2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 15 Rhagfyr 2021.
7. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi ailgartrefu cŵn? OQ57370
Diolch. Arweiniodd ein cydweithrediad â Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru at gyhoeddi cod ymarfer gorau gwirfoddol ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid yn 2020. Gan adeiladu ar hyn, mae ein cynllun lles anifeiliaid yn ymrwymo i gyflwyno gofynion rheoleiddio ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, gan gynnwys canolfannau achub ac ailgartrefu, erbyn 2023.
Diolch, Drefnydd. Cyn imi ofyn fy nghwestiwn, hoffwn ddiolch i'r Aelodau a ymunodd â Luke Fletcher a minnau ar risiau'r Senedd yr wythnos diwethaf i gyfarfod a chlywed gan berchnogion milgwn a arferai rasio, lle cawsom gyfarfod â chryn dipyn o filgwn hefyd, a chlywed pryderon ynglŷn â rasio milgwn yng Nghymru.
Gwerthwyd trac rasio milgwn y Valley yn Ystrad Mynach yn ddiweddar gyda'r bwriad o'i wneud yn un o draciau trwyddedig Bwrdd Milgwn Prydain Fawr. Rhagwelir y bydd y cynnydd yn nifer y rasys yn arwain at bedair gwaith yn fwy o gŵn yn rasio ac felly, angen cartrefi pan na fydd mo'u hangen ar y diwydiant mwyach. Gwyddom fod sefydliadau lles yn ei chael hi'n anodd ymdopi ar hyn o bryd â'r 100 neu fwy o filgwn sy'n gadael y trac bob blwyddyn, ar ben y cŵn sydd angen eu hailgartrefu. Weinidog, tybed a wnewch chi ystyried atal gwaith ehangu ar drac y Valley hyd nes eich bod wedi cael cyfle i ystyried ein cais i wahardd rasio milgwn yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, ac mae'n ddrwg gennyf na allwn ymuno â chi ar risiau'r Senedd yr wythnos diwethaf, ond diolch am drefnu'r digwyddiad hwnnw. Fel y gŵyr Jane Dodds ac Aelodau eraill, mae gan y Pwyllgor Deisebau alwad fyw ar hyn o bryd i wahardd rasio milgwn yng Nghymru, a bwriad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw ystyried rasio milgwn yng Nghymru fel rhan o gynllun trwyddedu yn y dyfodol, fel y nodir yn ein cynllun lles anifeiliaid pum mlynedd ar gyfer Cymru. Roeddwn yn ymwybodol fod sôn am newid perchnogaeth yn achos y trac rasio rydych newydd gyfeirio ato, ac yn amlwg byddai unrhyw waith i ehangu'r trac a'i gyfleusterau yn y dyfodol yn amodol ar reolau cynllunio, ac ni fyddwn yn gallu atal hynny wrth gwrs. Ond yng ngoleuni'r hyn y mae Jane Dodds newydd ei ddweud wrthyf, byddaf yn sicr yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud mewn perthynas ag ystyried rasio milgwn fel rhan o'r cynllun trwyddedu yn y dyfodol tra byddaf yn aros am ganlyniad y Pwyllgor Deisebau hefyd.
A gaf fi adleisio'r hyn y mae Jane Dodds wedi'i ddweud wrth ddiolch i'r Aelodau am eu hymwneud ar fater lles milgwn, gan gynnwys y Gweinidog hefyd am ei hymwneud hithau? Mae wedi bod yn wirioneddol drawsbleidiol. Yn dilyn cwestiwn Jane, os aiff y cynlluniau rhagddynt ar drac y Valley yn Ystrad Mynach, bydd y cynnydd mewn rasio yn arwain at fwy o filgwn yn cael eu hanafu neu'n cael anaf angheuol. Er fy mod yn croesawu'r cynllun lles anifeiliaid, rwyf hefyd wedi lleisio fy mhryderon ynghylch pa mor annigonol yw'r cynllun lles anifeiliaid mewn perthynas â lles milgwn. Felly, yng ngoleuni'r cynnydd posibl mewn rasio—ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yn awr ynglŷn â'r ystyriaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hyn—pa ystyriaethau eraill, yn ychwanegol at yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried ar hyn o bryd, a roddir i'r cynllun lles anifeiliaid os bydd mwy o rasys yn cael eu cynnal yng Nghymru? Ac yn olaf, a gaf fi estyn gwahoddiad i'r Gweinidog ac i unrhyw Aelod arall sy'n awyddus i gyfarfod â Hope Rescue yn y flwyddyn newydd? Fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i nodi, mae deiseb gerbron y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd i wahardd rasio milgwn, a Hope Rescue sy'n gyfrifol am y ddeiseb honno.
Diolch. Byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â hwy, yn ôl pob tebyg ar ôl i'r Pwyllgor Deisebau glywed a gweld eu deiseb ac ar ôl iddi gael ei chyflwyno, os caiff ei chyflwyno, i Lywodraeth Cymru i'w hystyried. Credaf y byddai'n fwy priodol imi gyfarfod â hwy wedi hynny. Byddwch wedi clywed fy ateb i Jane Dodds; yn amlwg, clywais wybodaeth bellach nad oeddwn yn ymwybodol ohoni gan Jane, a byddwn yn fwy na pharod i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud.