– Senedd Cymru am 2:43 pm ar 22 Mawrth 2022.
Eitem 3 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi: bwrw ymlaen â'r genhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, cyhoeddodd fy rhagflaenydd ein cenhadaeth economaidd drawslywodraethol ni. Roedd yn amlwg bryd hynny nad oedd dychwelyd i fusnes fel arfer yn ddewis. Mae'r ymateb i'r pandemig wedi cyflymu llawer o'r tueddiadau presennol ar draws datgarboneiddio, digideiddio ac effaith poblogaeth sy'n heneiddio. I fusnesau, daeth y pandemig â thrawma gwirioneddol hefyd. Mae'r cydnerthedd sy'n cael ei ddangos gan gynifer yn rhyfeddol ac mae'n dyst i'r creadigrwydd a'r angerdd sy'n ysgogi busnesau ledled Cymru.
Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu'r genhadaeth mewn rhaglen lywodraethu newydd, a bydd yr Aelodau'n cofio'r datganiad y gwnes i ei roi ar hyn fis Hydref diwethaf. Yn y datganiad hwnnw, nodais i fy uchelgais i greu'r amodau lle mae mwy o bobl yn teimlo'n hyderus ynghylch cynllunio eu dyfodol yng Nghymru. Yn wyneb adferiad anwadal, eglurais i hefyd ein hymrwymiad i ddarparu cymaint o sicrwydd ag y gallwn ni i helpu busnesau i gynllunio ymlaen llaw.
Fel y gwyddom ni, yn yr wythnosau a ddilynodd, trodd omicron economïau'n ôl i fodd argyfwng wrth i ni ymateb i'r don ddiweddaraf o COVID gyda chamau gweithredu wedi'u cyflawni mewn partneriaeth, yn seiliedig ar dystiolaeth. Roedd hyn yn cynnwys cylch arall o gymorth busnes gyda phecynnau ar gael yng Nghymru yn unig, fel y gronfa cadernid economaidd. Nid oedd cronfeydd tebyg, wrth gwrs, ar gael yn Lloegr. Er gwaethaf y broblem hon, rydym ni wedi parhau i symud ymlaen â'n cenhadaeth i helpu i greu economi gryfach, wyrddach a thecach yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddais i gynllun newydd ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau wedi'i gefnogi gan fuddsoddiad mawr mewn marchnad lafur fwy cynhwysol, a bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â hynny o gofio'r datganiad llafar y gwnes i ar y pryd. Yn erbyn cefndir ariannol anodd, rwyf i wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i flaenoriaethu'r gwaith o leihau'r rhaniad sgiliau, helpu mwy o bobl i ddod o hyd i waith a rhoi hwb i ragolygon gyrfa'r rhai sydd eisoes mewn gwaith. Rydym ni'n buddsoddi £1.7 biliwn yn y warant i bobl ifanc. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys £366 miliwn i helpu i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed yn ystod tymor y Senedd hon.
Fel y gwyddoch chi, Dirprwy Lywydd, mae gofal hygyrch i blant yn hanfodol i economi gryfach a thecach. Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cadarnhau y byddwn ni'n ehangu ein cynnig gofal plant i gefnogi mwy o deuluoedd. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o deuluoedd, a menywod yn arbennig, yn elwa ar well ragolygon cyflogaeth. Rydym ni hefyd wedi darparu £5 miliwn ychwanegol ar gyfer cyfrifon dysgu personol, i helpu gweithwyr ar gyflogau isel uwchsgilio mewn sectorau sy'n wynebu prinder yn y farchnad lafur, gydag enghreifftiau'n amrywio o yrwyr HGV i iechyd a gofal cymdeithasol. Rwyf i hefyd yn gweithio'n agos gyda fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, ar hynt sefydlu'r comisiwn ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil. Dylai hyn ein rhoi ni mewn gwell sefyllfa i flaenoriaethu buddsoddiadau sy'n gwella cyrhaeddiad addysgol, datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi da, ac ysbrydoli cynlluniau gyrfa mwy uchelgeisiol ar gyfer pobl o bob oed. Cymru sydd â'r cynllun cyllid myfyrwyr mwyaf blaengar yn y DU o hyd, ac rydym ni'n awyddus i gynnal hyn wrth ystyried y ffordd orau o gefnogi cynnig dysgu gydol oes gwell.
Fel y dywedais i ym mis Hydref, rydym ni eisiau sicrhau bod ein dull llywodraeth gyfan ni'n caniatáu i fwy o bobl deimlo'n gadarnhaol ac yn uchelgeisiol ynghylch cynllunio eu dyfodol yma yng Nghymru. Gall cadw graddedigion ein helpu ni yn y genhadaeth hon, ac rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i gysylltu myfyrwyr yn fwy effeithiol â'r cyfleoedd cywir mewn busnesau yng Nghymru. Mae'r fenter llwybr gwaith newydd yn cynnig y gallu i fyfyrwyr rhyngwladol aros yn y DU a gweithio am ddwy flynedd ar ôl iddyn nhw raddio. Fy uchelgais i yw y gallwn ni ddod o hyd i ffyrdd i'r gweithwyr hyn symud ymlaen at fisâu gweithwyr medrus llawn fel y gallwn ni barhau i elwa ar eu cyfraniad mewn economi fwy deinamig yng Nghymru.
Fel yr wyf i wedi nodi, mae'r cynnydd hwn wedi'i wneud er gwaethaf yr ymateb brys yr oedd omicron wedi mynnu gennym ni. Fel y mae CBI Cymru wedi cydnabod, mae dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r pandemig wedi trin iechyd y cyhoedd a thwf economaidd fel dwy ochr yr un geiniog. Ers dechrau'r pandemig, rydym ni wedi defnyddio pob dull posibl i gefnogi busnesau Cymru. Gwnaethom ni ailflaenoriaethu ein cyllidebau ac addasu arian at ddibenion gwahanol i sicrhau bod cymorth ariannol ar gael lle'r oedd ei angen fwyaf. Wrth i ni symud ymlaen, mae'r cynllun pontio newydd yn nodi sut y byddwn ni'n mynd ati i ymdrin â'r dasg o fyw gyda coronafeirws. Byddwn ni'n parhau i weithio ar sail tystiolaeth, ac mae hynny'n golygu gweithio'n ddwys yr wythnos hon i ddeall beth mae'r cynnydd diweddaraf mewn achosion yn ei olygu i gydbwysedd y niwed yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd.
Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym ni hefyd wedi darparu cynlluniau ac wedi'u cynllunio i gefnogi unigolion a busnesau i edrych i'r dyfodol, gan gynnwys: y gronfa cefnogi cwmnïau lleol, gan ddatblygu ein hymrwymiad i'r economi sylfaenol; cronfa cychwyn busnes gwerth £1 filiwn, sy'n canolbwyntio ar y rhai nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant; £0.5 miliwn ychwanegol i gefnogi a hyrwyddo'r sector mentrau cymdeithasol; a phecyn gwerth £116 miliwn o ryddhad ardrethi annomestig ar gyfer trethdalwyr manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru. Mae hyn yn ychwanegol at gyhoeddi fframweithiau economaidd rhanbarthol newydd i gryfhau rhanbarthau economaidd unigryw Cymru a'r contract economaidd newydd.
Mae ein heconomi ni wedi dod allan o ddirywiad digynsail oherwydd y pandemig, ac mae ein cyfradd diweithdra yn parhau i dracio'n is na gweddill y DU. Fodd bynnag, rwy'n dal i bryderu'n fawr am yr argyfwng costau byw parhaus, ac yr ydym ni eisoes yn gweld rhagolygon cynnyrch domestig gros ar gyfer y DU yn cael eu haneru. Yfory, bydd y Canghellor yn cyflwyno ei ddatganiad y gwanwyn, ac rwy'n ei annog i wneud mwy cyn i'r argyfwng fynd allan o reolaeth yn llwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn ei chyllideb i ddarparu pecyn cymorth arall gwerth mwy na £330 miliwn, ond Llywodraeth y DU sydd â'r prif ddulliau drwy'r system dreth a budd-daliadau.
Rhaid i gostau ynni a thanwydd cynyddol nawr sbarduno camau gweithredu i gyflymu'r broses o drosglwyddo i sero net. Ymdrin â'r argyfwng hinsawdd a natur fel rhan o newid i sero net yw uchelgais gyffredinol ein strategaeth buddsoddi seilwaith newydd gwerth £8.1 biliwn hefyd. Mae perygl hefyd y bydd ein cynnydd yn cael ei ddal yn ôl ymhellach gan benderfyniad Llywodraeth y DU i wrthod ein cyfran lawn o'r arian i gymryd lle arian yr UE a gafodd ei addo i ni. Dylai o leiaf £375 miliwn y flwyddyn fod wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru, ond bydd cynlluniau codi'r gwastad y DU yn gadael cyllideb Cymru £1 biliwn yn waeth ei byd erbyn 2024.
Dirprwy Lywydd, yn y dyddiau a'r misoedd nesaf, byddwn ni hefyd yn cyhoeddi strategaeth gweithio o bell newydd ac yna gweledigaeth strategol ar gyfer manwerthu, ymhlith camau gweithredu ehangach. Mae gan ein dull partneriaeth gymdeithasol rhan hanfodol ym mhopeth yr ydym ni wedi'i gyflawni, ac edrychaf i ymlaen at weithio mewn partneriaeth i gefnogi adferiad tîm Cymru, wedi'i adeiladu gan bob un ohonom ni. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Wrth i ni ddechrau addasu i fywyd ar ôl y pandemig, mae'n bwysig bod y sylfeini cywir yn cael eu creu er mwyn meithrin a chefnogi busnesau Cymru ar gyfer y dyfodol, ac nid mater o ymateb i'r pandemig yn unig ydyw, ond hefyd ymdrin â'r materion hirsefydlog y mae busnesau ledled Cymru wedi bod yn eu hwynebu, fel yr argyfwng hinsawdd, anghydraddoldebau cynhenid yn y farchnad lafur, a chystadlu mewn byd sydd wedi'i gysylltu fwy yn ddigidol. Mae datganiad heddiw'n nodi rhywfaint o'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar genhadaeth Cymru o ran cadernid ac ailadeiladu economaidd Llywodraeth Cymru, ac er bod y cynnydd hwnnw i'w groesawu, mae mwy y gellir ei wneud bob amser.
Mae datganiad heddiw'n cyfeirio at rai o'r camau sydd wedi'u cymryd i gefnogi'r economi sylfaenol, fel cyflwyno'r gronfa cefnogi cwmnïau lleol a'r pecyn cymorth i drethdalwyr manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru. Yn sgil y pandemig, mae'n bwysicach nag erioed bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn yr economi sylfaenol, oherwydd bod gan y buddsoddiad hwn fanteision amlwg mewn meysydd polisi eraill a gall helpu i ymdrin â'n hôl troed carbon a chyrraedd targed sero net Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod arfer da'n cael ei rannu a'i gyflwyno ledled Cymru, felly efallai y gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynghylch y ffordd y mae'n sicrhau bod hynny'n digwydd, boed hynny o ran caffael bwyd, y sector manwerthu, neu hyd yn oed ofal cymdeithasol.
Mae datganiad heddiw'n cyfeirio at y cynllun pontio newydd, a fydd yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r dasg o fyw gyda coronafeirws. Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio ar sail tystiolaeth, felly efallai y caf ychydig mwy o wybodaeth gan y Gweinidog am y cynllun pontio a'r effaith y bydd yn ei chael ar fusnesau ledled Cymru, a sut y caiff eu lleisiau eu clywed wrth ddatblygu'r cynllun hwn. Nid dyna'r unig gynllun y mae'r datganiad heddiw'n cyfeirio ato, ac rwy'n croesawu'n fawr gyhoeddi'r strategaeth gweithio o bell a gweledigaeth strategol ar gyfer manwerthu. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod y strategaethau hyn ar gael gorau po gyntaf. Felly, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym ni pryd y mae'r strategaethau penodol hyn yn debygol o gael eu cyhoeddi.
Mae cenhadaeth cadernid ac ailadeiladu economaidd Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at ganol ein trefi, ac mae'n cydnabod, a hynny'n briodol, fod llawer o ganol trefi Cymru yn galw am weithredu ar frys. Nid meysydd busnes yn unig yw canol ein trefi—nhw yw calon ein cymunedau lleol, ac mae'n hanfodol bod camau'n cael eu cymryd i'w cefnogi wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn cefndir o newid cymdeithasol enfawr. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r gwaith a gafodd ei wneud gan Archwilio Cymru fis Medi diwethaf ar adfywio canol trefi, ac yn fwy diweddar gan Ffederasiwn y Busnesau Bach, sy'n iawn i alw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn ogystal â dweud pan ddaw'n fater o weithredu'n greadigol i fynd i'r afael â phla unedau gwag a throi'r cydbwysedd o blaid canol ein trefi. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i wrthdroi'r broses o ddiberfeddu canol trefi ac adfer eu bywiogrwydd unwaith eto.
Mae datganiad heddiw'n cyfeirio at sgiliau a chyflogaeth, ac rwy'n sylweddoli bod llawer o ddiwygiadau i'r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol gyda'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Mae'r datganiad heddiw hefyd yn cyfeirio at gadw graddedigion a sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i gysylltu myfyrwyr yn fwy effeithiol â'r cyfleoedd cywir gyda busnesau Cymru. Bydd y Gweinidog wedi gweld bod pamffled diweddar sy'n brolio cyfraddau cyflog cymharol isel wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar gan brifddinas-ranbarth Caerdydd, sy'n disgrifio bod gan Gaerdydd gyflogau is i raddedigion na Birmingham, Llundain, Caeredin a Glasgow, a fydd hyn yn gwneud dim i gynyddu nifer y graddedigion sy'n cael eu cadw. Felly, a wnaiff ddweud wrthym ni pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd a'r holl randdeiliaid eraill ynghylch cadw graddedigion a sut y mae Cymru'n cael ei marchnata?
Wrth i ni ailadeiladu ar ôl y pandemig, mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn denu buddsoddiad mewn adferiad gwyrdd. Gwyddom ni fod cyfleoedd sylweddol i'r diwydiant gwyrdd a thechnoleg werdd. Er enghraifft, mae gan hydrogen y potensial i ddarparu atebion cyflenwi ledled y sectorau ynni a thrafnidiaeth. Mae'n hanfodol bod y sectorau hyn yn cael buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, y sector preifat hefyd. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod Cymru wedi sefydlu targedau i 70 y cant o'n hanghenion trydan gael eu diwallu drwy ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Yng ngoleuni'r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwaith yn y maes hwn a sicrhau bod y technolegau a'r sectorau hyn yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw.
Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae nifer o gwestiynau eraill y gellid eu gofyn ynglŷn â'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran y genhadaeth cadernid ac ailadeiladu economaidd ond ni wnaf drechu amynedd y Dirprwy Lywydd. Felly, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog eto am ei ddatganiad yn amlinellu rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud i greu economi fwy llewyrchus, gwyrddach a mwy cyfartal? Diolch.
Diolch am y sylwadau a naws adeiladol yr ymateb gan lefarydd y Ceidwadwyr. Mae llawer o bethau yr ydym ni'n cytuno arnyn nhw fel heriau amlinellol y mae'r wlad yn eu hwynebu. Rydym ni wedi siarad yn rheolaidd am yr argyfwng hinsawdd a natur ac anghydraddoldeb y farchnad lafur y soniodd yr Aelod amdano yn ei gyflwyniad agoriadol, a'n her ni yw sut y gallwn ni ymdrin â hynny, a'r amrywiaeth o flaenoriaethau eraill y nododd ef yn ei gwestiwn. Dyna pam y mae'r weledigaeth yn cynnwys ardal mor eang, ond mae hefyd yn cyfeirio at lawer o feysydd cyfle a her i ni fynd i'r afael â nhw.
O ran eich pwyntiau penodol am yr economi sylfaenol, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn falch o glywed ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi cael trafodaeth yn y Cabinet am yr economi sylfaenol a'r cam nesaf i symud hynny ymlaen—felly, nid dim ond yr arian sy'n cael ei bennu yn y gyllideb i gefnogi'r economi sylfaenol ymhellach, ond i wneud hynny fel yr awgrymodd yr Aelod, yn y ffordd yr ydym ni'n rhannu arfer da sy'n bodoli eisoes, ond wedyn sut yr ydym ni'n ailosod lefel yr uchelgais. Mae swyddogion yr economi sylfaenol a'n swyddogion caffael yn cydweithio, ac maen nhw'n bwriadu archwilio gwahanol rannau o'r Llywodraeth a'n gweithgarwch ochr yn ochr â gwasanaethau cyhoeddus a'r sector preifat. Mae gennym ni ddiddordeb arbennig yn yr hyn yr ydym ni eisoes wedi'i wneud yn y sector bwyd. Mae gennym ni ddiddordeb hefyd yn yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r diwydiant bwyd yn ei ystyr ehangaf, drwy'r gadwyn gyfan o dwf, cyflenwi a hefyd gweithgynhyrchu bwyd hefyd, lle yr ydym ni eisoes wedi ychwanegu gwerth sylweddol.
Rydym ni hefyd yn bwriadu datblygu gwaith sydd eisoes yn digwydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. A minnau wedi bod ar ochr arall y sgwrs hon mor bell yn ôl, gwn i fod gwaith wedi parhau am gyfnod i ystyried yr hyn y gall y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ei wneud fel cyflogwyr mawr iawn, yn ogystal â phobl sy'n gwario symiau sylweddol o arian cyhoeddus. Mae arferion da iawn eisoes yn digwydd, er enghraifft, yn Hywel Dda. Rydym ni'n awyddus i ddysgu beth sydd wedi gweithio'n dda i gynyddu ymhellach yr hyn yr ydym ni wedi gallu'i wneud drwy ymgorffori gwerth cymdeithasol fel rhan o gontractau caffael yn y gwasanaeth iechyd, ac yna gwneud mwy ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Byddaf i'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ac efallai i'r Aelod gan wisgo het arall, pan fydd yn cadeirio un o'r pwyllgorau craffu.
O ran y cynllun pontio yr ydym ni'n gweithio drwyddo ynghylch sut i bontio i'r cam nesaf o fyw gyda COVID, ceir sgyrsiau rheolaidd gyda'n holl randdeiliaid, gan gynnwys grwpiau busnes hefyd, gyda mi'n uniongyrchol, ond hefyd gyda swyddogion. Nid yw dim ond yn ymwneud â natur reolaidd y broses adolygu 21 diwrnod sy'n adolygu ein rheoliadau, ond natur y sgyrsiau yr ydym ni'n parhau i'w cael o ran sut y gallwn ni ddeall gyda chymaint o ragweld â phosibl yr hyn y byddwn ni'n gallu ei wneud os byddwn ni'n parhau i gael amgylchedd sefydlog gyda COVID, ac, fel y dywedais i yn fy natganiad, cydbwyso'r niweidiau—y niwed uniongyrchol o COVID gyda chynnydd mewn achosion wedi'i gydbwyso yn erbyn niwed arall y mesurau sylweddol yr ydym ni wedi gorfod eu cymryd yn y gorffennol. Dyna'n union yr ydym ni'n bwriadu ei wneud pan fyddwn ni'n nodi cydbwysedd hynny yng ngweddill y cyfnod sydd i ddod.
Mae hynny hefyd wedi bod yn rhan o'r cyd-destun yn y sgwrs yr ydym ni wedi'i chael, er enghraifft, ynghylch y strategaeth fanwerthu, a'r datganiad sefyllfa y gwnaethom ni ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf. Rwy'n disgwyl gallu cael y strategaeth fanwerthu lawn pryd yr ydym ni wedi gallu gweithio gydag undebau llafur a chyflogwyr i fod yn barod, cyn diwedd mis Mai gobeithio, i'w chyhoeddi. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda'r economi ymwelwyr, ar ôl symud o 'Gadewch i Ni Lunio'r Dyfodol', y cynllun adfer drwy COVID, i fod eisiau mynd yn ôl at y strategaeth tymor hwy i roi croeso i bobl i Gymru pan fyddwn ni'n manteisio'n briodol ar gyfleoedd economaidd mewn ffordd sy'n gynaliadwy i gymunedau a'n heffaith amgylcheddol.
O ran canol trefi, mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn arwain y gwaith hwnnw. Rydym ni wedi cynnal dull 'canol tref yn gyntaf', nid yn unig yn yr economi, ond ar draws amrywiaeth o feysydd eraill hefyd. Ac mae'n siŵr y byddwch chi'n edrych ymlaen at glywed mwy gan y Dirprwy Weinidog am grŵp cyflawni canol y dref, sydd yn canolbwyntio ar atal datblygiadau ar gyrion trefi ac ailddefnyddio, gan ystyried yn benodol ddatblygiadau canol trefi mewn clystyrau a choridorau a sut y gall ailddatblygu canol trefi a chymdogaethau wir sicrhau bod gennym ni strydoedd mawr a chanol trefi bywiog.
Ac ar eich dau bwynt olaf—a byddaf i mor fyr ag y gallaf i, Dirprwy Lywydd—prifddinas-ranbarth Caerdydd, yr wyf i wedi cael, fel y mae fy swyddogion yn wir, amrywiaeth o sgyrsiau gyda nhw am eu huchelgeisiau, ac rwy'n credu bod y ffordd yr adroddwyd arni wedi'i chamgyfleu efallai. Rwy'n credu bod prifddinas-ranbarth Caerdydd o ddifrif ynghylch dweud bod degau o filoedd o raddedigion yn cael eu cynhyrchu bob blwyddyn o brifysgolion yn y brifddinas-ranbarth. Ar hyn o bryd, mae cyfraddau cyflog graddedigion yn is. Ein huchelgais yw denu cyflogwyr graddedigion i'r brifddinas-ranbarth i godi cyfraddau cyflog a chodi buddsoddiad yn y maes hwn. Mae gan y bobl hynny, o le bynnag y maen nhw wedi dod o'r blaen, brofiad gwirioneddol o fod wedi byw ac astudio yng Nghymru am gyfnod. Ac fel y dywedais i yn fy natganiad, rwy'n awyddus i bobl sy'n graddio o brifysgol yng Nghymru weld eu stori'n parhau yng Nghymru, nid yn unig yn eu swydd gyntaf ond yn wir yn eu dyfodol tymor hwy. A phwy a ŵyr, gallen nhw fod yn Luke Fletchers y dyfodol, yn edrych ymlaen at briodi yng Nghymru yn y dyfodol agos.
Ac yn olaf, o ran ynni adnewyddadwy, rwyf i bob amser wedi bod yn glir iawn ynglŷn â nid yn unig y potensial i ddatgarboneiddio'r ffordd yr ydym ni'n cynhyrchu ac yn defnyddio pŵer ond y cyfle economaidd sylweddol sy'n dod ochr yn ochr ag ef, ac mae hynny'n sicr yn rhan o'r gwaith yr wyf i eisoes yn ei wneud gyda'r ddau Weinidog newid hinsawdd, ac edrychaf ymlaen at ddarparu mwy o'r wybodaeth ddiweddaraf i fy nghyd-Aelodau yn y dyfodol agos.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog, am eich datganiad. Does dim amheuaeth bod y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn her i'r economi, felly mae'n bwysig nawr ein bod ni'n edrych at y dyfodol er mwyn cryfhau'r economi a gobeithio diogelu yn erbyn y dyfodol y gorau rydyn ni'n gallu. Mae yna bethau i'w croesawu, wrth gwrs. Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, mae'n braf clywed bod gwaith yn digwydd ar yrrwyr HGV, er enghraifft. A hefyd dwi am ymuno â'r Gweinidog wrth alw ar y Canghellor i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw. Mae'n rhywbeth sy'n fy mhryderu i siẁd gymaint, a dwi wedi sôn yn y Siambr yn barod am fy mhryderon.
Os caf i ddechrau ar swyddogaeth cwmnïau cydweithredol, cafodd Cymru ei tharo'n wael gan y pandemig oherwydd ei thlodi incwm cymharol o'i chymharu â gwledydd eraill y DU. Gwyddom ni yr effeithiwyd fwyaf ar y cymunedau tlotaf, gyda'r rheini mewn cyflogaeth â chyflog isel ac ansicr y mwyaf tebygol o gael eu rhoi ar ffyrlo neu o golli eu swyddi. Wrth i ni geisio gwella o ddifrod economaidd y pandemig, dylem ni fod yn edrych o ddifrif ar ailadeiladu'r economi mewn ffordd ystyrlon er mwyn sicrhau diogelwch, ffyniant a thegwch hirdymor i aelwydydd a gweithwyr. Rwy'n credu, ac yr wyf i'n gwybod bod llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn credu hefyd, fod yn rhaid i gwmnïau cydweithredol chwarae rhan ganolog yn hyn, ar flaen ein hadferiad ar ôl y pandemig. Felly, gofynnaf i i'r Gweinidog sut y mae'n rhagweld rhan mentrau cydweithredol yn y genhadaeth ailadeiladu hon i greu economi fwy ffyniannus a chadarn. Mae cwmnïau cydweithredol bron ddwywaith yn fwy tebygol o oroesi eu pum mlynedd cyntaf, o'u cymharu â mathau eraill o fusnesau. Mae'n hysbys hefyd eu bod yn dod â chynnydd mewn cynhyrchiant, hawliau gweithwyr, diogelwch swyddi a ffigurau cyflogaeth cyffredinol. Arbedodd cyfraith Marcora yr Eidal, sy'n hwyluso prynu'r cwmni gan weithwyr, fwy na 13,000 o swyddi rhwng 2007 a 2013, yn ystod y chwalfa ariannol.
Wrth edrych ar astudiaeth achos o fy rhanbarth fy hun, cafodd BIC Innovation Ltd, cwmni ymgynghori sydd â swyddfeydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ei gefnogi gan Ganolfan Cydweithredol Cymru i ailstrwythuro ar gyfer perchnogaeth y gweithwyr. Ers dod yn eiddo i weithiwr, mae'r cwmni wedi cynyddu ei weithlu bedair gwaith yn ystod y cyfnod o dair blynedd. Mae cyfarwyddwr sefydlu BIC Innovation Ltd yn credu bod y busnes, o fod yn eiddo i weithwyr, wedi denu talent newydd gyda safbwyntiau amrywiol sy'n darparu syniadau gwahanol, wedi darparu gwell gwasanaethau i gleientiaid a gwerth ychwanegol i'r brand. Byddai darparu mwy o gefnogaeth i fwy o fentrau cydweithredol yn amlwg yn caniatáu i ni wneud cynnydd, nid yn unig o ran ffigurau cyflogaeth, ond mewn gwaith teg ac ystyrlon, ac yn caniatáu i ni ddatblygu cyfoeth cymunedol fel rhan o'n hadferiad.
Ym mis Mehefin 2021, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru, ac yr wyf i'n llwyr gefnogi'r amcan hwn. Ond mae pwynt yr hoffwn i ei godi gyda'r Gweinidog. Mewn sesiwn graffu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gyda Banc Datblygu Cymru, roedd ansicrwydd ynghylch pa gyllid ychwanegol fyddai ar gael i'r banc i chwilio am fwy o achosion o weithwyr yn prynu cwmnïau. Os nad yw'r arian ychwanegol hwnnw ar gael, a yw'r Gweinidog yn ffyddiog y bydd yn cyrraedd ei nod, neu yn ei farn ef, a oes angen arian ychwanegol?
O ran amrywiaeth a thegwch, mae'n cael ei dderbyn yn gyffredinol nawr, wrth i ni geisio cael pobl yn ôl i gyflogaeth yn dilyn cyfyngiadau, colli swyddi a ffyrlo, y bydd pobl ifanc, menywod, pobl anabl a chymunedau lleiafrifoedd ethnig yn wynebu anawsterau penodol wrth geisio ailymuno â'r farchnad lafur, neu wrth fynd i mewn am y tro cyntaf. O fewn y grwpiau hyn, bydd effaith tlodi, incwm isel aelwydydd a lefelau is o addysg, yn ogystal ag anfanteision eraill, yn creu heriau eraill i'r unigolion hyn.
Mae'r effaith economaidd anghymesur y mae'r pandemig wedi'i chael ar y cymunedau hyn yn dangos yn glir nad yw'r polisi presennol yn ddigon i greu economi gyfartal a ffrwythlon i bawb yng Nghymru. Felly, wrth i ni ystyried ailstrwythuro'r economi i'w gwneud yn fwy cyfartal, tybed sut y mae'r Gweinidog, fel rhan o'r genhadaeth hon, yn bwriadu ymdrin â'r materion strwythurol sydd wrth wraidd ein heconomi sydd wedi caniatáu i'r grwpiau hyn fod yn fwy agored i ddiweithdra a gwahaniaethu economaidd, ac, wrth symud ymlaen, sut y gallwn ni sicrhau bod ein heconomi'n decach.
Yn olaf, o ran economi gylchol werdd, mae'r Gweinidog wedi nodi y dylai un o ganlyniadau eraill y genhadaeth hon fod yn economi wyrddach a mwy cylchol. Gwyddom ni fod y swyddi sy'n gysylltiedig â'r diwydiannau gwyrdd, gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg hyn yn aml yn cael eu rheoli gan ddynion gwyn nad ydyn nhw o ddosbarth gweithiol. Beth arall a gaiff ei wneud i sicrhau nad yw'r bwlch demograffig yn y math hwn o gyflogaeth yn gwaethygu wrth i ni ailstrwythuro ein heconomi i'w gwneud yn wyrddach? Sut y gallwn ni sicrhau nad yw menywod, cymunedau lleiafrifoedd ethnig, y rheini o gefndiroedd dosbarth gweithiol a grwpiau difreintiedig eraill yn cael eu hepgor o'r chwyldro gwyrdd hwn yng Nghymru?
Ac yn unol â fy thema ar degwch a gwelliannau mewn cyflogaeth, wrth i ni bwyso ar y sector gwyrdd i dyfu, unwaith eto, rwy'n gofyn a fydd y Llywodraeth yn ystyried dilyn arweiniad Llywodraeth yr Alban wrth sefydlu comisiwn pontio teg i oruchwylio'r newidiadau yn ein heconomi i sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl. Diolch.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Gan ddechrau gyda'ch pwyntiau am yr economi gydweithredol, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, gan fy mod i'n Aelod Llafur a Chydweithredol o'r Senedd, mae'n rhywbeth y mae gennyf i ddiddordeb arbennig ynddo. Wrth gwrs, mae safbwyntiau ar draws y Siambr. Cofiaf ddadl Huw Irranca-Davies ar y posibilrwydd o gael cyfraith Marcora Cymru, a'r gwaith yr wyf i'n ei wneud gydag ef a Chanolfan Cydweithredol Cymru i ystyried yr hyn sy'n bosibl.
Nid yw rhai rhannau o gyfraith Marcora yn yr Eidal yn bosibl oherwydd nad oes gennym ni'r holl bwerau o fewn hynny. Ond, yn hytrach na dweud, 'Dyma'r holl bethau na allaf i eu gwneud', yr hyn a ddywedais i yn y sgwrs honno gyda Huw Irranca-Davies a Chanolfan Cydweithredol Cymru yw fy mod i eisiau ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud, i ddeall sut y bydd hynny'n ein helpu ni i gyrraedd ein nod, nid yn unig i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn ystod tymor y Senedd hon, ond beth arall y gallwn ni ei wneud i roi rhan gryfach yn ein dyfodol i'r economi gydweithredol. Gan fy mod yn cydnabod bod nifer o bethau cadarnhaol sylweddol. A gan gyfeirio at gwestiynau'r Ceidwadwyr yn gynharach, mewn gwirionedd, os ydym ni eisiau cynyddu a gwella cadernid yr economi sylfaenol, mewn gwirionedd, mae gan fentrau cydweithredol ran fawr i'w chwarae, yn ogystal â bod yn sefydliadau sy'n gallu gweithredu mewn busnesau canolig a mawr ledled y wlad hefyd. Felly, rwy'n hoff iawn o'r sector cydweithredol a chydfuddiannol.
Clywais i'r hyn yr oedd gennych chi i'w ddweud am y banc datblygu, ac a fyddai angen mwy o arian. Mae'n rhan o sgwrs barhaus yr ydym ni wedi'i chael gyda'r banc datblygu, a'r amcanion yr wyf i wedi'u gosod ar eu cyfer am weddill y tymor hwn. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y ffordd y mae'r banc datblygu wedi mynd ati i fod yn greadigol wrth ymateb i rai o'r heriau wrth i ni ddod allan o'r argyfwng wedi creu argraff fawr arnaf i, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn parhau i fuddsoddi. Mae ganddyn nhw enw da am ddarparu nid yn unig gyllid, ond cyngor ochr yn ochr â busnesau hefyd. Mae nifer o feysydd penodol lle maen nhw eisoes yn gweithio. Mae ganddyn nhw gronfa olyniaeth rheoli gwerth £25 miliwn, sy'n ymwneud â rheolwyr yn prynu cwmniau. Mae ganddyn nhw hefyd fynediad i'r gronfa fuddsoddi hyblyg ar gyfer gweithwyr yn prynu cwmniau mwy.
Ond, mewn gwirionedd, bydd prif ran hyn yn deillio o'r cyngor pwrpasol y gall pobl ei gael gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, er enghraifft. Fel y nodais i yn fy natganiad, yr wyf i wedi cynyddu £0.5 miliwn arall yn ddiweddar i helpu Canolfan Cydweithredol Cymru. Rydym ni hefyd wedi gallu, mewn prosiect tymor hwy, cael arian cyfatebol cronfa ddatblygu ranbarthol Ewrop gwerth £11 miliwn ar gyfer prosiect y mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi'i gynnal.
Wrth i ni symud ymlaen, yr her yw, ar ôl cyllid yr UE, fod y cyllid hwnnw o dan fwy byth o bwysau nag o'r blaen, a phan wnes i sôn yn fy natganiad ac mewn datganiadau blaenorol am y pwysau sydd ar y cyllidebau, mae hynny'n golygu, os ydw i'n dewis parhau i ariannu'r maes hwnnw—ac rwy'n disgwyl y bydd gennyf i rywbeth i'w ddweud am ein gwaith ni gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru ar gyfer y dyfodol—mae rhannau eraill o'r hyn y mae adran yr economi wedi gallu'i wneud yn y gorffennol na fyddwn ni'n gallu ei wneud ar yr un raddfa a lefel, ond rwy'n credu bod hyn yn rhan o'r ateb i ymdrin â rhai o'r heriau sgiliau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn ddiweddarach.
Ond yr ateb gorau, wrth gwrs, yw pwl o synnwyr cyffredin a chyflawni addewidion maniffesto clir iawn ar Gymru a gweddill y DU heb golli ceiniog o gronfeydd sy'n cymryd lle cyllid yr UE. Fel y mae ar hyn o bryd, mae'r adolygiad cynhwysfawr o wariant a'r gyllideb yn nodi y bydd pob rhan o'r DU a oedd yn manteisio ar gronfeydd yr UE o'r blaen ar ei cholled i raddau helaeth. Wedi dweud hynny, rwy'n obeithiol, er nad yn sicr, y bydd yr adran ar gyfer codi'r gwastad yn dod i safbwynt gwahanol ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch trafod a gwneud penderfyniadau am y cronfeydd hynny, wrth barhau i gyflwyno'r achos dros dalu'r swm llawn o arian.
Ac mae hynny, rwy'n credu, yn dod yn ôl at eich pwyntiau olaf. Rwy'n sylweddoli bod gan yr Alban gomisiwn pontio teg. Nid wyf i'n credu y bydd comisiwn ynddo'i hun o reidrwydd yn ymdrin â'r holl faterion fel y byddem yn dymuno; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r hyn yr ydym ni'n dewis ei wneud. Ac o safbwynt polisi, yr wyf fi a'r Gweinidogion newid hinsawdd yn glir iawn, wrth ddymuno gweld newid i economi sero net, fod cyfleoedd gwirioneddol, ond rhaid cael pontio teg i bobl sydd mewn gwaith nawr. Nid ydym ni eisiau taflu grŵp o bobl i'r naill ochr ac anwybyddu'r sgiliau a'r profiad sydd ganddyn nhw wrth i ni geisio creu diwydiannau newydd. Mae hynny'n arbennig o bwysig o gofio bod gennym ni brinder llafur a sgiliau, felly bydd angen i ni ddefnyddio pobl sydd eisoes â sgiliau ac yn sicr eisiau dyfodol economaidd hefyd.
Fodd bynnag, dyma pam, yn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau y gwnaethom ni ei gyhoeddi yn ddiweddar, yr oeddem ni'n glir iawn mai ein nod yw rhoi mwy o'n cefnogaeth i bobl sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur. Felly, nid yw'n golygu nad ydym ni'n mynd i gyrraedd ein targed prentisiaeth. Nid yw'n golygu nad ydym ni'n mynd i barhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau a phobl sy'n agos at y farchnad lafur lle gallwn ni wneud gwahaniaeth. Ond, gan fod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn fwy gweithgar mewn rhywfaint o'r maes hwnnw, rydym ni'n ceisio sicrhau bod ein hymyriadau'n cefnogi pobl sydd bellaf i ffwrdd, ac yn aml pobl ag anabledd, yn aml pobl sy'n edrych fel fi, ac yn aml menywod sydd eisiau naill ai ddychwelyd i'r gweithle neu fynd i mewn i'r gweithle am y tro cyntaf, a'r ffaith, er ein bod ni wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran ymdrin â'n cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru, rydym yn dal ychydig y tu ôl i gyfartaledd y DU. Felly, dyna lle'r ydym yn ceisio canolbwyntio ein sylw a'n hymdrechion, a gobeithio y bydd hynny'n helpu nid yn unig rhan o'r pontio teg i bobl sydd eisoes mewn gwaith, ond i gael pobl i mewn i waith nad ydyn nhw ar hyn o bryd.
Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog hefyd am ei ddatganiad ac yr wyf i wedi bod yn mwynhau'r drafodaeth sy'n digwydd yma, ond gwelaf i fod y drafodaeth yn ymwneud â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ac nid oes neb wedi gofyn, 'Pam mae'r Llywodraeth yn gwneud hyn?' Tybed a yw'r Llywodraeth wedi gofyn y cwestiwn hwnnw ei hun, oherwydd yr wyf i wedi edrych drwy gydol y datganiadau yr ydych wedi'u gwneud drwy'r rhaglen lywodraethu, ac ni allaf i weld unrhyw ddatganiad o fwriad. Beth yw pwynt neu ddiben polisi, er enghraifft?
Mae'n syndod nad oes sôn am dlodi yn eich polisi ar hyn o bryd. Nawr, pe bai lleihau tlodi yn sbardun i bolisi, yna byddech chi'n gwneud penderfyniadau gwahanol na phe baech, er enghraifft yn—. Byddai pwyslais ar dwf neu gynnyrch domestig gros yn llywio penderfyniadau gwahanol iawn eto. Ac oni bai ein bod ni'n deall beth yw diben polisi, mae'n anodd iawn i ni eich dwyn i gyfrif, Gweinidog, ac, ar yr un pryd, ni welaf unrhyw amcanion na thargedau polisi. Felly, yr ydym ni wedi gweld, ac mae cytundeb wedi bod ar draws y Siambr ein bod ni eisiau gweld Cymru decach, Cymru wyrddach ac ati, ond nid oes syniad yn unman ynghylch yr hyn y mae hynny'n ei olygu'n ymarferol mewn gwirionedd. Beth yw'r amcan yr ydych chi'n ceisio'i gyflawni? Sut y byddwch chi'n gwybod a ydych chi wedi cyflawni Cymru decach? Sut y byddwn ni'n eich dwyn i gyfrif am wneud hynny? Nid oes amserlen. Nid oes terfynau amser. Nid oes targedau yn y polisi. Ac felly, yr wyf i'n cael fy hun, fel aelod o Blaid Lafur Cymru ac fel Aelod o'r lle hwn, yn methu deall sut, yn ystod y pedair blynedd, y gallwn ni eich dwyn chi i gyfrif am yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud heddiw, yr hyn a ddywedoch chi ym mis Hydref, yr hyn a gafodd ei gyhoeddi gan y Llywodraeth ym mis Rhagfyr, a sut, erbyn diwedd y cyfnod hwn o bum mlynedd, y byddwn ni'n gwybod, neu y byddwch chi'n gwybod, a ydych chi wedi cyflawni unrhyw un o'r uchelgeisiau hyn ai peidio.
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Mae'n gyson o ran ei bwynt ei fod yn credu y dylai fod mwy o dargedau ar draws amrywiaeth o feysydd. Yn fy marn i, wrth gwrs, mae tlodi'n rhan sylweddol o'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud a'r frwydr yn erbyn tlodi. Ac mewn gwirionedd, pe na bai gennym ni ddiddordeb yn hynny, ni fyddem ni'n ceisio cael ymyriadau, er enghraifft, yn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, ar gyfer y bobl hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur. Ni fyddai gennym ni'r agweddau sylweddol ar y warant i bobl ifanc sy'n ceisio cael pobl â sgiliau is, sy'n debygol o fod yn llai cefnog, pobl iau nad ydyn nhw eto wedi mynd i mewn i fyd gwaith, i sicrhau bod ganddyn nhw brofiad o fyd gwaith a chefnogaeth gadarnhaol. A dyna ran o'r pwynt ynglŷn â beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud, pam yr ydym ni'n gwneud hyn.
Wel, ar wahân i unrhyw beth arall, nid yw'n ymwneud â'r gwelliant i'r unigolion a'r cymunedau yn unig, ac nid yw'n ymwneud â sut yr ydym ni'n teimlo fel gwlad yn unig; mewn gwirionedd, heb gefnogaeth ac ymyrraeth gan y Llywodraeth, ni fyddai amrywiaeth o bethau'n digwydd. Felly, ni fyddai Busnes Cymru wedi cael ei greu ar ei ben ei hun gan y sector preifat. Mae amrywiaeth o feysydd yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw'n cefnogi'r economi gydweithredol, pe na bai'r Llywodraeth yn weithgar yn y maes hwnnw, gallwn ni fod yn ffyddiog iawn na fyddai'r pethau hynny'n digwydd. Ac mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i ddweud yw bod hyn yn ymwneud yn rhannol â symud tuag at ein cerrig milltir cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a gafodd eu nodi gennym ni, y ffordd yr ydym ni eisiau gallu gwneud busnes, a hefyd, rhai o'r metrigau y byddwn ni'n eu defnyddio a gwyddom ni y byddwn ni'n cyfeirio atyn nhw. Felly, er enghraifft, a fyddwn ni wedi gwneud gwahaniaeth o ran lefelau gweithgarwch economaidd? Ble fyddwn ni o ran cyflogaeth? Ble fyddwn ni o ran cyflogau cyfartalog? Ac yn hollbwysig, y gwahaniaeth yng ngwahanol rannau o Gymru, sef sgwrs yr wyf i wedi'i chael yn rheolaidd gyda'r Aelod a chyd-Aelodau o etholaethau'r Cymoedd ynghylch pa wahaniaeth yr ydym ni'n ei wneud. Oherwydd gallem ni wneud gwahaniaeth i'r effaith genedlaethol ledled y wlad a gwneud dim am anghydraddoldeb economaidd, ac nid dyna safbwynt y Llywodraeth hon ac yn sicr nid dyna fy safbwynt i. Rwyf i'n edrych ymlaen nid yn unig at sgwrs gyda'r Aelod, ond at allu nodi'n fanylach, wrth i ni symud drwy'r tymor hwn, y cynnydd rwy'n credu y byddwn ni'n ei wneud ac yna'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, yn ei gymuned ef ac eraill ledled Cymru.
Diolch, Weinidog.