1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Rhagfyr 2021.
3. Pa gymorth ariannol y bydd y Gweinidog yn ei roi i awdurdodau lleol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau dros fisoedd y gaeaf? OQ57372
Darperir cyllid drwy'r setliad llywodraeth leol sydd heb ei neilltuo i gefnogi darpariaeth gwasanaethau drwy'r flwyddyn. Cafwyd cynnydd o 3.8 y cant yn y cyllid hwn yn y flwyddyn ariannol hon. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid drwy gronfa galedi llywodraeth leol ac mae wedi cyhoeddi £42 miliwn o gyllid ar gyfer mynd i'r afael â'r pwysau ar ofal cymdeithasol.
Diolch am eich ymateb, Weinidog, a gwrandewais yn ofalus hefyd ar eich ymatebion i gwestiynau Peter Fox mewn perthynas â gofal cymdeithasol eiliad yn ôl, ac fel y dywedoch chi ar y pryd, gan nodi peth o'r cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn rydych eisoes wedi'i ddarparu i gynghorau yng Nghymru. Ond hoffwn wthio hyn ychydig ymhellach y prynhawn yma, os caf. Fel rydym wedi'i nodi, un o'r ffyrdd gorau y gall ein cynghorau gefnogi ein gwasanaeth iechyd ar yr adeg hon yw drwy sicrhau bod gennym gapasiti digonol mewn cartrefi gofal a gofal cartref i ryddhau lle mewn gwelyau ysbyty. Ac wrth gwrs, rydym wedi gweld mewn blynyddoedd blaenorol eich bod wedi darparu cyllid i gefnogi'r pwysau ychwanegol hwn yn ystod y gaeaf, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Ond yn fy mhrofiad i, gorau po gyntaf y bydd cyngor yn gwybod pa gyllid ychwanegol y gallent fod yn ei dderbyn i helpu i reoli'r pwysau ychwanegol hwnnw yn ystod y gaeaf. Ac wrth gwrs, nid yw'n fater o fod y gaeaf ar ei ffordd; mae'r gaeaf yma, ac rydym yn ei ganol. Felly, o gofio hyn, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i gynghorau y byddant yn cael y cyllid digonol hwn ar gyfer pwysau'r gaeaf yn fuan, fel y gallant gynllunio i gefnogi ein gwasanaeth iechyd mewn modd amserol dros y misoedd nesaf? Diolch.
Ie. Hoffwn ailadrodd y pwyntiau a wneuthum mewn ymateb i Peter Fox, fod ein swyddogion yn gweithio’n agos iawn gyda thrysoryddion i ddeall faint yn union o arian y bydd ei angen ar lywodraeth leol er mwyn ymgymryd â’r holl waith gofal cymdeithasol y mae angen iddynt ei wneud—ym maes gofal cymdeithasol oedolion a gwasanaethau plant. Ac wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo, rwy'n ceisio rhoi llythyr o gysur i lywodraeth leol, mewn gwirionedd, fel y gallant fwrw iddi a gwario hyd at bwynt penodol heb orfod poeni am y gwaith sy'n mynd rhagddo rhwng trysoryddion a swyddogion. Felly, rwy'n gobeithio y gellir anfon y llythyr hwnnw fwy neu lai ar unwaith, neu'n sicr cyn bo hir, er mwyn rhoi'r lefel honno o sicrwydd iddynt. Oherwydd gwn fod hwn yn fater sy'n peri straen i lywodraeth leol ac arweinwyr llywodraeth leol, ac mae hynny'n rhywbeth y gallaf helpu gydag ef, a hoffwn wneud hynny'n gyflym.
Weinidog, rwy'n falch iawn o weld bod y cynllun cymorth tanwydd gaeaf bellach ar waith, gan alluogi cynghorau Cymru i helpu'r rheini yn eu cymunedau sy'n agored i niwed i dalu i gadw eu cartrefi'n gynnes y gaeaf hwn. Sut arall y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi eu cymunedau dros y cyfnod sy'n dod, yn enwedig yng ngoleuni canfyddiadau Sefydliad Bevan nad yw bron i ddwy o bob pum aelwyd yng Nghymru yn gallu fforddio mwy na'r pethau sylfaenol?
Diolch am godi hynny, ac wrth gwrs, roedd adroddiad Sefydliad Bevan yn anodd ei ddarllen mewn gwirionedd, o ran sicrhau ein bod yn deall lefel y pwysau y mae llawer o deuluoedd yn ei wynebu, ac mae'r pwysau'n gwaethygu wrth i gostau byw gynyddu, cost tanwydd ac ati, a'r holl heriau sy'n amgylchynu teuluoedd yn ystod y pandemig. Felly, rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol ac rwy'n hynod ddiolchgar iddynt am allu cyflawni ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf a hwythau'n gwneud cymaint yn barod. Felly, rwy'n eu canmol am greu'r capasiti i wneud hynny.
Rydym yn awyddus i gefnogi teuluoedd mewn ystod eang o ffyrdd, gan gynnwys y cyllid ychwanegol rydym wedi'i ddarparu drwy ein cronfa cymorth dewisol. Felly, mae honno'n gronfa gwerth £25.4 miliwn, sy'n cynnwys £10.5 miliwn ychwanegol eleni, ac mae ar gael i gefnogi pobl sy'n wynebu caledi ariannol, ac rydym wedi cynyddu'r nifer o weithiau y gall pobl gael mynediad at y gronfa honno yn ystod y flwyddyn. A bydd hynny'n wirioneddol bwysig wrth gefnogi'r teuluoedd a'r unigolion yr effeithiwyd arnynt yn sgil cael gwared ar y cynnydd o £20 yn y credyd cynhwysol. Felly, hoffwn gymeradwyo'r gronfa honno i fy nghyd-Aelodau a'ch gwahodd i ddarganfod mwy am y gronfa honno fel y gallwch dynnu sylw eich etholwyr, a allai fod yn ei chael hi'n anodd, at y gronfa honno, oherwydd yn sicr, mae ar gael i helpu pawb sydd mewn angen. Mae'n gronfa gymharol syml er mwyn ceisio darparu'r arian hwnnw i bobl sydd ei angen cyn gynted â phosibl.
Weinidog, yn ystod 10 mlynedd o gyni Torïaidd yn torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus, mae awdurdodau lleol wedi ad-drefnu, ailstrwythuro a gwneud yr holl arbedion effeithlonrwydd y gallent eu gwneud. Maent wedi dod mor effeithlon fel bod unrhyw bwysau newydd, er enghraifft oherwydd tywydd garw, dyfarniadau cyflog neu ddeddfwriaeth newydd, yn eu rhoi mewn perygl o fethu gallu darparu gwasanaethau rheng flaen. Ystyriwyd bod peth deddfwriaeth, megis ymgymryd â'r cyfrifoldeb o sefydlu cyrff cynghori ar gyfer draenio trefol cynaliadwy neu'r ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol, yn niwtral o ran cost, ond nid oes gan rai cynghorau yr adnoddau mewnol na chronfeydd wrth gefn mwyach yn dilyn blynyddoedd o doriadau. A wnaiff y Gweinidog gynnal asesiad risg ariannol ac ymgynghori'n llawn ag awdurdodau lleol cyn pasio unrhyw ddeddfwriaeth neu gyfrifoldebau newydd? Diolch.
Diolch am y cwestiwn ac am nodi'r amgylchiadau heriol y mae llywodraeth leol wedi'u hwynebu yng Nghymru. Er gwaethaf y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf o setliadau da, nid yw'n gwneud iawn am 10 mlynedd o gyni mewn unrhyw fodd. Byddwn yn sicrhau bod newidiadau a wneir drwy gyfreithiau ym Miliau'r Senedd neu is-ddeddfwriaeth yn cynnwys asesiad o'r gost a'r arbedion drwy'r memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol. Wrth wneud hynny, er mai cyfrifoldebau Gweinidogion portffolio yw'r rhain, byddent fel arfer yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i gynhyrchu'r rheini, ac wrth gwrs byddwn yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n briodol â llywodraeth leol mewn perthynas â deddfwriaeth a fydd yn effeithio arnynt. Ac yna, hefyd, rydym yn ystyried costau unrhyw ddeddfwriaeth newydd y gallem fod eisiau ei chyflwyno yn rhan o'n cylch cyllidebol, ac yn amlwg caiff ei chynnwys bellach yn yr ystyriaethau ar gyfer y tair blynedd nesaf i ddod. Ond mae eich pwynt am sicrhau ein bod yn ymgysylltu â llywodraeth leol ac yn darparu'r offer sydd eu hangen arnynt i wneud y gwaith yn sicr yn bwynt y byddwn yn ei gefnogi.