– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 1 Chwefror 2022.
Eitem 4 sydd nesaf, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ymchwilio i ddiwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Dirprwy Lywydd, yn ein cenhadaeth i sicrhau system addysg sy'n darparu safonau a dyheadau uchel i'n holl ddysgwyr, gall pob polisi, pob penderfyniad y Llywodraeth hon helpu i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar allu a chyfleoedd ein pobl ifanc i ddysgu a thyfu. Ond dim ond os byddwn yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi lles ein holl ddysgwyr a staff y gallwn ni wneud hyn. Felly, dyma'r amser iawn i ofyn i ni'n hunain a yw siâp y flwyddyn ysgol a'r diwrnod ysgol yn ein helpu i gyflawni'r nodau hanfodol a chyfunol hyn. A yw gwyliau hir yr haf yn fanteisiol i ddatblygiad academaidd a phersonol ein dysgwyr mwy difreintiedig? A yw'r calendr anwastad, yn enwedig gyda thymor hir yn yr hydref, yn gadarnhaol ar gyfer lles staff ac yn osgoi gorweithio? A allem ni wneud mwy o ran sut yr ydym yn cefnogi ysgolion i gynllunio eu dyddiau a'u hwythnosau, fel bod dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i feithrin galluoedd academaidd, diwylliannol a chymdeithasol?
Mae gormod o amser wedi mynd heibio heb i ni gael trafodaeth briodol ar y mater hwn. Yn wir, mae gennym ni galendr ysgol heb ei newid fawr ddim ers 150 mlynedd, pan oedd y disgwyliad i bobl ifanc gyfuno astudio â gweithio ar y fferm, mewn ffatrïoedd neu gefnogi gartref yn wahanol iawn i'r hyn ydyw heddiw. Mae profiad y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gofyn i ni edrych o'r newydd ar sut yr ydym yn gwneud llawer o bethau. Mae hynny, yn amlwg, wedi bod yn anghenraid, ond mae hefyd yn gyfle. Felly, dyma'r amser iawn ar gyfer trafodaeth genedlaethol am y flwyddyn a'r diwrnod ysgol. Mae'n rhaid i ni archwilio sut y mae amser ysgol a'r ffordd yr ydym yn ei ddefnyddio yn cefnogi lles dysgwyr a staff yn y ffordd orau, yn lleihau anghydraddoldeb addysgol, ac yn gallu cyd-fynd yn well â phatrymau byw a gweithio cyfoes.
Ar hyn o bryd rydym yn casglu barn, safbwyntiau a phrofiadau ar sut yr ydym yn strwythuro'r flwyddyn ysgol. Mae hyn yn cynnwys clywed gan ddysgwyr, gan deuluoedd a'r gweithlu addysg, ond hefyd y sector cyhoeddus a phreifat ehangach, fel gofal plant, gwasanaethau iechyd, twristiaeth a thrafnidiaeth. Rydym ni wedi comisiynu Beaufort Research i'n cefnogi i fwrw ymlaen â hyn, fel ein bod yn datblygu sylfaen dystiolaeth eang sy'n benodol i Gymru, a bydd y gwaith hwn yn llywio ein camau nesaf.
I fod yn glir, Dirprwy Lywydd, nid ydym yn ystyried newid cyfanswm y diwrnodau addysgu na faint o wyliau fydd. Ond rydym yn gwrando ar farn ar sut y gallem ni drefnu calendr yr ysgol yn wahanol, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi cynnydd dysgwyr, i wella lles staff a dysgwyr, a chyd-fynd â ffyrdd cyfoes o fyw. Mae fy sgyrsiau cychwynnol, ac adborth cynnar o'r gwaith hwn, yn awgrymu bod awydd gwirioneddol i ystyried newid y calendr, a byddaf yn parhau i gasglu barn i helpu i lunio ein camau nesaf, drwy barhau i drafod yma yn y Senedd a thu hwnt.
Gan droi at y diwrnod ysgol, bydd yr Aelodau'n cofio y gwnes i gyhoeddi ar ddechrau mis Rhagfyr gynlluniau ar gyfer treial ar raddfa fach yn rhoi sicrwydd i ddysgwyr o gynnig gweithgareddau lles a dysgu ychwanegol dros gyfnod o 10 wythnos. Dirprwy Lywydd, mae'n bleser gen i gadarnhau bod y treialon hyn ar y gweill bellach. Mae tari ar ddeg o ysgolion ac un coleg, o bum awdurdod lleol, wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn y treial, a bydd mwy na 1,800 o ddysgwyr yn elwa ar bum awr ychwanegol yr wythnos o sesiynau cyfoethogi o amgylch y diwrnod ysgol, gan gynnwys chwaraeon a'r celfyddydau, gweithgareddau cymdeithasol, cymorth lles a rhaglenni academaidd. Rydym yn gwybod o ymchwil y gall y math hwn o ddull arwain at enillion mewn cyrhaeddiad, yn ogystal â gwell presenoldeb, hyder a lles, yn enwedig i'n dysgwyr difreintiedig. Gall rhaglenni fel y treialon hyn, sy'n darparu sesiynau ychwanegol ysgogol ac sy'n cefnogi dysgwyr i ailymgysylltu â dysgu, gael mwy o effaith ar gyrhaeddiad na'r rhai â phwyslais academaidd yn unig.
Ysgolion, gan gynnwys dysgwyr, sydd wedi dylunio’r gweithgareddau, ac rydym ni wedi cyd-weithio gyda’r WLGA i ddarparu ymgynghorydd ar lawr gwlad i gefnogi’r ysgolion, cynnig arbenigedd ac i leihau llwyth gwaith.
Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi dangos mor bwysig yw amgylchedd yr ysgol fel y lle y mae plant a phobl ifanc yn dysgu, yn tyfu ac yn teimlo’n saff. Mae pwysigrwydd y cysylltiad rhwng yr ysgol a’r gymuned ehangach wedi cael ei bwysleisio hefyd. Drwy’r rhaglen dreialu yma, mae ysgolion yn gallu ehangu eu cysylltiadau â phartneriaid lleol a chenedlaethol, i greu’r lle a’r cyfle ar gyfer gweithgareddau a phrofiadau eang, sy’n gydnaws â’n diwylliannau. Wrth inni symud ymlaen, y cysylltiadau hyn â’r gymuned ehangach, yr ymgysylltiad cryfach nag erioed â theuluoedd, a’r gwaith o gydleoli gwasanaethau allweddol fydd yn cefnogi ein hymgyrch i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, a sicrhau bod pawb yn anelu’n uchel.
Ond yn ogystal â chefnogi dysgwyr, mae hwn yn gyfle hefyd i ddod i ddealltwriaeth well a chasglu tystiolaeth. Fe fyddwn ni’n gwerthuso’r rhaglen dreialu, felly, ac rydyn ni’n disgwyl gweld y canfyddiadau cyntaf erbyn dechrau’r haf. Y nod yw datblygu ymhellach ein hystyriaeth o sut rydyn ni’n defnyddio ac yn strwythuro amser yn yr ysgol, a sut y gallai sesiynau ychwanegol wella lefelau lles a datblygiad academaidd, a chynyddu cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol. Dwi wedi neilltuo hyd at £2 filiwn i gefnogi’r gweithgarwch cyfoethogi yma, ac fe fyddaf i’n rhoi mwy o wybodaeth i’r Aelodau ar hynt y gwaith yn ystod y misoedd i ddod.
Mae degawdau wedi mynd heibio heb inni gael sgwrs yng Nghymru o ddifrif am y ffordd rydyn ni’n strwythuro’r diwrnod a’r flwyddyn ysgol. Mae hynny’n llawer rhy hir. Rydyn ni, felly, yn gweithredu ar sail ein maniffesto, ein rhaglen lywodraethu a’r ymrwymiad yn ein cytundeb cydweithio i ymchwilio i’r opsiynau diwygio ac i feddwl am hyn o’r newydd, fel y gallwn ni leihau anghydraddoldeb addysgol, cefnogi lles dysgwyr a staff, a chreu trefn sy’n cyd-fynd yn well â phatrymau bywyd teuluol a gwaith modern.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Dyma ni eto yn sôn am newid seismig arall mewn addysg, a fydd yn arwain at oblygiadau enfawr am flynyddoedd i ddod, os bernir bod angen newid. Dylid gweld newidiadau cadarnhaol iawn os bydd hyn i gyd yn mynd yn ei flaen. Mae ffurf bresennol y diwrnod ysgol wedi bod ar waith ers degawdau, fel yr ydych chi’n ei ddweud, Gweinidog, ac fe'i cynlluniwyd ar adeg i ddiwallu anghenion y rhai hynny, fel aelodau fy nheulu fy hun, a oedd yn gweithio ar y fferm bryd hynny. Ond mae pethau wedi newid, newid a newid eto ers hynny, ac mae'r byd cyfoes yn symud yn gyflym, fel y gwyddom ni i gyd, ac rwyf i yn credu bod angen i'r ffordd yr ydym yn addysgu a’r ffordd y mae wedi ei strwythuro addasu gydag anghenion a dymuniadau newidiol teuluoedd, athrawon, plant ac, wrth gwrs, cymdeithas yn gyffredinol, oherwydd yr effaith ehangach y byddai'r newid hwn yn ei chael arnyn nhw.
Rwy’n credu’n gryf fod angen i'n system addysg addasu i adlewyrchu anghenion marchnadoedd swyddi yn y dyfodol, yn lleol, yn genedlaethol, ac erbyn hyn yn rhyngwladol hefyd wrth gwrs, gyda'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit ac agor ein hunain i weddill y byd, gan ddefnyddio'r amser ychwanegol efallai i gyflwyno dysgu ieithoedd newydd, yn ogystal â'r ieithoedd modern newydd, ond hefyd ieithoedd fel Mandarin efallai. Ydym ni’n defnyddio'r amser i ganolbwyntio'n fwy ar godio? Ydym ni’n ei ddefnyddio i wella'r gweithgareddau corfforol a'r arlwy chwaraeon, a fyddai'n amlwg yn cael effaith ganlyniadol ar ordewdra ac iechyd meddwl myfyrwyr? Rwyf i'n meddwl tybed, Gweinidog, sut ydych chi’n ystyried y bydd yr amser yn cael ei ddefnyddio orau.
Rwy’n gweld hefyd yn eich datganiad eich bod yn dweud eich bod wedi comisiynu Beaufort Research i fwrw ymlaen â hyn. Yn amlwg ers tua degawd bellach, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn sôn am newidiadau i'r diwrnod ysgol, felly byddai wedi gwneud llawer o waith ymchwil ar hyn eisoes, ac roeddwn i’n meddwl tybed faint o hynny y byddwch chi’n ei ystyried—yn amlwg a fydd yn benodol i Gymru—ac wedi ei gynnwys yn hynny. Felly, yn hytrach na dechrau o’r dechrau, gallwn ni ddechrau gyda'r dystiolaeth sydd gennym ni ac ychwanegu ati.
Rwy’n gweld hefyd ei fod yn dweud yma y bydd y pum awr ychwanegol yr wythnos o sesiynau cyfoethogi ychwanegol o amgylch y diwrnod ysgol. Felly, dim ond meddwl, 'o amgylch y diwrnod ysgol', ydych chi’n gweld y pum awr ychwanegol hyn yn ddull cyfunol, ysbeidiol o ryw fath, rhwng gwersi, neu ydych chi’n ei weld yn dod ar ddiwedd y diwrnod ysgol? Rwy'n meddwl tybed beth yw eich gweledigaeth chi ar hyn o bryd, Gweinidog, cyn i ni weld y dystiolaeth o'r hyn sy'n digwydd. Hefyd wrth sôn am hynny, rydych chi’n dweud bod y gweithgareddau wedi eu cynllunio gan ysgolion yn bennaf ar hyn o bryd. Yn amlwg, yn y dyfodol, rwy’n gobeithio y bydd dull gweithredu cenedlaethol, oherwydd mae'n amlwg ein bod ni'n dymuno i'r cynnig addysg fod yr un fath i bawb. Rwy’n credu y byddai gwahaniaeth pellach pe byddem yn ei wneud fesul ysgol ar sail o'r fath. Ond mae'n dal i fod yn ddiddorol i mi fod yr ysgolion yn ei gynllunio hyd yma. Byddai'n dda gen i weld beth maen nhw'n ei wneud. Ydyn nhw’n gwneud y dull cyfunol? Ydyn nhw’n ei wneud ar ddiwedd y diwrnod ysgol? Tybed a allech chi roi ychydig o oleuni i ni ar hynny.
Hefyd, roeddwn i eisiau gofyn am y £2 miliwn. Yn amlwg, bydd yn ddiddorol gwybod sut yn union mae hwnnw wedi ei wario, ac mae'n debyg yn yr haf y byddwn yn gweld p’un a yw wedi ei wario'n ddoeth ai peidio. Ond ar ôl 150 mlynedd o fod â'r un systemau, Gweinidog, rwy’n edrych ymlaen at weld canfyddiadau'r adroddiad hwn. Diolch.
Diolch, Laura Anne Jones, am eich croeso i'r gyfres hon o dreialon. Rwy’n credu, fel yr ydych chi’n ei ddweud, wrth sôn am ddechrau o’r dechrau, rydym yn ceisio ailddyfeisio system sydd wedi bod ar waith mewn rhai ffyrdd ers amser maith. Ond rydych chi’n iawn i ddweud ei bod yn bwysig casglu tystiolaeth o bob ffynhonnell, ac mae yna gasgliad cyfoethog iawn o dystiolaeth mewn rhannau eraill o'r DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal ag eisoes yng Nghymru mewn gwirionedd, o'r manteision a all ddeillio o'r mathau o ddulliau sy'n cael eu treialu yn y nifer hwn o ysgolion dros y 10 wythnos nesaf.
Fe wnaethoch chi ofyn am yr amrywiaeth o bethau yr oeddwn i’n gobeithio eu gweld yn cael eu treialu mewn ysgolion, ac fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn penodol am sut y gallai hynny ymwneud, er enghraifft, â'r byd gwaith a'r economi ehangach. Mae amrywiaeth o weithgareddau sy'n cael eu treialu. Mae rhywfaint o hynny yn ymwneud â'r celfyddydau a cherddoriaeth a dawns, mae rhywfaint ohono yn ymwneud â chwaraeon, o rygbi i jiwdo, mae rhywfaint ohono yn ymwneud â choginio a phwysigrwydd bwyd, ac rydym yn gweithio gyda'r Urdd. Mae amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu treialu. Mae gan rai ohonyn nhw y math o gysylltiad y gwnaeth hi ei nodi yn ei chwestiwn ynghylch busnes a menter, roboteg a chodio, gwyddoniaeth, technoleg werdd—felly, ystod eang iawn o weithgareddau. Rydym ni newydd wrando yn y datganiad cynharach ar y pwysigrwydd sy'n cael ei amlinellu yn y Siambr ar roi cynnig ar bethau newydd a bod yn onest pan fydd rhai ohonyn nhw'n llwyddo a rhai ohonyn nhw'n methu. Rwy'n credu bod hynny'n rhan o'r hyn yr ydym yn ei dreialu yma i weld beth yw'r cymysgedd gorau.
O ran y weledigaeth ar gyfer defnyddio'r pum awr hynny, mewn gwirionedd, un hyblygrwydd yr ydym wedi ei roi i ysgolion yw defnyddio'r pum awr hynny mewn ffordd sy'n gweithio iddyn nhw. Yn amlwg, mae rhoi awr ychwanegol ar bob diwrnod yn un o'r opsiynau hynny. Nid oes gen i fy hun farn glir ar hyn o bryd mewn gwirionedd, oherwydd bod angen i ni weld beth sy'n digwydd ar lawr gwlad. Mewn ffordd, mae angen i dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio ein harwain ni yn y gwaith hwn, o ystyried ein hamcan, sef sicrhau bod ein dysgwyr yn ailymgysylltu â dysgu a rhoi hwb i'w hymdeimlad o hyder a lles, a fydd, rydym yn gwybod, yn cael effaith gadarnhaol ar ddilyniant a chyrhaeddiad.
Fe wnaethoch chi ofyn ar y diwedd am ddull gweithredu cenedlaethol, os hoffwch chi. Cyfres o dreialon yw hon yn amlwg, onid yw, felly mae canllawiau wedi mynd i ysgolion ynglŷn â'r ffordd orau o gynllunio'r gweithgareddau, ond wrth wraidd hyn mae gweld beth y gellir ei gynllunio'n lleol. Mae rhai ysgolion yn gweithio gyda sefydliadau lleol, rhai gyda sefydliadau cenedlaethol ac yn y blaen, i gael y cyfuniad gorau sy'n gweithio i'w carfan benodol nhw o ddysgwyr. Ond mae’r cyfle yma i ddysgu o'r hyn yr ydym yn ei ddarganfod dros y 10 wythnos nesaf a dod o hyd i ffyrdd o ymestyn hynny i'r dyfodol.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog am eich datganiad. Yn fy rôl fel llefarydd Plaid Cymru ar blant a phobl ifanc, rwy'n edrych ymlaen at gydweithio efo chi ar y polisi hwn fel rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng fy mhlaid a'ch Llywodraeth.
Mae cryn dipyn o dystiolaeth rhyngwladol ynglŷn â diwygio'r diwrnod a'r flwyddyn ysgol yn bodoli eisoes—rhai enghreifftiau llwyddiannus, a rhai enghreifftiau llai llwyddiannus. Nid yw'n syndod bod effeithiau ymestyn amser ysgol felly'n dibynnu ar sut mae'r amser yn cael ei ddefnyddio. Mae tystiolaeth yr EPI yn dangos i ni fod ymestyn diwrnod ysgol yn fwyaf effeithiol pan ydym yn defnyddio staff presennol sydd wedi'u hyfforddi'n dda, wedi'u hintegreiddio i ddosbarthiadau a gweithgareddau sy'n bodoli eisoes. Mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth empirig gadarn, ac mae'n fwy effeithiol, yn ôl tystiolaeth, ar gyfer mathemateg. Cyn belled â bod y dull hwn yn cael ei ddilyn, mae cyllid ychwanegol i alluogi amser ysgol estynedig yn debygol o arwain at enillion cyson a chryf. O gofio bod y dystiolaeth a ddarparwyd yn dangos inni fod ymestyn dyddiau ysgol yn fwyaf effeithiol pan fyddwn yn defnyddio staff presennol sydd wedi eu hyfforddi'n dda, a allai'r Gweinidog amlinellu sut y mae'r £2 miliwn o gyllid ar gyfer y peilot hwn, yn ogystal â'r cyllid ehangach ar gyfer adfer addysg, yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod staff sydd wedi eu hyfforddi'n dda ar waith i sicrhau adferiad addysg effeithiol ac i fanteisio i'r eithaf ar y manteision posib o ddiwygio'r diwrnod ysgol?
Fe fyddwch chi hefyd yn ymwybodol bod nifer o randdeiliaid, gan gynnwys undebau ac athrawon, wedi codi pryderon nad dyma'r amser iawn ar gyfer unrhyw newidiadau megis ymestyn y diwrnod ysgol. Cafwyd ymateb cymysg gan undebau athrawon, gyda Neil Butler yn nodi a rhybuddio bod goblygiadau i lwyth gwaith athrawon, ac yn wir iechyd a diogelwch wrth i ysgolion barhau i gael trafferth gyda dygymod â COVID. Yn wir, mae rhai ysgolion gyda'r lefelau uchaf erioed o COVID yn ystod y pandemig ar yr amser hwn. Er eu bod, fel undebau, yn agored i newidiadau i'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol, dywedodd UCAC eu bod, fel undeb, am sicrhau nad oes unrhyw niwed i delerau ac amodau athrawon. Felly, mae yna bryderon clir yma o ran llwyth gwaith, telerau ac amodau athrawon, ac iechyd a diogelwch o ran ymestyn y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Felly, a allai'r Gweinidog gofnodi ac ymateb i bryderon yr undeb tra'n cynnig rhywfaint o sicrwydd i athrawon na fyddant yn wynebu mwy o lwyth gwaith ac effeithiau niweidiol i'w telerau ac amodau?
Mater arall yr hoffwn ei godi ydy—. Tra fy mod yn croesawu'r ffaith fod y peilot yn mynd rhagddo, gaf i godi mater sy'n peri pryder i mi? Yn ôl y wasg dwi wedi ei ddarllen, roeddech chi eisiau gweld 20 ysgol yn bod yn rhan o'r peilot i ddechrau, ond dim ond 14 sydd wedi arwyddo i fyny i gymryd rhan. Dwi'n deall, o'r 14, yn ôl cyfweliad a roesoch chi i Radio Cymru cyn y Nadolig, nad oes unrhyw un o'r rhain yn ysgolion cyfrwng Cymraeg a bod yr ysgolion i gyd un ai yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Castell Nedd Port Talbot neu Flaenau Gwent. Un her sydd gennym o ran ysgolion gwledig ac ysgolion cyfrwng Cymraeg yn benodol yw bod eu dalgylchoedd yn ehangach ac felly bod disgyblion yn gorfod dibynnu ar ddal bws i'r ysgol, gan golli cyfle yn aml, hyd yn oed rŵan, i ymuno efo clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol. Felly, os ydy'r peilot yma i fod mor ddefnyddiol a thrylwyr â phosibl, a ninnau'n edrych ar newid rhywbeth sydd wedi bodoli ers 150 o flynyddoedd, oni fyddai'n werth i'r Llywodraeth edrych hefyd ar drio cael chwech o ysgolion ychwanegol sydd yn benodol yn yr ardaloedd sydd ddim yn cael eu cynrychioli, ac edrych o ran ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg, os ydyn ni wir yn mynd i ddysgu gwersi o'r peilot hwn?
Yn gysylltiedig â hyn, mae'r pandemig wedi cael effaith andwyol iawn ar y Gymraeg, fel y gwyddom ni, ac mae wedi amddifadu nifer o blant o gefndiroedd di-Gymraeg rhag ei defnyddio'n rheolaidd ac yn naturiol. Heb os ac oni bai, mae hyn wedi cael effaith ar ddatblygiad dysgwyr ar eu ffordd i fod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, ac mae'n bendant wedi cael effaith yn barod ar ein hymdrechion i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. A allai'r Gweinidog felly amlinellu sut y mae'n credu y bydd y cynlluniau i ddiwygio'r diwrnod a'r flwyddyn ysgol yn cefnogi defnydd cynyddol o'r Gymraeg? Yn ychwanegol at hyn, o gofio'r prinder ymddangosiadol o athrawon Cymraeg yng Nghymru, a allai'r Gweinidog egluro sut yr ydych chi a Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod y gweithlu yn ei le i ddarparu'r amser dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. O ran y dystiolaeth, roeddech chi'n iawn i sôn am dystiolaeth yr EPI, sydd yn un o'r ffynonellau o dystiolaeth. Mae yna, wrth gwrs, fel roeddech chi'n ei gydnabod yn eich cwestiwn, amrywiaeth o enghreifftiau sydd yn dod o ffynonellau eraill, yn cynnwys yn rhyngwladol, sy'n dangos patrymau sydd o bwys inni wrth edrych ar sut i strwythuro, ar sut i brofi'r ffyrdd gwahanol yma o ymestyn y cyfleoedd i'n dysgwyr ni. Felly, mae gwneud hynny gyda staff addysgu yn un o'r fersiynau hynny, ond mae'n bosib gwneud hynny gydag amrywiaeth eraill, ac felly rydym ni'n profi'r holl opsiynau hynny, os hoffwch chi, o ran staff allanol, staff cynorthwyo, ynghyd ag athrawon hefyd. Felly, dyna ran o werth y treialon, os hoffwch chi, i weld beth yw'r canlyniadau o bob mix gwahanol.
Wrth gwrs, dŷn ni'n clywed y ddadl nad dyma'r amser iawn i dreialu hyn. Jest i'ch atgoffa chi, fel roedd eich cwestiwn pellach chi, efallai, yn cydnabod, treialon graddfa fach yw'r rhain. Mae gyda ni 13 o ysgolion ac un coleg. Mae pob un o'r rheini wedi penderfynu eu hunain eu bod nhw eisiau cymryd rhan yn y treial hwn. Felly, roeddem ni'n ddibynnol, os hoffwch chi, ar ysgolion yn cynnig i fod yn rhan ohono fe. Roedd hyblygrwydd o ryw lefel gyda nhw i ddewis pryd i ddechrau fe. Mae rhai wedi dechrau eisoes, mae'r rhan fwyaf yn dechrau'r wythnos hon, a bydd rhai yn dechrau ymhen rhai wythnosau. Felly, mae hyblygrwydd gyda'r ysgolion i ddarparu o fewn y cyfnod sydd yn siwtio eu hamgylchiadau nhw, ac, wrth gwrs, mae'r ddarpariaeth yn hyblyg yn ei hun o ran dylunio a darparu. Felly, mae elfen o'r hyblygrwydd yna'n gallu ymateb i rai o'r heriau, efallai, yr oeddech chi'n eu hawgrymu yn eich cwestiwn.
O ran y gofid am bwysau ar y gweithlu, dwi jest eisiau bod yn glir: nid newid telerau athrawon sydd wrth wraidd hyn o gwbl. Mae hi'n flaenoriaeth yn y cynllun hwn i sicrhau ein bod ni'n darparu gweithgareddau sydd o werth i'n dysgwyr ni. Nid cwestiwn o edrych ar y telerau yw e o gwbl. Dwi'n ddiolchgar i'r undebau. Mae rhai ohonyn nhw wedi ein helpu ni gyda'r canllawiau rŷn ni wedi eu darparu i'n hysgolion ni. Gallwn ni ddim gwneud unrhyw beth yn y maes hwn ond mewn partneriaeth gyda'r gweithlu addysg, gyda'r awdurdodau lleol ac ati. Felly, rŷn ni'n gweithio mewn ysbryd o bartneriaeth adeiladol yn hyn o beth.
Roedd gyda fi ystod, os hoffwch chi, o ysgolion y byddwn i wedi gweld yn ddelfrydol i gymryd rhan yn y treial, o 10 i 20, felly rôn i'n teimlo bod 14 yn taro'r cydbwysedd iawn yn hynny o beth. Rŷch chi'n iawn i ddweud, o ran dosbarthiad daearyddol ar draws Cymru, nad yw'n golygu bod ysgolion ym mhob rhan o Gymru. Byddwn i wedi hoffi gweld hynny, wrth gwrs, a byddwn i'n sicr wedi hoffi gweld ysgol Gymraeg yn gwirfoddoli i fod yn rhan ohono fe. Ond gan mai gwirfoddoli yr oedd yr ysgolion yn ei wneud, doeddwn i ddim yn gallu, wrth gwrs, gorfodi ysgolion i gymryd rhan. Dylwn i ddweud hefyd fod y canllawiau'n gofyn i ysgolion ddarparu rhyw elfen o weithgaredd allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae amryw o'r ysgolion wedi gwneud hynny fel rhan o hyn. Ond nid dyma ddiwedd y daith o ran profi'r ffyrdd gwahanol yma. Bydd gyda ni ddata, gwybodaeth a thystiolaeth o'r cyfnod hwn, ac wedyn mae hynny'n caniatáu i ni dreialu pethau pellach yn y ffordd roeddech chi'n awgrymu'n adeiladol iawn yn eich cwestiwn chi.
O ran sut mae hyn yn ymwneud â'r nod ehangach o sicrhau addysg Gymraeg yn fwy hafal, os hoffwch chi, rŷch chi'n iawn i ddweud fod yr effaith mae COVID wedi ei gael mewn rhai enghreifftiau—ddim yn gyfan gwbl y darlun—. Yn sicr mae wedi cael impact andwyol ar gaffaeliad a chynnydd rhai sydd efallai o aelwydydd heb y Gymraeg. Rŷch chi'n gwybod fy mod i wedi darparu cyllideb ar gyfer aildrochi i rai disgyblion sydd yn y sefyllfa honno a hefyd cefnogi rhieni yn eu penderfyniadau nhw i ddewis addysg Gymraeg i'w plant. Mae cyfle gyda ni fan hyn, onid oes e, i sicrhau gweithgaredd allgyrsiol drwy'r Gymraeg, sydd hefyd yn rhan, fel y cofiwch chi, o'r system newydd o gategoreiddio ein hysgolion ni. Mae'r elfen allgyrsiol hynny nawr hefyd yn bwysig o ran hynny. Felly, mae'r ddau bolisi'n gyson yn hynny o beth.
Mae'r sialens olaf y gwnaethoch chi sôn amdano, am sut i sicrhau bod gennym ni'r staff i addysgu ac i ddarparu gweithgareddau drwy'r Gymraeg, yn her sylweddol, fel rŷn ni wedi'i drafod ar achlysuron eraill. Rwy'n disgwyl tua'r gwanwyn cyhoeddi cynllun drafft. Dŷn ni wedi bod yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid ar recriwtio'n gyffredinol i'r gweithlu addysg Gymraeg, a byddaf i'n hapus iawn i gael trafodaeth bellach gyda'r Aelod ynglŷn â hynny.
Ac yn olaf, Darren Millar.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad. Rwyf i yn croesawu'r ffaith eich bod yn edrych ar y flwyddyn ysgol a'r diwrnod ysgol, ac rwy'n credu, yn amlwg, gydag unrhyw system sydd wedi para am 150 o flynyddoedd, fod rheswm da iawn weithiau dros ei gadw, ac weithiau efallai y bydd rheswm da dros gael gwared arno.
Rwy'n sylwi bod gennych chi dreial 10 wythnos a fydd yn digwydd ac y bydd canlyniad i'r treial hwnnw ar ffurf adborth, ond yn amlwg dim ond cyfran fach iawn o'r flwyddyn ysgol gyfan yw 10 wythnos, ac mewn ardal fel fy un i, lle mae rhythm y flwyddyn yn cael ei bennu'n bennaf gan y diwydiant twristiaeth, mae llawer o bobl yn pryderu, yn enwedig ynghylch newid y flwyddyn ysgol yn sylweddol a'r effaith y gallai ei chael ar eu gweithlu, os ydyn nhw'n weithredwyr twristiaeth. Rwy'n gallu gweld eich bod chi wedi ymrwymo'n glir i ymgysylltu â'r sector preifat, gan gynnwys y diwydiant twristiaeth. A allwch chi ddweud wrthym ni pa fath o ymgysylltu y gall hynny fod, er mwyn i ni allu annog gweithredwyr twristiaeth i gymryd rhan ynddo?
Wel, o ran y—. Mae cwestiwn yr Aelod yn canolbwyntio'n bennaf ar y flwyddyn ysgol. Rwy'n credu, i fod yn glir, ar hyn o bryd ein bod ni ar y cam o gasglu'r ystod o leisiau, os hoffwch chi; y cam nesaf fydd gweld beth yw casgliad y broses honno, a bydd cyfle parhaus, os hoffwch chi, i drafod ac ymgynghori â'r holl sectorau a phartïon dan sylw. Ond ar y cam cynnar hwn o'r trafodaethau hynny mae cyfarfodydd bord gron yn cael eu cynnal gydag ystod o sectorau i brofi dulliau gweithredu, i brofi ymatebion cychwynnol i wahanol ffurfiau'r flwyddyn ysgol. Felly, ar hyn o bryd, y mathau o bethau sy'n cael eu profi, os hoffwch chi, yw a fyddai gwyliau haf byrrach yn gwneud synnwyr, a allai gwyliau gaeaf hirach wneud synnwyr, a yw dull mwy cyson o ran toriad y gwanwyn, y Pasg, yn gwneud synnwyr, a oes achos dros well rheoleidd-dra rhwng amseroedd y tymor ac amseroedd gwyliau. Felly, dyna'r math o bethau sy'n cael eu profi er mwyn cael ymatebion pobl, mewn gwirionedd, ar hyn o bryd. Ond er mwyn tawelu eich meddwl, rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth ddweud—mae angen i mi wirio, ond rwy'n credu—hyd yn oed yr wythnos hon mae cyfarfodydd bord gron yn digwydd gyda chynrychiolwyr o wahanol sectorau. Ond bydd deialog barhaus mewn cysylltiad â'r hyn yr ydym yn ei glywed ganddyn nhw.
Diolch i'r Gweinidog. Byddwn ni nawr yn atal ein trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Cofiwch, os gwelwch yn dda, os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dwy funud cyn i'r trafodion ail-gychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.