– Senedd Cymru am 3:18 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, diweddariad ar COVID-19. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau o ran sefyllfa iechyd y cyhoedd a chanlyniad adolygiad yr wythnos diwethaf o reoliadau coronafeirws.
Ers fy niweddariad diwethaf i dair wythnos yn ôl, bu gostyngiad yng nghyfraddau cyffredinol yr haint yng Nghymru. Maen nhw wedi gostwng o'r lefelau uchel iawn a welsom ni ar ddiwedd mis Hydref, diolch i waith caled pawb ledled Cymru. Er hynny, nid ydym ni wedi cyrraedd y lan eto. Mae achosion yn parhau i fod yn niferus ledled Cymru â thua 500 o achosion fesul 100,000 o bobl, mae pobl yn parhau i gael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd COVID-19 ac, yn anffodus iawn, mae'r data diweddaraf yn dangos bod dros 250 o farwolaethau yn gysylltiedig â'r feirws wedi cael eu cofrestru yng Nghymru yn ystod y tair wythnos diwethaf.
Mae ein system gofal iechyd ni dan bwysau mawr ar hyn o bryd oherwydd y cyfuniad o bwysau'r pandemig a phwysau'r gaeaf; oherwydd cynnydd mawr mewn galwadau brys gan geisio hefyd dal i fyny â'r triniaethau a'r llawdriniaethau a ohiriwyd yn gynharach yn ystod y pandemig. Mae ein GIG ni a'n staff gofal ni'n gwneud gwaith ardderchog dan amgylchiadau eithriadol. Fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw am bopeth y maen nhw'n ei wneud bob dydd. Maen nhw'n dal i fod â rhan hanfodol yn ein hymateb ni i'r pandemig, wrth ofalu am y rhai sydd ag angen cymorth hefyd.
Bydd Cymru yn parhau i fod ar lefel rhybudd sero am y tair wythnos nesaf. Ni fydd unrhyw newidiadau pellach i'r gyfres o amddiffyniadau sydd gennym ni ar waith. Ni fyddwn ni'n ymestyn y defnydd o'r pàs COVID ymhellach ar hyn o bryd. Ond, fe fyddwn ni'n parhau i'w gadw yn ddewis i helpu i gadw busnesau lletygarwch yn agored ac yn gweithio drwy fisoedd y gaeaf a chyfnod prysur y Nadolig.
Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'r sector. Ein nod ni yw cadw Cymru ar agor a diogelu Cymru. Efallai fod achosion wedi gostwng o'r cyfraddau uchaf erioed a welsom ni ychydig wythnosau nôl, ond mae'r pandemig ymhell o fod ar ben. Mae pedwaredd don yn ysgubo ar draws Ewrop ac mae llawer o wledydd yn cyflwyno cyfyngiadau newydd i reoli ymlediad coronafeirws. Fe ddechreuodd Awstria gyfnod o gyfyngiadau symud llawn o 20 diwrnod ddoe, a bydd brechiadau COVID yn orfodol yno o fis Chwefror ymlaen. Mae'r Almaen yn ystyried dilyn eu hesiampl nhw ar ôl cyflwyno cyfyngiadau newydd ar gyfer pobl sydd heb eu brechu mewn sawl ardal. Cyflwynodd Slofacia gyfnod o gyfyngiadau symud ddoe ar gyfer y rhai sydd heb eu brechu. Mae Llywodraeth y Weriniaeth Tsiec yn cyfyngu ar y gallu i wneud defnydd o amrywiaeth o wasanaethau, ac mae gan yr Iseldiroedd gyfyngiadau symud rhannol ar waith.
Yn nes adref, mae Gweriniaeth Iwerddon wedi cyflwyno amddiffyniadau newydd yn dilyn ymchwydd o achosion. Mae'r rhain yn cynnwys cyrffyw hanner nos ar gyfer lletygarwch, gweithio gartref, ac ymestyn ei phàs COVID ar gyfer theatrau a sinemâu. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd pàs COVID yn cael ei gyflwyno ar gyfer lletygarwch, clybiau nos, digwyddiadau, sinemâu a theatrau, ac mae'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cyfyngiadau pellach i leihau'r achosion cynyddol. Yn yr Alban, mae'r Llywodraeth yn penderfynu a ddylid ymestyn ei phasbort brechlyn i gynnwys sinemâu a theatrau dan do. Rwy'n credu eu bod nhw wedi penderfynu na fyddan nhw'n gwneud felly ar hyn o bryd.
Dirprwy Lywydd, brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn pobl rhag y feirws dychrynllyd hwn, yn enwedig pan fyddwn ni hefyd yn cymryd yr holl fesurau eraill sydd ar gael i ni ddiogelu ein hunain. Rŷm ni'n dal i annog pawb sy'n gymwys i dderbyn y cynnig i gael y brechiad a'r brechiad atgyfnerthu. Rŷm ni'n gweithredu'r cyngor diweddaraf gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu i gynnig ail ddos o'r brechlyn i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed. A byddwn ni nawr yn ymestyn y rhaglen atgyfnerthu i bobl 40 i 49 oed hefyd.
Mae ein rhaglen frechu nawr yn cynnig dosau cyntaf i bawb sy'n 12 oed a throsodd ar yr egwyddor bod neb yn cael ei adael ar ôl, ail ddosau i bawb sy'n gymwys, gan gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed, trydydd dos sylfaenol i unigolion sydd â system imiwnedd wan iawn, a dosau atgyfnerthu i grwpiau cymwys, gan gynnwys pobl 40 i 49 mlwydd oed. Hyd heddiw, mae 90 y cant o oedolion cymwys wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn, ac mae 82 y cant wedi cael ail ddos. Mae mwy na 725,000 o ddosau atgyfnerthu wedi cael eu rhoi hyd yma. Mae 71 y cant o holl staff gofal iechyd y rheng flaen, tri chwarter o bobl dros 80 mlwydd oed, a 78 y cant o breswylwyr cartrefi gofal sy'n gymwys, wedi cael y brechiad atgyfnerthu.
Dirprwy Lywydd, nid yw'r arwyddion ar y cyfandir yn dda. Mae ton newydd o'r coronafeirws yn ymledu ar draws Ewrop unwaith eto, ac mae gwledydd o'n cwmpas ni yn tynhau eu cyfyngiadau nhw. Nid oes unrhyw un am weld cyfyngiadau nôl ar waith yng Nghymru dros y Nadolig, ond dydyn ni ddim chwaith am weld pobl yn mynd yn sâl gyda COVID adeg y Nadolig. Mae'r cylch tair wythnos hwn yn hanfodol. Mae angen help a chymorth pob un arnom ni i gadw'r feirws hwn o dan reolaeth wrth i ni ddechrau edrych ymlaen a chynllunio at y Nadolig.
Byddwn ni'n dal i wneud popeth allwn ni drwy ein rhaglen frechu ac atgyfnerthu rhagorol; profi'n rheolaidd mewn ysgolion a rhoi mesurau amddiffynnol eraill ar waith i gadw'r feirws allan o'n hysgolion ni; defnyddio'r pàs COVID mewn rhai lleoliadau; hunanynysu os bydd gan rywun rŷm ni'n byw gyda nhw COVID-19; a chymryd yr holl gamau syml sy'n ein cadw ni i gyd yn ddiogel, sef golchi dwylo yn rheolaidd, gwisgo masgiau, a chadw pellter cymdeithasol pan fo hynny'n bosibl.
Mae'r gostyngiad yn y cyfraddau ers yr adolygiad diwethaf yn gadarnhaol iawn, ond rhaid inni wneud mwy eto. Gadewch inni i gyd weithio gyda'n gilydd. Gadewch inni i gyd ddiogelu Cymru. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am y copi ymlaen llaw o'r datganiad, a werthfawrogwyd yn fawr? Rwyf innau'r un mor hapus ein bod ni'n gweld y cyfraddau COVID hynny wedi gostwng yng Nghymru. Mae hynny'n newyddion cadarnhaol, er mai gostyngiad ydyw hwn o gyfradd uchel iawn, iawn o achosion ac, wrth gwrs, rwyf innau'n pryderu hefyd o ran cyfradd, yn drist iawn, y marwolaethau oherwydd COVID.
Tybed a gaf i ofyn rhai cwestiynau i ddechrau, Gweinidog, am basbortau brechlyn. Y rhan fwyaf brawychus, i mi, o'ch datganiad chi heddiw oedd eich bod chi'n cadw'r dewis ar y bwrdd o gyflwyno pasiau COVID ar gyfer y sector lletygarwch. Mae hyn yn arbennig o ofidus, yn fy marn i. Yn eich datganiad chi, Gweinidog, rydych chi'n dweud y byddwch chi'n parhau i weithio gyda'r sector, felly beth maen nhw'n ei ddweud wrthych chi? Beth mae'r sector lletygarwch yn ei ddweud wrthych chi o ran cyflwyno pasiau COVID ar gyfer eu sector nhw, a beth maen nhw'n ei ofyn i chi, hefyd? Yn y gorffennol, pan fyddwn i'n codi mater y gost ychwanegol, yr ateb a gefais i, yr ymateb, oedd, 'Wel, os ydych chi am fynd i theatr neu sinema, yna mae'n rhaid i chi ddangos dogfennau felly ni ddylai fod yna unrhyw waith ychwanegol yn hynny o beth.' Mae hyn yn wahanol i'r sector lletygarwch. Os ydych chi'n rhedeg caffi neu fwyty neu ryw elfen arall o'r sector lletygarwch, fe fydd angen staff ychwanegol arnoch chi, o bosibl, i fod ar y drws, ac wrth gwrs fe geir problem ar hyn o bryd o ran denu staff i ddod i weithio yn y sector lletygarwch, heb sôn am y gost sydd ynghlwm wrth hynny. Gan fod y dewis hwn yn aros ar y bwrdd, a wnewch chi amlinellu pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Gweinidog yr economi a'r Gweinidog cyllid o ran cymorth ariannol ychwanegol i'r sector lletygarwch, pe byddech chi'n dewis ymestyn y pasiau COVID yn y cyswllt hwn? Rwy'n gobeithio yn fawr na wnewch chi ddim, am yr holl resymau yr amlinellais i'n flaenorol.
O ran tystiolaeth, roeddech chi'n cyfeirio yn eich datganiad chi heddiw at y cyfraddau o achosion mewn rhannau o Ewrop, mewn rhai gwledydd ar gyfandir Ewrop. Mae cyfraddau'r achosion yn cynyddu ar gyflymder brawychus. Mae rhai o'r gwledydd hynny, wrth gwrs, wedi bod â phasiau COVID ers peth amser, felly fe ddylai'r data fod ar gael os yw'r dystiolaeth yn bresennol. Rwy'n sylweddoli bod amser eto cyn i'r pasbort brechlyn ymsefydlu yng Nghymru, ac efallai nad yw'r data ar gael eto, ond rwyf i o'r farn ei bod hi'n arbennig o hanfodol i ni fod â'r dystiolaeth cyn gynted â phosibl o ran effeithiolrwydd pasiau COVID, yn enwedig gan fod nifer o astudiaethau wedi dangos bod pobl sydd wedi cael dau frechiad yr un mor debygol o drosglwyddo COVID â phobl sydd heb eu brechu. Felly, mae hi'n bwysicach fyth fod gennym ni dystiolaeth sy'n cefnogi pasiau COVID, os ydych chi o'r farn mai honno yw'r ffordd briodol ymlaen, nid fy marn i, wrth gwrs.
Gweinidog, os caf i ofyn am frechiadau gorfodol, yn eich datganiad chi, roeddech chi'n iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at y ffaith bod cyfyngiadau symud llawn wedi dechrau ddoe yn Awstria, ac fe fydd brechiadau yn orfodol yno o fis Chwefror, ac mae gwledydd eraill yn ystyried yr un peth hefyd. Rwyf i'n gwbl wrthwynebus i frechiadau gorfodol. Rwy'n credu mai dyna safbwynt Llywodraeth Cymru a'ch safbwynt chwithau hefyd. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n cadarnhau ai honno yw'r sefyllfa neu beidio. Rwy'n sicr yn cytuno â chi mai brechu yw ein hamddiffyniad gorau ni yn erbyn y feirws ofnadwy, ac rwy'n credu y dylem ni i gyd fod yn annog pawb i gael y brechiad oherwydd hynny, ond fe fyddai eich barn chi am frechu gorfodol o werth mawr i ni.
Canolfannau brechu cerdded i mewn ar gyfer brechiadau atgyfnerthu—rwy'n credu mai honno yw'r ffordd gywir ymlaen, yn arbennig felly wrth i ni ymdrin â'r grwpiau hynny o oedran iau. Rydych chi eich hun yn dweud eich bod chi'n dymuno annog pobl i gael eu brechu. Rwy'n cytuno â hynny. I wneud hynny, rwy'n credu bod angen canolfannau galw i mewn arnom i, yn arbennig wrth i ni droi at y grwpiau oedran iau hynny, oherwydd fe fydd y grwpiau oedran iau hynny mewn amgylcheddau gwaith, ac mae angen i ni ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl gael y brechiadau atgyfnerthu hyn. Nawr, yn flaenorol, rydych chi wedi dweud nad ydych chi'n cefnogi'r dull hwn, a bod hynny'n golygu ysgarmes. A ydych chi o'r un farn o hyd? Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n amlinellu pa fyrddau iechyd yng Nghymru sy'n ystyried neu wedi cyflwyno canolfannau cerdded i mewn oherwydd rwy'n credu bod y sefyllfa yn amrywio o ran yr hyn sy'n digwydd ledled Cymru. Felly, yng nghyd-destun eich barn chi ynglŷn â phryderu eu bod nhw'n golygu ysgarmes, a hefyd, bod rhai byrddau iechyd yn gweithredu canolfannau galw i mewn a rhai eraill heb fod yn gwneud felly, fe fyddai eich barn chi yn hynny o beth yn cael ei gwerthfawrogi.
Ac, yn olaf, fel chwithau, rwy'n siŵr, mae gennyf i bryderon mawr, wrth gwrs, am gyflwr presennol y GIG yng Nghymru. Y mis diwethaf, fe welsom ni'r amseroedd aros gwaethaf erioed mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yr amseroedd ymateb gwaethaf erioed i ambiwlansys, y rhestrau aros hwyaf am driniaeth a welwyd erioed—bron i 9,500 o bobl yn aros mwy na 12 awr am driniaeth frys. Mae hynny'n golygu 2,000 yn fwy o bobl yng Nghymru na Lloegr gyfan, ac o ystyried bod Lloegr 16 gwaith yn fwy o faint, mae honno'n sefyllfa bryderus. Mae gennym ni un o bob pedwar claf yn aros dros flwyddyn am driniaeth o'i gymharu ag un o bob 19 yn Lloegr. Felly, mae'r staff, fel dywedwch chi, yn gwneud gwaith ardderchog, Gweinidog iechyd, a'r hyn sydd ei angen arnyn nhw, wrth gwrs, yw cymorth i wneud eu gwaith. Felly, rwy'n bryderus iawn, fel rydych—
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn nawr gan fod eich amser chi ar ben.
Rwy'n dod at fy nghwestiwn olaf, Dirprwy Lywydd. O ran amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a llawer yn aros hyd at 36 awr, a fyddech chi'n rhoi manylion i mi, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â'ch cynllun chi i gefnogi staff rhagorol ein GIG ni o ran byrhau'r amseroedd aros hynny, a'r gwelyau ychwanegol sydd eu hangen i leihau'r gwaith sydd wedi pentyrru fel y gwelsom ni i'r fath raddau, o ran ambiwlansys yn aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai?
Wel, diolch yn fawr Russell. Mae'n rhaid i mi ddweud, o ran y pasbort brechlynnau, y byddwn ni, fel ym mhopeth arall, yn cadw'r holl ddewisiadau ar y bwrdd. Rwyf i o'r farn y byddai hi'n anghyfrifol i ni, yn enwedig pan welwn ni'r cyfraddau ar y cyfandir yn llamu, beidio â chadw pob dewis ar y bwrdd. Felly, fe fydd y dewis hwnnw'n parhau i fod ar y bwrdd. Rydym ni'n parhau â'n trafodaethau ni gyda'r sector. Mae hi'n wir ein bod ni'n clywed negeseuon cymysg, a dweud y gwir yn onest, oddi wrth y sector. Mae hi'n amlwg bod rhai'n llai brwdfrydig ynglŷn â'r posibilrwydd o basbortau brechlynnau, ond mae llawer o bobl eraill yn dweud, 'Edrychwch, os dyna'r hyn y bydd hi'n ei gymryd i'n cadw ni ar agor dros y Nadolig, yna fe fyddwn ni'n croesawu hynny.' Felly, mae hi'n well ganddyn nhw fod â sicrwydd o wybod beth yw'r sefyllfa debygol, a chadw yn agored yw'r hyn y maen nhw'n canolbwyntio arno'n wirioneddol.
Yn fy marn i, ynglŷn â'r sefyllfa ar y cyfandir, ei bod hi'n amlwg bod amrywiolyn delta yn eu taro nhw'n llawer hwyrach nag y trawyd ni ag ef. Felly, fe wyddom ni fod mantais o 70 y cant gan amrywiolyn delta dros amrywiolyn alpha, a dyna pam mae'n mynd yn llawer mwy trosglwyddadwy nawr ar y cyfandir, mewn gwirionedd. Ac mae yna ddigon o dystiolaeth i ddangos bod cyrchfannau dan do, lle mae llawer o bobl yn ymgynnull, yn fwy tebygol o weld ymlediad y feirws. Felly, mae yna ddigon o dystiolaeth i gefnogi'r achos hwn. Ac, felly, dyna'r hyn yr ydym ni'n cadw ein llygaid ni arno.
Nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau i fod â brechiadau gorfodol. Rydym ni'n falch iawn o'r ffaith bod y cyhoedd yng Nghymru wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i'r rhaglen frechu. Mae 91 y cant o bobl dros 16 oed yma wedi cael y brechiad cyntaf; mae 86 y cant o bobl dros 16 oed wedi cael yr ail ddos. Ac rwy'n credu ei bod hi'n rhaid i ni gadw hyn mewn cof trwy'r amser. Pan fyddwn ni'n poeni o hyd am y sefyllfa o ran y pàs COVID—mae 86 y cant o'r cyhoedd wedi cael eu brechu, gyda'r ddau frechiad. Y lleiafrif sy'n gwneud llawer o sŵn yn hyn o beth, ac rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus iawn ein bod ni'n gwrando nid yn unig ar leisiau'r lleiafrif, ond ein bod ni'n diogelu'r mwyafrif sydd wedi cerdded gyda ni ar y daith hon, sy'n deall y sefyllfa ac yn amgyffred eu cyfrifoldeb nhw i bobl eraill. Ac rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n colli golwg ar hynny.
Nid ysgarmes yw'r cynllun brechu yng Nghymru, o ran y brechiadau atgyfnerthu, nage ddim; rydym ni'n gweithredu rhaglen gynhwysfawr iawn ac rydym ni'n galw pobl yn eu trefn, rydym ni'n dilyn yr un drefn gyda'r rhaglen hon ag a wnaethom ni gyda'r brechiadau cyntaf. Yn amlwg, gyda brechlyn Pfizer y mae hi'n fwy cymhleth oherwydd mae'n rhaid i bobl aros am 15 munud ar ôl iddyn nhw gael eu brechu. Felly, mae hon yn rhaglen fwy cymhleth ac anodd. Ac, yn amlwg, mae gennym ni lawer o wahanol raglenni brechu yr ydym ni'n ymgymryd â nhw yn gydamserol hefyd. Mae hon yn gymysgedd gymhleth iawn, iawn yr ydym ni'n ceisio ei gweini hi ar hyn o bryd.
Ac, wrth gwrs, rydym ni'n fwy nag ymwybodol o'r pwysau sydd ar y GIG ar hyn o bryd, a dyna pam rydym ni, yn arbennig, o ran gwasanaethau brys—rydym ni wedi rhoi £25 miliwn ychwanegol mewn gofal brys. Rydym ni'n datblygu'r canolfannau gofal sylfaenol brys hyn; rydym ni'n gorffen sefydlu 111 o ganolfannau galwadau; rydym ni'n datblygu mwy o ganolfannau Gofal Brys ar yr Un Diwrnod i osgoi mynediadau i ysbytai; ac rydym ni'n gweithredu llawer mwy o ryddhau i asesu. Felly, mae'r holl bethau hynny'n cael eu gwneud gyda'n rhaglen chwe nod, ac, wrth gwrs, at hynny, rydym ni wedi dod â'r fyddin i mewn i'n helpu ni gyda'r gwasanaeth ambiwlans, ac rydym ni'n canolbwyntio yn wirioneddol ar fregusrwydd ein gwasanaeth gofal ni.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y datganiad. Mae'r sefyllfa yn dal yn amlwg yn ddifrifol, er fy mod i'n falch o weld y ffigurau yn mynd i lawr rhywfaint, o ran niferoedd, ac o ran y gyfradd positifrwydd hefyd. Ond y prynhawn yma, dwi'n meddwl yn benodol am Ffion Parry, merch 10 oed o Amlwch, yn fy etholaeth i, sydd wedi bod yn sâl iawn yn ysbyty Alder Hey, ar ôl i'w chorff hi ymateb yn wael iawn i'r feirws yma. Dwi'n dymuno'n dda iddi hi a'i theulu. A dyna pam rydym ni yn cymryd y feirws yma o ddifrif o hyd, a dyna pam bod angen i bob un ohonom ni, ym mhob plaid yn fan hyn, fod yn ddifrifol yn ein hymateb iddo fo o hyd.
Ydw, dwi'n deall rhwystredigaeth pobl ein bod ni yn dal yn wynebu rhai mesurau sydd yn cael impact ar ein bywydau bob dydd ni. Ond dwi'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran pob gwleidydd, pawb sy'n gwneud deddfau a rheoliadau, ein bod ni'n edrych ymlaen at gael gwared ar y deddfau a'r rheoliadau hynny mor fuan â phosib, ond dydyn ni ddim ar y pwynt hwnnw eto.
Ambell fater i'w codi gen i rŵan. Y cyntaf: diffyg cysondeb efo darparu'r booster. Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ddweud yn gynharach wrthyf y bydd swyddog yn edrych ar y sefyllfa yn fy etholaeth i—Caergybi ac Amlwch—lle mae yna niferoedd llawer is nag mewn ardaloedd cyfagos wedi cael y booster. Dwi eisiau gwybod beth sy'n digwydd yn fanno. Ond mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sicrwydd am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau cysondeb yn lefel y booster sy'n cael ei rhoi ym mhob rhan o Gymru.
Yn ail: brechu ydy'r amddiffyniad gorau, rydyn ni'n gwybod, ond dwi'n dal yn bryderus bod yna ddiffyg gweithredu ar rai o'r pethau mwyaf sylfaenol eraill yna sy'n ein cadw ni yn ddiogel. A, phan dwi'n gweld lluniau neu'n clywed adroddiadau am drenau gorlawn a phobl ddim yn gwisgo masgiau o gwmpas gemau rygbi'r penwythnos, mae'n amlwg bod yna dal ddiffyg enforcement ac ati yn mynd ymlaen. Ac mi fyddwn i'n gwerthfawrogi clywed pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i drio mynd i'r afael â rheini, ac mewn ysgolion hefyd. Hynny ydy, mater dwi wedi codi tro ar ôl tro: beth sy'n mynd i fod yn cael ei wneud, wrth inni fynd mewn yn ddyfnach i'r gaeaf, i gryfhau polisïau awyru ac agor ffenestri a ballu mewn ysgolion i gadw plant ac athrawon a staff yn ddiogel?
Os caf i droi at basys, rydyn ni wedi trafod, dwi'n meddwl, y trafferthion mae pobl wedi eu cael—llawer o bobl—i gael trwodd i'r rhif ffôn canolog i ofyn am bàs papur. Dwi'n gwerthfawrogi'r datganiad ysgrifenedig a gafodd ei roi mewn llythyr gan y Gweinidog y bore yma, yn egluro y bydd yna ragor o gapasiti yn cael ei greu. Dwi'n edrych ymlaen at glywed bod hynny'n gweithio, oherwydd os ydy pàs COVID yn rhywbeth synhwyrol, mewn egwyddor, mae'n rhaid iddo fo weithio yn ymarferol hefyd.
Ond un pwynt yn benodol iawn: mae yna bryderon gan bobl sy'n cefnogi'r egwyddor am sut mae o'n gweithredu yn ymarferol. Dwi wedi sôn wrth y Gweinidog yn barod am un sinema, lle'r oedd yna rwystredigaeth fawr am orfod troi pobl i ffwrdd—nain a thaid yno efo’u gwyrion yn methu dod i mewn, oherwydd eu bod nhw wedi methu cael y pàs ar bapur. Roedd ganddyn nhw eu prawf o frechu ac eisiau gallu defnyddio hwnnw i ddod i mewn. Doedd dim posib caniatáu hynny. Gofyn oedd y sinema, tybed a oedd yna fodd arall i allu defnyddio prawf o fod wedi cael brechiad ynghyd â phrawf ID, er enghraifft? Dwi'n gwybod, wrth gwrs, byddai rhywun yn gallu cael prawf llif unffordd, a byddai hynny'n ffordd fyddai'n osgoi gorfod aros am y pàs COVID. Ond, mae'n amlwg bod yna ddiffyg dealltwriaeth o hyd; mae'n amlwg bod angen help pellach ar nifer o sefydliadau er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu cadw pethau'n dynn, fel y maen nhw'n dymuno ei wneud. Felly, gaf i ofyn: beth ydy'r cymorth ychwanegol yna mae'r Gweinidog a'r Llywodraeth yn gallu ei gynnig i'r sinema yna ac i sefydliadau eraill ar draws Cymru, sydd yn wirioneddol eisiau gallu cefnogi hwn a chydweithio efo fo, ond jest yn cael ychydig bach o drafferth weithiau?
Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg iawn gen i i glywed am sefyllfa Ffion, ac rŷn ni i gyd yn cofio amdani a gobeithio'r gorau iddi hi. A dwi'n meddwl bod hwnna'n bwynt pwysig i'w wneud: does dim un ohonom ni'n gwybod sut rŷn ni'n mynd i ymateb pan rŷn ni'n cael coronafeirws, a dyna pam mae mor bwysig ein bod ni'n cael y brechlyn os ŷn ni'n cael cynnig y brechlyn. Felly, dwi'n falch o weld bod cymaint o bobl wedi cymryd y cyfle i wneud hynny. Ar wahân i'r bobl sydd eisoes yn wan yn gorfforol a phobl sydd â phroblemau meddygol eisoes, mae canran fawr iawn o'r 58 o bobl sydd mewn gofal critigol yn ein hysbytai yn bobl sydd heb gael y brechlyn. Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni feddwl am ein cyfrifoldeb ni fel unigolion i feddwl am y pwysau sydd ar ein hysbytai ni ar hyn o bryd. A phan mae 10 y cant o'r gwelyau yn ein hysbytai ni'n ymwneud â COVID, dwi yn meddwl bod yn rhaid inni ofyn cwestiynau i bob un sydd ddim yn cymryd y cyfle i gael y brechlyn i ofyn, 'Ble mae'ch cyfrifoldeb chi i ni sydd, efallai, angen defnyddio'r NHS ar gyfer pethau eraill hefyd?'
O ran enforcement, mae yn bwysig ein bod ni'n sicrhau, os rŷm ni'n dod i mewn â'r rheolau newydd hyn, mae'n bwysig bod enforcement yn cael ei wneud. A dyna pam rŷm ni'n cael trafodaethau cyson gyda'r heddlu, gydag, er enghraifft, y bobl sy'n gyfrifol am drenau a bysys a gyda llywodraeth leol, ac mae hynny'n digwydd yn aml iawn. Byddwch chi wedi gweld bod rhywun yn Abertawe ddim eisiau defnyddio pasys ar gyfer sinema; mae'n werth dweud fy mod i wedi cael ymateb gan Ben yn Snowcat Cinema, a beth yr oedd e'n dweud wrthyf oedd, ers inni gyflwyno'r pàs COVID—
—ers i ni gyflwyno'r pàs COVID, yn ei sinema ef, mae wedi gweld y gwerthiant yn codi'n aruthrol; a bod pobl, mewn gwirionedd, yn llawer mwy cyfforddus ynghylch mynd i'r sinema nawr, maen nhw'n teimlo yn fwy diogel ac maen nhw'n gofyn, 'A gawn ni gadw'r mesurau hyn pan fyddwch chi'n eu disodli nhw—? Os ydych chi am eu datgymalu nhw, fe fyddem ni'n hoffi parhau â'u gorfodi nhw'. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl yn clywed y neges honno; bod y cyhoedd, mewn gwirionedd, yn ymateb yn gadarnhaol iawn ac yn dweud, 'Rwyf i'n teimlo yn fwy diogel. Mae eich lle chi'n un y byddaf yn ymweld ag ef.'
Rwy'n ymwybodol iawn o'r capasiti yn y system o ran y gwasanaeth ffôn os nad yw pobl yn gallu lawrlwytho'r pàs. Dyna pam yr ydym ni'n rhoi llawer mwy o adnoddau i mewn i hynny ac yn sicrhau bod nifer y llinellau ffôn, er enghraifft, yn cynyddu. Felly, mae'r holl waith hwnnw'n digwydd. Ac, wrth gwrs, fel rydych chi'n dweud, mae hi'n bosibl i bobl ddefnyddio'r prawf llif unffordd os nad yw hynny ar gael iddyn nhw. Felly, rwy'n gobeithio bod hynna wedi bod o gymorth. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Fe fyddaf i'n siarad â llawer iawn o bobl ac yn cael llawer iawn o negeseuon e-bost, fel pawb arall yn y fan hon, ac mae hi'n wir fod pobl yn cefnogi'r cyfyngiadau hynny sydd gennym ni ar hyn o bryd a'r rhai hynny yr ydym ni'n eu gweithredu nhw. Ac rwyf i wedi cael negeseuon hefyd yn sôn bod pobl yn teimlo erbyn hyn eu bod nhw'n gallu mynd allan a mwynhau eu bywydau ychydig yn well oherwydd y pasiau COVID hyn, a'u bod nhw'n nerfus iawn i wneud hynny ynghynt. Ond ar y llaw arall, wrth gwrs, rwy'n deall nad yw pobl yn eu cefnogi nhw; eu bod nhw'n awyddus i'r holl gyfyngiadau ddod i ben. Serch hynny, mae'r ffigurau yn dangos y sefyllfa wirioneddol o ran ymlediad yr haint hwn a'r feirws hwn, a dim ond edrych o amgylch Ewrop y mae'n rhaid i ni wneud i weld beth yn union sy'n digwydd.
Felly, o ran gofyn cwestiwn i chi, rydych chi'n awgrymu—ac fe wnaethoch chi hynny eto heddiw—y gallai hi fod yn bosibl y bydd yn rhaid i ni ehangu'r pàs COVID i feysydd eraill lle nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Pryd fyddech chi'n gwneud y penderfyniad hwnnw? Beth fyddai'r sbardun i'ch gorfodi i wneud penderfyniad?
Diolch yn fawr iawn, Joyce. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, mai un o'r pethau y gallai hi fod yn werth i bob un ohonom ni ei ystyried yw defnyddio iaith wahanol yn hyn o beth. Rydym ni'n dal i siarad am gyfyngiadau. Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni ddechrau siarad am amddiffyniadau, oherwydd dyna'r hyn yr ydym ni'n ei roi ar waith—amddiffyniadau. Rydym ni'n ceisio diogelu'r cyhoedd yma rhag coronafeirws. Felly, dyna rywbeth yr wyf i'n sicr am geisio ei ddefnyddio yn fy nhrafodaethau i'r dyfodol.
Yn sicr, o ran y pàs COVID ac unrhyw ehangu posibl arno, wrth gwrs, fe wneir hynny yng nghyd-destun yr adolygiad 21 diwrnod yr ydym ni'n ei gynnal bob tair wythnos. Y sbardun ar gyfer hynny fyddai, fel pob amser, y potensial a'r posibilrwydd y bydd y GIG yn cael ei orlethu wrth i ni fynd i mewn i gyfnod y gaeaf. Felly, hwnnw'r yw'r sbardun i ni bob amser: a all y GIG ymdopi?
A dweud y gwir, nid ydym ni wedi gweld y ffliw yn ymaflyd ynom ni mewn gwirionedd gyda'r math o rym yr oeddem ni'n ei ddisgwyl. Rydym ni'n dal i aros, ac mae hi'n bosibl iddi hi fynd felly. Ond fe fyddwn ni'n cadw llygad ar bethau. Mae tua 10 y cant o'r gwelyau sydd gennym ni mewn ysbytai ar hyn o bryd yn cael eu llenwi â chleifion COVID. Nawr, mae hynny'n gryn nifer o bobl. Yn amlwg, mae angen i ni gadw llygad ar y sefyllfa honno, ond mae hyn yn ymwneud hefyd â chadw llygad ar y GIG yn fwy eang. Mae honno'n sefyllfa bwysig. Diolch.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac am roi briff i Aelodau'r pwyllgor iechyd amser cinio heddiw. Fel yn y diweddariadau blaenorol, rwyf i'n awyddus i ganolbwyntio ar y sector gofal yn fy nghwestiynau i, gan fod y pandemig wedi effeithio yn fawr ar y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal a'u teuluoedd nhw. Diolch byth, mae rhaglen frechu lwyddiannus yn y DU wedi golygu y gellir ymweld â chartrefi gofal unwaith eto.
Gweinidog, sut mae eich Llywodraeth chi am sicrhau y bydd preswylwyr cartrefi gofal yn parhau i gael ymweliadau gan eu hanwyliaid nhw, ac yn gallu mynd i ymweld â nhw hefyd? Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i gyflymu'r rhaglen brechiad atgyfnerthu ar gyfer staff a phreswylwyr cartrefi gofal? Mae rhai cartrefi gofal ledled y DU yn gofyn am brawf o frechu erbyn hyn i ymwelwyr â chartrefi gofal. A yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei gyflwyno?
Yn olaf, Gweinidog, ochr yn ochr â COVID—ac rydych chi wedi sôn am hyn yn fyr yn eich ateb i Joyce Watson—mae'r ffliw. Fe fydd y ffliw yn fygythiad mawr y gaeaf hwn i'r rhai sydd mewn gofal. A wnewch chi gyhoeddi cyfraddau brechu rhag y ffliw ar gyfer staff a phreswylwyr cartrefi gofal, yn ogystal ag amlinellu'r camau yr ydych chi'n eu cymryd i roi hwb i gyfraddau brechu? Diolch yn fawr iawn i chi.
Diolch, Gareth. Fel chwithau, rwyf i'n cadw llygad barcud ar y sector gofal, fel gwnaiff fy nghyd-Aelod Julie Morgan—gan bryderu llawer iawn am y berthynas rhwng cartrefi gofal ac ysbytai ac mae'r llifeiriant yn hynny o beth yn hanfodol i gadw'r system gyfan yn gweithio. Mae gennym ni ganllawiau eglur iawn o ran ymweld â chartrefi gofal. Felly, caiff pob un o'r rhain eu nodi, ac mae'r wybodaeth honno i'w gweld ar ein gwefan ni. Mae hynny'n cynnwys y ffaith bod angen i ymwelwyr gymryd prawf llif unffordd cyn iddyn nhw ymweld â chartref gofal. Felly, mae'r cyfleuster hwnnw ar waith eisoes.
Mae tua 77 y cant o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu brechiad atgyfnerthu. Roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi taro nod ein hamserlen arfaethedig ni, sef i gynnig brechiad atgyfnerthu i bob un o'r preswylwyr hynny mewn cartrefi gofal erbyn 1 o fis Tachwedd. Fe wnaethom ni gyrraedd y garreg filltir honno, felly roeddwn i'n falch iawn o weld hynny. Fe allaf i ddod o hyd i'r cyfraddau brechu rhag y ffliw ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal, ond mae hi'n amlwg mai dyna un o'r lleoedd cyntaf yr awn ni o ran cyflwyno'r brechlyn ffliw. Ond rwyf i am ddweud hyn, a hynny yw nad ydym ni'n gweld yr un niferoedd ymhlith y cyhoedd ledled Cymru o ran brechu rhag y ffliw ag y gwnaethom ni'r llynedd. Fe fyddwn i'n annog pobl i fanteisio ar y cyfle hwnnw, oherwydd nid ydym ni'n gwybod beth sydd o'n blaenau ni, ac mae angen i bob un ohonom gymryd o ddifrif yr amddiffyniadau sydd ar gael i ni.
Ac yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch. Diolch yn fawr iawn i chi wir. Pa obaith y gallwch chi ei roi i'r etholwyr sydd wedi cysylltu â mi yn dweud eu bod nhw wedi cael un brechiad yn Lloegr ac un yng Nghymru, ac, er iddyn nhw gael eu taflu yma ac acw am wythnosau, maen nhw'n parhau i fethu â chael eu pàs COVID nhw am na allan nhw ddangos eu bod nhw wedi cael y ddau frechiad? A pha obaith y gallwch chi ei roi i'r nifer cynyddol o etholwyr sydd wedi cysylltu â mi i ddweud wrthyf i eu bod nhw wedi cael gwybod na fydd y brechiad atgyfnerthu yng Nghymru yn cael ei gynnwys ar eu pàs COVID nhw ar gyfer teithio dramor, er bod Ffrainc a gwladwriaethau eraill yr UE yn dweud y bydd yn rhaid i bobl o'r DU ddangos eu bod nhw wedi cael y brechiad atgyfnerthu naill ai i gael mynediad i'r wlad neu i gael mynediad i fwytai a lleoliadau lletygarwch?
Diolch yn fawr iawn i chi. Wel, o ran brechiadau yng Nghymru ac yn Lloegr, mae hynny'n fy synnu i'n fawr fod yna gymaint o broblem oherwydd, mewn gwirionedd, rydym yn rhannu'r data gyda'n gilydd. Felly, pe byddech chi'n ysgrifennu ataf i am yr achos penodol hwnnw, rwy'n fwy na pharod i ymdrin â hynny. Mae'r pàs COVID yn system sy'n cael ei rhannu, felly rydym ni'n gwneud hynny ar y cyd â Lloegr.
O ran teithio dramor a'r brechiad atgyfnerthu, ni chawsom ni wybod, rwy'n credu, tan yr wythnos diwethaf y byddai Lloegr yn diweddaru hynny. Ni chawsom ni gyfle cyn hynny i ofyn am gael gwneud hynny ar yr un pryd â nhw. Ar ôl iddyn nhw ddweud wrthym ni, fe wnaethom ddweud, 'Er mwyn popeth, rhowch y cyfle hwnnw i ni.' Felly, fe fyddan nhw'n rhoi'r cyfle hwnnw i ni. Rwy'n gobeithio, erbyn diwedd yr wythnos nesaf, y bydd hynny ar waith, felly fe ddylen nhw allu dangos ar eu pàs COVID nhw eu bod nhw wedi cael y brechiad atgyfnerthu hefyd.
Diolch, Weinidog. Galwaf ar Joel James.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am roi cyfle i mi gywiro'r cofnod. Mae hyn yn ymwneud â'r datganiad busnes yn gynharach. Fel gwyddoch chi, rwyf i'n gynghorydd, ac fe anghofiais i grybwyll hynny pan siaradais i. Diolch i chi.
Wel, mae hynny ar y cofnod nawr. Diolch yn fawr iawn i chi.
Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Hoffwn atgoffa Aelodau, os ydych chi’n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Ac yn olaf, dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.