– Senedd Cymru am 3:17 pm ar 16 Mawrth 2022.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, cynllunio morol yng Nghymru. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7896 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gynllunio morol yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwneud darpariaethau ar gyfer polisïau a fyddai'n helpu i lywio lleoliad datblygiadau i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol, lleihau'r effeithiau cronnol ar gynefinoedd a rhywogaethau sy'n agored i niwed, a rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr;
b) creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o greu cynllun datblygu morol cenedlaethol, a'i adolygu o leiaf unwaith ym mhob Senedd;
c) sefydlu meysydd adnoddau strategol ar gyfer ynni morol;
d) cyhoeddi strategaeth ar gyfer gwrthdroi dirywiad adar môr;
e) ei gwneud yn ofynnol i ffermydd gwynt ar y môr gynnwys adfer cynefinoedd gwely'r môr; strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr cynaliadwy o fewn ardal y fferm wynt a mesurau gwella amgylcheddol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae absenoldeb hanesyddol cynllunio gofodol morol a dull ynysig o reoli ein moroedd yn golygu ein bod bellach yn wynebu sgrialfa anhrefnus am ofod ac oedi cynyddol i ddiwydiant. Gan fod angen inni ymbellhau ar frys oddi wrth hydrocarbonau Rwsiaidd yn dilyn ymosodiad anghyfreithlon Putin, mae'n rhaid inni gael y ddeddfwriaeth orau bosibl, sy'n hyrwyddo prosiectau ynni morol a chynyddu diogelwch ffynonellau ynni gan sicrhau ar yr un pryd fod yr argyfwng natur a hinsawdd yn parhau i fod yn rhan ganolog ohoni. Byddai’r cynnig hwn yn gwneud yn union hynny.
Felly, pam y dylai’r Senedd hon, Senedd Cymru, ddeddfu ar gynllunio morol? Wel, amlygodd adroddiad diweddar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar y gyllideb ddrafft ein canfyddiad fod yna bryder ynghylch rhwystrau rhag cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru, gan gynnwys prinder tystiolaeth amgylcheddol forol, a chymhlethdod sy’n peri oedi yn y broses gydsynio a thrwyddedu. Mae pryderon eang ynghylch gallu CNC i gyflawni ei rolau a’i gyfrifoldebau’n effeithiol, gan gynnwys monitro ac asesu cyflwr safleoedd morol i gefnogi cynllunio morol, ac er bod adolygiad i symleiddio’r broses gydsynio i’w groesawu, ni cheir sylfaen dystiolaeth gadarn o hyd i danategu penderfyniadau datblygu, ac o ganlyniad, ceir risgiau cynhenid wrth gynyddu gwaith datblygu. Yn sicr, nid dyma rydym am ei glywed ar adeg pan fo Llywodraeth y DU, a hynny’n gwbl briodol, wedi gosod targed uchelgeisiol i gynhyrchu 40 GW o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030. Mae oddeutu 4 GW o ddatblygiadau ynni gwynt ar y môr ychwanegol ar y ffordd yng ngogledd Cymru, ac mae Ystad y Goron yn mynd ar drywydd cynlluniau gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi methu'r terfyn amser i gyflawni neu hyd yn oed i gynnal statws amgylcheddol da dyfroedd morol. Mae bioamrywiaeth forol yn dirywio. Mewn gwirionedd, yn ôl yr ail 'Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol', 46 y cant yn unig o nodweddion rhwydwaith yr ardaloedd morol gwarchodedig sydd mewn cyflwr ffafriol. Mae diffyg cynllunio gofodol go iawn i arwain defnydd cynaliadwy o'n moroedd yn atal statws amgylcheddol da ac yn bygwth y broses o gynyddu datblygiadau ynni gwynt ar y môr.
Er fy mod yn cydnabod yr ymrwymiad yn yr archwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy, a diolch i’r Dirprwy Weinidog am wneud hyn, i weithio gyda CNC a rhanddeiliaid allweddol i nodi ardaloedd adnoddau strategol morol erbyn 2023, roedd hyn er mwyn darparu arweiniad i gyfeirio at ardaloedd priodol ac amhriodol ar gyfer datblygu. Ond arweiniad yn unig yw hynny. Mae angen inni greu dyletswydd gyfreithiol yn awr i greu cynllun datblygu morol cenedlaethol, un sy’n berthnasol i Gymru, a’i adolygu'n rheolaidd. Fel y mae’r RSPB wedi’i nodi, mae diffyg polisïau gofodol a rheolaethau datblygu statudol cadarn wedi'u pwysoli i lywio datblygiadau oddi wrth ardaloedd amgylcheddol sensitif o’r cychwyn yn creu ansicrwydd i bawb, ac yn arwain yn anochel at wrthdaro yn ystod y cam ymgeisio.
Cefnogodd y Farwnes Brown o Gaergrawnt gynllunio gofodol, gan nodi:
'Credaf fod cynllunio gwely'r môr er mwyn sicrhau y gallwn alluogi'r gweithgareddau hyn i gydfodoli heb... drefoli gwely'r môr, yn hynod bwysig.'
Mae llawer o’r Aelodau’n gweithio gyda’r Gymdeithas Cadwraeth Forol, ac maent wedi datgan eu bod yn wyliadwrus o ddull tameidiog sydd, o’i gyfuno â chynnydd sylweddol mewn cynigion datblygu, yn rysáit ar gyfer effeithiau annisgwyl, cronnol a chyfunol. Mae angen i ardaloedd adnoddau strategol fod yn rhan o gynllun gofodol morol cyfannol, fel yr amlygir yn yr adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru ei hun. Mae rhanddeiliaid amgylcheddol wedi galw am gynllun gofodol statudol traws-sector sy’n mynd i’r afael ag effeithiau cronnol datblygu morol. Felly, gadewch inni ofyn i ni'n hunain: sut y gall fod yn iawn, pan fo gan gynllunio ar y tir 'Cymru’r Dyfodol', 'Polisi Cynllunio Cymru' a chynlluniau datblygu lleol i lywio datblygiad, nad oes system debyg ar gael ar hyn o bryd ar gyfer yr hyn sy'n digwydd yn ein moroedd—a hoffwn ychwanegu, yn ehangder mawr ein moroedd? A hynny er bod gan Gymru oddeutu 32,000 km sgwâr o foroedd tiriogaethol.
Janet, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Nid wyf yn gwybod pa sgrin i edrych arni. Rydych o fy mlaen i ddwywaith, Janet. Diolch yn fawr am gyflwyno’r ddadl hon; credaf ei bod yn un bwysig iawn. Un o'r pethau nad wyf yn glir yn ei gylch, a tybed a allwch chi helpu, neu efallai y gall y Gweinidog wneud hynny wedyn, yw a oes angen deddfwriaeth newydd arnom, neu a yw'r ddeddfwriaeth gynllunio morol ac arfordirol bresennol yn caniatáu inni roi cynllun morol ar sail statudol heb gyfraith newydd. A allwch roi unrhyw eglurder ynglŷn â hynny? Os na allwch, a wnewch chi ychwanegu'r cais hwnnw i’r Gweinidog at eich cyfraniad: a allwn fwrw iddi i'w wneud yn awr, neu a oes angen deddfwriaeth newydd arnom?
Diolch, Huw. Mae'n deg dweud fy mod yn gwerthfawrogi gweithio gyda chi ar y pwyllgor rydym arno. Ynglŷn ag a oes angen deddfwriaeth newydd arnom neu a allwn addasu, canllawiau'n unig yw llawer o'r mesurau ar hyn o bryd, Huw. Felly, o ganlyniad, rydym am sicrhau bod y ddeddfwriaeth honno'n cynnwys rhai o'r pethau rwyf wedi sôn amdanynt, ac mae llawer mwy i ddod eto. Rhaid i hyn gael ei gynnwys mewn deddfwriaeth. Nid wyf yn gwybod a all y Dirprwy Weinidog neu’r Gweinidog ddweud wrthym heddiw a oes angen i honno fod yn ddeddfwriaeth newydd, ond yn sicr, mae angen i’r cynllun gofodol morol fod yn gyfraith, yn hytrach na chanllawiau'n unig.
Y canlyniad, er enghraifft, yw bod Ystad y Goron yn arwain y broses drwy rowndiau unigol o osod prydlesau gwely'r môr. A dweud y gwir, yng nghyllideb garbon 2, rydych chi fwy neu lai’n cyfaddef eich bod yn gadael i Ystad y Goron arwain, gan ddatgan eich bod yn cydweithredu er mwyn deall beth yw'r cyfleoedd gofodol ar gyfer ynni gwynt ar y môr, gan gynnwys datblygiadau gwynt arnofiol. Yn hytrach na’r ffocws diweddar sydd wedi bod ar ddatganoli Ystad y Goron, dylem fod yn blaenoriaethu’r argyfwng hinsawdd a natur drwy ddatblygu cynllun datblygu morol cenedlaethol, ac un sydd wedi'i gynnwys mewn deddfwriaeth.
Mae angen inni hefyd greu strategaeth adfer adar môr Cymru. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ill dwy wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r bygythiadau a’r pwysau ar adar môr, ac unwaith eto, rydym yn dal i aros yma, a hynny er gwaethaf y dirywiad difrifol a fu yn niferoedd y gwylanod coesddu sy’n magu yng Nghymru, 35 y cant ers 1986. Mewn gwirionedd, dywedodd Dr Catharine Horswill yn ddiweddar:
'Mae angen inni dynhau asesiadau i wella dealltwriaeth o'r effeithiau posibl ar fywyd gwyllt sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd, megis yr wylan goesddu.'
Yn yr un modd, mae Lisa Morgan o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru wedi datgan y dylai lleoliad, graddfa a math cynlluniau ynni adnewyddadwy morol gael eu pennu gan asesiadau amgylcheddol priodol. Yn wir, ni allaf weld sut y gallai unrhyw un ddadlau â hynny. Mae hyd yn oed ein pysgotwyr a’r sector dyframaethu wedi tynnu sylw at angen dybryd i weithredu mewn perthynas â ffermydd gwynt.
Janet, rydych wedi defnyddio eich amser. Rwy’n mynd i roi amser ychwanegol i chi gan fod ymyriad wedi'i wneud, ond ychydig iawn o amser sydd gennych ar ôl i gloi, os na wnewch chi gloi'r rhan gyntaf nawr.
Iawn. Fel y clywodd ein pwyllgor newid hinsawdd yn ddiweddar, nid yw’r cynllun morol yn addas at y diben yng nghyd-destun y cynnydd sylweddol a ragwelir o ran datblygu. Gofynnaf i’r Senedd adael i’r broses o ddatblygu ein moroedd barhau mewn ffordd sydd o fudd i’r hinsawdd a’n hargyfwng natur drwy gefnogi’r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw. Diolch.
Diolch, Janet, am gyflwyno’r ddadl hon. Fel Aelod sy’n cynrychioli darn sylweddol o’n harfordir, hoffwn atgoffa pobl fod moroedd Cymru yn fwy na thraean yn fwy o faint na thirfas Cymru. Felly, mae cynllunio morol yn allweddol i lawer o bolisïau a blaenoriaethau, o newid hinsawdd i fioamrywiaeth, o ddatblygu economaidd i ddiogelu ffynonellau ynni. Fel aelod o bwyllgor y Senedd a gyflwynodd adroddiad yn ddiweddar ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru, rwyf wedi edrych ar sut y mae’r galwadau hyn sy'n cystadlu â'i gilydd ac yn gorgyffwrdd yn cael eu rheoli a’u cydbwyso.
Ers inni adrodd fis diwethaf, mae'r sefyllfa wedi newid yn sylweddol. Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi rhoi diogelwch ffynonellau ynni a lleihau mewnforion tanwydd ffosil ar frig yr agenda. Wrth gwrs, roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon 95 y cant erbyn 2050. Mae’r sancsiynau yn erbyn Rwsia yn amlygu pam fod hynny’n fater o ddiogelwch gwladol yn ogystal â diogelwch hinsawdd. Byddwn yn clywed llawer mwy am gynhyrchu trydan o ffermydd gwynt ar y môr, ynni'r tonnau a cheryntau llanw dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Mae Cymru, wrth gwrs, mewn sefyllfa wych—yn llythrennol, yn ddaearyddol—i gynhyrchu’r mathau cynaliadwy hyn o ynni. Yng ngorllewin Cymru, mae gennym ardal arddangos sir Benfro a Wave Hub. Fel yr ardaloedd cynhyrchu ynni eraill, mae’n cael hawl i ddefnyddio gwely’r môr ar brydles gan Ystad y Goron, fel y mae Janet newydd ei grybwyll. Ac os gall datganoli’r ystad ein helpu i gyflawni ein dyhead i fod yn arweinydd byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy, mae'n rhaid inni fynd ar drywydd hynny, wrth gwrs. Ond mae'n rhaid inni sicrhau hefyd fod gennym gynllun cadarn i leoli a datblygu’r technolegau hyn mewn modd sensitif a phriodol er mwyn lliniaru a lleihau’r effeithiau ar ecosystemau morol a storfeydd carbon glas. Rwy'n cytuno gyda Janet ynglŷn â hynny.
Rwy'n sôn am garbon glas oherwydd, yn ogystal â’r ardaloedd sensitif o safbwynt ecolegol a’r cynefinoedd a'r rhywogaethau dan fygythiad y mae’r cynnig yn eu rhestru, rhaid inni hefyd ystyried cynefinoedd a storfeydd carbon glas, ac atafaelu ac adfer carbon. Mae o leiaf 113 miliwn tunnell o garbon wedi'i storio yng nghynefinoedd morol Cymru, gwerth bron i 10 mlynedd o allyriadau carbon Cymru. Felly, maent yn allweddol i gyflawni ein nodau newid hinsawdd. Mae CNC i fod i gyhoeddi adroddiad cyn bo hir yn dogfennu’r potensial atafaelu carbon ar gyfer yr ardaloedd morol gwarchodedig presennol, ac edrychaf ymlaen at ei ddarllen.
Mae gan Lafur Cymru ymrwymiad maniffesto i adfer cynefinoedd arfordirol. Gallem ymestyn hynny i gynnwys cynefinoedd carbon glas a chynefinoedd o bwys ecolegol yn ardal forol Cymru. Wrth symud ymlaen, dylai achub ar bob cyfle i warchod, adfer a gwella cynefinoedd carbon glas, fel dolydd morwellt, fod yn nod trosfwaol.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Aberconwy am roi cyfle imi siarad yn ei dadl y prynhawn yma. Efallai fod fy nghyd-Aelodau'n ymwybodol iawn o fy nghysylltiad â morlo llwyd yr Iwerydd. Yn wir, mae'r cartref teuluol wedi ei enwi ar ôl un. Fel ei hyrwyddwr rhywogaethau yma yn y Senedd, rwy'n hynod ddiolchgar o gynrychioli, a bod yn llais dros greadur mor wych sy'n byw yn y dyfroedd oddi ar ar arfordir Cymru.
I'r rhai nad ydynt yn gwybod, mae dros hanner poblogaeth y byd o forloi llwyd yr Iwerydd yn nofio yn y tonnau oddi ar ynysoedd Prydain, o arfordir Amroth ac ynys Sgomer, i ynysoedd Erch ym mhellafion yr Alban. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod y creaduriaid hardd hyn hefyd yn dewis byw yn y lleoedd harddaf—arfordir Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yw eu hoff leoliad wrth gwrs.
Fodd bynnag, mae pob un o'r lleoliadau hyn hefyd yn cynnig adnoddau gwerthfawr wrth inni chwilio am ynni adnewyddadwy glanach a gwyrddach. Yn fy etholaeth i, gwelir prosiect gwych Blue Gem Wind, fferm wynt ar y môr sy'n datblygu cynhyrchiant ynni newydd yn ein môr Celtaidd. Ar ôl cael cyfle i ymweld â Blue Gem a dysgu am y manteision y gall eu cynnig ar ffurf ynni adnewyddadwy a ffyniant economaidd, mae'n ased gwirioneddol wych nid yn unig i sir Benfro ond i Gymru gyfan.
Fel y mae'r cynnig hwn yn nodi, rhaid ystyried ein hawydd i ddatblygu ynni adnewyddadwy morol yng nghyd-destun ein holl ymrwymiadau morol presennol, gan gynnwys pysgodfeydd, dyframaeth, morgludiant, sianeli mordwyo, a bioamrywiaeth a diogelu anifeiliaid morol wrth gwrs. Yn wir, dyma beth y mae Blue Gem wedi'i wneud mor llwyddiannus. Fe wnaethant ddatblygu dull o ddethol safleoedd sy'n dilyn y cynllun, wedi'i lywio gan ystyriaethau technegol ac amgylcheddol, gyda'r amcan trosfwaol o nodi safle hyfyw gan leihau'r effaith ar yr amgylchedd a bywyd morol ar yr un pryd.
Cyn gwneud penderfyniad i ddatblygu safle sir Benfro, ystyriwyd llu o ffactorau, gan gynnwys bathymetreg, mesur dyfnder dŵr; adnoddau gwynt; agosrwydd at natur; dynodiadau cadwraeth; adar môr; mamaliaid môr; pysgodfeydd; morgludiant; ac agosrwydd at borthladdoedd—llu o opsiynau. Dyma enghraifft o sut y dylid ei wneud yn y ffordd gywir, proses y dylai unrhyw ddatblygiad morol yn y dyfodol ei hefelychu. Ond fel y nododd yr Aelod dros Aberconwy yn gywir, dim ond canllawiau ydyw ar hyn o bryd, ac mae angen ei ychwanegu at y statud deddfwriaethol yma yng Nghymru. Soniodd yr Aelod hefyd am yr RSPB, sydd wedi dweud mai un cyfle sydd gennym i sicrhau ein bod yn darparu ynni adnewyddadwy morol ar gyflymder ac i raddau sy'n ein galluogi i gyrraedd ein targedau amgylcheddol, o ran yr hinsawdd a natur. Yn wir, mae'r ddau yn mynd law yn llaw.
Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Aberconwy am gyflwyno hyn. Mae angen inni wneud hyn yn iawn. Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o greu cynllun datblygu morol cenedlaethol, i ddiogelu hinsawdd a natur Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch.
Diolch am y cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw yma i'r Aelod dros Aberconwy. Dwi yn gweld gwerth ystyried sut y gellid tynnu ynghyd y gwahanol elfennau sy'n ymwneud â chynllunio mewn perthynas â'r môr mewn fframwaith deddfwriaethol newydd, er fy mod i, fel Aelod Ogwr, ddim yn hollol eglur bod angen gwneud hynny. Mae ystyried hynny a gwthio'r ffiniau ynghylch beth sy'n bosibl, dwi'n meddwl, yn rhywbeth pwysig.
Mae yna elfennau o'r cynnig sydd o'n blaenau ni dwi'n meddwl y buaswn i wedi'u cyflwyno mewn ffordd wahanol. Mae o'n sôn am adar y môr a ffermydd gwynt, lle mae beth sydd angen ydy ei osod o, o bosib, mewn ffordd dipyn ehangach na hynny. Mae yna fwy i fywyd môr nag adar. Mae yna fwy i gynlluniau ynni na ffermydd gwynt ac yn y blaen. Ond, er hynny, mae yna egwyddorion pwysig yma. Beth sydd angen, wrth gwrs, ydy cael y cydbwysedd iawn rhwng defnyddio a manteisio ar ein hadnoddau morol ni a chael lefel ddigon cadarn o warchodaeth iddyn nhw hefyd.
Mae cynllun Morlais, oddi ar arfordir fy etholaeth i, yn enghraifft dda iawn, dwi'n meddwl, o beth dŷn ni'n trio ei gyflawni—cynllun arloesol i ddatblygu technolegau ynni llif llanw, cynllun sydd â'r diben o hwyluso arbrofi yn y maes hwnnw drwy hwyluso'r broses ganiatáu i ddatblygwyr unigol, ac yn glir iawn ar yr un pryd ynglŷn â'i ddyletswyddau o ran gwarchodaeth, ac yn gwneud hynny hefyd, wrth gwrs, fel menter gymdeithasol, sy'n bwysig iawn. Ond mae hi wedi bod yn broses llawer hirach nag y dylai hi fod. Ac os gallwn ni gael deddfwriaeth sy'n helpu yn hynny o beth, wel, gadewch inni edrych ar hynny. Dwi'n gwybod bod y Llywodraeth, y Gweinidog a'i Dirprwy, yn gefnogol i'r cynllun hwnnw—dwi'n ddiolchgar iawn am hynny—ond mae angen gwneud yn gwbl glir bod prosesau Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft, yn gweithio'n adeiladol ac yn effeithiol efo cynlluniau fel cynllun Morlais, er mwyn gallu eu gwireddu nhw mewn ffordd, ie, sydd yn gydnaws â'n hamgylchedd naturiol ni.
Gaf i roi sylw i un cymal penodol yn y cynnig yma—yn cyfeirio at yr angen i fod yn ymwybodol iawn o effaith gronnol datblygiadau? Mae hynny'n gonsérn gwirioneddol i fi yng nghyd-destun datblygiadau solar yn Ynys Môn—yr egwyddor yr un fath, dwi'n meddwl, ar y tir ac yn y môr. A chwestiwn yn y fan hyn yn uniongyrchol gen i i'r Gweinidog: ydy'r Gweinidog yn cytuno y dylai penderfyniadau cynllunio ac amgylchedd Cymru rŵan edrych ar effaith gronnol y nifer uchel o geisiadau ynni solar yn Ynys Môn cyn i ni jest gyrraedd at y pwynt, yn annatod, lle y bydd yna effaith gronnol negyddol? Fel dwi'n ei ddweud, yr un fyddai'r egwyddor, pa un ai ar ddatblygiadau tir neu fôr.
Ond i gloi, dwi'n synnu bod yr Aelod dros Aberconwy yn parhau i wrthwynebu datganoli Ystad y Goron. Onid ydy hi'n amlwg y byddai hynny'n annog defnydd gwell a mwy arloesol o'r môr o'n cwmpas ni ac yn annog atebolrwydd? Ond i grynhoi, mae angen gweledigaeth, mae eisiau cynllun, mae eisiau rhaglen weithredu glir. Ac os ydy rhoi fframwaith deddfwriaethol newydd yn helpu yn hynny o beth, wel, gadewch inni edrych ar hynny.
A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am y ddadl hon hefyd? Ac rwyf am sefyll, yn union fel y gwnaeth Samuel Kurtz, dros fy rhywogaeth. Fi yw'r hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y fôr-wyntyll binc—enw arall amdano yw gorgoniad, ond mae'n llawer gwell gennyf y fôr-wyntyll binc. Math o gwrel ydynt, ac nid oes rhaid iddynt fod yn binc—gallant fod yn oren neu gallant fod yn wyn. Gall y rhan fwyaf o fôr-wyntyllau pinc dyfu i uchder o tua 25 cm, er bod rhai'n cyrraedd 50 cm, a rhai'n 1m o uchder, ac mae'n cymryd blwyddyn iddynt dyfu 1 cm. Mae'r fôr-wyntyll binc yn brin yn genedlaethol a than fygythiad yn fyd-eang, ac fe'i diogelir o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae'n rhywogaeth â blaenoriaeth o dan fframwaith bioamrywiaeth y DU ar ôl 2010, ac yn nodwedd gadwraeth natur ddynodedig, y gellir dynodi parthau cadwraeth morol ar ei chyfer.
Mae cyflwr ein hardaloedd morol, fel y clywsom, ac iechyd ein bywyd gwyllt morol, yn dirywio, ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu a gwella bywyd gwyllt y môr. Wrth gwrs, rhaid cydbwyso hynny â'n cynlluniau i ehangu ein hynni llanw, ac mae'r angen am hynny'n fwy yn awr nag y bu erioed. Felly, byddwn yn anghytuno â'r Ceidwadwyr ynglŷn â'r diffyg cyllid ar gyfer morlyn llanw Abertawe, oherwydd byddai hwnnw wedi rhoi cymaint o gyfle inni ehangu ein hynni llanw. Ond rwy'n cefnogi'r bwriad yma i sicrhau bod yr arian, y cynlluniau, yr hyfforddiant a'r rheoleiddio angenrheidiol ar waith fel y gallwn ddiogelu, nid yn unig y fôr-wyntyll binc, ond llawer o rywogaethau bywyd gwyllt a chynefinoedd eraill, a'r rhywogaethau eraill hynny sydd mewn perygl. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn am y cyfle i ymateb i'r ddadl y prynhawn yma.
Mae'n ddadl bwysig, ac mae'n canolbwyntio ar bwysigrwydd cynllunio ar gyfer datblygu, gan ddiogelu ac adfer ein hamgylchedd morol ar yr un pryd. Ac mae'r Llywodraeth yn gefnogol iawn i'r safbwyntiau hyn, ac fel y nododd y pwyllgor, mae angen gweithredu ar frys i sicrhau sero net, gan warchod ein moroedd a bioamrywiaeth forol ar yr un pryd. Yn wir, mae llawer o'r ardaloedd sydd â'r potensial mwyaf inni allu manteisio ar ynni morol hefyd yn rhai o'n safleoedd mwyaf sensitif ar gyfer bywyd morol. Felly, rhaid inni sicrhau cydbwysedd gofalus.
A dyna pam ein bod wedi rhoi cynllun morol cyntaf Cymru ar waith, cynllun y byddwn yn ei adolygu yn yr hydref, a chaiff ei adolygu bob tair blynedd, a bydd y Llywodraeth yn adrodd ar ei ganfyddiadau i'r Senedd. Felly, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau cynllunio morol helaeth a blaengar eisoes o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, fel y soniodd Huw Irranca-Davies, ac rydym wedi defnyddio'r pwerau hyn i gyflwyno ein cynllun morol. Felly, nid ydym yn teimlo bod angen rhagor o bwerau. Rydym yn canolbwyntio ar weithredu'r cynllun wrth i ni ddatblygu cynlluniau morol.
Ond wrth gwrs, mae technoleg wedi datblygu ers cyflwyno'r cynllun yn 2019, ac rydym yn cydnabod bod modd, a bod rhaid inni wneud rhagor. A'n blaenoriaeth yw darparu rhagor o gyfarwyddyd datblygu drwy'r cynllun morol, ac mae hyn yn cynnwys gwella ein dealltwriaeth o gyfleoedd datblygu, a bod rhaid ystyried sensitifrwydd amgylcheddol. Ym mis Ionawr, cyhoeddwyd ein canllawiau lleoliadol cyntaf, ac mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at ardaloedd lle y ceir potensial i ddatblygu, ac yn helpu datblygwyr i ddeall sensitifrwydd amgylcheddol. Fe'u cefnogir gan fapiau rhyngweithiol ar y porth cynllunio morol. Mae'r cynnig yn sôn am ddatblygu ardaloedd adnoddau strategol, ac rwy'n falch o ddweud wrth yr Aelodau fod gwaith eisoes ar y gweill ar ardaloedd adnoddau strategol. Yn wir, cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf i randdeiliaid ddoe. Bydd yr ardaloedd adnoddau strategol hyn yn ein helpu i ddeall pa ardaloedd sydd â photensial ar gyfer datblygu cynaliadwy, gan gynnwys ar gyfer ynni adnewyddadwy. Nawr, caiff yr ardaloedd hyn eu diogelu drwy ein system cynllunio morol. Felly, er mwyn bod yn glir, bydd yn rhaid i bob datblygiad, gan gynnwys ardaloedd adnoddau strategol, fodloni rheoliadau amgylcheddol cadarn cyn y rhoddir caniatâd.
Mae'r brys i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn glir, Ddirprwy Lywydd, ac roedd yr archwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy a gyflawnwyd gennym ychydig cyn y Nadolig yn ailddatgan ein hymrwymiad i ddatblygu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy cynaliadwy a chwalu unrhyw rwystrau a oedd yn sefyll yn ei ffordd. Rydym yn glir fod ynni morol, gan gynnwys gwynt ar y môr, yn rhan hanfodol o'n cymysgedd ynni yn y dyfodol. Mae'r cynnig hefyd yn galw ar ffermydd gwynt ar y môr i gynnwys gwelliannau amgylcheddol. Nid yn unig y mae'r cynllun morol yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ystyried sensitifrwydd ecosystemau morol, mae hefyd yn annog datblygwyr i gyfrannu at adfer a gwella'r amgylchedd morol. Un o'r camau gweithredu a ddeilliodd o'r archwiliad dwfn oedd adolygiad proses gyfan o'r system trwyddedu morol, ac rydym yn dechrau gweithio ar hynny. Nod yr adolygiad yw nodi cyfleoedd i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer ynni adnewyddadwy a bioamrywiaeth forol. Ond rydym yn cydnabod bod angen gwneud rhagor i ddiogelu ein hadar môr a gwella eu statws, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a'r RSPB, i gynhyrchu strategaeth cadwraeth adar môr Cymru. Bydd y strategaeth yn asesu maint y bygythiad y mae rhywogaethau adar môr yn ei wynebu ac yn nodi camau gweithredu i gefnogi eu gwarchod.
Mae'r cynnig hefyd yn galw ar ddatblygwyr gwynt ar y môr i ddarparu strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr yn gynaliadwy, ac mae'r cynllun morol eisoes yn cynnwys polisi sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ystyried cyfleoedd i rannu'r un ardal neu seilwaith â gweithgareddau morol eraill. Felly, unwaith eto, y patrwm yma, Ddirprwy Lywydd, yw'r safbwynt y cytunwn yn ei gylch—nid ydym yn credu bod angen deddfwriaeth newydd ar hynny. Credwn y gellir gwneud hyn drwy gynllun wedi'i ddiweddaru, ac rydym am weithio gydag Aelodau i wneud y cynllun mor gryf â phosibl. Y ddadl ganolog yn sylwadau agoriadol Janet Finch-Saunders, y bydd yn dychwelyd ati rwy'n siŵr, yw y dylid rhoi ein canllawiau mewn statud, ond pan fyddwch yn rhoi canllawiau mewn statud, rydych yn eu gwneud yn anhyblyg, oherwydd wedyn rhaid ichi osod statud newydd er mwyn diweddaru'r canllawiau. A'r hyn a wyddom am newid hinsawdd yw bod y wyddoniaeth yn datblygu'n gyflym, ac ni fyddem am arafu ein gallu i weithredu drwy roi rhywbeth mewn statud a gynhwyswyd gennym mewn canllawiau sy'n seiliedig ar y gyfraith, yn union fel y gwnawn mewn pob math o feysydd eraill lle mae gennym fframwaith o ddeddfwriaeth ac mae gennym ganllawiau yr ydym wedyn yn eu diweddaru i adlewyrchu'r wyddoniaeth. Felly, credwn ei fod yn ddull llawer mwy hyblyg a mwy priodol, yn hytrach na chael ein llethu gan rwystrau cyfreithiol, sy'n rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr fel arfer yn ein hannog i beidio â'i wneud.
Mae'r cynllun morol hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cynaeafu bwyd môr yn gynaliadwy. Mae'n gosod polisi clir, gan gefnogi arallgyfeirio ein pysgodfeydd yn gynaliadwy a datblygu dyframaeth, ac rydym yn datblygu canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau i ddeall cyfleoedd dyframaethu yn y dyfodol. Rydym hefyd yn datblygu gwaith ar fapio ardaloedd adnoddau strategol ar gyfer y sector hwn. Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sawl agwedd ar y cynnig hwn, ac rydym wrthi'n bwrw ymlaen â gwaith i fynd i'r afael â llawer o'r materion a godwyd—materion dilys. Credwn fod gennym y pwerau sydd eu hangen arnom, ond rydym am weithio gyda'n gilydd ar draws yr holl bleidiau i sicrhau, pan fyddwn yn diweddaru'r cynllun, ein bod yn manteisio ar bob cyfle i'w wneud mor effeithiol ag y gallwn. Diolch.
Galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu a'r Dirprwy Weinidog, er gwaethaf ei agwedd negyddol ynglŷn â hyn, ond dyna ni. Hoffwn ailadrodd sylwadau Joyce Watson fod ein moroedd yng Nghymru yn llawer mwy na'n tirfas, risg a manteision dal a storio carbon glas, a'r rhinweddau eraill mewn gwirionedd, ac yn benodol, rwy'n credu, ei sylwadau am Wcráin, ac effaith y rhyfel ar Wcráin a'r angen inni edrych yn awr ar ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol.
Rwy'n llongyfarch Samuel Kurtz ar fod yn hyrwyddwr morlo llwyd yr Iwerydd. Fi yw hyrwyddwr y llamhidydd. Ond mae gennym forloi llwyd yr Iwerydd yma ym Mhorth yr Helyg ar y Gogarth, ac mae gennym rai hefyd ym Mae Penrhyn. Rydym—. Mae'n ddrwg gennyf. Roedd clywed Jane Dodds yn sôn am y fôr-wyntyll binc ac am bethau sy'n brin yn genedlaethol a than fygythiad, a hefyd yr angen i ehangu ynni'r llanw, a chredaf fod hynny'n amlwg—. Mae Rhun yn gwneud cyfraniad pwysig am egwyddorion pwysig a manteisio ar adnoddau o wely'r môr, gan sicrhau ar yr un pryd y glynir wrth y dyletswyddau cadwraeth. Ac rwy'n falch eich bod wedi sôn am Morlais, Rhun, oherwydd credaf fod hwnnw'n brosiect arloesol iawn.
Soniodd y Dirprwy Weinidog am gynllun morol Cymru, ond fel y gwelsom, wrth inni eistedd yma—wel, rwy'n eistedd yma—yn siarad amdano, mae'r rhywogaethau hyn yn dirywio, rydym yn colli bioamrywiaeth ac mae angen diogelu cadwraeth forol. Drwy roi hyn mewn deddfwriaeth, mae gennym gyfle mewn gwirionedd i ddiogelu ein moroedd a'n rhywogaethau, ac annog datblygwyr ar yr un pryd i ddod i mewn a dod o hyd i ffynonellau ynni adnewyddadwy o hynny. Credaf yn gryf fod angen deddfu ar hyn, oherwydd cawsom flynyddoedd yn awr ohonom yn mynd i unman ar hyn. Felly, fe'i gadawaf ar hynny am y tro, ond diolch i bawb am wrando ac am gyfraniadau pawb. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.