– Senedd Cymru am 5:16 pm ar 29 Mawrth 2022.
Fe awn ni ymlaen i glywed y cynnig. Dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud hynny—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig ger ein bron. Fel y nododd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae achosion unwaith eto'n cynyddu'n gyflym ledled Cymru, sy'n cael ei ysgogi gan yr is-deip o amrywiolyn omicron BA.2. Mae'r canlyniadau diweddaraf o arolwg o heintiau'r coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod gan un o bob 16 o bobl yng Nghymru COVID-19 yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 19 Mawrth. Roedd hynny 10 diwrnod yn ôl; mae'n fwy tebygol yn awr o edrych fel tua un o bob 13 neu 14. Roedd mwy na 1,300 o gleifion yn yr ysbyty am resymau yn ymwneud â COVID-19 ar 23 Mawrth; heddiw, y ffigur yw 1,492.
Ger ein bron heddiw mae tair cyfres o reoliadau diwygiedig. Yn gyntaf, Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022. Rhoddodd Deddf y Coronafeirws 2020, y Ddeddf, bwerau brys i Weinidogion Cymru ymateb i'r pandemig. Cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth 2020. Daeth y rhan fwyaf o'r darpariaethau dros dro yn y Ddeddf i ben ar ddiwedd y dydd ar 24 Mawrth. Mae pob Llywodraeth ledled y DU wedi cyflwyno rheoliadau sy'n ymestyn gwahanol ddarpariaethau yn y Ddeddf. Mae Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 yn ymestyn dwy ddarpariaeth dros dro am gyfnod o chwe mis ar y mwyaf hyd at 24 Medi 2022.
Mae'r coronafeirws gyda ni o hyd, a gallwn ni ddisgwyl i ragor o donnau o'r haint ac amrywiolion newydd ddod i'r amlwg. Gallai'r rhain fod yn fwy difrifol nag amrywiolion blaenorol, a gallen nhw feddu ar lefelau uwch o allu dianc rhag y brechlyn. Mae ymestyn y ddwy ddarpariaeth hyn yn rhan o'n gwaith cynllunio wrth gefn. Mae'r darpariaethau perthnasol yn adran 82, tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr, sy'n eu diogelu rhag fforffedu. Mae'r darpariaethau hyn yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru ymestyn y cyfnod perthnasol pan na chaniateir gorfodi hawl i ail-fynediad neu fforffediad o dan denantiaeth fusnes am beidio â thalu rhent, er mwyn helpu busnesau y mae'r coronafeirws wedi effeithio arnyn nhw. Ar ôl diwedd y cyfnod hwn, bydd y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) y rhoddodd y Senedd ganiatâd deddfwriaethol iddo ar 8 Mawrth, yn cefnogi landlordiaid a thenantiaid i ddatrys anghydfodau sy'n ymwneud â busnesau sydd â dyled rhent yr oedd yn ofynnol iddyn nhw gau yn ystod y pandemig. Roedd angen i ni allu ymestyn y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio adran 82 o Ddeddf y Coronafeirws pe bai wedi dod i ben cyn i'r Bil rhent masnachol gael Cydsyniad Brenhinol. Fodd bynnag, daeth y Bil rhent masnachol i rym ar 24 Mawrth ac, o'r herwydd, gallaf gadarnhau na fyddwn yn defnyddio'r darpariaethau hyn.
Adran 38, Atodlen 17, parhad dros dro, addysg a hyfforddiant a gofal plant. Mae'r darpariaethau hyn yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau parhad dros dro i sefydliadau addysgol, darparwyr gofal plant cofrestredig ac awdurdodau lleol i helpu i reoli'r tarfu ar ddysgu yn ystod y pandemig. Mae ymestyn y darpariaethau addysg hyn yn fesur wrth gefn i raddau helaeth, ac nid ydym yn bwriadu nac yn disgwyl defnyddio'r darpariaethau hyn yn y cyfnod estynedig o chwe mis. Byddai unrhyw gynnig i ddefnyddio'r pwerau o fewn y darpariaethau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyflwyno rheoliadau pellach, a fyddai, wrth gwrs, yn destun craffu gan y Senedd. Byddai'r Aelodau'n cael cyfle bryd hynny i ystyried cymesuredd a phriodoldeb unrhyw fesurau y byddem yn eu cynnig yn y cyfnod estynedig o chwe mis.
Yn ail, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022. Yn ein cynllun pontio, 'Gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel', cyflwynom ni ein bwriad, mewn senario COVID-sefydlog, i ddileu'r cyfyngiadau cyfreithiol a oedd yn weddill ar 28 Mawrth. Yn anffodus, o ystyried y sefyllfa ar hyn o bryd, fe ddaethon ni i'r casgliad adeg yr adolygiad 21 diwrnod ar 24 Mawrth na fyddai modd inni symud mor gyflym ag yr oedden ni wedi ei ragweld ac wedi'i gynllunio. Felly, o dan reoliadau rhif 7, mae'r dyddiad y daw'r prif reoliadau i ben yn cael ei ymestyn o 28 Mawrth i 18 Ebrill.
Yn drydydd, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022. Ni allwn gadw'r rheolau brys yma am byth; mae'n ffaith bod yn rhaid inni ddysgu byw gyda'r coronafeirws. Felly, rŷn ni hefyd wedi penderfynu, yn dilyn yr adolygiad 21 diwrnod diweddaraf, i barhau â'n taith ofalus i ffwrdd o gyfyngiadau cyfreithiol. Mae rheoliadau rhif 8 yn dileu, o 28 Mawrth ymlaen, y gofyniad cyfreithiol i hunanynysu, ac mae'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd wedi'i ddileu. Mae'r rhain yn dal i fod yn fesurau diogelu pwysig y gall pobl eu cymryd i leihau trosglwyddiad y feirws, ond nawr yw'r amser iawn, yn ein barn ni, i ganiatáu i bobl wneud eu penderfyniadau eu hunain. Fel rydym ni wedi'i weld drwy gydol y pandemig, bydd pobl Cymru yn gwneud y peth iawn i gadw ein hunain yn ddiogel.
Rŷn ni wedi cadw'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn o gymorth i ddiogelu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y mannau hynny lle mae'r mwyaf o risg. Rŷn ni hefyd wedi cadw'r gofyniad i fusnesau a sefydliadau gynnal asesiadau risg penodol ar gyfer y coronafeirws, a chymryd mesurau rhesymol i reoli trosglwyddiadau. Bydd hyn yn ein galluogi i ddiweddaru'r asesiadau risg ac ystyried mesurau priodol yn sgil yr is-amrywiolyn BA.2. Bydd y rheoliadau'n cael eu hadolygu unwaith eto erbyn 14 Ebrill. Fel rŷn ni wedi'i wneud bob amser, byddwn ni'n dal i wneud penderfyniadau i ddiogelu iechyd pobl Cymru ar sail y dystiolaeth wyddonol sydd ar gael i ni, a dwi'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynigion. Diolch, Llywydd.
Russell George.
Diolch, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i am fy nryswch cynharach, roeddwn i'n ceisio tynnu fy ngorchudd wyneb ar yr un pryd â pheidio â chael fy offer cyfieithu ymlaen. Rwy'n ymddiheuro.
Gall amldasgio fod yn anodd i rai. [Chwerthin.]
Yn enwedig i ddynion. [Chwerthin.]
Wnes i ddim dweud hynny.
Rwy'n gwybod na wnaethoch chi ddweud hynny. Diolch yn fawr, Llywydd.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am gyflwyno'r rheoliadau hyn y prynhawn yma? Ni fyddwn ni’n cefnogi newid dyddiad Deddf y Coronafeirws. Fe wnes i wrando’n ofalus ar yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud, ac mae gen i lawer o ddealltwriaeth o'r pwynt yr ydych chi’n ei ddadlau y prynhawn yma am ymestyn y cyfnod i chwe mis arall, ac rwy’n deall rhan fawr o'r rhesymeg yr ydych chi wedi ei hamlinellu y prynhawn yma. Ond, wrth gwrs, fy safbwynt i a safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig yw bod yn rhaid i'r holl ddeddfwriaeth frys gael dyddiad gorffen, ac rwy’n credu y byddech chi’n cytuno â hynny, ac rwy’n credu mai'r gwahaniaeth rhyngom ni yw pryd y mae'r dyddiad gorffen hwnnw. I mi a’r Ceidwadwyr Cymreig, rydym ni’n credu bod y dyddiad gorffen hwnnw wedi dod bellach. Os oes angen deddfwriaeth bellach yn y dyfodol, ac rydym yn gobeithio na fydd, ac rydych chi'n disgwyl na fydd, a byddwn i’n disgwyl na fydd hefyd, yna dylid cyflwyno'r ddeddfwriaeth honno a'i thrafod yn ôl ei rhinwedd ei hun. Rwy’n deall eich bod chi wedi sôn am gyflwyno craffu pellach ar ffurf yr estyniad, ond rwyf i yn credu’n gryf fod yn rhaid cael dyddiad gorffen i ddeddfwriaeth frys a bod yr amser hwnnw wedi cyrraedd yn awr.
O ran y rheoliadau diogelu iechyd eraill yr ydych chi wedi eu cyflwyno y prynhawn yma, Gweinidog, byddwn yn cefnogi'r ddau reoliad hynny. Rwy'n meddwl ar ôl dwy flynedd o fyw mewn cyfyngiadau, rwy'n credu ei bod yn newyddion da ein bod ni bellach ar y pwynt hwn lle mae'r holl gyfyngiadau, bron, wedi eu codi. Rwyf i wrth gwrs yn cytuno bod yn rhaid i ni barhau i fod yn ofalus a bod y coronafeirws yma o hyd, ac mae yma o hyd yn y wlad hon, yng Nghymru, ac mewn rhannau eraill o'r byd. Felly, wrth gwrs, rwy'n derbyn y cyd-destun yn hynny o beth. Ond rydym ni bellach yn symud i gyfnod newydd o bandemig y coronafeirws, rydym ni’n symud i gyfnod newydd lle mae'r coronafeirws bellach yn eistedd ochr yn ochr â mathau eraill o feirysau, i raddau helaeth, ac mae'n rhaid i ni ddysgu byw â'r coronafeirws.
Gweinidog, roeddwn i’n falch bod y gofyniad am orchuddion wyneb yn symud i raddau helaeth o'r gyfraith i arweiniad. Rwy’n credu mai dyna'r cam priodol i'w gymryd. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli bod pobl yn dal i gael eu hannog i wisgo gorchudd wyneb mewn llawer o'r lleoliadau hyn, ond rwy’n credu ei bod hi’n iawn yn awr i ofyn i bobl ddefnyddio eu cyfrifoldeb personol yn hytrach na'i gwneud yn ofynnol i bobl yn ôl y gyfraith wisgo gorchudd wyneb. A'r un peth, wrth gwrs, o ran rheolau hunanynysu hefyd. Rwy’n credu y bydd y mwyafrif helaeth o bobl yn defnyddio eu synnwyr cyffredin a'u barn briodol, a dylem ni roi'r gallu i'r cyhoedd yng Nghymru wneud yr arfarniadau hynny eu hunain.
Byddwn i'n cwestiynu, wrth gwrs, pam y mae'n parhau i fod yn y gyfraith i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Nid wyf i'n anghytuno â'r ffaith y dylai'r rhai mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol wisgo gorchudd wyneb, rwy’n credu bod hynny'n synhwyrol, felly nid dyna'r pwynt rwy'n ei wneud yma. Ond, wrth gwrs, pam trin y grŵp hwn yn wahanol iawn i'r grwpiau eraill o bobl, er enghraifft, sy'n mynd i'r siopau ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? Byddwn i wedi meddwl y byddai gan y rhai sy'n gweithio mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol fwy o allu i lunio eu barn eu hunain am yr hyn sydd orau i leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol eu hunain. Felly, hoffwn i ddeall eich rhesymeg y tu ôl i'r pwynt penodol hwnnw.
A gaf i ofyn i chi hefyd am yr wybodaeth ddiweddaraf am pryd rydych chi’n disgwyl i'r cylchoedd tair wythnos ddod i ben hefyd? Rwy’n credu bod y cylch tair wythnos nesaf, o fy nghof, ar 18 Ebrill. Ond, os ar y dyddiad hwnnw, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, bod y rheoliadau sy'n weddill yn cael eu codi wedyn, beth, a gaf i ofyn, yw eich disgwyliad o ran cylchoedd tair wythnos yn y dyfodol? A ddylem ni wedyn ddisgwyl iddyn nhw beidio â digwydd mwyach bryd hynny? Byddwn i’n disgwyl i hynny ddigwydd, ond efallai y gallech chi amlinellu hynny i ni.
Hefyd, yn olaf, a gaf i ofyn cwestiwn rwyf i wedi ei ofyn droeon o'r blaen? Nid wyf i erioed wedi cael ateb da a chlir ar hyn, felly rwy'n gobeithio y caf ei ofyn eto heddiw. O ran y cylchoedd tair wythnos, wrth gwrs, yr hyn sy'n digwydd yw bod y wasg yn cael gwybod cyn y Senedd hon, mae'r wasg wedyn yn cyhoeddi hynny am 10pm ar nos Iau, ac yna mae'r Prif Weinidog yn cyflwyno'i anerchiad ar y dydd Gwener yn y sesiwn friffio am 12:15, ac mae aelodau'r wasg yn cael cyfle i graffu ar waith y Prif Weinidog yn hynny o beth. Ac yna, ar y dydd Mawrth canlynol, mae fel arfer yn dod yma ar gyfer datganiad. Yn wir, nid ydym ni wedi cael datganiad hyd yn oed yn yr achos hwn heddiw, ond rydym ni wedi cael y cyfle drwy'r rheoliadau hyn. Ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n digwydd mewn unrhyw ran arall o'r DU. Rwy'n wirioneddol awyddus i ddeall, Gweinidog, fod cyfle nawr yn y dyfodol, i ailystyried y ffordd y mae'r cylchoedd tair wythnos yn gweithredu—. A gaf i ofyn yn awr pam ar y ddaear na fyddai'r Prif Weinidog neu chithau yn dod yma i wneud y cyhoeddiad yma'n gyntaf, fel y gall Aelodau'r Senedd graffu ar y penderfyniadau hynny, ac yna, os ydych chi’n dymuno, gwneud datganiad i'r wasg a rhoi cyfle iddyn nhw wneud hynny ar ôl i bobl Cymru ddysgu beth yw'r penderfyniad hwnnw drwy'r Senedd a'r senedd etholedig hon, Gweinidog?
Mae yna dri set o reoliadau o'n blaenau ni heddiw. Mae'r ddau gyntaf yn estyn y sefyllfa bresennol. Gan ein bod ni mewn sefyllfa ddigon heriol ar hyn o bryd efo achosion uchel iawn o COVID, rydyn ni'n credu bod hynny'n beth synhwyrol iawn i'w wneud. Mi fyddwn ni yn cefnogi y rheoliadau hynny, felly, a dwi ddim yn meddwl bod angen sylwadau pellach gen i. Ond am yr union reswm rydyn ni yn mynd i gefnogi parhau â'r rheoliadau hynny, dydyn ni ddim yn gallu cefnogi diwygiad rhif 8, achos dydw i na'r meinciau yma ddim yn gallu deall pam bod y Llywodraeth wedi penderfynu symud i godi'r mesurau diogelwch yma ar y pwynt yma mewn amser.
Gadewch i mi ddyfynnu geiriau'r Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma, wrth ateb cwestiwn, mewn gwirionedd, am y gwasanaeth ambiwlans. Dywedodd bod
'gennym ni rai o'r niferoedd uchaf o bobl yn mynd yn sâl gyda'r feirws ar unrhyw adeg yn y pandemig cyfan. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, fe wnaethom ni lwyddo i leihau nifer y bobl yn ein gwelyau ysbyty a oedd yn dioddef o'r coronafeirws i lawr i tua 700. Aeth uwchben 1,400 ddoe'— a chadarnhawyd hyn gan y Gweinidog yma nawr—
'ac mae'r nifer hwnnw wedi parhau i godi.'
Fe'i galwodd yn gyd-destun
'heriol iawn, a chyd-destun sydd wedi bod yn dirywio'.
Felly, yn y cyd-destun heriol hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dileu'r rhan fwyaf o'r mesurau amddiffynnol cymedrol iawn ond pwysig, mewn gwirionedd, sydd ar waith o hyd. A phan fyddwch chi'n ystyried gorchuddion wyneb yn benodol, nid ydyn nhw'n tarfu dim o gwbl, nac ydyn? Pam cael gwared ar y rheolau gorfodol mewn lleoliadau manwerthu a thrafnidiaeth yn awr?
Ac os oes rhai arwyddion—gobeithio bod—fod achosion yn dechrau sefydlogi yng Nghymru gyfan, gallwn fod yn eithaf sicr, mewn rhai rhannau o Gymru, y gorllewin yn arbennig, gan gynnwys Ynys Môn, nad ydym wedi cyrraedd yr uchafbwynt eto, oherwydd dyna fu patrwm lledaeniad y feirws hwn drwyddi draw. Mae'n symud o'r dwyrain i'r gorllewin. Dyna sut mae pandemigau'n gweithio. Pam amlygu pobl yn fwy i'r feirws cyn i ni wybod ein bod ni dros yr uchafbwynt presennol hwn?
Mi ddywedodd y Gweinidog y prynhawn yma allwn ni ddim cadw rheoliadau yn eu lle am byth. Dwi'n cytuno yn llwyr, a phetasem ni'n cael y bleidlais yma mewn tair wythnos, dwi'n reit siŵr y buaswn i'n ei chefnogi, ond efo pobl sydd yn dal yn teimlo'n fregus ac yn nerfus yn gorfod mynd i siop neu fynd ar fws neu drên, pam creu mwy o risg iddyn nhw rŵan?
Y warchodaeth arall sy'n mynd yn llwyr rŵan ydy'r gofyn ar bobl i hunanynysu. Eto, pam gwneud hynny rŵan? Yr unig reswm y gallaf i feddwl pam y byddech chi am wneud hynny ydy i helpu gwneud gwasanaethau cyhoeddus ac ati yn gynaliadwy drwy gael pobl sydd yn profi'n bositif i fynd i'r gwaith beth bynnag, achos, cofiwch, fydd yna ddim profion LFT ar gael o ddydd Gwener am ddim, dim prawf, dim prawf positif—dim prawf positif, dim COVID, felly i'r gwaith â chi. O bosib. All y Gweinidog gadarnhau mai dyna ydy'r bwriad? A hyd yn oed os oes rhywun yn profi'n bositif, os dydyn nhw ddim yn sâl, mi fyddan nhw dan bwysau mawr, dwi'n ofni, i fynd i'r gwaith. Dyna pam fod y TUC heddiw wedi dweud eu bod nhw yn siomedig efo'r penderfyniad yma. Mi fydd o'n newid y berthynas rhwng y cyflogwr a'r sawl sy'n cael ei gyflogi. Os mai diogelwch ydy'r flaenoriaeth, fel mae Llywodraeth Cymru wedi ei fynnu drwy gydol y pandemig yma, pam ddim disgwyl ychydig bach i'r don yma fod drosodd? Dydy o ddim yn gwneud synnwyr i fi a dydy o ddim yn gwneud synnwyr i'r nifer uchel o bobl sydd wedi bod yn cysylltu efo fi a, dwi'n amau, efo llawer o Aelodau eraill ers y cyhoeddiad ddydd Gwener ddiwethaf.
I gloi, Llywydd, rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwneud pob math o arfarniadau gwleidyddol ar ôl edrych ar dystiolaeth. Yn yr achos hwn, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei farn yn anghywir, a dyna pam y byddwn ni'n gwrthwynebu'r rheoliad diwygiedig hwn.
Y Gweinidog iechyd i ymateb nawr. Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Wrth gwrs, rydym ni'n awyddus iawn, Russell, i sicrhau bod gennym ni ddyddiad gorffen, a dyna pam mai dim ond ymestyn rhai rhannau bach iawn o Ddeddf COVID yr ydym ni'n ei wneud, a'r rheswm pam mae hynny ar waith yw oherwydd, mewn gwirionedd, nid ydym yn gwybod beth sy'n dod nesaf ac mae angen i ni gael rhywfaint o gynlluniau wrth gefn rhag ofn. Felly, yn ddelfrydol, nid ydym ni eisiau defnyddio'r pwerau hyn, oherwydd, mewn gwirionedd, byddwn ni mewn sefyllfa lle mae popeth dan reolaeth, ond nid ydym yn gwybod. Ydym ni'n mynd i gael amrywiolyn newydd a fydd yn taro popeth allan a bod yn llawer mwy difrifol? Mae angen i ni fod yn barod i ymateb, a dyna pam mae'n bwysig cadw'r cyfle hwnnw i ailgychwyn pethau ar y llyfrau. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ddysgu byw â COVID.
Gorchuddion wyneb: yr hyn sy'n digwydd yw ein bod ni'n eu symud o fod yn gyfraith i fod yn arweiniad, sy'n bwysig iawn i'w gofio, oherwydd, mewn gwirionedd, mae ein harweiniad yn dal i fod yn glir y dylech chi fod yn ofalus iawn ac y dylech chi fod yn meddwl yn ofalus iawn am yr angen i wisgo gorchudd wyneb, yn enwedig mewn man cyhoeddus dan do, lle mae llawer o bobl. Mae'n fater o farn gref iawn o'r ddwy ochr. Dyna'n union yr oedd Rhun yn ei ddweud: mae'n fater o farn. Hoffech chi ddod i mewn?
Os caf i. Yn gyffredinol, ydych chi'n meddwl y bydd symud gwisgo gorchudd wyneb o fod yn orfodol i arweiniad yn gwneud i fwy neu lai o bobl wisgo un?
Rwy'n credu ein bod ni mewn lle yn awr lle mae angen i ni ymddiried yn y cyhoedd, ac mewn gwirionedd mae'r cyhoedd yng Nghymru wedi bod yn eithaf rhyfeddol. Maen nhw wedi bod yn eithaf rhyfeddol. Maen nhw wedi dilyn arweiniad, ac mae yn anodd, ond, ar ryw adeg, mae'n rhaid i chi wneud y newid hwnnw. Hefyd, rwy'n meddwl, mae yn anodd. Ni yw'r unig le—ac yn sicr pan oeddem yn gwneud y galwadau hyn—yr unig le yn y DU i fod â'r rheoliadau tynnaf o hyd ac mae gennym ni'r lefelau isaf o COVID. Nawr, byddwn ni bob amser yn gwneud yr hyn sy'n iawn i ni yng Nghymru, ac rydym ni wedi gwneud hynny yr holl ffordd drwodd. Nid ydym erioed wedi cael ein gwthio o gwmpas, nid ydym erioed wedi dilyn yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, ond roeddem ni wedi nodi map ffyrdd, a'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud yma yw cyfaddawdu, oherwydd y sefyllfa, ond rydym ni yn credu ei bod yn bryd yn awr i'r cyhoedd ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw. Maen nhw'n gwybod beth i'w wneud, maen nhw wedi bod yn ei wneud. Mae pobl wedi bod yn wych, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall bod y cyfrifoldeb hwnnw yn symud iddyn nhw yn awr.
Ond o ran lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, pam ydym ni wedi eu cadw nhw yno? Wel, rydym ni wedi eu cadw nhw yno oherwydd bod y rhain yn lleoliadau agored iawn i niwed. Dyma le mae'r bobl fwyaf agored i niwed. Rydym yn pryderu'n fawr am drosglwyddiad nosocomiaidd, trosglwyddo o fewn ysbytai, ac felly dyna un o'r rhesymau pam rydym ni wedi sicrhau ein bod wedi cadw'r amddiffyniadau hynny ar waith i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed. Oherwydd, fel y dywedais, bydd yn rhaid i ni ddysgu byw â hyn, ond y bobl y mae angen i ni ofalu amdanyn nhw yn gyson yw'r bobl fwyaf agored i niwed.
Bydd gennym ni'r cylch tair wythnos hwn. Mae'r ffaith nad ydym ni wedi dod â'r amddiffyniadau cyfreithiol i ben yn golygu y bydd cylch arall. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, ie.
Mae'n ddrwg gen i, a gaf i ofyn—? Rwy'n llwyr werthfawrogi'r hyn y gwnaethoch ei ddweud o ran gadael i bobl Cymru wneud eu penderfyniadau ar farn eu hunain. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn y gwnaethoch ei ddweud yn hynny o beth. Fy nghwestiwn am y lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, serch hynny, oedd: rwy'n cytuno ei bod yn synhwyrol, wrth gwrs, i'r staff hynny wisgo gorchudd wyneb wrth symud ymlaen, ond yr oedd fy nghwestiwn yn ymwneud â'r rhesymeg y tu ôl i beidio â chaniatáu iddyn nhw wneud y dewis hwnnw, fel yr ydych chi wedi amlinellu eich hun mewn lleoliadau eraill. Nid wyf i'n deall y rhesymeg honno.
Rwy'n credu mai'r rheswm am hyn yw nad ydym ni eisiau gweld unrhyw amwysedd yn y lleoliadau hynny. Rydym ni yn credu, yn y lleoliadau hynny'n benodol, fod gennym ni gyfrifoldeb i amddiffyn y bobl sydd fwyaf agored i niwed. Felly, hynny yw—. Y lleoliad gwahanol sy'n gwneud gwahaniaeth.
Felly, byddwn yn parhau i roi diweddariadau rheolaidd bob tair wythnos. Rydych chi wastad wedi gwybod am yr adolygiad 21 diwrnod; mae'r rhythm bob amser wedi digwydd yn y ffordd y mae wedi digwydd o'r dechrau. Rydym ni bob amser yn dod ag ef i'r Siambr cyn gynted ag y gallwn, ac, wrth gwrs, byddwn yn parhau i wneud hynny. Rwy'n credu y byddwn yn parhau i roi diweddariadau rheolaidd tan fis Mehefin o leiaf, pan fydd yr amddiffyniadau terfynol, mewn gwirionedd, rydym yn gobeithio, os aiff popeth i'r cyfeiriad iawn, yn y lle hwnnw.
Rhun, mae'r sefyllfa yn un heriol, a dyna pam rŷn ni wedi estyn y rheoliadau, i ryw raddau. Fel roeddwn yn egluro i Russell, mae hi wedi bod yn alwad eithaf anodd, ond mae'n falans. Roedd cynllun gyda ni. Rŷn ni wedi setio allan y cynllun, a beth rŷn ni wedi ei wneud yw cyfaddawdu, i raddau, yn y sefyllfa yma, achos bod y niferoedd yn dal i fod yn uchel. Rŷn ni'n symud y cyfrifoldeb o'r Llywodraeth i'r unigolyn, ac mae'r balans—. Dwi'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni'n deall bod yna ddeddfwriaeth, ond jest achos ei fod yn symud i ganllawiau, dyw e ddim yn golygu nad oes raid i chi ei wneud e.
Nawr, mae'n wahanol, ac mae'r cwestiwn roeddech chi'n codi ynglŷn â hunanynysu—. Fel rŷch chi'n ymwybodol, yn yr Alban dyw e byth wedi bod yn y gyfraith fod yn rhaid i chi hunanynysu, ond eto mae pobl wedi bod yn dilyn y canllawiau, ac rŷn ni yn gobeithio y bydd hynny'n digwydd yma yng Nghymru. Rŷn ni yn hollol glir yn y canllawiau: os ydych chi'n cael COVID, mi ddylech chi fod yn hunanynysu. A dyna un o'r rhesymau pam, er enghraifft, rŷn ni wedi cario ymlaen i sicrhau bod yna gyfrifoldeb ar bobl yn y gweithle i barhau â'r asesiadau risg yna. Os yw'r asesiadau risg yna'n caniatáu i bobl ddod i mewn â COVID, mae rhywbeth yn bod â'u hasesiad risg nhw. Felly, mae'n bwysig bod y cyfarwyddyd—a'ch bod chi'n ymwybodol fod yn rhaid i'r rheini gael eu cyhoeddi. Mae'n rhaid i bobl gael gweld y rheini, a dyna pam rŷn ni'n meddwl bod y diogelwch yna mewn lle ar gyfer pobl. Ond judgment call yw hi, a dyna'r judgment rŷn ni wedi dod iddo fe fel Llywodraeth.
Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10, yn gyntaf? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, bydd yna ohirio'r bleidlais ar eitem 10.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 11? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig o dan eitem 11 wedi'i dderbyn.
Y cwestiwn olaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 12? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac fe fyddaf i'n gohirio eitem 12 hefyd ar gyfer y bleidlais yn nes ymlaen.