1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 10 Tachwedd 2021.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith bosibl datganoli rheolaeth dros Ystâd y Goron yng Nghymru ar ynni adnewyddadwy? OQ57138
Byddai datganoli rheolaeth dros Ystâd y Goron yn rhoi mwy o hyblygrwydd inni wrth ddewis pa mor bell a pha mor gyflym rydym am ddefnyddio ynni adnewyddadwy, yn enwedig yn nyfroedd Cymru. Rydym yn bwriadu i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ystyried Ystâd y Goron yng nghyd-destun asesiad cynhwysfawr o'r pwerau sydd eu hangen ar Gymru.
Diolch yn fawr am eich ateb, Weinidog. Ar ymweliad ddoe â phorthladd Caerdydd, fe wnaethom ni drafod y posibiliadau anhygoel sydd gan Gymru ym maes ynni adnewyddadwy, ac aeth y sgwrs ymlaen ynglŷn â datganoli Ystâd y Goron i Gymru fel mae wedi digwydd i'r Alban yn barod. Fel gwnaeth y Prif Weinidog ddweud yn ddiweddar ac fel rŷch chi wedi awgrymu heddiw, roedd rheolwyr y porthladd hefyd yn credu, yn grediniol iawn, y byddai datganoli Ystâd y Goron yn beth da i Gymru ac yn creu potensial enfawr ym maes ynni adnewyddadwy. Y consýrn mawr gyda nhw a'r consýrn mawr gyda fi yw ein bod ni'n mynd i golli cyfle anhygoel fan hyn yng Nghymru a bod gwledydd eraill yn mynd i fynd ar flaen y gad gyda ni fan hyn. Felly, wrth gofio sylwadau'r Prif Weinidog, wrth gofio beth rŷch chi newydd ei ddweud ac o ystyried potensial amlwg datganoli Ystâd y Goron i Gymru, pam felly wnaethoch chi fel Llywodraeth, fel Llafur yma yn y Senedd, bleidleisio gyda'r blaid Dorïaidd yn erbyn mesur Plaid Cymru i ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru fis diwethaf?
Wel, yr ateb byr i’r cwestiwn hwnnw yw oherwydd eich bod wedi’i gyfuno â nifer o bethau eraill nad oeddem yn eu hoffi. Felly, i droi at faterion Ystâd y Goron, serch hynny, maent yn cael effaith sylweddol, fel y dywedodd yn gywir, ar waith ynni adnewyddadwy, yn enwedig mewn perthynas â phrydlesau gwely'r môr, ac mae ganddynt dirddaliadaeth strategol sylweddol yng Nghymru. Rwy’n cytuno’n llwyr bod amseriad prydlesu’r tir yn sicr yn pennu gallu prosiectau yng Nghymru i gystadlu ar sail deg.
Rwyf wedi cael cyfarfod da iawn ag Ystâd y Goron, fel y cafodd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, i nodi ein blaenoriaethau ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Fe wnaethom ein dau fynegi ein barn yn hynod gadarn fod yn rhaid i Ystâd y Goron fod yn alluogwr yng Nghymru, a gwnaethom ofyn am sicrwydd nad yw eu huchelgais a'u hamserlenni wedi rhoi Cymru dan anfantais wrth ddatblygu ein diwydiant ynni adnewyddadwy morol ac alltraeth. Ond hefyd, ac yn bwysicach o lawer efallai, o ran ein cynlluniau trawsnewid cyfiawn, fe wnaethom gytuno bod angen i fuddion economaidd lleol fod yn ystyriaeth berthnasol wrth ddarparu hawliau a chontractau gwely'r môr.
Fel y byddwch yn gwybod rwy’n siŵr, mae fy nghyd-Aelod, Lee Waters, yn cynnal astudiaeth ddofn i ynni adnewyddadwy i edrych ar sut i gynnull cynghrair ar gyfer newid ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat i gyflymu'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy, ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod Ystâd y Goron yn ymddwyn fel partner galluogi, er nad ydynt wedi’u datganoli i Gymru. Byddwn yn cyfarfod ag Ystâd y Goron eto yn dilyn yr astudiaeth ddofn i sicrhau ei hymgysylltiad â Chymru yn y dyfodol.
Ond yr ateb byr i gwestiwn yr Aelod, os yw'n awyddus i ni gytuno i'w gynigion, yw bod angen iddo sicrhau nad ydynt yn cynnwys pethau nad ydym yn cytuno â hwy.
Weinidog, cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, bob tro y soniwch am y Dirprwy Weinidog yn cynnal astudiaeth ddofn—deep dive—rwy’n ei ddychmygu’n gorfforol yn plymio’n ddwfn o bryd i’w gilydd. [Chwerthin.] Ond diolch i'r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn ynghylch effaith bosibl datganoli rheolaeth ar Ystâd y Goron yng Nghymru ar ynni adnewyddadwy. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod Ystâd y Goron, dros y 10 mlynedd diwethaf, wedi cyfrannu £3 biliwn i'r pwrs cyhoeddus, ac ar wahân i helpu a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, mae’r ffaith bod Ystâd y Goron wedi cadw rheolaeth dda ar yr asedau pwysig hyn wedi arwain at fanteision mawr i bobl Cymru, gan gynnwys gwaith parhaus ar ynni adnewyddadwy, y sonioch chi amdano eiliad yn ôl, cefnogi cannoedd o swyddi, lleihau allyriadau carbon a chynyddu’r potensial i drethdalwyr drwy'r cyfraniadau yn ôl i’r Trysorlys. Felly, Weinidog, a fyddech chi'n cytuno y dylem dreulio ein hamser a'n hegni yn creu cyfleoedd i weithio mewn ysbryd o undod gydag Ystâd y Goron, gan weithio gyda'n gilydd er budd pobl Cymru, yn hytrach na chreu rhaniadau a gwrthdaro? Diolch yn fawr iawn.
Cytunaf yn llwyr fod angen inni reoli ein perthynas ag Ystâd y Goron, sy'n un dda iawn, er mwyn sicrhau ein bod yn datgloi'r potensial ar gyfer ynni adnewyddadwy, fel rwyf newydd ei ddweud. Fodd bynnag, datganolodd Llywodraeth y DU Ystâd y Goron i’r Alban yn ôl yn 2016, mae ganddynt reolaeth ar Ystâd y Goron yn yr Alban, ac o ganlyniad, gallant wneud nifer o bethau, gan gynnwys cynnal cylchoedd ceisiadau ar gyfer ynni adnewyddadwy o dan eu rheolaeth eu hunain, rhywbeth na allwn ni ei wneud, ac mae hynny, o reidrwydd, yn anfantais.
Mae yna broblem hefyd yn ymwneud â'r cyllid, felly nid wyf yn anghytuno â Sam Rowlands pan ddywed bod angen inni gael perthynas dda ag Ystâd y Goron ac mae angen inni sicrhau ein bod yn gweithio'n hapus gyda hwy, o ystyried y sefyllfa bresennol, ond gorchwyl benodol Ystâd y Goron yw cynhyrchu elw i Drysorlys y DU yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd. Dros y 10 mlynedd diwethaf, roedd yr elw hwnnw'n £3 biliwn, a'r elw net yn £269.3 miliwn yn 2020-21, felly ni allaf esgus na fyddai'n llawer gwell gennyf pe bai cyfran o hwnnw'n dod yn uniongyrchol i Drysorlys Cymru yn hytrach na thrwy Lywodraeth y DU, sydd wedi llusgo'i thraed yn arw rhag sicrhau ein bod yn cael fformiwla wedi'i Barnetteiddio'n gywir. Felly, er fy mod yn cytuno â byrdwn cyffredinol ei ddadl, ceir budd ariannol yn ddi-os, fel sy'n amlwg iawn yn yr Alban, o gael Ystâd y Goron wedi'i datganoli.
Cwestiwn 6 nesaf, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog ac i'w ofyn gan Delyth Jewell.