2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 15 Medi 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Weinidog, roedd yn dda eich croesawu i orllewin Cymru ym mis Awst ar gyfer Sioe Sir Benfro. Gwn y bydd pwyllgor y sioe a'r arddangoswyr wedi gwerthfawrogi eich presenoldeb, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i longyfarch y tîm ar eu llwyddiant yn cynnal y sioe, ar ôl iddi gael ei gohirio y llynedd. Rwy’n siŵr hefyd y bydd y Gweinidog yn dymuno talu teyrnged i ffermwyr ledled Cymru a Phrydain heddiw wrth inni nodi diwrnod Cefnogi Ffermwyr Prydain.
Ond os ydym o ddifrif am gefnogi ein ffermwyr, mae'n rhaid inni weithio yn awr i fynd i'r afael ag argyfwng TB buchol yng Nghymru. Ni fydd y newyddion y bore yma fod nifer y buchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru wedi cynyddu 3 y cant o gymharu â Lloegr a’r Alban, lle mae'r canrannau wedi gostwng, yn ennyn hyder ffermwyr Cymru yn mholisi cyfredol a threfn brofi'r Llywodraeth. Felly, pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Neil Watt a Gordon Harkiss o MV Diagnostics Ltd, sydd wedi datblygu prawf TB buchol amgen, Enferplex, yr honnir ei fod yn darparu canlyniadau mwy cywir na'r prawf cyfredol? Ac os nad oes cyfarfod wedi bod, a wnewch chi gyfarfod â hwy i drafod y prawf Enferplex a chynnig eich cymorth i helpu i ddatblygu cynllun peilot, a allai baratoi'r ffordd ar gyfer strategaeth TB buchol newydd yng Nghymru i ddileu'r clefyd unwaith ac am byth?
Diolch. Braf oedd eich gweld chithau hefyd, a Cefin Campbell, yn Sioe Sir Benfro. Honno oedd yr unig sioe amaethyddol a gawsom dros doriad yr haf, cyn Sioe Brynbuga ddydd Sadwrn diwethaf. Roedd yn dda cefnogi'r nifer fawr o wirfoddolwyr a sicrhaodd fod y sioe yn cael ei chynnal, ar ffurf wahanol i'r ffordd rydym yn dathlu fel arfer. Ond roedd yn dda iawn bod yno, felly, ydw, rwy'n sicr yn ymuno â chi i ddiolch i bob un ohonynt.
Mewn perthynas â'r ystadegau TB a gyhoeddwyd y bore yma, rydym wedi gweld gostyngiad mewn achosion newydd dros y cyfnod 12 mis diweddaraf, ac mae hynny i'w groesawu. A byddwch wedi fy nghlywed yn dweud wrth Llyr mewn ateb blaenorol y byddaf yn gwneud datganiad yn y Siambr hon ym mis Tachwedd ynghylch diweddaru'r rhaglen ddileu.
Ar y cwestiwn penodol a ofynnwyd gennych ynglŷn â Neil a Gordon, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion gyfarfod â hwy. Nid wyf wedi cyfarfod â hwy fy hun. Unwaith eto, rwyf wedi cyfeirio at y cyfarfodydd a gefais dros yr haf gyda Glyn Hewison, sy'n ein cynghori yn Llywodraeth Cymru ar ein strategaeth TB, ond rwyf bob amser yn awyddus i glywed gan unrhyw un a all gynnig atebion ynglŷn â sut y gallwn gael effaith sylweddol ar y clefyd ofnadwy hwn.
Diolch, Weinidog. Do, fe sonioch chi am y brechlyn a allai fod ar gael ymhen pedair blynedd, ond mae'r prawf newydd hwn, Enferplex, eisoes yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad, felly mae hynny o ddifrif yn dangos bod y gymuned amaethyddol yn awyddus i ddatrys y mater hwn unwaith ac am byth.
Fodd bynnag, ceir nerfusrwydd yn y diwydiant o hyd ynghylch dyfodol cytundebau Glastir Organig, Tir Comin Glastir a Glastir Uwch, a fydd yn dod i ben ar 13 Rhagfyr eleni. Mae'r cynlluniau amaeth-amgylcheddol hyn yn chwarae rhan bwysig yn niwydiant amaethyddol Cymru, ond mae ffermwyr bellach yn aros yn nerfus am gyhoeddiad ynglŷn ag a fydd y contractau hyn yn cael eu hymestyn am 12 mis arall neu fwy. Nid yw ymestyn contractau'n beth anghyffredin, a Weinidog, fe ddywedoch chi eich hun na fyddai'r cynllun yn lle Glastir, y cynllun ffermio cynaliadwy, yn cael ei gyflwyno hyd nes ei fod yn gwbl barod. Gyda'r diwydiant wedi cael gwybod i ddechrau y gellid disgwyl penderfyniad ym mis Gorffennaf, ac yna ar ddiwedd yr haf, a allwch chi ddarparu eglurder ynghylch adnewyddu'r cynlluniau hyn, er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd i ffermwyr Cymru?
Bydd y rhan fwyaf o gontractau Glastir Uwch, Glastir Organig a Thir Comin Glastir yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn, ac mae llawer o gontractau eisoes wedi'u hadnewyddu a'u hymestyn sawl gwaith wrth inni fynd yn ein blaenau. Ers 2017, pan ddaeth cyfnod contract pum mlynedd Glastir Uwch i ben, y bwriad oedd ymestyn contractau wrth iddynt ddod i ben, ond wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol fod cyllid rhaglen datblygu gwledig yr UE a’r ansicrwydd sy'n ein hwynebu ynghylch argaeledd cyllidebol yn y dyfodol yn golygu nad yw hynny'n opsiwn mwyach. Gwn y bydd mwy o ffocws ar ddyfodol y contractau hyn, ond fel y dywedaf, hyd nes y caf rywfaint o sicrwydd ynglŷn â chyllid, ni allaf wneud cyhoeddiad.
Bydd hynny'n siom i ffermwyr ledled Cymru.
Yn olaf, Weinidog, rwy'n disgwyl y byddai llawer o Aelodau ar draws y Siambr hon wedi derbyn cryn dipyn o ohebiaeth gan etholwyr ynghylch pryderon ynglŷn â bylchau yn neddfwriaeth adnabod ceffylau Cymru. Er bod fy nghyd-Aelodau a minnau wedi croesawu'r gofyniad gorfodol i ficrosglodynnu ceffylau yng Nghymru, ceir pryderon o hyd ynghylch cywirdeb y pasbortau papur a ddefnyddir ar hyn o bryd i olrhain ceffylau, yn ogystal â’r nifer isel o geffylau sydd wedi'u microsglodynnu a gofnodwyd yn y gronfa ddata ganolog i geffylau. Rwy'n ymwybodol y bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar newidiadau i drefniadau adnabod ac olrhain ceffylau yn ddiweddarach eleni, felly pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau gwelliannau sylweddol i'r system, gan gynnwys digideiddio pasbortau ceffylau, fel y dechreuodd Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain ei wneud ym mis Gorffennaf, a darparu gwasanaeth llyfn i ddiogelu lles ceffylau?
Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ohebiaeth. Fe gyfeirioch chi at gryn dipyn o ohebiaeth; yn sicr, nid oes unrhyw beth wedi cyrraedd fy nesg i. Efallai ei fod ar y ffordd, nid wyf yn gwybod. Ond byddaf yn cael trafodaeth gyda'r prif swyddog milfeddygol, y gwn ei bod wedi siarad â'r tri phrif swyddog milfeddygol arall yn y DU ynglŷn â hyn, ac fe ysgrifennaf at yr Aelod i nodi'r sefyllfa bresennol.FootnoteLink
Llefarydd Plaid Cymru, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ar ôl codi'r angen gyda chi ar ddiwedd y tymor seneddol diwethaf ynglŷn â'r bluefin tuna, roeddwn i'n falch iawn o glywed nôl wrthych chi, a dwi'n dyfynnu, yn dweud:
'Rwy'n cwblhau manylion prosiect peilot gwyddonol tagio dal a rhyddhau tiwna yng Nghymru yn 2021.'
Ers hynny, dwi ddim wedi clywed na gweld llawer o ran manylion na dyddiadau penodol gennych chi, ac mae'r tymor pysgota ar gyfer tiwna wedi dechrau ers mis Awst. Felly, byddwn i'n croesawu yn fawr iawn mwy o fanylion am y cynigion hyn.
Ond mae gwir angen gweithredu'n ehangach ar bysgodfeydd a dyframaeth—sef aquaculture—yng Nghymru yn fwy cyffredinol. Ar ôl cyfarfod ryw bythefnos yn ôl gyda chynrychiolwyr o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru, mae'n amlwg i fi bod nifer o gyfleoedd wedi cael eu colli dros y 10 mlynedd diwethaf i ddarparu gwell trefn ar reoli pysgodfeydd Cymru. Mae'r diffyg dyletswydd gyfreithiol i reoli pysgodfeydd mewn ffordd gynaliadwy, y model rŷch chi'n ei ddefnyddio i reoli'r sector, a diffyg adnoddau penodol, wedi achosi oedi sylweddol i ddarparu pysgodfeydd cynaliadwy yn nyfroedd Cymru. Ar ôl mwy na 10 mlynedd, felly, o fod yn gyfrifol am reoli pysgodfeydd, a ydych chi yn cytuno ei bod hi'n bryd cynnal adolygiad annibynnol o bysgodfeydd morol a dyframaeth yng Nghymru, a fydd yn gwerthuso'r adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwyddoniaeth, polisi a deddfwriaeth ar gyfer y Senedd bresennol a thu hwnt?
Mewn perthynas â'ch cwestiwn cyntaf ynglŷn â thiwna, fel y dywedwch, ni ddechreuodd y tymor yn iawn tan y mis diwethaf. Felly, ni chredaf fy mod mewn sefyllfa i roi unrhyw ddata ar hyn o bryd, ond yn amlwg, wrth i'r tymor fynd rhagddo, rwy'n siŵr y bydd modd imi wneud hynny.
Roedd eich prif gwestiwn yn cyfeirio at bolisi pysgota dros y degawd diwethaf, ac nid wyf yn cydnabod y sefyllfa rydych yn ei disgrifio. Felly, na, ni chredaf y byddai angen adolygiad annibynnol arnom. Yn amlwg, a ninnau wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd bellach, mae hynny'n rhoi cyfle inni gael polisi pysgota integredig mewn modd nad ydym wedi'i gael o'r blaen yng Nghymru sy'n diwallu anghenion pysgotwyr Cymru yn benodol yn ogystal â'n cymunedau arfordirol, oherwydd yn amlwg, mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ryw fath o adolygiad mewnol ar hynny a strategaeth ynglŷn â datblygu'r sector ar gyfer y dyfodol.
Mater arall a godais i gyda'r Gweinidog cyn gwyliau’r haf oedd y mater o brynu tir fferm gan sefydliadau a chorfforaethau mawr ar gyfer plannu coed, a'r rhan fwyaf o'r rhain yn dod o'r tu allan i Gymru, a'r tir hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn hytrach na chynhyrchu bwyd. Yn hytrach na dilyn egwyddor y goeden gywir, yn y man cywir, am y rheswm cywir, mae cymunedau Cymru ar eu colled wrth i unrhyw fanteision amgylcheddol ac economaidd a gafwyd o'r camau hyn fynd i gwmnïau y tu allan i Gymru, a pheidio ag aros o fewn cymunedau lleol. Ac mae hyn, yn anffodus, yn enghraifft arall o adnoddau Cymru'n cael eu hecsbloetio gan ddiddordebau allanol, fel sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd gyda'n glo, ein dŵr ni, a'n trydan ni.
Dros yr haf, yn anffodus, mae'n ymddangos bod y sefyllfa wedi gwaethygu a chyflymu. Ac fel rydw i wedi ei ddweud o'r blaen, os na all ffermwyr Cymru brynu tir yn eu cymunedau lleol pan fydd ar werth, oherwydd eu bod yn cael eu tanseilio gan gwmnïau cyfoethog o Lundain, bydd hyn yn niweidio diwylliant, iaith a threftadaeth lleol. Dŷn ni'n gwybod eich bod chi wedi sefydlu cynllun coedwigoedd cenedlaethol, ond pa gamau y byddwch chi fel Llywodraeth yn eu cymryd i ddatrys y problemau hyn a diogelu tir a chymunedau lleol Cymru?
Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, a chredaf ei fod yn ymwneud â chydbwysedd. Fe grybwylloch chi hyn wrthyf, ac rwyf wedi cael trafodaeth gyda Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ac fe fyddwch yn ymwybodol iddo gynnal archwiliad dwfn i'r holl fater o blannu coed. Ac yn amlwg, mae mater tir amaethyddol yn cael ei werthu i gwmnïau, yn enwedig ar gyfer gwrthbwyso carbon, yn rhywbeth sy'n peri pryder. Ond yn yr un modd, mae'n anodd iawn dweud wrth ffermwr, 'Ni ddylech werthu eich tir fferm i'r unigolyn hwn oherwydd—', ac rwy'n credu y byddai hwnnw'n faes anodd iawn i'r Llywodraeth dresmasu iddo.
Cefais drafodaeth gyda ffermwr ar ymweliad dros wyliau'r haf, a nododd fod tair fferm wedi'u gwerthu i gwmni rhyngwladol, nad wyf am eu henwi, a'i bryder ynglŷn â hynny. Ond roedd hefyd yn adnabod yr unigolyn a oedd wedi gwerthu un o'r ffermydd, ac roedd yr unigolyn dan sylw'n awyddus i gael y pris gorau posibl amdani. Felly unwaith eto, mae'n anodd iawn wedyn inni gael polisi ar hynny. Yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw ein bod yn achub ar bob cyfle i sicrhau bod y goeden iawn yn cael ei phlannu yn y lle iawn. Nid yw hynny'n rhan o fy mhortffolio mwyach; er bod y cyllid gennyf i brynu coed ac i annog ffermwyr i blannu coed, mae'n perthyn i'r gyfarwyddiaeth newid hinsawdd. Ond wrth gwrs, byddaf yn cadw llygad barcud ar hyn, ac yn cael trafodaethau pellach.
Yn sicr, ychydig iawn o ffermwyr y cyfarfûm â hwy sy'n gwrthwynebu plannu coed. Maent yn awyddus i blannu coed, maent yn awyddus i edrych ar eu perthi a chyrion eu tir fferm, er mwyn sicrhau eu bod yn achub ar bob cyfle posibl i'n helpu gyda'r targed hwnnw. Ac yn amlwg, mae'r goedwig genedlaethol yn brosiect hirdymor iawn, ond credaf ei bod yn wych fod cymunedau'n awyddus i ymgysylltu. Mae rhywun wedi cysylltu â mi—maent newydd brynu erw o goetir, ac maent am iddi fod yn rhan o'r goedwig genedlaethol. Felly, credaf ei bod wedi ennyn diddordeb pobl, a phan fydd wedi'i gorffen, rwy'n siŵr y caiff ei thrysori i'r un graddau â llwybr yr arfordir yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n derbyn bod y balans hynny'n anodd, ond mae yna gyfle i'r Llywodraeth yn fan hyn i gydweithio â ffermwyr er mwyn amlygu'r manteision sydd yna o blannu coed. Ac wrth gwrs, os bydd y sefyllfa o ran plannu coed ar dir fferm yn gwaethygu, mae hyn yn golygu bod llai o dir ar gael i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.
Dangosodd arolwg o ffermwyr mynydd yng Nghymru yn ddiweddar bod 95 y cant o'r sawl a holwyd wedi nodi bod cynhyrchu a gwerthu bwyd naill ai'n bwysig iawn neu'n weddol bwysig i'w busnesau. Ac mae gan bwysigrwydd bwyd, wrth gwrs, oblygiadau ymhell y tu hwnt i gât y ffarm, fel dŷn ni wedi ei weld dros yr haf diwethaf yma, wrth i ni weld pwysigrwydd cadwyni cyflenwi gwydn o ran sicrhau bod gan bobl ddigon o fwyd diogel, fforddiadwy ac o safon uchel. Er mwyn sicrhau bod cadwyni cyflenwi yn cael eu cynnal mor lleol â phosibl, mae angen inni hybu capasiti prosesu yng Nghymru. Ac, er gwaethaf hyn, o brosesu llaeth i gig coch, mae gennym economi echdynnol, hynny yw extractive economy, lle mae cynnyrch o Gymru yn cael ei gymryd dros y ffin i Loegr yn aml iawn i'w brosesu, ac mae hyn i gyd yn cynrychioli gwerth ac incwm sy'n cael ei golli i Gymru, heb sôn am yr effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Felly, sut ydych chi yn mynd i sicrhau ein bod yn cadw ac yn cynyddu capasiti prosesu yng Nghymru? Ac a ydych chi'n cytuno mai un ffordd o wneud hyn yw cynyddu'r farchnad ar gyfer bwyd? Ac a wnewch chi felly edrych ar sut mae'r Llywodraeth yn gallu gweithio gyda chyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau pwrcasu lleol er mwyn hybu'r economi a chryfhau'r sector?
Oedd, roedd cryn dipyn o gwestiynau a rhai pwyntiau pwysig iawn yn y cwestiynau hynny, ac yn sicr, credaf mai un o'r pethau rwyf wedi'u gwneud ers imi fod â'r portffolio yw ceisio annog proseswyr i ddod i Gymru i ddangos ein bod yn wirioneddol awyddus i'w denu yma. Yn sicr, llaeth—roedd hwnnw'n faes lle roeddem yn gweld llaeth yn mynd dros y ffin i Loegr mewn ffordd nad oedd yn dda i Gymru yn fy marn i. Felly, rydym wedi gwneud rhywfaint o waith pwysig iawn, yn gweithio gyda'r prif broseswyr i sicrhau eu bod yn aros yng Nghymru.
O ran caffael cyhoeddus, credaf fod hwn yn gyfle enfawr yn awr inni sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio llawer mwy o fwyd a diod o Gymru. Ni chredaf y byddwn yn gallu cynnal ein hunain gyda faint o fwyd rydym yn ei gynhyrchu ar hyn o bryd, ond rwy'n wirioneddol awyddus i wneud popeth a allaf i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o hynny. Cyfarfûm â sefydliad dros y toriad a oedd yn dweud wrthyf eu bod yn gweithio gyda’r sector amaethyddol i edrych ar fwyd yn y dyfodol, felly bwyd nad oedd ffermwyr efallai wedi meddwl y gallent ei dyfu ar hyn o bryd. Felly, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod y Llywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau hyn i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd.