– Senedd Cymru am 4:34 pm ar 28 Medi 2021.
Yr eitem nesaf, eitem 5—cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig. Diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am ystyried y memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Mae'n ddrwg gen i nad oedd y chwe wythnos lawn a neilltuir fel arfer ar gyfer craffu yn bosibl; fodd bynnag, roeddwn i'n falch o drafod newidiadau amserlennu i'r Bil, gan ganiatáu mwy o amser craffu a'r cyfle i roi tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i'r pwyllgor.
Roedd yn ofynnol i'r gwelliannau i Fil yr Amgylchedd gan Lywodraeth y DU gael memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol a osodwyd ar 3 Medi. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y memorandwm atodol. O ganlyniad, rwy'n cynghori'r Senedd y dylai ystyried cydsyniad gynnwys cymal 144, sy'n diwygio Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r gwelliant, y cyfeiriwyd ato ym memorandwm 1, yn sicrhau y gall y Senedd ddileu'r pwerau cydredol plws heb fod angen cydsyniad Gweinidog y Goron.
Yng ngoleuni adroddiad y pwyllgor, gofynnais i swyddogion edrych ar y mater hwn eto. Mae'r ddarpariaeth yn dod o fewn Rheol Sefydlog 29.1(ii) gan ei bod yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Cytunais â'r pwyllgor fod angen cydsyniad ac y dylid ei ystyried heddiw. Gofynnodd y pwyllgor hefyd i mi ystyried diwygiadau i Atodlenni 4, 5, 6, 7 ac 11 i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cenedlaethol perthnasol ymgynghori cyn gwneud rheoliadau. Dywedodd Memorandwm 1 mai Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cenedlaethol perthnasol mewn cysylltiad â Chymru, ac amlinellodd yr angen am gydsyniad y Senedd i'r pwerau o fewn yr Atodlenni hyn. Rwyf i'n ystyried bod y gwelliannau a ychwanegwyd at y darpariaethau hyn wedi eu cynnwys yn y gofyniad cyffredinol am gydsyniad a amlinellir ym memorandwm 1.
Mae'r Bil wedi cymryd cryn amser ar ei hynt drwy'r Senedd ers ei gyflwyno'n wreiddiol ym mis Ionawr 2020. Mae'r ddwy Senedd wedi gweld Brexit a COVID yn effeithio'n ddifrifol ar eu rhaglenni deddfwriaethol. Er gwaethaf yr oedi, mae'r Bil yn parhau i fod yn llwybr ymarferol i fwrw ymlaen ag ymrwymiadau polisïau a rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru. Ceisir pwerau datganoledig mewn cysylltiad â gwastraff ac effeithlonrwydd adnoddau, ansawdd aer, dŵr a rheoleiddio cemegau. Rydym ni hefyd o'r farn bod angen cydsyniad ar gyfer cymal 21, sef 19 yn flaenorol, 'Datganiadau am Filiau sy'n cynnwys cyfraith amgylcheddol newydd', a chymal 119, 109 yn flaenorol, ar nwyddau risg coedwigoedd. Bydd yr Aelodau yn nodi ein bod ni wedi cytuno ar ddull gweithredu gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn.
Yn gyffredinol, dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Senedd. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, mae'n synhwyrol ac yn fanteisiol ceisio darpariaethau ym Mil y DU gyda chydsyniad y Senedd. Rydym ni wedi ceisio pwerau yn y Bil mewn meysydd lle mae gwerth mewn mabwysiadu dulliau cydweithredol o gyflawni ar draws gweinyddiaethau'r DU. Bydd Rhan 3 o'r Bil yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol i gyflawni'r ymrwymiadau yn 'Mwy Nag Ailgylchu' i ddarparu cynllun cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig ar gyfer gwastraff pecynnu a chynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd. O ystyried y bydd busnesau sy'n rhwym wrth y cynlluniau yn gweithredu ar draws y gwledydd, mae angen cysondeb. Dim ond os ydym yn cymryd pwerau yn y Bil hwn y gellir cyflawni'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r cynlluniau hyn. Er mwyn darparu hyblygrwydd wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer deunyddiau eraill yn y dyfodol, rydym yn ceisio'r dewis o ddeddfu ar sail Cymru yn unig, gan gyflwyno rheoliadau drych neu wrth ganiatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol ddeddfu ar ein rhan ar gyfer cynlluniau ledled y DU. Ein rhagosodiad fydd deddfu yn y Senedd pryd bynnag y bo modd.
Mae Rhan 3 hefyd yn rhoi'r gallu i Lywodraeth Cymru gyflwyno taliadau am eitemau plastig untro. Bydd hyn yn helpu i gyflawni ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddiddymu'r defnydd o blastigau untro sy'n aml yn cael eu taflu fel sbwriel. Mae cymal 69, 67 yn flaenorol, yn caniatáu i Weinidogion Cymru ragnodi amodau mewn cysylltiad â gorfodi sbwriel. Bydd y diwygiad i'r ddarpariaeth hon, sydd wedi ei gynnwys yn y memorandwm cydsyniad atodol, yn ei gwneud yn ofynnol i ganllawiau gael eu gosod gerbron y Senedd. Mae cymryd y pwerau hyn ar yr un pryd â Lloegr yn lliniaru'r risg o gael safon is yng Nghymru.
Bydd pwerau i ddatblygu system ddigidol i dracio gwastraff ledled y DU yn galluogi tracio gwastraff ar draws ffiniau a chasglu data i fynd i'r afael â throseddau gwastraff. Bydd yn helpu i ddatblygu rheolaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig ar gyfer deunyddiau eraill. Mae'r pwerau i fynd i'r afael â throseddau gwastraff yn cynnwys cryfhau pwerau Cyfoeth Naturiol Cymru i atal gweithgarwch anghyfreithlon a gollwng gwastraff heb awdurdod.
Mae Rhan 4 yn egluro cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru dros lunio cynlluniau aer glân ar gyfer Cymru. Mae'r ddarpariaeth i Gymru yn unig yn y Bil yn ceisio gwella ein cyfundrefn rheoli mwg, gan gyfrannu at leihau allyriadau yn yr atmosffer.
Mae'r pwerau yn Rhan 5 yn diweddaru'r broses reoleiddio ar gyfer cynlluniau rheoli adnoddau dŵr. Bydd y cynlluniau hyn yn ein galluogi i barhau i gynllunio ar gyfer y dyfodol a rheoleiddio ansawdd ein dŵr yfed a'n cyrff dŵr. Mae'r pŵer cydredol plws o dan gymal 90, cymal 83 yn flaenorol, yn ymwneud ag ardaloedd basnau afonydd, gan gynnwys afonydd Hafren, Gwy a Dyfrdwy, sy'n drawsffiniol a lle mae angen gweithredu'n gyson â DEFRA er mwyn sicrhau dull cyffredin.
Mae angen cymal 143, 133 yn flaenorol, ac Atodlen 21 o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE. Mae rheoleiddio cemegau yn cynnwys cyfuniad o ddarpariaethau ledled y DU a domestig. Roedd gan Weinidogion Cymru bwerau o dan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 i ddiwygio'r rheoliadau hyn, sydd wedi eu colli o ganlyniad i ymadael â'r UE. Mae'r darpariaethau yn galluogi Gweinidogion i ddiweddaru cyfundrefn REACH y DU-GB, gan gynnwys adlewyrchu newidiadau yr UE i REACH os oes angen. Maen nhw hefyd yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol, pan fo'n briodol, ddeddfu ar ran Gweinidogion Cymru gyda'u caniatâd, gan ddarparu ar gyfer system reoleiddio unedig. Ein dull o ddeddfu yw sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru drwy ystyried y capasiti sydd gennym i gyflwyno ein deddfwriaeth a'n cyfleoedd ein hunain sydd ar gael yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU.
Rwyf i'n ystyried bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn y cymhwysedd deddfwriaethol, ac felly rwy'n argymell bod y Senedd yn rhoi cydsyniad. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, fel y dywedoch chi. Cyn i fi droi at y cynnig sydd o'n blaenau ni, mi hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ymateb i adroddiad y pwyllgor cyn y ddadl. Wedi dweud hynny, mi fydd yr Aelodau yn gweld bod diffyg eglurder yn dal i fod ynghylch sawl mater allweddol, ac mae gen i ofn nad yw'r ymateb yn symud pethau ymlaen mewn ffordd y bydden ni wedi gobeithio ei weld.
Fel pwyllgor, rŷm ni wedi bod yn glir mai'r ffordd fwyaf priodol i ddeddfu dros Gymru ar faterion amgylcheddol, wrth gwrs, yw trwy Fil a wneir gan Senedd Cymru. Rŷm ni'n deall bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dod â Bil o'r fath i'r Senedd, ond rŷm ni hefyd yn gwybod y gallai hynny fod rai blynyddoedd i ffwrdd. Felly, rŷm ni mewn sefyllfa nawr o orfod dewis rhwng Bil y Deyrnas Unedig neu'r posibilrwydd neu'r tebygolrwydd o oedi am ddwy, tair, efallai mwy o flynyddoedd tra'n bod ni'n aros am Fil Cymreig. Pa ryfedd felly y bydd rhai Aelodau o bosib yn teimlo mai cydsynio i'r darpariaethau ym Mil y Deyrnas Unedig yw'r unig ddewis go iawn sydd ganddyn nhw os ydyn nhw am weld polisïau amgylcheddol pwysig ar y llyfr statud?
Nawr, yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf fe ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol ei bod hi'n amharchus, ac mi wnaf i ddyfynnu, i gyhoeddi
'deddfwriaeth sy'n amlwg yn mynd i effeithio arnom ond lle nad oes gennym unrhyw ymgysylltiad priodol ar y ddeddfwriaeth honno, ar y materion hynny a allai effeithio arnom, a chaiff y ddeddfwriaeth honno ei chyflwyno i ni ar y funud olaf fwy neu lai, fel pe bai'n fait accompli.'
Nawr, roedd y Cwnsler Cyffredinol, wrth gwrs, yn siarad am y ffordd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn aml iawn yn trin Llywodraeth Cymru, ond mi allai'n hawdd fod wedi bod yn siarad am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r broses LCM yn y Senedd hon. Fel pwyllgor, rŷm ni'n pryderu bod patrwm yn dod i'r amlwg fan hyn: mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am ddeddfwriaeth, ond mae'n araf iawn i gyflwyno ei chynigion ei hun, os, yn wir, o gwbl.
Gadewch i ni ystyried mater llywodraethiant amgylcheddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol o'r posibilrwydd y bydd yna fylchau mewn llywodraethiant amgylcheddol yng Nghymru ers canlyniad y refferendwm yn 2016. Cyn hir, Cymru fydd yr unig genedl yn y Deyrnas Unedig heb ddeddfwriaeth ar waith ar gyfer system llywodraethiant amgylcheddol bwrpasol. Does dim Bil llywodraethiant amgylcheddol ym mlwyddyn gyntaf rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth yma, ac felly mae hynny bum mlynedd ar ôl y refferendwm.
Maes polisi arall yn y Bil sy'n destun yr LCM heddiw, wrth gwrs, yw aer glan, fel glywon ni gan y Gweinidog yn gynharach—pwnc sydd â chefnogaeth drawsbleidiol yn y Siambr hon. Nawr, fe gynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Bapur Gwyn ar y pwnc yma cyn yr etholiad, ond hyd yn oed eto does dim Bil ym mlwyddyn gyntaf eu rhaglen ddeddfwriaethol. Gweinidog, ble mae'r Biliau Cymreig pwysig yma? Fe wnaeth y pwyllgor argymell y dylech chi ymrwymo i gyflwyno'r Biliau yma. os nad yn y flwyddyn gyntaf, yna yn ail flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol. Rŷch chi wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw mewn egwyddor yn unig, felly does dim ymrwymiad i wneud hynny a dydyn ni felly dal ddim pellach ymlaen, mewn gwirionedd.
Nawr, mae'r pwyllgor yn poeni y gallai'r rheswm dros hyn fod yn ddiffyg capasiti oddi fewn i adran gyfreithiol Llywodraeth Cymru, ac rŷm ni yn deall, wrth gwrs, ac yn gwerthfawrogi'r angen i gydbwyso blaenoriaethau a rheoli adnoddau. Mae'n rhaid cydnabod bod hyn wedi bod yn anodd dros y blynyddoedd diwethaf, yn gyntaf yn sgil Brexit ac, wrth gwrs, yn fwy diweddar oherwydd COVID. Ond dydy hynny ddim yn newid y ffaith ein bod ni fel pwyllgor yn pryderu y gallai diffyg capasiti fod yn creu oedi cyn cyflwyno deddfwriaeth amgylcheddol allweddol. Ond mi fyddem ni hyd yn oed yn fwy pryderus pe bai Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i brinder staffio, yn dewis defnyddio Biliau San Steffan yn hytrach na Biliau Cymreig i ddeddfu mewn meysydd datganoledig.
Ar y mater hwn, mae'r Gweinidog yn dweud wrthym ni fod adnoddau yn cael eu hadolygu yn rheolaidd er mwyn lliniaru risgiau. 'Does dim byd i'w weld fan hyn', medden nhw, 'a does dim problemau gyda diffyg capasiti.' Ond mewn ymateb i argymhelliad diweddarach, mae'r Gweinidog yn dweud bod gwaith arall yn cael ei ohirio oherwydd cyfyngiadau adnoddau. Unwaith eto, dydyn ni ddim pellach ymlaen.
O ystyried y dewis sydd ger ein bron, rŷm ni fel pwyllgor wedi argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau ym Mil y Deyrnas Unedig. Ond—ac mae e'n 'ond' arwyddocaol a phwysig—rŷm ni wedi bod yn glir y dylai hynny fod yn amodol ar ymateb boddhaol gan Lywodraeth Cymru i argymhellion penodol yn ein hadroddiad ni fel pwyllgor o'r Senedd hon. Felly gadewch i mi amlinellu yn gryno ein meddylfryd ni y tu ôl i rai o'r argymhellion hynny.
Yn gyntaf, argymhellion 1 a 2, sy'n ymwneud â'r pwerau cydredol plws mewn sawl rhan o Fil y DU. Nawr, byddai'r pwerau hyn yn galluogi Ysgrifennydd Gwladol y DU i wneud rheoliadau amgylcheddol pwysig i Gymru ar ran Gweinidogion Cymru, er eu bod wedi eu cydsynio. Effaith hyn, wrth gwrs, fyddai osgoi'r broses o graffu ar y rheoliadau hynny gan y Senedd. Yn hytrach, Senedd y DU fyddai'n gwneud y gwaith craffu.
Rydym ni wedi bod yn glir yn ein hadroddiad nad ydym yn gwrthwynebu dull gweithredu ledled y DU o ran gwneud rheoliadau, pan fo hynny'n briodol, ond mae'n rhaid iddo fod yn union hynny. Mae'n rhaid iddo gynnwys holl ddeddfwrfeydd y DU, nid Senedd y DU yn unig. Nawr, rydym yn ceisio mynd i'r afael â hynny, ond yr hyn sydd gennym ni wrth gwrs yw bod y Gweinidog yn gwrthod argymhelliad 1. Ni fydd, neu efallai na all, sicrhau gwelliannau i'r Bil. Mae hi'n dweud wrthym yn hytrach na gweithdrefn ffurfiol y bydd y Senedd yn cael cyfle i fynegi barn, a hynny dim ond pan fo amser yn caniatáu. Wel, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell, ac ni fydd yn rhoi unrhyw sicrwydd i aelodau ein pwyllgor, nac yn wir Aelodau'r Senedd ehangach, ac ydw, rwy'n gwybod eich bod chi'n mynd i fy ngalw i drefn oherwydd bod amser yn brin.
Felly, edrychwch, mae hwn yn Fil sylweddol ac eang ei gwmpas, sy'n cwmpasu maes polisi datganoledig allweddol. Bydd yn effeithio ar ein holl etholwyr. Ond mae arnaf ofn ei bod yn dod yn amlwg bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r broses memorandwm cydsyniad deddfwriaethol fel rhyw fath o ddull o frocera cytundeb rhwng trafodaethau rhynglywodraethol, yn hytrach nag ymwneud â chytundebau rhwng y deddfwrfeydd. Ni all fod yn iawn y bydd yr Aelod Seneddol dros Orkney a Shetland yn gallu craffu ar bolisi amgylcheddol ar gyfer Cymru, sydd i fod wedi ei ddatganoli, pan na all Aelodau Senedd dros Fynwy, Ceredigion ac Aberconwy wneud hynny.
Mae gan Gadeiryddion ddyletswydd a hawl i sicrhau bod yr Aelodau yn gwbl ymwybodol o'r casgliadau yn eu hadroddiadau, ond gofynnaf i bob Cadeirydd sicrhau eu bod yn gwneud hynny mewn modd amserol.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Fe wnaf fy ngorau, Dirprwy Lywydd. A gaf i ragflaenu fy sylwadau drwy ddiolch i aelodau fy mhwyllgor am eu gwaith craffu, a'n tîm clercio hefyd, a nodi, cyn fy sylwadau, pan fydd ein pwyllgor yn gwneud ei waith yn dda y bydd weithiau yn herio'r Llywodraeth hefyd?
Fel y dywedodd y Gweinidog wrthym, mae gan y Bil hanes hir, a chyhoeddodd ein pwyllgor blaenorol ddau adroddiad ar y Bil yn y pumed Senedd. Fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm hwn a'r memorandwm atodol ddydd Iau diwethaf. Fe wnaethom ni bedwar argymhelliad, ar ôl clywed tystiolaeth gan y Gweinidog, ac rwyf i'n wirioneddol ddiolchgar iddi am ei hymgysylltiad agored â ni ym mis Gorffennaf, ac rydym ni wedi bod yn cael gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog ym mis Awst.
Nawr, yng ngoleuni hanes hir y Bil hwn—Bil y DU—rydym ni wedi ein siomi oherwydd y diffyg gwybodaeth sydd yn y memorandwm. Ar ddechrau'r chweched Senedd, gydag Aelodau newydd wedi eu hethol, dylai'r memorandwm cyntaf fod wedi gwneud gwaith gwell o gyflwyno dadleuon o blaid rhoi cydsyniad gan y Senedd. Felly, yn ein barn ni, mae'n destun gofid nad yw Llywodraeth Cymru yn teimlo ei bod hi mewn sefyllfa i ddilyn yr egwyddor a amlinellwyd yn ei memorandwm cyntaf, y dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Senedd. Fe wnaf i ymhelaethu ar hyn yn fyr.
Er ei fod yn faes datganoledig, y maes polisi hwn, cyflwynodd y Gweinidog nifer o resymau dros gyfiawnhau'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn deddfu ar bolisi amgylcheddol yng Nghymru. Er bod y rhain yn cynnwys manteision cydlynu â'r DU, mae'n syndod bod y Gweinidog hefyd wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu,
Pe byddem ni dim ond yn defnyddio deddfwriaeth y Senedd, ni fyddem yn cyflawni popeth.
Nawr, er y gallai fod yn 'synhwyrol' ac yn 'fanteisiol', yng ngeiriau'r Gweinidog, i Lywodraeth Cymru gynnwys darpariaethau mewn Bil Llywodraeth y DU fel y nodir yn y memorandwm cyntaf, nid yw'n dilyn ei fod er budd gorau cyfrifoldeb y Senedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a deddfu dros Gymru. Tynnodd y Gweinidog sylw at y gwaith sylweddol sydd wedi ei wneud i sicrhau bod y Bil yn diogelu buddiannau Cymru yn llwyr ac yn adlewyrchu anghenion Cymru, ac rydym yn derbyn y pwynt hwnnw. Ond swyddogaeth y Senedd yw diogelu anghenion a buddiannau Cymru yn llwyr drwy ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig, yn hytrach na Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU.
Felly, mae awgrym y Gweinidog bod angen i Lywodraeth Cymru ddibynnu ar Lywodraeth y DU a Senedd y DU i gael ei rhaglen ddeddfwriaethol, felly yn eithaf anesmwythol. Mae'r safbwynt hwn yn atal gallu'r Senedd a'i Haelodau etholedig rhag llunio a dylanwadu'n uniongyrchol ar ddeddfwriaeth a fydd yn dod yn gyfraith yng Nghymru. At hynny, mae hefyd yn dibynnu ar fod â chysylltiadau rhynglywodraethol da, ac rydym ni wedi sôn am hyn y prynhawn yma, â Llywodraethau a Gweinidogion olynol y DU, ac nid oes sicrwydd o ganlyniad llwyddiannus yn sgil hynny.
Felly, fe wnaethom ni argymell y dylai Bil amgylcheddol Cymru yn y dyfodol fynd i'r afael â materion datganoledig sydd wedi eu cynnwys ym Mil Amgylchedd Llywodraeth y DU, yn dilyn ymgynghoriad priodol â rhanddeiliaid. Rwy'n croesawu ymateb y Gweinidog wrth dderbyn yr argymhelliad hwn, er mewn egwyddor, ac rydym yn edrych ymlaen at graffu ar Fil amgylchedd Cymru yn y dyfodol.
Hoffwn i sôn yn awr am ddefnyddio'r Bil i roi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau. Yn benodol, mae'r Bil yn cynnwys pwerau cydredol plws i wneud rheoliadau pan fyddai trefniadau trawsffiniol o fudd mewn cysylltiad â rhwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr, effeithlonrwydd adnoddau, cynlluniau ernes a deddfwriaeth cemegau, a adwaenir yn gyffredin ar lafar fel REACH. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod pwerau cydredol plws sydd wedi eu cynnwys yn y Bil yn cyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru ei hun, yn ein barn ni. Galwodd ein hail argymhelliad, felly, ar Lywodraeth Cymru i geisio gwelliant i'r Bil i ddileu'r pwerau hyn. Felly, mae'n destun siom bod y Gweinidog wedi gwrthod hynny. Yn unol â'n trydydd argymhelliad, mae ymateb y Gweinidog yn egluro'r rhesymau pam nad ydyn nhw wedi eu dileu. Fodd bynnag, mae'n dal yn aneglur pam y mae'r broses o gynnwys pwerau cydredol plws yn y Bil yn parhau i fynd rhagddi yn erbyn, fel y mae'n ymddangos, ganllawiau Llywodraeth Cymru ei hun.
Gan droi yn awr at bwerau eraill a roddir i Weinidogion Cymru drwy'r Bil i wneud rheoliadau, ar y cyfan, maen nhw naill ai yn destun amserlen ychydig yn amwys ar gyfer eu defnyddio neu heb amserlen o gwbl yn gysylltiedig â nhw. Mae'n ymddangos bod dadleuon y Gweinidog dros gymryd y pwerau hyn wedi eu seilio ar gyflymder a diffyg adnoddau. Nid ydym o'r farn bod y rhain yn rhesymau dilys fel arfer. Rydym yn ystyried bod hyn yn lleihau swyddogaeth y Senedd fel deddfwrfa sy'n gyfrifol am bwerau ac yn goruchwylio pwerau sydd i'w dirprwyo i Weinidogion Cymru mewn meysydd datganoledig.
Nid oedd gennym ni amser i archwilio goblygiadau'r ail femorandwm yn llawn, ond gofynnodd ein pedwerydd argymhelliad sef ein hargymhelliad olaf, i'r Gweinidog gadarnhau bod darpariaethau ychwanegol y mae angen cydsyniad arnyn nhw ac nad oedden nhw wedi eu nodi yn yr ail femorandwm. Rydym yn nodi ei hymateb ar y pwyntiau hynny ac yn diolch iddi am hynny.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw'r Senedd at fater pwysig. Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod y rhan fwyaf o'r meysydd a gwmpesir yn y Bil bellach yn ddarostyngedig i ddarpariaethau yn y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y DU a'r UE. Mae ansicrwydd Llywodraeth Cymru ynghylch gofynion y cytundeb masnach a chydweithredu—rwyf i bron â gorffen, Dirprwy Lywydd—ynghyd â'r diffyg eglurder ynghylch sut a phryd y bydd pwerau a ddarperir gan y Bil yn cael eu harfer, yn golygu nad yw'r dull Llywodraeth Cymru o gyflawni ei rhwymedigaethau yn glir. Mae hyn yn cynnwys i ba raddau y mae'n bwriadu dibynnu ar fesurau ledled y DU a allai gyflwyno polisi gwahanol neu ymwahanu oddi wrth yr UE.
Po fwyaf yw'r ddibyniaeth ar ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU i weithredu rhwymedigaethau'r DU-UE yng Nghymru, yr anoddaf bydd hi—gallwch chi weld y thema—i'r Senedd graffu'n effeithiol ar gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru â'r rhwymedigaethau hyn. Mae'n effeithio ar ein gallu i graffu i weld a yw Llywodraeth Cymru yn gweithredu er budd gorau Cymru. Mae'n ddigon posibl mai thema yw hon, Dirprwy Lywydd, y byddwn yn dychwelyd ati yn y dyfodol, ond rwy'n wirioneddol ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hymgysylltiad â ni ac i'r Aelodau am eu gwaith craffu ar hyn, gan fod rhai materion pwysig o fewn hyn.
Gweinidog, mae Bil Amgylchedd Llywodraeth y DU yn sicr yn ceisio mynd i'r afael â'r ddwy her o newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, a hynny i gyd wrth geisio diogelu a gwella'r amgylchedd naturiol a'i rywogaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Drwy sefydlu'r swyddfa diogelu'r amgylchedd, a fydd â swyddogaethau craffu, cynghori a gorfodi mewn cysylltiad â diogelu'r amgylchedd a'r amgylchedd naturiol, sy'n cwmpasu materion a gedwir yn ôl ledled Lloegr a'r DU gyfan, mae Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn ceisio pennu'r meincnod ar gyfer rhagoriaeth mewn rheoleiddio amgylcheddol.
I'r gwrthwyneb, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gyson wedi gohirio gosod trefniadau hirdymor ar gyfer llywodraethu amgylcheddol, gan wastraffu'r cyfle hwn i Gymru fod yn arweinydd byd-eang mewn amddiffyniadau gwyrdd. Yn ystod y pumed Senedd, fe wnes i herio dro ar ôl tro Weinidog yr amgylchedd ar y pryd i gyflwyno cynlluniau sylweddol. Ac eto, dyma ni, yn y chweched Senedd bellach, ac mae'r amserlen ar gyfer sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol olynol i Gymru yn dal i fod yn aneglur iawn. Felly, gyda'r asesydd dros dro ar gyfer diogelu'r amgylchedd i Gymru yn ei swydd bellach, mae'r swyddogaeth hon yn wahanol iawn i'r swyddogaeth o oruchwylio a gorfodi cyfraith amgylcheddol yn ffurfiol. Er gwaethaf galwadau gan y sector amgylcheddol a'r pwyllgor newid hinsawdd blaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â blaenoriaethu Bil llywodraethu amgylcheddol y Senedd ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen ddeddfwriaethol hon. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ymrwymiad pendant y bydd Bil llywodraethu amgylcheddol y Senedd yn cael ei gyflwyno ar ddechrau ail flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol? A wnewch chi hefyd gadarnhau pa waith sydd ar y gweill ar hyn o bryd i ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol mor fanwl?
Mae'r Bil hwn hefyd yn gwneud llawer i atgyfnerthu ein rhyfel ar wastraff. Mae Cymalau 49 a 50 ac Atodlenni 4 a 5 yn diwygio cynlluniau cyfrifoldeb cynhyrchwyr gyda'r nod o wneud cynhyrchwyr yn fwy cyfrifol am gost net lawn rheoli eu cynhyrchion ar ddiwedd eu hoes. Mae cymal 52 ac Atodlen 9 yn rhoi taliadau ar eitemau plastig untro a gyflenwir mewn cysylltiad â nwyddau neu wasanaethau i annog y trosglwyddo yn ôl i ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio. Nawr, er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddeddfu i wahardd defnyddio plastigau untro sydd fwyaf cyffredin yn cael eu taflu, mae'r amserlenni cyflawni ar gyfer cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig ar gyfer deunyddiau pecynnu a chynllun dychwelyd ernes eisoes wedi eu gwthio yn ôl i 2023 a diwedd 2024 yn y drefn honno. Felly, Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau i'r Senedd pryd y bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i wneud penderfyniad pendant ar y dewis a ffefrir ganddi o ran codi tâl ar eitemau untro? A wnewch chi hefyd gadarnhau pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cynnal gyda Llywodraeth y DU i gytuno ar ffordd ymlaen a fyddai'n galluogi gwaharddiad ar blastigau untro sy'n cyflawni uchelgeisiau'r cyhoedd, fel cynnwys weips gwlyb a gwellt at ddefnydd anfeddygol?
Nawr, gan y bydd y Bil hwn yn dileu'r gofyniad i'r strategaeth ansawdd aer genedlaethol gwmpasu Prydain Fawr i gyd, mae'n destun siom mawr nad ystyriodd Llywodraeth Cymru flaenoriaethu cyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru yn ystod blwyddyn gyntaf ei rhaglen ddeddfwriaethol. Rydym ni wedi cael addewidion droeon ynghylch hyn mewn tymhorau blaenorol, felly mae'n destun siom mawr. Nawr, fel y dywedais i o'r blaen, mae'r £3.4 miliwn o gyllid refeniw a'r £17 miliwn o gyllid cyfalaf a ddyrannwyd ar gyfer camau gweithredu ansawdd aer yn 2021-22 hefyd yn llai nag oedden nhw yn y flwyddyn flaenorol. Felly, pa gamau, unwaith eto, Gweinidog, sy'n cael eu cymryd i ddiogelu rhag y duedd hon wrth symud ymlaen?
O ran targedau bioamrywiaeth, er fy mod i'n nodi yn eich ymateb i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith eich bod yn derbyn yr angen hwnnw mewn egwyddor, mae deall eich bod yn gohirio'r gwaith hwn tan ar ôl COP15 ym mis Mai 2022 yn destun pryder mawr. Pa drafodaethau rhanddeiliaid ydych chi eisoes wedi eu cynnal, ac a wnewch chi ymrwymo i sefydlu tasglu i fwrw ymlaen â'r mater hwn o fewn amserlen sy'n fwy addas i'r argyfwng natur?
Yn olaf, wrth droi at Ran 5, sy'n gwneud darpariaeth newydd mewn cysylltiad ag ansawdd dŵr, rheoleiddio cwmnïau dŵr a charthffosiaeth, a wnewch chi ymrwymo i ymgynghori â rhanddeiliaid cyn gwneud rheoliadau gan ddefnyddio'r pwerau o dan Ran 5? Mae'r Bil amgylchedd hwn yn ymrwymiad beiddgar gan Lywodraeth Geidwadol uchelgeisiol, ac yn un sy'n ceisio glanhau aer y wlad, adfer cynefinoedd naturiol, cynyddu bioamrywiaeth a mynd i'r afael â gwastraff. Am y rheswm hwn heddiw, caiff y memorandwm hwn ein cefnogaeth lwyr. Diolch.
Byddai'n dda gen i pe bawn i'n rhannu'r brwdfrydedd yna, ond dydw i ddim. Rwy'n gwybod bod y tywydd yn ddiflas y tu allan ac nid wyf i eisiau dod â'r diflastod i'r lle hwn, ond beth bynnag, fel aelod o bwyllgorau amgylchedd Seneddau olynol, rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith craffu a fu ar y Bil ac mae wedi cael ei ohirio'n sylweddol. Nid wyf i'n dymuno ailadrodd y pwyntiau y mae Llyr a Huw Irranca wedi eu gwneud, ond rwyf i yn dymuno ailadrodd yr hyn y gwnaethom ei ysgrifennu yn ein hadroddiad ar y memorandwm—ac mae wedi ei ailadrodd eisoes:
'y ffordd fwyaf priodol o ddeddfu ar gyfer Gymru ar faterion amgylcheddol yw trwy Fil Senedd, a wnaed gan Senedd Cymru a'i aelodau etholedig, y mae Llywodraeth Cymru yn atebol iddyn nhw.'
Rwy'n credu'n gryf mai dyna'r llwybr y dylem ni ei ddilyn, a dyna'r hyn y cawsom ni ein hethol i'w wneud yma. Rwyf i, ar y llaw arall, yn gwerthfawrogi pa mor hwylus yw defnyddio'r Bil i wneud darpariaethau i Gymru, ond rwy'n edrych ymlaen at weld y Gweinidog yn cyflwyno polisi amgylcheddol a wnaed yng Nghymru, ac i wneud hynny yn hynod o fuan.
Wrth wneud hynny, byddwn i'n annog y Gweinidog i ystyried yr hyn y gellir ei wneud o ran diogelu a gwella carbon glas. Nid oes unrhyw sôn, neu mae ychydig iawn o sôn, neu rwyf i wedi ei fethu, am foroedd Cymru, ac eto maen nhw'n fwy na thraean yn fwy na thiroedd Cymru, ac maen nhw eisoes yn storio gwerth bron i 10 mlynedd o allyriadau carbon Cymru. Felly, maen nhw'n gwbl allweddol er mwyn i ni gyflawni ein huchelgeisiau o nodau newid hinsawdd llawn. Byddai strategaeth carbon glas yn dwyn ynghyd ein hecosystemau morol a'r angen i ddatgarboneiddio gweithgareddau a diwydiannau morol. Felly, lle ceir darpariaethau yn y Bil hwn, neu'r Bil pysgodfeydd, neu ddulliau anneddfwriaethol yn hynny o beth, fel ardaloedd morol gwarchodedig, rwyf i yn gobeithio gweld y Llywodraeth hon yn canolbwyntio o ddifri ar garbon glas wrth symud ymlaen.
Mae Cymru a'r Senedd hon wedi cyhoeddi argyfyngau hinsawdd a natur, ond mae'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i ategu'r brys a'r argyfyngau—mae'r llywodraethu amgylcheddol, targedau adfer natur, targedau aer glân—i gyd ar goll, Dirprwy Lywydd. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar y materion hyn, ac rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu mai'r Senedd hon yw'r corff priodol ac angenrheidiol i basio deddfwriaeth ar y materion hyn. Yn hytrach, fel yr ydym ni wedi ei glywed, rydym ni ynghlwm wrth Fil Amgylchedd y DU, sydd wedi bod yn destun cymaint o oedi. Mae'n golygu hefyd fod atebolrwydd ynghylch y penderfyniadau yn cael ei ddileu o'r Senedd hon ac oddi wrth bobl Cymru. A nawr bod Bil y DU yn agosáu at ei gamau olaf, mae amser yn brin. Mae bron wedi mynd yn rhy hwyr i Lywodraeth Cymru drafod gwelliannau.
Hoffwn i ychwanegu fy llais at y rhai sydd eisoes yn gofyn y cwestiwn ynghylch pryd y bydd Bil llywodraethu amgylcheddol y Senedd yn cael ei gyflwyno. Ar hyn o bryd, mae gennym ni asesydd dros dro sy'n goruchwylio'r drefn lywodraethu. Nid yw'n ddigon i lenwi'r bylchau mewn llywodraethu sydd wedi eu creu ers i ni adael yr UE. Ar ôl i Fil y DU gael ei basio, y Bil hwn y mae Llywodraeth Cymru eisiau i ni lynu wrtho, Cymru fydd yr unig wlad yn y DU heb ddeddfwriaeth ar gyfer system llywodraethu amgylcheddol benodol.
O ran ansawdd aer, rwyf i wedi egluro fy rhwystredigaethau ar sawl achlysur ynghylch y ffaith nad yw Deddf aer glân wedi ei blaenoriaethu ar gyfer blwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon. Mae llygredd yn tagu ein ffyrdd, mae'n tagu ysgyfaint ein plant. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod ansawdd aer yn cyfrannu at 6 y cant o farwolaethau yng Nghymru. Mae angen amserlen gadarn arnom ni ar gyfer ein deddfwriaeth ein hunain, ac unwaith eto, mae angen i ni fod ar frys. Byddwn i'n galw ar y Gweinidog i ymrwymo i gyflwyno Bil aer glân yn 2022.
O ran targedau natur a bioamrywiaeth, pasiodd y Senedd hon gynnig nodedig, Dirprwy Lywydd, rai misoedd yn ôl pan wnaethom ni gyhoeddi argyfwng natur, ac rydym yn cydnabod y gellir mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth ac y mae'n rhaid i ni wneud, a hynny yn fater o flaenoriaeth. Cyfeiriwyd eisoes at y ffaith bod y Gweinidog wedi dweud ei bod yn ystyried cyflwyno targedau bioamrywiaeth, ond mae hynny'n llai na'r hyn y mae'r Senedd wedi galw amdano. Ni yng Nghymru yw un o'r gwledydd y mae ei natur wedi ei dirywio fwyaf yn y byd. Ni allwn aros am amser cyfleus i weithredu. Byddwn i'n cwestiynu hefyd pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi ceisio diwygio Bil y DU i roi pwerau i Weinidogion Cymru sy'n ymwneud â nwyddau coedwigaeth, ac mae hyn wedi ei godi gan y pwyllgor newid hinsawdd. Mae cyfle arall, mae arnaf ofn, wedi ei golli.
Ond, yn bennaf, Dirprwy Lywydd, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn pryderu'n fawr ynghylch y defnydd o bwerau cydredol plws yn y memorandwm hwn. Ni ddylid gwthio Gweinidogion Cymru i'r cyrion; ni ddylid mygu llais y Senedd hon. Rydym ni'n credu y byddai pasio memorandwm o'r math hwn yn gosod cynsail a fyddai'n peri pryder, yn enwedig ar adeg pan fo San Steffan yn benderfynol o amharu ar bwerau'r Senedd hon. Ni fyddwn ni yn pleidleisio o blaid y memorandwm hwn heddiw, nac yn wir o blaid unrhyw femorandwm o'r fath.
Clywais fod y dorf wedi codi i gymeradwyo'r Prif Weinidog yn Brighton ddoe. Yn amlwg, nid oeddwn i yno i weld hyn fy hun, ond dywedodd hyn—disgrifiodd bwysigrwydd cadw pŵer er mwyn gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Ac eto, heddiw, mae gennym ni Lywodraeth Cymru yn ildio grym i'r Blaid Geidwadol yn San Steffan. Dyma a ddywedodd y Prif Weinidog:
'Mae popeth y mae Llafur wedi ei gyflawni yng Nghymru... wedi ei gyflawni yn nannedd un o'r llywodraethau mwyaf ofnadwy y DU a welsom erioed. Yn ddi-glem i'w chraidd ac yn elyniaethus yn awtomatig tuag at unrhyw un nad yw'n rhannu ei reddfau adweithiol angerddol gartref neu dramor.'
Felly, rydych chi wedi ei glywed gan ein Prif Weinidog—ofnadwy, di-glem, gelyniaethus, adweithiol—ac eto, heddiw, mae'n ddigon da, yng ngolwg Llywodraeth Cymru, i basio deddfwriaeth mewn maes hollbwysig er lles pobl Cymru heddiw ac yn y dyfodol. Pwerau dros ein hamgylchedd, maes datganoledig am dros 20 mlynedd, wedi eu trosglwyddo yn ôl i Lywodraeth ofnadwy, ddi-glem, elyniaethus ac adweithiol Boris Johnson.
Ar fater o egwyddor sylfaenol, Dirprwy Lywydd—ar egwyddor sylfaenol gyfansoddiadol—Senedd Cymru a ddylai deddfu mewn meysydd datganoledig. Mae mor syml â hynny. Mae meysydd fel yr argyfwng hinsawdd yn llawer rhy bwysig eu gadael i Lywodraeth Boris Johnson. Roedd e'n anffodus iawn, fel mae Huw Irranca-Davies wedi'i ddweud, cyn lleied o wybodaeth oedd yn y memoranda am pam ddylai hyn ddigwydd. Mae angen egwyddorion pendant, clir a chyson cyn inni ganiatáu memoranda fel hyn. Dyw diffyg amser a dyw diffyg capasiti ddim yn ddigon da. Bydd y cydsyniad yma yn golygu bod y Bil yn uniaith Saesneg, nad yw'r Bil yn hygyrch i bobl Cymru, a'i fod e'n cyfyngu ar ein pŵer ni i ddeddfu yn y maes yma yn y dyfodol—rhoi pŵer i ffwrdd, a Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny. Rwy'n gweld—a dŷn ni wedi clywed heddiw y Gweinidog yn dweud—eu bod nhw wedi gwneud llawer o waith i sicrhau buddiannau Cymru yn y Bil, ond fel dywedodd Huw Irranca-Davies, nid rôl Llywodraeth Cymru yw hynny, ein rôl ni—ein rôl ni yn Senedd Cymru—yw craffu a chynnig gwelliannau ar Filiau sy'n ymwneud â meysydd datganoledig. Rôl Llywodraeth Cymru, Dirprwy Lywydd, yw drafftio Biliau ar yr amgylchedd—Deddf aer glân, Deddf bioamrywiaeth, Deddf llywodraethiant amgylcheddol. Pam, ar ôl degawd o gael pwerau deddfu llawn, yr ydym yn gofyn i Lywodraeth sydd â record mor wael yn amgylcheddol i wneud hyn ar ein rhan?
Dim ond yn 2015, ysgrifennodd Boris Johnson yn The Daily Telegraph—ac fe'i talwyd yn hael amdano—nad yw tywydd cynnes yn y gaeaf yn ddim byd i wneud â chynhesu byd-eang. Ac rydym ni hefyd yn cofio, onid ydym, ei ddyfyniad am groen pwdin reis a thyrbinau gwynt?
Rŷn ni fan hyn yn Aelodau o Senedd Cymru mewn cyfnod ble mae Llywodraeth San Steffan yn tanseilio ein setliad datganoledig—mae hynny yn ffaith. Gwrandewch ar y rhifau: yn y pedwerydd Senedd, wyth Bil San Steffan angen cydsyniad; nawr, yn y chweched Senedd, yn barod 13 o Filiau. Mae'n digwydd. Dim cyd-ddigwyddiad yw hyn, ond cynllun pendant gan Lywodraeth Boris Johnson i dynnu y pwerau i ffwrdd ohonom ni yn dawel bach ond yn gyson ar hyd yr amser.
Rwy'n troi at aelodau meinciau cefn Llafur ac yn eich annog i bleidleisio yn erbyn hyn. Rhybuddiodd Alun Davies ni eto yr wythnos diwethaf fod datganoli wedi marw—mae'r broses ar ben, mae angen i ni frwydro drosto. Dywedodd y Prif Weinidog ddoe hefyd,
'ni all gwasgu consesiynau ymylol ac amharod oddi wrth y cyfoethog, y pwerus a'r breintiedig fod yn derfyn ar uchelgais y blaid wych hon.'
Wel, a gaf i ychwanegu at yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog? 'Ni all ildio grym a gwasgu consesiynau o San Steffan fod yn derfyn ar uchelgais y wlad wych hon. Dyna pam na allai'r Gweinidog gael consesiynau; oherwydd nid oes angen i mi eu rhoi i ni.' Mae ein hamgylchedd yn fregus; mae angen ei feithrin, mae angen ei warchod. Disgrifiodd yr Ysgrifennydd ar y pryd, Alun Michael, ddatganoli hefyd fel blodyn bregus. Mae angen ei feithrin, mae angen ei ddatblygu nid ei docio a'i dorri. Mae datganoli yng Nghymru, unwaith eto, yn wynebu ansicrwydd; mae angen ei feithrin, nid oes angen ei docio.
Rwyf am orffen gyda hyn: yn hytrach na chydsynio i'r cynnig hwn, mae'n rhaid i ni sefyll dros ein Senedd, ei phwerau a thros Gymru—Senedd sy'n cyflwyno deddfwriaeth amgylcheddol radical, feddylgar y bu craffu arni. Dyna ein swyddogaeth ni, dyna ein dyletswydd ni, dyna ein braint ni fel Aelodau'r Senedd. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i ymateb.
Diolch, Dirprwy Lywydd. I ddechrau, hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am eu sylwadau a'u harsylwadau eang eu cwmpas ar y memorandwm heddiw. Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, mae'r Bil hwn yn caniatáu i ni ddatblygu ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol, lle mae amcanion amgylcheddol yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol newydd.
I fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau sydd wedi eu codi heddiw, ac yn arbennig yr y gwnaeth Llyr ei godi yn rhinwedd ei swydd yn Gadeirydd y pwyllgor, roeddwn i'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am roi'r cyfle i mi ddod i roi tystiolaeth yn bersonol ac am y gyfres o gwestiynau a ofynnwyd. Fe wnaethom weithio'n galed iawn i gael yr ymateb yn ôl i'r pwyllgor cyn gynted â phosibl. O ran argymhelliad 2 yn benodol, a nodwyd ganddo, i fod yn glir iawn, rydym yn sefydlu'r ymrwymiad i ysgrifennu at y pwyllgor polisi perthnasol i roi gwybod iddo am ein bwriad i gydsynio, ac rydym yn gwbl benderfynol o sicrhau y bydd y Senedd yn cael mynegi barn cyn i'r Gweinidog roi cydsyniad. Felly, nid oes unrhyw fwriad yma i ddileu gallu'r Senedd i graffu ar ddeddfwriaeth. Rwy'n derbyn yn llwyr fod gan y Senedd y swyddogaeth honno, yn gywir ac yn briodol, a'i bod yn cyflawni'r swyddogaeth honno yn dda a'n bod ni eisiau iddi wneud hynny, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth y gorau y gall fod i bobl Cymru. Rwy'n credu bod nifer o bobl wedi gwneud y pwynt hwnnw, ac roeddwn i'n awyddus i fynegi fy nghytundeb chwyrn ag ef.
Ac yna dim ond i ddweud, wrth gwrs, ein bod ni hefyd yn cytuno, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, y dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Senedd wrth gwrs. Ond, weithiau, mae'n synhwyrol ac yn fanteisiol ceisio darpariaethau mewn Bil y DU gyda chydsyniad y Senedd, a dyna pam yr ydym ni yma heddiw. Yn benodol, rydym ni eisiau pwysleisio'r angen am gydlynu ledled y DU ar gyfer rhai o'r cynlluniau sy'n cael eu cynnwys yn rhan o'r Bil hwn, yn enwedig y cynllun cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig a'r cynllun dychwelyd ernes. Fel y bydd yr Aelodau yn ei wybod, mae gennym ni ffin hydraidd iawn yng Nghymru, ac mae llawer iawn o bobl yn croesi'r ffin honno yn ddyddiol, i'r ddau gyfeiriad, sawl gwaith. Rydym ni eisiau iddyn nhw allu dwyn i gyfrif y cynhyrchwyr sy'n cynhyrchu eu nwyddau yng Nghymru ac yn eu gwerthu yn Lloegr ac sy'n cynhyrchu eu nwyddau yn Lloegr ac yn eu gwerthu yng Nghymru. Rydym ni hefyd eisiau i bobl allu dychwelyd eu poteli a brynwyd yng Nghymru yn Lloegr, ac i'r gwrthwyneb. Mae'n eithriadol o bwysig bod gennym ni y lefel honno o gydgysylltu er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu gwneud y peth iawn.
Bydd aelodau'r Senedd hon wedi fy nghlywed i'n dweud yn aml iawn mai platfform y Llywodraeth yw sicrhau mai gwneud y peth iawn i bob dinesydd yng Nghymru, o ran yr argyfyngau hinsawdd a natur, yw'r hyn yr ydym ni i fod i'w wneud, a'r hyn y mae'r cydgysylltu hwn yn ei ganiatáu yw i bobl wneud y peth iawn pan fyddan nhw'n byw yn agos at y ffin, ac mae hynny'n gyfran fawr iawn o boblogaeth Cymru. Felly, rwy'n credu bod hynny yn rheswm da iawn dros ddefnyddio Bil y DU yn yr achos hwn, i sicrhau bod cydgysylltu ar draws y darn.
O ran y pethau eraill yr oedd pobl yn bryderus iawn yn eu cylch, rwy'n derbyn y pryder. Rydym ni, wrth gwrs, wedi cymryd camau i ddileu'r defnydd cydredol o bwerau, lle bynnag y bo hynny yn bosibl, ac wrth gyflwyno deddfwriaeth Cymru. A gallaf sicrhau'r Aelodau fod gan y Llywodraeth bob bwriad i wneud hynny. Felly, o ystyried yr angen am gydgysylltu, o ystyried yr angen i sicrhau bod Cymru yn aros yn unol â'r arfer amgylcheddol gorau oll, ac o gofio'r angen i'r Senedd roi ei chydsyniad a'r craffu da iawn y mae'r ddau bwyllgor eisoes wedi ei wneud ar y Bil a'r cyfraniadau hynod ragorol a wnaeth eu Cadeiryddion heddiw, byddwn i'n argymell bod y Senedd yn cytuno ar y memorandwm yn yr achos hwn. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.