9. Dadl Fer: Ni yw'r hyn yr ydym yn ei fwyta: Canolbwyntio ar ddwysedd maetholion bwyd er mwyn gwella iechyd y cyhoedd

– Senedd Cymru am 5:55 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:55, 22 Medi 2021

Ac felly nawr fe fyddwn ni'n symud ymlaen at y ddadl fer. Mae'r ddadl fer heddiw i gael ei chynnig gan Jenny Rathbone. Dwi'n galw, felly, ar Jenny Rathbone i gyflwyno'r ddadl, ac i Aelodau yn y Siambr i adael mor dawel â'r Aelodau sydd ar Zoom. Felly, os gall pawb adael yn dawel.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Os gallai'r Aelodau adael y Siambr yn gyflym ac yn dawel os ydych yn gadael, ac yna fe ofynnaf i Jenny Rathbone gyflwyno'r cynnig yn ei henw.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Cefin Campbell.

Clywn yr ymadrodd 'Ni yw'r hyn yr ydym yn ei fwyta' yn aml, ac mae enghreifftiau o ganlyniadau deiet gwael o'n cwmpas ym mhobman. Mae gennym y lefelau uchaf erioed o glefyd y galon, diabetes ac afiechydon eraill sy'n gysylltiedig â deiet, ac nid ydym ond yn dechrau deall rhai ohonynt. Pan fyddwn yn mynd i siopa, y gost yw'r ystyriaeth bwysicaf yn tueddu i fod wrth inni ystyried a ydym am brynu rhywbeth. Ymhlith yr ystyriaethau eraill mae: a yw'n edrych yn dda, a yw'n organig, o ble y daw?

Ar ben hynny mae'r llu o hysbysebion sy'n ein hannog i feddwl y bydd prynu cynnyrch X yn ein gwneud yn hapusach, yn fwy llwyddiannus, ac mewn rhai achosion, yn iachach. Mae gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu swyddogaeth i gyfyngu ar yr honiadau mwy gwarthus, ac mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd a gwasanaethau rheoleiddio awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau bod bwyd sy'n cael ei werthu yn addas i'w fwyta. Ond beth am safonau bwyd? Nid yw'n glir sut y mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhoi sylw i ansawdd bwyd, gan ganolbwyntio yn hytrach ar yr hyn a allai ein lladd. Dangoswyd y modd y caiff bwyd ei ddifwyno yn glir iawn yn y sgandal 'byrgyrs ceffylau' yn 2013. Dyna oedd yr enghraifft fwyaf dramatig, ond gwyddom fod pryder cynyddol, yn enwedig yn y Siambr hon, ynglŷn â faint o halen, siwgr a thraws-frasterau sy'n cael eu gwerthu mewn bwyd wedi'i brosesu, ac mae galw cynyddol am fwy o reoleiddio.

Mae twyll hefyd yn broblem, ac roeddwn yn falch iawn o ddarllen bod Hybu Cig Cymru yn gwneud eu gwaith monitro eu hunain i ddiogelu eu henw da. Efallai eich bod wedi darllen eu bod yn defnyddio gwasanaeth gyda'r gorau yn y byd i ymchwilio i dwyll cynnyrch er mwyn profi mai'r cynnyrch premiwm Cymreig yw'r cig oen a'r cig eidion a werthir mewn siopau gyda label HCC arno mewn gwirionedd, ac nid cig o safon is yn honni bod yn rhywbeth arall drwy dwyll. Os nad yw labelu'n ddigonol, mae pobl yn cael eu twyllo.

Ond beth am ffrwythau a llysiau? Yn gyffredinol, mae cyfeiriadau at ansawdd bwyd yn canolbwyntio ar sicrhau nad yw wedi ei anffurfio. Tynnodd Hugh Fearnley-Whittingstall sylw at y panas di-siâp a gâi eu cludo i safleoedd tirlenwi oherwydd na fyddai'r archfarchnadoedd yn eu prynu, gan arwain at newid polisi ar ôl pwysau o du'r cyhoedd. Mae labelu'n ystyried pethau fel pa mor aeddfed ydynt, neu eu tarddiad, ac mae cyrff masnach yn bodoli er mwyn cadarnhau honiadau fod cynnyrch yn organig. Ond nid yw dwysedd maethol y bwyd—nifer y fitaminau a'r mwynau y gallant eu cynnig i roi maeth i chi—bron byth yn cael ei grybwyll.

Felly, er mwyn casglu gwybodaeth ar gyfer y ddadl hon, comisiynais fenter gymdeithasol o'r enw Growing Real Food for Nutrition, sydd â'r Grffn, sy'n ymchwilio i'r cysylltiad rhwng ansawdd pridd, amodau tyfu a chynhyrchu ffrwythau a llysiau yn y ffordd fwyaf carbon niwtral, sy'n ystyriaeth gynyddol bwysig i bob un ohonom o ystyried ein targedau lleihau carbon. Rwyf wedi gofyn iddynt brofi rhai o'r llysiau a'r ffrwythau bob dydd sydd ar gael i fy etholwyr, ac fe wnaethant ymweld â marchnad ffermwyr, stondin stryd ffrwythau a llysiau draddodiadol a thair cadwyn archfarchnad adnabyddus ar y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Medi. Felly, prynwyd ffrwythau a llysiau ffres o bob un o'r pum siop a chynnal profion arnynt ar yr un diwrnod ag y cawsant eu prynu gan ddefnyddio reffractomedr Brix. Efallai eich bod yn gofyn beth yw reffractomedr? Mae'n edrych yn eithaf tebyg i declyn cyrlio gwallt, y bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd ag ef. 

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:00, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Cadarnhaodd un archfarchnad y llwyddais i siarad â hwy am hyn i gyd eu bod yn defnyddio mesurydd Brix yn eu ffatrïoedd i brofi siwgrau, asidau a gwead eu cynhyrchion cyn iddynt eu pacio a'u danfon i'w siopau, ond nid ydynt yn eu profi am ansawdd maethol oni bai bod ganddynt rywbeth y maent am herio'r cyflenwr yn ei gylch, ond ni fyddant yn gwneud hynny fel mater o drefn. Ond mae'n declyn a ddefnyddir gan nifer o archfarchnadoedd, os nad pob un ohonynt, ac nid wyf wedi llwyddo i gyrraedd pob un ohonynt eto, ond fe wnaf.

Nawr, daw'r enw o waith fferyllydd o'r Almaen, yr Athro Brix, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef y person cyntaf, mae'n debyg, i fesur dwysedd sudd planhigion, ac ysbrydolodd hyn ddatblygiad mesurydd Brix yn y 1970au i alluogi tyfwyr i astudio sut y mae dwysedd maethol planhigyn yn amrywio yn dibynnu ar ansawdd y pridd a'r ffordd y caiff y planhigyn ei dyfu. Mae tablau Brix yn galluogi tyfwyr i sgorio llwyddiant neu fel arall eu menter ac addasu eu harferion neu eu lleoliad yn unol â hynny. Nawr, mae hyn yn rhywbeth y mae pob garddwr yn poeni yn ei gylch, ond gallwch ddychmygu bod gwinwyddwyr, sy'n gweithio i fusnesau gwerth miliynau o bunnoedd, yn awyddus iawn i ddefnyddio'r dull hwn i'w galluogi i wahaniaethu rhwng gwin plonc a'r gwin penigamp a fydd yn ennill gwobrau o'r radd flaenaf iddynt. Nid oes amheuaeth mai grawnwin yw'r cynnyrch sy'n dangos bod dwysedd maethol grawnwin yn llawer uwch na phob cynnyrch arall a brofwyd.

Felly, beth oedd y canlyniadau yng Nghaerdydd? Profwyd afalau, moron, letys, tatws a thomatos o bob un o'r pum siop, ac aseswyd y canlyniadau ar gyfer pob llysieuyn neu ffrwyth drwy raddio'r sgôr Brix cyfartalog uchaf i roi sgôr a fyddai'n eu gosod yn gyntaf, ail, trydydd, pedwerydd a phumed. Nawr, cafodd y sgoriau hyn eu cyfansymio i roi gwerth cyffredinol. Efallai na fyddwch yn synnu mai'r tyfwr organig a gasglodd ei gynnyrch ei hun a gafodd y sgôr uchaf i gyd, ond dilynwyd hynny gan y stondin stryd a oedd wedi prynu eu holl gynnyrch y bore hwnnw o farchnad gyfanwerthol Caerdydd yn Bessemer Road. O archfarchnad y daeth yr afalau a gafodd y sgôr uchaf, felly mae llawer iawn o gymhlethdod yn hyn. Ond un pwynt i'w grybwyll wrth fynd heibio yw na wnaeth y tablau Brix ar gyfer yr un o'r cynhyrchion hyn roi sgôr 'ragorol'. Dim ond dwy eitem oedd yn dda, a'r ddwy ohonynt gan y darparwr organig. Y rheswm am hynny yw bod iechyd ein pridd mewn cyflwr ofnadwy, ond mae honno'n ddadl ar gyfer diwrnod arall.

Rwyf am droi yn awr at sut y gallai dwysedd maethol lywio'r broses o gaffael bwyd yn gyhoeddus a'r hyn y gallai hynny ei wneud i iechyd ein gwlad. Yn gyntaf oll, prydau ysgol. Mae adroddiad 'Bwydo ein Dyfodol' gan Pys Plîs, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn tynnu sylw at gyn lleied o lysiau sy'n cael eu bwyta mewn ysgolion, hyd yn oed mewn amseroedd arferol. Nid ni yw'r gwaethaf yn y DU, ond nid ni yw'r gorau chwaith, a datgelodd eu harolwg Eat your Greens nad oedd dros chwarter y disgyblion yn bwyta unrhyw lysiau o gwbl pan fyddent yn bwyta cinio yn yr ysgol, a phan ofynnwyd pam, roedd yr atebion yn amrywio o 'maent wedi'u gorgoginio' i 'maent o ansawdd gwael' i 'nid ydynt yn apelio.' Rwy'n credu, yn gyffredinol, eu bod yn sôn sut nad ydynt yn hoffi'r blas. Mae eu hadroddiad yn galw am ffocws newydd ar safonau caffael yn ogystal â buddsoddi mewn sgiliau arlwyo. Mae'n ymddangos i mi fod blas yn allweddol, oherwydd mae plant yn deall hynny. Mae gofyn i ddisgyblion flasu bwydydd bob dydd yn ddall yn dangos mai'r rhai y maent yn tueddu i'w hoffi orau oedd y rhai sy'n sgorio uchaf ar dablau Brix, oherwydd eu bod yn blasu'n well. Dyna'r hyn y mae'r cynnwys maethol, y mwynau a'r fitaminau, yn ei ddweud wrthych.

Yn wir, pe bai safonau arlwyo mewn ysbytai hefyd yn rhoi sylw i ddwysedd maethol y bwyd y maent yn ei weini, lle mae'r rhan fwyaf o'u cleifion yn fregus ac yn oedrannus a heb archwaeth i fwyta llawer o ddim, a phe bai'r hyn y maent yn ei fwyta'n fwy maethlon, efallai y byddai hynny'n cyflymu eu hadferiad ac yn eu cael allan o'r ysbyty yn gyflymach. Wrth siarad â maethegydd a phennaeth arlwyo bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, roeddent yn pwysleisio eu bod eisiau prynu llysiau a ffrwythau cynaliadwy lleol wrth gwrs, lle bo hynny'n bosibl, ac mae hynny yn y contract Cymru gyfan ar gyfer ffrwythau a llysiau i wasanaethau ysbytai. Ac mae ansawdd yn rhan fawr o'u gofyniad cyffredinol am gynnyrch, ac maent yn gofyn am enghreifftiau o'r cynhyrchion y maent yn eu prynu. Maent bellach yn prynu eu holl ffrwythau a llysiau ffres gan gwmni sydd wedi'i leoli ym marchnad Bessemer Road, sef yr un a gafodd y sgôr uchaf ond un os cofiwch. Felly, mae hynny'n newyddion da iawn. Ond wrth gwrs, nid yw'r cynnyrch y maent yn ei werthu o reidrwydd yn cael ei dyfu yn y DU, ac mae'n anodd iawn olrhain pryd yn union y cafodd ei gasglu a faint o ddirywiad a fu yn y bwyd ers hynny.

Mae'r safonau bwyd ar gyfer ysbytai yn rhoi manylebau maetholion ar gyfer bwydlenni ysbytai, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ac mae gan bob ysbyty yng Nghymru fandad i gydymffurfio â hwy. Ond oherwydd bod cleifion ysbyty yn sâl a'u lefelau maethol yn isel yn gyffredinol, tueddir i roi mwy o bwyslais ar faint o brotein a chalorïau y maent yn ei fwyta, yn ogystal ag annog pobl i fwyta drwy ddarparu eitemau ar y fwydlen sy'n edrych yn ddymunol neu rai y maent wedi arfer â hwy. Roedd yn ddiddorol iawn clywed bod maethegwyr wedi darparu canllawiau arlwyo newydd i ysbytai ar gyfer y dyfodol, ac wedi'u cyflwyno i'r prif nyrs, ac mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers iddynt glywed a fydd y safonau diwygiedig drafft hyn yn cael eu cymeradwyo. Ac wrth gwrs, mae angen cymeradwyaeth weinidogol, byddwn yn dychmygu, oherwydd bydd costau ynghlwm wrthynt.

Rwyf am orffen gyda hanesyn am ymweliad diweddar â chanolfan gofal dementia, lle'r oedd cogydd cwbl wych â chanddo gymwysterau uchel iawn yn gweithio—cyn hynny bu'n athro mewn coleg arlwyo. Ac roedd y bwyd ffres a gynhyrchai yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan y bobl â dementia, oherwydd mae blas yn un o'r synhwyrau a gollwn yn olaf pan fyddwn yn dechrau colli ein synhwyrau wrth dyfu'n hen. A gwyddom fod bwyta'n dda yn eich helpu i aros yn gorfforol ac yn feddyliol iach, a dyna pam y mae gennym y canllawiau bwyta'n iach yn ein mannau cyhoeddus ac yn ein prosesau caffael cyhoeddus.

Ac felly, i grynhoi, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar ddwysedd maethol llysiau a ffrwythau sy'n cael eu prynu ar gyfer ein hysgolion, ein hysbytai a'n cartrefi gofal er mwyn sicrhau bod iechyd pobl y wlad hon mor dda â phosibl ac yn enwedig y rhai yr ydym yn gyfrifol amdanynt, ac y bydd hyn yn ysgogi dadl lawer mwy eang ymysg y cyhoedd am yr hyn y dylent fod yn edrych amdano pan fyddant yn siopa, oherwydd mae dyfais llaw yn cael ei datblygu yn yr Unol Daleithiau i alluogi siopwyr i fesur dwysedd maethol unrhyw beth y credant y byddant yn ei brynu. Felly, mae hyn yn rhywbeth sy'n mynd i chwarae rhan gynyddol yn y drafodaeth ynglŷn â sut i gadw'n iach gyda'r bwyd a fwytawn. Diolch. 

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 6:08, 22 Medi 2021

Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone am ganiatáu rhyw funud fach i fi gyfrannu. Dwi'n cytuno'n llwyr â hi bod angen inni bwysleisio llawer mwy y manteision i bobl o fwyta bwyd da, bwyd o ansawdd, ac effaith bositif hynny nid yn unig yn gorfforol ond hefyd yn feddyliol. Ond dwi jest eisiau cyflwyno un agwedd fach ychydig bach yn wahanol, y tu hwnt i'r manteision o ran maeth, sef yr impact ar iechyd cyhoeddus trwy'r canlyniadau amgylcheddol negyddol rydyn ni'n eu gweld ar hyn o bryd oherwydd bod y gadwyn cyflenwi bwyd mor bell bant o ble mae'r bwyd yn cael ei gynhyrchu. Meddyliwch chi, ar hyn o bryd, mae'r bwyd yn gorfod gadael gât y fferm, teithio cannoedd o filltiroedd i gael ei brosesu a chael ei gario nôl gannoedd o filltiroedd i'w roi ar silffoedd ein siopau ni. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegu at yr argyfwng newid hinsawdd, wrth i fwy a mwy o allyriadau carbon gael eu harllwys yn wenwynig i mewn i'r awyr oherwydd hyn.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 6:09, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

A dyma'r union broblem sydd gennym gyda'n heconomi echdynnol. Mae ymchwil yn dangos bod 51 y cant o laeth Cymru'n cael ei brosesu y tu hwnt i'n ffiniau, a chanfu adolygiad o'r sector cig eidion yng Nghymru fod 72 y cant o wartheg Cymru yn cael eu lladd y tu allan i Gymru. Er mwyn datrys hyn, mae angen inni leoleiddio cadwyni cyflenwi, felly mae arnom angen targedau uchelgeisiol ar gyfer caffael lleol. Dychmygwch y manteision economaidd ac amgylcheddol cyfunol pe bai 75 y cant o'r bwyd a gaffaelir yng Nghymru wedi'i brynu gan gyflenwyr lleol. Byddai hyn nid yn unig yn ychwanegu gwerth o ran ansawdd y bwyd hwnnw, ond hefyd yn lliniaru effeithiau negyddol yr effaith newid hinsawdd amgylcheddol hefyd. Felly, mae'n bryd inni weithio gyda'n gilydd ar draws y Siambr i wireddu'r weledigaeth hon i Gymru, felly rwy'n hapus i gefnogi'r ddadl. Diolch yn fawr iawn.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:11, 22 Medi 2021

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl—Lynne Neagle.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno pwnc mor bwysig ar gyfer dadl fer a diolch hefyd i Cefin Campbell am ei gyfraniad. Mae sut a beth yr ydym yn ei fwyta yn cael effaith enfawr ar ein hiechyd a'n lles. Mewn amcangyfrifon blynyddol o faint o flynyddoedd o fywyd iach a gollir yn ddiangen i salwch, anabledd a marwolaeth, mae pedwar o'r pum ffactor risg uchaf yn gysylltiedig â deiet. Ac fel y gwyddom, mae deiet hefyd yn cyfrannu'n allweddol at anghydraddoldebau iechyd. Mae gennym ddarlun clir o'r hyn y dylem i gyd fod yn ei fwyta. Mae'r Canllaw Bwyta'n Iach yn dod â'r holl dystiolaeth wyddonol at ei gilydd mewn siart cylch syml. Cawn ein cynghori'n aml gan arbenigwyr y dylem fod yn bwyta llawer o ffrwythau a llysiau, ac y dylem gael deiet ffibr uchel gyda charbohydradau startsh, cynnyrch llaeth braster isel a phrotein. Dylem osgoi bwyta gormod o fwydydd uchel mewn braster a siwgr yn rhy aml. Dylem anelu at fwyta o fewn ein hanghenion ynni. Mae'n swnio'n syml ac yn hawdd i'w gyflawni, ond mae'r chwech o bob 10 ohonom yng Nghymru sydd dros bwysau ac yn ordew yn tystio i'r ffaith nad ydyw.

Erbyn hyn, rydym yn byw mewn amgylchedd sy'n mynd ati i'n cymell i orfwyta ac i fwyta bwydydd sy'n cynnwys llawer o galorïau, a dim llawer o faetholion. Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae'r hyn a fwytawn a'n patrymau bwyta wedi newid cryn dipyn. Mae'r farchnad bwyd a diod wedi esblygu i ddarparu mwy o ddewis ac argaeledd nag erioed o'r blaen. Cawn ein hannog a'n cymell yn gyson i brynu a bwyta mwy o fwyd drwy hysbysebion bwyd, hyrwyddiadau a niferoedd mawr o siopau bwyd ar ein prif strydoedd. Gyrrwch ar hyd unrhyw stryd fawr, ac mae faint o fwyd sydd ar gael yn syfrdanol. Er enghraifft, mae bron i draean o'r safleoedd yn Nhorfaen yn fy etholaeth i yn siopau tecawê bwyd cyflym. Hefyd, mae gwasanaethau dosbarthu bwyd a llwyfannau digidol yn gwneud siopau tecawê hyd yn oed yn haws i'w defnyddio.

Cawn hyd at chwarter ein calorïau o fwyta y tu allan i'r cartref, a phan fyddwn gartref, rydym yn bwyta mwy o brydau parod a bwydydd wedi'u prosesu. Mae'r DU bellach yn gwario tua £5 biliwn y flwyddyn ar brydau parod ac mae 80 y cant o'r bwyd wedi'i brosesu a werthir yn y DU yn gynnyrch nad yw'n iach. Gan fod marchnad ehangach ar gyfer bwyd nad yw'n iach, mae cwmnïau'n buddsoddi mwy i'w ddatblygu a'i farchnata na'r dewisiadau iach. Mae'n gylch peryglus a dinistriol, ac mae'n rheoli'r pris. Nid bwyta'n iach yw'r dewis fforddiadwy bob amser, oherwydd mae bwydydd sy'n uchel mewn halen, carbohydradau wedi'u prosesu, siwgr a braster, ac yn isel mewn ffibr, ar gyfartaledd deirgwaith yn rhatach fesul calori na bwydydd iachach. Mae hyn yn un o'r prif ffactorau wrth wraidd anghydraddoldebau iechyd, wrth i'n pobl dlotaf wynebu dewisiadau anodd ynglŷn â phrynu bwyd y gallant ei fforddio ond y gwyddant nad yw bob amser yr hyn sydd orau i'w hiechyd hwy a'u teuluoedd.

Er ein bod yn clywed amrywiaeth o negeseuon, cyngor ac arweiniad ar fwyta'n iach, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn llwyddo i fwyta deiet iach a chytbwys. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â'r ymgyrch pump y dydd, ac eto, yng Nghymru, 25 y cant yn unig o oedolion sy'n dweud eu bod yn cyrraedd y targed hwn, gyda rhai o'n plant yn bwyta llai fyth o ffrwythau a llysiau.

Ac mae Jenny'n iawn: mae angen inni ddeall gwerth maethol yr hyn a fwytawn. Mae gan bob ffrwyth a llysieuyn gyfansoddiad maethol gwahanol a gall y modd y cânt eu cynaeafu, eu storio, eu prosesu a'u coginio effeithio ar hyn hefyd. Ond y neges allweddol yma yw bod angen i fwy ohonom fwyta o leiaf pum dogn o bob math o ffrwythau a llysiau y dydd. Ffres, wedi'u rhewi, o dun, wedi'u sychu neu mewn sudd, mae'r cyfan yn cyfrif tuag at y pump. 

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 6:15, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Ceir cyfoeth o dystiolaeth sy'n dangos yn gyson fod poblogaethau sy'n bwyta llawer iawn o ffrwythau a llysiau yn cael llai o achosion o glefyd y galon a rhai mathau o ganser. Y gymysgedd o faetholion mewn ffrwythau a llysiau sy'n amddiffynnol yn hytrach nag un maetholyn unigol. Yn ogystal â'u cynnwys maethol gwerthfawr, mae ffrwythau a llysiau yn ffynhonnell dda o ffibr. Mae cysylltiad rhwng bwyta digon o ffibr a risg is o glefyd y galon, strôc, diabetes math 2 a chanser y coluddyn. Nid yw tua naw o bob 10 o bobl yn y DU yn bwyta'r lefel a argymhellir o 30g o ffibr y dydd. Mae bwyta o leiaf bum dogn y dydd yn ffactor pwysig ar gyfer cynnal pwysau iach. Mae pob ffrwyth a llysieuyn yn cynnwys fitaminau a mwynau ac maent hefyd yn ffynhonnell dda o ffibr.

Ond mae newid yr hyn yr ydym yn ei fwyta yn galw am newid arferion deietegol, a gwyddom y gall hynny fod yn anodd iawn. Dyna pam y mae angen inni fabwysiadu dull amlweddog a chytbwys o weithredu sy'n seiliedig ar fywydau bob dydd pobl. Mae angen inni ganolbwyntio ar newid cynaliadwy. Felly, beth allwn ni ei wneud? Strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Llywodraeth Cymru yw'r cam cyntaf tuag at ddull trawslywodraethol o leihau gordewdra yng Nghymru ar raddfa poblogaeth. Lansiwyd y strategaeth ym mis Hydref 2019 ac fe'i cefnogir gan gynlluniau cyflawni bob dwy flynedd. Nid oes ateb hawdd, ond gyda dull wedi'i dargedu o weithredu ar draws nifer o feysydd allweddol, ein nod yw cefnogi pobl drwy wneud y dewis iach yn ddewis hawdd. Byddaf yn lansio cynllun cyflawni ar gyfer 2022-24 yn gynnar y flwyddyn nesaf, a bydd yn cynnwys ymrwymiad ariannol o dros £13 miliwn. Bydd yn cynnwys ariannu gwasanaethau gordewdra i ddarparu mynediad at gymorth ledled Cymru, darparu gweithgarwch sy'n dilyn system i weithio gyda'n cymunedau, treialu ymyriadau fel y rhaglen plant a theuluoedd, a datblygu ymgyrchoedd newid ymddygiad i gefnogi newid cynaliadwy.

Bydd y strategaeth a'r cynllun yn helpu i roi'r cyngor, y wybodaeth, yr offer a'r cymorth cywir i bobl allu newid ymddygiad tra'n canolbwyntio'n gryf ar newid yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. Mae hyn yn cynnwys edrych ar hyrwyddiadau prisiau, labelu calorïau a chynlluniau ar gyfer defnyddio ein pwerau deddfwriaethol. Rwyf hefyd wedi ymrwymo'n llwyr i weithio ledled y DU i roi camau beiddgar ar waith. Yr unig fesur ar draws y DU hyd yma sydd wedi cael effaith sylweddol yw ardoll ar y diwydiant diodydd meddal. Nid yw hyn wedi digwydd am fod pobl wedi newid eu dewis o ddiodydd er mwyn osgoi talu ychydig o geiniogau'n fwy, ond oherwydd bod y diwydiant bwyd wedi tynnu tunelli o siwgr allan o'u diodydd ac wedi buddsoddi mwy yn eu dewisiadau di-siwgr neu heb lawer o siwgr. Rydym yn awyddus i adeiladu ar y math hwn o lwyddiant. Rydym wedi ymgynghori ar y cyd ar sut y gellid gwella labelu maethol ar flaen pecynnau er mwyn rhoi gwybodaeth lawer cliriach i ddefnyddwyr allu gwneud dewisiadau gwybodus. Byddwn hefyd yn ymgynghori cyn bo hir ar gynigion i gynnwys labelu calorïau ar alcohol. Rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i unioni anghydbwysedd mewn hysbysebion bwyd a diod. Ar hyn o bryd mae hyn wedi'i bwysoli'n drwm tuag at gynhyrchion sy'n llawn braster, halen a siwgr. Dim ond 2 y cant o gyfanswm y gwariant ar hysbysebu bwyd sy'n wariant ar hysbysebu ffrwythau a llysiau. Erbyn diwedd y flwyddyn nesaf bydd gwaharddiad llwyr ar hysbysebu cynhyrchion sy'n llawn braster, halen a siwgr cyn y trothwy gwylio teuluol am 9 p.m. ar y teledu, ac ar hysbysebu y telir amdano ar-lein.

Mae'r diwydiant bwyd yn rhan hynod bwysig ac arloesol o'n bywydau bob dydd. Rwyf am inni weithio gyda diwydiant mewn ffordd gynhyrchiol i gyflawni'r newidiadau hyn. Er y bydd cyflwyno deddfwriaeth yn helpu i sicrhau tegwch, rwyf hefyd am inni weithio gyda busnesau i ystyried sut y gallwn gynnal a mesur y newid. Mae diwydiant yn cael ei annog i wneud y bwyd y mae'n ei werthu'n iachach ac yn llai caloriffig. Cafwyd enghreifftiau cadarnhaol hyd yma, ond gellir gwneud llawer mwy. Er enghraifft, fel rhan o'n cynllun pwysau iach byddwn yn gweithio gyda busnesau Cymru i gefnogi ailfformiwleiddio drwy ein canolfannau arloesi bwyd.

Rydym hefyd wedi ymrwymo drwy ein rhaglen lywodraethu i lunio strategaeth bwyd cymunedol. Byddaf yn gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod hyn yn cysylltu â'r canlyniadau yn ein strategaeth pwysau iach ac yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd. Gwyddom fod blynyddoedd cynnar bywyd plentyn yn allweddol i greu arferion bwyta'n iach pwysig ar gyfer y dyfodol. Er mwyn cefnogi rhieni sy'n methu fforddio gwneud hynny, rwyf wedi ymrwymo i gynyddu nifer y lleoedd yn y cynllun Cychwyn Iach, sy'n darparu talebau i blant mewn teuluoedd ar incwm isel i'w wario ar fwydydd iach fel ffrwythau a llysiau. Eleni rydym wedi cynyddu gwerth y daleb i £4.25 o £3.10 yr wythnos. Rydym hefyd yn gweithio i ddigidoli'r cynllun er mwyn cynyddu hygyrchedd a lleihau'r stigma a deimlir yn aml gan y rhai sy'n eu derbyn.

Byddwn hefyd yn buddsoddi mewn rhaglen newid ymddygiad drwy 10 Cam i Bwysau Iach i annog newid cynyddol gyda rhieni. Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, byddwn yn gweithio ledled y DU i ymgynghori ar labelu bwyd a weithgynhyrchir ar gyfer babanod, a all fod yn gamarweiniol ar hyn o bryd ac yn groes i bolisi iechyd y cyhoedd. Byddwn yn ailedrych ar ein cynllun rhwydwaith Cymru o ysgolion iach, a fydd yn helpu i sefydlu dull o weithredu sy'n targedu mwy ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau, gyda mynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant yn flaenoriaeth allweddol. A byddwn yn gweithio gydag ymgyrchoedd cenedlaethol fel Nerth Llysiau, sy'n ceisio ysbrydoli plant o'r blynyddoedd cynnar i'r ysgol gynradd a'r arddegau. Y nod fydd annog hoffter o lysiau y byddant, gobeithio, yn ei gadw am oes ac yn eu tro, yn ei rannu gyda'u plant hwythau. Roeddem yn falch o gefnogi cyllid i'r ymgyrch eleni, a aeth i dros 100 o ysgolion ledled Cymru.

Mae pawb ohonom yn gwybod beth y dylem fod yn ei fwyta, ond mae bwyta'n iach a'i gynnal, i'r rhan fwyaf ohonom, yn frwydr gyson. Am reswm da, mae'r cefndir i'n bywydau bob dydd wedi'i alw'n amgylchedd obesogenig. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn newid hyn. O flwyddyn i flwyddyn yng Nghymru, fel ar draws y byd, mae gordewdra'n parhau i gynyddu ac mae cyfraddau'r clefydau sy'n gysylltiedig â deiet yn parhau i godi hefyd. Mae gordewdra ar y trywydd i oddiweddyd ysmygu fel prif achos marwolaeth a chlefyd y mae modd ei osgoi. Rwy'n gwbl ymrwymedig i ysgogi newid ledled Cymru. Drwy ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', gallwn helpu i wneud y dewis iach yn ddewis arferol yn ein bywydau ni i gyd. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:21, 22 Medi 2021

Diolch, Dirprwy Weinidog, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:21.