarad ag arweinwyr yn y cymunedau hynny rydym ni'n gwneud pob ymdrech bosibl, a'n bod ni yn siarad â'r menywod a'r merched i sicrhau eu bod nhw'n ddiogel yn y cartrefi y maen nhw'n eu cael eu hunain ynddyn nhw nawr. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson, ac, fel y dywedais i, diolch i chi am eich cefnogaeth i'r genedl noddfa a phopeth yr ydym ni'n ymdrechu i'w gyflawni yma yng Nghymru yn yr ymateb i hyn. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i ni gydnabod y bydden nhw'n cael caniatâd parhaol i aros o ganlyniad i gyrraedd o dan y ddau gynllun hyn. Ac mae hynny mor hanfodol o ran gallu defnyddio gwasanaethau a chael mynd at bobl am gymorth a gallu manteisio ar y trefniadau democrataidd sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Felly, rwyf i wedi dweud y byddai hi'n dda iawn i ni allu cyfarfod â'n gilydd; fe fyddwn i'n gobeithio, yn enwedig gyda'ch profiad chi, y gallem ni estyn allan at y menywod sy'n cyrraedd yn famau, yn weithwyr, yn ogystal â phartneriaid mewn teuluoedd, a'r merched a menywod ifanc hefyd. Fe fydd yna lawer o allgymorth, ac mae hynny'n dechrau eisoes, o ran yr allgymorth dros dro gan yr Urdd. Ond rwy'n credu mai'r pwynt o ran eu pryderon nhw, yn ogystal â'r hyn y maen nhw wedi ei adael ar ôl, a'r pryderon sydd ganddyn nhw am eu bod nhw yma. Ond mae ganddyn nhw sgiliau y byddwn ni hefyd—a llais yr ydym ni'n awyddus i'w glywed a dysgu oddi wrtho.
Rydym ni'n awyddus i'w cefnogi nhw i ailymuno â'r farchnad lafur cyn gynted â phosibl, ac mae gennym ni hefyd—. Felly, yn rhan o hynny, yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n ymwneud â hyn mewn gwirionedd. Fe geir busnesau a chwmnïau eisoes sydd â diddordeb o ran gweld pa gyfleoedd cyflogaeth a fydd ganddyn nhw. Ac wrth gwrs, dyna pam mae rhywfaint o'r gwaith hwnnw o ran cael eich rhif yswiriant gwladol, ac ati, cyfrif banc, yn gwbl hanfodol.
Ond rwy'n credu bod—. Mae gan lawer ohonom ni yng Nghymru brofiad o gefnogi a gweithio gyda ffoaduriaid o Syria, a'r swyddogaeth anhygoel sydd gan y menywod a'r ffyrdd y mae'r plant a phawb yn rhan mor bwysig, hanfodol—yn ddinasyddion yn ein cymunedau ni. A dyna a fyddem ni'n dymuno ei weld yn digwydd.
Diolch yn fawr i'r Gweinidog. Byddwn ni nawr yn cymryd toriad byr er mwyn caniatáu ambell i newid yn y Siambr. Felly'r toriad i ddilyn.