– Senedd Cymru am 4:59 pm ar 12 Hydref 2021.
Eitem 6 nesaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am sefyllfa COVID a'n cynlluniau i gadw Cymru'n ddiogel yn ystod hydref a gaeaf anodd o'n blaenau.
Nawr, cyn i mi roi fy niweddariad, hoffwn i gydnabod Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a diolch i'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles am ei diweddariad ar gynnydd ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn gynharach heddiw. Mae iechyd meddwl yn agenda mor bwysig, ac yn fwy felly ar hyn o bryd nag erioed yn ystod y 18 mis diwethaf. Yn yr hyn a fu'n adeg ddigynsail, rwy'n gwybod mor ddwfn y mae cynifer o bobl wedi teimlo effaith y pandemig. A hoffwn i hefyd estyn fy nghyfarchion i arweinydd y blaid Dorïaidd, a fy mharch tuag ato am sôn yn y ffordd y gwnaeth ef ynghylch ei sefyllfa. Rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i wella iechyd a lles yng Nghymru ac mae'n gwbl briodol i Gymru gael Dirprwy Weinidog iechyd a lles penodol yn ysgogi'r mentrau hyn.
Ddydd Gwener, cyhoeddodd y Prif Weinidog ganlyniad yr adolygiad 21 diwrnod, ac er ein bod ni'n parhau i fod ar lefel rhybudd 0, mae amddiffyniadau pwysig sydd wedi eu cynnal a'u cryfhau i'n cadw ni'n ddiogel. Mae'r coronafeirws yn dal i fod gyda ni; ers fy niweddariad diwethaf, roedd achosion wedi cynyddu. Mae gennym ni gyfraddau uchel iawn o'r coronafeirws yn ein cymunedau o hyd, ond rwy'n falch o ddweud bod y niferoedd wedi amrywio o amgylch tua 500 o achosion fesul 100,000 o bobl yn ystod yr wythnos diwethaf ac rydym ni wedi gweld tueddiadau amrywiol tebyg o ran derbyniadau i'r ysbyty, er bod niferoedd amlwg yn is na'r mis diwethaf. Felly, rydym ni o'r farn bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn sefydlog, er ein bod ni'n ymwybodol iawn y gallai hyn newid yn gyflym.
Mae'r GIG yn dal i fod dan bwysau dwys. Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal yn dal i wynebu pwysau adnoddau ac mae angen i bawb chwarae eu rhan o hyd a dilyn y canllawiau sydd ar waith i alluogi Cymru i aros ar agor o dan y lefel isaf o gyfyngiadau. Mae nifer uchel iawn o heintiau ymhlith pobl iau ac rydym ni'n monitro'r cysylltiadau rhwng ysgolion a throsglwyddo cymunedol. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gyhoeddi cyngor ac arweiniad cryfach i ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau. Pan fydd aelod o'r cartref yn profi'n bositif am COVID-19, yn ogystal â'r cyngor presennol i gael prawf PCR ar ddiwrnodau dau ac wyth, yn y dyfodol, dylen nhw gynnal profion llif unffordd dyddiol am saith diwrnod. Drwy ddod o hyd i achosion positif a'u cadw ar wahân, gallwn ni helpu i roi'r gorau i drosglwyddo ymhellach.
Rydym ni hefyd wedi dechrau'r rhaglen frechu ar gyfer pobl ifanc 12 i 15 oed. Mae ein rhaglen frechu anhygoel wedi helpu i wanhau'r cysylltiad rhwng haint a salwch difrifol. Brechu yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym ni yn erbyn y coronafeirws. Mae ein strategaeth frechu newydd a gafodd ei chyhoeddi heddiw yn nodi sut y bydd y rhaglen frechu yn parhau i gyflawni'n effeithiol ac yn gyflym yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar ddarparu brechlyn atgyfnerthu i'r bobl fwyaf agored i niwed, brechu plant a phobl ifanc a'n hegwyddor o adael neb ar ôl, gan gynnwys y bobl hynny sy'n feichiog. Dros yr haf, fe wnaethom ni weithio gyda byrddau iechyd i gynllunio'r cam nesaf hwn. Mae hyn wedi eu galluogi i symud yn gyflym pan gafodd cadarnhad o'r brechlyn atgyfnerthu a brechu plant ei gyhoeddi yn ddiweddar. Mae'r cyfnod newydd hwn yn rhoi gobaith i ni.
Yr wythnos hon, rydym yn cyflwyno'r pàs COVID. Gyda'r cynnydd yn y niferoedd y gwnaethom ei weld fis diwethaf, rydym ni'n parhau i edrych ar fesurau i liniaru lledaeniad COVID drwy ein cymunedau. Nid oes yr un ohonom ni eisiau gweld busnesau'n gorfod cau eto. Wrth gwrs, byddwn ni'n adolygu'r mesurau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gymesur.
Ddydd Gwener, cyhoeddwyd diweddariad o’n cynllun rheoli coronafeirws, sy'n nodi'r prif ffyrdd y byddwn yn cadw Cymru'n ddiogel. Yn y bôn, y rhain yw: brechu, profi, olrhain a diogelu, a pharhau â'r mesurau sylfaenol sy'n dal yn bwysig, pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i amddiffyn ein hunain. Dyw ein cyngor ar brofi ddim wedi newid. Rydyn ni’n dal i ofyn ichi gymryd prawf PCR os ydych yn datblygu symptomau COVID-19, ac i hunanynysu os yw eich canlyniad yn bositif. Rydyn ni’n cadw golwg fanwl ar y niferoedd digynsail o bobl sy'n dod i gael eu profi yng Nghymru. Os bydd y lefel hon yn parhau, efallai y bydd angen inni wneud dewisiadau. Ond ar gyfer y cyfnod adolygu hwn, mae ein cyngor yn aros yr un peth. Profi yw'r ffordd orau o dorri'r gadwyn drosglwyddo.
Mae'r mesurau sylfaenol rydyn ni i gyd wedi bod yn eu dilyn trwy gydol y pandemig yn dal yn bwysig: golchi eich dwylo, cadw eich pellter, a gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do. Mae'r rhain yn fesurau hanfodol a fydd yn ein cadw'n fwy diogel. Mae'r cynllun rheoli hefyd yn nodi dwy senario gynllunio ar gyfer y pandemig dros y gaeaf. Yn y senario gyntaf, COVID sefydlog, mae Cymru yn parhau i fod ar lefel rhybudd 0, gyda phob busnes yn gallu agor. Rŷn ni’n disgwyl mai dyma fydd y senario at y dyfodol, wrth inni ddod i arfer â byw gyda'r coronafeirws a symud allan o'r pandemig yn raddol. O dan y senario hon, os bydd cyfraddau achosion yn gostwng, byddai modd llacio’r mesurau. Ond, os byddan nhw’n codi, byddai modd cryfhau'r mesurau presennol.
Mae'r ail senario, COVID brys, wedi'i chynllunio i ddelio â newidiadau sydyn i'r sefyllfa, fyddai’n gallu achosi cynnydd ym mhwysau’r pandemig ac yn rhoi pwysau llethol ar ein gwasanaeth iechyd. O dan y senario yma, byddai'r system lefelau rhybudd a'r cyfyngiadau yn cael eu defnyddio mewn ffordd gymesur, ond fel dewis olaf, i ddiogelu iechyd pobl, rheoli lledaeniad heintiau a diogelu'r gwasanaeth iechyd. Dirprwy Lywydd, mae gwaith modelu yn awgrymu ei bod yn ymddangos ein bod wedi pasio'r uchafbwynt hwn, ond allwn ni ddim fforddio llaesu dwylo ar yr adeg dyngedfennol hon. Yn y misoedd nesaf bydd bygythiadau eraill o heintiau anadlol eraill, fel RSV a’r fliw tymhorol, yn dod. Rŷn ni’n parhau i ganolbwyntio ar frechu yn erbyn yr heintiau hyn hefyd.
Mae angen inni ofalu am ein hiechyd dros gyfnod y gaeaf hwn. Mae'n bwysig ein bod yn cymryd camau bach, sydd o fewn ein cyrraedd, i gadw’n iach ac osgoi mynd yn sâl. Mae hyn yn cynnwys cadw’n actif yn gorfforol, bwyta deiet cytbwys, cyfyngu ar faint o alcohol rŷn ni’n ei yfed, rhoi'r gorau i ysmygu, ac wrth gwrs gofalu am ein hiechyd meddwl. Byddwn yn gweithio gyda chanolfannau brechu, meddygfeydd a fferyllfeydd dros y gaeaf i godi ymwybyddiaeth o'r negeseuon hyn a chyfeirio pobl at y cymorth sydd ar gael ledled Cymru.
Hoffwn i orffen ar nodyn cadarnhaol. Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol i'r rheolau dros y tair wythnos nesaf, y tu hwnt i'r rhai yr oedden ni eisoes wedi'u cyhoeddi. Mae pawb wedi gweithio mor galed i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid, ac mae'n gweithio. Rŷn ni’n newid cwrs y pandemig hwn gyda'n gilydd. Dydyn ni ddim allan o'r pandemig hwn eto—gall y sefyllfa newid yn gyflym—ond gyda'n gilydd, gallwn barhau â'r mesurau sydd ar waith i'n cadw ar y trywydd iawn, ac i ddiogelu ein gwasanaeth iechyd a diogelu ein gilydd. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac a gaf i hefyd ategu sylwadau'r Gweinidog o ran iechyd meddwl a'r agenda bwysig yn hynny o beth hefyd?
Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn am eich cynllun gaeaf. Rwyf i wedi sôn droeon o'r blaen fod angen i ni gynnwys canolfannau diagnosis, a tybed a wnewch chi gadarnhau a fydd hynny'n cael ei gynnwys yn eich cynllun yr wythnos nesaf. Tybed pa ymdrechion yr ydych chi'n eu gwneud hefyd i sicrhau bod buddsoddi a rhannu adnoddau yn cael eu darparu i ofal sylfaenol i ryddhau pwysau ar feddygon teulu ac, yn y pen draw, gwasanaethau brys. Sut ydych chi hefyd yn mynd i ymdrin ag adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau ambiwlans?
Byddaf i'n codi un maes nad yw'n cael ei grybwyll yn eich datganiad, sy'n absennol o'r datganiad heddiw, a hynny yw'r ymateb i'r Siambr hon ynghylch adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd y DU ar ymdrin â phandemig COVID-19. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud bron yn gyfan gwbl ag ymateb Llywodraeth y DU, gan sôn am Gymru dim ond naw gwaith, ond mae'n dangos, yn fy marn i, frys yr angen am ymchwiliad sy'n benodol i Gymru. Drwy gydol y pandemig, mae'r Prif Weinidog wedi dweud dro ar ôl tro fod Cymru yn gwneud pethau'n wahanol. Fe wnaethoch chi eich hun sôn am yr un peth heddiw o ran yr union adroddiad yr wyf i newydd ei grybwyll. Felly, rwy'n gofyn: a wnewch chi sylw heddiw i'r Siambr am ymchwiliad sy'n benodol i Gymru yng nghyd-destun yr hyn yr wyf i newydd ei ddweud a'r adroddiad hwn heddiw?
Mae penderfyniadau eich Llywodraeth, da neu ddrwg, wedi penderfynu ar ganlyniad y pandemig. O ran fy nghwestiwn nesaf, fe wnaf i godi ychydig o bwyntiau yma. Cymru sydd â'r gyfradd marwolaethau uchaf ledled y DU o ran COVID-19 o ran y boblogaeth. Dywedodd y Prif Weinidog mewn gwirionedd nad oedd yn gweld unrhyw werth mewn profi cartrefi gofal bythefnos lawn ar ôl i Lywodraeth y DU ehangu ei threfn brofi yn sylweddol. Dywedodd y Gweinidog iechyd ar y pryd:
'Nid wyf i'n deall y rhesymeg o ran sut...mae'n achub mwy o fywydau ar gyfer y ffordd y mae'r polisi profi wedi ei newid yn Lloegr'.
Yna, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd gorchuddion wyneb yn ateb i bob problem, bron i ddeufis ar ôl i Lywodraeth y DU gyflwyno masgiau wyneb gorfodol. Ac yn olaf, cafodd y Gweinidog iechyd blaenorol y cyfrifoldeb o leihau heintiau a oedd wedi eu dal mewn ysbytai rhag mynd drwy ein hysbytai y gaeaf diwethaf, gan ddweud bod gwersi wedi eu dysgu drwyddi draw, ac yn y pen draw, daeth bron i chwarter y marwolaethau o COVID o heintiau a gafodd eu dal mewn ysbytai. Mae'r materion hyn yma o ganlyniad i Gymru yn gwneud pethau'n wahanol. Bydd pethau da, bydd pethau drwg o ran Cymru yn gwneud pethau'n wahanol. Ond o'r meysydd yr wyf i wedi sôn yn benodol amdanyn nhw, yr wyf i wedi eu codi, a ydych chi' n credu y bydden nhw'n cael sylw digonol mewn ymchwiliad cyhoeddus ledled y DU?
Hefyd, rwy'n credu bod angen i'ch Llywodraeth ddysgu gwersi o'r pandemig, fel yn wir y mae angen i bob Llywodraeth ledled y DU ei wneud, wrth gwrs. Ond cododd pwyllgor San Steffan bwynt perthnasol ond dilys iawn, yn fy marn i, i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n dyfynnu yma:
'Mae'r ffaith bod dull y DU yn adlewyrchu consensws rhwng cynghorwyr gwyddonol swyddogol a'r Llywodraeth yn dangos rhywfaint o feddwl fel grŵp a oedd yn bresennol ar y pryd a oedd yn golygu nad oeddem ni mor agored i ddulliau a gafodd eu defnyddio mewn mannau eraill fel y dylem ni fod wedi ei wneud.'
Felly, nid yn agored i farn arall. Rydym ni wedi clywed eto heddiw gennych chi a'r Prif Weinidog fod Cymru yn dilyn y wyddoniaeth. A oedd y Llywodraeth yn anghywir i fabwysiadu'r dull hwn? A'r cwestiwn olaf—[Torri ar draws.] Wel, mae hynny'n gwestiwn sy'n gwestiwn dilys i'w ofyn. Mae hwn yn gwestiwn wedi ei gyflwyno gan ymchwiliad traws—[Torri ar draws.] Rwy'n gallu gweld y Gweinidog yn chwerthin. Mae'n ddrwg gen i, ond roedd hwn yn gwestiwn a gafodd ei godi gan ymchwiliad o bob plaid yn San Steffan. Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn dilys i'w ofyn. Nid wyf i'n gwneud awgrym; rwy'n gofyn y cwestiwn hwnnw yr wyf i'n credu bod angen ymdrin ag ef heddiw.
Yn olaf, Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn hefyd am basbortau COVID. Mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol wedi cysylltu â mi, ac maen nhw wedi codi pwyntiau eithaf pwysig ynglŷn â phasys COVID. Mae pobl ag anableddau fel awtistiaeth mewn perygl o fod yn destun gwahaniaethu yw'r honiad y maen nhw'n ei wneud, oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cael eu brechu neu eu profi oherwydd newidiadau mewn ymddygiad neu anawsterau synhwyraidd, a gall hyn achosi, wrth gwrs, fel y byddwch chi'n ei ddeall, straen os yw pobl yn y grwpiau hynny yn credu eu bod yn cael eu heithrio. Mae trefn arferol, wrth gwrs, yn bwysig iawn i bobl yn arbennig yn y grŵp hwnnw hefyd. Felly, a fydd eithriadau i bobl nad ydyn nhw'n gallu cael eu brechu neu eu profi am resymau meddygol, fel sy'n wir yn yr Alban, ac os na fydd, sut ydych chi'n bwriadu darparu ar gyfer y grwpiau penodol hyn o bobl, Gweinidog?
Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi am y cwestiynau yna. O ran cynllun y gaeaf, mae arnaf i ofn y bydd yn rhaid i chi aros i hynny gael ei gyhoeddi. Felly, cynnig da yn ceisio cael rhywfaint o wybodaeth gennym ni, ond byddwn ni'n rhoi gwybod i chi pan fyddwn ni'n barod i gyhoeddi hynny. Dim ond ychydig o ddyddiau eto sydd gennych chi i aros. Mae pwysau sylweddol ar feddygon teulu ar hyn o bryd. Mae hynny yn sicr. Dyna pam mae gennym ni raglen enfawr o gyhoeddusrwydd ar waith ar hyn o bryd, i geisio rhoi gwybod i'r cyhoedd am ble y gallan nhw fynd i gael cymorth. Mae dewisiadau eraill yn lle meddygon teulu, a gwnaethoch chi glywed y Prif Weinidog y bore yma—[Torri ar draws.]
Dim ymyriadau—[Anghlywadwy.]
Gwnaethoch chi glywed y Prif Weinidog y bore yma yn sôn am y ffaith bod angen i ni, mewn gwirionedd, ddiddyfnu ein hunain oddi ar y dybiaeth hon y byddwch chi bob amser yn gweld meddyg teulu. Mae yna bobl sydd cystal, yr un mor gymwys, sy'n gallu ein cefnogi gyda'n hanghenion iechyd sy'n ddewisiadau eraill i feddygon teulu, ac mae angen i ni ddeall hynny.
Fe wnaethoch chi sôn yn fyr iawn am wasanaethau ambiwlans. Mae'n amhosibl i mi fynd drwy'r holl bwyntiau yr oeddech chi wedi eu gwneud, ond rydych chi'n ymwybodol bod gennym ni raglen waith gyfan yr ydym ni'n ei chynnal o ran ambiwlansys, gan geisio gwella'r sefyllfa o ran ambiwlansys. Rydym ni wedi gwario £25 miliwn yn ychwanegol o ran cyllid rheolaidd, mae nifer enfawr o weithwyr ambiwlans wedi eu recriwtio, mae canolfannau gofal sylfaenol brys wedi eu creu—felly, mae llawer o bethau'n mynd rhagddynt i geisio tynnu'r pwysau oddi ar ein gwasanaethau ambiwlans.
Gan droi at adroddiad y DU, ydych, rydych chi'n llygad eich lle, mae'n adroddiad sy'n ystyried y sefyllfa yn y DU, ond onid yw'n ddiddorol eich bod chi'n dod yn syth i mewn yma a cheisio taflu'r problemau atom ni yma yng Nghymru? Y ffaith yw eu bod yn amlinellu sefyllfa fel y ffaith y dylen nhw fod wedi mabwysiadu dull mwy gofalus. Wel, rwyf i'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn deall ein bod ni wedi defnyddio dull mwy gofalus nag sydd ganddyn nhw yn y DU. Y peth arall, wrth gwrs, yw ein bod ni yn cael trafodaethau yn ein Cabinet sy'n gadarn yn fy marn i ond sy'n barchus, ac nid ydym ni'n meddwl fel grŵp. Rhan o'r mater yn y DU yw bod cymaint o bwyslais wedi bod a chymaint o ganolbwyntio ar geisio cadw'r economi i fynd sydd weithiau wedi colli golwg ar bwysigrwydd iechyd y cyhoedd. Mae cael y cydbwysedd hwnnw yn iawn, yn fy marn i, wedi bod yn rhywbeth yr ydym ni wedi ceisio ei gael yn iawn yn y sefyllfa yng Nghymru.
Y peth arall y maen nhw'n sôn amdano yn yr adroddiad hwn yw'r ffaith bod popeth, mewn gwirionedd, yn rhy ganolog. Mae ond angen i chi edrych ar y system brofi, olrhain a diogelu; y symiau hurt o arian y gwnaethon nhw eu gwario ar y system honno yn Lloegr, ar gwmnïau preifat sydd wedi bod yn gwbl aneffeithiol pan fyddwch chi'n eu cymharu nhw â ni yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol i lywio system sydd wedi bod yn hynod effeithiol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn deall mewn gwirionedd nad ydym ni, fel Cymru, yn yr un sefyllfa. A byddwch chi'n ymwybodol hefyd fod y Prif Weinidog wedi gofyn i Michael Gove mewn llythyr nodi, 'Dyma'r pethau yr hoffem ni eich gweld chi'n ymdrin â nhw os bydd ymchwiliad cyhoeddus i'r DU—rydym ni eisiau i'r pethau hyn gael eu nodi.' Nawr, rydym ni'n dal i aros am ateb i'r llythyr hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn gwbl glir, os oes parch tuag at edrych ar y math o fanylion y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn dymuno eu gweld, ac y byddwn ni yn dymuno ei weld, yna rwy'n credu y byddwn ni'n gallu mynd gyda'r DU. Os nad yw hynny'n digwydd, yna wrth gwrs, nid ydym ni eisiau bod yn droednodyn yn ymchwiliad cyhoeddus y DU. Rwy'n credu bod hynny yn ddigon ar hynny. Diolch.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Mae heddiw'n ddiwrnod eithaf sobreiddiol, onid yw, gyda chyhoeddi'r adroddiad hwnnw gan Aelodau Senedd y DU yn dweud mai ymateb Llywodraeth y DU i'r pandemig oedd un o'r methiannau iechyd cyhoeddus 'gwaethaf erioed'. Mae'r rheini yn eiriau eithaf cryf. Prin fod cyfeiriad at Gymru yn yr adroddiad hwnnw—byddaf i'n dychwelyd at hynny mewn eiliad—ond mae llawer o'r cwestiynau ynghylch yr ymateb i'r pandemig yr un mor berthnasol i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, gan gynnwys yr hyn a ddigwyddodd yn y dyddiau cynnar iawn hynny, ac mae cwestiynau wedi eu gofyn yn gyhoeddus heddiw ynghylch hynny, yma yn y Senedd gan fy nghyd-Aelod Adam Price, a hefyd gan newyddiadurwyr yn y gynhadledd i'r wasg yn gynharach.
Rydym ni wedi clywed rhai ymatebion gwrthgyferbyniol ynghylch cyflymder yr ymateb yma yng Nghymru; y Prif Weinidog, yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, yn dweud, 'Nid oeddem ni'n gwybod pa mor ddifrifol oedd hyn,' er fy mod i'n credu ein bod ni wedi gwybod, neu'r Gweinidog iechyd yn dweud, 'Roeddem ni yn gwybod, ond roedd yn anodd iawn i Gymru weithredu heb fod Lloegr yn gweithredu hefyd.' Nawr, nid wyf i'n siŵr sut yr ydych chi'n cysoni'r ddau ymateb hynny, ond y gwir amdani yw, nid yw'r cwestiynau hyn wedi eu gofyn yn fanwl. Mae Aelodau Seneddol yn San Steffan wedi rhoi cynnig arni, fel y dywedais i, yn yr adroddiad hwn, sy'n sôn am Gymru naw gwaith, rwy'n credu, mewn 147 o dudalennau. Ond mae'r rhain yn gwestiynau y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn disgwyl iddyn nhw gael eu hystyried yn fanwl, a'r unig ffordd o wneud hynny, fel sydd wedi ei brofi eto, yn fy marn i, gan yr adroddiad hwn heddiw—. Y ffordd i wneud hynny'n fanwl ar y cwestiynau hyn am yr ymateb cychwynnol, a chymaint o'r cwestiynau ynghylch yr ymateb yn ystod y 18 mis diwethaf, yw cael ymchwiliad sy'n benodol i Gymru.
Nawr, rwyf i wedi cyfarfod, droeon erbyn hyn, gan gynnwys unwaith yn bersonol â chynrychiolwyr o ymgyrch Teuluoedd mewn Profedigaeth dros Gyfiawnder Covid-19. Rwy'n falch bod y Prif Weinidog hefyd wedi cwrdd â nhw hefyd erbyn hyn. A'u dadl ganolog yw hyn. Mae'n syml iawn, iawn: mae'n rhaid craffu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru yng Nghymru. Mae'n egwyddor hawdd iawn, iawn i mi ei deall. Os gallaf i ei deall, rwy'n credu y gall y rhan fwyaf o bobl ei deall. Mae angen craffu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru yng Nghymru. Nawr, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym ni yn awr a fu ymateb erbyn hyn, neu hyd yn oed gydnabyddiaeth i'r llythyr a ysgrifennodd y Prif Weinidog at Lywodraeth y DU yn gofyn am sicrwydd ynghylch pa ran y byddai i Gymru mewn ymchwiliad yn y DU ac y bydd yn cynnwys digon o bwyslais ar Gymru. Ac a gaf i ofyn, faint o amser y mae Llywodraeth Cymru yn barod i aros am ymateb cyn penderfynu, 'Wyddoch chi beth; bydd yn rhaid i ni wneud hyn ein hunain a sefydlu ymchwiliad i Gymru'? Dyma'r unig ateb.
Hoffwn i ganolbwyntio, yn ail, ar un gair yr ydym ni wedi ei glywed ychydig o weithiau gan y Gweinidog heddiw: 'sefydlog'—mae'r sefyllfa yng Nghymru yn sefydlog ar hyn o bryd. A gaf i awgrymu, mewn gwirionedd, fod angen tri chategori arnom ni, nid dim ond 'COVID-sefydlog' a 'COVID-brys' wrth fynd i mewn i'r gaeaf hwn? Mae hyn yn fater brys. Mae hyn yn fater brys heddiw. Efallai fod angen 'COVID-argyfwng' arnom ni os bydd pethau'n gwaethygu hyd yn oed, ond rydym ni mewn sefyllfa frys. A gadewch i mi atgoffa pobl sut beth yw 'sefydlog'. Cymru ar hyn o bryd: dros 500 o achosion fesul 100,000 o bobl dros gyfnod o saith diwrnod—mae hynny'n waeth nag unrhyw genedl arall yn y DU; mae tair gwaith yn fwy, bron, na'r ffigur ar gyfer Iwerddon, bron i chwe gwaith yn fwy na'r gyfradd achosion ar gyfer yr Iseldiroedd, bron i 12 gwaith yn fwy na'r gyfradd achosion ar gyfer Ffrainc ac 20 gwaith yn fwy na'r gyfradd achosion ar gyfer Sbaen. Mae'r gyfradd achosion ar gyfer pobl dan 25 oed yng Nghymru ddwywaith yn fwy na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef bron i 1,000. Mae gan saith sir yng Nghymru, gan gynnwys yr un yr wyf i'n ei chynrychioli, gyfraddau achos o dros 1,000. Os nad yw hynny'n fater brys, wn i ddim beth sydd.
Felly, efallai y caf i ofyn y cwestiynau hyn wrth gloi. Pryd mae strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru yn rhagweld y byddwn ni'n gostwng i'r lefelau yn Ffrainc, yn Sbaen, yn yr Eidal ac mewn unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop y gallech chi sôn amdani? A yw cyrraedd yno cyn gynted â phosibl yn rhan o'r strategaeth hyd yn oed? Neu ai sefydlog, yn raddol, yw'r ffordd y bydd pethau'n cael eu trin o hyn ymlaen? Er enghraifft, fe wnaethom ni awgrymu yr wythnos diwethaf y gallem ni gryfhau system pasys COVID, efallai, fel modd cyflymu pethau. Pa dystiolaeth y gall y Gweinidog dynnu sylw ati i ddangos neu hyd yn oed awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud popeth o fewn ei gallu i leihau'r cyfraddau achos hynny i lefelau ein partneriaid yng ngorllewin Ewrop, oherwydd—
A wnaiff yr Aelod ddod i ben nawr?
—mae gweld y feirws yn mynd yn rhemp yn ysgolion Cymru ar hyn o bryd, a chlywed gan y rhieni sydd wedi ofni a gan yr athrawon sy'n ofni lefelau parhaus y feirws ymhlith pobl ifanc a phlant yn arbennig yn rhywbeth y mae angen gwirioneddol i ni barhau i ganolbwyntio arno?
Diolch yn fawr. Nid wyf i'n siŵr pa gynhadledd i'r wasg yr oeddech chi'n gwrando arni, ond gallaf i eich sicrhau fy mod i'n glir iawn, fe'i gwnes i hi'n glir ei bod yn glefyd nad oeddem ni erioed wedi ei weld o'r blaen, nid oedd yr un ohonom ni'n gwybod pa effaith yr oedd yn mynd i'w chael, nid oedd yr un ohonom ni'n gwybod sut yr oedd yn mynd i ledaenu ac nid oedd yr un ohonom ni'n gwybod y gallech chi ledaenu'r broblem hon heb ddangos unrhyw symptomau.
Rydym ni wedi trafod hyn o'r blaen o ran ymchwiliad i Gymru. Rydych chi'n gwybod ein safbwynt ni. Ein safbwynt ni yw yr hoffem ni gael golwg glir a chynhwysfawr iawn ar yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru, ond ein bod ni eisiau gweld hynny yng nghyd-destun Llywodraeth y DU a'r hyn a ddigwyddodd yno. A'r rheswm am hynny yw, fel y gwelwyd heddiw yn sgil cyhoeddi'r adroddiad hwn, fod llawer iawn o orgyffwrdd rhwng yr hyn a oedd yn digwydd yn y DU a'r hyn a oedd yn digwydd yng Nghymru. Nawr, yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y Prif Weinidog gwrdd â phobl a gollodd anwyliaid i'r coronafeirws. Roedd, rwy'n siŵr, yn gyfarfod sensitif ac anodd iawn a rhoddodd rywfaint o sicrwydd iddyn nhw yno, os nad yw Llywodraeth y DU yn gwrando ar Lywodraeth Cymru, yna, wrth gwrs, y bydd yn ailystyried y sefyllfa o ran ymchwiliad i Gymru. Ond nid dyna lle'r ydym ni. Byddai'n llai anghwrtais os byddem ni'n cael ateb i gwestiwn a llythyr at ein Prif Weinidog, ac yn amlwg, byddai hynny'n rhywbeth a fyddai'n ddefnyddiol iawn. Felly, os oes gennych chi unrhyw ffrindiau yn Llywodraeth y DU, gofynnwch iddyn nhw ei gyflymu, os na fyddai ots gennych chi.
Rydych chi'n siarad â mi am frys; gadewch i mi ddweud wrthych chi am frys. Mae'r cyfraddau ymhlith pobl ifanc—rydych chi'n hollol gywir—yn eithriadol o uchel. Yr wythnos diwethaf, roeddech chi eisiau gohirio ac oedi oherwydd pàs COVID, oherwydd eich bod chi eisiau ei gryfhau. Nid yw hynny'n fater brys, mae hynny'n cymryd eich amser. Roeddem ni eisiau symud a diolch byth ein bod ni wedi gallu gwneud. Gadewch i mi fod yn glir, mae'r cyfraddau yn dechrau gostwng, ond mae'r cyfrifoldeb yma hefyd ar y cyhoedd i'n helpu ni. Maen nhw'n gwybod yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud i gadw eu hunain yn ddiogel. Rydym ni i gyd yn gwybod beth yw ein cyfrifoldebau ein hunain yma, ond brechu yw un o'n dulliau allweddol o gadw pobl yn ddiogel, dyna pam mae gennym ni'r brechlyn atgyfnerthu sy'n cael ei roi ar hyn o bryd. Mae gennym ni'r bobl ifanc 12 i 15 oed yn cael eu brechu. Ac wrth gwrs, felly, mae gennym ni system profi, olrhain a diogelu gynhwysfawr iawn ar waith i geisio cwtogi ar ledaeniad y feirws. Felly, mae gennym ni lawer o ddulliau sydd ar gael i ni yr ydym ni'n eu defnyddio'n eang iawn i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa.
Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad. Rwy'n ailadrodd yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud yn eich paragraff gobennol: mae pawb wedi gweithio'n galed i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid, ac mae'n gweithio. Rydym ni'n newid hynt y pandemig hwn gyda'n gilydd. Mae'n bwysig dweud hyn oherwydd bydd y nodyn atgoffa hwnnw i bobl am faint y maen nhw wedi ei wneud gyda'i gilydd a faint y mae'n rhaid i ni ei wneud o hyd i fynd drwy'r hydref a'r gaeaf hwn a'r gwanwyn nesaf hefyd—.
Byddaf i'n mynd i leoliad yr wythnos hon am y tro cyntaf ers y pandemig. Byddaf i'n gwylio sioe. Ni fyddaf i'n dweud pa sioe oherwydd bydd fy nghefnogwyr i gyd yn dod yno ac yn fy heidio, mi wn i. Ond, maen nhw'n gofyn i mi wneud prawf llif unffordd. Nid yw'n broblem o gwbl. Os oes angen iddyn nhw weld fy nhystysgrif brechlyn dwbl, nid yw hynny'n broblem chwaith. Os yw hynny'n cadw'r lleoliad hwnnw ar agor drwy'r gaeaf a thrwy'r gwanwyn, ac yn cadw'r staff ac aelodau eraill y gynulleidfa yn ddiogel, yna wyddoch chi, mae hynny'n waith da. Mae hynny'n rhan o fy nghyfrifoldeb i hefyd.
Ond, a gaf i ofyn i'r Gweinidog beth y mae'n ei wneud ledled y Llywodraeth ar hyn o bryd o ran dadansoddi cymdeithasol ac ymddygiadol? Nid y pethau technegol, nid y mesurau uniongyrchol, nid y rheoliadau ac yn y blaen, ond y dadansoddi hwnnw o'r hyn a fydd yn helpu pobl i wneud y peth iawn, ac i barhau i wneud y peth iawn. Mae canfyddiad o fygythiad wedi newid, ac mae hynny'n rhannol oherwydd llwyddiant cyflwyno'r brechlyn. Mae normau cymdeithasol yn symud rhywfaint. Ond, mae ffyrdd y mae modd gwneud hyn oherwydd ein bod ni wedi gwneud hynny cystal eisoes. Mae'r negeseuon, yr arweinyddiaeth, y cosbau weithiau—
A wnaiff yr Aelod ddod i ben?
Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidog pa waith y mae'n ei wneud ar wyddoniaeth gymdeithasol ac ymddygiadol i sicrhau y gallwn ni fynd drwy hyn i gyd gyda'n gilydd yn ddiogel.
Diolch yn fawr, Huw. Diolch i chi am gydnabod, oherwydd y pasys COVID, ein bod ni, gobeithio, yn gallu cadw rhai o'r lleoliadau hynny ar agor a allai fod wedi wynebu cau fel arall. Yn sicr, yr hyn yr ydym ni'n falch iawn o'i weld yw bod cryn dipyn o wyddoniaeth gymdeithasol ac ymddygiadol wedi bod yn gysylltiedig â'n dull gweithredu cyfan yma. Mae gennym ni ymchwil gynhwysfawr sydd wedi ei wneud i'r hyn sy'n ysgogi pobl i ymddwyn mewn ffordd wahanol.
Mae gennym ni ymgyrch weithredol iawn sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers sawl wythnos bellach, 'Helpwch Ni i'ch Helpu Chi', sy'n ceisio helpu pobl i'w cyfeirio i'r lleoedd iawn ar gyfer cymorth, yn enwedig os ydyn nhw'n sâl, ond hefyd i wneud yn siŵr eu bod yn gofalu amdanyn nhw eu hunain y gaeaf hwn. Gallwn ni i gyd fwyta'n well. Gallwn ni i gyd fod yn fwy heini. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n deall ein cyfrifoldebau yn hyn hefyd. Hefyd, mae gennym ni ymgyrch 'Cadwch Gymru'n ddiogel y gaeaf hwn'. Felly, mae'n bwysig iawn bod pobl yn ymgysylltu â hynny. Pan fydd pobl yn cael eu brechiadau atgyfnerthu, rwy'n gobeithio y byddan nhw hefyd yn cael rhywfaint o gyngor o ran iechyd y cyhoedd a sut i amddiffyn eu hunain y gaeaf hwn.
Gweinidog, gwnaethoch chi sôn yn eich datganiad fod y GIG yn dal i fod dan bwysau dwys. Mae llawer o drigolion cwm Cynon wedi cysylltu â mi i godi pryderon bod yr adran damweiniau ac achosion brys sy'n lleol iddyn nhw yn Ysbyty'r Tywysog Charles wedi bod dan bwysau eithafol yn ystod y pandemig. Hyd yn oed yn awr wrth i ni siarad, mae amser cyfartalog o wyth awr a 15 munud i bobl gael eu gweld yno, a 70 o gleifion yn aros i gael eu gweld.
Mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ers cau'r uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon ers 8 Medi, a hynny oherwydd prinder staff. Heddiw, cefais adroddiad y bydd y cau dros dro hwn yn barhaol bellach. A yw'r Gweinidog yn gallu cadarnhau'r adroddiad hwn? Ac, os yw'n wir bod yr uned mân anafiadau yn cael ei chau'n barhaol, beth yw barn y Gweinidog ar fwrdd iechyd yn israddio gwasanaethau lleol yn barhaol yn ystod pandemig, ac yn ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau eraill fel yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Charles?
Diolch yn fawr, Heledd. A gaf i egluro bod ein gwasanaethau GIG o dan bwysau dwys ar hyn o bryd? Nid oherwydd nad ydyn nhw'n gweithio'n galed. Maen nhw'n gweithio'n eithriadol o galed, fel y maen nhw wedi ei wneud ers 18 mis. A bod yn onest, mae'r bobl hyn eisoes wedi blino'n lân. Mae llawer ohonyn nhw i ffwrdd o'r gwaith yn sâl. Mae gan lawer ohonyn nhw COVID. Felly, mae'n rhaid i chi ddeall, bob tro y bydd hynny'n digwydd, fod mwy o bwysau ar y bobl sy'n weddill. Felly, byddwn i'n gofyn i'r cyhoedd yng Nghymru weithredu'n synhwyrol a bod yn sensitif i'r ffaith bod y bobl ar ein rheng flaen bellach yn wynebu gaeaf anodd iawn, iawn.
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddeall bod hynny'n golygu ein bod ni, weithiau, yn mynd i weld yr angen i grynhoi'r gwasanaethau hynny mewn rhai ardaloedd oherwydd y pwysau staff sy'n digwydd. Felly, rwyf i yn teimlo ei bod hi'n bwysig bod pobl yn deall, fel yr ydym ni wedi ei weld yr wythnos hon yn y de, fod unedau mamolaeth wir yn gorfod crynhoi eu hymdrechion yn fawr oherwydd y sefyllfa staffio honno. Felly, byddwn i'n gofyn i bobl, yn ystod y cyfnod hwn, fod yn oddefgar ynghylch y pwysau difrifol sydd ar ein systemau ar hyn o bryd.
Yn olaf, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Weinidog, dwi’n meddwl eich bod chi a’r Llywodraeth yn bod braidd yn annheg yn dweud nad oedd neb yn gwybod beth oedd yn mynd i ddod dechrau’r flwyddyn ddiwethaf a'i fod o'n hawdd gwneud penderfyniadau ag edrych yn ôl—hindsight, fel roedd y Prif Weinidog wedi sôn heddiw. Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd wedi gweld y lluniau'n dod o'r Eidal ar ddechrau'r flwyddyn, ac, yn wir, o Tsieina, ac roedd pawb efo syniad reit dda beth oedd o'n blaenau ni. Ond, yn fwy na hynny, diolch i'r Dr Moosa Qureshi, rydyn ni’n gwybod bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi cynnal ymarferiad trylwyr i baratoi am bandemig coronafeirws, a hynny bum mlynedd yn ôl, o’r enw Exercise Alice. Mae’n debyg bod yr ymarferiad yma wedi ein rhybuddio ni o'r angen am stociau PPE a’r angen am system olrhain cysylltiadau drylwyr, ymhlith nifer o bethau eraill. Ac os ydy’r adroddiad yn y Guardian i’w gredu, roedd Llywodraeth Cymru yn dystion i’r ymarferiad yma ac wedi derbyn yr argymhellion. Pam na wnaeth y Llywodraeth weithredu ar yr argymhellion, Weinidog?
Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod yn annheg dweud ein bod ni'n gwybod llawer am COVID pan gyrhaeddodd. Yr union ffaith nad oeddem ni'n gwybod am gryn dipyn y gallai pobl gario COVID a'u bod yn asymptomatig—roedd hynny yn rhywbeth y gwnaethom ni ei ddysgu yn llawer diweddarach, ar ôl iddo gyrraedd, i roi dim ond un enghraifft o bethau yr ydym ni wedi eu dysgu. Os byddwch chi'n darllen yr adroddiad sydd wedi dod o Dŷ'r Cyffredin heddiw, un o'r pethau mae yn ei ddweud yw bod cynllunio pandemig y DU wedi ei seilio'n rhy gul ac anhyblyg ar fodel ffliw a'i fod wedi methu â dysgu'r gwersi gan SARS, MERS ac Ebola. Nid yw'n sôn am yr adroddiad yr ydych chi'n sôn amdano. Felly, rwy'n credu y bydd yn ddiddorol gweld pam na wnaeth y pwyllgor hwn nodi'r adroddiad yr ydych chi'n sôn amdano. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf i'n mynd i ymchwilio iddo ar ôl y cwestiwn hwn.
Diolch, Gweinidog. Mae'n ymddangos bod—. A, mae gennym ni'r Gweinidog.