2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2022.
7. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i sicrhau y defnyddir unrhyw fwyd sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru mewn ffordd effeithlon? OQ57576
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr a sefydliadau bwyd cymunedol i leihau gwastraff ym mhob rhan o'r gadwyn cyflenwi bwyd, o'r fferm i'r fforc. Mae hyn yn helpu i gyflawni nodau allweddol eraill, gan gynnwys haneru gwastraff bwyd erbyn 2025 a'r effaith ganlyniadol ar leihau allyriadau newid hinsawdd.
Diolch am eich ateb. Mae FareShare Cymru wedi dathlu dengmlwyddiant yn ddiweddar, ac mae eu hangen nhw nawr yn fwy nag erioed, byddwn i'n dweud. Un agwedd ar eu gwaith nhw yw rhedeg y gronfa Surplus with Purpose Cymru. Bwriad y gronfa—sy'n cael ei hariannu gan y Llywodraeth, er tegwch—yw i weithio gyda busnesau bwyd a ffermwyr i atal gwastraff bwyd drwy dalu costau cynaeafu, pecynnu, rhewi, cludo, beth bynnag sydd ei angen er mwyn sicrhau bod unrhyw fwyd sydd dros ben yn cael ei ddargyfeirio i'r rhai sydd ei angen. Mae dyddiad cau ymgeisio i'r gronfa yna yn disgyn ddiwedd y mis yma, felly gaf i ofyn i chi, fel y Gweinidog sy'n gweithio agosaf gyda busnesau bwyd a'r sector amaeth, i wneud ymdrech arbennig yn yr wythnosau olaf yma i hyrwyddo'r gronfa ymhlith y rhai rydych chi'n ymwneud â nhw? A gaf i hefyd, efallai yr un mor bwysig os nad yn bwysicach, ofyn i chi gydweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd er mwyn sicrhau fod y gronfa allweddol yma yn gallu parhau y flwyddyn nesaf, gan ei fod, wrth gwrs, wrth daclo gwastraff bwyd, yn troi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol?
Byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Fe gyfeirioch chi at FareShare Cymru, ac maent wedi arbed 819 tunnell o fwyd dros ben rhag cael ei wastraffu. Mae hynny'n ddigon i ddarparu bron i 3 miliwn o brydau bwyd mewn blwyddyn yn unig. Felly, gallwn weld y gwaith enfawr sydd wedi'i wneud. Cafodd y prydau hynny eu hanfon at lochesi i bobl ddigartref, clybiau brecwast ysgolion a chanolfannau cymunedol, felly mae'n bwysig iawn. Byddwn yn hapus iawn i weithio i hyrwyddo hynny dros yr wythnosau nesaf, a byddaf yn sicr yn cael trafodaeth gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, fel rydych yn gofyn.
Weinidog, mae ein diwydiant pysgota ac yn wir y sector dyframaethu yn parhau i fod yn elfen hanfodol o strategaeth fwyd Cymru. O granc gogledd Cymru i gregyn gleision Conwy a Menai, mae cynhyrchwyr cynaliadwy yn darparu bwyd maethlon o ansawdd uchel sy'n cynnwys ffynonellau protein ac omega 3 hanfodol. Gyda'r ymgynghoriad ar y cyd-ddatganiad pysgodfeydd bellach ar y gweill, rhywbeth rwyf wedi ymateb iddo, mae'r amcan budd cenedlaethol wedi dod i'r amlwg unwaith eto. O'r tua 660,000 tunnell o bysgod a gafodd eu ffermio a'u dal yn y DU yn 2014, allforiwyd 75 y cant ohonynt. Rwy'n dal i ddadlau bod angen i'r sector bwyd môr yma yng Nghymru gael ei integreiddio'n llawnach yn awr mewn strategaeth bwyd a diod newydd, gan fod yr adran bwyd-amaeth ar hyn o bryd yn ein hatal rhag cychwyn ar yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel strategaeth fwyd hollgynhwysol. Weinidog, er mwyn sicrhau defnydd effeithlon o fwyd môr a gynaeafir o'n moroedd, a allwch chi egluro pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adolygu a diwygio arferion caffael cyhoeddus fel bod y defnydd o bysgod a bwyd môr tymhorol a hyfryd o Gymru yn cynyddu yn ein hysgolion, ein hysbytai, ac yn cael ei gynnwys ym mhrydau bwyd y rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ledled Cymru? Diolch.
Diolch. Yn sicr, rwy'n gwneud popeth yn fy ngallu i hyrwyddo pysgod a'n sector dyframaethu. Fe sonioch chi am y cyd-ddatganiad pysgodfeydd, sy'n destun ymgynghoriad yn awr. Bydd y pwyllgor yn craffu arnaf mewn perthynas ag ef yfory mewn gwirionedd, ac rwy'n credu ei fod yn gyfle mawr. Wrth inni edrych ar gaffael, fe fyddwch yn ymwybodol fod Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud mewn perthynas â chaffael. Credaf eich bod yn iawn ynglŷn â sicrhau bod ysgolion—. Roeddwn yn eithaf hwyr yn dechrau bwyta pysgod. Fel plentyn, nid oeddwn mor awyddus â hynny, ac efallai mai'r rheswm am hynny yw na châi ei roi i mi yn fy nghinio ysgol na chymaint â hynny gartref—roeddem yn bwyta llawer o gig. Felly, credaf eich bod yn iawn fod ychydig mwy y gallwn ei wneud efallai i hyrwyddo pysgod ac yn sicr pysgod cregyn ymhlith ein pobl iau, ac mae cyfle i wneud hynny wrth inni fynd drwy'r broses gaffael hon.