1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn ddiweddarach yr wythnos hon byddwch chi'n cyflwyno adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o COVID-19 yng Nghymru. Wrth gwrs, yn ystod y cyfnod adolygu presennol hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â mesurau pellach ar ffurf pasys COVID i lawer o leoliadau adloniant, ac mae pryderon wedi eu codi yn briodol ynglŷn ag effeithiau cyfreithiol a moesegol pasys COVID. A'r gwir amdani yw nad oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod pasbortau brechlyn yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws nac, yn wir, yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn. Yr wythnos hon, ceir ofnau gwirioneddol y bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn pasys COVID i leoliadau lletygarwch hefyd. Prif Weinidog, nid yw pasbortau brechlyn yn llwybr allan o gyfyngiadau; maen nhw'n gyfyngiadau, yn wir. Felly, Prif Weinidog, wrth i'r nifer sy'n manteisio ar frechlynnau barhau i gynyddu ac achosion COVID barhau i ostwng, a wnewch chi gadarnhau heddiw na fyddwch chi'n cyflwyno'r pasys COVID hyn mewn lleoliadau lletygarwch? A pha feini prawf y mae'n rhaid eu bodloni bellach i gael gwared ar y pasys COVID yr ydych chi wedi eu cyflwyno yn ddiweddar?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod wedi ei chael hi'n gwbl anghywir. Mae pasys COVID yno i helpu i gadw Cymru ar agor. Maen nhw yno i ddilyn y cyngor sydd gennym ni gan SAGE y dylai Llywodraethau gymryd y mesurau cynnar dwysedd isel hynny y gallwch chi eu rhoi ar waith i geisio ymdrin â lledaeniad coronafeirws, sydd wedi bod yn llawer rhy uchel yng Nghymru, a mesurau syml a all, yn gyfunol, wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyna pam maen nhw wedi eu cyflwyno yng Nghymru—eu cyflwyno yn llwyddiannus iawn yng Nghymru. Rwy'n cofio'r holl ddarogan gwae er mwyn denu sylw o'i feinciau ef ynghylch sut na fyddem ni'n gallu ei wneud, am ba mor anodd y byddai a pha lanast a fyddai pan fyddem ni'n ei wneud—nid oes dim o hynny yn wir. Nid oes dim o hynny yn wir, a dylai'r Aelod wybod yn well na'i awgrymu. Mae'n cael ei wneud yn llwyddiannus iawn, yn ddidrafferth iawn ac yn cael ei wneud gan bobl sy'n gweithio'n galed i amddiffyn y cyhoedd yng Nghymru. Bydd yn helpu i gadw busnesau ar agor. Dyna'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud, ac nid wyf i'n gwneud unrhyw ymddiheuriadau amdano o gwbl. Dyna oedd y peth iawn i'w wneud, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi defnyddio'r arf ychwanegol hwnnw yn yr arfdy i helpu i gadw Cymru yn ddiogel a chadw Cymru ar agor.
Dair wythnos yn ôl, pan oedd y Cabinet yn gwneud ei benderfyniadau, roeddem ni newydd gyrraedd uchafbwynt o 730 o achosion fesul 100,000 yng Nghymru—y ffigur uchaf ar unrhyw ddiwrnod yn ystod holl gyfnod y pandemig. Ni fyddech chi'n meddwl o'i gwestiwn fod Cymru yn wynebu'r math hwnnw o argyfwng, ond dyna'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi. Diolch byth, oherwydd yr ymdrechion y mae pobl yng Nghymru wedi eu gwneud, oherwydd y pethau ychwanegol yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith, mae'r niferoedd hynny bellach wedi lleihau, ac wrth i'r niferoedd leihau, yna mae'r angen i gymryd camau ychwanegol y tu hwnt i'r rhai sydd ar waith eisoes yn lleihau hefyd. Ond yn ystod y ddau ddiwrnod diwethaf, Llywydd, mae'r niferoedd hynny wedi dechrau cynyddu eto. Maen nhw wedi cynyddu yn sylweddol yn yr Alban yn ystod yr wythnos ddiwethaf; maen nhw wedi cynyddu yn sylweddol iawn mewn gwledydd sy'n agos iawn i'r Deyrnas Unedig. Felly, ni ddylai neb feddwl ein bod ni rywsut wedi gweld cefn hyn eto. Bydd y Cabinet yn edrych yn ofalus iawn ar y niferoedd. Rydym ni mewn gwell sefyllfa o lawer nag yr oeddem ni dair wythnos yn ôl, diolch byth, a bydd hynny yn ffurfio'r cyd-destun ar gyfer y penderfyniadau y byddwn ni'n eu cyhoeddi ddiwedd yr wythnos hon.
Prif Weinidog, rydych chi'n gwybod gystal â minnau nad oes unrhyw dystiolaeth wyddonol i ddangos bod pasys COVID yn effeithiol. Mae'r prif swyddog meddygol ei hun wedi dweud bod effaith uniongyrchol wirioneddol pasys COVID yn eithaf bach, fwy na thebyg, felly nid oes unrhyw dystiolaeth wyddonol i awgrymu bod pasys COVID yn gweithio mewn gwirionedd.
Nawr, ffordd arall o helpu i atal lledaeniad COVID-19 yw drwy brofion, ac felly roedd hi'n destun siom mawr yr wythnos diwethaf i glywed y dirprwy brif swyddog meddygol yn dweud nad yw'n credu bod profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos i staff y GIG yn arbennig o bwysig yn y darlun mawr. Prif Weinidog, mae'n hanfodol bod staff y GIG yn cael eu profi fel mater o drefn fel y gallwn ni leihau unrhyw heintiau sy'n cael eu dal mewn ysbytai a rhoi hyder i bobl y byddan nhw, pan fyddan nhw'n mynd i leoliad iechyd, yn cael eu trin gan staff sydd wedi eu harchwilio yn rheolaidd. Mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r broblem hon ar frys ac yn dechrau ystyried o ddifrif ei dull o reoli heintiau mewn ysbytai, fel y gallwn ni ddiogelu cleifion yn GIG Cymru yn well. Wrth gwrs, mae profi yn fwy cyffredinol yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r sefyllfa COVID. Trwy gynnal profion rheolaidd, gallwn ddeall ble mae achosion a sicrhau bod gwasanaethau lleol yn gallu ymateb, ac ymdopi yn fwy effeithiol â'r galw ar unedau gofal dwys. Felly, Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â heintiau sy'n cael eu dal mewn ysbytai yng Nghymru? A ydych chi'n cytuno â sylwadau'r dirprwy brif swyddog meddygol, ac a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo ac annog staff y GIG i gymryd profion llif unffordd rheolaidd? Ac o ystyried pwysigrwydd profi'r cyhoedd yn ehangach i liniaru'r risg o drosglwyddo'r feirws i bobl eraill, beth ydych chi'n ei wneud i gryfhau'r system brofi yng Nghymru i sicrhau ei bod hi mor effeithiol â phosibl?
Wel, Llywydd, roedd yr Aelod yn dymuno awgrymu nad oeddem ni'n cymryd cyngor y prif swyddog meddygol ar un llaw—mae'n anghywir yn hynny o beth, gyda llaw: rydym ni yn dilyn cyngor y prif swyddog meddygol, ac mae'n cefnogi ein safbwynt ar y pàs COVID—ond yna mae'n dymuno fy mod i'n anwybyddu cyngor y dirprwy brif swyddog meddygol wrth sôn am y drefn brofi. Byddwn yn dilyn y cyngor gorau y gallwn ni ei gael, byddwn yn parhau i ddiogelu ein gweithwyr iechyd a'n gweithwyr gofal cymdeithasol. Rwyf i wedi cael fy nghalonogi yn fawr gan y nifer sy'n manteisio ar y brechlyn atgyfnerthu yn y ddau sector hynny, a byddwn yn parhau i fod â threfn brofi yn y ddau leoliad hynny sy'n gyson â'r cyngor gorau yr ydym ni'n ei gael.
O ran y pwynt ehangach y mae'r Aelod yn ei ofyn am brofion, wel, rwy'n cytuno ag ef yn hynny o beth, wrth gwrs, bod profion yn rhan bwysig iawn o'n harfogaeth wrth ymdrin â coronafeirws. Rydym ni'n annog pobl i gael eu profi pryd bynnag y bydd ganddyn nhw symptomau neu eu bod nhw wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi ei gadarnhau yn achos coronafeirws, ac, wrth gwrs, mae ein trefn pasys COVID yn caniatáu i rywun ddangos eu bod nhw wedi cymryd y camau y mae angen iddyn nhw eu cymryd i gadw nhw eu hunain ac eraill yn ddiogel drwy gynnal prawf o fewn cyfnod byr o fynd i leoliad lle mae'r risg yn arbennig o uchel. Felly, byddwn yn parhau i wneud hynny. Byddaf i yn dweud hyn wrth yr Aelod, mai'r pryder mwyaf sydd gen i ynglŷn â phrofi yng Nghymru yw'r arwyddion yr ydym ni'n eu cael gan Lywodraeth y DU a gan y Trysorlys eu bod nhw'n bwriadu tynnu arian yn ôl o'r drefn brofi ledled y Deyrnas Unedig, ac mai eu cynllun ar gyfer y cyfnod ar ôl y gaeaf yw lleihau profion i ran weddillol o'r amddiffyniad yn hytrach na'r rhan ganolog o'r amddiffyniad fel y mae ar hyn o bryd ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn sicr yma yng Nghymru.
Wel, Prif Weinidog, y rheswm mae profi staff y GIG fel mater o drefn mor bwysig, ac, wrth gwrs, profion rheolaidd yn y gymuned, yw oherwydd bod pobl wedi colli anwyliaid i COVID-19. Yng Nghymru, mae un o bob pedair marwolaeth COVID o heintiau a gafwyd mewn ysbytai, ac felly mae sylwadau fel rhai'r dirprwy brif swyddog meddygol wedi cael ymateb dig gan y rhai sydd wedi colli anwyliaid, a hynny'n ddealladwy. Nawr, Prif Weinidog, mae'n rheswm arall eto pam mae angen i ni gael ymchwiliad COVID Cymru gyfan, ymchwiliad sydd uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol ac sy'n rhoi'r atebion sydd eu hangen ar bobl. Mae'r Aelod o Senedd y DU dros Islwyn, Chris Evans, yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith na all datganoli pwerau olygu y gall Llywodraeth Cymru osgoi atebolrwydd, ac rwy'n annog pob Aelod o'r Siambr hon o bob plaid i roi gwleidyddiaeth o'r neilltu a chefnogi ymchwiliad COVID Cymru gyfan. Felly, Prif Weinidog, yn ysbryd cydweithredu gwirioneddol ar draws llinellau gwleidyddol ac o gofio bod gennych chi aelodau o'ch plaid eich hun yn galw am un erbyn hyn, a wnewch chi a'ch Llywodraeth ailystyried eich safbwynt yn awr a chefnogi ymchwiliad COVID penodol i Gymru gyfan i sicrhau bod pobl Cymru yn cael yr atebion y maen nhw'n eu haeddu o ran y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymdrin â COVID-19 yma yng Nghymru?
Llywydd, ceir sinigiaeth ddwys yn y cwestiwn yna sy'n peri pryder gwirioneddol yn fy marn i. Mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau gwleidyddol pleidiol gan esgus nad yw'n gwneud dim o'r fath. Mae'r ymosodiadau ar Lywodraeth Cymru ar y mater hwn gan ei blaid ef yn gwbl amlwg yn wleidyddol eu natur. Ysgrifennais at Brif Weinidog y DU eto yr wythnos diwethaf, Llywydd, gan nodi'r prosbectws y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddo gael ei ddarparu drwy'r ymchwiliad y DU gyfan y mae Prif Weinidog y DU wedi ei addo. Byddaf i'n cyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am hynny yr wythnos hon. Byddaf i'n cwrdd â'r teuluoedd eto ddechrau mis Rhagfyr. Rwyf i o'r farn o hyd mai'r ffordd orau y byddan nhw'n cael yr atebion y maen nhw'n chwilio amdanyn nhw ac yn haeddu mynd ar eu trywydd yw drwy ymchwiliad sy'n rhoi'r profiad yma yng Nghymru o dan y microsgop, ond sy'n gwneud hynny o fewn y cyd-destun y gwnaed y penderfyniadau hynny ynddo. Dyna'r unig ffordd, rwyf i'n credu, y byddan nhw'n cael y mathau o atebion y maen nhw'n chwilio amdanyn nhw. Byddaf i'n dweud eto, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, Llywydd, os nad ydym ni'n cael y sicrwydd sydd ei angen arnom ni gan Lywodraeth y DU, yna byddai'n rhaid i ni ailfeddwl. Ond popeth y mae Prif Weinidog y DU wedi ei ddweud wrthyf i yn uniongyrchol ac y mae'r Gweinidogion sy'n gweithio ar ei ran wedi ei ddweud wrthyf yw eu bod nhw'n rhannu ein barn ni y dylai'r ymchwiliad gael ei lunio mewn ffordd sy'n darparu'r math o ymchwiliad i benderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru ond yn ei wneud mewn ffordd sy'n caniatáu i'r penderfyniadau hynny gael eu deall yn y cyd-destun ehangach y cawson nhw eu gwneud ynddo bob amser.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Prif Weinidog, hoffwn godi gyda chi y canlyniadau ofnadwy y mae ymgais Llywodraeth San Steffan i sicrhau Brexit caled yn dechrau eu cael ar ein safonau byw ni yma yng Nghymru ac ar draws yr ynysoedd hyn, a gofyn beth allai eich Llywodraeth chi, mewn cydweithrediad â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, ei wneud i berswadio'r Llywodraeth druenus hon yn Llundain i newid trywydd. Yn ei rhagolygon economaidd a chyllidol fis diwethaf, daeth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i'r casgliad, o ganlyniad i Brexit caled, y bydd masnach rhwng y DU a'r UE 15 y cant yn is na phe baem ni wedi aros yn yr UE. Mae hynny ddwywaith yr amcangyfrif o gostau hirdymor COVID. Mae'n cyfateb i £80 biliwn y flwyddyn, mwy na phedair gwaith cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru. Yn wir, mae tystiolaeth gerbron Pwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi yr wythnos hon wedi nodi ei fod yn ostyngiad o 25 y cant mewn masnach ers 2015 mewn gwirionedd. Yn anochel, bydd hyn yn effeithio ar Gymru yn fwy na mwyafrif y rhannau eraill o'r DU, o gofio dibyniaeth gymharol uwch ein heconomi ar weithgynhyrchu ac amaethyddiaeth, ac felly masnach gyda'r UE. Beth yw dull strategol Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â'r broblem hirdymor gynyddol hon?
Hoffwn ddiolch i arweinydd Plaid Cymru am y cwestiwn yna. Rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth yn werth ei ailadrodd, Llywydd, onid yw, fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, cynghorwyr y Llywodraeth ei hun, yn y cyfnod cyn y gyllideb bythefnos yn ôl, wedi dod i'r casgliad y byddai effaith Brexit o ran crebachu economi'r DU ddwywaith maint y pandemig byd-eang. Ac er bod y pandemig byd-eang yn rhywbeth y gallwn ni adfer ar ei ôl, mae effaith Brexit wedi ei llunio yn y cytundeb a wnaeth Prif Weinidog y DU—cytundeb heb, fel y byddem ni wedi dymuno ei weld, berthynas economaidd â'r Undeb Ewropeaidd a mynediad at y farchnad sengl, undeb tollau, i'w gefnogi. A'r canlyniad yw y bydd pobl yng Nghymru yn dlotach yn barhaol—yn barhaol—o ganlyniad i'r fargen a darwyd gan Brif Weinidog y DU. Ac rydym ni'n ei weld, fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru, ar draws ystod economi Cymru. Rydym ni'n ei weld yn y sector cartrefi gofal, lle nad ydym yn gallu recriwtio pobl mwyach a oedd yn gwneud gwaith mor werthfawr yma yng Nghymru. Rydym ni'n ei weld yn y prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, sy'n ffenomenon ledled y DU a lle mae'r mesurau tila a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn cael effaith ddibwys ar y gyfres honno o anawsterau. Mae gennym ni ddiwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru nad yw'n gallu gweithredu i'w gryfder llawn oherwydd tagfeydd yn y gadwyn gyflenwi, oherwydd nad yw masnach yn llifo gyda'n cymdogion agosaf a phwysicaf heb rwystrau mwyach.
Llywydd, rydym ni'n mynd i'r afael â'r sefyllfa fel Llywodraeth Cymru mewn dwy ffordd benodol. Ceir y problemau penodol sy'n cael eu hachosi ym mhorthladdoedd Cymru, yng Nghaergybi ac yn sir Benfro, gyda masnach wedi gostwng ac anawsterau newydd ar ei llwybr. Ac yn hynny o beth rydym ni'n ceisio perswadio Llywodraeth y DU i wneud y pethau a fyddai'n caniatáu i'r bont dir, y ffordd fwyaf effeithiol o gludo nwyddau rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon a'r DU ac ymlaen i Ewrop, wneud i honno weithredu eto fel yr oedd cyn i'w chytundeb gael ei daro. Ac yna, yn ehangach, rydym ni'n gweithio gydag eraill, rydym ni'n gweithio gyda'n cydweithwyr yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, i geisio rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i gynnal cysylltiadau â'n partneriaid masnachu pwysicaf ar sail parch at ei gilydd, ar y sail, os oes anawsterau mewn cytundebau y mae angen eu datrys, eich bod chi'n dod o amgylch y bwrdd, rydych chi'n gweld y sefyllfa o safbwynt y person arall yn ogystal â'ch safbwynt chi eich hun, ac yna rydych chi'n cyrraedd fformiwla sy'n arwain at welliant. Yr hyn nad ydych chi'n ei wneud yw mynd i'r afael â'r sefyllfa fel y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, lle mae popeth yn ddadl, lle mae popeth yn gyfle i ffraeo, lle mae popeth, fel y mae'n ymddangos i mi, yn gyfle i wneud sefyllfa anodd hyd yn oed yn waeth.
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am Gaergybi yn y fan yna ac, wrth gwrs, rhagwelir y bydd dimensiwn Gogledd Iwerddon anhyblygrwydd Llywodraeth y DU wrth fynd ar drywydd y Brexit caletaf posibl yn gwneud pethau yn llawer iawn gwaeth. Mae Llywodraeth San Steffan bellach yn bygwth, fel yr ydym ni'n gwybod, atal rhannau o gytundeb Gogledd Iwerddon sy'n diogelu marchnad sengl yr UE, erthygl 16 y cytundeb masnach a chydweithredu. Yn wir, hyd yn oed neithiwr, roedd Boris Johnson yn dweud y byddai ataliad o'r fath yn ddilys, yn rhesymol ac yn briodol, pan nad yw'n ddim o'r pethau hyn o gwbl wrth gwrs; mae i'r gwrthwyneb yn llwyr. Pe bai hynny yn digwydd yna, mewn ymateb, byddai'r UE yn ddi-os yn talu'r pwyth drwy atal neu wrthod anrhydeddu rhan o'r cytundeb masnach ar ôl Brexit sydd gan Brydain â'r UE, neu'r cytundeb cyfan. Byddai hynny yn gwneud ein colledion masnachu yng Nghymru hyd yn oed yn waeth, ar wahân i'r chwalfa lwyr o ymddiriedaeth a fyddai'n digwydd rhwng Prydain a'r UE. Pa gamau lliniaru ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio os bydd Llywodraeth y DU yn wir yn dilyn y trywydd hwn, sy'n ymddangos yn fwyfwy tebygol?
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, gadewch i ni obeithio na fyddan nhw'n dilyn trywydd o'r fath, oherwydd, fel y mae Adam Price wedi ei ddweud, byddai'n gwneud sefyllfa anodd hyd yn oed yn fwy niweidiol—yn economaidd, o ran masnach, ond hefyd o ran y sefyllfa ar ynys Iwerddon.
Llywydd, yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd Cymru yn cynnal cyfarfod nesaf y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Bydd yn dod â'r Taoiseach a'r Tánaiste yma i Gymru. Bydd yn dod â Phrif Weinidog yr Alban a Gweinidogion o Ogledd Iwerddon yn ogystal â'r cyfranogwyr eraill. Rwyf i wir yn gobeithio na fydd y cyfarfod hwnnw yn digwydd yn erbyn cefndir gweithredu unochrog gan Lywodraeth y DU ar erthygl 16, oherwydd bod hwnnw yn fforwm lle mae pobl, yn hanesyddol, wedi gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y pethau iawn yn cael eu gwneud, bod y cysylltiadau yn cael eu gwella nid eu niweidio. A bydd cyfleoedd yno, gan nad yw Prif Weinidog y DU yn dewis mynychu'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig mwyach, ond bydd Michael Gove yno, a bydd cyfleoedd i drafodaethau ar y materion anodd hyn gael eu cynnal yno ac osgoi'r chwalfa ymddiriedaeth y cyfeiriodd Adam Price ato.
Fel cadeirydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yr wythnos hon, felly, mae Cymru wedi bod yn gweithio'n galed yn barod a bydd yn parhau i weithio'n galed yn y cyngor i wneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r cyfle hwnnw yn y ffordd fwyaf adeiladol posibl, gan gydnabod yr amgylchiadau unigryw ar ynys Iwerddon a'r niwed a fyddai'n cael ei wneud pe bai erthygl 16 yn cael ei sbarduno.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC ychydig dros wythnos yn ôl, dywedodd eich swyddog cyfatebol yn San Steffan, Syr Keir Starmer, ei fod yn dymuno gwneud i Brexit weithio. Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi beth yw eich dealltwriaeth chi o'r ymadrodd hwnnw neu sut yr ydych chi'n ei ddehongli? A fyddwch chi'n ei gynghori, er budd pennaf Cymru, yn ogystal â'r DU, y dylai olygu, o leiaf, ailymuno ag undeb tollau a marchnad sengl yr UE?
Wel, Llywydd, rwy'n credu y bydd Syr Keir Starmer, a arweiniodd dros Lafur yn ystod misoedd hir hynny y trafodaethau ymadael, wedi bod yn cyfeirio at wahaniaeth yr oedd Llywodraeth y DU mor amharod i'w gydnabod. Mae'r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r frwydr honno ar ben. Roedd cyfle i greu perthynas economaidd newydd—ddim yn rhan o'r undeb gwleidyddol mwyach, ddim yn rhan o'r undeb cymdeithasol mwyach, ond perthynas economaidd—a fyddai wedi bod yn gwbl dderbyniol i Mrs Thatcher, a gytunodd y rhan fwyaf ohoni, ac a fyddai wedi cadw gallu busnesau yma yng Nghymru i barhau i fasnachu a pharhau i ddatblygu marchnadoedd yr oedden nhw wedi buddsoddi cymaint ynddyn nhw dros y 40 mlynedd. Roedd honno yn ddadl a wnaeth Syr Keir Starmer yn rheolaidd ac fel mater o drefn yn ystod yr holl drafodaethau hynny. Clywais ef fy hun. Cefais gyfle i fod mewn cyfarfodydd gydag ef lle y gwnaeth y pwynt hwnnw i Weinidogion y DU—y gallech chi adael yr Undeb Ewropeaidd yn yr ystyr wleidyddol, yn y ffordd yr oedd y refferendwm wedi ei benderfynu, ond nid oedd hynny yn golygu bod yn rhaid i chi niweidio eich buddiannau economaidd yn y broses. Mae'n ymddangos i mi mai ailadeiladu cyfres economaidd o drefniadau sy'n caniatáu i fasnach lifo, sy'n caniatáu i fusnesau ffynnu, yw'r uchelgais fwyaf cymedrol y byddai unrhyw un sy'n edrych ar y sefyllfa bresennol yn dymuno ceisio ei chyflawni.