1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 16 Chwefror 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, i'w hateb i gyd y prynhawn yma gan y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon. Yn gyntaf, felly, llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, o edrych ar eich portffolio, a fyddech yn dweud bod pasys COVID wedi bod yn llwyddiant?
Diolch i Tom Giffard am ei gwestiwn. Credaf fod y pasys COVID wedi gwneud yr hyn y bwriadwyd iddynt ei wneud. Pan gyflwynwyd y pasys COVID, wrth gwrs, roeddem ar ganol cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o COVID. Wedi hynny, cawsom y don omicron, a bu’n rhaid inni wneud rhywbeth i geisio adfer rhywfaint o hyder yn y sector. Felly, yn yr ardaloedd lle y gwnaethom ddefnyddio pasys COVID, cawsant eu defnyddio at y diben penodol hwnnw—cadw busnesau ar agor ac adfer hyder ymhlith y cynulleidfaoedd y byddai'n ofynnol iddynt ddangos pàs COVID mewn digwyddiadau dan do. Felly, yn hynny o beth, byddwn yn dweud eu bod wedi bod yn llwyddiant.
Rydych yn dweud eu bod wedi gwneud yr hyn y bwriadech iddynt ei wneud. Nid wyf yn siŵr a wyf yn cytuno, gan y credaf mai bach iawn oedd effaith pasys COVID ar ddiogelu iechyd y cyhoedd. Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru ei hun fod yr effaith 'yn eithaf bach yn ôl pob tebyg', a'r cyngor gan y gell cyngor technegol i Lywodraeth Cymru oedd bod
'lefel uchel o ansicrwydd o hyd ynghylch effeithiolrwydd y Pàs COVID yn lleihau heintiau yn absenoldeb asesiad cadarn o'r ymyriadau hyn.'
A dywedodd y gell cyngor technegol hefyd fod sawl adolygiad yn awgrymu bod perygl i basys COVID greu niwed yn ogystal â budd. Daw'r unig dystiolaeth fod pasys COVID yn gweithio o wledydd lle mae’r nifer sydd wedi cael y brechlyn yn isel iawn, sydd, diolch i lwyddiant brechu ledled y DU, yn wahanol iawn i'r sefyllfa yma yng Nghymru. Nid yn unig hyn, ond mae wedi cael effaith negyddol ar ein heconomi, fel y mae fy nghyd-Aelod, Paul Davies, wedi’i nodi o'r blaen. Roedd cost gyfartalog gweithredu pasys COVID oddeutu £400 yr wythnos. Mae busnesau nid yn unig wedi gorfod ysgwyddo costau ariannol sylweddol y pasys, maent hefyd wedi wynebu lleihad sylweddol yn nifer cwsmeriaid, gyda rhai busnesau'n colli hyd at 50 y cant o'u refeniw. Felly, Ddirprwy Weinidog, gofynnaf i chi unwaith eto: pa dystiolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru fod pasys COVID wedi bod yn llwyddiant?
Credaf fod angen ichi ystyried y mater yng nghyd-destun yr hyn yr oeddem yn ei wneud. Roedd hwn yn un o gyfres o fesurau. Nid oedd cyflwyno pasys COVID yn fesur ar ei ben ei hun. Fe'i cyflwynwyd, fel y dywedwch, ochr yn ochr â'r rhaglen frechu. Roedd yn rhan o—. Roedd cael pàs COVID yn annog pobl i gael y brechlyn. Fe'i cyflwynwyd ochr yn ochr â mesurau eraill hefyd, gan gynnwys mesurau cadw pellter cymdeithasol a mesurau lliniaru eraill a gyflwynwyd oddeutu'r un pryd. Felly, rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais yn fy ateb cyntaf am yr hyn y bwriadwyd iddynt ei wneud, sef ennyn hyder yn y sectorau a rhoi hyder i'r gynulleidfa. Ac yn sicr, cafwyd tystiolaeth anecdotaidd sylweddol fod hynny'n wir, gan fod nifer o leoliadau digwyddiadau yn enwedig wedi gweld cwymp yng ngwerthiant tocynnau, fel y gwyddoch, ond roedd pobl hefyd yn dweud y byddent yn fwy tebygol o fynd i ddigwyddiad dan do ac i leoliad dan do pe byddent yn defnyddio pàs COVID, gan fod hynny wedi ennyn rhywfaint o hyder, pan oeddent yn y lleoliad hwnnw, eu bod yn gwybod bod pobl eraill gyda hwy naill ai wedi cael eu brechu neu wedi cael prawf llif unffordd negyddol. Felly, ni chredaf y gallwch ystyried y peth ar ei ben ei hun. Mae'n rhaid ei ystyried yn rhan o gyfres o fesurau a oedd yn weithredol ar y pryd.
Diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei hateb, ond ni chredaf imi glywed unrhyw dystiolaeth fod pasys COVID wedi bod yn llwyddiant. Ac felly, gan dybio nad oes tystiolaeth fod pasys COVID wedi llwyddo i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac mai’r unig dystiolaeth sydd ar gael, i bob golwg, yw eu bod wedi cael effaith economaidd hynod negyddol ar nifer o ddiwydiannau—lletygarwch, digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon, y diwydiant twristiaeth, a phob un ohonynt yn eich portffolio chi, Ddirprwy Weinidog—yr unig ffordd y credaf y gwnawn ni ddarganfod a oedd pasys COVID yn llwyddiant yng Nghymru ai peidio, neu’n wir, a wnaeth Llywodraeth Cymru fynd yn llawer rhy bell yma a chostio llawer o incwm i fusnesau, yw asesu’n briodol ai hwn oedd y penderfyniad cywir mewn ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Ond ymddengys eich bod chi a Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, yn amharod i gynnal un ac yn cuddio y tu ôl i ymchwiliad COVID Lloegr yn lle hynny.
Wrth gwrs, defnyddiwyd pasys COVID yn Lloegr hefyd, a dim ond am 44 diwrnod y buont yn weithredol yno, o gymharu â 130 yma, ac roeddent yn targedu llai o lawer o ddiwydiannau hefyd. O ystyried bod Cymdeithas Diwydiannau’r Nos wedi dweud y bu gostyngiad o 26 y cant mewn masnach yn sgil cyflwyno’r pasys COVID hynny, mae’r diwydiannau hyn, Ddirprwy Weinidog, y mae cymaint o’n heconomi yma yng Nghymru yn dibynnu arnynt, yn haeddu gwybod y gwir. Felly, a gaf fi ofyn, a ydych wedi cael sicrwydd penodol y bydd effaith eich pasys COVID yng Nghymru yn rhan ganolog o'ch ymchwiliad COVID ar gyfer Lloegr?
Y peth cyntaf y byddwn yn ei ddweud yw bod hyn yn ddiddorol iawn, onid yw, clywed hyn gan y blaid unoliaethol sydd bellach yn sôn am ymchwiliad Lloegr? Nid ymchwiliad Lloegr yw hwn, ymchwiliad y DU yw hwn, ymchwiliad y bydd Cymru’n rhan ohono, a bydd elfen Gymreig benodol iawn i’r ymchwiliad hwnnw y mae’r Prif Weinidog wedi sôn amdani sawl gwaith yn y Siambr hon, ac wedi dweud yn benodol iawn mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU fod yr agwedd Gymreig benodol honno ar yr ymchwiliad yn hanfodol bwysig er mwyn archwilio ac ymchwilio i’r holl bethau rydych eisoes wedi tynnu sylw atynt.
Rwyf wedi cyfarfod â rhai o’r teuluoedd mewn profedigaeth yn fy etholaeth, a gwn pa mor gryf y maent yn teimlo ynglŷn â hyn, a gwn ein bod wedi—. Ac roedd gennyf bob cydymdeimlad â'u safbwyntiau. Ni allai unrhyw un sydd wedi colli perthynas neu ffrind neu rywun annwyl o unrhyw fath drwy'r pandemig hwn beidio â theimlo empathi a chydymdeimlad â'r bobl hynny. Ond nid ymchwiliad penodol i Gymru, yn ein barn ni, yw’r ateb i’r cwestiwn hwnnw. Bydd yr ymchwiliad DU gyfan, gyda’r cylch gorchwyl y byddwn yn cytuno arno ac a fydd yn destun ymgynghoriad ehangach, yn caniatáu i'r holl deuluoedd hynny a’r holl faterion rydych wedi’u codi gael eu harchwilio’n llawn, a’u harchwilio yng Nghymru, gan y bydd gwrandawiadau'r ymchwiliad yn mynd rhagddynt yng Nghymru hefyd ar gyfer yr elfennau penodol hynny o'r ymchwiliad.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Dirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr—. Sori.
Fe ddechreuaf eto, ac fe arhosaf amdanoch.
Cawsoch eich drysu gan fy mrawddeg fach yn y Gymraeg y bore yma, oni chawsoch?
Do, roeddwn yn meddwl eich bod yn rhugl. [Chwerthin.]
Iawn. Mae'n ddrwg gennyf.
Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi, fel rhan o'r cyhoeddiad ynglŷn â'r ffi drwydded, eu bod yn cau'r gronfa cynnwys cynulleidfaoedd ifanc, sef y young audiences content fund. Mae 5 y cant o'r gronfa wedi ei thargedu ar gyfer creu cynnwys mewn ieithoedd brodorol, gan gynnwys y Gymraeg, ac wedi cefnogi nifer o gynyrchiadau o safon i blant yng Nghymru, gan gynnwys cyfres newydd fydd yn cael ei darlledu cyn hir, Bex, fydd â ffocws ar iechyd meddwl.
Gwn eich bod chi, Ddirprwy Weinidog, yn pryderu fel finnau am effaith y toriadau i'r BBC ar ddarpariaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg yma yng Nghymru. Bydd torri'r gronfa hon hefyd yn cael effaith niweidiol pellach. Ac o ystyried pwysigrwydd darlledu o ran cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i leihau effaith y golled hon mewn cyllid a buddsoddiad mewn darlledu yn y Gymraeg, ac yn benodol o ran darpariaeth i blant a phobl ifanc?
Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn rhannu pryderon yr Aelod yn llwyr ynghylch y sefyllfa bresennol gyda ffi'r drwydded. Rwyf wedi cyfarfod â BBC Cymru Wales ac S4C ac wedi trafod setliad y ffi, a fy mhryder bryd hynny—pan godoch chi'r cwestiwn hwn ar y pryd, rwy'n credu—oedd yr effaith uniongyrchol y byddai hyn yn ei chael ar raglenni Cymraeg. Gwyddom fod y BBC yn darparu llawer o fewnbwn ar gyfer S4C hefyd, ac er bod setliad S4C ychydig yn fwy hael nag un y BBC, ni chredaf y gellir bychanu'r effaith gyffredinol ar raglenni a chynyrchiadau Cymreig. Ac rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn nodi pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch y setliad a’r adolygiad o fodel ariannu’r BBC. Ac mae’r llythyr hwnnw’n atgyfnerthu’r angen i’r DU weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig fel rhan o unrhyw benderfyniadau ar y fframwaith ariannu yn y dyfodol.
Felly, credaf fod angen inni barhau â’r sgyrsiau hynny gyda’r BBC ac S4C i weld beth fydd effaith hynny mewn gwirionedd, ond gallaf roi fy ymrwymiad llwyr ein bod ni, o safbwynt Llywodraeth Cymru, yn dal yn ymrwymedig i gyflawni’r amcan o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod hynny’n digwydd, boed hynny gyda chefnogaeth y BBC, S4C ac unrhyw gwmnïau cyfryngol eraill.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Yng ngeiriau Raymond Williams, mae diwylliant yn gyffredin a gwn eich bod chi a minnau, Ddirprwy Weinidog, yn rhannu’r gred gyffredin y dylid cael mynediad teg at gyfranogiad diwylliannol. Er ein bod wedi gweld rhai prosiectau diwylliannol digidol gwych ac arloesol yn dod i’r amlwg o ganlyniad i’r pandemig, mae ymchwil wedi dangos bod y newid i brofiadau diwylliannol digidol dros gyfnod y pandemig wedi methu sicrhau cynulleidfaoedd diwylliannol mwy amrywiol, gan ymgysylltu’n bennaf â’r rheini a oedd eisoes yn ymwneud â gweithgareddau diwylliannol. Yn ychwanegol at hyn, bu gostyngiad mwy yn nifer yr oriau o gyfranogiad gan fenywod a lleiafrifoedd ethnig yn ystod y pandemig o gymharu â dynion gwyn.
Er bod gan arloesi digidol rôl i’w chwarae, heb os, wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol, ni fydd hyn ond yn gweithio pan fydd wedi’i ymgorffori mewn strategaeth hirdymor o ymgysylltu â chynulleidfaoedd ac ysgolion. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i benderfynu pa wersi a ddysgwyd ynghylch ehangu ymgysylltiad drwy’r gweithgareddau diwylliannol digidol a ariannwyd ganddynt yn ystod y pandemig, a sut y bwriadwch sicrhau bod mwy'n cael ei wneud i sicrhau cyfleoedd cyfartal i gymryd rhan mewn diwylliant?
Iawn. Wel, diolch am eich cwestiwn. Byddwch wedi gweld ein bod, yn yr is-adran ddiwylliant, wedi dyrannu £600,000 ychwanegol yn y gyllideb yn benodol er mwyn buddsoddi ym maes mynediad cyfartal, boed hynny drwy ddulliau digidol neu unrhyw ddulliau eraill, ac rydym yn bwriadu creu rhaglenni arloesol o hyfforddiant a chymorth i amgueddfeydd lleol, er enghraifft, ddatblygu eu rhaglenni digidol a datblygu’r ffordd y caiff eu harddangosfeydd a’u holl arteffactau eu harddangos a’u cynrychioli ac ati.
Rydym wedi gwneud llawer iawn o waith eisoes o dan y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i geisio cyflawni'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol gyda nifer o grwpiau rhanddeiliaid yn y cymunedau. Rydym wedi cymryd y camau cyntaf ond hollbwysig wrth ailystyried y dehongliadau o gasgliadau cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a chynhaliwyd sesiynau drwy gydol mis Tachwedd ac maent yn parhau drwy fis Ionawr, gydag adborth ardderchog ar nifer o’r rhaglenni rydym yn ceisio sicrhau cyfranogiad ynddynt. Mae gennym brosiectau eraill yr ydym yn gweithio arnynt gyda Race Council Cymru, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, Cadw a'r cyrff diwylliannol a noddir gennym—mae'r holl waith hwnnw'n mynd rhagddo. Ac mae swyddogion yn parhau i weithio gyda chydweithwyr ym maes cydraddoldeb, ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid y sector, i ddatblygu ein nodau terfynol, yn dilyn yr ymgynghoriad ar y drafft o'r cynllun gweithredu cydraddoldeb. Ac mewn gwirionedd, rwy'n cyfarfod â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y prynhawn yma i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddi am y gwaith a wnawn ar draws y portffolio yn y maes penodol hwn.