– Senedd Cymru am 5:55 pm ar 29 Medi 2021.
Rwy'n galw ar Llyr Gruffydd i gyflwyno'r ddadl fer yn ei enw e. Llyr Gruffydd i gychwyn, pan fydd y Siambr yn ymdawelu. Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser i fi gael cyflwyno'r ddadl fer yma y prynhawn yma ar y testun 'Cyhoeddi adroddiad Holden—Amser am dryloywder ar wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru'. Er gwybodaeth i'r Llywydd, dwi wedi cytuno i roi munud o fy amser i, yn gyntaf, Rhun ap Iorwerth, wedyn Mark Isherwood, wedyn Darren Millar, ac yn olaf Mabon ap Gwynfor.
Gwasanaethau iechyd meddwl yw un o'r heriau mwyaf i'n GIG, ac yn anffodus mae'n her gynyddol. Dyna pam y mae'n bwysig ein bod yn dysgu gwersi o brofiadau blaenorol a'n bod yn onest drwy gydnabod camgymeriadau a methiannau pan fyddant yn digwydd. Nodwyd bod gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn un rheswm pam fod angen gosod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig dros chwe blynedd yn ôl, gan y Gweinidog iechyd ar y pryd—sef Prif Weinidog Cymru erbyn hyn wrth gwrs. Roedd hwnnw'n ddatganiad clir ac yn gydnabyddiaeth o fethiannau a chamgymeriadau blaenorol, ac yn hynny o beth roedd y cam yn un i'w gymeradwyo, er efallai'n anochel, ond roedd yn sicr yn siomedig iawn. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni yn awr yw nad ydym, chwe blynedd yn ddiweddarach, yn gweld cynnydd yn y sector hwn. Yn lle hynny, rwy'n ofni ein bod yn gweld diwylliant o gelu a gwrthod derbyn cyfrifoldeb ar lefel uchaf y Llywodraeth a'r bwrdd iechyd. Ffocws y ddadl hon yw methiant y bwrdd iechyd hyd yma i ryddhau adroddiad Holden, ac mae hynny, yn fy marn i, yn symptom o broblem ehangach.
Cafodd yr adroddiad ei lunio yn ôl yn 2013, ar ôl i ddwsinau o weithwyr iechyd chwythu'r chwiban ar ymarfer gwael yn uned iechyd meddwl Hergest ym Mangor. Cafwyd 700 tudalen o dystiolaeth ddamniol ganddynt nad oedd cleifion iechyd meddwl yn cael y driniaeth yr oeddent ei hangen ac yn ei haeddu. Yn ogystal, roedd cleifion oedrannus agored i niwed â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu gosod ochr yn ochr â phobl a oedd yn gaeth i gyffuriau a phobl ag anghenion difrifol eraill, mewn ffordd gwbl amhriodol. Nid oedd staff yn gallu llenwi ffurflenni Datix—y ffurflenni mewnol ar gyfer adrodd am broblemau—oherwydd cyfyngiadau amser, felly roedd y problemau'n cael eu gadael i waethygu gan yr uwch-reolwyr. Roedd yn rysáit ar gyfer trychineb, ac wrth gwrs digwyddodd trychineb yn y pen draw wrth i gleifion gyflawni hunanladdiad o ganlyniad i risgiau crogi na ddylent fod wedi bod yno.
Byddech yn dychmygu y byddai adroddiad ar broblem o'r fath wedi gallu nodi atebion a chyfrifoldeb. Rwy'n gobeithio ei fod wedi gwneud hynny, ond wrth gwrs ni allaf fod yn siŵr am nad yw'r adroddiad erioed wedi gweld golau dydd. Hyd heddiw, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gwrthod rhyddhau'r adroddiad er gwaethaf ceisiadau, a galwadau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn fwy diweddar. Hyd y gwn i, nid oes unrhyw reolwr wedi'i ddisgyblu'n uniongyrchol, er y datgelwyd yr wythnos diwethaf fod dau reolwr wedi'u symud. Mae'r methiant hwn i fod yn atebol am unrhyw fethiannau wedi bod yn symptom o'r holl fater anffodus hwn. Ac yn hytrach na mynnu bod rheolwyr yn cymryd cyfrifoldeb, yr hyn a welsom, wrth gwrs, oedd chwythwyr chwiban yn cael eu gwneud yn fychod dihangol. Yn hollbwysig, mae'r un risgiau a ysgogodd adroddiad Holden wyth mlynedd yn ôl heb gael eu dileu o'r uned, ac mae canlyniadau i hyn—canlyniadau difrifol.
Yn gynharach eleni, cyflawnodd menyw o Gaernarfon hunanladdiad ar yr uned, a gallodd wneud hynny am fod yr un risgiau crogi a oedd yn bresennol ddegawd yn ôl heb gael eu dileu, er i adroddiad Holden dynnu sylw atynt. Mater mewnol i'r bwrdd iechyd fyddai hyn oni bai am ddau beth, a dyma pam y mae'n bwysig codi'r mater yn y ddadl hon yn y Senedd heno. Yn gyntaf, fel y soniais, roedd gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru eisoes yn destun pryder digonol chwe blynedd yn ôl i hynny gael ei nodi fel un o'r rhesymau pam y gosodwyd y bwrdd iechyd dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru. Felly, roedd y Llywodraeth yn ymwybodol fod yna broblemau. Yn fwy penodol, y llynedd, rhoddodd y Dirprwy Weinidog iechyd meddwl ar y pryd, y Gweinidog iechyd erbyn hyn, a fydd yn ymateb i'r ddadl hon heddiw, sicrwydd i mi yn y Siambr hon y byddai'n darllen yr adroddiad ac yn rhoi ei sylw i'r mater.
Ar 4 Tachwedd y llynedd, yn y Siambr yma, Weinidog, fe ddywedoch chi wrthyf i, mewn ymateb i gwestiwn gen i, eich bod chi'n gobeithio y byddwn i'n rhoi amser i chi i edrych ar yr adroddiad a gweld a deall ychydig mwy ar y cefndir. Dwi'n dyfynnu—eich geiriau chi oedd,
'mi wna i edrych ar adroddiad Holden a gweld yn union beth yw'r sefyllfa yn fan hyn.'
Dyna eich geiriau chi ar 4 Tachwedd. Ers yr addewid hwnnw, bron i flwyddyn yn ôl erbyn hyn, dydyn ni wedi cael dim byd ymhellach gan y Gweinidog a dim byd ymhellach gan Lywodraeth Cymru. Ond beth rydym ni yn ei wybod, wrth gwrs, yw bod marwolaethau yn dal i ddigwydd ar unedau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru a bod niferoedd y digwyddiadau difrifol a chleifion yn dod i niwed wedi cynyddu blwyddyn ar ôl blwyddyn. Dau ddeg pump o achosion yn y tair blynedd diwethaf yn unig. Pob un yn sgandal, pob un yn drasig, a nifer ohonyn nhw, dwi'n siwr, yn rhai y dylid fod wedi'u hosgoi, tra bod eich Llywodraeth chi yn eistedd ar eich dwylo ar y mater yma.
Felly, fe ddywedoch chi wrthym yn y Siambr y byddech yn darllen yr adroddiad, ac nid oes gennyf reswm dros amau a yw hynny wedi digwydd, ond yn awr, Weinidog, heno, mae angen i chi egluro i ni, yn gyntaf, pam nad yw adroddiad Holden wedi'i gyhoeddi o hyd; yn ail, pam nad yw argymhellion yr adroddiad wedi'u cyflawni; ac yn drydydd, mae angen i chi egluro pam y mae pobl yn dal i farw mewn unedau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru pan ddylai'r risgiau hynny fod wedi'u dileu.
Mae hon yn sgandal drasig y gellir bod wedi ei hosgoi. Mae'n sgandal am nad oes neb wedi cael ei ddwyn i gyfrif am y methiannau hyn. Ac nid methiannau staff rheng flaen wedi'u gorlethu yw'r rhain. Dyma fethiannau hirdymor uwch-reolwyr sydd wedi parhau i gael eu cyflogi gan y bwrdd iechyd, a rhai ohonynt â swyddi uchel iawn ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Roedd modd osgoi hyn am fod staff, teuluoedd a Holden wedi canu'r larwm sawl blwyddyn yn ôl. A'r drasiedi yw na weithredwyd, neu na weithredwyd yn ddigonol o leiaf, hyd yma, ac mae hynny'n golygu bod pobl sy'n agored i niwed yn dal i farw mewn unedau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Ac rwy'n defnyddio'r lluosog, oherwydd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gwelsom farwolaethau ar Hergest a hefyd yn uned Ablett yng ngogledd Cymru.
Araf iawn fu'r cynnydd o ran cael y ffeithiau allan yn agored, ac mae'n bryd i'r Llywodraeth hon ddangos rhywfaint o arweiniad, ac mae'n bryd i chi gyfaddef eich bai mewn perthynas â Holden. Gadewch inni gael yr adroddiad hwn wedi'i gyhoeddi fel y gallwn i gyd weld drosom ein hunain beth oedd angen ei wneud yn ôl bryd hynny, a'r hyn y mae angen ei wneud yn awr, fel y gallwn ddechrau darparu'r gwasanaethau iechyd meddwl y mae pobl gogledd Cymru yn eu haeddu.
Diolch i Llyr am ddod â'r mater yma o'n blaenau ni heddiw ac, yn wir, am ei waith ar y mater dros gyfnod o flynyddoedd. Gadewch i mi fod yn hollol blaen: mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn dal i wynebu problemau difrifol iawn efo'i wasanaethau iechyd meddwl. Mae uned Hergest yn dal i fod yng nghanol cwestiynau difrifol iawn am ddiogelwch cleifion. Ac, oedd, mi oedd hi'n rhy hwyr i ddod â'r bwrdd allan o fesurau arbennig. Er gwaethaf ymdrechion staff i chwythu'r chwiban, er mwyn trio arwain at welliannau, er gwaethaf ymgyrchoedd gan gleifion a theuluoedd, rydyn ni eto, yn yr wythnosau diwethaf, wedi bod yn sôn am golled bywyd yn Hergest, am gwestiynau cwbl sylfaenol am yr amgylchiadau. Mi wnaeth Robin Holden wrando ar staff oedd eisiau lleisio'u pryderon, ond allaf i ddim gorbwysleisio'r niwed sy'n cael ei wneud, yr amheuon sy'n cael eu cadarnhau o hyd, wrth i'r bwrdd fethu â chyhoeddi'r adroddiad a methu â chael eu gweld yn bod yn gwbl dryloyw.
Rydym yn sôn am faterion difrifol, dwfn sy'n effeithio ar ddiogelwch cleifion, gan arwain at golli bywydau yn drasig. Rydym hefyd yn sôn am effeithiau ar staff rheng flaen gweithgar, sy'n poeni'n enbyd am y gofal y gallant ei gynnig oherwydd problemau gyda thanfuddsoddi a thanariannu. Rhaid derbyn cyfrifoldeb o'r diwedd, a gweithredu ar hynny yn sgil y blynyddoedd o fethiannau mewn gofal iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Mae'r ddadl heddiw'n canolbwyntio ar sut y mae rhyddhau adroddiad Robin Holden yn sicr o fod yn gam hanfodol tuag at fynd i'r afael â phroblemau ehangach a mynd at achosion y problemau trasig hyn unwaith ac am byth.
Bedair blynedd ar ôl i mi fynegi pryderon wrth Lywodraeth Cymru am y tro cyntaf, rhybuddiodd adroddiad Holden yn 2013, a gomisiynwyd ar ôl marwolaethau cleifion a chwynion gan 42 o staff, fod uned seiciatrig Hergest yn Ysbyty Gwynedd mewn trafferthion difrifol. Deallaf fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gofyn i staff a gafodd eu beirniadu yn adroddiad Holden am roi bywydau mewn perygl i ysgrifennu'r papur at y bwrdd. Ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrthod datgelu'r adroddiad llawn, dyfarnodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth y dylai'r bwrdd iechyd ddatgelu copi llawn gyda dim ond enwau unigolion a oedd yn destun y cwynion wedi'u hepgor. Fodd bynnag, mae Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru yn dweud na allant roi unrhyw gamau ar waith oherwydd absenoldeb manylion a gwybodaeth benodol.
Rhaid inni beidio â chaniatáu i hyn gael ei ddiystyru fel hen hanes. Fel y clywsom, mae dau glaf yn unedau iechyd meddwl gogledd Cymru wedi crogi eu hunain ac un wedi ceisio crogi ei hun dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae teuluoedd yn nodi methiant diamod y fframwaith rheoleiddio i ymateb i Holden gan bob corff statudol. Mae'r cyfrifoldeb bellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau tryloywder ac i ddangos nad yw'n rhan o unrhyw ymgais i gelu ffeithiau.
Mae'n peri digalondid mawr i mi wybod bod gennym Lywodraeth Cymru yma sydd wedi methu ymyrryd hyd yma i sicrhau y gellir lledaenu goleuni haul diheintiol ar yr adroddiad—adroddiad Holden—yr ydym yn ei drafod. Gwyddom fod problemau dwfn yn ein gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, ac rwyf am ofyn i'r Gweinidog, ynghyd â'r corws o leisiau sydd eisoes wedi siarad, a'r siaradwyr sydd eto i siarad: faint yn rhagor o bobl sy'n mynd i orfod marw? Faint yn rhagor o bobl agored i niwed sy'n mynd i orfod dioddef niwed yn ddiangen? Faint yn rhagor o deuluoedd sy'n mynd i orfod colli eu hanwyliaid cyn y gwelwn y camau radical sy'n angenrheidiol er mwyn datrys y problemau sylfaenol sydd gennym o hyd yn ein gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru oddeutu chwe blynedd ar ôl iddynt gael eu nodi fel methiannau digonol i'r graddau fod y bwrdd iechyd wedi'i osod dan fesurau arbennig? Nid yw'n ddigon da. Ac rydym yn disgwyl i chi, fel Gweinidog iechyd newydd, gamu i'r adwy, i wneud pobl a oedd yn gyfrifol am y methiannau hyn yn atebol er mwyn inni gael rhywfaint o gyfiawnder i'r teuluoedd sydd wedi colli eu hanwyliaid a'r cleifion y gwnaed cam â hwy mewn modd mor drasig.
Diolch yn fawr iawn i ti, Llyr, am ddod â'r ddadl yma gerbron. Dwi am ddechrau fy nghyfraniad byr i drwy dalu teyrnged i etholwr i mi yn Nwyfor Meirionnydd, David Graves—mab y diweddar Jean Graves, a fu farw ym Mehefin 2016. Mae David wedi bod yn ddygn yn ei ymgais ddiflino dros gyfres o flynyddoedd wrth geisio sicrhau bod yr adroddiad yma'n cael ei ryddhau'n llawn. Cafodd Jean ei rhoi yn uned Hergest oherwydd ei salwch meddwl. Roedd ganddi ddementia cynnar. Yn anffodus, bu iddi hi hefyd ddioddef yn Hergest. Roedd ei hanghenion gofal hi fel dynes oedrannus efo afiechyd meddwl yn wahanol iawn i anghenion preswylwyr eraill, iau, rhai efo problemau cyffuriau. Yn anffodus, nid dim ond Jean a ddioddefodd yn Hergest, ac mae'r ffaith bod offer clymu—ligature points—yn dal i fod mewn unedau ble mae cleifion mewn perig o ddwyn terfyn ar eu bywydau eu hun yn dangos yn glir nad ydy'r gwersi wedi cael eu dysgu. A does dim syndod, oherwydd mae yna ymgyrch fwriadol wedi bod i gelu adroddiad Holden. Rhaid i rywun gymryd cyfrifoldeb am y methiannau erchyll a ddaeth i'r golwg yn dilyn Holden ac, yn wir, Ockenden. Ond, yn fwy na hynny, os ydym ni i gael hyder yn y gwasanaethau iechyd meddwl unwaith eto a dysgu'r gwersi'n llawn, yna mae'n rhaid gweld yr adroddiad yn cael ei ryddhau yn ei gyfanrwydd. Diolch.
Galwaf nawr ar y Gweinidog iechyd i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon ac i gofnodi fy mod yn cydnabod ymrwymiad bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i barhau i wella gwasanaethau iechyd meddwl.
Nawr, er fy mod i a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn herio'r bwrdd iechyd i gynyddu cyflymder newid mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl—ac mae'r ddwy ohonom wedi codi hyn gyda'r bwrdd iechyd ar sawl achlysur—rwy'n cydnabod yr effaith y bydd y lefel hon o graffu dros gynifer o flynyddoedd yn ei chael ar forâl staff. I ddechrau, hoffwn gofnodi fy mod yn cydnabod ymdrechion holl staff y bwrdd iechyd ac yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnânt.
Yn 2013, comisiynwyd Robin Holden gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i gynnal adolygiad o uned seiciatrig Hergest yn dilyn cwynion gan staff, ac rwy'n gyfarwydd â chynnwys yr adroddiad, a rhaid imi ddweud ei fod yn ddeunydd darllen anghyfforddus. Nawr, mater i'r bwrdd iechyd yw'r alwad am gyhoeddi'r fersiwn lawn heb ei golygu o adroddiad Holden, a bydd rhai'n ymwybodol fod achos ar y gweill ar hyn o bryd gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Felly, nid yw'n briodol i mi wneud sylwadau ar yr agwedd benodol hon yn y ddadl. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod yn disgwyl i'r bwrdd iechyd gyflawni ei rwymedigaethau statudol i bobl gogledd Cymru, o ran bod yn agored a thryloyw, a hefyd, yn bwysig, i'w staff, drwy ddiogelu cyfrinachedd pobl sy'n lleisio pryderon. Wrth gwrs, rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau hefyd ei fod yn cyflawni ei rwymedigaeth gyfreithiol mewn perthynas â diogelu data.
Mae bob amser yn bwysig nodi, yn dilyn yr adolygiad, fod adroddiad cryno wedi'i gyhoeddi gan y bwrdd iechyd yn 2015, a oedd yn cynnwys yr argymhellion a wnaed gan Robin Holden. Yn dilyn hynny, comisiynodd y cyfarwyddwr meddygol gweithredol a'r cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth waith i sicrhau bod argymhellion adroddiad Holden wedi'u gweithredu, ac fe'i cyflwynwyd ar gyfer craffu gweithredol ac i bwyllgor ansawdd, diogelwch a phrofiad y bwrdd iechyd ym mis Ionawr 2021. Nawr, rhoddodd hyn sicrwydd fod camau wedi'u cymryd ac yn parhau i fod ar waith yn erbyn pob un o argymhellion yr adroddiad, ac mae fy ffocws yn awr ar sicrhau bod y bwrdd iechyd yn parhau i weithredu ar yr argymhellion hynny.
Nawr, fel y gwyddom i gyd, roedd adroddiad Holden yn un o nifer o adolygiadau annibynnol a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd mewn ymateb i bryderon am ansawdd gofal iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac a arweiniodd at ei osod dan fesurau arbennig yn 2016. Nawr, ers hynny, mae llawer wedi digwydd, a gwnaeth y bwrdd iechyd gynnydd yn erbyn y cerrig milltir a nodir yn y fframwaith mesurau arbennig, gan gynnwys yn benodol gwella llywodraethu ac ansawdd, a gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl. Fodd bynnag, rwy'n glir fod llawer i'w wneud o hyd, a dyna pam y mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu. Rhaid inni gofio bod ymyrraeth wedi'i thargedu yn lefel uchel o ymyrraeth gyda gwaith craffu parhaus gan Lywodraeth Cymru sy'n cydnabod bod y bwrdd iechyd yn parhau i fod ar daith wella. Penodwyd prif weithredwr newydd i lywio'r bwrdd iechyd ar ei daith wella, ac mae'n amlwg fod llawer mwy o drosolwg a chraffu ar wasanaethau iechyd meddwl ar lefel y bwrdd erbyn hyn.
Mewn iechyd meddwl, mae rhan o'r sefydliad a welodd newid staff parhaus wedi'i sefydlogi bellach, rwy'n falch o ddweud, ac mae'r sefydlogrwydd hwn ar lefel reoli wedi dechrau cynyddu hyder yn y gwasanaeth ynglŷn â chyflawni. Mae gwelliannau i strwythurau sefydliadol a strwythurau llywodraethu wedi'u rhoi ar waith gyda ffordd systematig o nodi ac adrodd ar broblemau wrth iddynt ddigwydd. Mae'r un gwelliannau hefyd yn caniatáu i newidiadau gael eu gweithredu'n fwy effeithlon ac effeithiol. Mae gwaith arloesol a arferai gael ei weld mewn pocedi ynysig bellach yn cael ei ledaenu'n llawer ehangach, ac mae tystiolaeth glir o lawer mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau. Er enghraifft, mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a oedd gynt yn cael eu rhedeg fel tri gwasanaeth is-ranbarthol gwahanol a digyswllt wedi'u dwyn ynghyd, gan ei gwneud yn bosibl cynnal arferion gorau ar draws y gwasanaeth cyfan a chaniatáu gwasanaeth mwy integredig a chydlynol. Ac erbyn hyn mae llawer mwy o aliniad rhwng gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yn y bwrdd iechyd a'r rhai sydd ar waith i gefnogi plant a phobl ifanc.
Mae trosolwg strategol llawer cryfach hefyd ar y tair ardal ranbarthol, sydd mor bwysig mewn ardal ddaearyddol fawr fel Betsi Cadwaladr. Mae menter 'Mi FEDRAF' yn enghraifft dda arall o welliannau arloesol i wasanaethau iechyd meddwl, sy'n darparu mynediad hawdd at gymorth a chynnig dewis arall yn lle mynd i'r ysbyty. Mae'r bwrdd iechyd bellach wedi ail-lansio ei strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ar gyfer gogledd Cymru, sy'n arwain at weithio mewn partneriaeth llawer cryfach gyda phartneriaid awdurdodau lleol a thrydydd sector ar draws y rhanbarth—felly, yn hanfodol i gefnogi elfen ataliol ac ymyrraeth gynnar iechyd meddwl.
Yn unol â'r fframwaith ymyrraeth wedi'i thargedu a roddwyd i'r bwrdd iechyd ym mis Chwefror, mae'r bwrdd wedi cymeradwyo'r pedwar matrics aeddfedrwydd ac asesu llinell sylfaen ar gyfer iechyd meddwl yn ei gyfarfod bwrdd ar 20 Mai. Nawr, mae'r matricsau'n fanwl iawn, ac rwy'n bwriadu iddynt fod yn ddogfennau deinamig sy'n cael eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd, ac maent yn canolbwyntio ar feysydd i'w gwella. Y bwrdd iechyd sy'n berchen arnynt, ac fe'u datblygwyd gyda'r staff ar lawr gwlad sydd wedi dangos crebwyll gwirioneddol ynghylch yr anawsterau y maent yn eu hwynebu a'r her sydd o'u blaenau. Felly, ceir llawer o gyflawniadau allweddol, ac rwy'n hapus i ysgrifennu at Aelodau sy'n gofyn i mi nodi'r rheini.
Nawr, rwy'n falch o ddweud bod swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â'r bwrdd iechyd i adolygu cynnydd yn erbyn y matricsau, ac rwy'n croesawu'r tryloywder a'r agwedd agored a ddangosir gan y bwrdd iechyd fel rhan o'r broses hon. Mae'r bwrdd hefyd wedi bod yn realistig iawn, ac yn ei asesiad ei hun mae wedi cydnabod bod llawer o waith i'w wneud. Ac er fy mod yn cydnabod bod y sgoriau llinell sylfaen yn isel, maent yn adlewyrchu arfarniad gonest o'r sefyllfa y mae'r bwrdd iechyd ynddi. Mae'n bwysig nodi nad yw'r sgoriau hyn yn adlewyrchu'r maes cyfan, ond yn hytrach, y meysydd sy'n destun ymyrraeth wedi'i thargedu. Maent yn gosod llinell sylfaen gref y gallwn olrhain cynnydd yn ei herbyn drwy'r pedwar matrics aeddfedrwydd. Bydd adfer a thrawsnewid yn cymryd amser, ond rydym wedi'i gwneud yn glir yn gyson i'r bwrdd iechyd mai gallu dangos tystiolaeth o welliannau i wasanaethau yw'r allwedd i symud ymlaen ar draws y matricsau gyda golwg ar isgyfeirio pellach.
A'r wythnos diwethaf, cafwyd trafodaeth bord gron ar iechyd meddwl dan gadeiryddiaeth prif weithredwr GIG Cymru, a oedd hefyd yn cynnwys cadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd ac uwch-arweinwyr y gwasanaeth iechyd meddwl. Diben y ford gron, a oedd hefyd yn cynnwys swyddogion Archwilio Cymru, AGIC a Llywodraeth Cymru, oedd agor trafodaeth onest ac agored ar sefyllfa flaenorol y bwrdd iechyd lleol, asesu'r sefyllfa bresennol a gwneud yn siŵr fod y mecanweithiau cywir bellach ar waith i sicrhau gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Ac rwy'n dawel fy meddwl bod yna gytundeb eang, yn dilyn y cyfarfod hwnnw, ynglŷn â natur agored a thryloyw y bwrdd iechyd.
Ond rwyf hefyd am gydnabod y digwyddiadau trasig yn ddiweddar yn y bwrdd iechyd, a gallaf sicrhau'r Aelodau fod y digwyddiadau hyn wedi'u cofnodi'n ffurfiol fel rhan o bolisi cofnodi digwyddiadau cenedlaethol GIG Cymru, ac maent yn destun ymchwiliad. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd gynnal adolygiad amserol i sicrhau bod materion diogelwch uniongyrchol yn cael eu nodi a bod camau'n cael eu rhoi ar waith yn eu cylch, ac i leihau'r risg o niwed i gleifion. Dylai prosesau gefnogi diwylliant cyfiawn i sefydliadau a staff allu teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i nodi, adrodd a dysgu o ddigwyddiadau diogelwch cleifion.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro, ac yn bwysig, i gefnogi'r bwrdd iechyd. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd sy'n gysylltiedig â phroses ffurfiol yr ymyrraeth wedi'i thargedu rhwng swyddogion a'r bwrdd iechyd, yn ogystal â thrafodaethau rheolaidd ar berfformiad ac ansawdd a diogelwch. Mae'r rhain wedi'u gwreiddio mewn her gadarn, ond byddwn hefyd yn ystyried pa gymorth pellach y gallwn ei gynnig fel Llywodraeth. Mae'n amlwg fod yna wir awydd i gyflawni newid a sicrhau gwelliant, a'n dyletswydd i bobl gogledd Cymru yw cefnogi'r bwrdd iechyd i gyflawni ar eu rhan. Diolch, Lywydd.
Diolch yn fawr i'r Gweinidog, ac mae hynny'n dod â'n gwaith ni am y dydd heddiw i ben.