1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr i ddechrau—Tom Giffard. Mae'r cwestiynau i'w hateb gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon. Tom Giffard.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, hoffwn ddechrau drwy ofyn cwestiynau am y rhannau o'ch portffolio sydd wedi'u heffeithio waethaf, o bosibl, yn ystod y pandemig COVID, sef sectorau twristiaeth a lletygarwch. Mae'r diwydiannau hyn wedi gorfod cau am amser maith, wedi gorfod rhoi mwy o fesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, ac wedi gorfod gweithredu ar gapasiti llai, ac o ganlyniad, wedi colli mwy o refeniw na'u sectorau cyfatebol mewn rhannau eraill o'r DU. Diolch byth, mae sefyllfa well iechyd y cyhoedd, diolch i'r broses o gyflwyno'r brechlyn ledled y DU, wedi golygu bod nifer o'r cyfyngiadau hyn wedi'u codi ers hynny. Ond ar ôl datganiad y Gweinidog iechyd ddoe, a ddywedodd fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu ehangu'r defnydd o basys COVID ymhellach i gynnwys lleoliadau lletygarwch megis sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd, dangosodd hyn i ni ei bod yn debygol y bydd mwy gan y rhan hon o’r diwydiant i ymdopi ag ef yn y dyfodol. Ond efallai y bydd mwy gan y diwydiant ehangach i boeni amdano hefyd. Cyfeiriodd y Prif Weinidog ddydd Gwener diwethaf at y syniad fod cyfyngiadau pellach ar y ffordd a fyddai'n effeithio mwy fyth ar fusnesau lletygarwch a thwristiaeth, ond ni ddywedodd beth fyddai'r cyfyngiadau hynny. Felly, er mai'r disgwyliad yw bod y busnesau hyn yn paratoi ar gyfer hynny, sut y gallant baratoi os nad ydynt yn gwybod beth fydd y cyfyngiadau? Felly, a gaf fi eich gwahodd, Ddirprwy Weinidog, i nodi hynny'n glir yn awr, fel y gall y busnesau hyn wneud hynny'n briodol? Ac a wnewch chi gadarnhau y bydd y cymorth ariannol y bydd ei angen ar fusnesau lletygarwch a thwristiaeth yn cael ei roi ochr yn ochr ag unrhyw gyfyngiadau neu newid yn y rheolau a fydd yn effeithio arnynt?
A gaf fi ddiolch i Tom Giffard am ei sylwadau? Fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn dal i wynebu sefyllfa heriol iawn mewn perthynas â COVID. Rydym yn dal i weld lefelau sylweddol o heintiau, a gwyddom fod nifer o adeiladau, digwyddiadau, sefydliadau lletygarwch a lleoliadau yn lleoliadau risg uchel iawn, gan eu bod yn tueddu i fod dan do ar y cyfan. Nawr, dywedodd y Prif Weinidog yn yr adolygiad COVID diwethaf, os nad yw'r sefyllfa'n gwella—ac mae hynny'n golygu'r sefyllfa yn gyffredinol; nid yw'n ymwneud â nifer yr achosion yn unig, ond yr effaith ar y GIG ac ar gymunedau yn gyffredinol—byddai'n rhaid iddo ystyried a fyddem yn ehangu'r defnydd o basys COVID i gynnwys mannau eraill. Mae wedi cyhoeddi eisoes y bydd y defnydd o'r pàs COVID yn cael ei ehangu i gynnwys theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd.
Ar y pwynt penodol ynglŷn â lletygarwch, credaf ei bod yn bwysig deall mai nod ehangu'r defnydd o unrhyw basys COVID i gynnwys y mannau hynny fyddai sicrhau y gall y lleoliadau hynny aros ar agor. Fe fydd yn cofio inni wynebu gaeaf anodd iawn y llynedd, ac ar fyr rybudd, caewyd lletygarwch yn gyfan gwbl—tafarndai, bwytai a lleoliadau lletygarwch—am nifer sylweddol o wythnosau, a dyna rydym yn awyddus i'w osgoi eleni. Felly, mae angen ystyried y syniad o ehangu'r defnydd o basys COVID yn y cyd-destun hwnnw, ac mae angen ei ystyried yn rhywbeth a fydd yn cynorthwyo i gadw'r lleoliadau hynny ar agor yn hytrach na'i weld fel cyfyngiad ar weithrediad y lleoliadau hynny.
Y peth arall y byddwn yn ei ddweud am gymorth parhaus yw fy mod yn parhau i gael trafodaethau rheolaidd gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ynglŷn â pha gymorth perthnasol y gellir ei roi ar waith os bydd y sefyllfa hon yn parhau, ac os bydd y cyfyngiadau'n parhau, ac os bydd yr effaith ar y busnesau hynny'n parhau am gyfnod amhenodol, neu'n sicr, hyd y gellir rhagweld. Felly, mae'r trafodaethau hynny'n parhau, ac rydym yn parhau i adolygu'r sefyllfa yn gyson.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Hoffwn droi at chwaraeon a digwyddiadau mawr. Yn ystod ein trafodaeth flaenorol yn y Siambr oddeutu pedwar mis yn ôl, codais bryderon ynglŷn â'r dryswch ynghylch y ddeddfwriaeth ar rai o'r cynlluniau peilot mewn chwaraeon a digwyddiadau mawr ar y pryd, lle roedd rheolau gwahanol ar gyfer gwahanol leoliadau. Ac yn eich ateb, fe honnoch chi fod y canllawiau'n glir ac mai'r lleoliadau a'r busnesau unigol oedd yn gyfrifol am y dryswch ynghylch y rheoliadau.
Ers hynny, mae adroddiad Llywodraeth Cymru 'Digwyddiadau Peilot: Adroddiad ar y Canfyddiadau' wedi'i gyhoeddi, a nododd broblemau mawr gyda dryswch ynghylch y rheolau, ynglŷn ag a oedd gwahanol reolau'n bodoli ar gyfer gwahanol leoliadau mewn perthynas â chydymffurfiaeth â mesurau cadw pellter cymdeithasol a chydymffurfiaeth â gwisgo masgiau. Ond hyd yn oed yn awr a'r cyfyngiadau hyn wedi'u llacio, mae'n amlwg fod llawer o'r problemau'n dal i fodoli. Felly, dangosodd digwyddiadau chwaraeon diweddar, fel y gêm rhwng Cymru a Seland Newydd yr wythnos diwethaf, mai anghyson ar y gorau oedd cydymffurfiaeth y gwylwyr â rheolau gwisgo masgiau, a dywedodd llawer o etholwyr sydd wedi cysylltu â mi mai ychydig iawn o orfodaeth a welwyd yn hynny o beth.
Felly, mae gorfodi'r rheolau hefyd wedi bod yn broblemus ar y gorau. Roedd pasys COVID yn ofynnol ar gyfer y gêm hon, ond dywedodd llawer o bobl a aeth i'w gweld wrthyf na ofynnwyd iddynt am eu pàs o gwbl. Nawr, deallaf mai drwy hapwiriadau y byddai hynny'n digwydd, ond pa ganran o'r gwylwyr roeddech yn disgwyl y byddai gofyn iddynt ddangos eu pàs, ac a wnaeth y gêm y penwythnos diwethaf gyrraedd y targedau hynny? Mae'r modd gwael rydych yn parhau i orfodi eich rheolau eich hun yn fy arwain i ofyn hefyd: pa wersi a ddysgwyd o'r cynllun peilot cychwynnol, a pham fod y materion hyn yn dal i godi heddiw? Weinidog, yn hytrach na chyflwyno cyfres o reolau newydd yn yr adolygiad nesaf, onid ydych yn cytuno mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw gorfodi'r rhai presennol yn well?
Ar gêm Seland Newydd a Chymru ddydd Sadwrn diwethaf, rydych yn llygad eich lle, defnyddiwyd pasys COVID, ac a dweud y gwir, yr adborth a gawsom yw bod y gwaith o weithredu'r pasys yn y gêm honno wedi bod yn rhyfeddol o dda, a bod y cefnogwyr yn cydymffurfio'n hynod o dda, gydag oddeutu 90 y cant o'r gynulleidfa yn y stadiwm o leiaf 30 munud cyn i'r gêm gychwyn.
Nawr, fel y nodoch chi'n gwbl gywir, nid oedd erioed yn fwriad i 100 y cant o'r mynychwyr ddefnyddio, neu y byddai eu pasys COVID yn cael eu gwirio, gan y byddai wedi bod yn amhosibl ei weithredu'n ddiogel o ystyried maint y dorf a ragwelwyd, a'r lle cyfyngedig yn y stadiwm. Ond gwnaed cymaint o wiriadau â phosibl, a barnwyd fod y digwyddiad wedi bod yn gymharol lwyddiannus.
Nawr, ar orchuddion wyneb, wrth gwrs, mae'n ddigwyddiad awyr agored, felly nid oedd angen gorchuddion wyneb, er y gofynnwyd i gefnogwyr wisgo gorchuddion wyneb yn y cynteddau ac wrth fynd drwy'r gatiau tro ac ati. A chydymffurfiwyd â hynny at ei gilydd hefyd. Ond gan ei fod yn ddigwyddiad awyr agored i raddau helaeth, nid oedd hynny'n ofyniad. A'r hyn y byddwn yn ei ddweud yw hyn: gyda'n holl ddigwyddiadau—[Anghlywadwy.]—rydym yn adolygu'n barhaus sut y caiff y mesurau eu gweithredu, a sut y cânt eu monitro, a sut y cânt eu gorfodi. Mewn llawer o ddigwyddiadau, y lleoliad ei hun sy'n gyfrifol am orfodaeth. Mewn lleoliadau eraill, yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am orfodaeth.
Ond fel y dywedaf, yn gyffredinol, rydym wedi cael adborth cadarnhaol o'r profiad hwnnw, ac mae'n rhywbeth rydym yn bwriadu parhau i'w fonitro wrth inni symud ymlaen.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae diddordeb gennyf, serch hynny, fe sonioch am basys COVID yn cael eu gorfodi drwy hapwiriadau. Gofynnais am ganran y gwylwyr a aeth i'r gêm honno y byddai disgwyl i'w pasys COVID gael eu gwirio, ac nid wyf yn credu imi gael ateb. Felly, yn ôl pob tebyg, os ydych yn mynd i gyflwyno rheol o'r fath, byddai gennych ddisgwyliad o ran faint o bobl yn y digwyddiad hwnnw y byddai eu pasys yn cael eu gwirio. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi sylw i hynny yn eich ateb nesaf.
Ond i mi, mae'n amlwg fod y diwydiant chwaraeon a digwyddiadau mawr yn ogystal â'r diwydiant lletygarwch a thwristiaeth yn eich portffolio wedi gorfod cystadlu â chyfyngiadau ar eu gweithrediadau dydd i ddydd dros y 18 mis diwethaf, ac maent wedi wynebu llawer o drafferthion o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth Cymru. Mae'r maes lletygarwch wedi gorfod ymdopi â bod ar gau am gyfnod hirach na rhannau eraill o'r DU. Roedd y rheol 2m ar waith, er enghraifft, am gyfnod hirach yng Nghymru, ac mae gofynion hunanynysu hefyd wedi effeithio ar brinder staff, ac mae hynny wedi bod yn wahanol hefyd. Mae'r diwydiant chwaraeon a digwyddiadau mawr wedi ymdopi â'i gyfyngiadau ei hun fel pasys COVID, fel rydym wedi'i drafod, gwisgo masgiau wrth eistedd a gorfod cau eu lleoliadau am gyfnod hirach. Roedd y rhain i gyd unwaith eto yn mynd ymhellach na rhannau eraill o'r DU. Felly, mae'n amlwg eich bod wedi dilyn llwybr gwahanol iawn yng Nghymru i rannau eraill o'r DU, a'r diwydiannau hyn yn eich portffolio sydd wedi gorfod ymdopi â'r effaith fwyaf o ganlyniad i'r penderfyniadau hyn.
Fel y byddech yn cytuno, rwy'n siŵr, Ddirprwy Weinidog, byddai'n gwbl amhriodol cynnwys yr holl benderfyniadau hyn ac felly yr atebolrwydd mewn ymchwiliad cyhoeddus gyda Lloegr. Felly, Ddirprwy Weinidog, yng ngoleuni'r effaith ar eich portffolio chi yn benodol, a ydych yn cytuno â mi ei bod yn bryd cynnal ymchwiliad COVID yng Nghymru?
Nac ydw.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Dros hanner tymor, bu amgueddfeydd ledled Cymru yn cymryd rhan yng ngŵyl amgueddfeydd Cymru. Mae'r ŵyl yn gyfle i ddathlu y rôl hanfodol mae amgueddfeydd o bob maint a math yn eu chwarae a'r effaith gadarnhaol maent yn eu cael mewn cymaint o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys ar ein heconomi. Serch hynny, fel dengys adroddiad diweddar gan gymdeithas amgueddfeydd Prydain, y Museums Association, dros y ddegawd diwethaf, mae gwariant awdurdodau lleol ar amgueddfeydd ac orielau yng Nghymru wedi gostwng 31 y cant, gan adlewyrchu faint y mae cyllidebau awdurdodau lleol wedi crebachu o ran yr hyn maent yn medru ei fuddsoddi mewn gwasanaethau nad ydynt yn statudol.
Os bydd y duedd hon yn parhau, yna mae posibilrwydd cryf y bydd amgueddfeydd yng Nghymru yn cau ac y bydd rhaid lleihau ymhellach gwasanaethau neu oriau agor gan gael effaith negyddol ar yr economi leol, ein cynnig i dwristiaid, ynghyd ag iechyd a lles defnyddwyr a'r holl brosiectau gwych a phellgyrhaeddol maent yn eu cyflawni fel sector. Pa gamau sydd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu amgueddfeydd lleol ar ôl degawd o lymder?
Diolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn, a chredaf fod ei phwynt olaf yn un perthnasol iawn. Yr hyn a welsom yn y sector amgueddfeydd, fel mewn sectorau eraill yn fy mhortffolio, yw effaith 10 mlynedd o gyni Torïaidd, sydd wedi bwydo drwodd i awdurdodau lleol a'r sefydliadau y mae'n rhaid iddynt eu hariannu.
Fodd bynnag, yr hyn rwy'n cytuno â hi yn ei gylch hefyd yw'r ffaith bod ein hamgueddfeydd yn hynod bwysig i'n cymunedau, maent yn bwysig i'n gwasanaeth addysg, maent yn bwysig i iechyd meddwl a lles pobl, a'r holl agweddau eraill ar y rhaglen lywodraethu rydym wedi'i chyhoeddi. Mae gwaith amgueddfeydd yn bwydo i mewn i hynny oll. Felly, mae'n amlwg ein bod yn awyddus i sicrhau eu bod yn parhau a'u bod yn ffynnu a'u bod yn darparu'r gwasanaeth y maent wedi'i ddarparu ers blynyddoedd. Un o'r pethau rydym yn eu hystyried yw eu cynorthwyo i ddatblygu eu cynnig digidol, er enghraifft, sy'n gwneud amgueddfeydd yn llawer mwy hygyrch i fwy o bobl nag o'r blaen. Roedd hynny'n rhywbeth y gwnaethom ei nodi drwy'r pandemig.
Ond yr hyn y byddwch hefyd yn ymwybodol ohono, wrth gwrs, yw ein bod ar hyn o bryd yn y broses o asesu beth a olygai'r adolygiad cynhwysfawr o wariant yng nghyllideb y DU i Gymru a sut y bydd yn effeithio ar bob un o'r cyrff y mae'n rhaid inni eu hariannu o gyllideb Cymru. A bydd y trafodaethau hynny'n parhau gyda'r amgueddfeydd cenedlaethol a'r undebau llafur yn y sector i sicrhau bod y cyrff hynny'n cael eu hariannu'n ddigonol i wneud yr holl bethau rydym wedi'u nodi yn ein rhaglen lywodraethu.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Ond, nid peth newydd mo'r heriau sy'n wynebu amgueddfeydd lleol, ac ers nifer o flynyddoedd rŵan rydyn ni wedi clywed geiriau gan Weinidogion ond ddim wedi gweld gweithredu. Yn wir, wedi'r cyfan, oherwydd pryderon am y sector, fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o amgueddfeydd lleol yn 2015. Nododd yr adolygiad nad oedd gan amgueddfeydd lleol adnoddau na chapasiti, ac ymrwymodd y Gweinidog ar y pryd, Ken Skates, y byddai ei swyddogion yn archwilio'r cyfleoedd a gyflwynir gan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol ar gyfer cefnogi a datblygu amgueddfeydd. Pam nad yw Llywodraeth Cymru, felly, dal heb, eto, weithredu argymhellion eu hadolygiad eu hunain yn llawn? A allwch chi ddarparu amserlen o ran pryd y cânt eu gweithredu neu ymhelaethu o ran pam y penderfynwyd peidio eu gweithredu?
Roedd yr adolygiad pwrpasol y soniwch amdano, wrth gwrs, yn cynnwys nifer o argymhellion, a chryn dipyn o arian a chymorth gan Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â hynny. Rydym yn parhau i gael y trafodaethau hynny gyda'r amgueddfa, a chyda'r undebau llafur yn yr amgueddfa, ynglŷn â sicrhau bod argymhellion yr adolygiad pwrpasol yn cael eu gweithredu'n llawn.
Mae wedi bod yn broblemus oherwydd rhai o'r materion yn yr amgueddfa y byddwch yn ymwybodol ohonynt. Ni fu gennym lywydd yn yr amgueddfa ers peth amser. Rydym bellach wedi bod yn hysbysebu am—mae'n ddrwg gennyf, nid llywydd yn yr amgueddfa; yn y llyfrgell oedd hynny, felly rwy'n ymddiheuro am hynny. Mae materion wedi codi o'r adolygiad pwrpasol a defnyddiwyd cyllid i fynd i'r afael â hwy, ac rydym wedi cael trafodaethau parhaus gyda'r amgueddfa ynglŷn â sut y gweithredir yr agweddau hynny ar yr adolygiad.
Rwy'n sôn yn benodol, Weinidog, am amgueddfeydd lleol a'r adolygiad a gynhaliwyd yn 2015, yn hytrach nag adolygiad Simon Thurley o Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae 10 argymhelliad yn yr adolygiad o amgueddfeydd lleol nad ydynt wedi cael eu gweithredu eto, er bod y sector wedi ysgrifennu ar sawl achlysur, ac er yr apeliadau gan sefydliadau fel Cymdeithas yr Amgueddfeydd ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, sy'n awyddus iawn i gefnogi'r sector.
Yn 2010, Cymru oedd y genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyhoeddi strategaeth ar gyfer amgueddfeydd yn eu cyfanrwydd, strategaeth a gafodd ei chroesawu gan y sector. Daeth hon i ben yn 2015, ac er bod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ar y strategaeth newydd ers 2018, does gan Gymru ddim strategaeth ar gyfer amgueddfeydd erbyn hyn. Pryd bydd y strategaeth hon yn cael ei chwblhau a pha adnoddau fydd ar gael i alluogi'r sector i gyd i chwarae ei ran yn llawn o ran saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys cyfraniad economaidd y sector?
Fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn cynharach, Heledd, nid wyf mewn sefyllfa eto i ddweud wrthych am gyllid gan mai dyma ein sefyllfa ar hyn o bryd, o ran edrych ar sut y mae pob un o'n sefydliadau yn cael eu hariannu a pha gyllid sydd i'w ddyrannu i bob un o'r sectorau hynny.
Mewn perthynas â'r adolygiad o amgueddfeydd, rwy'n awyddus i adolygu ble rydym arni bellach gyda hynny, gan ein bod wedi siarad o'r blaen am y strategaeth ddiwylliannol ehangach, a chredaf y bydd y cyfan yn rhan o hynny hefyd, ond rwy'n derbyn y pwynt fod gwaith pwrpasol wedi'i wneud. Mae angen imi adolygu ble rydym arni gyda hynny, a byddaf yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf pan fyddaf yn adolygu hynny ac yn edrych ar hynny yn dilyn y drafodaeth hon heddiw.