– Senedd Cymru am 4:28 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Croeso nôl, a'r eitem nesaf yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: 'Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio'. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.
Diolch. Cafodd 'Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio' ei chyhoeddi ar 7 Hydref, yn dilyn rhaglen helaeth o ymgysylltu â phobl hŷn a'u cynrychiolwyr. Mae'r strategaeth yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru sydd o blaid pobl hŷn, sy'n cefnogi pobl o bob oed i fyw a heneiddio'n dda. Mae'r strategaeth yn herio stereoteipiau, sy'n rhagfarnllyd ar sail oedran, o bobl hŷn fel derbynwyr goddefol iechyd a gofal cymdeithasol, ac rwy'n pryderu y gallai'r pandemig fod wedi helpu i ymwreiddio stereoteipiau o'r fath ym meddyliau pobl. Mae'n rhy hawdd anwybyddu'r ffyrdd niferus y mae pobl hŷn yn cefnogi ein cymunedau i ffynnu.
Ni ddylem ni anghofio mai eu partneriaid, brodyr neu chwiorydd neu gymdogion, sydd yn aml yn hŷn eu hunain hefyd, sy'n gofalu am lawer o bobl hŷn sy'n byw gyda dementia, neu fod llawer o oedolion sy'n gweithio yn dibynnu ar neiniau a theidiau am ofal plant. Yn sicr, daeth gwerth gwirfoddolwyr hŷn i'r amlwg yn ystod y pandemig, gan fod llawer o elusennau'n ei chael hi'n anodd ymdopi heb eu cefnogaeth. Cyn COVID-19, yr amcangyfrif oedd bod cyfraniad pobl hŷn i economi Cymru dros £2 biliwn y flwyddyn.
Nod y strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio yw newid y ffordd yr ydym ni i gyd yn meddwl ac yn teimlo am heneiddio. Rydym ni eisiau creu Cymru lle mae pawb yn edrych ymlaen at fynd yn hŷn, Cymru lle gall unigolion gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a'u lles eu hunain gan deimlo'n hyderus y bydd cymorth ar gael ac yn hawdd ei gyrraedd os oes ei angen.
Diolch i ddatblygiadau arloesol ym maes iechyd a thechnoleg, mae'r boblogaeth fyd-eang o bobl dros 60 oed wedi bod yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw grŵp oedran arall, ond dangosodd y pandemig pa mor hawdd y mae modd i'r enillion hyn gael eu dileu. Dangosodd hefyd pa mor bwysig yw hi fod gwahanol genedlaethau'n deall ei gilydd, fel y gallan nhw ddod at ei gilydd ar adegau o argyfwng a chwarae i'n cryfderau fel cymunedau cryf a bywiog ledled Cymru. Mae gweithio mewn partneriaeth ar draws cenedlaethau, sectorau a chymunedau yn hanfodol i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.
I wireddu'n gweledigaeth eleni, rydym ni wedi dyrannu £550,000 i awdurdodau lleol i gefnogi eu gwaith i fod yn sefydliadau sy'n cefnogi pobl hŷn ac i ennill aelodaeth o rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd o ddinasoedd a chymunedau sy'n cefnogi pobl hŷn. Er mwyn ennill aelodaeth, rhaid i awdurdodau lleol ddangos sut maen nhw'n ymgysylltu â phobl hŷn. Mae ein gweledigaeth ni'n cael ei rhannu â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy'n darparu cymorth ac arweiniad gwerthfawr i awdurdodau lleol wrth iddyn nhw weithio tuag at statws sydd o blaid pobl hŷn.
Mae egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth hon ac wedi bod yn rhan ohono drwyddi draw. Rwyf i eisiau i Gymru fod yn genedl sy'n dathlu oedran ac, yn unol ag egwyddorion y Cenhedloedd Unedig, cenedl sy'n cynnal annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunan-foddhad ac urddas pobl hŷn bob amser. Eleni, byddwn ni'n dyrannu £100,000 i hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn ac ysbrydoli dealltwriaeth gyffredin o effeithiau trawsnewidiol dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau.
Rydym ni'n ffodus bod gennym ni ddealltwriaeth gadarn o amgylchiadau pobl hŷn yng Nghymru. Yn 2019, gwnaethom ni gomisiynu'r Ganolfan am Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol i feincnodi sefyllfa pobl hŷn yng Nghymru o'i chymharu â thair gwlad arall y DU. Cafodd y mesur hwn ei ddiweddaru yn 2021. Defnyddiodd y ganolfan amrywiaeth o fesurau i greu mynegai oedran y DU ac mae'r canlyniadau'n dangos bod Cymru ar y brig, gyda'r sgôr gyffredinol uchaf, ac yna'r Alban, Lloegr ac yn olaf Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn dangos bod llawer yr ydym ni'n ei wneud yn dda, a dylem ni deimlo'n falch bod tystiolaeth glir o'n hymrwymiad i gefnogi pobl hŷn.
Yn ogystal, mae adroddiadau Cyflwr y Genedl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn 2019 a 2021 yn cynnig sylfaen ystadegol ac empirig gadarn i'w datblygu, sy'n nodi effaith COVID-19. Gyda'i gilydd, mae'r adroddiadau hyn yn rhoi syniad clir o ble mae angen gweithredu i wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru.
Mae pobl hŷn wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â chreu'r strategaeth hon a byddan nhw'n ymwneud â'i chyflawni drwy fy fforwm cynghori gweinidogol ar heneiddio. Byddwn ni'n rhoi llais a phrofiad pobl hŷn wrth wraidd ein proses bolisi ac yn parhau i gefnogi pum grŵp a fforwm cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn, wedi'u cynnal gan Age Cymru. Gyda'i gilydd, mae eu gwaith yn ein helpu ni i ddeall ac ymateb i'r materion allweddol sy'n effeithio ar bobl hŷn heddiw.
Byddwn ni'n gweithio ledled y Llywodraeth i ymdrin â'r amrywiaeth eang o ffactorau sy'n dylanwadu ar sut yr ydym ni'n heneiddio, o'n systemau iechyd, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth i'r ffordd yr ydym ni'n cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill. Nod y strategaeth yw datgloi potensial pobl hŷn heddiw a chymdeithas sy'n heneiddio yfory. Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu cynllun cyflawni sy'n nodi camau gweithredu, cerrig milltir ac amserlenni clir i fonitro gweithrediad y strategaeth.
Mae'r strategaeth hon yn ymwneud â sut yr ydym ni'n edrych i'r dyfodol, yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth gadarn—strategaeth wedi'i datblygu gyda phobl Cymru ac ar eu cyfer. Drwy gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau holl bobl hŷn Cymru, gallwn ni wrthod rhagfarn ar sail oedran a gweithio ar draws cenedlaethau i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Rwyf innau hefyd yn croesawu y strategaeth Cymru o blaid pobl hŷn—beth nad oes i'w hoffi amdano mewn gwirionedd—ar wahân i'r ffaith bod gennym ni strategaeth arall sy'n llawn dyheadau ond heb fawr o fanylion ynghylch sut y byddwn ni'n cyflawni'r strategaeth honno neu'r targedau hynny i fesur ein cynnydd yn eu herbyn. Pryd y byddwn ni'n gweld cynllun gweithredu a thargedau y mae modd eu cyflawni? Dylem ni fod â Chymru sydd o blaid pobl hŷn heddiw, nid mewn rhyw amserlen sydd eto i'w phenderfynu. Mae angen gweithredu ar bobl hŷn yng Nghymru, yr union rai a helpodd i lywio eich strategaeth nawr, nid mwy o bwyllgorau, paneli gweinidogol neu grwpiau ffocws eto.
Yn ystod yr wythnosau ar ôl cyhoeddi eich dogfen, Dirprwy Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddilyn polisïau nad ydyn nhw o blaid oedran. Gwnaethoch chi gyflwyno pasbortau brechlyn ar gyfer theatrau a sinemâu, ac eto mae pobl hŷn yn ei chael hi'n anodd cysylltu ar y llinell a gafodd ei sefydlu i gyflenwi tocynnau papur i'r rhai nad oes ganddyn nhw ffôn clyfar. Ddoe, cyhoeddodd eich Llywodraeth y byddai, o heddiw ymlaen, yn ychwanegu'r statws brechlyn atgyfnerthu i'r pasbortau brechlyn, ond mae pobl hŷn sy'n dymuno teithio dramor i ymweld ag anwyliaid dros y Nadolig yn anlwcus oherwydd na fydd y statws yn cael ei ychwanegu at docynnau papur tan rywbryd ym mis Ionawr. A yw hon yn Llywodraeth Cymru sydd o blaid pobl hŷn?
Pam felly bod pobl hŷn yn treulio llawer hirach yn ein hadrannau Damweiniau ac Achosion Brys? Yr amser aros cyfartalog mewn adran damweiniau ac achosion brys i'r rhai dros 85 oed yw saith awr a 47 munud—bron ddwywaith yr arhosiad targed. Dirprwy Weinidog, rydych chi'n dweud bod eich strategaeth yn cael ei llywio gan egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn, ond rydych chi wedi gwrthod cefnogi fy ngalwadau i i ymgorffori'r egwyddorion hyn mewn dull sy'n seiliedig ar hawliau o gynnal gwasanaethau i bobl hŷn yng Nghymru, felly ni allwch chi ddweud un peth ac yna pleidleisio yn ei erbyn yn ymarferol.
Yn y 10 i 15 mlynedd nesaf, bydd nifer y bobl dros 65 oed sy'n cael trafferth gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd yn tyfu dros draean. A ydych chi'n credu y gall eich Llywodraeth ddarparu gwasanaeth iechyd a gofal a all ddiwallu'r angen cynyddol hwn? Dirprwy Weinidog, pan ddaw'n fater o iechyd a gofal yng Nghymru, dylem ni fod yn gwario tua £1.18 am bob punt sy'n cael ei wario yn Lloegr i ddiwallu anghenion ychwanegol ein poblogaeth hŷn, ond mae ffigurau diweddar gan Archwilio Cymru yn dangos bod gwariant tua £1.05. A fyddwch chi'n annog y Gweinidog cyllid i gynyddu gwariant ar iechyd a gofal yn aruthrol er mwyn cyflawni'r amcanion sydd wedi'u nodi yn eich strategaeth?
Dirprwy Weinidog, prif elfennau eich strategaeth heneiddio yw galluogi pobl hŷn i gymryd rhan a lleisio eu barn. Mae ein poblogaeth hŷn wedi teimlo effeithiau pandemig COVID-19 i'r byw yn fwy nag unrhyw ran arall o'n cymuned. A ydych chi felly'n cytuno â fy mhlaid i—a'r comisiynydd pobl hŷn nawr—fod angen ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru arnom ni i ymdrin â'r pandemig hwn? Mae Mrs Herklots yn dweud, ac rwy'n dyfynnu,
'Bydd cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus sy'n benodol i Gymru yn sicrhau bod y Cadeirydd a'r panel sy'n cynnal yr Ymchwiliad yn deall datganoli a natur unigryw ddiwylliannol a gwleidyddol Cymru, yn ogystal â bod yn gynrychioliadol o amrywiaeth ein cenedl ac yn hygyrch mewn ffordd na all Ymchwiliad ledled y DU ei gyflawni.'
Mae hi'n mynd ymlaen i ddweud,
'Bydd hyn yn hollbwysig os ydym ni eisiau clywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn a'u hanwyliaid, y bydd llawer ohonyn nhw wedi colli rhywun, ac yn rhoi cyfle i'w hanesion nhw gael eu clywed. Bydd galluogi pobl i rannu eu profiadau a lleisio eu barn yn rhan sylfaenol o ymchwiliad, a bydd yn rhan o'n hadferiad ar y cyd o'r cyfnod mwyaf dinistriol hwn.'
A ydych chi'n cefnogi'r farn hon, Dirprwy Weinidog, ac a ydych chi'n cytuno bod peidio â chynnal ymchwiliad COVID sy'n benodol i Gymru yn peryglu colli cyfleoedd posibl i wneud ein gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy cadarn a chynaliadwy? Dirprwy Weinidog, edrychaf ymlaen at weld eich cynllun cyflawni ac rwyf i'n cefnogi eich dyheadau, ond mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn dod yn fwy na hynny. Mae angen mwy na geiriau cynnes ar bobl hŷn yng Nghymru. Diolch.
Diolch i chi am y sylwadau hynny. Er mwyn ymdrin â'r hyn a allaf o'r holl bwyntiau hynny: dyhead a dim llawer o fanylion, rwy'n credu ein bod ni wedi nodi'n benodol yr arian yr ydym ni'n ei ddyrannu er mwyn sicrhau cymunedau sy'n addas ar gyfer pobl hŷn. Rydym ni wedi gwneud hyn ar y cyd â'r comisiwn pobl hŷn, ac mae pob awdurdod lleol yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gyflwyno cymunedau sy'n fwy ystyriol o oedran yn eu hardaloedd. Ac os byddan nhw'n dod yn aelodau o rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd, caiff ei fonitro, felly mae cryn dipyn o fanylion yn hyn i gyd. Felly, rwy'n credu ei bod yn gwbl anghywir i ddweud nad oes llawer o fanylion.
Mae hyn hefyd yn cael ei gefnogi'n gryf iawn gan y comisiynydd pobl hŷn; mewn gwirionedd, hi gymerodd y cam cyntaf gwreiddiol, gan fynd at yr awdurdodau lleol yn ceisio eu hannog i fod â chymunedau sy'n addas ar gyfer pobl hŷn. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod ni'n gwneud hyn, ac rwy'n credu bod llawer o fanylion yn y cynllun gweithredu. Wrth gwrs, mae'n cymryd cryn amser i gyfrifo'r cynllun gweithredu, oherwydd mae'n cael ei wneud yn gydgynhyrchiol, felly mae hynny'n bwysig iawn.
Yn amlwg, mae pobl hŷn eisiau bod yn ddiogel. Mae llawer ohonyn nhw wedi dweud wrthyf i, ac wedi dweud wrthym ni i gyd, gymaint o sicrwydd a roddwyd iddynt gan y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ofalus ynglŷn â'r ffordd y mae wedi ymdrin â'r pandemig COVID. Maen nhw wedi bod yn falch iawn ein bod ni wedi bod yn ofalus a'n bod ni wedi bod â phasbortau brechlyn, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio hynny.
O ran y gyllideb, mae'n amlwg y bydd y gyllideb yn cael ei chyhoeddi fis nesaf a byddwn ni'n gweld beth sy'n dod ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Ond rwy'n siŵr y byddwch chi'n cydnabod bod y gyllideb eisoes yn cymryd bron i hanner cyllideb Llywodraeth Cymru, ac rydym ni'n sicr yn gwario llawer o'n harian ar iechyd a gofal cymdeithasol.
Nawr, gan droi at y pwynt olaf y gwnaethoch chi am yr ymchwiliad, rwy'n credu i chi, glywed, mae'n debyg, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog fod y Prif Weinidog wedi gofyn i Brif Weinidog y DU am warantau gydag ymchwiliad ledled y DU, oherwydd mae'n gwbl hanfodol bod barn pobl Cymru yn cael ei hystyried. Mae'n gwbl hanfodol bod y bobl hynny sydd wedi colli pobl, bod eu profiadau'n cael eu clywed. Felly, mae'r Prif Weinidog wedi bod yn pwyso ar Brif Weinidog y DU o ran hynny, ac rwy'n credu iddo ddweud heddiw ei fod wedi cael ymateb. Nid wyf i'n credu y gallwn ni osgoi'r ffaith y bydd y dystiolaeth a fydd yn codi yn dangos natur gydgysylltiedig y ffordd y bu'n rhaid ymdrin â'r pandemig, ond rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid ystyried profiadau cleifion Cymru a pherthnasau o Gymru. Rhaid i unrhyw ymchwiliad ledled y DU gynnwys hynny, a gwn fod y Prif Weinidog hefyd yn siŵr iawn y dylai hynny ddigwydd.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fras y datganiad gan y Llywodraeth heddiw. Yn gyffredinol, mae pobl yng Nghymru yn byw'n hirach; amcangyfrifir y gallai chwarter y boblogaeth fod dros 65 oed mewn 20 mlynedd. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae cyhoeddi strategaeth sy'n gwneud bywyd yn haws i bobl hŷn yn rhywbeth y dylai unrhyw lywodraeth gyfrifol fod yn ei wneud, o ochr ymarferol pethau. Fodd bynnag, nid yw gofalu am ein pobl fwyaf agored i niwed yn ymarferol yn unig; mae hefyd yn beth moesol i'w wneud. Mae gennym ni ddyletswydd i ofalu am ein pobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac mae rhai o'n pobl oedrannus ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed.
Yr wythnos diwethaf, cawsom ni Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, felly mae'r strategaeth hon yn eithaf amserol. Mae Confensiwn Cenedlaethol Pensiynwyr Cymru yn dweud bod gofalwyr di-dâl hŷn yn aml yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar gymorth wrth i wasanaethau gwybodaeth a chyngor barhau i symud ar-lein. Mae perygl gwirioneddol y gallai pobl hŷn gael eu hallgáu'n ddigidol yma ac mewn ffyrdd eraill hefyd. Sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau y bydd gwybodaeth ynghylch gwasanaethau a chymorth ar gael yn eang ac yn hygyrch ym mhob fformat? A yw'r Gweinidog yn cytuno y byddai cyfuno gwasanaethau iechyd a gofal yn well yn gwella hygyrchedd gwybodaeth, a bod angen gwneud rhagor o waith i gefnogi gofalwyr di-dâl a sicrhau eu lles corfforol a meddyliol?
Mae'r pandemig hefyd wedi newid y ffordd yr ydym ni'n defnyddio gwasanaethau iechyd. Mae llawer o ymgynghoriadau wedi symud ar-lein, sy'n golygu nad yw llawer o bobl hŷn yn gallu manteisio ar wasanaethau hanfodol oni bai eu bod yn fedrus ym maes technoleg gwybodaeth. Cafodd hyn ei ategu gan arolwg Age Cymru o brofiadau pobl hŷn yng Nghymru yn ystod cyfnod clo COVID-19. Gwnaethon nhw ddarganfod bod gan 40.5 y cant o'r ymatebwyr broblemau o ran cael gafael ar wasanaethau meddygon teulu, ac ymatebodd 6 y cant na allen nhw fanteisio ar wasanaethau meddygon teulu o gwbl. Rwy'n awyddus i sicrhau nad yw'r bobl hynny nad ydyn nhw ar-lein, am ba reswm bynnag, a'r rhai y mae'n well ganddyn nhw ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn cael eu gadael yn aros yn hir yn y ciw, gan dderbyn gwasanaeth eilradd. A wnaiff y Llywodraeth, felly, weithredu dull cyfunol sy'n cynnig mynediad priodol i'r rhai sydd angen a/neu sy'n well ganddyn nhw ymgynghori wyneb yn wyneb?
Mae wedi hen sefydlu bod rhai pobl sydd â'r Gymraeg fel iaith gyntaf yn colli eu gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Saesneg wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Rwy'n falch bod y strategaeth hon yn cydnabod bod y mater hwn yn bwysig i bob gwasanaeth, ond mae hyn yn arbennig o wir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, oherwydd gall cyfathrebu aneffeithiol beryglu ansawdd y gofal. A allai'r Gweinidog, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefel bresennol y ddarpariaeth Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd a gofal?
A yw'r Llywodraeth yn credu bod digon o staff sy'n siarad Cymraeg yn gweithio ym maes gwasanaethau iechyd a gofal ar hyn o bryd? I grynhoi, er mwyn i'r strategaeth hon fod yn effeithiol, rhaid ei chydblethu drwy'r Llywodraeth gyfan. A fydd pob adran yn ymwneud â chreu cymdeithas sydd o blaid pobl hŷn? A fydd y cynllun hwn, sydd i'w ganmol mewn print, yn cael y gyllideb a'r gefnogaeth angenrheidiol i'w rhoi ar waith? A fydd allbynnau'n cael eu monitro, eu hadolygu, ac yn arwain at newidiadau os bydd eu hangen? Er mwyn pobl hŷn, yr wyf i'n fawr obeithio hynny. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Diolch am eich croeso i'r cynllun, ac am eich geiriau cadarnhaol iawn. Rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir, fel y dywedwch chi, ein bod ni'n gwneud yr hyn a allwn ni i'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ond rwy'n credu hefyd ei bod yn bwysig cofio'r cyfraniad y mae pobl hŷn yn ei wneud, oherwydd rwy'n credu bod llawer o bethau cadarnhaol y gallwn i dynnu sylw atyn nhw, megis y gwirfoddoli y mae pobl hŷn yn ei gyflawni. Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn ymwybodol o'r siopau elusen sy'n cael eu cynnal gan bobl hŷn, ac yn ystod y pandemig, sylwyd mewn gwirionedd ar sut y mae pobl hŷn, a oedd yn dueddol o aros yn eu cartrefi—gymaint yr oedd gweld eu heisiau. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n edrych ar yr ochr gadarnhaol o heneiddio hefyd. Ond rwy'n cytuno'n llwyr ag ef mai nhw yw rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, ac mae angen i ni wneud yr hyn a allwn ni i'w helpu nhw.
Rwy'n falch ei fod wedi sôn am Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr. Gwnes i gyfarfod â nifer o grwpiau o ofalwyr di-dâl yr wythnos diwethaf i wrando ar y straeon ynghylch sut yr oedden nhw wedi ymdopi yn y pandemig a'r anawsterau yr oedden nhw wedi dod ar eu traws. Yr oedd yn angerddol iawn—yn eich cyffwrdd i'r byw, mewn gwirionedd—eu hymrwymiad i'r bobl yr oedden nhw'n eu caru, yn gofalu amdanyn nhw, a'r hyn yr oedden nhw'n ei wneud, ac rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol i ni wneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu. Dyna pam, yn ystod y flwyddyn ariannol hon, yr ydym ni wedi rhoi £10 miliwn i ofalwyr, ac mae'r arian hwnnw'n mynd i ddarparu—. Wel, mae £3 miliwn ohono ar gyfer gofal seibiant, oherwydd dyna y mae gofalwyr di-dâl wedi'i ddweud wrthym ni—mai cael y seibiant a chael seibiant yw'r peth pwysicaf oll y maen nhw'n gallu ei gael. Ac yna rydym ni wedi rhoi £5.5 miliwn arall i'r awdurdodau lleol i'w rhoi'n uniongyrchol i ofalwyr i'w helpu gyda'r hyn sy'n bwysicaf iddyn nhw. Felly, yr ydym ni'n sicr wedi cydnabod hyn. Mae gofalwyr di-dâl hŷn yn cael eu cydnabod hefyd, oherwydd gwyddom ni fod cymaint o sefyllfaoedd lle mae person hŷn yn gofalu am ŵr, o bosibl, gyda Chlefyd Alzheimer—amser anodd, anodd iawn, a chymaint o gymorth â phosibl.
Mae cynhwysiant digidol yn bwysig iawn, ac mae ein strategaeth ddigidol yng Nghymru yn cydnabod y ffaith bod angen nid yn unig ddyfeisiau ar bobl i'w defnyddio, ond mae angen help arnyn nhw hefyd er mwyn eu defnyddio. Felly, mae hynny'n rhan o'n strategaeth. Ond hefyd rydym ni'n cydnabod bod llawer o bobl hŷn yn arbennig nad ydyn nhw eisiau bod yn llythrennog yn ddigidol neu sy'n methu bod, ac felly rhan o'n strategaeth yw cydnabod hynny ac mae angen i ni gael gwybodaeth i bob aelod o gymdeithas sut y maen nhw'n dewis cael eu gwybodaeth. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n cael ei gydnabod yn bwynt pwysig iawn.
O ran integreiddio gwasanaethau, yn sicr; dyna un o'r pethau allweddol yr ydym ni eisiau i Lywodraeth Cymru ei wneud—er mwyn integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn well. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau'n cydweithio'n agos iawn i sicrhau bod yr integreiddio hwn yno, a gobeithiwn ni weld mwy fyth o integreiddio rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. O ran mynediad i feddygon teulu, unwaith eto, mae rhai pobl wedi elwa'n fawr ar ffordd ddigidol o weithio, a gwyddom ni hynny, rwy'n credu. Ond rwy'n gwybod bod nifer sylweddol o bobl hŷn sydd eisiau cael y cyswllt wyneb yn wyneb. Rwy'n credu ei fod wedi awgrymu dull cyfunol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n debygol o symud tuag ato.
O ran y Gymraeg a'r iaith gyntaf, rwy'n cytuno'n llwyr. O fy mhrofiad teuluol fy hun, rwy'n gwybod efallai pan fyddwch chi'n mynd yn hŷn, dim ond eich iaith gyntaf eich hun yr ydych chi eisiau ei defnyddio. Ond, beth bynnag, dylai pobl gael y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg pan fyddan nhw'n defnyddio gwasanaethau, ac yn sicr os ydyn nhw mewn cartref gofal. Mae ein strategaeth ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, 'Mwy na geiriau' yn strategaeth yr ydym ni'n gweithio arni i wella nifer y siaradwyr Cymraeg. Nid wyf i o'r farn bod digon o staff sy'n siarad Cymraeg. Rydym ni eisiau cael cymdeithas sydd o blaid pobl hŷn lle mae pawb yn teimlo bod ganddyn nhw le, ac yna mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n cael y Gymraeg yn gywir yn ei lle cywir.
Ac yna, yn olaf, sut rydym ni'n mynd i'w adolygu a gweld sut y byddwn n'n gwneud cynnydd? Wel, yn sicr, mae ymchwil Abertawe wedi rhoi llinell sylfaen i ni. Mae ymchwil y comisiynydd pobl hŷn wedi rhoi llinell sylfaen i ni, ac felly byddwn ni'n mesur sut mae'r strategaeth hon yn gweithio.
Efallai y dylwn i ddatgan buddiant fel person hŷn. Ond mae gennyf i bob bwriad o dyfu'n hen yn warthus, oherwydd dydw i ddim yn credu fy mod i eisiau bod yn fy nghadair olwyn unrhyw bryd yn fuan.
Rwy'n credu bod y rhan a gafodd ei chwarae gan bobl hŷn yn ystod y pandemig wir wedi bod yn enfawr. Dychmygwch, mae'r rhan fwyaf o'r gofalwyr—rwy'n gwerthfawrogi bod gofalwyr ifanc, ac maen nhw'n gwneud gwaith gwerthfawr hefyd, ond mae'r rhan fwyaf o ofalwyr yn bobl hŷn sy'n gofalu am eu hanwyliaid, p'un ai oes ganddyn nhw ddementia neu a oes ganddyn nhw oedolion ifanc ag anawsterau dysgu. Dyma bobl sydd, yn ystod y pandemig, wedi gorfod gwneud y cyfan ar eu pen eu hunain, ac felly mae'n rhaid i ni eu canmol nhw am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud heb unrhyw seibiant. Mae angen i ni sicrhau, wrth i bobl fyw'n hirach, fod angen iddyn nhw fyw bywydau iachach hefyd, oherwydd mae'n eithaf diflas byw gyda chyflyrau iechyd niferus. Wyddoch chi, mae rhai pobl yn dweud, 'gallaf i ddim cymryd mwy o hyn'. Roeddwn i'n myfyrio ar faint o'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud, er enghraifft, i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd, sy'n ymwneud ag achub y byd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Serch hynny, mae hefyd yn gwneud bywyd yn well i bobl hŷn hefyd. Felly, pan fyddwn ni'n—
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr.
—lleihau ein hallyriadau carbon, gyda llai o geir ar y ffordd, sy'n ei wneud yn fwy dynol. Felly, fy nghwestiwn i, Dirprwy Lywydd, yw: wrth i ni ailgodi Cymru decach a gwyrddach, sut y gallwn ni integreiddio ein holl wasanaethau i fod yn agored i'r doethineb y gall pobl hŷn ei ddarparu? Ond hefyd, gyda'r twf mewn dementia, sut y gallwn ni wneud ein holl wasanaethau'n addas ar gyfer pobl â dementia, fel nad oes rhaid i bobl gael eu cludo mewn bysiau ledled y lle, a gallan nhw fynd i'w cymunedau lleol i gael cefnogaeth ac ysgogiad?
Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone am y sylwebaeth a'r cwestiwn diddorol hwnnw. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi ein bod ni eisiau gweld heneiddio'n iach. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n annog pobl hŷn i fod yn egnïol. Rwyf innau'n datgan buddiant hefyd, gan fy mod yn berson hŷn. Mewn gwirionedd, o dan ein strategaeth heneiddio'n iach, rydym ni'n ariannu teithiau cerdded Nordig, tai chi—o dan y rhaglen heneiddio'n iach. Es i ar daith gerdded Nordig, ac roedd hi'n llawer o hwyl. Gwnes i ei fwynhau'n enfawr ac nid oedd gennyf i syniad o'r manteision a dweud y gwir, nes i mi ei wneud. Rydym ni wedi bod yn ariannu Age Cymru i ddarparu'r gwasanaethau hynny ers 2007, sy'n cynyddu gweithgarwch ac sy'n cael ei werthfawrogi felly gan y bobl hŷn sy'n gwneud hynny. Gan ei fod nid yn unig yn egnïol ac yn iach—byddai amgylchedd di-garbon yn wych—ond mae hefyd yn gymdeithasol. Felly, rwy'n credu, o ran ymdrin ag iechyd pobl hŷn, y gallwn ni wneud hynny, ac rydym ni yn gwneud hynny i ryw raddau.
O ran dementia, gwyddom ni fod nifer y bobl sydd â dementia yn sicr naill ai'n codi neu'n cael ei adrodd yn ehangach, ac mae'n fater y mae'n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn ni i helpu. Oherwydd, yn sicr, o nifer y bobl y mae angen iddyn nhw fynd i ofal preswyl pobl hŷn, mae nifer enfawr nawr yn dioddef o ddementia. Rwy'n cytuno y dylem ni allu cael pobl sy'n dioddef o ddementia yn defnyddio'r gwasanaethau sydd yno eisoes. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae hyfforddiant sy'n ystyriol o ddementia y mae llawer ohonom ni wedi'i wneud, felly rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu ni i annog yr hyfforddiant sy'n ystyriol o ddementia a'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Gymdeithas Alzheimer i godi ymwybyddiaeth. Rwy'n credu mai'r pwynt y mae hi'n ei wneud yw y dylai pobl â dementia allu mynd, dyweder, i ganolfan ddydd leol, nid un sydd wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer pobl â dementia. Yn ddelfrydol, rwy'n credu y byddai hynny'n rhagorol os byddai modd gwneud hynny, ond, yn amlwg, mae angen llawer o waith arnom ni o ran deall dementia, fel bod pobl yn sylweddoli ei bod yn bosibl integreiddio. Rwy'n credu bod hynny'n sicr yn rhywbeth y dylem ni weithio tuag ato.
Ac yn olaf, Altaf Hussain.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae heneiddio yn fendith. Yn 2018, gwnaeth y fforwm cynghori gweinidogol ar heneiddio gynnull pum gweithgor i ganolbwyntio ar y meysydd allweddol yr oedd yr Aelodau'n teimlo bod yn rhaid i ni eu cael yn iawn wrth gynllunio ar gyfer heneiddio, gan gynnwys sut i wneud hawliau'n wirioneddol i bobl hŷn. Gweinidog, siawns nad yw'n bryd nawr i ymgorffori hawliau pobl hŷn yn y gyfraith. Mae angen i ni osod safon i eraill ei dilyn. Felly, a yw hi'n cytuno bod gwneud hawliau'n wirioneddol yn golygu sefydlu beth yw'r hawliau hynny? Mae llawer o bobl hŷn yn agored i ymosodiadau. Weithiau mae datblygu galluoedd pobl hŷn yn dibynnu ar wybodaeth o ansawdd da. Fy nghwestiwn i i'r Gweinidog yw: a fyddech chi'n cefnogi fy ngalwad i Lywodraeth Cymru gynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth blynyddol yn erbyn cam-drin pobl hŷn, gwahaniaethu ar sail oedran a sgamiau a thwyll i helpu i hysbysu a galluogi ein poblogaeth hŷn? Bydd llawer o bobl hŷn yn wyliadwrus o strategaeth arall eto heb weledigaeth glir gan y Llywodraeth o ran pa fudd cadarnhaol y byddan nhw'n ei weld yn ymarferol. Gweinidog, adeg etholiad nesaf y Senedd, sut y bydd Cymru'n fwy o blaid pobl hŷn, a sut y byddwch chi'n gwybod sut beth yw llwyddiant mewn gwirionedd? Diolch.
Diolch yn fawr am y cwestiynau hynny. Rwy'n falch o ddweud bod y grŵp cynghori gweinidogol a'r is-grwpiau y soniodd ef amdanyn nhw'n llawn pobl hŷn sy'n cynghori ein strategaeth, a bod popeth yr ydym ni'n ei wneud yn cael ei wneud ar y cyd â phobl hŷn.
Y cwestiwn y gofynnodd ef i mi oedd pa mor bwysig yw ymgyrchu yn erbyn cam-drin pobl hŷn, er enghraifft. Dyna un o elfennau ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n ystyriol o oedran. Mae maes cam-drin pobl hŷn yn cael ei gynghori gan y grŵp a gafodd ei sefydlu gan y comisiynydd pobl hŷn, sydd wedi cymryd diddordeb arbennig ym maes cam-drin pobl hŷn. Mae agweddau penodol ar faes cam-drin pobl hŷn yr ydym ni wedi bod yn eu hystyried, ac mae gennym ni grŵp sy'n mynd i'r afael â hynny. Rwy'n credu, yn aml, pan feddyliwch chi am gam-drin, eich bod chi'n meddwl efallai am gam-drin domestig a'ch bod yn meddwl am bobl iau, ond gwyddom ni mai ychydig iawn o gyfleusterau sydd ar gael, er enghraifft, i fenyw hŷn fynd iddi pe byddai hi mewn perthynas gamdriniol a bod angen iddi adael. Dyna un o'r materion y mae'n rhaid i ni ei ystyried, yn sicr. Felly, ydy, mae maes cam-drin pobl hŷn yn rhan allweddol o'n strategaeth.
O ran sgamiau, mae ein strategaeth ddigidol yn cynnwys elfen o ddiogelwch ar-lein, ac yn sicr mae llawer o awgrymiadau a chynigion ynghylch sut y gallwch chi osgoi sgamiau a mynd i'r afael â nhw. Ac yna, rwy'n meddwl, i orffen, sut, yn etholiad nesaf y Senedd, y byddwn ni'n gweld a ydym ni wedi bod yn llwyddiannus, wel, bydd rhai pethau sylfaenol fel, er enghraifft, a fydd yr holl awdurdodau lleol yn rhan o rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer cymdeithas sydd o blaid pobl hŷn. Dyna fydd un o'r pethau y gallwn ni ei wneud. Ac os ydyn nhw, rwy'n credu y byddem ni'n dweud y gallai hynny fod yn un mesur bach o lwyddiant. Ond rwy'n credu y byddai, yn y bôn, yn ymwneud â sut mae pobl hŷn yn teimlo. Cyn belled ag y gallwn ni ei fesur, byddwn ni'n defnyddio'r llinell sylfaen a gafodd ei darparu gan yr ymchwil a gafodd ei gwneud ym Mhrifysgol Abertawe. Felly, rwy'n credu bod gennym ni linell sylfaen dda i weithio ohoni.
Diolch, Dirpwy Weinidog.