2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 13 Hydref 2021.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y flaenoriaeth a roddir i ddiogelu bywyd morol wrth benderfynu ar bolisi pysgodfeydd Llywodraeth Cymru? OQ57001
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rydym yn gweithio ar draws y portffolios i ddatblygu'r cyd-ddatganiad pysgodfeydd i nodi polisïau ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn gynaliadwy er mwyn cyflawni'r amcanion pysgodfeydd. Bydd hyn yn cynnwys ein hymrwymiad i ddarparu dull rheoli ar lefel yr ecosystem ar gyfer pysgodfeydd.
Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn falch iawn o glywed, rwy'n siŵr, fy mod wedi cael fy mhenodi yn hyrwyddwr y morlo llwyd yn ddiweddar, a'r wythnos diwethaf, tra'n cymryd rhan mewn gweithgaredd glanhau traeth ar draeth y gogledd, Dinbych-y-pysgod, mwynheais gyfarfod â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol i drafod rhai o'r heriau y mae'r creaduriaid hyn yn eu hwynebu yn sgil gweithredoedd pobl. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn mae llawer o forloi bach newydd-anedig yn mentro allan am y tro cyntaf i gefnfor gwyllt yr Iwerydd ar arfordir sir Benfro a sir Gaerfyrddin ond yn anffodus, un o'r prif fygythiadau i'r creaduriaid rhyfeddol hyn yw'r llygredd sy'n cael ei greu gan draffig morol. Gyda'r cyfrifoldeb dros ddiogelu ein bywyd gwyllt morol ar ysgwyddau eich cyd-Weinidog, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r cyfrifoldeb am bysgodfeydd o fewn eich portffolio eich hun, a allwch fanylu ar ba gamau yr ydych chi a'ch cyd-Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod dyfodol yr ymwelwyr hyn â'n harfordir yn cael ei ddiogelu am genedlaethau i ddod?
Da iawn chi ar gael eich penodi'n hyrwyddwr y morlo llwyd. Dylech gael cystadleuaeth gyda'ch cyd-Aelod, Darren Millar, i weld sawl gwaith y gallwch ddweud yn y Siambr pa rywogaeth yr ydych yn hyrwyddwr arni. [Chwerthin.] Rwy'n credu ei bod wedi bod yn hyfryd iawn gweld cymaint o forloi bach o gwmpas ein harfordir dros yr haf. I fynd yn ôl at eich cwestiwn penodol am y sgyrsiau rhwng y Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau ynglŷn â'n polisïau, mae'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau, er enghraifft, fod ein holl nodweddion dynodedig yn ein hardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu hasesu yn erbyn unrhyw niwed posibl o weithgareddau fel y rhai y cyfeirioch chi atynt.
Mae diogelu'r amgylchedd morol yn rhywbeth y bûm yn ei hyrwyddo ers blynyddoedd lawer, ac un mater penodol a godais yn y Siambr droeon yw ailgyflwyno treillio am gregyn bylchog mewn ardal fechan ym mae Ceredigion, ardal gadwraeth arbennig, a'r effaith ar fywyd morol yn yr ardal honno. Weinidog, mae nifer o flynyddoedd bellach ers ailgychwyn y gweithgaredd hwn, ac rwy'n awyddus i wybod pa asesiad a gynhaliwyd o effaith amgylcheddol treillio am gregyn bylchog ar y safle hwn ers ei ailgyflwyno yn 2016.
Diolch, a gallaf dawelu meddwl Joyce Watson fod treillio am gregyn bylchog yn cael ei reoleiddio'n llym yn nyfroedd Cymru, ac mae hynny'n cynnwys drwy gyfyngiadau gofodol hefyd. Rydym yn monitro'r gweithgaredd yn ofalus. Rydym yn rhoi camau gorfodi ar waith lle bynnag y bo angen, a gwneir hyn yn bennaf drwy dracio llongau gan ddefnyddio'r systemau monitro llongau sydd gennym ar ein llongau patrolio pysgodfeydd, sy'n cynnwys llong y Rhodri Morgan, er enghraifft, a hefyd drwy archwiliadau porthladd a harbwr gan ein swyddogion gorfodi morol. A phob blwyddyn cyn i'r bysgodfa cregyn bylchog ailagor, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad rheoleiddio cynhwysfawr o'r cynefinoedd, a dim ond gyda chytundeb pellach Cyfoeth Naturiol Cymru y gwneir hynny.
A gaf fi yn gyntaf oll, fel hyrwyddwr eogiaid y Senedd, ofyn i'r morloi chwarae'n ofalus? [Chwerthin.] Ond mae gennyf ddiddordeb arbennig, fel y gŵyr y Gweinidog, yn y gwaith partneriaeth sy'n sail i bysgodfeydd a rheoli morol, yr ymelwa, yn gynaliadwy, ar ein hadnoddau naturiol, ochr yn ochr â'r dull rheoli ar lefel yr ecosystem, y dywedodd yn gywir y byddai'n sail i ystyriaeth Llywodraeth Cymru. Felly, tybed a yw'n rhoi amser i edrych ar waith effeithiol y grwpiau cenedlaethol a lleol—grŵp cynghori a gweithredu Cymru ar faterion morol, ond hefyd y grwpiau sy'n ei gynnal yn lleol—i sicrhau bod y cydbwysedd hwnnw'n iawn gennym, fod pob llais yn cael ei glywed, a bod partneriaeth effeithiol yn bodoli. Mae cryn dipyn o flynyddoedd bellach ers iddynt gael eu rhoi ar waith, felly mae'n ymddangos ei bod yn amser priodol i ddweud, 'A ydynt yn gweithio'n effeithiol, a yw'r cydbwysedd yn iawn ganddynt ar gyfer natur a hefyd ar gyfer ymelwa cynaliadwy?'
Diolch. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau, yn sicr gyda'r rhan hon o'r portffolio; byddwn yn dychmygu y byddai hynny bellach yn dod o fewn cylch gwaith y Gweinidog Newid Hinsawdd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r grwpiau, fel yr awgrymwch, oherwydd os ydym am gael statws amgylcheddol da, er enghraifft, i'n dyfroedd, rhywbeth yr ydym yn ceisio'i gyflawni ar hyn o bryd, mae gwir angen inni wrando ar beth y mae'r bobl hyn yn ei ddweud wrthym a pha waith sy'n cael ei wneud. Ond fe ofynnaf i'r Gweinidog Newid Hinsawdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.