– Senedd Cymru am 4:42 pm ar 1 Mawrth 2022.
Eitem 7 sydd nesaf, sef datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar 'Cymraeg 2050', y camau nesaf. Jeremy Miles i wneud y datganiad hwnnw.
Diolch, Lywydd. Heddiw, dwi’n cyflwyno adroddiad blynyddol ar ein strategaeth iaith, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr', a hynny ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21, blwyddyn olaf y Llywodraeth ddiwethaf.
Cyn cychwyn heddiw, os caf i, Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg. Roedd Aled yn achub ar bob cyfle i ysbrydoli a chefnogi’r rheini oedd angen cymorth a chyngor. Yn gymeriad hynaws, caredig a gonest, mae colli Aled yn ergyd aruthrol i bawb oedd yn ei adnabod, ac i Gymru.
Roedd hi’n flwyddyn heriol i bawb, gyda COVID-19 yn bresennol drwy gydol y flwyddyn adrodd, a phob un ohonon ni, wrth gwrs, yn gorfod dysgu i addasu ein ffordd o fyw—gartref, yn y gwaith ac yn ein cymunedau. Oherwydd hyn, bu peth newid i’n trefniadau arferol o gasglu a chyhoeddi data, a dyna pam fod oedi wrth gyhoeddi’r adroddiad hwn eleni.
Daeth heriau i faes y Gymraeg, fel i holl feysydd gwaith y Llywodraeth, yn ystod y flwyddyn, ond daeth hefyd amrywiol gyfleoedd i arbrofi ac arloesi. Rhaid diolch i’n holl bartneriaid ar hyd a lled y wlad am eu parodrwydd i addasu a’u brwdfrydedd i fentro i feysydd newydd. Cynhaliwyd Eisteddfod T ac Eisteddfod AmGen am y tro cyntaf, cyhoeddwyd ein polisi 'Trosglwyddo’r Gymraeg a’i Defnydd mewn Teuluoedd', cynhaliwyd ymgynghoriad ar ein polisi seilwaith ieithyddol, a chafodd ymgynghoriad ar gategorïau newydd i ddisgrifio ysgolion yn ôl eu darpariaeth Gymraeg ei gynnal hefyd.
Oedd, roedd hon yn flwyddyn anodd ar brydiau ond roedd hi’n flwyddyn gynhyrchiol hefyd. Gallwch chi weld y manylion yn llawn yn yr adroddiad ei hun. Er mai cyfle i edrych yn ôl yw adroddiad blynyddol, dwi am edrych ymlaen hefyd heddiw, yn debyg iawn i’r hyn wnes i yn ystod fy araith ddiweddar ar Ynys Môn pan ges i gyfle i rannu fy ngweledigaeth am ein hiaith, wrth nodi 60 mlynedd ers traddodi 'Tynged yr Iaith'. Roeddwn i’n falch o gychwyn heddiw drwy gyhoeddi pa brosiectau sydd am gael cyfran o'r £30 miliwn o arian cyfalaf i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Hefyd, braf oedd cyhoeddi ein bod yn rhoi £1.2 miliwn yn ychwanegol i'r Urdd, er mwyn i'r sefydliad barhau i adeiladu ar ôl COVID a sicrhau parhad i'w gwasanaethau cymunedol a phrentisiaethau.
Dyma'r tro cyntaf inni ddod ynghyd i drafod y Gymraeg ers cyhoeddi'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru. Rwy'n falch o ddweud fy mod i eisoes wedi dechrau ar y gwaith gyda Cefin Campbell, ac yn ffyddiog y bydd ein gwaith ar y cyd yn gynhyrchiol. Ein nod, wrth gwrs, yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'n hiaith erbyn 2050. Ac mae'r nod yma'n parhau'n gyson ymhob rhan o'n gwaith wrth inni ddefnyddio ymyraethau amrywiol i'w gyrraedd. Dyw pob ymyrraeth ddim am weithio ymhob rhan o Gymru, a rhaid i bob ymyrraeth fod yn addas at yr amgylchiadau. Felly, wrth inni symud ymlaen ar ein taith i filiwn o siaradwyr Cymraeg, mae'n bwysig ein bod ni'n clywed, yn gwrando ac yn dysgu o brofiad y rheini sy'n byw yn ein cymunedau ni ar draws Cymru, y rheini sy'n cychwyn ar eu taith ieithyddol, neu sydd heb gael y Gymraeg yn rhan o'u bywyd bob dydd ers sbel.
Ac wrth imi sôn am wrando ar bobl, mae'r ymgynghoriad ar-lein ar y cynllun tai cymunedau Cymraeg newydd ddod i ben. Diolch i bawb a gymerodd o'u hamser i ymateb. Rwy'n edrych ymlaen at drafod gyda Dr Simon Brooks a'r comisiwn newydd rŷn ni'n ei sefydlu i fwrw golwg ar sut fyddwn ni'n gweithredu'r argymhellion a ddaw yn ei sgil.
Rydw i wedi sôn tipyn am gymunedau dros yr wythnosau diwethaf am y syniad o gydweithio â chymunedau lleol i'w helpu nhw i greu mudiadau cydweithredol—mudiadau sy'n gweithio yn y gymuned, er lles y gymuned ac yn rhoi nôl i'r gymuned, grymuso cymunedau, creu cyfleoedd lleol i bobl leol i lwyddo'n lleol, a chael ein harwain gan realiti'r sefyllfa ieithyddol mewn gwahanol rannau o Gymru.
Dwi am i bopeth dwi'n ei wneud fel Gweinidog y Gymraeg fod yn seiliedig ar gynnal neu gynyddu'r defnydd o'n hiaith ni. Fe gofiwch chi fod cynyddu defnydd yn rhedeg drwy ein holl gynlluniau ar gyfer tymor y Senedd hon. 'Defnydd, nid jest darpariaeth', dyna a ddywedais i yn fy araith ychydig wythnosau nôl, a dyna dwi'n ei ddweud eto heddiw. Fe welsoch chi'r datganiad diweddar ar y cyd â Phlaid Cymru yn sôn am sut y byddwn ni'n cydweithio â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu gwersi Cymraeg am ddim i'r gweithlu addysg, boed yn athrawon neu'n gynorthwywyr, o fis Medi ymlaen, felly hefyd i bobl ifanc o dan 25 oed—creu ail gyfle i lawer o bobl gael parhau ar eu taith ieithyddol gyda'r Gymraeg. Ac rwy'n edrych ymlaen at sgwrsio gyda rhai o'r bobl ifanc yma wrth iddyn nhw fynd ati i ddysgu neu ailgydio yn ein hiaith.
Mae canlyniadau'r cyfrifiad ar eu ffordd dros y misoedd nesaf—a na, dwi ddim yn gwybod beth yw'r ffigurau; dydyn nhw ddim yn cael eu rhannu cyn eu cyhoeddi. Ond erbyn yr haf, fe fyddwn ni'n gwybod faint o bobl Cymru sy'n gallu siarad Cymraeg—yn gallu siarad ein hiaith, nid yn defnyddio ein hiaith, a dyna ni nôl eto at y defnydd yma. Dyw'r cyfrifiad ddim yn mesur defnydd, ond mae'r ffigurau'n bwysig hefyd, wrth gwrs, gan eu bod nhw'n darparu data defnyddiol am ein hiaith ymhob rhan o Gymru, ac mae'n amlwg bod cysylltiad rhwng y niferoedd sy'n gallu siarad yr iaith a'i defnydd.
Rhywbeth arall fyddwch chi wedi fy nghlywed i'n ei ddweud dros y misoedd diwethaf yw bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac fe fyddaf i'n parhau i'w ddweud e. Mae'n neges bwysig, ac yn un rwy'n credu'n gryf ynddi hi. Mae'n rhan o beth sy'n ein gwneud ni'n ni, ac mae'n gyfrifoldeb arnom ni i gyd i ddod at ein gilydd yn y Senedd hon ac ar hyd a lled y wlad i sicrhau ei dyfodol. Ac mae angen hefyd inni gofio fod gan bawb ei ran, mae gan bawb ei lais; mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.
Samuel Kurtz.
Diolch yn fawr, Llywydd, a Dydd Gŵyl Dewi Sant hapus ichi, i'r Gweinidog ac i'r Siambr. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad heddiw, a chyfeiriaf Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau. Hoffwn hefyd gysylltu fy hun â geiriau teimladwy'r Gweinidog am farwolaeth drist Aled Roberts. Gadewch inni obeithio mai un o gymynroddion Aled fydd gweld datblygiad yr iaith yr oedd yn ei charu ac a dreuliodd gymaint o amser yn ei hyrwyddo.
Mae'r iaith Gymraeg yn rhan hanfodol o'n diwylliant, ein hanes a'n treftadaeth, a thros yr wythnos diwethaf rydym wedi gweld pa mor hawdd y gall y tair sylfaen genedlaethol hyn gael eu herydu, eu hymosod arnynt a'u torri. Mae hunaniaeth cenedl yn seiliedig ar ei diwylliant, ei phobl ac, wrth gwrs, ei hiaith. Gwelaf y polisi Cymraeg 2050 yn rhan o ystod o fentrau a fydd nid yn unig yn cryfhau ein hunaniaeth yma yng Nghymru, ond hefyd yn cryfhau ein lle unigryw fel rhan o'r Deyrnas Unedig.
Gyda'r datganiad hwn wedi ei roi ar Ddydd Gŵyl Dewi, byddai'n esgeulus imi beidio â nodi dathliad ein nawddsant heddiw, dyn o orllewin Cymru a gafodd ei gydnabod gan y Pab dros 1,900 o flynyddoedd yn ôl. Bu Dewi Sant fyw bywyd duwiol, ac mae ei ddathlu fel ein nawddsant yn rhywbeth sy'n ein huno ni yma yng Nghymru. Mae'r iaith yn agwedd ar y diwylliant sy'n ychwanegu gwerth at ein cenedl fawr, ac mae strategaeth Cymraeg 2050 yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu a thyfu'r iaith am genhedlaeth i ddod. O ystyried hirhoedledd strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, mae cyfleoedd i graffu ar y Llywodraeth yn hanfodol er mwyn sicrhau bod canlyniadau'n cyrraedd targedau.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'm mhryderon ynghylch atebolrwydd y rhaglen hon, yn enwedig gan ei bod yn debygol na fydd neb yn y Llywodraeth yma yn atebol yn y flwyddyn 2050. Dyna pam mae'r cyfle hwn mor bwysig, ac rwy'n sicr yn croesawu ei hadroddiad blynyddol manwl a ddarllenais â diddordeb mawr. Roeddwn yn hynod falch o weld y Gweinidog yn cydnabod gwaith pwysig ein sefydliadau gwirfoddol, a sut maen nhw'n gweithio o fewn y cymunedau i hybu a thyfu'r Gymraeg. Fel cadeirydd clwb ffermwyr ifanc sir Benfro, rwyf wedi gweld pa mor werthfawr yw cwlwm y Gymraeg i'r gymdeithas, yn enwedig i'n pobl ifanc. Ond rhaid i Lywodraeth Cymru beidio â dibynnu ar sefydliadau trydydd sector yn unig i wneud ei gwaith drostynt. Mae gan Gymru bentwr o botensial, a gall datblygu ein pobl ifanc yn siaradwyr dwyieithog neu hyd yn oed deirieithog sicrhau bod pobl yn eistedd ar y llwyfan rhyngwladol.
Yn wir, o ystyried hyn, hoffwn dynnu eich sylw at fy mhryderon ynghylch trywydd hanesyddol y nifer sydd yn astudio ar gyfer dysgwyr blwyddyn 11 sydd wedi cofrestru i gymryd rhan yn TGAU Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith. Yn y 12 mlynedd diwethaf, mae canran y dysgwyr blwyddyn 11 sydd wedi cymryd rhan yn TGAU Cymraeg iaith gyntaf wedi cynyddu 3 y cant yn unig, ffigur nad yw'n cyd-fynd â naratif, geiriau na pholisi Llywodraeth Cymru. Ac er fy mod yn falch o weld bod y ganran sy'n dilyn cwrs llawn TGAU Cymraeg ail iaith wedi cynyddu'n aruthrol, mae gennyf bryderon am addasrwydd y cymhwyster hwn. Os yw'r TGAU Cymraeg ail iaith hwn yn gweld dysgwyr yn dysgu ymadroddion gorsyml ac nad yw'n datblygu dysgu'r iaith yn ddyfnach, pan ddaw i broffesiynau mewn bywyd hŷn, fel addysgu, gallant fod o dan anfantais.
Ond nid yma yn unig y mae fy mhryderon. Gwn am achosion lle mae siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf rhugl wedi dewis sefyll cyrsiau TGAU Cymraeg ail iaith dim ond i gryfhau eu siawns o ennill gradd A neu A*. Weinidog, fel y gwyddoch, mae gennych fy nghefnogaeth i'r polisi hwn. Ydy, mae'n uchelgeisiol, ond cefnogaf y bwriadau sydd ganddo. Gyda'r ewyllys gorau yn y byd, nid chi fydd Gweinidog y Gymraeg pan ddaw'r cynllun hwn i ben yn y flwyddyn 2050, a dyna pam mae e mor bwysig ein bod yn cadw llygad beirniadol ar sut mae'n datblygu. Gobeithio fod fy nghyfraniad heddiw yn cael ei gymryd yn y ffordd y'i bwriadwyd fel ffrind beirniadol, a critical friend, achos dim ond trwy weithio a newid cwrs, os a phryd y bydd angen, y bydd y polisi hwn yn llwyddiannus. Diolch.
A gaf i ddiolch i Samuel Kurtz am y ffordd adeiladol wnaeth e ymgymryd â'r cwestiwn, a'r ffaith ei fod e'n ein hatgoffa ni pa mor fyrhoedlog mae gyrfaoedd gweinidogol yn gallu bod. [Chwerthin.] Diolch o galon i chi am fy atgoffa i o hynny.
Ond fe wnaeth Samuel Kurtz wneud dau bwynt pwysig iawn ar gychwyn ei gwestiwn, hynny yw bod angen atebolrwydd a bod angen cyfle i Aelodau a chyrff allanol hefyd allu craffu ar waith y Llywodraeth, ac rwy'n derbyn bod hynny'n gwbl elfennol. Dyna beth yw'r rhaglen a dyna beth yw'r datganiad yma. Dyna beth yw'r adroddiad; mae'n gosod allan y targedau, mae'n dangos yn glir ddigon lle rŷn ni'n cyrraedd y targedau, a lle mae angen mwy o waith ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r sialensau, efallai, sydd ychydig yn fwy hirdymor, ac mae'n caniatáu cyfleoedd ac yn rhoi sail i chi allu craffu ar hynny. Felly, rwy'n croesawu hynny ac mae'r Llywodraeth yn croesawu hynny.
Mae'r pwynt wnaethoch chi orffen arno fe yn bwysig hefyd, hynny yw bod y dirwedd y mae'r iaith yn bodoli oddi mewn iddi yn gyson newid, onid yw hi? Felly, rŷn ni wedi gweld newid mawr dros y 60 mlynedd ers 'Tynged yr Iaith'. Gellir dadlau, dros y cyfnod diwethaf, fod ein cymunedau ni wedi trawsnewid o ran y pwysau ar gymunedau Cymraeg yn benodol, ond hefyd ffactorau eraill, ac mae angen bod yn onest am yr angen i newid ac ymateb i'r newidiadau hynny. Hefyd, mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu o'r hyn rŷn ni'n ei wneud—mae pethau'n llwyddo ac mae pethau'n methu, ac mae angen adnewyddu yn sgil y wybodaeth honno a bod yn ddewr ac yn onest am y broses o wneud hynny. Felly, rwy'n sicr yn cefnogi'r thema honno yng nghwestiwn yr Aelod.
O ran y cwestiwn ar gymhwyster Cymraeg TGAU, fel y bydd yn gwybod, mae hyn ar hyn o bryd yn fater y mae Cymwysterau Cymru yn edrych arno; mae'n destun pwysig iawn. Mae cyfnod yr ail iaith yn dirwyn i ben. Dŷn ni ddim eisiau trafod y Gymraeg fel syniad o iaith gyntaf ac ail iaith. Mi wnes i orffen fy natganiad yn sôn am yr iaith yn perthyn i bawb. Beth rwyf i eisiau ei weld, ac rwy'n sicr bod cefnogaeth eang yn y Siambr i hyn, yw un continwwm ieithyddol, lle mae pawb yn gwybod lle maen nhw ar y siwrnai; mae pawb ar yr un siwrnai ond, efallai, ar fannau gwahanol ar yr un llwybr. Mae hynny wir yn bwysig, rwy'n credu. Rŷn ni eisiau gweld ein system addysg ni yn caniatáu inni greu siaradwyr hyderus dwyieithog, ond y gwirionedd yw bod pobl yn dechrau o fannau gwahanol ar y llwybr hwnnw, ac mae hynny jest yn realiti yn ein cymunedau ni a lle mae'r iaith.
Ond y syniad sydd yn sail i'r polisi o ddarparu gwersi am ddim i bobl tan eu bod nhw'n 25 yw jest rhoi cymaint o gyfleoedd ag y gallwn ni i sicrhau bod pobl yn manteisio ar y cyfle naill ai i ailafael yn y Gymraeg neu ddysgu am y tro cyntaf. Felly, mae gwaith i'w wneud i sicrhau ein bod ni'n deall ymhle ar y continwwm ieithyddol y mae cymwysterau ac addysg i oedolion, ond mae'r gwaith yn waith pwysig i'w wneud.
Diolch, Weinidog, am y datganiad. Hoffwn innau ategu eich teyrnged i Aled Roberts. Mi fynychais y British-Irish Parliamentary Assembly gyda Sam Kurtz dros y dyddiau diwethaf yma, ac mae'n rhaid i mi ddweud yr oedd yna cymaint o deyrngedau twymgalon ar draws y ddwy ynys hyn—pobl oedd wedi gweld Aled pan oedd yn rhoi tystiolaeth ger eu bron nhw yn 2019 ac a oedd yn edmygu'n aruthrol yr hyn dŷn ni'n ei wneud yng Nghymru. Ond, yn benodol, mi oedd o ei hun wedi creu argraff ryfeddol ac wedi ysgogi Llywodraethau eraill i ystyried sut y medran nhw weithredu a sut y medran nhw efelychu rhai o'r pethau gwych yr oedd o ar flaen y gad yn eu harwain yn y fan yna, ac mi oedd hi'n braf gweld hynny yn cael ei gydnabod yno.
O ran yr adroddiad yma, mae'n ddifyr, onid ydy hi, edrych yn ôl ar 2020-21? Mae rhai o'r heriau yn dod drosodd yn yr adroddiad hwn, ond yn sicr dwi'n meddwl mai'r adroddiad nesaf fydd yn rhoi'r trosolwg i ni o ran effaith y pandemig yn wirioneddol, felly, o ran y Gymraeg. Yn sicr, dwi'n ffan fawr o infographics, ac mae yna straeon gwych i'w dweud yn yr infographics sy'n cyd-fynd â'r cynllun, o ran y niferoedd yn ymwneud â gwersi ar-lein o ran dysgu Cymraeg—dŷn ni'n gwybod am y niferoedd sydd eisiau trio ar Duolingo ac ati, ac mae'r awydd yna gan rai pobl, efo mwy o amser gartref ac ati, i ymwneud â'r iaith i'w groesawu.
Ond y pegwn arall ydy'r heriau hynny efo addysgwyr ifanc. Dwi'n gwybod yn yr ardal dwi'n ei chynrychioli, Rhondda Cynon Taf, lle mae'n her aruthrol o ran y targedau i gyrraedd y filiwn o siaradwyr beth bynnag, ein bod ni'n gweld effaith y pandemig yn barod, efo'r rhieni yn gwneud y dewis anodd i gymryd eu plant allan o addysg Gymraeg oherwydd eu bod nhw'n gweld eu bod nhw gormod ar ei hôl hi, eu bod nhw'n poeni am eu datblygiad nhw ac ati.
Ar hyn o bryd, dydy pob cyngor ddim yn mesur yn gyson pam fod rhywun yn gadael addysg Gymraeg a beth ydy'r rhesymau dros hynny. Dŷn ni wedi trafod yn y gorffennol yr angen i ddeall hynny yn well er mwyn gwybod sut dŷn ni'n gallu ymyrryd, a dwi'n meddwl mai un o'r heriau mawr i ni, o ran cael targed uchelgeisiol, ydy deall pam, os ydych chi wedi gwneud y dewis yna o ran addysg Gymraeg, nad ydych chi'n parhau gyda'r trywydd hwnnw. Mae'n rhaid inni ddeall hynny, dwi'n meddwl.
Yn sicr, mae o i gyd yn eithaf anecdotaidd ar hyn o bryd, ond mae yna nifer o anghysondebau eraill dwi hefyd wedi'u trafod efo chi yn y gorffennol o ran mynediad at addysg Gymraeg. Mae'n un peth cael hawl, ond mae'r syniad o fynediad yn eithriadol o bwysig. Wedyn, os nad ydych chi hefyd yn gallu cael mynediad i glybiau brecwast neu glybiau ar ôl ysgol ac ati, os nad ydy'r ysgol Gymraeg honno o fewn pellter cerdded ac os nad oes gan eich rhieni chi neu ofalwyr car i fynd â chi i'r ysgol, yna mae yna heriau gwirioneddol. Dyna un o'r pethau efo'r model unfed ganrif ar hugain, efo campws. Ydy, mae yna fuddsoddiad aruthrol, ond mae'n dal i fod problem enfawr o ran cael y cysondeb ar y mynediad hwnnw. Mae'r un peth yn wir o ran trochi ac anghenion dysgu ychwanegol. Dydy o ddim yn gydradd ar y funud. Ac ydy, dwi'n cytuno efo chi; efallai buaswn ni'n gallu ffurfio parti llefaru o ran 'Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb'. Mae hwnna'n rhywbeth roedd lot o bobl yn nodio arno fo—Eisteddfod T ac Amgen ac ati. Ond mae o'n rhywbeth dŷn ni angen bod yn ei ddweud, ac yn dweud yn Saesneg, ond yn ei olygu hefyd. Mae'n un peth bod hi'n perthyn i bawb, ond mae angen bod yna hawl gwirioneddol gan bawb i ymwneud â'r iaith yn y ffordd maen nhw'n dewis gwneud.
Dwi'n ategu pwyntiau Sam Kurtz o ran y cyhoeddiad a gafwyd gan Cymwysterau Cymru ynglŷn â'r ddau gymhwyster gwahanol—croesawu'n fawr. Mae yna gymaint o bethau yn y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru fydd yn mynd tuag at y targed o filiwn o siaradwyr, ond mae'r syniad o gontinwwm mor eithriadol o bwysig, ac un o'r pethau byddwn i yn hoffi gwybod o ran—. Dwi'n rhannu'r pryderon o ran yr ailfrandio yma. Roeddwn i yn croesawu gweld bod Cymwysterau Cymru wedi rhoi yn bendant mai ar gyfer ysgolion Saesneg oedd y cymhwyster arall, ond dal i fod—mae yna ddau gymhwyster yn mynd i fodoli. Felly, ydy'r Gweinidog yn credu bydd y newidiadau a grybwyllwyd yn y cyhoeddiad diweddar ynghylch TGAU Cymraeg yn debygol o helpu i gyflawni'r nod o greu un continwwm dysgu ac asesu? Os penderfynir ar ddau arholiad, mae'n rhaid dangos y gorgyffwrdd rhwng y naill a'r llall, a chael gwared ar y nenfwd cyrhaeddiad a chaniatáu i ddisgyblion gyrraedd lefel cyrhaeddiad uwch beth bynnag yw cyd-destun ieithyddol yr ysgol.
Her arall aruthrol yw o ran recriwtio at y gweithlu addysg. Mi welsom ni Mudiad Ysgolion Meithrin yn sôn, er gwaethaf y llwyddiannau maen nhw'n eu cael, fod yna heriau aruthrol o ran cael digon o staff, ac mae hyn yn rhywbeth o ran anghenion dysgu ychwanegol ac ati. Felly, beth yn union yw'r uchelgais newydd o ran gweithlu addysg? Faint yn ychwanegol o athrawon sydd angen ar gyfer y sector Cymraeg, ac erbyn pryd, i gwrdd â thargedau Cymraeg 2050? Pam aros tan y Ddeddf addysg Gymraeg cyn pennu uchelgais, pan yw cynllun 10 mlynedd yn cael ei baratoi ar hyn o bryd?
Diolch i Heledd Fychan am ystod o gwestiynau. Fe wnaf i fy ngorau i allu eu hateb nhw'r gorau y gallaf i. O ran yr her mae COVID wedi cyflwyno inni, mae hi'n iawn i ddweud bod hynny wedi golygu bod rhai profiadau wedi bod yn gadarnhaol—hynny yw, pobl yn dysgu Cymraeg am y tro cyntaf—ond hefyd sialensiau o ran rhai yn penderfynu dwyn plant allan o addysg Gymraeg. Mae'r darlun yn eithaf anghyson, buaswn i'n dweud, ar draws Cymru. Mae enghreifftiau cadarnhaol hefyd, ynghyd â'r enghreifftiau efallai oedd yn llai cadarnhaol wnaeth yr Aelod sôn amdanyn nhw.
Mae'r gwaith rŷm ni wedi buddsoddi ynddo fe o ran aildrochi a'r gwaith mae RhAG yn ei wneud gyda ni i gyd yn mynd i'r afael â sut gallwn ni sicrhau nad yw hynny'n digwydd a bod rhieni yn gallu parhau yn eu hymroddiad ac ymrwymiad i addysg Gymraeg i'w plant. Dwi'n derbyn y pwynt rŷch chi'n ei wneud o ran casglu data ar benderfyniadau. Mae hynny'n rhan o'r gwaith rŷm ni'n edrych arno fe ar hyn o bryd.
O ran y cwestiwn ehangach o fynediad hafal i addysg Gymraeg, rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r nod hwnnw. Dyna bwrpas y Bil addysg cyfrwng Gymraeg sydd gyda ni ar y gweill. Byddwn ni'n gweithio ar y cyd gyda Plaid Cymru ar hynny. Mae'r elfen ddaearyddol yn bwysig i hynny. Mae'r rhifau yn bwysig, o ran craffu, o ran cyrraedd y nod, ond mae elfen ddaearyddol bwysig i hynny hefyd o ran lle mae'r ddarpariaeth a lle mae'r cymunedau sydd angen yr ysgolion. Mae trafnidiaeth yn elfen o hynny hefyd.
Jest ar y pwynt olaf, o ran y cymhwyster, mae'n hawdd dweud—os caf i ei ddodi fe ffordd hyn—ein bod ni eisiau cael gwared ar ail iaith a bod eisiau un cymhwyster, ond beth mae hynny yn ei olygu ar lawr gwlad? Rwyf wedi clywed pobl yn dweud, 'Wel, efallai eich bod chi'n cael cymhwyster ar y cyd i bawb, a wedyn elfen wahanol sy'n cyfateb i lefel o sgil wahanol.' Ar ddiwedd y dydd, mae gyda chi ddau gymhwyster yn y byd hwnnw hefyd. Felly, y peth pwysig, rwy'n credu, yw'r pwynt wnaethoch chi ei wneud, bod nad oes nenfwd, os hoffech chi, ar eich gallu chi i allu dysgu Cymraeg. Mae e'n rhan o gynllun cyfredol Cymhwysterau Cymru i gael cymhwyster ychwanegol hefyd mewn ysgolion Saesneg lle mae'n bosib mynd tu hwnt i'r TGAU, os hoffwch chi, yn yr ysgol. Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad diddorol inni edrych arno fe er mwyn sicrhau bod dilyniant i bobl sydd yn gwneud y TGAU newydd hwnnw.
O ran y rhifau, dŷch chi'n dweud, 'Pam aros tan y Bil?' Yr ateb positif yw: dŷn ni ddim yn aros tan y Bil. Mae'r gwaith wedi bod yn mynd yn ei flaen gyda rhanddeiliaid ar edrych ar gynllun drafft ar hyn o bryd. Byddwn ni, wrth gwrs, yn trafod hwnnw ymhellach gyda chi. Mae eisiau bod yn greadigol, rwy'n credu, o ran sut rŷn ni'n denu pobl i'r proffesiwn, eu cynnal nhw yn y proffesiwn, beth yw'r cymhellion i wneud hynny, beth yw'r broses o ddarparu cefnogaeth yn ddigon cynnar yn y siwrnai ysgol bod pobl ifanc yn meddwl am ddysgu drwy'r Gymraeg fel gyrfa gyffrous i'w dilyn. Felly, mae lot o bethau creadigol iawn gallwn ni eu gwneud, ond mae e'n heriol. Dyw hi ddim yn bosib i orfodi pobl i wneud y dewis yna. Roedd gyda ni rhyw 5,000, dwi'n credu, mwy neu lai, o athrawon oedd yn gallu dysgu drwy'r Gymraeg; roedd angen rhyw 5,500 y flwyddyn hon, felly rŷn ni yn brin o'r targed, ond mae'n sefyllfa heriol.
Mi wnaethoch chi sôn am y cynllun 10 mlynedd. Mae cynlluniau strategol 10 mlynedd gyda ni; nawr mae angen cynllun recriwtio 10 mlynedd sy'n ateb i hynny, a dyna'r gwaith rŷn ni'n edrych ymlaen at ei wneud ar y cyd gyda chi.
Fel eraill, liciwn i ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ddweud gair omboutu Aled Roberts. Llywydd, mi fyddwch chi a sawl Aelod fan hyn yn cofio ei gyfraniadau fe fan hyn yn ein Siambr ni, a dwi'n cofio fe'n siarad yn glir ac yn dod â phobl at ei gilydd, ac un o'r pethau roedd Aled yn gallu ei wneud oedd uno pobl, creu syniad a dod â phobl at ei gilydd wrth wneud hynny. Dwi'n gwybod, pan oeddwn i'n dechrau fel Gweinidog y Gymraeg, Aled oedd un o’r bobl gyntaf rôn i'n mynd atynt am gyngor, a dwi'n gwybod y bydd pob un ohonom ni reit ar draws y Siambr eisiau estyn ein cydymdeimladau at y teulu, a chydnabod y golled i ni fel cenedl, a chydnabod y cyfraniad roedd Aled wedi'i wneud.
Dwi'n croesawu'r datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, a dwi'n croesawu'r dôn dŷch chi wedi’i mabwysiadu ers ichi gael eich penodi i’r swydd yma. Dwi'n credu ei bod hi'n hynod o bwysig. Pan wnes i osod y targed o filiwn o siaradwyr, rôn i'n glir yn fy meddwl i: miliwn o bobl a all ddefnyddio'r Gymraeg, miliwn o bobl a all siarad a mwynhau'r Gymraeg, nid jest miliwn o bobl a all ysgrifennu arholiad rhyw brynhawn Mercher rhyw ben, ac anghofio fe yn syth wedi hynny—miliwn o bobl a all fwynhau ein hiaith ni a'n diwylliant ni, ac mae hynny yn hynod o bwysig.
Y cwestiwn liciwn i osod ichi y prynhawn yma, Gweinidog, yw hyn, omboutu hybu. Pan ôn i'n dysgu Cymraeg, roedd cyngherddau Blaendyffryn—bydd y Llywydd yn cofio’r rhain hefyd—yn gwneud mwy i fi i hybu’r Gymraeg, mwynhau’r Gymraeg, nag unrhyw wersi wnes i. Wnes i ddim cael gwersi yn yr ysgol, ond mater gwahanol ydy hynny.
Ond mae’n rhaid creu’r cyfle lle gall pobl fwynhau’r Gymraeg, a lle dyw'r Gymraeg ddim yn iaith y dosbarth, ond iaith fyw ym mywydau pobl. A dwi eisiau ystyried, Gweinidog, sut rydyn ni'n gallu gwneud hynny. Dwi'n becso ambell waith ein bod ni wedi gwastraffu gormod o amser, gormod o egni, gormod o adnoddau ar bethau fel safonau oedd yn creu biwrocratiaeth, yn lle hybu'r ffaith ein bod ni'n gallu mwynhau'r iaith, a dwi'n credu bod hynny'n hynod o bwysig.
A’r peth olaf liciwn i ofyn amdano yw lle’r Gymraeg yn y byd technegol newydd. Pan wy'n siarad gyda Alexa gartref, dwi'n siarad yn Saesneg gyda hi—neu gyda fe, neu beth bynnag yw Alexa—ac os ydw i'n defnyddio'r Gymraeg, wrth gwrs, fydd Alexa ddim yn deall y Gymraeg, a dŷn ni i gyd yn gwybod, fel mae technoleg yn datblygu, bod y syniad o reoli technoleg trwy ein llais ni yn mynd i fod yn fwy a mwy pwysig. Felly, Gweinidog, yn y weledigaeth mae'n amlwg sydd gyda chi yn y ffordd dŷch chi wedi bod yn gweithredu, ble mae'r Gymraeg, ble mae dyfodol y Gymraeg, yn y byd technegol, a sut ydyn ni'n mynd i sicrhau bod gyda ni'r strwythur mewn lle yn y Llywodraeth i hybu'r Gymraeg ac i estyn mas o'r Gymru bresennol i greu'r Gymru Gymraeg newydd?
Diolch o galon i Alun Davies am y cwestiynau hynny, ac wrth gwrs am ei waith sylfaenol e'n datgan y polisi yn y ei gyfnod ef fel Gweinidog y Gymraeg. Rwy'n cytuno'n llwyr gydag ef pa mor bwysig yw nid jest, fel petai, gallu, ond y cwestiwn o ddefnydd hefyd. Mae'r arolygon blynyddol rŷn ni'n edrych arnyn nhw yn dangos bod y ffigurau o bobl sydd yn datgan eu bod yn defnyddio'r Gymraeg llawer yn uwch na'r rheini sydd yn y cyfrifiad, ond y cyfrifiad, fel bydd e'n gwybod, yw'r maen prawf ar gyfer y polisi ers i Lywodraeth Cymru etifeddu hynny yn ôl yn 2012. Felly, mae'r cwestiwn o ddefnydd y Gymraeg yn gwbl greiddiol i bopeth rwyf eisiau ei wneud fel Gweinidog.
O ran hybu'r Gymraeg, rôn i'n sôn bore yma am y buddsoddiad rŷn ni'n ei wneud mewn addysg Gymraeg, ond hefyd fe wnes i sôn am y buddsoddiad rŷn ni'n ei wneud yng ngweithgaredd yr Urdd, yn eu helpu nhw i greu rhwydwaith ehangach o swyddogion datblygu a phrentisiaethau yn ein cymunedau efallai mwy difreintiedig drwy'r Gymraeg, felly, pethau sydd yn cynorthwyo normaleiddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol tu allan i'r dosbarth, ac mae hynny'n gwbl elfennol i hwn hefyd.
O ran y cwestiwn ehangach yma o hybu, buaswn i'n dweud bod hybu'n derm cyffredinol, ond mae amryw o bethau'n digwydd o fewn hynny. Felly, mae rhan ohono fe'n gyngor i fusnes, rhan ohono fe'n creu gofodau uniaith, grymuso cymunedau, fel rôn i'n sôn amdano, drwy waith co-operatives ac ati, y dechnoleg—fe ddof i nôl at hwnna mewn eiliad—a hefyd y defnydd o wyddor ymddygiadol. Hynny yw, dyw pobl sy'n gallu'r Gymraeg ddim yn defnyddio'r Gymraeg—pam? Beth yw'r pethau gallwn ni eu gwneud i'w hannog nhw i wneud hynny? Strategaeth drosglwyddo, hyfforddi arweinyddion, outreach gyda chymunedau ffoaduriaid i ddysgu'r Gymraeg—mae pob un o'r pethau yma yn elfennau o'r broses honno o hybu. Ond, wrth edrych ar yr elfennau unigol, mae'n amlygu bod y cyfrifoldeb ar amryw o'r pethau yna'n perthyn i amryw o gyrff ac ati. Felly, mae'n bwysig, rwy'n credu, o ran tryloywdeb a bod pobl yn gweld eu cyfrifoldeb, ein bod ni'n edrych ar yr elfennau yna'n unigol.
Mae'r cwestiwn olaf yn gwestiwn pwysig a diddorol o ran beth rŷn ni'n ei wneud ym maes technoleg, ac rwy'n credu, ar ôl y ddwy flynedd rŷn ni wedi'u cael, rŷn ni'n gweld yn glir beth yw'r sialensau o ran defnyddio Microsoft Teams, o ran defnyddio Zoom ac ati. Ond gallaf i roi, gobeithio, rywfaint o gysur iddo fe i ddweud ein bod ni'n gweithio ar y cyd â Microsoft er mwyn sicrhau bod y gallu i ddefnyddio cyfieithu ar y pryd yn Teams. Rŷn ni wedi bod yn gwneud hynny ers amser, felly hir yw pob aros, efallai, gallwn ni ei ddweud. Ond rŷn ni yn gwybod nawr bydd swyddogaeth cyfieithu ar y pryd sylfaenol yn cael ei rhyddhau y mis hwn, ym mis Mawrth, neu fis Ebrill, a bydd Microsoft yn ychwanegu at y swyddogaethau hynny dros amser. Ac rŷn ni hefyd wedi bod yn trafod gydag amryw o gwmnïau technoleg eraill i weld beth mwy gallan nhw ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei lle haeddiannol yn eu darpariaeth nhw. Mae'n sicr bod cyfle pwysig inni'n fanna hefyd.
Diolch i'r Gweinidog.