– Senedd Cymru am 3:45 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Eitem 4, datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: diwygio'r dreth gyngor yng Nghymru. Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Diolch. Mae ein rhaglen lywodraethu yn gwneud ymrwymiad clir i ddiwygio'r dreth gyngor i'w gwneud yn decach. Mae'r cytundeb cydweithredu yr ydym wedi ymrwymo iddo gyda Phlaid Cymru yn ailddatgan y nod hwnnw, a heddiw rwyf am nodi'r camau cychwynnol cyntaf ar hyd y daith honno.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r dreth gyngor yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi rhai o'n gwasanaethau cyhoeddus mwyaf hanfodol, o addysgu ein plant i ofalu am ein hanwyliaid i ailgylchu ein gwastraff, i roi ychydig o enghreifftiau yn unig. Ond mae angen diwygio'r system. Ein huchelgais yw sicrhau bod y cyfraniadau a wneir gan bobl Cymru yn cael eu cymhwyso mor deg â phosibl. Dylai system y dreth gyngor fod yn fwy blaengar o ran ei dyluniad a dylid ei moderneiddio wrth ei chyflwyno, ar ôl bodoli ar ei ffurf bresennol ers 1993.
Rwyf yn falch o gyflawniadau ein Llywodraeth yng Nghymru ar y dreth gyngor yn ystod y tymor diwethaf. Rydym wedi dileu'r bygythiad o garchar am beidio â thalu, rydym wedi creu eithriad newydd ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal, rydym wedi gwella mynediad at ostyngiadau i bobl â nam meddyliol difrifol, ac rydym wedi lansio ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys ein cynllun cenedlaethol i leihau'r dreth gyngor. Hoffwn gofnodi fy niolch i Aelodau a chydweithwyr llywodraeth leol am weithio gyda ni ar y newidiadau pwysig hynny.
Ym mis Chwefror, roeddwn yn falch o gyhoeddi darn mawr o waith, 'Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru: Crynodeb o'r Canfyddiadau', gan gynnwys gwaith gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Prifysgol Bangor ac arbenigwyr enwog eraill yn y maes hwn. Mae'n dangos y dystiolaeth bwysig rydyn ni ei hangen i nodi’r dewisiadau sydd o'n blaenau ac i lywio'r penderfyniadau mae angen i ni eu gwneud. Fe wnaethom archwilio ystod eang o opsiynau, o newid cymedrol hyd at ailgynllunio sylfaenol, megis treth gwerth tir. Bydd y canfyddiadau hynny'n ein helpu i feddwl am yr opsiynau ar gyfer diwygio ystyrlon dros y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â'r sylfeini mae angen i ni eu gosod ar gyfer newid mwy sylfaenol, tymor nhw.
Fe wnes i gyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol yn ddiweddar i gasglu eu barn o bob rhan o Gymru. Byddan nhw'n bartneriaid hanfodol wrth helpu i gyd-ddylunio a chyflawni'r hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflawni. Rwyf hefyd wedi dechrau gweithio'n agos gyda chydweithwyr Plaid Cymru ar y flaenoriaeth bwysig hon a rennir. Rwy’n cydnabod y bydd hyn yn newid pwysig, a dyna pam yr wyf yn awyddus bod y diwygiadau hyn yn rhan o sgwrs genedlaethol, ddinesig gyda phobl Cymru. Dyna pam y byddaf yn ymgynghori, maes o law y flwyddyn nesaf, ar becyn uchelgeisiol o ddiwygiadau i'r dreth gyngor fel man cychwyn y daith hon i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon.
Cam cyntaf pwysig, a bloc adeiladu hanfodol y bydd newidiadau eraill yn dilyn arno, fydd edrych ar opsiynau ar gyfer ailbrisio yng Nghymru. Ar ôl cynnal ailbrisiad yn 2003, Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi diweddaru ei sylfaen treth gyngor ers y 1990au, ond mae'r dosbarthiad treth yng Nghymru bron i 20 mlynedd ar ôl yr oed. Bydd ail-brisio’r tymor hwn, a gwneud hynny'n amlach wedi hynny, yn rhoi'r llwyfan i ni newid. Bydd yn rhoi cyfle i ni ychwanegu bandiau at y gwaelod neu ben uchaf y raddfa er mwyn adlewyrchu cyfoeth aelwydydd a gallu pobl i dalu'n well—y camau cyntaf i system decach. Byddwn hefyd yn edrych ar newidiadau i'n cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Rydym wedi parhau i gynnal hawliau i ostyngiadau ar gyfer dros 275,000 o aelwydydd agored i niwed ac incwm isel, a byddaf yn cyflwyno rheoliadau cyn bo hir i ddiweddaru'r cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf, lle byddwn unwaith eto'n buddsoddi £244 miliwn i'w gefnogi.
Fodd bynnag, datblygwyd y cynllun yn gyflym yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor yn 2013. Ers cyflwyno ein cynllun cenedlaethol, rydym wedi gweld dechrau cyflwyno credyd cynhwysol. Wrth i'r broses o gyflwyno credyd cynhwysol symud yn ei blaen, mae'n cyflwyno cymhlethdod i'r ffordd mae pobl yn gwneud cais am gymorth a'r ffordd mae eu hawl yn cael ei chyfrifo. Mae angen i ni sicrhau bod ein cynllun yn rhoi ystyriaeth lawn i effaith credyd cynhwysol, ond gallem fynd ymhellach. Mae angen i ni adolygu'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor er mwyn sicrhau ei fod wedi'i foderneiddio, yn hawdd cael mynediad ato ac nad yw'n atal unrhyw un rhag gwneud cais am ei hawl haeddiannol i gael cymorth. Byddwn hefyd yn edrych yn ofalus gyda phartneriaid ar y ffordd y gallwn foderneiddio'r gwaith o ddiweddaru biliau'r dreth gyngor, gan fanteisio ar dechnoleg newydd fel rhan o'r gwaith ehangach rydym yn ei wneud i wella rhyngweithio unigolion â gwasanaethau cyhoeddus allweddol a'u dealltwriaeth ohonynt. Nawr yw'r amser cywir i gydweithio i wneud y dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar. Mae angen i ni feddwl yn eofn.
Rwyf am fod yn glir iawn—ni fydd unigolion yn gweld unrhyw newidiadau ar unwaith i'w biliau. Mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud cyn y gellir cyflwyno diwygiadau. Byddaf hefyd yn edrych yn ofalus ac yn sensitif, wrth i ni symud drwy'r newidiadau hyn, ar yr opsiynau posibl ar gyfer cymorth trosiannol i'r rhai mae unrhyw newidiadau'n effeithio arnynt. Byddaf yn sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wnawn yn ystod tymor y Senedd hwn yn cadw'r potensial i fynd ymhellach yn y dyfodol yn agored. Byddaf yn parhau i archwilio syniadau mwy radical, megis system sydd â chysylltiad agosach â gwerthoedd tir fel math mwy blaengar o godi refeniw.
Yn olaf, yn gysylltiedig â'n hystyriaethau tymor hwy, rwy'n ystyried pa ddiwygiadau sydd eu hangen i'r system ardrethi annomestig. Mae cysylltiadau penodol rhwng y trethi lleol hyn, ac mae'n ffrwd refeniw allweddol arall ar gyfer gwasanaethau lleol. Amlygodd yr ymchwil a gynhaliwyd gennym y tymor diwethaf gyfleoedd gwirioneddol yn y maes hwn, a bydd angen diwygio er mwyn sicrhau bod y system dreth leol yn ei chyfanrwydd yn parhau i fod yn addas i'r diben wrth i ni wella o'r pandemig.
Wrth i ni wynebu ansefydlogrwydd economaidd, anghydraddoldeb ac argyfwng newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni sicrhau bod y trefniadau ar gyfer trethi lleol yn gadarn, y gallant ddiogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a helpu i gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru decach. Bydd y diwygiadau hyn yn ymgymeriadau sylweddol y bydd angen amser deddfwriaethol arnynt a chefnogaeth Aelodau o bob rhan o'r Senedd hon. A byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw ar ddiwygio'r dreth gyngor yma yng Nghymru. Rwyf yn siŵr bod Aelodau ar draws y Siambr yn croesawu cyhoeddiad y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf ar hyn, ac fel rydych chi’n ei ddisgrifio fel pecyn uchelgeisiol o ddiwygiadau i'r dreth gyngor, byddai gen i, Gweinidog, ddiddordeb mewn clywed mwy am ba mor radical y credwch y gallai'r diwygiadau hyn fod yn y pen draw. Nodaf yn eich datganiad fod awydd i ystyried diwygiadau i'r system ardrethi annomestig fel rhan o drethiant lleol, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar hyn, efallai, yn eich ymateb.
Mae gen i dri phwynt yr hoffwn eu codi, ac efallai cwestiynu arnynt. Yn gyntaf, hoffwn groesawu eich ymgysylltiad â chynghorau lleol, a gydag arweinwyr yn benodol, fel y gwnaethoch sôn, ac rydych chi wedi tynnu sylw yn eich datganiad at y gwaith eithriadol a wnaed gan gynghorau, a amlygwyd, unwaith eto, ac sy'n parhau i gael ei amlygu yn ystod pandemig COVID-19. Ond mae angen i ni ddeall pam mae'n rhaid i rywfaint o'r diwygiad hwn ddigwydd, ac, yn ôl Archwilio Cymru, mae cyllid craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol ers 2010 wedi gweld gostyngiad o 17 y cant, ac nid yw cynghorau lleol wedi cael eu hariannu'n ddigonol gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae'r diffyg blaenoriaethu’r cyllid cyngor hwn wedi golygu bod llawer o gynghorau'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd mewn perthynas â chynnydd yn y dreth gyngor, sydd yn y pen draw wedi arwain at gynnydd o bron i 200 y cant yn y dreth gyngor yma yng Nghymru ers dechrau datganoli o dan y Llywodraeth Lafur hon. Felly, Gweinidog, gyda'r ymgynghoriad hwn, sut y byddwch yn cydbwyso'r gallu i gynghorau fod yn gyfrifol am eu tynged ariannol eu hunain heb orlwytho'r trethdalwyr lleol hynny?
Yr ail bwynt, Gweinidog, yw fy mod yn nodi yn eich datganiad a datganiadau perthnasol i'r wasg mai opsiwn ar gyfer diwygio'r dreth gyngor yng Nghymru fyddai ailbrisio bandiau'r dreth gyngor am y tro cyntaf ers 2003. Rwyf yn siŵr, Gweinidog, y byddwch yn gwbl ymwybodol, yn ystod yr ailbrisio diwethaf, fod un o bob tair aelwyd wedi gweld cynnydd yn eu biliau o ganlyniad i'r ailbrisio. Yn eich datganiad, rydych yn dweud bod y dreth gyngor yn hen ac y gall fod yn annheg. Nid wyf yn credu y gellir dadlau hyn o reidrwydd, serch hynny, gallai ailbrisio weld teuluoedd sy'n gweithio'n galed yn cael eu taro â'r biliau uwch hynny, felly, Gweinidog pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau na fydd cymaint o bobl yn cael eu heffeithio'n negyddol drwy gael y cynnydd hwnnw—y cynnydd sylweddol hwnnw—yn eu bil treth gyngor?
Ac yna, yn olaf, Gweinidog, mae llawer o bobl ledled Cymru yn byw ar y ffin â Lloegr, gan weithio'n agos gyda ffrindiau, cydweithwyr, cymdogion, wrth gwrs. Credaf ei fod tua dwy ran o dair o boblogaeth Cymru sy'n byw mor agos at ffin Lloegr, a gallai diwygio'r dreth gyngor weld llawer o bobl yng Nghymru yn cael eu rhoi o dan anfantais i'r rhai sy'n byw dros y ffin. Felly, rwyf yn meddwl tybed pa drafodaethau yr ydych chi’n eu cael gyda'ch cymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynghylch hyn, ac, yn wir, arweinwyr cynghorau ledled Lloegr. Os nad yw'r trafodaethau hynny eisoes yn digwydd, pryd y byddwch yn bwriadu cynnal y rheini? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn i Sam Rowlands am ei gwestiynau y prynhawn yma a'r ffordd mae wedi rhoi sylw hyn sy'n ymgymeriad gwirioneddol arwyddocaol yn ystod tymor nesaf y Senedd. Ac mae'n cydnabod pwysigrwydd ymgynghori. A heddiw rwy'n cyhoeddi, maes o law, y flwyddyn nesaf, y byddaf yn cynnal ymgynghoriad, ymgynghoriad cyhoeddus ar raddfa fawr, tua 12 wythnos. Ac mae hynny ar gyfer y cyhoedd, ond hefyd bydd angen ymgysylltu'n ddifrifol iawn ag arweinwyr llywodraeth leol a'r swyddogion refeniw a budd-daliadau ac yn y blaen. Felly, rydym yn rhoi'r strwythurau hynny ar waith ar hyn o bryd i sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n rheolaidd. A gwn fod gan Sam Rowlands arbenigedd penodol yn y maes hwn, o ystyried ei gefndir mewn llywodraeth leol, felly byddaf yn awyddus i archwilio ei farn ar y cynigion wrth iddynt ddod ymlaen a chynnal trafodaethau pellach ar hynny.
Roedd cwestiwn ynglŷn â diwygio ardrethi annomestig. Felly, heddiw, yr hyn rydym yn sôn amdano yw dyfodol diwygio'r dreth gyngor. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn cydnabod bod ardrethi annomestig yn rhan bwysig arall o'r darlun cyllid llywodraeth leol hwnnw. Y tu mewn i'r ddogfen yr wyf wedi cyfeirio ati, mae'r crynodeb o'r canfyddiadau—sydd, Dirprwy Lywydd, yn wych i’w ddarllen ac rwy’n ei argymell i bob cyd-Aelod, fel yr wyf wedi bod yn ei wneud ers i ni ei gyhoeddi ym mis Chwefror—mae'n nodi'r holl ymchwil a wnaed gennym yn ystod tymor diwethaf y Senedd, gan edrych ar wahanol opsiynau ar gyfer y dreth gyngor. Felly, mae'n archwilio rhai o'r opsiynau radical hynny yr oedd Sam Rowlands yn eu disgrifio, megis treth ar werth tir, ond mae hefyd yn sôn am y gwaith yr ydym yn dechrau ei wneud o ran diwygio ardrethi annomestig. Ac mae'r gwaith hwnnw'n fwy yn ei ddyddiau cynnar na gwaith y dreth gyngor, oherwydd rydym wedi gwneud cymaint o gynnydd dros dymor diwethaf y Senedd. Ond, fel y dywedais i, mae ardrethi annomestig yn rhan bwysig iawn o'r darlun hwnnw, ac mae'n amhosibl, mewn gwirionedd, gweld dwy ochr y geiniog cyllid llywodraeth leol honno ar wahân i'w gilydd.
Rhai cwestiynau pwysig iawn am unrhyw drefniadau trosiannol a beth allai'r effeithiau fod ar aelwydydd. Felly, cynhaliodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ymchwil i ni yn ystod tymor diwethaf y Senedd, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio'n agos gyda nhw ar hynny. Ac mae'n archwilio a allai system lai atchweliadol fod yn bosibl drwy gyflwyno ailbrisio neu ailbrisio gyda bandiau ychwanegol, neu system gyfrannol heb fandiau. Ac mae hynny'n dod i'r casgliad yn yr ymchwil bod ein system bresennol bellach yn hen, mae'n atchweliadol, mae'n ystumio, er bod yr ymchwil hefyd yn cydnabod mai ni yw'r unig ran o'r DU i fod wedi ailbrisio ers y 1990au. Ac mae nawr beth fydd effaith yr ailbrisio ar ddinasyddion, cynghorau ac economïau lleol yn gwbl hanfodol wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Ac mae'r gwaith IFS yn ein helpu i wneud hynny.
Felly, amcangyfrifodd y gwaith hwnnw y byddai cynnal ailbrisiad a chadw'r naw band presennol yn symud tua 25 y cant o eiddo i fyny’r bandiau, byddai 26 y cant yn symud i lawr y bandiau, a byddai tua 49 y cant yn aros yr un fath. Ond, yn amlwg, mae goblygiadau o ran bod gwahanol awdurdodau lleol yn cael eu heffeithio mewn gwahanol ffyrdd. Ond rhan o'r hyn rydym ni'n edrych arno hefyd fyddai cynyddu nifer y bandiau, a fyddai'n amlwg yn newid y darlun hwnnw hefyd. Felly, llawer o waith i ni ei wneud wrth i ni symud ymlaen, ond rwy'n credu mai'r cwestiynau a nodwyd am y goblygiadau i aelwydydd ac i awdurdodau lleol yw'r rhai cywir a'r rhai y bydd angen i ni eu dilyn yn y cyfnod sydd i ddod. Ac ochr yn ochr â hynny, felly, i edrych ar drefniadau trosiannol ar gyfer yr aelwydydd hynny a fyddai'n cael eu heffeithio. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn awyddus i'w archwilio maes o law, a hefyd yn awyddus i gael yr ymgysylltiad hwnnw â Llywodraeth y DU, a byddwn yn estyn allan atynt. Rwyf wedi siarad â nhw, fel yr wyf wedi siarad â phawb ers mis Chwefror, am y crynodeb o'r ddogfen canfyddiadau, ac rwyf wedi'i argymell i Lywodraeth y DU hefyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Edrychwch, mae o fewn yn ein grym yn y Siambr hon i ddiwygio'n sylweddol yr hyn sy'n un o'r trethi mwyaf atchweliadol sydd gennym, mewn gwirionedd. Mae'n etifeddiaeth o gyfnod Thatcher. Mae'n annheg iawn, oherwydd mae'n codi bron bedair gwaith cymaint â chyfran o gyfoeth ar y tlotaf ag y mae ar y cyfoethocaf. Nawr, nid yw hynny'n rhywbeth y dylem ei oddef, ac mae hynny'n rhywbeth mae angen iddo ei newid. Rwyf yn falch, o ganlyniad i'r cytundeb cydweithredu rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, ein bod nawr yn wynebu hynny, yn herio hynny, a gobeithio newid hynny hefyd. Mae'r drefn bresennol wedi dyddio, mae'n annheg ac mae'n anghyson hefyd. Gwyddom i gyd am bentrefi efallai gannoedd o lathenni ar wahân lle mae'r gwahaniaeth yn gannoedd o bunnoedd yn y biliau maen nhw'n eu talu bob blwyddyn. Felly, fel y dywedodd y Gweinidog, dyma ddechrau taith, a bydd y cytundeb cydweithredu tair blynedd yn mynd â ni ar ran o'r daith honno, ond gadewch i ni ddechrau'n dda o leiaf.
Rwy'n falch bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru heddiw wedi croesawu'r cyhoeddiad hwn. Credaf fod hynny'n gadarnhaol oherwydd, yn amlwg, o ran rhanddeiliaid allweddol, mae'n debyg mai nhw yw un o'r rhai mwyaf allweddol yn y cyd-destun hwn. Ond mae'n mynd i fod yn broses eang lle bydd yr holl randdeiliaid yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o'r drafodaeth honno. Yn awr, rydym ni fel plaid yn ein maniffesto wedi ymrwymo i ddiwygio'r dreth gyngor ac, yn y tymor hwy, wrth gwrs, yn mynd ati i ystyried treth un eiddo yn seiliedig ar egwyddor treth ar werth tir. Felly, gyda hynny mewn golwg, byddaf yn gofyn ychydig o gwestiynau.
Er mwyn asesu gwir oblygiadau treth gwerth tir, mae angen, wrth gwrs, mwy o ddata arnom ni. Mae hynny wedi dod yn glir ym mheth o'r gwaith mae adroddiad Prifysgol Bangor wedi'i wneud. Yr argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad, wrth gwrs, oedd mynd ati i ddechrau casglu’r data angenrheidiol mewn modd mwy bwriadol, efallai. Felly, gaf i ofyn pa waith mae'r Llywodraeth wedi ei wneud neu yn bwriadu ei wneud i gasglu'r data yna er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer y drafodaeth sydd angen ei chael ynglŷn â threth gwerth tir?
Mae meddwl nad oes ailbrisio, neu revaluation, wedi bod ers dau ddegawd yn dweud llawer, dwi'n meddwl, am ble ŷn ni a pha mor outdated yw'r sefyllfa. Felly, a fyddech chi'n cytuno â fi bod angen i ni symud i sefyllfa fwy deinamig, lle mae'r ailbrisio yma yn digwydd yn fwy cyson, ond wrth gwrs byddai angen bod yn ymwybodol o'r angen i greu mecanweithiau a fyddai'n llyfnhau allan unrhyw peaks and troughs fyddai'n yn dod yn sgil gwneud hynny?
Ac yn olaf, ŷch chi'n cyfeirio at dechnegau neu dechnolegau newydd mewn brawddeg yn y datganiad. Pa fath o bethau sydd gyda chi mewn golwg efallai yn y cyd-destun yna? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny ac am y ffordd yr ydym eisoes wedi dechrau cydweithio ar yr hyn sy'n ymdrech bwysig iawn. Mae'r holl bwyntiau hynny a wnaethoch chi ar ddechrau eich cyfraniad, o ran pa mor annheg yw'r dreth gyngor ar hyn o bryd a pha mor atchweliadol ydyw, wir yn rhoi cyd-destun y gwaith hwn a pham ei bod mor bwysig ein bod yn bwrw ymlaen â'r agenda ac yn gwneud cynnydd da yn awr yn nhymor y Senedd hwn.
Rwyf hefyd yn falch iawn bod CLlLC wedi croesawu'r darn hwn o waith a'r ffordd maen nhw, unwaith eto, wedi bod mor barod i ymgysylltu ar yr hyn sy'n mynd i fod yn ddarn mawr a phwysig iawn o waith. Maen nhw’n randdeiliaid hollol allweddol. Rydym ni ar hyn o bryd, fel y soniais i mewn ymateb i Sam Rowlands, yn rhoi'r strwythurau hynny ar waith a fydd yn ein helpu i sicrhau bod gennym fynediad at yr arbenigedd angenrheidiol drwy gydol y darn hwn o waith, ac mae CLlLC yn amlwg yn bartner allweddol yn hynny.
O ran y dreth ar werth tir, cyflwynodd astudiaeth Prifysgol Bangor i ni'r ystyriaeth fanwl gyntaf erioed o dreth gwerth tir lleol yng Nghymru, ac roedd pwyslais gwirioneddol ar ymarferoldeb gweithredu, yn hytrach na syniadau cysyniadol treth ar werth tir. Mae angen gwneud rhagor o waith yn awr. Credaf fod yr hyn a gawsom yn astudiaeth Prifysgol Bangor yn adroddiad dichonoldeb cychwynnol mewn gwirionedd, oherwydd cwmpas y gwaith, ond rwy'n credu, os oes angen inni symud ymlaen ymhellach, y dylem ni edrych ar yr ystyriaethau posibl allweddol yn y dyfodol a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol inni amlinellu'r gofynion ar gyfer cronfa ddata cadastraidd gynhwysfawr. Yn amlwg, rydym ni angen hynny cyn y gallwn ni hyd yn oed ddechrau symud ymlaen ar yr agenda honno. Byddai angen i ni drafod dichonoldeb hynny gyda phartneriaid a fframiau amser, costau, ac ystyried cyfleoedd i gysylltu â'r agenda trethi datganoledig ehangach.
Rydyn ni hefyd angen deall goblygiadau perchnogaeth tir a defnydd tir yng Nghymru, ac a fyddai angen unrhyw newidiadau i'r system gynllunio o ganlyniad, ac i gynnal dadansoddiad ystadegol o dir amaethyddol, a fyddai, wrth gwrs, yn rhan o'n hystyriaethau o ran sut y gallai hyn gynnwys tir amaethyddol neu beidio. Ac yna'n amlwg, byddai angen i ni gynnal dadansoddiad llawnach o'r gofynion deddfwriaethol a datganoli. Mae disodli'r dreth gyngor, ardrethi annomestig, neu'r ddau, gyda threth gwerth tir yn wyriad sylfaenol o'r hyn a fu'n statud canrifoedd ac yn fwyaf tebygol o fod angen sawl Deddf yn y Senedd, ac yn amlwg byddai hynny'n ymarfer cymhleth, hir iawn, ond wrth gwrs, gallai ddod â chyfleoedd i ni bryd hynny o ran moderneiddio ac atgyfnerthu'r gyfraith hefyd.
Byddai'n rhaid i ni edrych ar sut y gwnaethom oresgyn rhai o'r rhwystrau cyfansoddiadol. Mae Deddf Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod trethi lleol i ariannu gwariant cynghorau a chyllid llywodraeth leol yn faterion datganoledig, fodd bynnag, mae natur led-ddatganoledig y swyddogaeth brisio yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ofyn am ganiatâd gan Lywodraeth y DU i newid y swyddogaeth brisio mewn unrhyw ffordd arwyddocaol, felly mae'n amlwg bod trafodaethau i'w cael gyda Llywodraeth y DU ar hynny wrth i ni symud ymlaen ar yr agenda bwysig iawn hon.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau roedd Llyr Gruffydd yn eu gwneud ynghylch cael system fwy deinamig, lle mae gennym ailbrisiadau mwy rheolaidd. Rwy'n credu bod rhai cyfleoedd eithaf cyffrous i ni yma, oherwydd yn awr, wrth gwrs, mae gennym Awdurdod Cyllid Cymru ac rydym yn casglu'r dreth trafodiadau tir, felly mae gennym ddarlun rheolaidd, byw, wedi'i ddiweddaru ac amser real o brisiau tai yma yng Nghymru. Felly, rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn fanteisio ar hynny, ac o bosibl creu system lle mae gennym fynediad at ddata nid yn unig at ddibenion trethiant lleol, ond mewn gwirionedd i’n helpu i ddeall y darlun mewn perthynas ag ail gartrefi a'r hyn y gallwn ni ei gasglu o hynny i helpu i ddatblygu polisi, a gallech gynnwys gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni eiddo, er enghraifft. Felly, mae cyfle enfawr i ni yma o ran defnyddio neu greu cronfa ddata newydd a fyddai'n rhan o'r gwaith hwn wrth symud ymlaen, ac mae hynny'n berthnasol i'r gwaith ailbrisio gymaint ag y mae'n i unrhyw waith y gallai fod angen ei ddatblygu yn y dyfodol o ran treth ar werth tir. Ond, yn amlwg, llawer o gyfleoedd cyffrous i ni wneud pethau'n wahanol a gwneud pethau'n well, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Phlaid Cymru ar hynny.
Yn gyntaf, a gaf i groesawu'r datganiad? Mae'r prisiad eiddo bron i 20 mlynedd ar ôl ei oes. Mae bron yn sicr y bydd gwerthoedd wedi codi. Mae gwerthoedd hefyd wedi newid o'u cymharu ag eiddo eraill. Wrth gwrs, mantais treth ar werth eiddo yw ei bod yn anodd iawn ei hosgoi, o'i gymharu â threth incwm. Mae'r dreth gyngor wedi'i gosod ar fand D ac mae'r holl daliadau band eraill yn seiliedig ar hynny. Eiddo ym mand A yn talu dwy ran o dair o'r swm a godir ar fand D, ac eiddo ym mand H yn talu ddwywaith band D. Yr hyn mae hynny'n ei olygu yw tŷ gwerth £40,000 sy'n talu dwy ran o dair o dŷ gwerth £120,000 er ei fod yn draean o'r gwerth; mae tŷ gwerth £420,000 yn talu dwywaith cymaint â thŷ £120,000 a thair gwaith cymaint â thŷ £40,000. Mae gennym sefyllfa hefyd, a elwir yn broblem Blaenau Gwent, lle mae dros hanner yr eiddo ym Mlaenau Gwent ym mand A.
Gwyddom fod y system gyfan hon yn annheg. Nid yw'r taliad yn gymesur â'r gwerth ac mae'n cael ei ystumio i'r rhai sy'n byw mewn eiddo gwerth is sy'n talu mwy, a gwyddom mai gwerth eiddo yw'r dangosydd cyfoeth gorau sydd gennym, mae'n debyg. A wnaiff y Gweinidog ystyried ailbrisio gyda bandiau culach a heb derfyn uchaf, ac ailbrisio o leiaf bob pum mlynedd? A wnaiff y Gweinidog hefyd ystyried dychwelyd ardrethi busnes i awdurdodau lleol? Ac yn drydydd, oni fyddai treth gwerth tir yn golygu—nid golygu—na fyddai unrhyw dai cymdeithasol mewn ardaloedd o werth tir uchel?
Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike Hedges am y gyfres honno o gwestiynau a gwn fod hon yn agenda y mae e' hefyd yn angerddol iawn amdani. Ar ddechrau ei gyfraniad, rhoddodd rai enghreifftiau amlwg iawn i ni, mewn gwirionedd, ynghylch pam mae'r gwaith hwn mor angenrheidiol o ran bod y dreth gyngor yn atchweliadol ar hyn o bryd, ac angen newid er mwyn dod yn decach. Rwy'n credu y bydd y ffaith ein bod ar yr un pryd â'r gwaith hwn yn cynnal adolygiad o gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, a gwerthusiad o'n gostyngiadau a'n heithrio ac yn y blaen, yn bwysig iawn gan na allwn ni gymryd y darnau hynny o waith ar wahân, ac mae angen gwneud unrhyw gymorth y gallwn ni ei ddarparu i aelwydydd mewn ffordd a fydd yn ymwybodol o'r gwerthoedd newydd ac yn y blaen.
Bydd yr holl gwestiynau hynny mae Mike Hedges wedi'u disgrifio yn rhan o'r ymgynghoriad, lle bydd pobl yn cael cyfleoedd i roi barn arnynt, fel y pwynt hwnnw ynghylch ble y dylai'r terfyn uchaf fod, y pwyntiau hynny am nifer fwy o fandiau cul ac yn y blaen, felly bydd cyfleoedd i gyfrannu'r syniadau hynny fel rhan o'r ymgynghoriad, a fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf. Yr hyn yr ydym yn ei amlinellu heddiw yw'r ffordd fras ymlaen yn hytrach na chynigion penodol ar gyfer y ffordd ymlaen, ond mae'r cwestiynau hynny, rwy'n credu, unwaith eto yn rhai y bydd yn rhaid inni fynd i'r afael â nhw yn y cyfnod sydd i ddod.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Rwy'n credu, fel yr ydym ni i gyd wedi clywed heddiw, fod pawb wedi croesawu'r cyfle i ailedrych ar y dreth gyngor. Rwy'n credu ein bod i gyd yn gytûn nad yw'n dreth arbennig o dda, ac rydym wedi gweld hynny o'r nifer enfawr o ôl-ddyledion a welsom dros y blynyddoedd, sydd wedi cynyddu 42 y cant i werth dros £156 miliwn o ôl-ddyledion. Felly, rwy'n credu bod lle i gael system decach, ac roeddwn i'n falch iawn eich bod wedi dweud y byddai angen i chi wneud pethau mor deg â phosibl, a barn Llyr ei bod yn annheg iawn ar hyn o bryd.
Rwyf am ganolbwyntio ar degwch, oherwydd rwy'n credu bod yn rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd ofalus iawn pan fyddwn yn diwygio'r dreth gyngor yng Nghymru nad ydym mewn gwirionedd yn rhoi llawer o bobl dan anfantais. Er enghraifft, yn fy etholaeth i, cydnabyddir bod eiddo o werth uwch yn gyffredinol, ac mae'r hyn sy'n dilyn wedyn yn amlwg yn dreth gyngor uwch. Ond mae'n hysbys bod gan sir Fynwy, er enghraifft, ardaloedd mawr o bobl sy'n dlawd o ran arian parod ond sy'n gyfoethog o ran asedau, felly, Gweinidog, sut yr ydym yn mynd i sicrhau bod ein diwygiadau ni, neu eich diwygiadau chi, yn ystyried gallu pobl i dalu'r dreth honno, yn hytrach na dim ond ei seilio ar faint o eiddo sydd ganddyn nhw, neu beth yw ei werth? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar hynny'n fanwl.
Rwyf hefyd yn falch iawn o glywed yr hyn yr ydych chi wedi bod yn ei ddweud ynghylch diwygio ardrethi busnes. Mae hynny'n rhan allweddol o'r darlun ehangach, yn enwedig. Rwy'n croesawu gweithio'n agos iawn gydag arweinwyr awdurdodau lleol—mae hynny'n gwbl sylfaenol ac mae CLlLC mewn sefyllfa dda i'n cynghori ar y ffurf gorau ar gyfer pethau wrth symud ymlaen. Ond mae pwynt sylfaenol yn ymwneud â sicrhau bod llywodraeth leol yn cael ei hariannu'n iawn. Nid ydym am weld hyn yn ateb cyflym, gan geisio denu mwy o arian i gefnogi awdurdodau lleol. Mae'n rhaid ei wneud—
Mae angen i'r Aelod ddod i ben yn awr.
—mewn ffordd ystyriol. Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd. Felly, Gweinidog, edrychaf ymlaen at y datganiad ym mis Chwefror, ac edrychaf ymlaen at ddeall sut y byddwch yn gweithio'n well gyda chynghorau i newid y system dreth gyngor honno. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi am godi'r materion hynny. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy sôn am ôl-ddyledion y dreth gyngor, sydd, wrth gwrs, yn bryder i ni pan fyddwn yn gweld unigolion a theuluoedd yn y sefyllfa honno. Mae cyfraddau casglu'r dreth gyngor yn uchel iawn mewn gwirionedd, ond mae'r effaith gyffredinol ar y rhai sy'n wynebu dyledion ac ôl-ddyledion yn peri pryder, a dyna pam rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cytuno â llywodraeth leol ar brotocol y dreth gyngor i Gymru. Mae honno'n ddogfen sy'n nodi'r canllawiau arfer da ar gyfer casglu'r dreth gyngor, a ddatblygwyd unwaith eto mewn cydweithrediad llawn â llywodraeth leol ac a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru a CLlLC, ac a lofnodwyd hyd yma gan bob un o'r 22 awdurdod lleol. Mae hynny'n nodi'n wirioneddol y dull arfer da ar gyfer awdurdodau lleol ac asiantaethau cyngor ar ddyledion i sicrhau bod unrhyw gamau y byddan nhw'n eu cymryd yn gymesur, yn deg, yn gyson, ac yn darparu'r sail wedyn ar gyfer perthynas fwy adeiladol â thalwyr y dreth gyngor, yn enwedig y rhai sy'n ei chael yn anodd talu.
Felly, unwaith eto, mae hon yn enghraifft o'r gwaith da a gyflawnwyd dros dymor blaenorol y Senedd, ond yn rhywbeth, yn amlwg, y mae angen i ni adeiladu arno, oherwydd mae gennym system sy'n annheg o hyd. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn bod hynny'n cael ei gydnabod o bob rhan o'r Senedd. Rwy'n credu bod tryloywder yn bwysig iawn yn yr agenda hon hefyd, a dyna pam yr ydym wedi bod yn falch o gyhoeddi'r holl ymchwil a gawsom yn ystod tymor diwethaf y Senedd. Ac wrth gwrs, mae wedi'i ddistyllu i lawr i'n dogfen crynodeb o ganfyddiadau.
Yn y modd hwnnw o dryloywder, mae adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi gwneud rhywfaint o ddadansoddiad yn ôl mathau o aelwydydd, ac mae'n dangos bod biliau, pe baem yn mynd am yr ailbrisio heb y bandiau ychwanegol, ac yn y blaen—felly dim ond un enghraifft ddangosol ydyw—mae'n awgrymu y gallai biliau gynyddu ar gyfer cyplau oedran pensiwn a chyplau oedran gweithio heb blant, ond yna gallai biliau leihau ar gyfer rhieni unigol, pensiynwyr sengl a chyplau â phlant. Felly, mae'n bwysig ein bod yn cynnal y dadansoddiad dosbarthiadol hwnnw o'r holl waith yr ydym yn ei wneud i ddeall yr effaith ar aelwydydd, a beth, os o gwbl, y byddai angen i ni eu rhoi ar waith i'w cefnogi, ac yna sicrhau bod y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a'n cyfres o eithriadau a gostyngiadau yn addas i'r diben ar gyfer unrhyw system newydd wrth i ni symud ymlaen.
Ac yn olaf, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad heddiw. Yn gyntaf oll, a fyddech chi'n cytuno bod y 22 awdurdod lleol ledled Cymru wedi bod yn gwbl anhygoel o ran cefnogi pobl, cymunedau a busnesau sy'n agored i niwed yn ystod y pandemig cyfan, a'i fod yn dangos gwerth gwasanaethau cyhoeddus ar lefel leol iawn? Wrth gwrs, mae'n hen bryd diwygio'r dreth gyngor, ond mae ffyrdd eraill mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi cynghorau i ddarparu prosiectau galluogi hanfodol bwysig, fel Porth Wrecsam yn y gogledd a'r ganolfan fyd-eang ar gyfer rhagoriaeth ar y rheilffyrdd yng nghanolbarth a de Cymru, a gefnogir gan Weinidogion Cymru drwy awdurdodau lleol. A wnaiff y Gweinidog ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi magnetau creu swyddi o'r fath ochr yn ochr â, wrth gwrs, cynghorau yn codi refeniw drwy system ddiwygiedig? Ac yn olaf, Gweinidog, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech roi sicrwydd i'r Aelodau unwaith eto na fydd unrhyw newidiadau sydyn i Filiau, ac y bydd y system newydd yn mynd i'r afael ag annhegwch y dreth gyngor.
Rwy'n ddiolchgar i Ken Skates am godi'r materion hyn a rhoi'r cyfle hwn i mi gofnodi fy niolch a diolch Llywodraeth Cymru i bob un o'r 22 o'n hawdurdodau lleol, sydd wedi gwneud gwaith hollol anhygoel yn cefnogi cymunedau drwy'r pandemig, ond yna, fel y dywed Ken Skates, mynd y tu hwnt i hynny o ran yr uchelgais sydd ganddyn nhw ar gyfer eu hardaloedd. Mae'r enghreifftiau gwych hynny o brosiect Porth Wrecsam a'r ganolfan fyd-eang ar gyfer rhagoriaeth ar y rheilffyrdd yn dangos rhai ffyrdd pellach y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda llywodraeth leol a'i chefnogi yn eu huchelgeisiau i greu a datblygu lles economaidd yn eu hardaloedd, a darparu'r swyddi cynaliadwy, medrus a phwysig hynny. Rwy'n credu bod ein gwaith yn mynd ymhell y tu hwnt i'r gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yn ystod y pandemig, er hynny. Rwy'n credu bod gennym ni lawer mwy i'w ddathlu gyda llywodraeth leol hefyd. Ac yna, yn olaf, dim ond cadarnhau na fydd unrhyw newidiadau ar unwaith o ganlyniad i'r datganiad heddiw. Yr hyn yr wyf yn ei nodi yw'r cyfeiriad teithio ac ymrwymiad i ymgynghori'n eang y flwyddyn nesaf, cyn inni lunio cynigion ynghylch sut y gallai system decach o'r dreth gyngor edrych yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog. Byddaf nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i drafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.
Croeso nôl. Cyn i ni ddechrau'r ail sesiwn hon, hoffai Peter Fox roi eglurhad ar gyfer y cofnod. Peter.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Roeddwn ar fai yn y sesiwn ddiwethaf am beidio â datgan buddiant a minnau'n gynghorydd sir i Gyngor Sir Fynwy, felly hoffwn wneud hynny nawr. Diolch.
Diolch. Mae hynny bellach wedi ei gofnodi.