3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 17 Tachwedd 2021.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gyrwyr bysiau Arriva Cymru sy'n ceisio cyflog teg? TQ580
Diolch am y cwestiwn.
Rydym yn annog datrys anghydfodau yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, ac rwy'n falch fod y trafodaethau'n parhau rhwng Arriva Cymru ac undeb Unite. Mae swyddogion trafnidiaeth yn cadw mewn cysylltiad agos â'r trafodaethau, ac rwyf wedi cyfarfod ag undeb Unite.
Rwy'n ddiolchgar am eich ateb, Weinidog. Lywydd, rwyf am ddechrau drwy ddweud fy mod, fel y gyrwyr hyn, yn aelod balch o undeb Unite. Mae'r gyrwyr hyn yn byw yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a'r peth olaf y maent yn dymuno'i wneud yw bod ar streic, ond maent yn y sefyllfa hon am fod Arriva'n talu cyfraddau gwahanol am yr un swydd, yr un swydd yn union, dafliad carreg i ffwrdd dros y ffin. Credaf fod hynny'n hurt. Mae'r gyrwyr hyn yn gyrru heibio i'w gilydd ar yr un ffyrdd.
Mae'r gwahaniaeth rhyngddynt a gogledd-orllewin Lloegr bellach wedi cynyddu o £1.81 i £2.20. Rwy’n argyhoeddedig fod y gyrwyr hyn yn iawn, ac rwy’n cefnogi eu galwadau am gydraddoldeb a thegwch. Felly, gyda hynny mewn golwg, Weinidog, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r gyrwyr hyn? Ac os caf, ac yn olaf, Weinidog, mae'n rhaid imi ddweud mai dadreoleiddio Torïaidd gan Lywodraeth dan arweiniad Thatcher a wnaeth gam â'r diwydiant ac a wnaeth gam â'n cymunedau, ac roedd ein cyd-Aelod, Ken Skates, yn ddigon dewr i ddweud hynny yn ystod ei gyfnod yn Llywodraeth Cymru. Felly, sut y gallwn sicrhau, yn y dyfodol, fod gennym weithredwyr bysiau sy'n gwasanaethu ein cymunedau a theithwyr ledled Cymru?
Diolch am eich sylw pellach. A gaf fi ddweud, wrth ddechrau, ein bod yn gobeithio y gellir osgoi gweithredu diwydiannol, er mwyn osgoi rhagor o darfu ar deithwyr? Roeddem yn falch fod yr anghydfod rhwng undeb Unite a Stagecoach yn ne-ddwyrain Cymru wedi'i ddatrys yn llwyddiannus drwy drafodaethau, ac fel y dywedaf, rydym yn falch fod y trafodaethau'n parhau ar hyn o bryd yn y gogledd, ac rydym yn gobeithio am ganlyniad tebyg. Wrth gwrs, mae gwahanol bethau dan sylw yn y ddau achos, a materion masnachol yw'r rhain yn bennaf. Ond i adleisio'r hyn a ddywedodd Jack Sargeant am effaith dadreoleiddio Ceidwadol ers y 1980au, mae'n ffactor mawr yn hyn. Ers dadreoleiddio, mae cyflogau gyrwyr bysiau wedi codi ar gyfradd arafach o lawer na'r cyfraddau cyfartalog ar gyfer galwedigaethau tebyg. Felly, mae perthynas uniongyrchol rhwng rheoleiddio a chyfraddau cyflog, a'n bwriad yw mynd i'r afael â dadreoleiddio a chyflwyno system fasnachfreinio. Hoffem weld un tocyn, un amserlen ac un pris ledled Cymru gyfan, ac yn rhan o hynny, un set o delerau ac amodau ar gyfer y gweithlu. Byddwn yn cyflwyno strategaeth fysiau a Phapur Gwyn ar fysiau yn y flwyddyn newydd, cyn cyflwyno deddfwriaeth newydd y gobeithiwn y bydd nid yn unig yn gwella'r telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu, ond hefyd yn gwneud bysiau'n ddewis llawer mwy hyfyw i fwy o bobl, fel rhan o'n hymdrechion i ymladd newid hinsawdd.
Diolch i fy nghyd-Aelod Jack Sargeant am ofyn y cwestiwn amserol hwn heddiw. Ddirprwy Weinidog, mae'r streic bresennol gan yrwyr a gyflogir gan Bysiau Arriva Cymru heb amheuaeth yn tarfu'n sylweddol ar fywydau pobl ledled gogledd Cymru, yn enwedig yr henoed a phobl agored i niwed nad oes ganddynt fathau eraill o drafnidiaeth at eu defnydd. Cytunaf â fy nghyd-Aelod, Jack, mai craidd y mater yw cyflogau sy'n gyfartal â chyflogau gyrwyr yng ngogledd-orllewin Lloegr, sy'n cael mwy o dâl yr awr na'u cymheiriaid yng ngogledd Cymru. Mae tebygrwydd rhwng hyn a'r anghydfod diweddar yn Stagecoach a ddeilliai o'r ffaith bod gyrwyr yng Nghymru yn cael llai o dâl yr awr na gyrwyr yn Lloegr, a chafodd yr anghydfod hwnnw ei ddatrys yn gyfeillgar drwy godiad cyflog o £1 yr awr. Mae'n dangos y gellir gwneud daioni ar y ddwy ochr pan fyddant yn trafod gyda hyblygrwydd ac yn ddidwyll. Nawr, gwn fod sôn wedi bod am ddyddiau Thatcher, ond gadewch inni ganolbwyntio ar 2021, gan mai dyma lle rydym ar hyn o bryd. Felly, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i annog y ddwy ochr i geisio sicrhau datrysiad cyfiawn i'r anghydfod hwn cyn gynted â phosibl, ac os na fydd hynny'n digwydd yn y tymor byr, i annog y ddwy ochr i ddefnyddio'r gwasanaethau cyflafareddu i ddatrys hyn, fel y gellir ailddechrau darparu gwasanaethau bysiau i bobl gogledd Cymru? Diolch.
Wel, ie, fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, rwy'n falch fod y trafodaethau'n parhau. Rydym yn annog ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol, a gobeithiwn y byddant yn gallu datrys yr anghydfod yng ngogledd Cymru, fel y gwnaethant yn ne-ddwyrain Cymru. Ond ni chredaf y gall Natasha Asghar anwybyddu dadreoleiddio mor hawdd. Polisi bwriadol oedd hwn gan y Llywodraeth Geidwadol ym mhobman y tu allan i Lundain. Ac mae rheswm pam fod gwasanaethau bysiau'n well yn Llundain nag yng ngweddill y wlad, gan fod gwasanaethau bysiau Llundain yn cael eu rheoleiddio yn wahanol i'n rhai ni, sy'n cyfyngu ar ein gallu i ymyrryd yn y farchnad i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu, yn hytrach na'r hyn y mae'r farchnad fasnachol yn ei bennu'n unig, a'r cyfraddau y mae'r marchnadoedd masnachol yn penderfynu eu talu, sydd wedi bod yn is ers dadreoleiddio nag ar gyfer y gweithlu yn ei gyfanrwydd. Felly, dyma ganlyniad uniongyrchol dadreoleiddio a grymoedd y farchnad rydd, y mae'r meinciau hynny'n eu dathlu ar bob cyfle posibl, ac ni allant ddianc rhag canlyniadau hynny.
Mae hon yn weithred na ellir ei hamddiffyn gan gwmni mawr sy'n rhedeg gwasanaethau gyda chymorthdaliadau cyhoeddus—ac ni ddylem anghofio hynny. Mae Bysiau Arriva Cymru wedi mwynhau monopoli, fwy neu lai, ar wasanaethau mewn rhannau o ogledd Cymru dros y blynyddoedd, ac mae'n derbyn y cymorthdaliadau hynny, wrth gwrs, gan Lywodraeth Cymru yn anuniongyrchol. Felly, hoffwn glywed bwriad cryfach gan y Llywodraeth i ymyrryd mewn rhyw fodd, gan fod y grant yn deillio o'r Llywodraeth, felly rhaid eich bod mewn sefyllfa i ystwytho'ch cyhyrau yma, ac os nad ydych, rhaid i chi allu dweud wrthym mai eich bwriad yw bodloni'r mathau hynny o ddisgwyliadau. Rydych wedi sôn yn y gorffennol am ddeddfwriaeth mewn perthynas â chaffael cyhoeddus, er enghraifft. Dyma'r math o beth y mae angen inni ei gynnwys fel mater o drefn mewn contractau yn y dyfodol. Nawr, mae'r cynnig o 29c yr awr fel codiad cyflog o gymharu â'r 39c, wrth gwrs, a roddwyd i gymheiriaid yng ngogledd-orllewin Lloegr yn golygu bod gennym wahaniaeth cyflog o £2.20 yr awr, fel y clywsom, am yrru'r un bysiau ar hyd llawer o'r un ffyrdd, ond wrth gwrs, mae pob un o'r gweithwyr hynny'n wynebu'r un argyfwng costau byw, ac maent yn weithwyr allweddol. Mae'n hawdd anghofio hynny—mae ein gyrwyr bysiau'n weithwyr allweddol. Rydym wedi canmol eu hymdrechion fel arwyr yn ystod y pandemig hwn; maent yn haeddu gwell. Ond wrth gwrs, i mi, mae hyn yn tanlinellu'r ffaith ei bod yn bryd ad-drefnu ein gwasanaethau bysiau. Rydym wedi bod ar drugaredd cwmnïau bysiau masnachol ers gormod o flynyddoedd. Felly, a ydych yn cytuno bellach, Weinidog, fod hyn yn tanlinellu'r angen i gael gwared ar gymhelliad elw preifat o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac i ddod â gwasanaethau bysiau yn ôl i ddwylo cyhoeddus?
Clywch, clywch.
Wel, edrychaf ymlaen at glywed cefnogaeth frwd Janet Finch-Saunders i ymyrraeth Llyr Gruffydd—[Torri ar draws.]—yn y farchnad. 'Y sawl sy'n talu'r delyn sy'n gofyn am y gân', meddai Janet Finch-Saunders, ac rydym yn sicr yn gwybod hynny gan ei chymheiriaid yn San Steffan, sy'n rhoi eu hunain ar log i gwmnïau preifat. Felly, i ateb pwynt Llyr yn uniongyrchol, mae clytwaith o drefniadau yng Nghymru gan ei bod yn farchnad fasnachol, marchnad fasnachol a sefydlwyd yn fwriadol gan y Ceidwadwyr drwy breifateiddio bysiau. Mae gyrwyr Arriva, yn gyffredinol, ymhlith y rhai sy'n cael eu talu orau yng Nghymru ar hyn o bryd, yn well na gyrwyr Stagecoach, lle bu anghydfod yn ddiweddar, ond nid ydynt ar gyflogau cystal â'r gyrwyr dros y ffin yng Nglannau Mersi. Felly, mae'r rhain yn faterion masnachol cymhleth, ond yn sicr, gallaf ymrwymo ein bod yn dymuno gweld cysondeb ledled Cymru, o ran darparu gwasanaethau, darparu amserlenni a thelerau ac amodau staff. Ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei gynllunio yn rhan o'r Papur Gwyn ar fysiau rydym yn gweithio arno ar hyn o bryd ac y byddwn yn ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd. O ystyried y gefnogaeth a glywn ar draws y Siambr i streic, rwy'n gobeithio y caiff y gefnogaeth honno ei hadleisio pan gyflwynir y ddeddfwriaeth.
Fe gaiff, os yw'n synhwyrol.
A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r cwestiwn amserol hwn ar fater mor bwysig? Fel Jack, rwy’n aelod balch o undeb Unite, ac ymunais innau â'r llinell biced ddydd Sul i gefnogi'r gyrwyr, sy’n cyflawni rôl mor bwysig yn ein cymunedau lleol ledled gogledd Cymru. Ni all fod yn deg fod gweithwyr yng Nghymru yn cael llai o dâl a'u gorfodi i weithio oriau hirach na'u cymheiriaid dafliad carreg dros y ffin yn Lloegr, tra bo costau byw yng nghymunedau gogledd-ddwyrain Cymru yn codi. Mae prisiau tai wedi codi cymaint â 40 y cant yno dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Enw’r depo yr ymwelais ag ef oedd Chester depot, ond mae yng Nghymru, yn talu cyflogau Cymreig, a tybed a yw hwn yn bolisi bwriadol i dorri costau? A yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn gwbl annerbyniol i gwmni sy'n derbyn arian cyhoeddus sylweddol ymddwyn mewn ffordd mor anfoesol? Yn y dyfodol, wrth edrych ar ddiwygio, mae arnom angen gwasanaethau bysiau sy'n gweithredu er budd y cyhoedd sy'n teithio, gyda'r holl elw'n cael ei ailfuddsoddi yn y ddarpariaeth o wasanaethau, yn hytrach na model masnachfreinio a fydd yn lleihau cyflogau ac amodau gweithwyr yn enw elw.
Wel, fel y cafodd y pwynt ei wneud ar draws y Siambr, mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraethau ledled y DU, wedi achub y diwydiant bysiau preifat dros y 18 mis diwethaf, a fyddai wedi mynd i'r wal fel arall o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, ac mae rhwymedigaeth ar y diwydiant bysiau i ymddwyn yn gyfrifol gan gydnabod eu bod, mewn gwirionedd, yno i wasanaethu'r cyhoedd.
Mae set gymhleth o drefniadau ar waith ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, mae gwahanol rymoedd economaidd yn chwarae eu rhan. Ac nid yw hyn yn beth newydd; mae'n sefyllfa hanesyddol fod gyrwyr Glannau Mersi wedi cael eu talu'n well yn gyffredinol na gyrwyr yn y gogledd. Felly, nid oes ateb syml i hyn, ond yn sicr, ein bwriad, drwy fasnachfreinio, yw y bydd gennym delerau ac amodau cyson ledled Cymru. Yn sicr, nid ydym o'r farn fod masnachfreinio'n ffordd o lastwreiddio hawliau gweithwyr—i'r gwrthwyneb. Ond un peth rydym yn ofalus iawn ohono, ac mae hwn yn bwynt a wnaed i mi gan undeb Unite pan gyfarfûm â hwy, yw y gallai rhai cwmnïau fod yn ceisio cadw costau'n isel ar hyn o bryd er mwyn rhoi mantais gystadleuol i'w hunain pan fydd y masnachfreintiau'n cael eu hysbysebu, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni gadw llygad barcud arno a'i gynnwys yn ein trafodaethau ar ôl inni lwyddo i gael y ddeddfwriaeth drwy'r Senedd.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.