2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r achos ofnadwy a ddigwyddodd yn Solihull yng ngorllewin canolbarth Lloegr, lle bu farw Arthur Hughes, a oedd yn chwech oed, ar ôl cael ei gam-drin yn greulon a ffiaidd. Er i bryderon gael eu lleisio, collodd Arthur ei fywyd oherwydd methiannau sylweddol a chyffredinol. O safbwynt addysgol, Weinidog, rydym yn ymwybodol iawn yn awr o'r profiad a gawsom yn ystod y pandemig fod yr ysgol ar gyfer plant yn llawer mwy nag ar gyfer addysg yn unig—mae'n darparu rôl gymdeithasol bwysig, ehangach, gyda lle diogel i blant, gan sicrhau eu bod yn cael bwyd a chymorth. Mae hefyd yn rhywle y gellir nodi patrymau ymddygiad a chamdriniaeth gorfforol. Ac fel y gwelsom o achos dirdynnol Arthur, pe bai wedi bod yn yr ysgol, mae'n bosibl y gellid bod wedi sylwi ar y gamdriniaeth yn gynt.
Mae'n ddealladwy fod rhieni'n pryderu am yr achos dirdynnol hwn, Weinidog, ac yn gofyn am sicrwydd gennych chi a'r Llywodraeth yn awr fod cadernid gweithdrefnau diogelu mewn ysgolion, a'r safonau ar gyfer diogelu plant sy'n agored i niwed ledled Cymru, wedi eu sicrhau. Weinidog, mae angen inni hefyd sicrhau bod gennym—
A wnewch chi ofyn y cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda?
—hyfforddiant ychwanegol i athrawon allu nodi arwyddion posibl o gamdriniaeth. Felly, a allwch ein sicrhau heddiw, Weinidog, y bydd gwersi'n cael eu dysgu o'r achos hwn, gan gynnwys yr effaith ddifrifol y mae'r cyfyngiadau symud a dim ysgol yn ei chael ar ein plant, yn enwedig plant sy'n agored i niwed?
Wel, a gaf fi ategu ei sylwadau ynglŷn ag achos trasig Arthur Labinjo-Hughes, y cyfeiriodd ato ar ddechrau ei chwestiwn, sy'n wers drist a sobreiddiol iawn i bob rhan o'r DU yn fy marn i? Mae gan bob lleoliad addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod plant yn cael mynediad at amgylchedd dysgu diogel, ac rwy'n disgwyl ac yn deall, wrth gwrs, ar draws y system, fod ystyriaeth ddifrifol yn cael ei rhoi i'r cyfrifoldebau hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol, 'Cadw dysgwyr yn ddiogel', i gynorthwyo ysgolion i greu a chynnal amgylchedd dysgu diogel i blant. Rhaid i bob ysgol nodi person diogelu dynodedig, a fydd yn sicrhau bod staff, dysgwyr a rhieni yn teimlo'n hyderus y gallant godi materion neu bryderon am ddiogelwch neu les dysgwyr, ac y byddant yn cael ystyriaeth ddifrifol. A rhaid i unrhyw un mewn lleoliad addysg, a gyflogir gan yr awdurdod lleol, adrodd wrth yr awdurdod lle mae achos rhesymol dros gredu bod plentyn mewn perygl o fod yn cael ei gam-drin, ei esgeuluso neu unrhyw fath arall o niwed. Mae gan bob awdurdod yng Nghymru swyddog arweiniol dynodedig ar gyfer diogelu mewn addysg, ac mae'r Hwb yn cynnal cyfres o fodiwlau e-ddysgu, a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, i gynorthwyo staff mewn lleoliadau addysg i ddeall y cyfrifoldebau diogelu hynny a'r ffordd orau o'u gweithredu.
Diolch. Weinidog, mae adroddiad Estyn a ryddhawyd yn gynharach yr wythnos hon yn eithaf damniol, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno. Roedd yn ddigon anodd pan oeddem ni yn yr ysgol, yn gymdeithasol, ond yn awr i bobl ifanc mae ganddynt lawer mwy i ymdopi ag ef, gyda phwysau ychwanegol ffonau a chyfryngau cymdeithasol, ac mae'n fy ngwneud yn falch nad wyf fi yn yr ysgol mwyach, ond fel rhiant, mae'n fy mhoeni'n ddyddiol.
Mae adroddiad Estyn sydd newydd gael ei ryddhau yn peri gofid mawr ac mae wedi tynnu sylw at y sefyllfa drasig y mae myfyrwyr ynddi gyda chymaint o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion yn digwydd mewn ysgolion. Gydag adroddiadau fod plant mor ifanc ag 11 oed dan bwysau i ddarparu lluniau amhriodol, a nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion yn codi, a'r cynnydd yn nifer y bobl nad ydynt yn rhoi gwybod am yr achosion hyn yn codi, rhaid gofyn cwestiynau difrifol, Weinidog, ac ynglŷn â methiant truenus y Llywodraeth hon i fynd i'r afael â hyn. Nid yw'r canfyddiadau hyn yn newydd, ond maent yn gwaethygu. Felly, pam nad yw pobl ifanc yn teimlo y gallant roi gwybod ynglŷn â hyn? Mae angen rhoi mesurau rhagweithiol ar waith, Weinidog, ar draws pob ysgol yng Nghymru i sicrhau yr ymdrinnir ag achosion fel y rhain gyda pharch, ac y gall ein pobl ifanc deimlo eu bod yn cael eu clywed, yn ogystal â chael gwared ar yr ymddygiadau hyn mewn ysgolion drwy ein cwricwlwm newydd yn y dyfodol. Pa gamau brys rydych yn eu rhoi ar waith yn awr i fynd i'r afael â hyn, Weinidog, fel bod pobl ifanc sy'n cael eu cam-drin yn y ffordd hon yr eiliad hon yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt?
Rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â difrifoldeb y mater, a chytunaf â hi fod adroddiad Estyn yn peri gofid mawr, ac rwyf am ddiolch i bob plentyn a pherson ifanc a gymerodd ran yn yr adroddiad hwnnw. Ni fydd wedi bod yn beth hawdd iddynt ei wneud, ond maent wedi bod yn ddewr, ac yn y sgyrsiau gonest hynny, maent wedi ein galluogi i ddeall yn well beth yw'r sefyllfa yn llawer o'n hysgolion. Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ac mae tri ohonynt wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru, a byddwn yn derbyn pob un o'r argymhellion. Roeddwn yn falch o fod wedi comisiynu'r adroddiad hwn, am fy mod yn cydnabod bod angen inni ddeall y sefyllfa ar lawr gwlad yn well. Ni fyddwn yn cytuno â'i disgrifiad o safbwynt y Llywodraeth; credaf fod y Llywodraeth wedi gweithredu'n gyflym ac mewn ffordd drylwyr iawn. A bydd yn cofio'r drafodaeth a gawsom ar y pwynt pan gomisiynais yr adroddiad, a oedd yn rhestru'r gwaith a oedd eisoes ar y gweill ar y pryd, gyda'n hysgolion, gyda'n hawdurdodau addysg lleol, a darparu adnoddau ychwanegol i gefnogi ein hysgolion.
Mae un o'r prif ganfyddiadau yn adroddiad Estyn mewn perthynas â chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd, ac yn annog y Llywodraeth i roi ystyriaeth lawn i adroddiad Estyn wrth gynllunio a dyfeisio'r cod hwnnw, a gallaf gadarnhau ein bod wedi gwneud hynny. Bydd y Siambr yn cael cyfle i'w ystyried yr wythnos nesaf wrth gwrs. Ond un o'r pwyntiau rwyf am ei wneud yn gwbl glir yw na allwn ddibynnu'n unig ar y cwricwlwm newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno dros flynyddoedd lawer, i fod yn ateb yma. Rwyf am sicrhau bod y meddylfryd a'r dysgu a'r adnoddau, sydd ar gael fel rhan o'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd, hefyd yn ein helpu yn y cwricwlwm presennol, gan y bydd hwnnw gyda ni am beth amser. Felly, mae gwaith eisoes ar y gweill yn y gofod hwnnw.
Yn olaf, mewn perthynas â'r argymhelliad ynghylch casglu data am fwlio ac aflonyddu mewn ysgolion, rydym eisoes yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i ddiwygio ein canllawiau gwrth-fwlio ac aflonyddu i ystyried yr hyn y mae Estyn yn ei argymell heddiw.
Diolch, Weinidog. Gofynnwyd cwestiynau eisoes am hyn heddiw, ond hoffwn bwyso arnoch ymhellach, os caf, ynglŷn ag a fydd ysgolion yn cau'n gynnar ar gyfer gwyliau'r Nadolig. Mae rhai ysgolion yn paratoi drwy gael eu gweithgareddau Nadolig yr wythnos hon yn hytrach na'r wythnos nesaf; mae rhai ysgolion wedi dweud eu bod yn mynd i gau; mae rhai ysgolion wedi dweud eu bod yn bendant na fyddant yn cau. Mae'n wahanol ledled Cymru. Onid oes angen dull Cymru gyfan o ymdrin â hyn, Weinidog? Ac mae angen rhyw fath o eglurder arnom heddiw, oherwydd mae angen i rieni baratoi gofal plant, mae angen i athrawon baratoi gwersi. Mae'n gwbl hanfodol eich bod yn rhoi cyfarwyddyd cyn gynted â phosibl ar yr hyn sy'n digwydd. Deallaf fod hyn yn gymhleth iawn, ac mae'n benderfyniad anodd i'w wneud, ond rhaid i hyn ddod i ben yn awr, Weinidog. Mae angen inni wybod heddiw neu erbyn dydd Gwener beth sy'n digwydd fel y gall pobl baratoi. A wnewch chi amlinellu'r hyn rydych chi'n ei wneud heddiw?
Wel, nid wyf yn credu bod clywed yr Aelod yn honni bod yna ddiffyg eglurder a minnau wedi nodi'r sefyllfa ychydig funudau'n ôl yn arbennig o ddefnyddiol, os caf ei roi felly. Fel y dywedais—[Torri ar draws.] Fel y dywedais, o ganlyniad i'r amrywiolyn, rydym i gyd yn edrych ar draws y Llywodraeth ar ba gamau y mae angen eu cymryd yn ddyddiol. Gwn ei bod yn cytuno bod angen sicrhau y gall plant aros yn yr ysgol cyn belled ag y bo modd, cyn hired ag y bo modd ac mor ddiogel â phosibl. Gwn ei bod yn rhannu'r farn honno. Canlyniad hynny ar draws y 10 awdurdod a fydd yn mynd y tu hwnt i'r wythnos nesaf, yw mai amser a gynlluniwyd ar gyfer addysgu i wneud iawn am yr amser addysgu a gollwyd hyd yma yw hwnnw. Felly, mae'r awdurdodau hynny, awdurdodau ledled Cymru, a Llywodraeth Cymru, yn rhannu uchelgais i sicrhau y gall pobl ifanc aros yn y dosbarth i wneud hynny. Ac ar y sail honno rydym yn cynllunio yn awr.
Llefarydd Plaid Cymru, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ddoe, bues i'n cwrdd â phwyllgor Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, sydd ers blynyddoedd bellach wedi bod yn ymgyrchu dros gael swyddog i'r Gymraeg llawn amser yn yr undeb. Mae gan brifysgolion Aberystwyth, Abertawe a Bangor swyddog tebyg ers blynyddoedd. Ond, yma yng Nghaerdydd, lle mae dros 3,000 o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yr iaith—y nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg yn unrhyw un o'n prifysgolion ni—does yna ddim swyddog sabothol gyda nhw. Yn ôl llywydd undeb y myfyrwyr Cymraeg, byddai swyddog o'r fath yn gallu darparu gwasanaethau pwysig i fyfyrwyr yn y Gymraeg, trefnu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o'r iaith, sicrhau bod llais i siaradwyr Cymraeg yng ngweithredoedd yr undeb, a rhoi gofod i bobl ifanc, wrth gwrs, i ddod at ei gilydd i ddefnyddio'r iaith yn gymdeithasol. Hefyd, mae'n sicrhau bod democratiaeth yn cael ei pharchu gan fod y myfyrwyr wedi pleidleisio fwy nag unwaith yn y gorffennol o blaid y math hwn o gynnig. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod hi'n hen bryd i fyfyrwyr Cymraeg gael chwarae teg yma yn y brifysgol yn ein prifddinas ni, ac a fyddai fe'n fodlon ysgrifennu at fwrdd yr ymddiriedolwyr, sy'n cwrdd ddydd Iau nesaf mae'n debyg, er mwyn cefnogi ymgyrch y myfyrwyr Cymraeg?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Mewn prifysgol sydd â'r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg o holl brifysgolion Cymru, mae'n briodol bod gan myfyrwyr gynrychiolaeth gyflogedig yn eu hundeb. Byddai hyn yn cyfateb i'r gynrychiolaeth rŷn ni'n gweld mewn undebau ym mhrifysgolion eraill Cymru, fel gwnaeth yr Aelod grybwyll yn ei gwestiwn. Mater, wrth gwrs, i fwrdd ymddiriedolwyr yr undeb ei hunan yw hyn. Fodd bynnag, os yw'r cynnig i sefydlu swydd lawn amser i'r Gymraeg wedi ei basio yn unfrydol, fel rwy'n deall ei fod e wedi, byddai'n rhesymol i ddisgwyl bod y penderfyniad hwn yn cael ei wireddu.
Diolch yn fawr iawn. Gyda chwricwlwm newydd ar y ffordd, a'r targed i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a'r Bil addysg Gymraeg ar y gorwel, mae'n amlwg bod newidiadau mawr ar droed i'r sector addysg o ran darpariaeth y Gymraeg. Fel rŷn ni eisoes wedi'ch clywed chi'n sôn yn y Siambr, Weinidog, mae plant wedi colli llawer o'u haddysg yn ystod y pandemig, ac mae rhieni wedi gorfod chwarae rhan fwy canolog yn eu haddysg o ganlyniad. Er mwyn hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn ystod y pandemig, sydd, yn anffodus, yn parhau, ac ymlaen felly i 2050, bydd angen sicrhau, wrth gwrs, fod gan rhieni y sgiliau cywir i sicrhau bod plant yn gallu gwneud y defnydd gorau o'r iaith Gymraeg ar yr aelwyd. Felly, hoffwn i ofyn i chi pa gymorth penodol fydd yn cael ei ddarparu i rieni i'w galluogi i chwarae rhan wrth gefnogi addysg Gymraeg a hybu defnydd o'r Gymraeg gartref?
Wel, mae'r cwestiwn hwn yn un pwysig iawn, ac, mewn amryw ffyrdd, mae'r Llywodraeth eisoes yn darparu cefnogaeth. Un o'r blaenoriaethau sydd gyda ni yw sicrhau bod trosglwyddiad y Gymraeg yn digwydd ar yr aelwyd. Mae hynny, efallai, yn fwy o her na byddwn i'n gobeithio ac yn disgwyl ei bod hi. Felly, mae cefnogaeth benodol ar gael yn y cyd-destun hwnnw. Hefyd, fel rŷch chi'n gwybod, o ran y blynyddoedd cynnar, mae amryw gynlluniau eisoes gyda ni sydd yn cefnogi rhieni i siarad yn Gymraeg â'u plant a, phan fydd gyda ni rieni sydd ddim yn siarad Cymraeg, i sicrhau eu bod nhw'n cael mynediad a chyfle i ymwneud a chael profiad o gylchoedd meithrin ac ati yn y Gymraeg. Felly, mae amryw o'r pethau yna eisoes ar y gweill.
Ond, hefyd, beth rŷn ni wedi gweld yw mynediad ar draws Cymru at gyrsiau ar-lein y ganolfan dysgu genedlaethol. Mae'r ffigurau hynny wedi cynyddu'n sylweddol, a'r ddarpariaeth wedi'i hehangu hefyd yn sgil hynny. Felly, rwy'n credu, fel mae byrdwn y cwestiwn yn awgrymu, fod gwersi gyda ni y gallwn ni eu dysgu ar gyfer y dyfodol o'r hyn rŷn ni wedi gweld dros y flwyddyn, 18 mis diwethaf, i weld sut y gellir ehangu'r ddarpariaeth hynny ymhellach.
Iawn, diolch yn fawr iawn. Dros yr haf, bu'r pwyllgor diwylliant presennol, sy'n gyfrifol am y Gymraeg, ymhlith pethau eraill, yn ymgynghori ynghylch beth ddylai ei flaenoriaethau fod ar gyfer y chweched Senedd yma. Un o'r blaenoriaethau oedd cydnabod bod plant ysgol yn ystod y pandemig wedi wynebu cyfnodau estynedig i ffwrdd o'r ysgol, fel rôn i'n sôn amdano yn y cwestiwn blaenorol, ac, oherwydd hynny, mae eu haddysg nhw wedi dioddef. Prin, oherwydd y broblem o safbwynt y Gymraeg yn benodol, y bu'r rhyngweithio rhwng plant a'u rhieni o safbwynt defnydd y Gymraeg, yn arbennig plant, wrth gwrs, sy'n dod o gartrefi di-Gymraeg. Felly, yn dilyn galwadau am ragor o fuddsoddiad yn y ddarpariaeth drochi hwyr yn y Gymraeg, cafwyd cyhoeddiad gan y Llywodraeth ynghylch cynnig o £2.2 miliwn i ehangu'r ddarpariaeth, ac fe gafodd hynny groeso mawr, gennym ni yn sicr yma ym Mhlaid Cymru. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog sut mae'r cyllid hwn wedi cael ei ddefnyddio a pha effaith mae'r cyllid wedi'i chael ar adfer addysg, yn bennaf addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd, wrth feddwl am y dyfodol, pa gynlluniau pellach sydd gan y Gweinidog i gefnogi'r Gymraeg trwy gynlluniau adfer addysg?
O ran buddsoddi i gefnogi’r rheini oedd wedi colli'r cyfle i ddefnyddio’u Cymraeg, efallai lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar yr aelwyd, mae'r arian o ran adnewyddu a diwygio y gwnaethom ni ei ddatgan ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae elfen o hynny wedi’i flaenoriaethu ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg er mwyn sicrhau bod cefnogaeth bellach iddyn nhw allu ailfeithrin ac ailgydio, efallai, mewn rhai enghreifftiau, yn eu Cymraeg. Felly, mae'r ffynhonnell arian honno eisoes ar waith yn sicrhau cefnogaeth bellach i ddisgyblion.
O ran yr arian trochi, cawsom ni gynigion o bob rhan o Gymru ar gyfer y gyllideb honno, ac mae'n cael ei defnyddio mewn ardaloedd newydd i greu darpariaeth sydd ddim wedi bod yno o'r blaen, neu ddim wedi bod yno am flynyddoedd. Mewn mannau eraill yng Nghymru, mae'n estyn yr hyn sydd eisoes yn cael ei ddarparu, ac mewn awdurdodau lle efallai dŷn nhw ddim cweit eto wedi cyrraedd y pwynt ar eu siwrnai ieithyddol lle mae darparu trochi efallai yn gweithio o'u safbwynt nhw, maen nhw'n bwriadu defnyddio'r arian hynny i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd er mwyn gallu symud ymhellach ar y siwrnai. Rwy'n angerddol iawn dros beth allwn ni ei wneud trwy drochi i sicrhau mynediad i bob plentyn sydd eisiau hynny ar draws Cymru, ac rwy'n gobeithio cael perswâd ar y Gweinidog cyllid i sicrhau bod buddsoddiad yn gallu parhau yn y blynyddoedd sydd i ddod.