8. Y Cwricwlwm i Gymru — Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

– Senedd Cymru am 6:12 pm ar 14 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:12, 14 Rhagfyr 2021

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 8, y Cwricwlwm i Gymru, y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, a dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i gyflwyno'r cynnig yma—Jeremy Miles.

Cynnig NDM7864 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Tachwedd 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:12, 14 Rhagfyr 2021

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb i'w ystyried gan y Senedd.

Mae angen inni helpu'n plant a'n pobl ifanc i fynd o nerth i nerth ym mhob agwedd ar fywyd, fel eu bod yn tyfu i fod yn oedolion sy'n unigolion iach, hyderus. Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb rôl gadarnhaol ac amddiffynnol i'w chwarae yn addysg [Anghlywadwy.] Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i'w chyflawni o ran creu amgylchedd diogel a grymusol sy'n cefnogi hawliau dysgwyr i fwynhau cydberthnasau boddhaus, iach a diogel drwy gydol eu bywydau.

Rŷn ni hefyd yn gwybod bod plant a phobl ifanc sydd â chydberthnasau cryf ac ymdeimlad cadarnhaol o'u hunain ac sy'n gallu deall a rheoli eu hemosiynau a'u lles eu hunain mewn sefyllfa well i gyrraedd eu potensial llawn yn y dyfodol. Bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn rhoi'r egwyddorion hyn wrth wraidd y dysgu. Rydym am i'n pobl ifanc ffynnu er mwyn iddynt allu ymateb yn gadarnhaol i fyd sydd yn newid a bod yn barod am y bywyd sydd o'u blaenau.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:13, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Mae gan blant yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed ac sy'n caniatáu iddyn nhw lywio'r byd cymhleth yr ydym ni'n byw ynddo—un sy'n wahanol iawn i'r byd y cawsom ni ein magu ynddo. Fel cymdeithas, rydym ni'n dod yn fwyfwy ymwybodol o ddatblygiadau mewn technoleg, gan gynnwys dylanwad cynyddol y cyfryngau cymdeithasol a'r cynnydd yn y defnydd o gyfathrebu a dyfeisiau digidol. Yn y cyd-destun hwn, mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn gymorth pwysig i alluogi dysgwyr i lywio'r newidiadau hyn a'u cadw'n ddiogel rhag niwed.

Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb swyddogaeth bwysig hefyd i ymateb i ystod eang o faterion a heriau brawychus y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, sydd wedi eu hamlygu'n fwy diweddar, boed yn cadw'n ddiogel ar-lein, aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, neu amlygiad plant a phobl ifanc i ddelweddau rhywiol a phornograffi. Mae'n hanfodol bod gan ein dysgwyr ddealltwriaeth o'r materion hyn, ond mae hefyd yn hanfodol ein bod ni'n eu cynorthwyo i fod yn ddiogel mewn amgylchedd cynhwysol sy'n gefnogol i bob plentyn a'n bod ni'n paratoi ein hathrawon a'n hymarferwyr i ymdrin â'r materion hyn. Rydym ni wedi parhau â'r safbwynt y dylai'r holl ddysgu mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn briodol yn ddatblygiadol ac mae'r camau a amlinellir yn y cod yn ganllaw i roi dealltwriaeth i ymarferwyr o'r hyn sy'n debygol o fod yn briodol yn ddatblygiadol. Mae hyrwyddo a chynorthwyo perthnasoedd iach eisoes yn rhan allweddol o'n dull o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae eisoes wedi llywio'r Cwricwlwm i Gymru newydd. Bydd strategaeth ddrafft newydd Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cyd-fynd â'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd a'r canllawiau statudol.

Yn fwy cyffredinol, rydym yn parhau i hyrwyddo perthnasoedd iach yn y ffordd yr ydym yn cefnogi teuluoedd ac unigolion sy'n agored i niwed. Drwy hyrwyddo cysyniad cyson o beth yw perthnasoedd iach, byddwn yn cefnogi ein dull cymdeithas gyfan o roi terfyn ar gam-drin menywod a merched yng Nghymru. Bydd ein strategaeth newydd i atal trais yn erbyn menywod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei chyflawni drwy ddull partneriaeth gwirioneddol, gan gynnwys addysg, iechyd, yr heddlu, gwasanaethau arbenigol, a goroeswyr i greu'r glasbrint ar gyfer gweithredu.

Ar 26 Tachwedd, ysgrifennais at Aelodau'r Senedd, gan rannu'r canllawiau statudol drafft ar addysg cydberthynas a rhywioldeb. Yn y canllawiau hyn, y mae'n rhaid eu darllen gyda'r cod, bydd yr Aelodau'n sylwi ei bod yn glir y dylai'r dull o ymdrin ag addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn gadarnhaol, yn amddiffynnol ac yn ataliol, gan ystyried sut y gellir cynorthwyo dysgwyr i gael yr wybodaeth i adnabod pob math o wahaniaethu, trais, cam-drin ac esgeulustod, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae dolen wedi ei gynnwys mewn pecyn adnoddau i gefnogi ysgolion a lleoliadau ar drais yn erbyn menywod a merched.

Hoffwn i dalu teyrnged yn arbennig a diolch i sefydliadau fel y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, Cymorth i Ferched Cymru ac eraill am eu cefnogaeth barhaus i addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol a'u cyfraniadau dros y misoedd diwethaf wrth i ni gryfhau'r maes dysgu hwn o fewn y canllawiau a'r cod statudol, a fydd yn cefnogi diogelwch dysgwyr drwy eu galluogi i gydnabod perthnasoedd a sefyllfaoedd anniogel neu niweidiol.

Mae adroddiad diweddar Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg yn anodd iawn ei ddarllen, ac mae nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ein cymdeithas ymhlith pobl ifanc yn annerbyniol. Mae hefyd yn glir bod trais yn erbyn menywod a merched yn llawer rhy gyffredin, ac rwyf i'n credu'n gryf y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol yn helpu i gefnogi dysgwyr i ffurfio a meithrin ystod o berthnasoedd iach wedi eu seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd. Tynnodd adroddiad Estyn sylw hefyd at y ffaith bod gan ein disgyblion LGBTQ+ brofiadau personol sylweddol o aflonyddu geiriol, homoffobig. Mae unrhyw fath o fwlio yn gwbl annerbyniol.

Bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei gwireddu, Dirprwy Lywydd, mewn ffordd sy'n gynhwysol, yn unol ag egwyddorion cydraddoldeb. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn gallu gweld eu hunain, eu teuluoedd, eu cymuned a'i gilydd yn cael eu hadlewyrchu ar draws y cwricwlwm ac yn gallu dysgu gwerthfawrogi gwahaniaeth ac amrywiaeth fel ffynhonnell o gryfder. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chynwysoldeb LGBTQ+. Mae hyn yn cyfrannu at gymdeithas gydlynol, deg a chyfiawn sy'n rhoi'r sgiliau am oes i ddysgwyr. Rydym yn glir bod angen arbenigedd, amser ac adnoddau arbenigol ar addysg cydberthynas a rhywioldeb i fod yn effeithiol. Bydd hyn yn sicrhau bod amgylchedd cefnogol yn cael ei greu i alluogi dysgwyr ac ymarferwyr i fod yn ddiogel, er mwyn trafod a dysgu am faterion a allai fod yn sensitif neu'n heriol.

Un o'r prif flaenoriaethau i ni dros y misoedd nesaf fydd cynorthwyo ysgolion a lleoliadau cyn gweithredu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae cynllun cenedlaethol o ddysgu proffesiynol ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gydag ymarferwyr a phartneriaid. Yn gynharach eleni cyhoeddais gyllideb o £100,000 i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu adnoddau addysg cydberthynas a rhywioldeb o ansawdd uchel, a fydd yn helpu i ddatblygu hyder a dealltwriaeth athrawon o ran darparu addysg cydberthynas a rhywioldeb gynhwysol o ansawdd uchel. Rydym yn trafod gyda rhanddeiliaid ac ymarferwyr allweddol i nodi unrhyw fylchau ac i gomisiynu adnoddau newydd o ansawdd uchel, pan fo'u hangen, i gefnogi'r gweithredu hwnnw. Bydd ein sgyrsiau rhwydwaith cenedlaethol â'r sector yn gyfle hefyd i drafod y gwaith o weithredu addysg cydberthynas a rhywioldeb ymhellach.

Hoffwn i ddiolch i'r ymarferwyr yn y gweithgor addysg cydberthynas a rhywioldeb am eu gwaith caled ac am eu hymroddiad a'u hymrwymiad i ddatblygu'r cod hwn. Hoffwn i ddiolch hefyd i'r sefydliadau sy'n cynnwys crefydd, hawliau, rhanddeiliaid sy'n cynrychioli buddiannau plant, ac arbenigwyr am gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r cod hwn. Mae llawer gormod ohonoch i'ch enwi'n unigol, ond nid yw fy niolch yn llai personol. Rwyf i mor falch bod y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb hwn yn ennyn cymaint o gonsensws a chefnogaeth o bob rhan o'r gymdeithas ddinesig. Edrychaf ymlaen at y cyfraniadau yn y ddadl ac at ddeialog ag Aelodau ar y maes dysgu pwysig hwn. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 6:19, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod yn gwbl warthus mai dim ond 30 munud sydd gennym ni i drafod rhywbeth sydd mor sylfaenol bwysig, yn ystod yr wythnos olaf cyn y toriad.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 6:20, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Mae cymaint o'i le ar y cod ar ei ffurf bresennol, a'r canllawiau, sydd o bwys enfawr ac yn ganllaw i'n hathrawon. Cafodd y canllawiau hanfodol hyn, a oedd ar goll i ddechrau, eu cyhoeddi gan y Llywodraeth hon yn hwyr neithiwr. I graffu arnyn nhw'n briodol, mae dadl 30 munud yn unig yn sarhad ar y Senedd, y rhieni, athrawon a phlant ledled Cymru.

Dirprwy Lywydd, cyn i mi geisio mynd i'r afael â'r llu o bryderon sydd gan y meinciau hyn, rwy'n diolch i'r Llywydd am gydnabod pwysigrwydd y ddadl hon yn flaenorol a chaniatáu mwy o hyblygrwydd o ran amseriadau, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ymestyn hynny i fy nghyfraniad i, gan fod angen neilltuo digon o amser i graffu ar hyn a'i drafod yn ddigonol. Mae'n hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn ac nad yw'n cael ei ruthro drwodd, gan y bydd hyn yn effeithio'n fawr ar genedlaethau o blant yng Nghymru.

Rydym ni i gyd eisiau cael addysg cydberthynas a rhywioldeb sydd o ansawdd uchel, yn ddiogel, yn briodol i oedran, yn gwbl gynhwysol, ac yn wyddonol gywir i'n plant. Bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle unigryw i ni fynd i'r afael o'r diwedd â rhai o faterion pwysig yr oes sydd ohoni a'u haddysgu i hyrwyddo perthnasoedd iach, ymwybyddiaeth ac i amddiffyn ein plant. Rydym ni'n croesawu hyn. Fodd bynnag, mae angen i ni ei wneud yn iawn. Mae angen iddyn nhw fod y negeseuon iawn, y cynnwys iawn, wedi eu cyflwyno gan athrawon sydd wedi eu hyfforddi'n llawn neu gan gyrff allanol sy'n cadw at y canllawiau caeth a gaiff eu gosod. Felly, mae angen i'r canllawiau hyn a'r cod fod yn glir ac wedi eu seilio ar wirionedd. Mae hyd yn oed y teitl yn fy mhoeni i—dileu'r gair 'rhyw' o deitl addysg cydberthynas a rhywioldeb a defnyddio 'rhywioldeb' yn ei le—fel y mae dileu pob cyfeiriad at 'ferch', 'bachgen', 'menyw'. Mae'n hurt o ddryslyd, yn beryglus i gyfyngu ar ddefnyddio rhywedd, ac mae'n fy nharo i fel Llywodraeth sy'n poeni'n fwy am hyrwyddo syniadaeth nag addysgu ffeithiau i'n plant a'u hamddiffyn. Mae hepgor unrhyw dermau rhywedd yn y cod, a bod yn onest, yn syfrdanol. Nid yw'r hyn sydd wedi ei gyflwyno yn addysg rhyw sydd wedi ei seilio ar ffeithiau ac sy'n gywir yn fiolegol, ond yn trwytho plant mewn syniadaeth ynghylch hunaniaeth rhywedd. Mae dileu 'rhyw' yn tanseilio diogelu, yn erydu'r cysyniad o breifatrwydd, ffiniau a chydsyniad, gan roi merched yn arbennig mewn perygl—mae cod lle mae merched a menywod yn anweledig, ar wahân i gyfeiriadau at eu gweithrediadau corfforol, yn fwy na gwrth-reddfol. Mae merched a menywod yn bodoli, ac mae'n syfrdanol bod lleiafrif bach yn ceisio ein dileu o gymdeithas.

Mae angen i'n blaenoriaeth fod ar ddiogelu plant, gan roi'r ffeithiau iddyn nhw mewn modd sy'n briodol i'w hoedran. Rwy'n cytuno'n llwyr â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sydd wedi siarad yn erbyn y cod hwn heddiw, ac yn ailadrodd ei galwadau ac rwy'n credu y byddai'n gam cwbl resymol i gynnwys yn benodol ac yn glir yr angen i ddeall y sail rywedd i drais a'r materion rhywedd penodol ar gyfer perthnasoedd iach ar wyneb y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb. Ac, wrth ymateb i wrthodiad y Llywodraeth, mae'n wir bod cyfeiriad at Ddeddfau yn y dogfennau hyn, sef Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ond, y tu hwnt i hynny, nid oes unrhyw beth o gwbl yn y deilliannau dysgu sydd â'r pŵer i newid patrymau neu agweddau gwrywaidd cyfredol at drais rhywiol a domestig. O ystyried bod y troseddau hyn ar gynnydd, yn enwedig mewn ysgolion, fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae'n hanfodol manteisio ar y cyfle yn awr i fynd i'r afael â hyn. Yn yr un modd, ceir cyfeiriad at y Ddeddf Cydraddoldeb. Gallwn i fynd ymlaen, ond, Dirprwy Lywydd, nid oes amser. Ond, yn y bôn, mae diben y Ddeddf hon wedi ei erydu yn y cod hwn. Bydd llwyddiant y cod hwn yn dibynnu ar gefnogaeth a chydweithrediad gan rieni, gofalwyr, teuluoedd ac athrawon ledled Cymru, ond mae'r rhain yn god a chanllawiau anodd eu dilyn, dryslyd ac nid ydyn nhw'n ffeithiol gywir, sy'n defnyddio termau wedi eu diffinio'n wael nad oes ganddyn nhw unrhyw sail yn y gyfraith ac, rwyf i'n credu, na fydd yn cael y gefnogaeth honno.

Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu'n fwriadol lu o bryderon a gafodd eu codi yn y drafft cychwynnol, ac mae'r canllawiau yn dal i fethu â mynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion. Nid oes unrhyw sôn o hyd am y safonau sy'n ofynnol ar gyfer cyflenwyr neu ddarparwyr deunydd addysgol trydydd parti, y mae angen, yn fy marn i, eu cymeradwyo gan Estyn. Mae'r iaith yn y cod yn parhau i fod yn anrhyweddol, yn anghywir ac yn ddryslyd, a allai arwain at effaith andwyol, Gweinidog. Hoffwn i fynd ymlaen, ond, unwaith eto, nid oes digon o amser. Ac mae'n dal i beidio â chynnwys effaith pornograffi ar gymdeithas ac unigolion—yn briodol i oedran, wrth gwrs. Yn wir, bod yn briodol i oedran yw un o'r pethau pwysicaf y mae angen i ni ei sicrhau drwy'r dogfennau hyn. Ond, oherwydd rhwyddineb a thuedd gynyddol o rannu delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol, fel yr ydym ni wedi ei drafod yn ddiweddar yn y Senedd, mae angen mynd i'r afael â hyn.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae llawer o ddiffygion clir ac amlwg yn y dogfennau hyn o hyd, ac maen nhw'n ddryslyd iawn o ran eu cynnwys ac nid ydyn nhw'n addas i'r diben. Mae'n hanfodol bod angen i'r canllawiau hyn fod yn glir, yn gryno ac yn gadarn os yw'n mynd i fod yn ganllaw i addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb mewn modd cyson ledled Cymru ac os yw'n mynd i gael yr effaith a ddymunir. Os bydd y cod hwn yn mynd drwodd fel y mae, rwy'n rhybuddio'r Senedd hon na fydd yn mynd i'r afael â'r materion y mae'n bwriadu eu datrys, ni fydd yn mynd i'r afael â'r hyn y mae'r Llywodraeth hon ei hun yn dymuno mynd i'r afael ag ef, ac ni fydd yn gyfraniad teilwng at wella bywydau'r cenedlaethau nesaf o blant Cymru. Byddwn ni'r Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn hyn heddiw, ac rwy'n annog y Senedd i ddilyn ein hesiampl. Rwy'n gobeithio y gellir ailgyflwyno'r canllawiau hyn, wedi eu diwygio, i'r Senedd yn y flwyddyn newydd a chraffu arnyn nhw yn iawn, fel y maen nhw'n ei haeddu ac y dylai fod. Diolch.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 6:25, 14 Rhagfyr 2021

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Rwy'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl bwysig hon ar ran Plaid Cymru. Mae hon yn agwedd mor allweddol o'r cwricwlwm newydd, ac yn agwedd rŷn ni wedi bod yn gyson gefnogol ohoni drwy gydol taith y cwricwlwm newydd drwy'r Senedd, gan y bydd, gobeithio, yn arwain at gyfle hanesyddol i feithrin agweddau a dealltwriaeth o gydraddoldeb yn ein cymdeithas o ran ymagwedd at y rhywiau, rhywedd a rhywioldeb.

Rwy'n hynod o falch o nodi bod addysg cydberthynas a rhywioldeb wedi derbyn cefnogaeth eang gan ymarferwyr a dysgwyr fel ei gilydd, yn ogystal â chyrff cyhoeddus a rhieni. Roedd y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y cod drafft yn gefnogol ar y cyfan i'r dull cyffredinol o ymdrin ag addysg cydberthynas a rhywioldeb, gydag agweddau cadarnhaol tuag at y dull a gymerwyd yn cael eu llywio gan wahanol safbwyntiau. Roedd cymaint o'r rhai wnaeth ymateb yn deall y byddai darparu addysg cydberthynas a rhywioldeb yn effeithiol wrth gefnogi lles plant a phobl ifanc ac wrth hyrwyddo hawliau'r plentyn, a bod y ddarpariaeth honno'n adlewyrchu neu'n adeiladu ar arferion addysgu presennol mewn ysgolion.

O ran lles plant a phobl ifanc, roedd yn cael ei gydnabod y byddai darpariaeth briodol yn darparu cyfleoedd iddynt ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u hyder i archwilio eu bydoedd a'u sfferau cymdeithasol yn ddiogel ac yn hyderus, ac yn diogelu eu lles emosiynol a chorfforol. Yn y pen draw, y gobaith, wrth gwrs, yw y bydd yn galluogi plant a phobl ifanc i ganfod eu ffordd yn hyderus ac yn ddiogel o fewn cymdeithas sy'n newid yn barhaus—cymdeithas wahanol iawn, fel dywedodd y Gweinidog, i'r un y gwnaethon ni gael ein magu ynddi.

Yn ogystal, ystyriwyd bod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn hanfodol wrth ddarparu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o berthnasoedd sydd â pharch wrth eu craidd, ac wrth ddarparu gwybodaeth gytbwys a diduedd a all amddiffyn a grymuso plant a phobl ifanc—syniad sy'n cael ei gefnogi ymhellach gan y pwyslais pellach ar hawliau'r plentyn oddi mewn i'r cynigion sy'n deillio o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Erbyn hyn, ers yr ymgynghoriad ar y cod drafft, gwnaed newidiadau i'r cod, ac mae'r rhain wedi'u hamlinellu'n rhannol gan y Gweinidog. Felly, byddwn yn gobeithio y gallai'r Gweinidog ddarparu mwy o fanylion am y newidiadau, y rhesymeg y tu ôl i newid y cod a sut mae'n credu y bydd y newidiadau hyn yn effeithio'n gadarnhaol neu'n cryfhau darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 6:28, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Gan roi'r agweddau da i'r naill ochr, mae rhai materion sy'n ymwneud â pherthnasoedd a rhywioldeb yn parhau i fod yn gyffredin yng nghymdeithas Cymru, ac rwy'n gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl hon, y gall y Gweinidog daflu rhywfaint o oleuni ar sut y bydd yr agwedd hon ar y cwricwlwm yn helpu i unioni'r problemau hyn. Fel y clywsom mewn adroddiad diweddar gan Estyn, canfuwyd bod disgyblion dan bwysau'n rheolaidd i anfon lluniau noeth, a merched yn cael eu haflonyddu am hyd eu sgertiau. Yn hyn o beth, dywedodd tua hanner y disgyblion uwchradd eu bod wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol gan gyd-ddisgyblion, bod dwywaith cymaint o ferched wedi dweud eu bod wedi wynebu aflonyddu rhywiol gan fechgyn, a bod 46 o'r rhai a oedd wedi cael profiad ohono wedi penderfynu peidio â dweud wrth unrhyw un arall. Mae'n frawychus, ond nid yw'n syndod llwyr gweld bod 71 y cant o ddisgyblion fechgyn ac 82 y cant o ddisgyblion sy'n ferched wedi dweud eu bod wedi gweld aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn ysgolion uwchradd.

Rydym yn croesawu'r dull addysg gyfan yn y cwricwlwm newydd o roi terfyn ar gasineb at fenywod a thrais yn erbyn menywod a merched. Ac yng ngoleuni'r canfyddiadau brawychus hyn yn adroddiad Estyn, mae'n gliriach nag erioed bod angen darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb gadarn arnom yn ein cwricwlwm, a bod y ddarpariaeth hon yn grymuso disgyblion i ymddiried yn eu hathrawon, sefyll i fyny i'w cyfoedion ac adrodd ar bob math o aflonyddu rhywiol. Gobeithio y gallai ymateb y Gweinidog i'r ddadl hon egluro sut y gallai darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb fynd ati i unioni'r broblem erchyll a pharhaus hon yn ein hysgolion.

Fel y cyfeiriodd y Gweinidog yn ei ddatganiad, canfu arolygwyr Estyn hefyd fod lawer o ddisgyblion LGBTQ+ wedi cael llawer o brofiadau personol o fwlio ac aflonyddu homoffobig, a bod y rhan fwyaf o ddisgyblion LGBTQ+ a arolygwyd gan Estyn yn dweud eu bod nhw'n meddwl mai dim ond ychydig o athrawon fyddai'n gwneud unrhyw beth yn ei gylch pe bydden nhw'n clywed sarhad homoffobig yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn. Mae'n destun pryder nodi bod rhai o'r ymatebion mwy gwrthwynebol i'r ymgynghoriad yn aml yn cuddio rhagfarn ac agweddau gwahaniaethol yn erbyn pobl drawsryweddol, felly hoffwn i gofnodi ac ailddatgan fy ymrwymiad i a fy mhlaid i sicrhau bod angen clywed a chadarnhau lleisiau a phrofiadau LGBTQ+, a'n haddewid parhaus i hyrwyddo hawliau LGBTQ+. Wrth ymateb i'r ddadl hon, byddwn i'n gwerthfawrogi pe gallai'r Gweinidog egluro yn fwy sut y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn helpu myfyrwyr LGBTQ+, yn ogystal â'u cydweithwyr a'u hathrawon, i greu amgylchedd o well dealltwriaeth a mwy grymusol a thosturiol yn ein hysgolion. 

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ddod i ben nawr.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

[Anghlywadwy.]—wrth gloi, ynglŷn â sut y bydd pynciau eraill yn y cwricwlwm newydd yn cryfhau neu'n cefnogi darpariaeth addysg cydberthynas rhywioldeb a'i nodau craidd. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu'n hir ac yn galed er mwyn gweld mwy o bwyslais ar hanes Cymru, gan gynnwys hanes LHDTC+ yng Nghymru yn y cwricwlwm newydd, ac rwy'n falch o weld y cyfeiriad at hyn yn ein cytundeb cydweithredu gyda'r Llywodraeth. Mae'n gwbl hanfodol bod disgyblion yn dysgu'r cyd-destun hanesyddol, sut wnaethon ni gyrraedd lle'r ydym ni nawr fel cymdeithas, os ydyn nhw am ddeall a chanfod eu ffordd o fewn y gymdeithas honno. Felly, hoffwn wybod, wrth gloi, sut mae darpariaeth addysg cydberthynas rhywioldeb yn cael ei hadlewyrchu a'i chefnogi gan bynciau eraill yn y cwricwlwm fel hanes. Diolch.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 6:31, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn pleidleisio yn erbyn cod addysg cydberthynas a rhywioldeb Llywodraeth Cymru heddiw. Fel y bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o ddadleuon a gafodd eu cynnal yn y Senedd flaenorol, rwyf i o'r farn mai rhieni yw prif addysgwyr eu plant, nid y wladwriaeth, ac rwyf i'n credu bod camau Llywodraeth Cymru i ddileu hawl rhieni i dynnu eu plant yn ôl o wersi addysg rhyw enfawr tuag yn ôl o ran hawliau a dewis rhieni, ac, o ystyried y ffaith na chaiff rhieni dynnu eu plant yn ôl o wersi addysg rhyw mwyach, mae'n gwbl hanfodol bod y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd mor barchus a chynhwysol â phosibl i'r amrywiaeth eang o safbwyntiau sydd gan bobl ar y pwnc pwysig iawn hwn. Ond mae'n flin gen i ddweud nad yw'r cod sydd ger ein bron heddiw a'r canllawiau statudol drafft a gafodd eu rhannu ag Aelodau yn hwyr y bore yma yn gwneud hynny. Yr hyn sydd yn amlwg yw bod Llywodraeth Cymru yn ceisio celu cyfres ddadleuol o syniadau y mae llawer iawn o ddadlau yn eu cylch fel rhyw fath o gatalog sefydlog o wirioneddau y dylid eu haddysgu i bob disgybl yn y wlad. Ond mae'r realiti ymhell o hynny. Y gwir amdani yw bod llawer iawn o ddadlau, hyd yn oed o fewn y gymuned LGBTQ+, ar yr effaith y gallai'r cod ei chael, yn enwedig ar hawliau menywod, ac mae pryderon gwirioneddol bod barn pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru mewn perygl o gael eu cythreulio a gwahaniaethu yn eu herbyn.

Mae pwyslais mawr iawn yn y cod ar barch, ond mae'n amlwg nad yw'n ymddangos bod y parch hwnnw'n ymestyn i lawer o Gristnogion, Mwslimiaid, Iddewon, Hindŵiaid, Sikhiaid, aelodau o grefyddau eraill, aelodau o'r gymuned LGBTQ+ na'r rhai y gallai eu barn fod yn groes i'r rhai y mae Llywodraeth Cymru yn eu harddel. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y cod a'r canllawiau drafft wedi eu dylanwadu'n fawr o safbwynt ideolegol sy'n ymwybodol iawn o bechu, ac mae'r canllawiau drafft yn arbennig yn sgrechian hynny. O'r 4,000 o eiriau sydd ynddyn nhw, rydym yn gweld y geiriau 'gwryw' yn cael ei grybwyll unwaith yn unig; 'benyw' ddwywaith, a'r ddau wrth drafod anffurfio organau rhywiol menywod; nid yw 'dynion' yn ymddangos o gwbl, nac ychwaith y geiriau 'merch', 'bachgen', 'syth' na 'heterorywiol'. Nid yw unrhyw god addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n ceisio osgoi'r geiriau hyn yn werth y papur y mae wedi ei ysgrifennu arno.

Nawr, fel Llywodraeth y dydd, rwy'n parchu bod gennych yr hawl i gynllunio'r cwricwlwm yn y ffordd yr ydych chi'n ei ystyried sy'n addas, ond nid oes gennych chi'r hawl i addysgu cwricwlwm amhriodol, wedi ei lwytho'n rhywiol, sy'n hyrwyddo dealltwriaeth o sut y mae gan bawb hawl i, ac rwy'n dyfynnu, 'perthnasoedd pleserus' i blant mor ifanc ag 11 oed. Mae gwneud hynny heb ganiatâd rhieni, yn fy marn i, yn gwbl annerbyniol, felly rwy'n annog yr holl Aelodau heddiw i wrthod y cod hwn a'r canllawiau drafft sy'n deillio ohono, ac yn annog Llywodraeth Cymru i ddechrau o'r dechrau, i ymgysylltu'n fwy â rhieni, i ymgysylltu'n fwy â chymunedau ffydd ac amrywiaeth fwy amrywiol o leisiau o'r gymuned LGBTQ+. Rwy'n eich annog i ddatblygu cod newydd sy'n mynd i'r afael â'u pryderon.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:35, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n anghytuno'n barchus â Darren Millar. Rwy'n credu ei fod yn wirioneddol ofnadwy ar gyfer hawliau plant os nad ydyn nhw'n gwybod beth sy'n digwydd iddyn nhw pan fyddan nhw'n mynd drwy'r glasoed. Pam mae cynifer o ferched nad oes ganddyn nhw syniad beth sy'n mynd i ddigwydd iddyn nhw pan fyddan nhw'n dechrau eu mislif? Ac mae hynny'n syfrdanol, ac yn frawychus iawn ac yn ddiangen o araf. Ac rydym ni'n wirioneddol yn byw yn y gwaethaf o bob byd, lle mae rhyw yn cael ei ddefnyddio i werthu popeth, boed yn bornograffi niweidiol neu'n gwerthu'r esgidiau diweddaraf, neu'r bêl-droed, neu gar. Felly, mae angen yn llwyr i ni fynd i'r afael â hyn, fel y gwelsom yn adroddiad brawychus Meilyr Rowlands ar yr hyn yr oeddem ni eisoes yn ei wybod oedd yn digwydd—yr aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion sy'n digwydd drwy ffonau clyfar pobl a llwyfannau ar-lein eraill. Mae'n wirioneddol anghyfforddus, ac nid yw'r rhan fwyaf o'r bwlio a'r aflonyddu rhywiol hwn yn digwydd mewn ysgolion, mae'n digwydd y tu allan i'r ysgol, er ei bod yn ddigon posibl ei fod yn digwydd yn yr ysgol hefyd. Ond yn wirioneddol, mae'n tanlinellu pwysigrwydd y bartneriaeth gydweithredol â theuluoedd, yn ogystal â hawl y person ifanc i gael rhywfaint o synnwyr o wahanol berthnasoedd sydd gan blant ac oedolion. Dyma realiti eu bywydau, ac os nad ydym yn esbonio iddyn nhw sut y gallen nhw ddymuno archwilio eu personoliaeth a'u rhywioldeb, heb roi unrhyw gyd-destun iddyn nhw ar gyfer yr holl bethau erchyll eraill y mae rhyw yn cael ei ddefnyddio ar eu cyfer, i lygru pennau pobl yn ogystal â'u bywydau—. Mae angen gwirioneddol i ni gymryd y mater hwn o ddifrif. Ac mae gen i ffydd yng ngallu athrawon i fynd i'r afael â'r mater hwn mewn ffordd sy'n briodol i oedran sy'n rhoi cysur i bobl nad oes unrhyw beth anarferol am eu sefyllfa deuluol benodol, oherwydd bod rhai o bob siâp a maint, tra bod gennym ni fuddiannau masnachol sy'n targedu plant a phobl ifanc ac yn eu hannog i feddwl am bethau mewn ffordd sy'n gwbl artiffisial a niweidiol.

Felly, mae angen gwirioneddol i ni fynd i'r afael â hyn, oherwydd fel arall, bydd gennym ni bobl yn tyfu i fyny yn meddwl bod rhyw yn ymwneud â bod yn greulon ac yn dreisgar, ac nid yw hynny'n wir o gwbl. Mae'n ymwneud â bod yn gariadus, a chyfeillgarwch cadarn a pharch at eich gilydd. Felly, mae gennym ni broblem fawr yma, ac mae'n debyg mai fy nghwestiwn i heddiw i'r Gweinidog yw a yw'n credu y dylem ni fod yn gwahardd ffonau clyfar mewn ysgolion ac yn cynghori rhieni mewn gwirionedd, nad yw'n syniad gwych rhoi ffonau clyfar i bobl ifanc lle gallan nhw gael gafael ar yr holl bethau niweidiol sy'n digwydd ar y rhyngrwyd nad yw wedi ei reoli o gwbl ar hyn o bryd, yn anffodus. 

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 6:38, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Mae drafft y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb hwn yn welliant enfawr ar yr un a gafodd ei anfon gyda'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, fel y mae heddiw, ni allwn ei gefnogi. Mae gennym ni rai pryderon enfawr o hyd, ac rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog fynd i'r afael â nhw, a dod â chod diwygiedig yn ôl y gall pawb yn y Siambr hon ei gefnogi.

Egwyddor arweiniol y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, yn ôl y Ddeddf o leiaf, yw bod yn rhaid i wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn briodol yn ddatblygiadol i'r dysgwyr. Rwy'n pryderu nad yw'r cod hwn yn dangos yn ddigonol sut y gellir cyflawni hyn a sut y caiff hyn ei gyflawni. Mae'r ffaith y bydd yn rhaid i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar benderfynu beth sy'n briodol yn ddatblygiadol i bob plentyn yn rhoi gormod o faich ar y lleoliadau hynny. Sut mae ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar wedi eu paratoi i wneud y penderfyniadau hynny? Nid yw athrawon yn arbenigwyr mewn datblygiad plant, ac eto mae gofyn iddyn nhw ddadansoddi pob plentyn a phenderfynu ar eu cam datblygu. Mae'r cod hwn wedi ei ddatblygu gyda chyfnodau eang. Yn ôl y ddogfen ei hun:

'Cynlluniwyd y cyfnodau i roi dealltwriaeth i ymarferwyr o'r hyn sy'n debygol o fod yn briodol o safbwynt datblygiad.'

Ac nid yw hyn yn ddigon da.

Mae hefyd yn peri pryder y gellid addysgu plant yn wahanol, o fewn dosbarthiadau neu grwpiau blwyddyn, gan eu bod ar wahanol gamau datblygu, ond nid yw'n glir a fydd mesurau diogelu ar waith i atal plant rhag cael gafael ar ddeunydd nad yw'n briodol i'w datblygiad nhw. Mae'r diffyg mesurau diogelu yn gwneud y cod cyfan hwn yn anaddas. Mae hynny, ynghyd â'r ffaith y gofynnir i ni wella'r cod heb weld y canllawiau cysylltiedig erioed—

Photo of David Rees David Rees Labour 6:40, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Gareth, a wnewch chi aros am eiliad? Joyce Watson, a ydych chi eisiau gwneud ymyriad? Joyce, a ydych chi eisiau gwneud ymyriad? Gallaf weld eich bod yn gwneud arwydd.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Ydw. Diolch.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Ymddiheuriadau am hynny. Ni welais i chi.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Gareth, a wnewch chi gymryd ymyriad?

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Wel, rwyf i bron â gorffen. Rwyf i fwy neu lai wedi gorffen, Dirprwy Lywydd, felly nid wyf yn siŵr a fyddai llawer o bwynt, mewn gwirionedd.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Eich dewis chi yw hi, Gareth.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Na, rwyf i bron â gorffen, Dirprwy Lywydd.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Iawn, diolch. Joyce, mae'n ddrwg gen i. Ewch ymlaen, Gareth.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 6:41, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Iawn. Gofynnir i ni gymeradwyo'r cod heb hyd yn oed gweld y canllawiau cysylltiedig, sy'n golygu nad oes modd i ni gymeradwyo'r cod hwn heddiw, ac rwy'n annog yr Aelodau i wrthod cynnig y Llywodraeth a galw ar Weinidogion i ailddrafftio'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb gyda rhywfaint o dystiolaeth gryfach. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i hefyd wedi fy siomi mai dim ond 30 munud sydd wedi ei drefnu ar gyfer yr eitem bwysig iawn hon heno yn awr, a hefyd yn siomedig mai dim ond yn hwyr neithiwr y cafodd y canllawiau drafft hynny eu cyhoeddi. Mae yn ei gwneud yn anodd craffu'n briodol ar faes gwaith pwysig iawn. Gan roi hynny o'r neilltu, er efallai fod llawer o fwriad y cod a gyflwynir heddiw yn dda, rwyf i yn rhannu pryderon yr Aelodau ynghylch diffyg cydnabyddiaeth o swyddogaeth rhieni a diffyg nodi hynny'n glir o ran eu cyfrifoldeb wrth addysgu a chefnogi eu plant.

Yn bennaf oll, cyfrifoldeb rhiant yw sicrhau bod eu plant yn cael eu haddysgu yn y ffordd y maen nhw'n ei hystyried sydd orau ac yn fwyaf priodol i'w plentyn ac mae'n bwysig cofio mai rhieni sy'n gyfrifol yn y pen draw am addysg a lles eu plentyn, ac mai rhieni sy'n adnabod eu plant orau, a swyddogaeth y Llywodraeth yw cefnogi rhieni i ymgymryd â'r fraint ryfeddol hon a'r cyfrifoldeb mawr hwn. Felly, gyda hyn mewn golwg, mae'n peri pryder mawr na fydd gan rieni, o dan y cod hwn, ddewis yn y maes dysgu personol a phwysig iawn hwn—yn syth pan fydd plant ifanc yn dair oed, bydd y wladwriaeth yn cael yr ymyriad hwnnw, heb ddewis rhieni yn ei gylch.

Ac yn wir, rwyf i wedi cael nifer o athrawon yn cysylltu â mi ynglŷn â'u pryderon am y newid hwn o fodel addysg traddodiadol a arweinir gan rieni i un nawr sy'n rhoi llawer mwy o gyfrifoldeb a phwysau arnyn nhw fel athrawon. Felly, ar wahân i'r dewis hwnnw gan rieni, rwyf i hefyd wedi cael athrawon yn cysylltu i fynegi eu pryder am y diffyg amddiffyniad a roddir i ferched a menywod yn y cod hwn, a hoffwn i ddyfynnu un athro a ysgrifennodd ataf ar y mater hwn, a ddywedodd:

'Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo syniadaeth yn ein hysgolion nad yw'n cael ei chefnogi gan dystiolaeth gref. Dylid cefnogi athrawon i helpu i sicrhau bod ein disgyblion yn cael addysg perthynas a rhyw sy'n briodol i'w hoedran ac yn wyddonol gywir. Dylem ni hefyd fod yn cefnogi Deddf Cydraddoldeb 2010, lle mae rhyw yn nodwedd warchodedig a chaniateir darparu gwasanaethau, mannau ac amddiffyniadau un rhyw i sicrhau diogelwch, preifatrwydd ac urddas menywod.'

Dyna ddyfyniad gan athro a ysgrifennodd ataf ar y mater hwn. Ac rwy'n credu bod yr athro hwn yn tynnu sylw at bwynt pwysig iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cymryd amser i fyfyrio ar hyn a chyflwyno fersiwn well o'r hyn sydd o'n blaenau yma heddiw.

Felly, yng ngoleuni hyn, a fy mhryder sylweddol o ran y cyfeiriad teithio cyffredinol wrth wthio addysg sy'n canolbwyntio ar rieni o'r neilltu, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cod brysiog a gwael hwn, a fydd yn tynnu cyfrifoldeb oddi wrth rieni ac yn rhoi mwy o bwysau ar ein hathrawon. Diolch yn fawr iawn.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:44, 14 Rhagfyr 2021

Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelodau hynny sydd wedi croesawu'r cod sydd yn destun y drafodaeth hon heddiw? A gaf i gychwyn trwy ddiolch i Sioned Williams am y ffordd y gwnaeth hi osod ei sylwadau yn y ddadl hon? Mae cynnwys a sylwedd cyfraniadau yn bwysig, ond hefyd mae'r ffordd maen nhw'n cael eu cyfrannu, a'r tôn, yn bwysig pan fo'n fater mor bwysig â hwn, felly dwi'n ddiolchgar iddi am hynny, ac am gyfeirio at y gefnogaeth eang sydd i'r dogfennau sydd o'n blaenau ni heddiw, a'r gwaith sydd wedi digwydd mewn ystod eang o fudiadau, o leisiau, er mwyn creu'r polisïau a'r dogfennau sydd o'n blaenau ni—y math o leisiau yn union yr oedd Darren Millar yn ein hannog ni i sicrhau eu bod nhw'n cael cyfrannu at y drafodaeth. Maen nhw wedi cyfrannu, ac rwy am ategu ei diolch hi iddyn nhw am wneud hynny.

Gwnaeth Sioned Williams ofyn i fi yn benodol pa newidiadau sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r broses honno o ymgynghori. Mae ystod eang o newidiadau wedi'u gwneud, yn dangos cymaint o ddyfnder oedd yn y sylwadau y gwnaethom ni eu derbyn, o ran hawliau, o ran y UNCRC, o ran egwyddorion diogelwch ac o ran y rôl i rieni roedd Darren Millar a Sam Rowlands yn sôn amdani. Mae pob un o'r rheini wedi gweld cynnydd a newidiadau o ganlyniad i'r ymgynghoriad. Fe fuodd Estyn yn cydweithio â ni i sicrhau bod eu gwaith nhw yn ein hysgolion ni—gwnaeth Sioned Williams gyfeirio ato fe—yn edrych ar aflonyddwch, a bod ffrwyth y broses honno yn cael ei gynnwys hefyd yn y cod. Felly, rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am hynny.

Mae mwy o waith ei angen o ran hyfforddi proffesiynol, a mwy o waith ei angen o ran adnoddau, ac mae'r rheini yn rhan bwysig o'r ymateb i'r sialensau yr oedd Estyn yn eu disgrifio yn y ddogfen, ac sydd wrth wraidd llawer o'r ymyraethau a'r trefniadau sydd ar waith yn y cod hwn heddiw. Gwnaeth hi ofyn i fi beth oedd cyfraniad y cod i ddealltwriaeth o anghenion y cymunedau LHDT; fel dyn hoyw fy hun, rwy'n browd iawn o'r cyfle i allu dod â'r cod hwn o'n blaenau ni heddiw, cod sydd yn gynhwysol ac sydd caniatáu i ni i gyd weld ein hunaniaeth ni yn cael ei hadlewyrchu yn y drafodaeth yn ein hysgolion ni mewn ffordd addas iawn.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:46, 14 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Gwnaeth Laura Anne Jones gyfraniad agoriadol ac rwy'n credu y byddwn i'n dweud, yn fwy o dristwch nag o ddicter, fy mod i'n anghytuno â bron pob un rhan o'i chyfraniad. Nid wyf i'n credu iddo adlewyrchu realiti'r cod a'r canllawiau statudol sydd ger ein bron yma heddiw o gwbl.

I'w roi ar gofnod, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod Laura Anne Jones a Sam Rowlands yn credu bod y canllawiau wedi eu cyhoeddi neithiwr, bod Darren Millar yn credu eu bod wedi eu cyhoeddi y bore yma, ac nad oedd Gareth Davies yn credu eu bod wedi eu cyhoeddi o gwbl; i'w roi ar gofnod, cawson nhw eu rhannu ag Aelodau, fel sy'n gonfensiynol, ar 26 Tachwedd. Yn gonfensiynol, byddan nhw'n cael eu cyhoeddi ar ôl y ddadl hon gan eu bod yn ymwneud â chod nad yw wedi ei gymeradwyo gan y Senedd hyd yn hyn. Felly, roeddwn i'n dymuno eu cyhoeddi ymlaen llaw, yng ngoleuni'r drafodaeth a oedd yn digwydd ynghylch y cod cyn y ddadl hon. Mae wedi bod ar gael i'r Aelodau am o leiaf bythefnos, ac rwy'n gobeithio y bu hynny o gymorth i'r Aelodau eraill o leiaf.

Mae yna gyfeiriadau niferus, fel y soniais yn fy natganiad agoriadol, at rai o'r pwyntiau yr oedd Laura Anne Jones yn fy herio arnyn nhw. Mae'n glir iawn o'r canllawiau statudol, Dirprwy Lywydd, pa mor bwysig yw deddfwriaeth trais yn erbyn menywod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rhan o'r cynllun hwn, a pha mor bwysig yw'r polisi hwn yn rhan o'n polisi ehangach i ddileu trais yn erbyn menywod a merched. Rwy'n gobeithio i mi wneud hynny'n glir iawn yn fy sylwadau agoriadol ac mae'n sicr yn glir o'r canllawiau statudol. Nododd Laura Anne Jones hefyd fod diffyg cyfeiriadau at bornograffi ac ystrydebau rhyw, rwy'n credu. Ymdrinnir â'r ddau yn benodol, Dirprwy Lywydd, i'w roi ar gofnod, gan gyfeirio at ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dysgwyr o sut mae deunydd rhywiol yn y cyfryngau yn aml yn cynrychioli rhywedd, gweithgareddau rhywiol, ymddangosiad corfforol a pherthnasoedd mewn ffyrdd afrealistig a niweidiol, a'r pwysigrwydd bod dysgwyr yn gwybod sut i ymateb yn ddiogel i ystrydebau rhywedd a rhywiol ac ymddygiad annheg a'u herio. Mae'r ddau wedi eu nodi yn y llythyr a anfonais at yr Aelodau y bore yma, gan ymateb i rywfaint o'r drafodaeth a'r ddadl gyhoeddus.

Dirprwy Lywydd, os caf i, un o'r cyfraniadau pwysicaf y gallwn ni ei wneud yn y Senedd hon yw cymryd y camau hynny gyda'n gilydd sy'n helpu i'n gwneud ni'n genedl fwy cynhwysol, caredig ac iach, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n maddau myfyrdod personol i mi: rwy'n edrych ar y diwygiadau addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd hyn ac yn meddwl faint y byddwn i fy hun wedi elwa ar gwricwlwm a oedd â'r math hwn o addysg wrth ei wraidd, un lle gallai fersiwn iau o fy hun weld ei hun yn cael ei adlewyrchu yn ôl ato, a'r hwb gwych i les, i hunan-barch a'r sicrwydd a ddaw yn sgil hynny. Roedden nhw'n adegau gwahanol, Dirprwy Lywydd, ond os ydym ni wedi ymrwymo yn wirioneddol i roi addysg i'n plant a'n pobl ifanc sy'n caniatáu iddyn nhw weld eu hunain wrth ei wraidd, i'w cadw'n ddiogel rhag niwed a'u galluogi i ddatblygu perthnasoedd iach, yna gadewch i ni gymryd y cam nesaf hwnnw ar y daith honno heddiw. Felly, hoffwn i ddiolch i bawb a fydd yn bwrw eu pleidlais heddiw dros y cod hwn. Mae'n weithred bwysig, Dirprwy Lywydd. I rai ohonom ni, mae Cymru gynhwysol yn fwy nag amcan gwleidyddol; mae'n rhag-amod hanfodol i les ac, yn wir, i ddiogelwch. A, Dirprwy Lywydd, mae'r diwygiadau hyn yn helpu i wireddu hynny i'n holl blant heddiw, ac i genedlaethau'r dyfodol.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:50, 14 Rhagfyr 2021

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A  oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:50, 14 Rhagfyr 2021

Nesaf, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 9 a 10, Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021, eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad.