– Senedd Cymru am 2:40 pm ar 21 Medi 2021.
Ac i roi amser iddi newid y ffeil, gwnaf arafu, ond gwnaf gyhoeddi bod y datganiad nesaf gan y Gweinidog materion gwledig a'r gogledd ar bolisi ffermio i'r dyfodol a'r cynllun ffermio cynaliadwy. Felly'r datganiad hynny, Weinidog, Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Fel y mae ein rhaglen lywodraethu ni'n ei nodi, mae mynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Fe fyddwn ni'n llunio system newydd o gymorth i ffermwyr ar gyfer gwneud yn fawr o rym amddiffynnol natur drwy gyfrwng ffermio ac mae'r Bil amaethyddiaeth yn allweddol i gyflawni'r uchelgeisiau hyn. Yn y dyfodol, fe fydd cymorth i ffermwyr yn gwobrwyo ffermwyr gweithgar sy'n cymryd camau i ymateb i'r heriau o ran ein hymateb ni i gyd i'r argyfwng hinsawdd a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, gan eu cefnogi nhw i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.
Mae Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) yn nodi ein cynigion ni i gefnogi ffermwyr i fabwysiadu dulliau sy'n gynaliadwy. Fe fydd hyn yn sicrhau dyfodol hirdymor i ffermio sy'n cydnabod ei bwysigrwydd i'r gymdeithas yng Nghymru. Fe ddaeth ymgynghoriad y Papur Gwyn i ben ym mis Mawrth, ac mae hi'n bleser gennyf i gyhoeddi heddiw ddadansoddiad annibynnol o'r ymatebion ac ymateb Llywodraeth Cymru ei hun. Rwy'n ddiolchgar i bawb am roi o'u hamser i ymateb i hwn.
Ar y 6 o fis Gorffennaf, roedd y Cwnsler Cyffredinol yn nodi ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol ni. Roedd honno'n cadarnhau y byddwn ni'n cyflwyno Bil amaethyddiaeth newydd ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd. Fe fydd hwn yn ddarn uchelgeisiol o ddeddfwriaeth sy'n diwygio degawdau o gymorth i ffermwyr gan yr UE ac yn cynrychioli newid sylweddol i'r sector. Rwyf i wedi penderfynu canolbwyntio'r Bil ar y meysydd allweddol y mae eu hangen nhw ar gyfer cefnogi ffermwyr yn y blynyddoedd i ddod, ac, yn hollbwysig, i sefydlu system newydd o gymorth i ffermwyr sy'n seiliedig ar egwyddorion rheoli tir mewn dulliau sy'n gynaliadwy. Yn ogystal â hynny, fe fydd y Bil yn disodli'r pwerau sydd â chyfyngiad amser iddyn nhw yn Neddf Amaethyddiaeth y DU 2020. Dyma'r cam cyntaf yn niwygiad amaethyddiaeth, a fydd yn sicrhau bod ffermydd Cymru yn rhai cynaliadwy.
Ein bwriad parhaus ni yw lleihau'r baich sydd ar ffermwyr o ran rheoleiddio. Rydym ni'n awyddus i'w gwneud hi'n haws i ffermwyr ddeall yr hyn y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith drwy gyflwyniad cenedlaethol o safonau sy'n ofynnol. Rydym ni o'r farn hefyd y dylai gorfodaeth fod yn gymesur â difrifoldeb y drosedd, ac y dylid ymatal rhag gwneud ffermwyr yn droseddwyr am droseddau sy'n llai difrifol. Er hynny, rydym ni'n cydnabod bod y cynigion hyn yn rhai cymhleth ac fe ddylid eu hystyried nhw'n ofalus. Yn y cam nesaf o ddiwygio, fe fyddwn ni'n gweithio yn agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod safonau gofynnol cenedlaethol yn cael eu gweithredu yn ddigon cynnar i gyflwyno'r cynllun arfaethedig.
I roi eglurder i ffermwyr Cymru, rwyf i am gyhoeddi cynllun cyflawni sy'n amlinellu'r cerrig milltir allweddol yn y broses hon o ddiwygio y dylid eu cyrraedd yn ystod y tymor Seneddol hwn. Pan gyflwynir deddfwriaeth y flwyddyn nesaf, fe fyddaf i'n cyhoeddi amlinelliad o'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Nid hwn fydd y cynllun terfynol, ond fe fydd yn cynnwys manylion am y strwythur y gofynnir i ffermwyr ymgymryd ag ef. Fe gaiff y camau gweithredu yn y cynllun eu dadansoddi yn eang iawn i amcangyfrif cost economaidd eu cyflawni i fusnes y fferm a'r manteision amgylcheddol a ddaw yn eu sgil. Fe fydd hynny'n ein galluogi ni i gynnal sgyrsiau manwl gyda ffermwyr ynglŷn â'r cynigion ac yn rhoi prawf ar ein ffordd ni o feddwl.
Rwyf i wedi bod yn eglur bob amser y byddwn ni'n parhau i weithio yn agos gyda'n ffermwyr ni i sicrhau bod eu lleisiau nhw'n cael eu clywed wrth i gymorth gael ei gynllunio yn y dyfodol. Rwyf i'n falch o allu cyhoeddi adroddiad heddiw ar gam cyntaf y cyd-ddylunio a'r ymrwymiad i adeiladu ar y gwaith hwn mewn ail gam yn ystod y flwyddyn nesaf. Fe fydd hyn yn rhan o broses barhaus o ymgysylltu â ffermwyr a rhanddeiliaid, a fydd yn ein harwain ni at ymgynghoriad terfynol ar y cynllun ffermio cynaliadwy ac i'r cyfnod pontio â'r cynllun newydd yng ngwanwyn 2023. Drwy gydol 2024, fe fyddwn ni'n ymgysylltu â ffermwyr drwy raglen allgymorth, ac fe fydd hyn yn sicrhau ein bod ni'n barod i gychwyn y cynllun ym mis Ionawr 2025.
Mae'r sector ffermio wedi wynebu sawl her dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym ni'n gadarn yn ein bwriad ni i gefnogi ffermwyr wrth addasu i newidiadau yn y dyfodol. Y flwyddyn nesaf, rwyf i am lansio ystod o ymyriadau a fydd yn helpu i fraenaru'r tir ar gyfer y cynllun newydd a threialu'r broses a ddefnyddir i'w chyflawni hi.
Mae yna newid sylweddol a phwysig ar y ffordd a fydd yn golygu dyfodol sefydlog a chynaliadwy i'r diwydiant a chymunedau cefn gwlad Cymru. Yn y cyfamser, yn amodol ar ddarpariaeth ddigonol o arian gan Lywodraeth y DU, ein bwriad ni yw parhau â'r cynllun taliad sylfaenol tan 2023 i roi cymorth i ffermwyr wrth i ni weithio gyda'n gilydd i drosglwyddo i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ochr yn ochr â hyn, fe fyddaf i'n ymestyn contractau tir comin ac organig Glastir am ddwy flynedd, hyd at fis Rhagfyr 2023. Yn gyfochrog â chefnogi ein ffermwyr ni, fe fydd yr estyniad hwn yn ein helpu ni i wella ein dealltwriaeth ni o effaith camau gweithredu ac ymyriadau Glastir ymhellach, ac yn cyfrannu at ddatblygiad cynllun ffermio cynaliadwy i'r dyfodol. Mae hynny'n golygu ymrwymiad cyllidebol i ffermwyr Cymru o £66 miliwn dros ddwy flynedd. Rwyf i'n cyhoeddi ymrwymiad pellach hefyd o £7 miliwn i ymestyn rhaglen Cyswllt Ffermio hyd at fis Mawrth 2023.
Rwy'n galw ar y Senedd gyfan i gefnogi ein cynigion uchelgeisiol ni a chydseinio y dylai Llywodraeth y DU ddarparu cyllid newydd lawn i'n ffermwyr ni sydd wedi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd erbyn hyn. Mae angen parhau â'r ymdrech ar y cyd gan ffermwyr a'r Llywodraeth i ymateb i'r heriau a gyflwynir gan argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r blaengynllun a'r cyhoeddiadau ariannu a gyflwynais i heddiw yn arddangos fy ymrwymiad i a'r Llywodraeth hon i'r gwaith arbennig hwn. Diolch.
Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gael gweld datganiad heddiw ymlaen llaw, ac mae'n un amserol iawn hefyd, Llywydd, gan fy mod i wedi gofyn i'r Gweinidog am eglurder ynghylch dyfodol cyllid Glastir ddydd Mercher diwethaf, ac er na chynigiwyd unrhyw ymrwymiad bryd hynny, mae'r gymuned ffermio a minnau'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw yn fawr. Serch hynny, fe fydd yna rai sy'n crafu eu pennau o hyd oherwydd, ar ôl cael gwybod am ddiweddariad a fyddai'n dod ym mis Gorffennaf, maen nhw wedi gorfod aros yn nerfus drwy'r misoedd diwethaf am y diweddariad heddiw. Ond, unwaith eto, rwy'n ymuno â'r undebau ffermio i groesawu ymrwymiad heddiw.
Yn gyntaf i gyd, a gaf i ofyn am eglurhad ynglŷn â'r pwyntiau ynghylch y safonau gofynnol cenedlaethol? Fe soniodd y Gweinidog am ei bwriad hi i sicrhau bod y rhain yn cael eu gweithredu o flaen y cynllun newydd arfaethedig. Mae'n rhaid cyflwyno'r safonau newydd hyn mewn da bryd, gan y bydd angen cyfnod ar ffermwyr i weithredu newidiadau yn eu harferion nhw ac uwchraddio seilwaith, yn ogystal â rhai sydd ag angen buddsoddiad o gyfalaf. Os rhoddir rhybudd byr cyn cyflwyno'r safonau gofynnol newydd, a wnaiff y Gweinidog ganiatáu cyfnod pontio i sicrhau nad yw ffermwyr sy'n awyddus i weithredu yn briodol yn cael eu cosbi oherwydd cyfyngiadau amser?
Ni ddylid anwybyddu pwysigrwydd amaethyddiaeth wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ac er bod cynlluniau amaeth-amgylcheddol Glastir yn sicrhau newidiadau adeiladol ar ffermydd ledled Cymru, fe allwn ni leihau ein hôl troed carbon ymhellach drwy gynyddu ein cyfradd ni o hunangynhaliaeth. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gynhyrchu bwyd a diogelwch bwyd yn rhan o gynlluniau i'r dyfodol yn yr ymdrech i leihau nifer y mewnforion sy'n niweidiol i'r amgylchedd wrth gefnogi ein diwydiant domestig ni? Ac a oes yna nod canrannol o hunangynhaliaeth yr ydym ni'n bwriadu ei daro?
Yn olaf, Llywydd, rwy'n nodi hefyd o ddatganiad y Gweinidog y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cael ei lansio ym mis Ionawr 2025. Mae estyniad y Cynllun Taliad Sylfaenol a Glastir tan 2023, sy'n golygu y ceir diffyg eglurder o ran y cymorth a roddir i ffermwyr yn 2024, y flwyddyn rhwng diwedd un cynllun a dechrau cynllun newydd. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru am ei gynnig yn y cyfnod pontio hwn i sicrhau y gellir osgoi'r arian yn dod i ben yn sydyn? A chyda'r Alban yn addo cyflawni eu cynllun newydd nhw'n llawn erbyn 2023, a chymhorthdal newydd Lloegr ar y gweill eisoes, beth yw'r rheswm am yr oedi hwn cyn cyflwyno'r cynllun yma yng Nghymru? Diolch, Llywydd.
Diolch, a diolch i chi am eich geiriau adeiladol o ran y datganiad, ac mae'n ddrwg gennyf i na allwn i fod wedi dweud wrthych chi'r wythnos diwethaf, ond rwy'n siŵr eich bod chi'n deall, yn amlwg, fod yn rhaid i bethau fagu stêm cyn datganiad heddiw. Ond rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu rhoi cyllid mor sylweddol i gontractau Glastir, ac fe wn i pa mor gynnes yw'r croeso a fu gan lawer o'r ffermwyr yr wyf i wedi siarad â nhw a chan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ac, fel y dywedais i yn fy natganiad, mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau â'r gwaith hwnnw o fonitro a gwerthuso fel ein bod ni'n gwybod am y manteision a roddodd y cynlluniau i ni.
O ran cynhyrchu bwyd, rwyf i wedi bod yn eglur iawn, iawn. Rydym ni wedi cael tri ymgynghoriad erbyn hyn cyn y datganiad hwn heddiw, yn ffurfio bwa dros ddwy Lywodraeth, yn amlwg. Fe welsom ni'r ddogfen 'Brexit a'n tir' nôl yn 2018, ac yna fe gawsom ni ymgynghoriad pellach yn 2019, ac yna, yn amlwg, cawsom y Papur Gwyn ym mis Rhagfyr, a ddaeth i ben ym mis Mawrth. Os edrychwch chi ar yr ymatebion, mae bwyd yn sicr yn bwnc a gaiff ei ystyried. Mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy mor bwysig, a ni oedd yr unig ran o'r DU a oedd yn cynnwys y gair 'bwyd', rwy'n credu—ac fe wnaeth yr Alban hefyd, efallai, ond yn sicr nid oedd unrhyw sôn gan Loegr am fwyd yn eu hymgynghoriad cyntaf nhw. Rwyf i wedi bod yn eglur iawn bob amser fod cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn rhywbeth y dylid rhoi cefnogaeth fawr iawn iddo. Ac os edrychwch chi ar y gefnogaeth a roddodd y sector amaethyddol i ni, nid aeth neb yn newynog yn ystod pandemig COVID-19 yng Nghymru, ac rwy'n awyddus i roi teyrnged wirioneddol i'r gwaith a wnaeth y sector. Ac mae hi'n gwbl briodol fod cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn cael ei wobrwyo yn y ffordd y gwnaethom ni ei nodi yn y cynllun ffermio cynaliadwy.
O ran y safonau gofynnol cenedlaethol, fel y gwyddoch chi, roedd hynny'n rhan o'r Papur Gwyn, ac roeddwn i'n falch iawn o weld ymatebwyr yn cefnogi cynigion ar gyfer symleiddio'r gofynion rheoliadol presennol. Un o'r pethau a glywais i'n aml dros y pum mlynedd diwethaf yw'r pryder nad yw pobl yn deall yr hyn y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith. Ac, unwaith eto, roeddwn i'n crybwyll ei bod hi'n bwysig iawn nad yw pobl yn cael eu gwneud yn droseddwyr yn y ffordd sydd wedi digwydd o bryd i'w gilydd, yn anffodus. Mae'n rhaid i bawb gydymffurfio â'r gyfraith, ac mae hi'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn ei deall hi, ac ymwneud â rheoleiddio amaethyddiaeth y mae hynny hefyd. Maen nhw'n ceisio diogelu ein hamgylchedd ni, ac mae hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n gwneud hynny. Felly, fel y dywedais i, fe fyddwn ni'n edrych, ac rydym ni yn edrych, ar sut y gallwn ni gyflwyno hyn. Darn cymhleth iawn o waith yw hwn ac rwy'n awyddus i'w wneud yn iawn, ac rwy'n falch iawn fod y sector yn dymuno gweithio gyda mi ynglŷn â hyn, a'm bwriad i o hyd yw y caiff ei weithredu mewn da bryd i gyflwyno'r cynllun arfaethedig.
Rydych chi'n gofyn am y Cynllun Taliad Sylfaenol, ac, yn amlwg, rwyf i wedi ymrwymo heddiw i'w ymestyn hyd ddiwedd 2023. Mae hyn i gyd yn gwbl ddibynnol ar Lywodraeth y DU yn rhoi'r cyllid i ni ac nid yn ein hamddifadu ni o £137 miliwn, fel y gwnaethon nhw eleni. Felly, unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i helpu yn hynny o beth, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn am hynny. Nid wyf i'n awyddus i fynd at ymyl y dibyn. Dros y pum mlynedd diwethaf, fe ddywedais i'n barhaus, 'Nid ydym ni'n awyddus i fynd at ymyl y dibyn', yn y ffordd y gwnaethon nhw yn Seland Newydd, er enghraifft, pan wnaethon nhw roi'r gorau i'w taliadau uniongyrchol nhw. Felly, mae hi'n bwysig iawn fod y cyfnod pontio hwnnw—. Ac efallai y bydd yna feirniadaeth ei bod hi wedi cymryd cryn amser i ni wneud hynny, ond mae hwn yn ddarn trawsnewidiol iawn o waith yr ydym ni'n ei wneud, ac mae hi'n gwbl briodol ei bod hi'n cymryd nifer o flynyddoedd i wneud hynny'n iawn.
Wel, mae Plaid Cymru hefyd yn croesawu'r datganiad hwn a'r cyfle i drafod a chraffu ar y cynigion ar gyfer diwygio ffermio yng Nghymru, a fydd, mae'n siŵr, yn cael yr effaith hirdymor fwyaf ar y sector amaethyddol ers cenhedlaeth. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi y cynlluniau sy'n darparu sefydlogrwydd economaidd a hefyd gynaliadwyedd amgylcheddol i ffermwyr. Ond heb gynigion manwl ar faint y bydd ffermwyr yn cael eu talu am gynlluniau ffermio cynaliadwy, a heb unrhyw asesiadau effaith manwl, mae efallai'n rhy fuan i ddweud pa effaith y bydd y cynlluniau hyn yn eu cael. Ond, rhaid inni weithio gyda'n gilydd, fel ŷch chi wedi dweud, ar draws y sector a gyda ffermwyr i'w helpu i gyrraedd eu nod o fod yn net sero carbon.
Felly, yn debyg iawn i'r cwestiwn mae Sam Kurtz wedi'i ofyn, mae'r datganiad yn cadarnhau bod y Llywodraeth yn bwriadu dod â thaliadau sylfaenol i ben yn 2023 a dechrau cynllun newydd yn 2025. Felly, mae yna rywfaint bach o ansicrwydd ynglŷn â sut mae ffermwyr yn mynd i gynnal eu bywoliaeth yn ystod 2024. Ac fe gyfeirioch chi at y ffaith bod hyn yn ddibynnol, i raddau helaeth, ar gael arian gan Lywodraeth San Steffan. Felly, dwi am ofyn eto i chi ynglŷn â sicrwydd a pha gynlluniau wrth gefn sydd gyda chi i gynnal ffermwyr yn ystod y flwyddyn arbennig honno, cyn bod y cynllun newydd yn dechrau.
I symud ymlaen at bwynt arall, yn ymateb eich Llywodraeth chi i'r crynodeb o'r ymgynghoriad, ŷch chi'n dweud bod yna gyfnod pontio dros nifer o flynyddoedd i alluogi ffermwyr i drosglwyddo o daliadau sylfaenol i gynllun ffermio cynaliadwy. Yn naturiol, mae angen cyfnod pontio teg er mwyn sicrhau sefydlogrwydd, ac, yn Lloegr, dwi'n deall bod hynny'n gyfnod o ryw saith mlynedd. A wnaiff y Gweinidog amlinellu, felly, ba mor hir mae hi'n rhagweld y bydd y cyfnod pontio yng Nghymru? Am faint mae'r taliadau sylfaenol yn mynd i barhau, a dros faint o gyfnod bydd y taliadau'n cael eu lleihau er mwyn symud tuag at gynlluniau mwy amgylcheddol? Ac a wnaiff hi gyhoeddi'r dadansoddiad a'r rhaniad ar gyfer y cyfnod pontio hwn cyn cyhoeddi'r Bil amaeth y flwyddyn nesaf?
Fel mae'r datganiad yn ei nodi, mae'r ymrwymiad i ariannu'r Cynllun Taliad Sylfaenol yn llawn hyd at fis Rhagfyr 2023 yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth y DU. Peidied neb ag anghofio bod Llywodraeth y DU wedi ein siomi ni o'r blaen, gan dorri bron i £130 miliwn o gyllid y llynedd i amaethyddiaeth. Felly, yng nghyd-destun y toriad hwnnw a'r ansicrwydd hwnnw, a yw'r Gweinidog wedi cynnal unrhyw drafodaethau rhagarweiniol gyda Gweinidogion neu swyddogion yn San Steffan i gael yr ymrwymiad hwn a fyddai'n rhoi mwy o sefydlogrwydd i'n ffermwyr ni? Ac, yn bwysicach na hynny, os nad yw Llywodraeth y DU yn cadw at y fargen honno, fel y gwelsom ni yn y gorffennol yn ymarferol, pa gynlluniau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru i'w rhoi nhw ar waith i sicrhau nad yw ffermwyr Cymru ar eu colled?
O ran asesiadau effaith hefyd—roeddech chi'n sôn am y rhain yn y datganiad—rydym ni'n amlwg yn awyddus i weld asesiadau effaith manwl yn cael eu cynnal i ystyried effeithiau ehangach y cynigion hyn ar y sector. Nawr, pan gyhoeddwyd y Papur Gwyn y llynedd, fe ddywedodd y Gweinidog fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gosod cytundeb i ymgysylltu â chonsortiwm annibynnol i archwilio effeithiau'r cynigion ar economi amaethyddol Cymru, ac rwy'n dyfynnu:
'Nid wyf i'n disgwyl i adroddiad terfynol fod ar gael ynglŷn â hyn cyn yr hydref y flwyddyn nesaf.'
Rydym ni nawr yn nyddiau cyntaf yr hydref hwnnw, felly a wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, a yw'r adroddiad dadansoddi annibynnol hwnnw ar ddod, neu a gafodd ei ohirio?
Ac mae fy mhwynt olaf i'n ymwneud â chreu coetiroedd. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r diffiniad o 'ffermio gweithredol', ac mai dim ond ffermwyr gweithredol a ddylai gael arian cyhoeddus ar gyfer creu coetiroedd ar ddaear Cymru? Ac a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i ddiwygio a diweddaru'r diffiniad presennol o 'ffermwr gweithredol', a allai fod yn galluogi cwmnïau cydweithredol mawr o'r tu allan i Gymru i ddefnyddio arian cyhoeddus i wyrddgalchu eu gweithgareddau gwrthbwyso carbon? Diolch yn fawr.
Diolch, Cefin Campbell, ac am eich geiriau o groeso i'r datganiad. Fe ddywedais i y byddem ni'n parhau â'r Cynllun Taliad Sylfaenol tan ddiwedd 2023. Nid oeddwn i'n dweud mai dyna fyddai'r diwedd; yr hyn yr oeddwn i'n ceisio ei fynegi oedd rhywfaint o sefydlogrwydd i'n sector ffermio ni, oherwydd, cyn heddiw, nid oeddwn i wedi cyhoeddi y byddai hwnnw'n parhau yn 2023. Felly, sôn am 2024 yr ydych chi—fel y dywedais i, mae hyn i gyd yn ddibynnol ar gyllid. Ni allwch chi edrych yn rhy bell ymlaen. Rydych chi'n gofyn am gynlluniau wrth gefn, er enghraifft. Fel rydych chi'n dweud, roeddem ni £137 miliwn yn brin eleni. Felly, rwyf i yn cael trafodaethau, rwy'n cyfarfod â George Eustice, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn rheolaidd ac mae hynny ar yr agenda bob amser. Efallai eich bod chi wedi fy nghlywed i'n dweud—fe wn i y bydd eich cyd-Aelodau chi a oedd yn bresennol yn ystod tymor blaenorol y Llywodraeth wedi fy nghlywed i'n dweud droeon—rydym ni'n gofyn i un o Weinidogion y Trysorlys ddod i'n cyfarfod DEFRA IMG ni ac nid ydym ni erioed wedi gweld hynny'n digwydd. Nid yw'n hynny'n wir am gyfarfodydd gweinidogol pedairochrog eraill, ond yn anffodus mae hynny'n wir am un DEFRA, felly casglwch chi'r hyn a fynnwch chi o hynny. Ond fe wn i, er tegwch, fod Ysgrifennydd Gwladol DEFRA yn cytuno â mi o ran sicrhau cyllid, ac rwyf innau'n ceisio ei helpu ef wedyn i lobïo'r Trysorlys. Fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny. Yn amlwg, mae fy nghyd-Aelod i, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn cael trafodaethau gyda'r Trysorlys am lawer o wahanol bynciau, ond mae hon yn flaenoriaeth bendant i ni.
Fe wnaethom ni ddweud y byddem ni'n neilltuo'r cyllid a gawsom ni ar gyfer amaethyddiaeth, ond os ydych chi'n neilltuo dim oll, nid oes llawer iawn o werth yn hynny, oes yna? Felly, nid oes gan Lywodraeth Cymru mo'r arian yr ydym ni'n sôn amdano—y £137 miliwn—ar gael yn rhwydd i'w ddefnyddio yn ein cyllideb. Fe fyddai'n rhaid i mi gyflwyno achos drosto, yn union fel mae fy nghyd-Aelodau yn cyflwyno achosion dros gyllid wrth fwrdd y Cabinet. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod Llywodraeth y DU yn cadw at eu gair nhw na fyddem ni'n colli'r un geiniog pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwyf i o'r farn y dylem ni ymuno â'n gilydd yma yn y Senedd i sicrhau eu bod nhw'n cyflawni hynny yn ei gyfanrwydd.
Roeddech chi'n gofyn am yr asesiadau manwl o effaith, ac mae'r adroddiad, yn anffodus, ychydig yn hwyr. Rwy'n disgwyl ei gael nawr yn y flwyddyn newydd. Rydych chi'n sylweddoli, rwy'n siŵr, bod COVID wedi rhwystro cryn dipyn ar y gwaith yr ydym ni wedi gallu ei wneud gyda'n rhanddeiliaid ni. Mae'n fy nharo i'n fawr ein bod ni wedi llwyddo i weithio gyda 2,000 o ffermwyr a rhanddeiliaid dros y 18 mis diwethaf, oherwydd, yn amlwg, nid oeddem ni'n gallu gwneud cymaint ag yr oeddem ni'n awyddus i'w wneud ar y dechrau. Felly, yn anffodus, fe gafodd yr adroddiad ei ohirio am ychydig, ond rwy'n disgwyl ei gael yn y flwyddyn newydd 2022.
Roeddech chi'n gofyn hefyd am y canlyniadau amgylcheddol a nwyddau cyhoeddus, ac, yn amlwg, yn y cynllun ffermio cynaliadwy, dyma yr ydym ni'n chwilio amdano fel ateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y sector amaethyddol yn sicr yn ystyried ei hun yn rhan o'r datrysiad, ac mae nhw mor gadarnhaol a hynny bob amser yn gwneud argraff fawr arnaf i o ran sut y gallan nhw ein helpu ni i gyflawni hynny. Pan edrychwch chi ar yr hyn nad ydyn nhw'n cael arian ar ei gyfer ar hyn o bryd, yr hyn nad ydyn nhw'n cael eu gwobrwyo amdano am y tro, fe welwch chi'r ansawdd pridd ardderchog a'r ansawdd dŵr a'r storio carbon y mae'r rhan fwyaf o ffermwyr yn ei ddarparu. Ar hyn o bryd, nid ydyn nhw'n cael eu gwobrwyo am hynny, a chyda'r cynllun ffermio cynaliadwy, fe fyddan nhw.
O ran y ffermwr gweithredol, rwyf wedi bod yn awyddus iawn i ddefnyddio'r gair hwnnw 'gweithredol'; mae hynny'n bwysig iawn, ein ffermwyr gweithgar ni sydd i'w gwobrwyo ag arian cyhoeddus, ac rwy'n rhoi ystyriaeth fawr i ddiffiniad hynny, yn sicr. Pan ydych chi'n sôn am goetir, rwy'n dyfalu eich bod yn cyfeirio at y ffaith ein bod ni, yn anffodus, wedi gweld rhywfaint o dir ffermio yn cael ei werthu i gwmnïau rhyngwladol, er enghraifft, ar gyfer gwrthbwyso carbon. Ni allwn ni ddweud wrth bobl i bwy y dylen nhw werthu eu ffermydd, ac fe gefais i sgwrs ddiddorol iawn gyda'r ffermwr ynghylch pam y cafodd y tir ffermio hwnnw ei werthu. Felly, rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cefnogi ein ffermwyr gweithgar, ac yn sicr fe fydd y cynllun hwn yn ceisio gwneud felly.
Rwyf i wir yn croesawu'r datganiad hwn heddiw. Ambell waith, rydym ni'n cael datganiadau yn y lle hwn nad ydyn nhw'n ein harwain ni lawer ymhellach. Mae'r datganiad hwn yn wir yn gwneud hynny, ac yn gwneud hynny mewn dwy ffordd: (1) o ran rhoi, rwy'n credu, sicrwydd da iawn o'r drafodaeth barhaus a fydd yna gyda ffermwyr a rheolwyr tir ynglŷn â'r dyfodol yn hyn o beth, ond o ran dyfodol cyllid hefyd, yn amodol ar Lywodraeth y DU—ac fe fyddem ni'n gofyn i gydweithwyr helpu yn hyn o beth—gan ddod ymlaen a gwarantu'r cyllid sydd ei angen arnom ni i weithredu'r newid hwn. Ond mae hon yn daith i ddyfodol gwahanol iawn hefyd. Os oes yna unrhyw beth y gallwn ni ei amgyffred o'r cyfle hwn nawr, cyfle yw hwn i gael dull gwahanol o reoli tir. Mae ffermwyr, yn wir, yn stiwardiaid ar ein hamgylchedd naturiol ni yn y mwyafrif o dirwedd a thopograffeg Cymru. Fe allwn ni wneud hynny'n glir nawr yn y ffordd yr ydym ni'n cydnabod a gwobrwyo, mewn gwirionedd.
Felly, a gaf i sôn am un neu ddau o bethau? Rwy'n croesawu, unwaith eto, ailadrodd y byddwn ni'n gweld cyflwyniad y Bil amaethyddiaeth hwn. O ran lleihau'r baich rheoleiddio ar deuluoedd, dau awgrym wrth symud ymlaen—gallwch chi eu derbyn neu beidio. Un ohonyn nhw yw, i'r ffermwyr hynny sy'n dda ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud, nid yn unig o ran cynhyrchu bwyd—cynhyrchu bwyd cynaliadwy—ond wrth fod yn stiwardiaid amgylcheddol da hefyd, fe ddylem ni eu gwobrwyo nhw am hynny gyda chydnabyddiaeth sy'n deilwng. Fe ddylem ni allu dweud y bydd cyffyrddiad ysgafnach gyda'r rhai sy'n ymuno, gadewch i ni ddweud, â chydweithio gofodol mwy ar draws y dirwedd ar gyfer diogelu'r amgylchedd a bioamrywiaeth a'r ecosystemau—rhyddhau ychydig arnyn nhw, gan gydnabod eu henw da nhw. A bod yn fwy llawdrwm ar y rhai sy'n anfodlon cydweithredu. Fe fyddai hynny'n rhyddhau rhai o'ch adnoddau chi wrth wneud felly, ac mae hynny'n cydnabod yr enw da sydd gan y ffermwyr.
Hefyd, o ran arolygu a rheoleiddio a'r baich rheoleiddio hwnnw sydd â chyffyrddiad ysgafnach, gadewch i ni edrych ar rywbeth sy'n stop un siop ar gyfer popeth o ran arolygu a chyngor a fyddai'n ei gwneud hi'n haws i ffermwyr wybod ble i fynd i gael cyngor da a chael gwybod bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn gymwys ac na fydd yna neb arall yn dweud yn wahanol wrthyn nhw.
O ran y cyllid pontio, rydym ni wedi gwneud y pwyntiau eisoes, ac rwyf i am ailadrodd pwynt Cefin yn gyfan gwbl ynglŷn â diffiniad o ffermwyr gweithredol; rydym ni'n gweld llawer gormod o landlordiaid absennol nawr yn dod i mewn ac yn elwa ar wrthbwyso carbon drwy feddiannu coetir ac yn y blaen. Ond roedd hi'n dda iawn, Gweinidog, eich gweld chi'n ddiweddar gyda llywydd NFU Cymru John Davies yn lansio adroddiad 'Tyfu Gyda'n Gilydd' NFU Cymru, ac mae hynny'n dangos yn eglur bod ffermwyr yn derbyn y ceir cyfle gwirioneddol ar y ffermydd i wneud yn ôl eu hen arferion nhw, mewn coed, gwrychoedd, ac mewn mannau eraill, sydd i'r gwrthwyneb i'r hyn a welsom ni yng nghamgyfeirio'r polisi amaethyddol cyffredin yn hynny o beth, lle cafodd gwrychoedd eu tynnu allan, coed eu tynnu allan ac yn y blaen. Fe geir cyfle gwirioneddol yn y fan hon i wneud hyn ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd cynaliadwy a chynhyrchiol hefyd.
Felly, a gaf i, yn olaf, ailadrodd fy ngwahoddiad? Pan oedd y Gweinidog yn dweud y bydd hyn yn caniatáu i ni—y bydd y cyfnod hwn nawr yn caniatáu i ni—gael sgyrsiau manwl gyda ffermwyr ynglŷn â'r cynigion a phrofi ein syniadau ni, yn wirioneddol, ni fydd yna well lle i ddod—ac rwy'n dweud hyn o ddifrif calon—nag at rai o'm ffermwyr i yn Ogwr, oherwydd maen nhw'n deall eu gwaith, ac yn ei wneud yn dda iawn, ac fe fydd yna groeso mawr yno, gyda chwpanaid o de a chacen flasus.
Mae Huw Irranca-Davies yn dal ati i gynnig ei gwpanaid o de a'i gacen i mi bob wythnos. Byddwn, fe fyddwn i'n hapus iawn i ddod i ymweld, yn sicr. Fe gefais i rai ymweliadau ardderchog â ffermydd dros yr haf ac, fel rydych chi'n dweud, mae pawb yn awyddus iawn i ddangos y gwaith arloesol y maen nhw'n ei wneud o ran gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, yn arbennig, yn ogystal â lliniaru effeithiau'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae hon yn sgwrs sy'n parhau. Ni allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain—ni all y Llywodraeth wneud hynny ar ei phen ei hun; ni all neb wneud hyn ar ei ben ei hun. Mae hi'n bwysig iawn, wrth i ni edrych ar y diwygiadau amaethyddol hyn, sy'n angenrheidiol. Mae'n rhaid i chi chwilio am gyfleoedd yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac efallai fod hwn yn un—i gael y polisi amaethyddol pwrpasol hwnnw i Gymru—oherwydd fe fydd y ffermwyr eu hunain yn dweud wrthych chi nad yw'r polisi amaethyddol cyffredin wedi eu gwneud nhw mor gystadleuol ag y bydden nhw'n ei ddymuno. Felly, mae hwn yn gyfle.
Fe fyddwn i'n falch iawn o ystyried eich awgrymiadau chi. Rwy'n hapus i wrando ar awgrymiadau unrhyw un. Ac rwy'n credu bod y siop un stop honno ar gyfer popeth gyda ni eisoes oherwydd Cyswllt Ffermio, a dyna un o'r rhesymau yr oeddwn i'n awyddus iawn i roi rhywfaint o gyllid sylweddol eto heddiw—£7 miliwn—at ymestyn hynny. Mae ffermwyr Lloegr yn edrych ar Cyswllt Ffermio gyda chenfigen, ac rwy'n gwybod bod ein ffermwyr a'n coedwigwyr ni yng Nghymru yn llawn werthfawrogi'r gefnogaeth y mae Cyswllt Ffermio yn ei rhoi. Felly, rwy'n credu bod hynny gennym ni, ac fe all ffermwyr fynd yno os oes angen cyngor arnyn nhw ynglŷn â'r pethau hyn.
Roeddwn i'n falch iawn o lansio'r strategaeth goed ar fferm Pentre John ddydd Iau diwethaf a phlannu coeden hardd iawn. Ac rwy'n deall y bydd pob Aelod o'r Senedd yn cael cynnig coeden i'w phlannu yn ei etholaeth, felly—hysbysebu ychydig yw hyn—rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn manteisio ar y cyfle i chwilio am eu hesgidiau glaw a'u rhawiau ac yn mynd i blannu coed yn eu hetholaethau eu hunain.
Gweinidog, rwyf i wedi darllen eich datganiad chi gyda diddordeb ac rwyf i'n croesawu'r ymrwymiadau sydd gennych chi ynddo i weithio gyda ffermwyr yn fawr iawn, ac yn arbennig, fel y crybwyllodd rhai o amgylch y Siambr hon, gyda ffermwyr gweithgar. Roeddech chi a minnau'n arfer cyfarfod cyn i mi ddod i'r lle hwn erioed, ac roedd hynny'n rhywbeth yr oeddwn i'n arfer ei bwysleisio bob amser gyda chi, y dylai'r cymorth hwn fynd i ffermwyr gweithgar. Rwy'n falch o'r £7 miliwn yr ydych chi wedi ei ymrwymo i Cyswllt Ffermio hefyd. Yn aelod gynt o'r rhaglen arweinyddiaeth wledig, rwy'n credu ei bod hi'n gwneud gwaith anhygoel o uwchsgilio ffermwyr ledled y wlad a rhannu arfer gorau ymhlith y sector, sydd i'w groesawu yn fawr, ac rwy'n falch o weld yr ymrwymiad hwnnw.
Hefyd, rwy'n clywed yn eich datganiad chi am gyflwyno cynllun Glastir Uwch, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth adeiladol dros ben. Mae i hwnnw fanteision aruthrol i'n ffermwyr ni a'n heconomi wledig ni, ac mae'r ffordd y mae'r arian hwnnw cael ei ad-drefnu i gefnogi busnesau lleol wedi bod yn ardderchog, mewn gwirionedd. Ond, ynglŷn â hynny, a wnewch chi gadarnhau—roeddech chi'n sôn am y cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno—y bydd y cynlluniau Glastir newydd yn agored i bobl newydd ddod i mewn—rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, y gall pobl newydd ddod i mewn i gynllun Glastir i helpu i wella'r amgylchedd—a hefyd a fydd y gwaith cyfalaf yn rhan o gynllun newydd Glastir Uwch? Oherwydd, yn fy marn i, mae hwnnw wedi gwneud gwaith rhagorol o lunio coridorau glan y nant, plannu gwrychoedd, a gwella strwythurau hanesyddol ac ati, sydd wir yn helpu i roi hwb i Gymru. Felly, fe hoffwn i glywed a fydd hynny'n cael ei gynnwys.
A hefyd, yn olaf, ynglŷn â hynny, a fydd yna unrhyw amrywiadau i gontractau cyfredol? Oherwydd fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae ffermwyr wedi cael eu cloi yn eu contractau presennol, ac os ydyn nhw'n dymuno ymestyn y rhain, fe fydd yn rhaid iddyn nhw aros gyda'r sefyllfa bresennol. Rwyf i o'r farn y byddai hi'n fuddiol iawn i'n ffermwyr ni pe gallem ni weld rhai amrywiadau yn y contractau i'w galluogi nhw i arallgyfeirio rhyw gymaint, i helpu eu fferm nhw a'r amgylchedd hefyd. Felly, diolch yn fawr iawn, Llywydd, diolch.
Diolch yn fawr iawn, ac rydych chi wedi fy nghlywed i'n mynegi fy marn i am y gair 'gweithgar'. Roeddwn i'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gael hynny yn y datganiad, a'i bod hi'n bwysig iawn mai ein ffermwyr gweithgar ni sy'n cael eu gwobrwyo am eu gwaith.
Nid wyf i'n anghytuno ag unrhyw beth yr oeddech chi'n ei ddweud am Cyswllt Ffermio. Y rheswm yr wyf i wedi cyflwyno'r cyllid hwnnw yw oherwydd fe wn i faint o werthfawrogiad sydd i'r ffaith fod gennym ni'r gyrchfan hon lle gall pobl fynd iddi am gymorth, a pheth anghyffredin iawn yw fy mod yn cwrdd â ffermwr nad yw wedi cael rhyw gymaint o gysylltiad â Cyswllt Ffermio yn ystod ei yrfa.
O ran Glastir, fel y dywedais i, rydym ni'n ymestyn y rhain. Hynny yw, yn rhoi sicrwydd i ddeiliaid contract. Fe fyddaf i'n rhoi ystyriaeth i agor ffenestri eraill eto os gallwn i, ond, ar hyn o bryd, mae'r cyhoeddiad y gwnes i heddiw yn ymwneud ag ymestyn contractau Glastir, oherwydd mae angen iddyn nhw allu cynllunio ar gyfer tynnu'n ôl o'r contractau hynny ac, yn amlwg, roedden nhw am ddod i ben ddiwedd eleni, felly roeddwn i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i ni allu rhoi'r sicrwydd hwnnw.
A gaf innau hefyd ymuno â'r cynrychiolwyr eraill i ddiolch yn fawr iawn i chi am y datganiad? Ac mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn croesawu'r manylion yr ydych chi wedi eu nodi—yn arbennig o falch o glywed am y fframwaith rheoleiddio sy'n fwy cymesur i ffermwyr a'ch bod chi am gychwyn hefyd ar raglen ymgysylltu ac ymgynghori. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Fodd bynnag, mae'n rhaid mai hwn yw un o'r cyfnodau mwyaf ansicr i'n ffermwyr ni a'r rhai sydd â rhan yn amaethyddiaeth Cymru. Gyda'r cytundebau Brexit newydd a bygythiol, o bosibl, o'u blaenau nhw, a pholisi amaethyddol newydd yn ogystal â COVID, mae ffermwyr yn wynebu cryn bwysau ac ansicrwydd. Mae hynny ar ben llawer o ansicrwydd yn y tymor hwy o ran effaith yr hinsawdd, natur, ac argyfyngau bioamrywiaeth ar y gymdeithas, ac mae'n rhaid i ni roi teyrnged i'r ffermwyr hynny sy'n ymddwyn yn weithredol wrth fynd i'r afael â'r materion hyn.
Mae llawer o'r hyn yr oeddwn i am ei ddweud wedi cael ei gwmpasu eisoes ac rwy'n edrych ymlaen at y manylion, sy'n ymwneud â chynnig sefydlogrwydd i gyflawni'r canlyniadau amgylcheddol a buddsoddi yn y mesurau newydd o ran technoleg a chynhyrchiant i gyflawni ein canlyniadau ni o ran diogelwch bwyd a'r amgylchedd.
Mae gennyf i ddau fater, gyda'ch caniatâd. A wnewch chi gadarnhau, os gwelwch chi'n dda, a yw'r Llywodraeth yn bwriadu anrhydeddu ei hymrwymiad hi i gyd-ariannu domestig ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig domestig, sydd tua £40 miliwn y flwyddyn, sy'n cynrychioli colled sylweddol arall o gyllid ymysg ardaloedd gwledig fel yr un yr wyf i'n ei chynrychioli hi? A Gweinidog, rydych chi'n ymwybodol hefyd y gall llawer o ffermwyr a'u teuluoedd nhw fod yn dioddef yn feddyliol. A wnewch chi roi gwybodaeth i ni am unrhyw gymorth ehangach a allai fod ar gael i ffermwyr a'r rhai sy'n gweithio ym myd amaeth ac yn fwy cyffredinol mewn cymunedau gwledig yn hyn o beth? Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi, a diolch i chi hefyd am eich geiriau chi o gefnogaeth. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i weithio'n agos iawn gyda'n ffermwyr ni. Yr hyn yr wyf i'n awyddus i'w sicrhau yw bod yr hyn yr ydym ni'n ei gynnig yn rhywbeth ymarferol. Felly, mae hi'n bwysig bod pob math o fferm yn gallu cael cyfiawnder o dan y cynllun newydd, ac felly rwyf i o'r farn fod hwn yn faes pwysig iawn yn ein dadansoddiadau economaidd ni hefyd. O ran eich dau gwestiwn penodol chi, ni allaf i ymrwymo i gadw at yr un cyllid, y rhan ddomestig o gyllid y rhaglen datblygu gwledig, hyd nes y bydd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi cael ei orffen. Nid wyf i'n gwybod beth fydd fy nghyllideb i, ac felly, ar hyn o bryd, er fy mod i'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i adeiladu ar y rhaglen datblygu gwledig, ni allaf i ymrwymo fel hyn cyn cyflawniad yr adolygiad cynhwysfawr o wariant.
Rwy'n cytuno â chi'n llwyr o ran iechyd meddwl ein ffermwyr ni, ac roeddwn i'n siarad mewn fforwm yr wythnos diwethaf lle'r oeddwn i'n dweud, pan ddaeth y portffolio i'm rhan i am y tro cyntaf, ei bod hi'n amlwg iawn bod llawer o ffermwyr yn teimlo'n ynysig; yr unig dro'r oedden nhw'n gweld rhywun arall oedd wrth fynd i'r farchnad, er enghraifft. Felly, un o'r pethau yr wyf i wedi bod yn eu gwneud yw gweithio gyda rhai elusennau yn y sector amaethyddol, ac yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19, oherwydd, fel y gallech chi ei ddychmygu, roedden nhw'n cael llawer mwy o alwadau nag o'r blaen yn ystod y pandemig, i sicrhau bod cymorth ar gael yn hyn o beth. Felly, rwyf i wedi rhoi cyllid sylweddol ac arbennig i Sefydliad DPJ, yr wyf i'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol ohono, i'w helpu nhw i fynd allan i hyfforddi pobl eraill, oherwydd rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn bod yr arfer gorau hwnnw'n cael ei ymestyn ledled Cymru. Ac felly maen nhw wedi gallu hyfforddi pobl—efallai rhywun sy'n gweithio mewn marchnad ffermwyr, lle gallan nhw fynd i siarad â ffermwyr unigol, os gallan nhw gynnal y sgwrs honno gyda nhw, oherwydd, unwaith eto, rwy'n credu mai un o'r pethau a ddeallais i oedd nad ydyn nhw'n rhy hoff o ofyn am gymorth bob amser, mewn ffordd sy'n—. Nid ydym ni'n awyddus i weld hynny; rydym ni'n awyddus i bobl allu gofyn am gymorth a chael eu cyfeirio at y man orau i'w gael. Felly, fe wnes i gyfarfod â'm cyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle, yr wythnos diwethaf i drafod sut rydym ni am barhau i'w hariannu nhw. Roedd hi wedi bod ar ymweliad buddiol iawn y dydd Gwener cynt â Sefydliad DPJ i glywed am y gwaith rhagorol y maen nhw'n ei wneud.
Diolch i chi am eich datganiad. Rwy'n sylweddoli bod rhai o'r pethau yr oeddwn i eisiau eu codi wedi cael eu cwmpasu eisoes, ond rwy'n awyddus i bwysleisio bod maint yr aflonyddwch y mae'r sector ffermio yn ei ddioddef wedi dod i'r amlwg yr wythnos hon, o ganlyniad i Brexit a'r argyfwng hinsawdd fel ei gilydd. Felly, rydym ni wedi gosod nodau anodd iawn i ni ein hunain ar gyfer lleihau ein hallyriadau hyd at bron i ddwy ran o dair erbyn 2030, ac mae hynny'n cynnwys yr allyriadau carbon sylweddol iawn sy'n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd a bwyta bwyd. Felly, rwyf i braidd yn bryderus y gallem ni fod yn gohirio newid tan ar ôl i'r cynllun talu sylfaenol ddod i ben yn 2023, ac rwyf i'n awyddus i'ch holi chi ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud nawr i gynorthwyo ffermwyr i ddod i delerau â'r normal newydd. Oherwydd fe gefais i sgwrs ddiddorol iawn gyda Glyn Roberts dros yr haf, sy'n gwneud gwaith rhagorol ar newid y brîd o fuchesi cig eidion sydd ganddo ef, i sicrhau ei fod yn lleihau'r allyriadau carbon y mae'n eu defnyddio gyda'r porthiant y mae'n rhaid iddo ef ei roi iddyn nhw, ond drwy leihau maint o allyriadau y maen nhw'n eu cynhyrchu hefyd. Gan mai ef yw pennaeth Undeb Amaethwyr Cymru, mae'n gallu cael cyngor da iawn, yn amlwg, ac roeddwn i'n meddwl tybed pa mor weithgar y mae eich swyddogion chi wrth gynghori pob ffermwr sy'n gweithio ynghylch sut y gellir dechrau gwneud newidiadau nawr, ar sut y gallen nhw leihau eu hallyriadau carbon, a deall faint o darfu sydd ar y rhwydweithiau byd-eang mewn union bryd blaenorol yr oeddem ni i gyd yn tybio y bydden nhw'n parhau am byth, a sut y gallwn ni gryfhau ein rhwydweithiau bwyd lleol i atgyfnerthu diogelwch bwyd.
Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn. Rydym ni wedi gweld, onid ydym ni, pa mor gydgysylltiedig yw ein cadwyn bwyd-amaeth ni dros y—? Wel, fe welsom ni hyn yn y gorffennol, ond yn sicr rwy'n credu ei fod wedi dod yn amlwg iawn dros yr wythnosau diwethaf hyn. Felly, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'r sector amaethyddol ers sawl blwyddyn yn ymwneud â'r materion yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, a thua tair blynedd yn ôl, neu bedair blynedd yn ôl, efallai, fe ddefnyddiwyd rhywfaint o arian Ewropeaidd a oedd ar gael i bob fferm laeth i sicrhau y gallen nhw gael gafael ar gymorth, fel yr oeddech chi'n cyfeirio ato, a chael cynllun pwrpasol o ran sut y gallen nhw drawsnewid yn y ffordd yr ydym ni'n cyfeirio ati hi. Ac yna, fe wnaethom ni hynny gyda chig coch hefyd. Fe wnaethom ni hynny gyda dau o'r sectorau, ac felly mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Fe allaf i eich sicrhau chi bod fy swyddogion i'n ymgysylltu â ffermwyr. Felly, roeddwn i'n sôn ein bod ni wedi siarad â 2,000 o ffermwyr dros y 18 mis diwethaf ynghylch cyd-ddylunio'r cynllun hwn, felly mae swyddogion yn manteisio ar y cyfle, wrth gwrs, i drafod pob agwedd ar ffermio gyda nhw. Fe soniais i am Cyswllt Ffermio, ac mae hwnnw'n sefydliad y gall ffermwyr fynd ato os ydyn nhw'n dymuno cymorth ynghylch sut y gallan nhw drawsnewid neu bontio. Rydym ni wedi cynnig cynlluniau hefyd i wneud ein ffermydd ni'n fwy cystadleuol a phrynu offer a fydd yn eu helpu nhw o ran argyfyngau hinsawdd a natur. Felly, nid ydym ni'n aros yn yr unfan. Fel y dywedais i, darn cymhleth, trawsnewidiol iawn o waith yw hwn a fydd yn cymryd sawl blwyddyn. Fe fyddwn i wrth fy modd i'w gwblhau mewn blwyddyn, ond mae'n rhaid i ni wneud pethau'n iawn, ac mae hi'n iawn i ni gael cyfnod pontio fel hyn.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Llywydd. Rydym ni i gyd yn gwybod beth yw'r nod, ac un syml iawn ydyw: gweld Cymru'n genedl allyriadau sero-net erbyn 2050. Dyna hanfod hyn i gyd, ac mae'r polisïau yn hanfodol i gyflawni hynny oherwydd fe wyddom ni fod ffermwyr yn gofalu am 80 y cant o'r tir sydd gennym ni. Mae hi mor syml â hynny.
Felly, mae talu iddyn nhw am helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a gofalu am fywyd gwyllt yn hytrach na chanolbwyntio ar faint o dir sydd ganddyn nhw'n beth synhwyrol iawn i ni ei wneud, yn enwedig pan edrychwn ni ar Gymru, ac edrych ar y ffaith mai ffermydd bychain yw'r rhan fwyaf o'r ffermydd sydd yng Nghymru. Felly, i mi, mae hwnnw'n newid naturiol. Ond mae angen i ni ofalu hefyd am y dreftadaeth gymdeithasol unigryw sydd ynghlwm â'r ffermydd bychain hynny, ac, wrth gwrs, mai'r Gymraeg yw iaith y bobl sy'n byw yno, a sicrhau hefyd nad ydym ni'n achosi trafferthion yn y fath ffordd y mae llawer o bobl wedi ei disgrifio hi yma heddiw. Felly, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith, ynghyd ag eraill, eich bod chi am gadw at y cynllun taliad sylfaenol tan 2023.
Rydym ni wedi sôn llawer am ffermio, ac fe wnaethoch chi sôn yn gryno iawn am allyriadau nwyon tŷ gwydr, a'u defnydd nhw'n ehangach o ran lleihau agrocemegau a phrosesu, a thrafnidiaeth ac oergelloedd. Felly, o dan y cynlluniau hyn—ac, unwaith eto, gan fynd yn ôl at y nod, sef dim allyriadau o gwbl—a yw'r pethau hynny'n cael eu hystyried yn y cynllun hwn, a phryd y gwelwn ni fwy ynghylch y rhain?
Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. Rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle: nid ymwneud â chynhyrchu bwyd yn unig y mae hyn. Mae hyn yn ymwneud ag adeiledd cymdeithasol. Pan euthum i allan i Seland Newydd i weld sut yr oedden nhw wedi ymdopi ar ôl iddyn nhw gyrraedd ymyl y dibyn yn y fath fodd na wnawn ni, yn gwbl sicr, pryd y gwnaethon nhw roi'r gorau i'w cefnogaeth uniongyrchol nhw i ffermwyr nôl ym 1983, dyna pryd yr oedd hi, rwy'n credu, dyma'r peth mwyaf yr oedden nhw'n sôn amdano wrthyf i, sef eu bod nhw wedi colli nifer fawr iawn o ffermydd bychain. Nid oes yna unrhyw ffermydd bychain yn Seland Newydd nawr, maen nhw'n aruthrol o fawr, gan golli'r ymdeimlad hwnnw o fod yn byw mewn cymunedau. Ac, wrth gwrs, mae'r Gymraeg hefyd yn ffactor i ni, ac mae'r sector amaethyddol yn defnyddio'r Gymraeg yn fwy nag unrhyw sector arall yng Nghymru. Felly, mae hi'n bwysig iawn pan fyddwn ni'n cyflwyno'r cynllun hwn ein bod ni'n ystyried yr holl bethau hyn.
Rydym ni'n ystyried sut y gallwn ni eu cefnogi nhw wrth daro'r nod hwnnw o ddim allyriadau o gwbl, fel rydych chi'n dweud, ac fe soniais i mewn ateb blaenorol am yr offer yr oeddem ni wedi ei gynnig i'w helpu nhw gydag arloesedd a deallusrwydd artiffisial. Felly, cynlluniau sydd wedi bod ar waith gennym ni yw'r rhain. Rydym ni wedi gweld nifer o gynlluniau grant busnes fferm, ac ati, ac maen nhw wedi cael cymorth wrth benderfynu beth yw'r offer gorau i'w ddefnyddio ar eu ffermydd nhw. Nid yw hynny o reidrwydd yn rhan o hyn; mae hynny'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn ei wneud i geisio helpu ein ffermwyr ni i leihau eu hallyriadau carbon nhw yn y cyfamser.
Diolch i'r Trefnydd—. Y Gweinidog materion gwledig ddylwn i fod wedi dweud fanna. Mae gyda ni egwyl nawr wrth i ni baratoi am rai newidiadau yn y Siambr. Felly, fe gymrwn ni egwyl fer a byddwn ni'n ailgychwyn cyn hir.