– Senedd Cymru am 3:44 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Croeso nôl. Wrth symud ymlaen, mae gennym y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bil diogelwch cladin. Galwaf ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7828 Rhys ab Owen, Mike Hedges, Peter Fox
Cefnogwyd gan Jane Dodds, Mabon ap Gwynfor
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau diogelwch cladin ar adeiladau yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau diogelwch preswylwyr drwy sicrhau bod cladin diogel ar gael ar adeiladau.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau'r ddadl hon drwy ddyfynnu Non a Gwenallt Rees, sy'n byw nid nepell o'r fan hon:
'Pam ŷn ni, perchnogion fflatiau, yn gyfrifol am wynebu costau anferthol datrys problemau cladin a grëwyd gan eraill?'
A dwi'n credu bod modd i ni, bob un ohonom ni, gytuno gyda hynny. Dim lan iddyn nhw yw e i dalu am gamgymeriadau eraill.
Heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, mae cannoedd, os nad miloedd, fel Gwenallt a Non Rees, yn wynebu costau yswiriant enfawr, taliadau gwasanaeth a biliau i ymdrin â'r sgandal cladin. Mae llawer yn dioddef straen meddyliol oherwydd eu bod yn poeni y gallent fod yn byw mewn adeilad anniogel ac na allant symud. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o'r trigolion hyn yn ystod fy chwe mis yma yn y Senedd, ac mae'r straen yn amlwg ar wynebau cynifer ohonynt. Dywedodd un wrthyf ei fod yn gorwedd yn y gwely yn y nos nid yn unig yn poeni am gostau ariannol enbyd, ond hefyd yn arswydo am ddiogelwch ei anwyliaid.
Felly, diolch o galon i'r Aelodau hynny yn drawsbleidiol sydd wedi cyd-gyflwyno'r ddadl yma gyda mi, sef Peter Fox a Mike Hedges, ac i'r Aelodau hefyd sydd wedi cefnogi'r ddadl, sef Mabon ap Gwynfor a Jane Dodds. Mae hyn yn dangos yn glir fod yna gefnogaeth amlwg fan hyn, yn drawsbleidiol, yn y Senedd i gefnogi Gwenallt a Non a'r miloedd eraill sydd yn yr un sefyllfa. Hoffwn i hefyd ddiolch i ddau arall: diolch i David Melding ac i Leanne Wood, dau wnaeth godi'r mater yma yn gyson yn y pumed Senedd. Ac rwy'n hynod o falch bod y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cynnwys diogelwch adeiladu. Mae yna egwyddorion hollbwysig yn y cytundeb yma. Rwy'n falch bod diwygio sylweddol ar y system diogelwch adeiladau yn rhan o'r cytundeb. Fel mae'r cytundeb yn ei ddweud, mae'r system bresennol wedi caniatáu, dro ar ôl tro, diwylliant o dorri corneli ar draul diogelwch y cyhoedd.
Rwyf hefyd yn falch i glywed am gyflwyno ail gam cronfa diogelwch adeiladau Cymru, ac edrychaf ymlaen at ddarllen y manylion yn fuan. Pryd, felly, Gweinidog, y bydd preswylwyr yn clywed am fanylion yr ail gam? A phryd fydd arian y cam cyntaf yn cael ei ryddhau? Ac a fydd yr arian hynny yn cynnwys costau archwilio sydd wedi cael eu talu yn barod?
Mae'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth yn gam positif ymlaen, ond mae angen datrysiad buan i hyn. Mae dros bedair blynedd o boen meddwl, o ddiffyg cwsg, o bwysau ariannol, yn gadael eu hôl ar breswylwyr. Mae'n rhaid i hyn ddirwyn i ben. Roeddwn yn siarad ag un person heddiw gyda'i wraig yn dioddef o ganser; dylen nhw ddim fod yn gorfod poeni am hyn hefyd.
Hoffwn gydweithio gyda Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i geisio am rymoedd i gyflwyno treth ar hap ar enillion datblygwyr mawr. Byddai'r arian hynny yn y dyfodol yn gallu talu am ganlyniadau adeiladu gwael, am adeiladwyr yn torri corneli, yn hytrach na gadael i breswylwyr i ymladd brwydr hir a chostus ar eu pennau'u hunain.
Mae'r sgandal cladin yn enghraifft berffaith o sut y mae'r setliad datganoli yn gwneud cam â phobl Cymru ar hyn o bryd. Mae'r trigolion yn teimlo fel pe baent yn rhan o gêm ping-pong rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru. Maent yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt. Rydym eisiau sicrwydd y bydd yr arian a gyhoeddwyd gan Robert Jenrick, pan oedd yn Weinidog tai yn gynharach eleni, y £3.5 biliwn, yn cael ei ystyried yn wariant y DU, ac felly y byddwn ni, yng Nghymru, yn cael cyfran ohono. A yw Gweinidog Cymru wedi cael ateb i hynny eto? Ond os bydd yn fater i Lywodraeth Cymru, yn y grant bloc ychwanegol o £2.3 biliwn, o ganlyniad i'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, gyda swm canlyniadol a yw'r Gweinidog yn meddwl y bydd yn ddigon i ddatrys y sgandal cladin yma yng Nghymru?
Rwy'n mawr obeithio y byddwn yn dilyn model Awstralia—dull Awstralia—lle mae'r Llywodraeth yn ad-dalu eu costau i lesddeiliaid yn gyntaf ac yna'n hawlio'r costau hynny'n ôl gan gyflogeion. Yn amlwg, mae gan y Llywodraeth bŵer, mae ganddi ddylanwad, nad oes gan lesddeiliaid.
Yn olaf, mae'r sgandal wedi taflu goleuni ar holl fater hawliau lesddeiliaid. Onid yw'n hen bryd inni roi diwedd ar y crair hwn o'r gorffennol, y system hynafol hon, fel y maent wedi'i wneud yn yr Alban, Iwerddon ac ar draws y byd? Edrychaf ymlaen at Fil Cymru a fydd yn dod â'r sgandal cladin hon yng Nghymru i ben o'r diwedd. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Rhys ab Owen am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ac am fy ngwahodd i gefnogi ei gynnig deddfwriaethol? Rwy'n falch iawn o weld cefnogaeth drawsbleidiol i'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, a chredaf fod hyn yn tanlinellu pa mor ddifrifol yw'r mater hwn i bob un ohonom ar draws y Siambr.
Mae fy nghyfraniad i'r ddadl yn canolbwyntio ar faterion sy'n wynebu nifer o fy etholwyr ac y maent wedi'u dwyn i fy sylw. Wrth ddweud hyn, hoffwn nodi'r holl waith a wnaed gan fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, sy'n arwain ar ddiogelwch adeiladau ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Fel rwyf wedi sôn, Ddirprwy Lywydd, mae nifer o etholwyr sy'n berchen ar eiddo yn natblygiad Celestia ym Mae Caerdydd wedi cysylltu â fy swyddfa i fynegi eu pryderon ynghylch maint y problemau cladin sy'n wynebu preswylwyr. Yn wir, yn ôl yr hyn a ddeallaf, gofynnwyd yn ddiweddar i rai preswylwyr dalu tâl gwasanaeth o hyd at £20,000 y flwyddyn nesaf er mwyn dechrau gwaith atgyweirio ar y datblygiad. Bydd angen y lefel hon o gymhorthdal am nifer o flynyddoedd er mwyn cyflawni'r gwaith parhaus y bydd ei angen i sicrhau diogelwch yr adeilad. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn cytuno bod hyn yn eithriadol o annheg. Bydd llawer o'r preswylwyr yn methu fforddio talu unrhyw beth yn debyg i'r lefel honno o dâl gwasanaeth, ac ni ddylent orfod talu'r bil am rywbeth nad yw'n fai arnynt hwy. Yn y cyfamser, mae etholwr arall wedi dweud nad ydynt yn gallu gwerthu eu heiddo oherwydd y problemau hyn, ac mae wedi cael effaith sylweddol ar eu cynlluniau ymddeol. Mae eu harian wedi'i glymu yn yr hyn y maent yn eu galw'n 'gartrefi diwerth'.
Nawr, deallaf fod hwn yn fater cymhleth sy'n galw am gydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, felly rwy'n credu y byddai'r Aelodau'n gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau diweddar y gallai'r Gweinidog fod wedi'u cael gyda'i swyddogion cyfatebol ar draws y DU ar y mater hwn. Mae preswylwyr wedi dweud wrthyf fod angen sefydlu cronfa adeiladu yng Nghymru ar frys, fel y gall datblygiadau fel Celestia ddechrau gweithio i fynd i'r afael â'u diffygion tân ac adeiladu. Weinidog, a allwch gadarnhau a yw'n fwriad gennych i ddarparu cymorth ariannol yn uniongyrchol i breswylwyr i'w cynorthwyo i dalu costau parhaus a phryd y bydd y cymorth hwn ar gael?
Yn y pen draw, fodd bynnag, mae angen gweithredu i atal y pethau hyn rhag digwydd eto. Mae gwir angen inni weld deddfwriaeth newydd sydd nid yn unig yn tynhau'r rheolau ynghylch defnyddio cladin ond sydd hefyd yn sicrhau bod y datblygwyr yn cadw'r cyfrifoldeb cyfreithiol dros fynd i'r afael â diffygion o ganlyniad i gynllun ac adeiladwaith adeilad.
I gloi, hoffwn nodi geiriau etholwr sydd wedi rhoi caniatâd imi ddyfynnu eu teimladau ar y mater hwn. Maent yn dweud,
'Mae iechyd meddwl preswylwyr yn cael ei niweidio. Ym mis Ionawr 2022, bydd niwed i'n waledi hefyd o ganlyniad i gynnydd o 200 y cant yn y tâl gwasanaeth. Mae'r cais chwyddedig hwn yn debygol o barhau am oddeutu pum mlynedd. Y canlyniad: bydd pobl yn colli eu cartrefi, bydd pobl yn colli eiddo a brynwyd i ddarparu pensiwn, a chofiwch mai'r unig bobl sy'n dioddef yw'r rhai diniwed.'
Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig pwysig hwn. Diolch.
Nid wyf am ailadrodd unrhyw beth a ddywedodd Rhys na Peter, ond bu farw 72 o bobl o ganlyniad i drychineb Tŵr Grenfell. Adroddwyd yn gynharach eleni fod arolygon o adeiladau uchel ledled y DU, yn dilyn y tân, wedi dangos bod cladin llosgadwy a diffygion diogelwch tân yn achosi problemau mewn adeiladau uchel eraill—mewn llawer o adeiladau uchel eraill. Amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru y gallai fod angen gwaith adfer ar draean o adeiladau uchel ledled y wlad, gyda diffygion yn amrywio o fod yn rhai mân i fod yn rhai sylweddol. Ar hyn o bryd ceir 148 o adeiladau preswyl uchel ledled Cymru.
Mae'r ymchwiliad cyhoeddus a ddilynodd y digwyddiad yn Nhŵr Grenfell wedi datgelu mai un o'r prif resymau pam y lledaenodd y tân oedd y math o gladin a ddefnyddiwyd ar du allan yr adeilad. Yn fy etholaeth i, dywedir wrthyf y bydd taliadau gwasanaeth preswylwyr South Quay yn SA1 yn cynyddu mwy na £450,000 rhyngddynt i dalu am waith cladin ac yswiriant. Fodd bynnag, amcangyfrifwyd y bydd y gost o unioni pob problem ar draws y safle yn y blynyddoedd i ddod yn fwy na £3 miliwn.
Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Gweinidog yn flaenorol, sef mai'r datblygwyr sydd wedi gwneud miliynau ar filiynau o bunnoedd o'r adeiladau hyn a ddylai dalu. Yn anffodus, adeiladwyd rhai ohonynt gan Carillion, sydd wedi mynd i'r wal erbyn hyn, ac efallai fod eraill wedi'u hadeiladu gan gwmnïau eraill neu gwmnïau cyfrwng un diben nad ydynt yn bodoli mwyach.
Mewn dau le yn fy etholaeth i, datblygiadau'r Copper Quarter ac SA1, mae pryder difrifol ynglŷn â chladin. Mae pobl sy'n berchen ar eiddo yn pryderu am eu diogelwch a'r gostyngiad trychinebus yng ngwerth eu heiddo, y prynwyd llawer ohono ar forgais ac sy'n mynd yn anodd iawn eu gwerthu, os nad yn amhosibl. I lawer o'r bobl yr effeithiwyd arnynt, problem cladin yw'r broblem fwyaf yn eu bywydau.
Nid problem i Gymru'n unig yw hi, a bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r heriau cymhleth sy'n wynebu adeiladau amlfeddiannaeth ledled y Deyrnas Unedig. Mae hon yn broblem drwy Brydain gyfan, a bydd yn rhaid i'r cyllid ddod gan Lywodraeth San Steffan. Ers gormod o amser, mae preswylwyr adeiladau yr effeithiwyd arnynt wedi colli'r hawl i deimlo'n hyderus yn niogelwch eu cartrefi a'r gallu i symud ymlaen, i werthu eu cartrefi, i symud i rywle arall; rhywbeth y mae'r gweddill ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, ac os oes gennym dŷ neu adeilad, gallwn ei werthu, gallwn brynu rhywle arall wedyn; gallwn naill ai brynu rhywle mwy neu rywle llai. Ni all y bobl hyn wneud hynny; maent yn methu symud, ac maent yn teimlo'n ddiflas iawn, a gallaf ddeall pam eu bod yn teimlo'n ddiflas. Ac mae pobl yn siarad llawer am iechyd meddwl yma. A allwch chi feddwl am unrhyw beth a fyddai'n effeithio ar eich iechyd meddwl yn waeth na bod mewn sefyllfa lle mae gennych ddyled enfawr, dyled rydych yn ei thalu, ond ni allwch wneud unrhyw beth â hi? Ni allwch ddatrys problem y ddyled, mae gennych ecwiti negyddol sylweddol ac ni allwch weld ffordd allan, ond mae biliau ychwanegol yn debygol o ddod i chi. Rwyf wedi cael dynion a menywod mewn oed yn crio ar y ffôn oherwydd yr effaith y mae hyn yn ei chael arnynt. Mae'n broblem go iawn sy'n effeithio ar bobl go iawn. Mae'n rhaid gwneud rhywbeth. Rydym angen cyllid gan San Steffan a chodi tâl ar gwmnïau adeiladu i fynd i'r afael â'r broblem ddifrifol hon, ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hi, neu fel arall bydd llawer o bobl mewn cyflwr gwael iawn.
Diolch yn fawr iawn i ti, Rhys, os caf i, Ddirprwy Lywydd, ddiolch iddo fo am ddod â'r ddadl yma ger ein bron ni heddiw. Diolch hefyd, wrth gwrs, i Mike Hedges a Peter Fox am gefnogi'r ddadl.
Mae gennym ni yma, yn syml, fater o gyfiawnder sylfaenol, onid oes? Pwy ddylai dalu am y gwaith o arbrofi ac ail-wneud yr adeiladau mawr yma sydd yn bygwth iechyd a diogelwch y bobl sy'n byw ynddyn nhw? Ai'r preswylwyr, y tenantiaid i berchnogion, ddylai dalu drwy gynnydd yn eu rhent? Ai'r deilwyr les, pobl a brynodd y fflatiau yn ddiarwybod o'r problemau cyn bod y problemau hynny'n dod yn hysbys? Ai perchnogion yr adeiladau? Beth amdanom ni drethdalwyr, drwy'r Llywodraeth? Ynteu ai’r rheini a adeiladodd yr adeiladau yn y lle cyntaf ddylai dalu am hyn? Bedair blynedd ar ôl trychineb Grenfell, rydyn ni'n dal i ymrafael â'r cwestiwn yma.
Rŵan, yn anffodus, mae trachwant a hunanoldeb rhai yn golygu nad ydyn nhw'n fodlon cydnabod bai a chymryd cyfrifoldeb am y gwendidau sylweddol yma sydd yn bygwth iechyd a bywyd pobl. Heddiw, mae yna gannoedd os nad miloedd o bobl yn dioddef poen meddwl aruthrol wrth iddyn nhw feddwl am ddiogelwch eu cartrefi, neu wrth boeni am sut maen nhw am dalu'r gost o addasu eu cartrefi a hwythau heb fai o fath yn y byd am ganfod eu hunain yn y sefyllfa yma.
Ar ben hyn, does gan y Llywodraeth ddim data clir am faint o adeiladau yn union sydd angen gweithio arnyn nhw, heb sôn am faint o bobl sy'n cael eu heffeithio. Ond o ran manylion unrhyw ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â diogelwch cladin, mae’n werth nodi nad oes yna fesurau statudol i asesu system waliau allanol nac ychwaith ddogfen er mwyn cadarnhau diogelwch tân adeilad cyn belled ag y mae cladin yn y cwestiwn. Dydy hynny ddim yn bodoli ar hyn o bryd. Dyma fethiannau sylfaenol y gall y Llywodraeth fynd i'r afael â nhw heb orfod dibynnu ar San Steffan i'w hysgogi. Mae'n resyn bod yna bedair blynedd wedi mynd heibio ers trychineb Grenfell ac nad ydy'r Llywodraeth wedi dod â Bil gerbron y Senedd eto, a bod y Llywodraeth bellach yn dibynnu ar Geidwadwyr San Steffan i'w gwthio i weithredu. Mae gan Gymru'r hawl i weld ei deddfwriaeth ei hun efo llais rhanddeiliaid Cymreig yn ganolog i lunio'r ddeddfwriaeth honno. Dyna pam fy mod i'n cefnogi'r cynnig yma gan Rhys ab Owen heddiw. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Rhys a phobl eraill sy'n cefnogi hyn.
A gadewch i ni ddechrau gyda'r unigolion, oherwydd hwy sy'n bwysig ynghanol hyn i gyd. Fel y mae Rhys, Mike a Peter wedi'i ddweud, mae'n ymwneud â phobl, pobl fel y lesddeiliaid yn South Quay yn Abertawe, sy'n wynebu cynnydd o hyd at £4,000 y flwyddyn yn eu tâl gwasanaeth; pobl fel y lesddeiliaid yng Nghaerdydd, sy'n wynebu costau o hyd at £8,000 y flwyddyn, ac mae'r ffigur hwnnw'n debygol o godi yn anffodus; pobl sy'n teimlo eu bod yn aros i rywun weithredu wrth i'r costau godi, ac sy'n teimlo bod eu bywydau ar stop. Nawr, dychmygwch y straen a'r effaith ar iechyd meddwl y bobl hynny. Mae'n sicr y tu hwnt i fy nychymyg i.
Yn fyr iawn, hoffwn ddweud fy mod yn deall bod Llywodraeth Cymru yn dweud mai datblygwyr sy'n gyfrifol am hyn ac nid y pwrs y wlad, ond nid yw hynny'n help o gwbl i'r bobl y gwyddom amdanynt—y bobl yn y fflatiau sydd mewn sefyllfa ansicr iawn. Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried y model sydd gan Awstralia ar hyn o bryd a amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod, Rhys, oherwydd mae hon yn broblem mewn gwledydd heblaw Cymru a'r DU. Gallwn ddysgu, gallwn edrych ar yr hyn sy'n gweithio yno. Gadewch inni sicrhau ein bod yn meddwl am y bobl hynny a'r unigolion hynny. Gadewch inni fabwysiadu model Awstralia—rhoi'r arian, adennill y costau'n ddiweddarach—oherwydd dyna y dylem ei wneud. Mae angen inni ddiogelu'r bobl hynny a'u hiechyd meddwl. Diolch yn fawr iawn.
Mae dros bedair blynedd a phum mis wedi mynd heibio ers y trychineb anffodus a dinistriol yn Nhŵr Grenfell, lle bu farw 72 o bobl. Nawr, mae trigolion ledled Cymru yn byw mewn ofn mewn fflatiau hyd heddiw. Felly, bedair blynedd ers y drasiedi, tra'n cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu arolygon diogelwch tân ar gyfer adeiladau aml-feddiannaeth dros 11 metr, sut y gallai'r Gweinidog Newid Hinsawdd ddatgan
'ni wyddom eto faint yn union o adeiladau yr effeithiwyd arnynt ac i ba raddau'?
Credaf fod hynny'n sgandal. Ar y nawfed ar hugain, ailadroddodd y Gweinidog, a dyfynnaf,
'ni wyddom eto faint yn union o adeiladau y mae diffygion diogelwch tân yn effeithio arnynt ac i ba raddau.'
Rydych chi'n dal i'w wthio i'r naill ochr. Yn fy marn i, dyma'n union a ddywedoch chi, Jane, ac mae eraill wedi'i fynegi'n huawdl yma heddiw. Nid yw'r sefyllfa hon yn mynd i ddiflannu yn sgil rhethreg gan Weinidog Llywodraeth Cymru, ac mae'n ofid mawr imi feddwl y gallai hyn gael ei ddefnyddio'n wleidyddol hyd yn oed drwy ddweud, 'Rydym yn aros am Lywodraeth y DU.' Mae angen gwybodaeth o'r fath yn awr i roi strategaeth effeithiol ar waith. Felly, byddwn yn falch pe bai'r Gweinidog yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r mater hwn ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd sy'n cael ei wneud ar gael y ffigurau a'r manylion ynglŷn â graddau'r diffygion.
Mae hyn, i mi, bron fel ailadrodd sgyrsiau a gawsom yn y Senedd hon yn ystod y tymor diwethaf pan siaradais am faterion o'r fath. I'r holl Aelodau newydd sydd yma, mae'n eithaf trist ein bod yn ailadrodd yr angen inni wneud hyn. Ar gyfer un bloc, amcangyfrifwyd mai cyfanswm cost y gwaith atgyweirio, gan gynnwys ailosod cladin, yw £60,000 y fflat. Rwyf wedi siarad â phobl sy'n byw yn yr adeiladau hyn, ac maent yn dweud eu bod yn mynd i'r gwely'n ofni am eu bywydau ac ni allant gysgu, sydd eto'n cadarnhau'r hyn rydych chi wedi'i ddweud, Jane, am broblemau iechyd meddwl. Gwyddom fod consensws trawsbleidiol ynglŷn â'r angen i sicrhau nad yw'r baich ariannol yn disgyn ar y preswylwyr. Mae osgoi canlyniad o'r fath yn fater cymhleth, ond rwy'n ymwybodol fod y Gweinidog wedi cael cyfarfod bord gron gyda datblygwyr y mis diwethaf, felly byddai manylion am y canlyniad hwn yn ddefnyddiol, Weinidog.
Byddai'r cynnig deddfwriaethol hwn yn gyfle allweddol inni allu deddfu i sicrhau bod y baich hwn, i sicrhau bod cladin diogel ar gael ar adeiladau, yn gyfrifoldeb ar y datblygwr yn hytrach na'r lesddeiliad. Gallai hefyd fod yn fodd o archwilio ymhellach y cynnig o gynllun prynu allan i gefnogi lesddeiliaid yr effeithir arnynt gan ddiogelwch adeiladau ac y byddai'n well ganddynt werthu eu heiddo. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio y bydd Rhys, Mike, Peter a Jane hefyd yn cytuno bod angen i ddeddfwriaeth fynd ymhellach eto a rhoi sylw i faterion diogelwch megis rhannu'n unedau ar wahân. Dechreuodd y Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau y broses hon, ond er bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben ar 12 Ebrill eleni, mae gwefan Llywodraeth Cymru yn adrodd heddiw ddiwethaf
'Mae’r ymatebion yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, ac rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb ohonynt ac ymateb y Llywodraeth yn ystod hydref 2021.'
Mae angen i'r Aelod ddod i ben yn awr.
Rydych yn cael fy nghefnogaeth, ond tybed a ellid ymgorffori'r cynnig ar gyfer y Bil diogelwch cladin yn y gwaith parhaus ar ddiogelwch adeiladau. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae adfer adeiladau preswyl uchel sy'n anniogel yn sicr yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae cladin llosgadwy yn un rhan o hynny. [Anghlywadwy.]
Weinidog, rydym wedi colli eich sain. Mae wedi'i adfer. A ydych am—? Clywsom y frawddeg gyntaf, ond dyna ni.
O'r gorau. Nid wyf yn gwybod beth sy'n digwydd yno. A allwch chi fy nghlywed i yn awr?
Gallwn.
O'r gorau. Felly, dechreuais drwy ddweud bod adfer adeiladau preswyl uchel sy'n anniogel yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae cladin llosgadwy yn un rhan o hynny. Rydym yn gyson—[Anghlywadwy.]—ac mae'n iawn—. A yw wedi mynd eto?
Mae rhywbeth yn bod. Roedd yn dod yn iawn ac yna fe wnaethom eich colli eto. Rwy'n credu nad yw eich meicroffon uwch eich pen yn helpu.
Nid yw uwch fy mhen, mae yn y fan hon. Beth bynnag, fe dynnaf fy nghlustffonau a gweld a allaf wneud unrhyw wahaniaeth gyda hynny. A yw hynny'n well neu'n waeth?
Mae'n well.
Iawn, fe roddaf gynnig arni fel hynny. Mae safle adeiladu ychydig y tu allan i fy ystafell yma, felly rwy'n gobeithio nad oes gormod o sŵn yn y cefndir.
Felly, roeddwn yn dweud ein bod wedi dweud yn gyson nad lesddeiliaid a greodd y problemau a nodwyd, ac mae'n iawn i'r rhai sy'n gyfrifol dalu i'w hunioni. Ym mis Hydref 2020 ysgrifennais lythyr agored at ddatblygwyr i'r perwyl hwnnw, ac ym mis Hydref eleni cyfarfûm â nifer o ddatblygwyr, gyda chynghorau lleol, i drafod eu cynlluniau ar gyfer adfer adeiladau sydd â diffygion diogelwch. Rydym yn falch iawn fod nifer o ddatblygwyr Cymreig wedi neilltuo arian ers hynny i ailosod cladin a mynd i'r afael â gwaith diogelwch tân arall ar eiddo yng Nghymru. Mae'n galonogol gweld bod yr ymrwymiad, mewn rhai achosion, yn ymestyn y tu hwnt i'r cladin yn unig lle bo angen er mwyn gwneud yr adeiladau hynny'n ddiogel, a'u bod hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am adeiladau o dan 18 metr. Fodd bynnag, mae'n destun gofid nad yw rhai o'r datblygwyr mawr sy'n gyfrifol am yr adeiladau hyn wedi cymryd rhan yn y broses honno ac nad ydynt eto wedi ymateb i hynny, felly byddaf yn cysylltu â hwy eto i geisio eu gorfodi i ddod at y bwrdd, er nad oes gennym bwerau ar hyn o bryd i allu eu gorfodi i wneud hynny.
Rhoesom Reoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019 ar waith hefyd, a daethant i rym ym mis Ionawr 2020. Mae'r rheini'n gwahardd gosod deunyddiau llosgadwy ar y tu allan i adeiladau preswyl uchel, ysbytai a chartrefi gofal. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas ag ACM nad yw'n cydymffurfio, fel y'i gelwir—cladin deunydd cyfansawdd alwminiwm—fel yr hyn a welwyd ar Dŵr Grenfell. Rydym eisoes wedi gweld yr holl ACM anniogel yn cael ei dynnu oddi ar y rhan fwyaf o adeiladau uchel yng Nghymru, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar yr adeiladau sydd ar ôl.
Ond gwyddom nad cladin yw'r unig fater sy'n codi o ran diogelwch adeiladau. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir fod angen i'n dull o weithredu fod yn gwbl gyfannol, gan ymdrin â llu o faterion fel rhwystrau tân, rhannu'n unedau ar wahân, llwybrau dianc rhag tân, ac yn y blaen. Gwyddom fod yr effeithiau'n sylweddol ar lesddeiliaid a phreswylwyr. Rwyf wedi cyfarfod y bersonol â nifer fawr iawn ohonynt dros fisoedd lawer, a gwyddom fod hyn yn cael effaith yn ariannol ac ar les, fel y dywedodd yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi preswylwyr a lesddeiliaid ac rydym yn gweithio'n galed i ddatblygu'r opsiynau hynny. Agorwyd ein datganiadau o ddiddordeb ar gyfer cronfa diogelwch adeiladau Cymru ar 30 Medi. Rydym wedi cael ymhell dros 100 o ymatebion i hynny hyd yma. Byddant yn nodi'r mesurau a'r camau gweithredu sydd eu hangen i wneud yr adeiladau amlbreswyl mor ddiogel ag y gallant fod, a diogelu bywydau ac eiddo. Nid ydym wedi cyfyngu hynny i adeiladau dros 18 metr; rydym wedi tynnu hynny i lawr islaw hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cynnwys yr holl bobl yr effeithir arnynt, ac rydym yn bwriadu cynnig pecyn cymorth i lesddeiliaid a phreswylwyr a fydd yn caniatáu iddynt deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi a gwneud penderfyniadau am y dyfodol.
Rydym hefyd yn awyddus iawn i wneud cyhoeddiadau pellach ar gam nesaf y gronfa pasbort diogelwch adeiladu, ond fel y gwyddoch i gyd, mae'r adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi bod yn siomedig i Gymru. O ran y symiau canlyniadol, ni wnaeth Llywodraeth y DU ei gwneud yn glir fod swm canlyniadol yn deillio o sylwadau Robert Jenrick cyn iddo gael ei ddiswyddo o'r Cabinet, ac wrth gwrs cafwyd adolygiad cynhwysfawr o wariant bellach, felly mae hynny i gyd wedi'i aildrefnu, ac mae'n amhosibl bwrw ymlaen â hynny. O ystyried faint o arian a gawsom drwy'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, gwyddom yn sicr nad ydym wedi cael y lefel o arian canlyniadol y byddem wedi'i ddisgwyl.
Serch hynny, rydym yn bwrw ymlaen â'n cynlluniau diogelwch adeiladau. Rydym yn gobeithio cael syrfewyr ar safleoedd ym mis Ionawr ar gyfer yr holl adeiladau sydd wedi mynegi diddordeb yn hyn. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r diwydiant adeiladu a'r diwydiant yswiriant i sicrhau bod gennym syrfewyr sy'n gallu gwneud yr arolygon hyn a'r ffrwd waith yn ei lle a'r contractwyr ar gael. Wrth inni ddeall beth yw maint y gwaith adfer sy'n angenrheidiol ar gyfer yr adeiladau hyn, byddwn yn gallu edrych ar faint o gyllid sydd gennym. Rydym wedi dyrannu rhywfaint o arian ar ei gyfer, ond y gwir yw nad ydym yn gwybod beth yw maint yr anhawster ym mhob un o'r adeiladau, ac yn anffodus, ni cheir un ateb sy'n addas i bawb; bydd gan bob adeilad ei set gwbl wahanol a chymhleth ei hun o broblemau'n galw am eu hunioni. Rydym hefyd yn gweithio i gwblhau manylion cynllun prynu allan i helpu'r rhai sydd yn yr amgylchiadau anoddaf o ganlyniad i'r problemau hyn. Rwy'n gobeithio cyhoeddi hynny'n fuan i'r Senedd.
Mae maint y broblem yn enfawr. Mae pob adeilad yn wahanol, ac yn syml iawn, nid wyf yn gwybod a yw'r cyllid yn ddigon. Nid oes unrhyw ddiben i Janet Finch-Saunders fy meirniadu am y peth—ni allaf greu ffigur o ddim—ac yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid wyf yn cyhoeddi pethau er mwyn gwneud iddo ymddangos yn well heb wneud dim byd yn ei gylch mewn gwirionedd. Mewn adolygiadau o wariant yn unig y cawn glywed beth yw cyfanswm y newid o setliadau adrannau Whitehall, felly nid oes gennyf unrhyw fanylion am newidiadau unigol i raglen y DU. Byddaf yn codi hynny gyda fy Ngweinidogion cyfatebol yn y DU cyn gynted ag y gallaf gyfarfod â hwy.
O ran diwygio cyfraith lesddaliad, bydd y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Sylfaenol) sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd yn lleihau rhenti tir ar brydlesoedd newydd i fod yn daliad hedyn pupur, ac rydym yn gweithio ar Fil i'w gyflwyno yn nes ymlaen yn Senedd y DU i weithredu'r diwygiadau eang i lesddaliadau a gynigir gan Gomisiwn y Gyfraith, diwygiadau y mae rhai ohonynt wedi'u datganoli mae'n wir, ond dim ond rhai, ac mae angen newid y pethau nad ydynt wedi'u datganoli hefyd er mwyn helpu lesddeiliaid.
Ar y dreth ffawdelw, cawsom anhawster gwirioneddol i gael Llywodraeth y DU i gytuno â ni am dreth ar dir gwag hyd yn oed, felly nid oes wybod pa mor hir y bydd yn cymryd iddynt wneud hyn. Ac ar yr un pryd, mae'n rhaid inni fod yn siŵr, drwy osod treth ffawdelw ar ddatblygwyr yng Nghymru, nad ydym yn eu gyrru dros y ffin i Loegr. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gymorth ariannol i helpu i ariannu gwaith adfer mewn ffordd sy'n deg i'r lesddeiliaid ac i drethdalwyr, ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar dreth ffawdelw ar draws y diwydiant adeiladu yng Nghymru, gyda'r arian yn dod i Gymru.
Y peth olaf roeddwn am ei ddweud, Ddirprwy Lywydd, yw y bydd y Bil diogelwch adeiladu rydym yn ei gyflwyno yn unioni'r holl broblemau o'r pwynt hwnnw ymlaen. Rydym yn gweithio gyda chynghorau ar hyn o bryd i sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod pobl yn ddiogel yn eu cartrefi, a bod gennym yr amddiffyniadau a'r diogelwch tân cywir yn ei le ar eu cyfer. Ond fel y dywedais droeon yn y Siambr hon ac rwy'n ei ailadrodd un tro olaf, nid lle i fyw yn unig yw cartref ym Mhrydain—mae'n aml yn fuddsoddiad, a'r anhawster yw adfer yr adeiladau mewn ffordd sy'n cadw pobl yn ddiogel heb iddynt golli eu buddsoddiad, oherwydd mae gennyf bob cydymdeimlad â'r sefyllfa y maent ynddi. Ac mae hynny, ni waeth beth fydd unrhyw un yn ei ddweud wrthych i'r gwrthwyneb, yn beth anodd a chymhleth iawn i'w wneud, ac rydym yn gweithio'n gyflym i weithio ein ffordd drwy'r materion cymhleth hynny.
Rwy'n falch iawn fod cefnogaeth drawsbleidiol i hyn, ac rwy'n falch iawn o fod wedi cael y ddadl hon yn y Siambr.
Galwaf ar Rhys ab Owen i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n falch o glywed am y Bil diogelwch adeiladau a gyflwynir yn y Senedd hon. Gobeithio y gellir gwneud hynny'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Rwyf hefyd yn falch o glywed y bydd syrfewyr ar safleoedd ym mis Ionawr, ond rwy'n siomedig iawn ynglŷn â dau beth—un yw'r ffaith nad yw'r datblygwyr mawr yn barod hyd yn oed i ystyried trafod gyda chi, Weinidog. Mae hynny'n siomedig iawn, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cadw hynny mewn cof wrth ystyried polisi caffael, oherwydd os nad ydynt yn fodlon trafod hyd yn oed, dylid bod cosbau am hynny gan nad hwy yw'r math o ddatblygwyr y dylem fod yn gweithio gyda hwy.
Yr ail siom enfawr sy'n amlwg o'ch atebion yw'r ffordd y mae'r berthynas rynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi chwalu, ac edrychaf ar fy nghyd-Aelodau yma a chyd-Aelodau ar y meinciau Llafur. Mae angen datrys hyn, oherwydd dim ond un grŵp sydd ar eu colled, sy'n dioddef oherwydd hyn, sef y lesddeiliaid eu hunain. Mae angen inni ddatrys hyn. Gweithiwch gyda'ch gilydd, er mwyn dyn.
Peter Fox, diolch am eich cefnogaeth. Diolch am godi'r mater hwn cyn hyn yn y Senedd. Gwn fod y preswylwyr yn hapus iawn, a chytunaf na ddylai datblygwyr gael osgoi cyfrifoldeb. Fe sonioch chi am gyfarfod â phobl o Celestia; cyfarfûm â hwy eto heddiw. Roedd ganddynt degell gyda hwy. 'Pam ar y ddaear fod ganddynt degell gyda hwy?' meddyliais. Y rheswm am hynny yw eu bod o'r farn glir fod gan berson sy'n prynu tegell fwy o hawliau defnyddiwr, mwy o amddiffyniad, na lesddeiliad. Wel, mae hynny'n hollol frawychus.
Fel y dywedodd Mike Hedges, mae bywydau pobl ar stop. Ni all teuluoedd ifanc, teuluoedd sy'n tyfu, symud. Ni all pensiynwyr sydd ar yr wythfed llawr symud. Nid yw'n ddigon da.
Gofynnodd Mabon ap Gwynfor, 'Pwy sy'n gyfrifol?' Wel, ie, trachwant rhai yn creu poen meddwl i eraill. Ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael y ddeddfwriaeth Gymreig mae'r Gweinidog wedi sôn amdani cyn gynted â phosib.
Soniodd Jane Dodds hefyd am fywydau pobl ar stop, ac fe wnaeth ein hatgoffa eto mai pobl sydd yn y canol yn hyn i gyd.
Cytunaf â Janet Finch-Saunders—mae angen inni wybod beth yw'r nifer. A chytunaf fod diogelwch tân yn llawer mwy na chladin yn unig, fel y soniodd y Gweinidog hefyd.
Dwi'n gobeithio—dwi'n gweld bod yr amser yn fy nghuro i, ond dwi'n gobeithio’n fawr y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r ddadl hon. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.