2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 10 Tachwedd 2021.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru? OQ57151
Mae'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn Nwyrain De Cymru yn parhau i fod yn uchel. Mae dros £26 miliwn o gyllid cyfalaf yn cael ei fuddsoddi yn y rhanbarth, gyda phump o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd, yn ogystal â darpariaeth gofal plant. Mae pecyn arall o £30 miliwn o gyfalaf a £2.2 miliwn o gyllid grant i gefnogi cynlluniau trochi yn y Gymraeg ar gael ar draws Cymru.
Diolch, Weinidog. Mae Plaid Cymru yn croesawu, wrth gwrs, y ffaith y bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd yn agor ym Merthyr fis Medi nesaf. Rydyn ni hefyd yn cefnogi'r cynlluniau sydd ar y gweill i agor ysgol gynradd Gymraeg yn Nhredegar yn 2023. Hoffwn ddiolch i Rhieni dros Addysg Gymraeg a'r awdurdodau lleol am eu gwaith yn symud hyn ymlaen ac, wrth gwrs, i'r Llywodraeth am ddarparu'r adnoddau.
Mae llawer o gymunedau eraill sydd angen ysgol gynradd, Weinidog, ond cwestiwn ynglŷn ag ysgol uwchradd sydd gen i heddiw. Mae'n destun tristwch ac annhegwch cymdeithasol a ieithyddol nad oes unrhyw ddarpariaeth uwchradd addysg Gymraeg yn siroedd Merthyr, Blaenau Gwent a Mynwy. Mae hyn yn golygu dim darpariaeth ysgol uwchradd Gymraeg yn 50 y cant o'r siroedd sydd yn fy rhanbarth i. I ble mae'r plant fydd yn derbyn yr addysg gynradd Gymraeg fod i fynd wedyn, Weinidog, i ddatblygu'u sgiliau iaith ymhellach ac i allu parhau i fwynhau ei siarad? A wnewch chi heddiw wneud ymrwymiad y byddwch yn gwneud popeth o fewn eich pŵer i sicrhau y bydd cynlluniau wedi'u cytuno ar addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn siroedd Merthyr, Blaenau Gwent a Mynwy yn ystod eich tymor fel Gweinidog addysg, os gwelwch yn dda?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel gwnes i ddweud wrth ateb Gareth Davies yn fwy diweddar, rŷn ni'n ddibynnol ar gynigion sy'n dod o awdurdodau lleol yn y maes penodol hwn, fel rwy'n gwybod bod yr Aelod yn deall. Ond rŷn ni hefyd yn disgwyl gweld cynlluniau strategol uchelgeisiol gan bob awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae pob un o'r awdurdodau lleol yn ei rhanbarth hi wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori ar eu cynlluniau nhw. O fewn y cynlluniau hynny, rwy'n gwybod bod ystyriaeth i ysgol uwchradd addysg Gymraeg ar y cyd, ac felly byddwn i'n cefnogi gweld hynny'n digwydd, wrth gwrs, er mwyn darparu ar draws y rhanbarth y ddarpariaeth addysg Gymraeg uwchradd sydd ei hangen ar bobl ifanc yn y rhan honno o Gymru.
Weinidog, mae'r cwricwlwm newydd yn gosod disgwyliad ar athrawon i allu addysgu rhywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg. Er budd y disgybl, mae angen athrawon o safon uchel yma yng Nghymru gydag ystod eang o brofiadau a chefndiroedd yn addysgu yn ein hysgolion. Mewn ardaloedd megis de-ddwyrain Cymru, lle mae staff yn aml yn cael eu recriwtio neu hyd yn oed yn cymudo o dros y ffin yn Lloegr, gallai'r angen am sgiliau Cymraeg fod yn rhwystr i recriwtio. A allwch amlinellu pa gefnogaeth y bydd y Llywodraeth hon yn ei darparu i unrhyw athro sydd am addysgu yng Nghymru i ddysgu'r sgiliau iaith angenrheidiol er mwyn sicrhau nad oes rhwystr i ymgeiswyr wneud cais?
Wel, nid yw pob un athro yn gorfod bod yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf newydd gael sgwrs gyda Cefin Campbell am y galw o ran recriwtio mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg. Ond mae hefyd angen darparu cefnogaeth, fel rŷn ni drwy waith y ganolfan ddysgu ac ati, i oedolion allu dysgu Cymraeg ar gyfer ymestyn defnydd y Gymraeg yn ein cymunedau ni'n gyffredinol. Felly, mae amryw o ymyraethau o'r math yna ar gael.
Mae'n rhaid hefyd sicrhau, rwy'n credu, ein bod ni'n cefnogi, fel rhan o'r strategaeth roeddwn i'n sôn amdani'n gynharach, nid yn unig y cwestiwn o recriwtio, ond ein gallu i gefnogi pobl i ddysgu'r Gymraeg, a hefyd gefnogi arweinwyr ysgol er mwyn iddyn nhw allu cynllunio’n fwy strategol, efallai, a chael y sgiliau a'r gefnogaeth i wneud hynny er mwyn darparu addysg Gymraeg ehangach yn ein hysgolion ni.