2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 26 Ionawr 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yr wythnos yma, Samuel Kurtz.
Diolch, Llywydd. Weinidog, hoffwn ddechrau drwy groesawu'r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn ariannu ymchwil newydd i gadernid profion gwybyddol GIG Cymru, yn enwedig o ran gofal dementia a'r defnydd o'r Gymraeg. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol bod siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf â dementia yn aml yn anghofio eu bod yn gallu siarad Saesneg er yn cadw eu gwybodaeth o'u hiaith frodorol. Mae hyn yn caniatáu i linell gyfathrebu bwysig aros tra hefyd yn cael gwared ar y risg o ynysu unigolion trwy fethu â darparu gwasanaethau yn eu dewis iaith.
O ystyried hyn, cefais fy siomi o glywed nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddata swyddogol ar ganran eu gweithlu gofal cymdeithasol sy'n siarad Cymraeg. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog weithio gyda'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol i gynnal archwiliad iaith Gymraeg llawn o'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru a nodi pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella gofal cymdeithasol ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Efallai ei fod yn gwybod bod y Gweinidog iechyd eisoes wedi comisiynu gwaith er mwyn cloriannu'r polisïau sydd gyda ni ym maes y Gymraeg o fewn y system addysg a gofal cymdeithasol yn barod. Mae'r pwynt mae e'n ei wneud yn bwysig iawn yng nghyd-destun dementia ac mewn cyd-destun ehangach na hynny hefyd. Beth sy'n wir yn bwysig yw ein bod ni'n sicrhau ein bod ni'n gallu darparu gwasanaeth Cymraeg i'r rheini efallai pan fo'r iaith ar ei phwysicaf iddyn nhw. Felly, mae'r sialens mae'r Aelod yn ei ddatgan yn un teilwng iawn ond mae gwaith eisoes ar waith gan y Gweinidog iechyd i gloriannu'r polisïau sydd yn digwydd ar lawr gwlad ar hyn o bryd.
Diolch, Weinidog. Yn ei adroddiad blynyddol, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dangos llawer iawn o rwystredigaeth gyda'r cynnydd ar reolau safonau’r Gymraeg ac arafwch yn y newid mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Yn wir, dywedodd yr Aelod Llafur dros Flaenau Gwent yn y pwyllgor:
'Un o'r siomau ym mholisi iaith Llywodraeth Cymru yn ystod y rhai blynyddoedd diwethaf yw y diffygion o ran hyrwyddo'r Gymraeg.'
Aeth yr Aelod ymlaen wedyn i gwestiynu ymrwymiad y Llywodraeth i 'Cymraeg 2050' drwy adleisio pryderon y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones. Mae sylwadau Alun Davies yn peri cryn bryder yn enwedig o'u cyplysu â galwad y comisiynydd am ymyrraeth sylweddol a newid meddylfryd llwyr wrth rybuddio na fydd strategaeth Cymraeg 2050 yn cael ei chyflawni. Os gall Aelod Seneddol Llafur, cyn-Brif Weinidog a Chomisiynydd y Gymraeg weld problem trywydd presennol 'Cymraeg 2050', ydych chi'n cytuno gyda nhw?
Nac ydw. Roedd yr Aelod yn y pwyllgor i glywed y drafodaeth ac fe wnaeth e glywed fy ateb i i'r pwynt a godwyd hefyd—rwy'n sicr o hynny.
Mae'r cwestiwn yma o ran hyrwyddo yn un diddorol rwy'n credu. Rwy'n credu ei fod e'n—. Mae'r gair 'hyrwyddo' yn gallu golygu lot fawr o bethau. Mae polisi iaith yn datblygu dros amser ac rŷn ni'n dysgu i wneud pethau'n wahanol ac yn well. A'r hyn sydd gyda ni nawr yw ystod o bolisïau mewn meysydd y byddem ni wedi galw, yn gyffredinol, yn 'hyrwyddo' yn y gorffennol.
Felly, un o'r pethau rŷn ni'n gwneud yw edrych ar y cynllun grantiau hyrwyddo i weld yn union beth maen nhw'n ei wneud—dŷn nhw ddim wedi cael eu cloriannu a'u hasesu ers inni gymryd cyfrifoldeb dros y cynllun grantiau. Felly, rŷn ni'n edrych eto ar bob un o'r ymyraethau yna rŷn ni'n eu gwneud i weld a ydyn nhw'n gwneud y gorau y gallan nhw er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg. Buaswn i'n annog Aelodau i feddwl amdano fe fel cyfle pellach i graffu ar waith y Llywodraeth, yn hytrach na fy mod i'n gallu esbonio ar lefel gyffredinol y gwaith hyrwyddo rŷn ni'n ei wneud. Mae camau penodol ar waith a gallwch chi edrych ar y rheini a'u hasesu nhw'n benodol. Mae hynny, rwy'n credu, yn ffordd fwy ymarferol o wneud cynnydd ym maes y Gymraeg yn gyffredinol.
O ran sylwadau'r comisiynydd, ac unrhyw un arall sydd yn annog y Llywodraeth i wneud cymaint ag y gallwn ni o ran darpariaeth addysg Gymraeg, gewch chi ddim rhywun sydd yn fwy o eiriolwr dros hynny na minnau. Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni wneud cymaint ag y gallwn ni mor gyflym ag y gallwn ni o ran darpariaeth addysg Gymraeg. Rwy eisiau gweld ein bod ni'n sicrhau bod mynediad hafal ymhob rhan o Gymru i unrhyw un sydd yn moyn addysg Gymraeg. Yn ffodus, mae gyda ni ymrwymiad eisoes i ddarparu deddfwriaeth yn hyn o beth, fel ein bod ni'n gallu, yn ystod y Senedd hon, sicrhau bod sail statudol gryfach gyda ni er mwyn darparu addysg Gymraeg. Ond fel clywsoch chi eisoes, mae'r cynlluniau strategol y mae ein hawdurdodau lleol ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw yn rhai rwy'n disgwyl iddynt fod yn uchelgeisiol. Dwi ddim wedi eu gweld nhw ond mewn drafft ar hyn o bryd, ac rwy'n credu eu bod nhw'n darparu cyfle i ni fynd ymhellach dros y ddegawd nesaf.
Diolch, Weinidog.
Cyn fy nghwestiwn olaf, hoffwn ddatgan buddiant fel aelod o Gyngor Sir Penfro, ac mae'n fater rwyf wedi'i godi o'r blaen yn y Siambr. Mae'n ymwneud ag Ysgol Cosheston, sy'n ysgol wirfoddol a reolir, yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, sydd wedi wynebu anawsterau parhaus yn ymwneud â diffyg lle, anawsterau sydd wedi gwaethygu oherwydd COVID-19. Yn dilyn mater a godais yn y Siambr hon, mae Cyngor Sir Penfro wedi darparu toiledau caban symudol ychwanegol i'r disgyblion, a swyddfa caban symudol i'r pennaeth. Mae trafodaethau'n parhau rhwng yr ysgol a'r cyngor ynglŷn â gwelliant mwy parhaol ar gyfer yr ysgol, yr athrawon, ac yn bwysicaf oll, y disgyblion. Fodd bynnag, mae'r pennaeth wedi mynegi ei rhwystredigaeth ynghylch y diffyg eglurder ynglŷn â pha gyllid sydd ar gael i'w hysgol naill ai'n uniongyrchol neu drwy'r awdurdod lleol, i dalu am y gwaith sydd ei angen yn ddybryd. Felly, Weinidog, a allwch roi gwybod inni a fydd eich cyhoeddiad ynghylch £100 miliwn o gyllid yn gynharach eleni yn agored i ysgolion fel Ysgol Cosheston, sydd, oherwydd COVID, angen lle ychwanegol, naill ai mewn ystafelloedd dosbarth newydd neu ystafelloedd dosbarth mewn cabanau symudol, ac a allwch chi gadarnhau sut y gall ysgolion fynd ati i fynegi eu diddordeb a gwneud cais am y cyllid hwn? Diolch.
Yn sicr. Nid wyf yn gwybod am amgylchiadau penodol Ysgol Cosheston, felly ni fyddaf yn gallu gwneud sylw ar honno yn benodol, ond os gwnaiff yr Aelod ysgrifennu ataf, gallaf ymateb yn benodol mewn perthynas â hynny. Mae yna nifer o ffyrdd y gall ysgolion gael mynediad at gyllid cyfalaf i wneud addasiadau—mae cyllidebau awdurdodau lleol yn un ohonynt, ond hefyd y cyllid y mae Llywodraeth Cymru, o bryd i’w gilydd, yn ei ddatgan, gan gynnwys y cyllid rwyf newydd ei ddatgan yn ddiweddar. Felly, os yw'r Aelod yn penderfynu ysgrifennu ataf am rai ysgolion yn benodol, gallaf roi cyngor penodol iddo.
Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Weinidog, ddoe fe wnaethoch yn glir mai'r bwriad yw i arholiadau fynd rhagddynt eleni, ac roeddwn yn falch o'ch gweld yn cydnabod yr aflonyddwch y mae dysgwyr a staff wedi ei wynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ein hysgolion a'n colegau. Fe wnaethoch annog pob dysgwr ym mlynyddoedd arholiadau i siarad â'u hysgolion a'u colegau am ba gymorth a hyblygrwydd ychwanegol a allai fod ar gael eleni. Ond mae hyn dal yn amwys iawn, ac yn rhoi'r baich yn ôl ar y dysgwyr i geisio cael cefnogaeth, yn hytrach na bod y cymorth yn cael ei gynnig iddynt. Yn amlwg, dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd am ddigwydd o ran coronafeirws, er bod yr arwyddion yn galonogol. Os bydd amharu pellach ar addysg, gan gynnwys absenoldebau uchel o ran staff a dysgwyr, pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith rhag ofn na ellir bwrw ymlaen â'r arholiadau?
Wel, o ran y cyngor i fyfyrwyr a disgyblion yn y datganiad ddoe, mae llythyr wedi mynd at benaethiaid—ddoe, dwi'n credu—o'r adran, yn esbonio, yn eu hatgoffa nhw, a dweud y gwir, ble mae'r holl adnoddau sydd ar gael er mwyn cefnogi myfyrwyr yn y blynyddoedd arholiad, fel y gwnes i sôn. Roeddwn i jest hefyd yn annog dysgwyr i gynnal y sgyrsiau hynny, ond wrth gwrs bydd y ddarpariaeth yn dod drwy law'r ysgol, felly mae hynny i gyd eisoes yn hysbys, ond mae e wedi ei grynhoi mewn llythyr eto ddoe i benaethiaid. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny o ddefnydd ymarferol yn ein hysgolion ni.
O ran y cynlluniau ehangach ar gyfer arholiadau, wrth gwrs, mae Cymwysterau Cymru wedi datgan eisoes beth yw'r trefniadau wrth gefn. Maen nhw ar gael ar eu gwefan nhw ac ati. Felly, beth ro'n i eisiau ei sicrhau bod pobl yn ei ddeall ddoe yw bod y Llywodraeth yn parhau i ddweud mai arholiadau fydd gyda ni yr haf sy'n dod, oni bai ei bod hi, fel dŷch chi'n ei ddweud, yn amhosib o ran logistics ac ati i'w cynnal nhw, ond dydyn ni ddim yn disgwyl mai hynny fydd yn digwydd.
Mae'n bwysig, dwi'n credu, ein bod ni'n edrych ar arholiadau'r haf yma mewn cyd-destun penodol. Maen nhw'n cael eu teilwra'n benodol ar gyfer yr amgylchiadau, i gymryd mewn i ystyriaeth yr aflonyddwch sydd wedi bod. Bydd y graddio yn wahanol, i gymryd hynny mewn i ystyriaeth; bydd cynnwys yr arholiadau yn llai, er mwyn cymryd hynny mewn i ystyriaeth.
Yr hyn sy'n bwysig iawn, dwi'n credu, yw ein bod ni'n ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n cefnogi dilyniant myfyrwyr sy'n gwneud TGAU. Beth bynnag yw'r opsiynau sy'n dod nesaf, dŷn ni eisiau eu cefnogi nhw i wneud hynny. Mae'r gyllideb y gwnes i ei datgan cyn y Nadolig yn cefnogi ysgolion a cholegau i gael trafodaethau personol gyda myfyrwyr yn y blynyddoedd hynny, fel bod gyda nhw ystod o opsiynau sy'n gweddu i'w hamgylchiadau personol nhw. A hefyd, dwi eisiau sicrhau bod pobl sy'n gwneud arholiadau lefel A, er enghraifft, yn cael yr un cyfle ag unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol. Mae hynny'n sefyllfa gystadleuol, onid ydy, wrth edrych ar lefydd prifysgol—os taw dyna y maen nhw'n bwriadu ei wneud. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n sicrhau bod ganddyn nhw gyfle teg, ac mae'r newidiadau i arholiadau yng Nghymru—rŷn ni wedi gallu mynd ymhellach, rwy'n credu, nag unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol oherwydd y ffordd rŷn ni'n strwythuro arholiadau yng Nghymru. Felly, rwy'n gobeithio bydd hynny o gysur i fyfyrwyr hefyd.
Diolch, Weinidog. Hoffwn ddatgan, cyn y cwestiwn nesaf, fy mod i'n gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf.
Hoffwn droi rŵan at fater anghenion dysgu ychwanegol, a darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn benodol. Rwyf yn croesawu'n fawr y £18 miliwn ychwanegol y gwnaethoch gyhoeddi yn gynharach y mis hwn ar gyfer rhoi rhagor o gymorth i blant a phobl ifanc y mae'r pandemig wedi effeithio arnynt, ac i helpu lleoliadau addysgol wrth i ddysgwyr ddechrau symud i'r system ADY newydd.
Fodd bynnag, er bod arian ar gael, a bod angen i'r awdurdodau ddarparu cymorth yn yr iaith y gofynnir amdani yn y Ddeddf, mae yna brinder dirfawr o athrawon arbenigol sy'n siarad Cymraeg i ddiwallu'r anghenion. Yn y rhanbarth rwyf yn ei gynrychioli, er enghraifft, tynnwyd fy sylw i'n ddiweddar at y ffaith nad oes un dosbarth ADY arbenigol yn Rhondda Cynon Taf drwy gyfrwng y Gymraeg ar y funud, tra bod mwy na 40 yn y Saesneg. Hyd yn oed yn yr ymgynghoriad presennol, dim ond un dosbarth uwchradd mae'r cyngor yn bwriadu ei sefydlu ar gyfer yr holl sir.
Felly, hoffwn ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ymarferol i sicrhau bod y ddarpariaeth ADY angenrheidiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gwarantu i'r rhai sy'n gofyn amdani lle bynnag y byddant yn byw yng Nghymru?
Wel, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, hynny yw, ynghyd â darparu sail gyfreithiol newydd ar gyfer y diwygiadau, mae angen sicrhau bod yr adnoddau ar gael ar lawr gwlad i allu diwallu'r angen ac i baratoi ac i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen, a bod hynny hefyd yn elfen sydd yn golygu hyfforddiant ar gyfer athrawon i ddarparu'r gwasanaethau hynny.
Rŷn ni mewn proses ar hyn o bryd o ehangu ar yr adnoddau sydd ar gael i athrawon er mwyn hyfforddiant personol, ac er mwyn diwallu gofynion y ddeddfwriaeth yn ehangach. Mae llawer o waith wedi bod yn digwydd eisoes o ran hyfforddiant proffesiynol yn y maes hwnnw ar gyfer athrawon sydd yn gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a darparu gwasanaethau ehangach yn y Gymraeg. A byddwn i eisiau sicrhau bod yr adnoddau hynny i gyd ar gael, fel maen nhw eisoes yn Saesneg, ac yn y Gymraeg, ond, yn sicr, mae hwn yn faes sydd yn bwysig iawn i ni, a byddaf yn edrych i weld ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni i ddiwallu'r angen, nid yn unig yn y Saesneg ond yn Gymraeg hefyd.
Cwestiwn 3, Peredur Owen Griffiths.