14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau

– Senedd Cymru am 6:22 pm ar 29 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:22, 29 Mawrth 2022

Eitem 14 sydd nesaf, a'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau yw hwnnw. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig yna. Mick Antoniw.

Cynnig NDM7968 Mick Antoniw

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Etholiadau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 6:22, 29 Mawrth 2022

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i egluro pam rwyf yn argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau yn y Bil Etholiadau.

Yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro am yr oedi cyn gosod y memorandwm atodol a achoswyd gan y trafodaethau cymhleth a hirfaith rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar nifer o ddarpariaethau'r Bil. Yr wyf yn difaru am yr oedi a effeithiodd ar yr amser a gafodd y pwyllgorau i archwilio'r darpariaethau diweddaraf.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 6:23, 29 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am y pwyntiau defnyddiol a godwyd yn eu hadroddiadau. Byddan nhw'n falch o glywed am ein hymgysylltiad adeiladol â Llywodraeth y DU a'r cynnydd sylweddol a gyflawnwyd.

Cyn i mi roi rhagor o fanylion i'r Aelodau am yr hyn sydd wedi'i gyflawni, a gaf i atgoffa'r Aelodau o ddull Llywodraeth Cymru o ddiwygio etholiadol, a gynhwysir yn yr egwyddorion ar gyfer diwygio etholiadol, a gyhoeddwyd fis Gorffennaf diwethaf? Maen nhw'n egwyddorion sy'n seiliedig ar werthoedd cyfiawnder cymdeithasol a democratiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb, hygyrchedd a symlrwydd. Gresynwn nad yw Llywodraeth y DU yn rhannu ein blaenoriaethau.

Rydym wedi gwneud cynnydd pwysig tuag at gyflawni'r egwyddorion hyn. Y llynedd, gwnaethom etholfreinio pobl ifanc 16 a 17 oed a hefyd dinasyddion tramor cymwys—y bobl hynny sy'n cyfrannu cymaint at ein cymunedau a'n cenedl ac sy'n haeddu cael eu lleisiau wedi'u clywed yng Nghymru, os nad yn Lloegr. Rydym hefyd yn adeiladu ar hyn drwy weithio gydag awdurdodau lleol, partneriaid addysg a'r trydydd sector ar ymgyrch ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth gynhwysfawr cyn etholiadau mis Mai. Roedd diwrnod cofrestru pleidleiswyr yr wythnos diwethaf yn annog pobl ifanc sydd newydd eu hetholfreinio i gofrestru i bleidleisio ac i ddylanwadu ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. A daeth Gorchmynion i rym yr wythnos diwethaf i alluogi cynlluniau treialu pleidleisio ymlaen llaw ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Thorfaen, gan roi hyblygrwydd i bobl ynghylch pryd a ble y gallan nhw bleidleisio yn etholiadau mis Mai. Rydym ni'n ddiolchgar i bartneriaid llywodraeth leol am helpu etholiadau yng Nghymru i fod mor hygyrch â phosibl, gan leihau'r diffyg democrataidd.

Nawr, bydd Aelodau'n gwybod, yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol a osodwyd ar 9 Medi 2021, na allwn i argymell cydsyniad i'r Bil. Roedd gennyf bryderon y byddai'r Bil, fel y'i drafftiwyd, yn cael effaith andwyol ar gymhwysedd datganoledig. Fel llawer ohonom ni yn y Siambr hon, nid wyf yn cytuno â'r Bil, ond mae'n bleser gennyf adrodd bod y Bil bellach yn cydnabod pwerau datganoledig yn well. Ac eithrio dau faes sy'n ymwneud â throsedd bygythiadau ac argraffau digidol, mae Cymru i bob pwrpas wedi'i thynnu allan o'r Bil o ran etholiadau datganoledig. Gallaf felly argymell cydsyniad, fel y nodir yn y memorandwm atodol, a osodwyd ar 22 Mawrth.

O ganlyniad i'n trafodaethau, mae Llywodraeth y DU bellach wedi cydnabod ein prif feysydd o bryderon, a nodwyd yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol—pryderon a rennir hefyd gan y pwyllgorau ac a nodwyd yn eu hadroddiadau. Ni fydd cynigion prawf adnabod pleidleiswyr yn berthnasol i etholiadau'r Senedd a'r cyngor. Mae darpariaethau sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i gyfarwyddo'r Comisiwn Etholiadol wrth gyflawni ei swyddogaethau yng Nghymru wedi'u dileu a'u disodli gan welliannau a gyflwynwyd ar 28 Chwefror ac y cytunwyd arnynt yng Nghyfnod Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi, yn ogystal â chynigion ynghylch dylanwad gormodol, gwariant tybiannol a chyllid gwleidyddol arall. Ceir amlinelliad o'r gwelliannau perthnasol ym mharagraffau 17 i 29 o'r memorandwm atodol.

Mae gwahaniaeth barn o hyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar rai materion sy'n ymwneud ag argraffau digidol a'r drosedd o fygwth. Fodd bynnag, mae'r rhain yn ymwneud â chymhwysedd yn hytrach na bwriad y polisi. Mae'r polisi ar argraffau digidol yn ymwneud â thryloywder etholiadol. Ar gyfer etholiadau datganoledig, mae hyn o fewn cymhwysedd datganoledig ac mae angen cydsyniad y Senedd. Cytunwn ei bod yn bwysig amddiffyn cyfranogwyr yn y broses ddemocrataidd, ac felly nid ydym yn gwrthwynebu mewn egwyddor y darpariaethau ar fygythiadau. Fodd bynnag, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno y dylai pob deddfwrfa fod yn rhydd i benderfynu ar y drefn anghymhwyso ar gyfer etholiadau y mae'n gyfrifol amdanynt.

I ailadrodd, rwyf yn dal i wrthwynebu'r Bil, sydd, yn fy marn i, yn ddiangen ac yn ymwneud yn fwy ag atal pleidleiswyr a galluogi cyllido tramor na gwella democratiaeth ac uniondeb etholiadol. Ond rwy'n fodlon na fydd y newidiadau yr ydym ni wedi'u sicrhau ar gyfer Cymru, yn unol â chonfensiwn Sewel, ac eithrio'r ddau faes o anghytuno ar gymhwysedd—. Rydym yn fodlon na fydd prif elfennau'r Bil bellach yn effeithio ar faterion sydd o fewn cymhwysedd y Senedd. Rwyf yn dal yn gadarn o'r farn ein bod yn rhydd i ystyried y materion hyn ymhellach mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid yng Nghymru, a bwriadwn edrych arnyn nhw eto pan symudwn ymlaen gyda'n deddfwriaeth diwygio etholiadol ein hunain. Rwyf bellach yn fodlon y gall y Senedd roi ei chydsyniad i'r Bil. Diolch yn fawr, Llywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:27, 29 Mawrth 2022

Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai nawr, John Griffiths.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Gwnaethom ni osod ein hadroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Etholiadau ym mis Rhagfyr y llynedd, ac yn yr adroddiad hwnnw fe wnaethom nodi safbwynt Llywodraeth Cymru y byddai'n amhriodol rhoi caniatâd i Lywodraeth y DU ddeddfu ar y materion datganoledig sydd wedi'u cynnwys yn y Bil hwn. Cytunodd y rhan fwyaf o'n pwyllgor na ddylid rhoi caniatâd ar y sail y dylai unrhyw gynigion i ddeddfu ar y materion datganoledig hyn gael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru ac yn amodol ar graffu llawn gan y Senedd. Roedd dau Aelod, Joel James a Sam Rowlands, yn anghytuno â'r farn honno ac yn credu y dylid rhoi caniatâd.

Ers hynny, gosodwyd yr LCM atodol o ran y Bil hwn ar 22 Mawrth, a chawsom wahoddiad gan y Pwyllgor Busnes i ystyried ac adrodd ar yr LCM atodol Rhif 2 hwnnw, erbyn heddiw. Dim ond un cyfarfod a gawsom a oedd wedi'i drefnu o fewn yr amserlen honno ar 23 Mawrth. Cawsom sesiwn friffio ar lafar gan y Gwasanaethau Cyfreithiol yn y cyfarfod hwnnw. Fodd bynnag, oherwydd yr amser cyfyngedig iawn sydd ar gael, nid ydym wedi gallu ystyried nodyn cyngor cyfreithiol nac adrodd ar yr LCM atodol.

Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol fy mod wedi ysgrifennu ato ddydd Gwener, gan fynegi ein rhwystredigaeth am fethu â gwneud unrhyw waith manwl ar yr LCM atodol hwn. Mae'r darpariaethau yn yr LCM atodol yn ymwneud â gwelliannau a gyflwynwyd i'r Bil Etholiadau ar 11 Ionawr a 28 Chwefror. Felly, mae'r oedi cyn gosod yr LCM atodol yn siomedig iawn. Rydym yn pryderu'n fawr am y dull a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i beidio â gosod LCM atodol ar wahân, ar ôl cyflwyno pob cyfran o welliannau. Nid yw'r oedi wedi gadael amser i'n pwyllgor graffu ar yr LCM atodol cyn iddo gael ei drafod heddiw, ac rydym yn pryderu bod y ddadl hon yn digwydd heb i Aelodau gael y fantais o allu ystyried adroddiad gan bwyllgor perthnasol yn y Senedd i lywio eu barn. Mae'r sefyllfa hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd gosod LCMs, neu yn wir LCMs atodol, mewn modd amserol.

O ystyried y ddadl flaenorol, Llywydd, mae'n amlwg yn bryder arbennig i'r pwyllgor fy mod wedi gorfod ailadrodd y math hwn o neges mewn perthynas â nifer o LCMs atodol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru heb ddigon o amser i graffu arnynt. Rydym newydd drafod yr LCM atodol hwnnw ar gyfer diogelwch adeiladau heddiw, ac ym mis Rhagfyr y llynedd, mynegais siom y pwyllgor fod yr oedi wrth osod memoranda atodol mewn perthynas â'r Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) hefyd yn cyfyngu ar ein gallu i graffu ar y ddeddfwriaeth honno. Felly, hoffwn i ailadrodd fy nghais, cais y pwyllgor, i Lywodraeth Cymru, Llywydd, sicrhau bod gan bwyllgorau'r amser a'r wybodaeth angenrheidiol i allu chwarae rhan ystyrlon, rhan briodol, yn y broses cydsyniad deddfwriaethol. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:31, 29 Mawrth 2022

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nesaf. Huw Irranca-Davies.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

Diolch, Llywydd. Fe wnaethom gyhoeddi adroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau ym mis Rhagfyr y llynedd. Er inni ystyried y memorandwm atodol yn ystod ein cyfarfod ddoe, gan iddo ond gael ei osod ddydd Mawrth diwethaf, nid oedd modd inni gyhoeddi adroddiad yn yr amser a oedd ar gael i ni.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Yn ein hadroddiad ar y memorandwm, mynegwyd pryder difrifol gennym ynghylch y darpariaethau a gynhwyswyd yn y Bil ar ei gyflwyno a effeithiodd ar feysydd datganoledig ac ar y trefniadau atebolrwydd ar gyfer gweithgareddau'r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru fel y nodir yn Neddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Roeddem yr un mor bryderus, bryd hynny, am y diffyg ymgysylltu ymddangosiadol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn maes polisi cyhoeddus mor arwyddocaol—fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i nodi, mae hyn yn bwysig iawn. Mae o bwysigrwydd sylfaenol i hawliau dinasyddion a'u hymgysylltiad â'r broses ddemocrataidd i benderfynu pwy sy'n eu rheoli. Roeddem ni felly'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i nodi y prynhawn yma, wedi cyflwyno gwelliannau a oedd yn tynnu etholiadau datganoledig yng Nghymru o gwmpas y darpariaethau a achosodd bryder mawr i ni, ac mae hynny i'w groesawu.

Trof yn awr at y pedwar argymhelliad a wnaethom yn ein hadroddiad, a derbyniwyd y tri cyntaf, yn wir, gan y Cwnsler Cyffredinol, a derbyniwyd y pedwerydd mewn egwyddor. Roedd ein hargymhelliad cyntaf yn galw ar y Cwnsler Cyffredinol, ar ôl i'r Bil gwblhau ei daith drwy Senedd y DU, i gyhoeddi datganiad ar oblygiadau'r ddeddfwriaeth ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru. Mae wedi amlinellu rhywfaint o hyn y prynhawn yma, ond mae wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Rydym yn croesawu hynny, ac edrychwn ymlaen at weld y datganiad gennych.

Roedd ein hail argymhelliad yn ymwneud â'r farn a fynegwyd yn y memorandwm y byddai'n well gan Lywodraeth Cymru ymgynghori â rhanddeiliaid yng Nghymru a chyflwyno ei deddfwriaeth etholiadol ei hun i graffu arni yn y Senedd maes o law. Cwnsler Cyffredinol, yn eich ymateb i'r pwyllgor, fe wnaethoch chi ddweud hefyd fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon mewn pryd ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd yn 2026, yn amodol ar ofynion eraill. Rydym ni'n croesawu'r bwriad hwn—rydym yn ei gefnogi. Rydym yn ei weld fel cyfle i atgyfnerthu'r gyfraith ar gyfer etholiadau datganoledig Cymru, a fyddai'n helpu pobl i ddeall y gyfraith honno ac, unwaith eto, yn ei gwneud yn fwy hygyrch yn Gymraeg ac yn Saesneg. Felly, byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae'r cynlluniau hynny'n mynd rhagddynt mewn ymateb i'r ddadl hon heddiw.

Roedd ein trydydd argymhelliad yn ymwneud â'r darpariaethau gwreiddiol a effeithiodd ar feysydd datganoledig, y soniais amdanyn nhw'n flaenorol, a gofynnais bryd yr oedd y Cwnsler Cyffredinol yn bwriadu cyflwyno memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol yn ymwneud â gwelliannau a gyflwynwyd i'r Bil. Fel y mae'r memorandwm atodol a gyflwynwyd ddydd Mawrth diwethaf yn cadarnhau, cyflwynwyd gwelliannau i'r Bil ar 11 Ionawr, 17 Ionawr a 28 Chwefror. Hoffwn, ar hyn o bryd, adleisio'r hyn y mae Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi'i ddweud wrth ddweud bod rhywfaint o siom ynghylch yr oedi cyn cyflwyno'r memorandwm atodol ar ôl i'r gwelliannau hyn gael eu gosod. Rwyf hefyd yn adleisio'r hyn a ddywedais yn y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil diwygio cyfraith lesddaliad yn ôl ym mis Rhagfyr. Mae'r oedi hwn wrth gyfleu gwybodaeth hanfodol i'r Senedd tan yn hwyr yn y broses gydsyniad yn lleihau'n fawr yr amser sydd gennym i graffu'n effeithiol ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru. Byddai gosod memoranda atodol yn gynharach, fel mater o arfer da iawn, wedi ein galluogi i ystyried y materion yn fanylach ac adrodd i'r Senedd mewn pryd ar gyfer y ddadl heddiw. Felly, rydym yn llwyr gefnogi'r hyn y dywedodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wrthym mewn gohebiaeth yr wythnos diwethaf am yr oedi cyn cyflwyno'r memorandwm atodol penodol hwn pan wnaethon nhw ddweud, er nad yw'n torri'r Rheolau Sefydlog, ei fod yn sicr yn mynd yn groes i ysbryd Rheol Sefydlog 29.2.

Roedd yr argymhelliad olaf yn ein hadroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys sylwadau ar faint o gydweithredu ac ymgysylltu â Llywodraeth y DU ym mhob memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Gwnaethom yr argymhelliad hwn gan nad oedd yn glir i ni sut y daethpwyd i'r sefyllfa a nodwyd yn y memorandwm hwn o ran y darpariaethau mwyaf dadleuol yn y Bil, ac i ba raddau y mae Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru. Rydym yn croesawu'n fawr yr ymateb cadarnhaol i'r argymhelliad hwnnw, ac yn arbennig y bydd memoranda yn y dyfodol yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y graddau y mae Llywodraeth y DU yn cydweithredu ac yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Credwn fod hyn yn hanfodol am yr holl resymau rydym wedi'u nodi y prynhawn yma.

Yn olaf, nodwn ac felly rydym yn croesawu'r cyfeiriadau a wnaed yn y memorandwm cydsyniad atodol at yr ymgysylltu adeiladol a gafwyd wedyn â Llywodraeth y DU ers i'r memorandwm cyntaf gael ei gyflwyno ac, wrth gwrs, dylanwad llwyddiannus Llywodraeth Cymru ar y Bil yn y meysydd lle ceisiodd Llywodraeth Cymru welliannau. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:36, 29 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Cwnsler Cyffredinol, hoffwn ddechrau drwy eich llongyfarch chi a Llywodraeth Cymru ar y consesiynau yr ydych wedi'u cael gan Lywodraeth San Steffan o ran y Bil hwn? Mae'n rhaid ei bod y nesaf beth i amhosibl ceisio gweithio gyda'r Llywodraeth honno—Llywodraeth nad yw'n gwrando.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:37, 29 Mawrth 2022

Llywodraeth sydd ddim hyd yn oed yn gwrando ar arbenigwyr fel y Comisiwn Etholiadol. Ond—ac mae yna 'ond'—rwy'n anghyfforddus iawn gyda'r syniad ein bod ni fan hyn yn y Senedd yn cael ein gofyn i roi cydsyniad i siẁt Fil—Bil a fydd, trwy'r system ddrud o ID pleidleisio, yn gallu eithrio miliynau o'r bobl fwyaf difreintiedig ar draws Prydain rhag pleidleisio. Rwy'n anghyfforddus iawn bod y Senedd yma, sydd wedi ymffrostio gymaint am ehangu democratiaeth yng Nghymru, yn cael ei gofyn i gydsynio i Fil a fydd yn tanseilio annibyniaeth y Comisiwn Etholiadol.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi clywed dro ar ôl tro am ymyrraeth Putin o fewn democratiaethau gorllewinol ac etholiadau gorllewinol. Ai dyma'r amser mewn gwirionedd i danseilio rheoleiddiwr annibynnol etholiadau yma yn y Deyrnas Unedig? Erbyn hyn rydych wedi fy nghlywed ar sawl achlysur yn cwyno nid yn unig am y Bil hwn—.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 6:38, 29 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

A ydych chi'n credu, o ystyried y delweddau yr ydym ni'n eu gweld dro ar ôl tro ar y teledu, a gyflawnwyd yn enw Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, ei bod islaw'r Aelod i gymharu gweithredoedd Llywodraeth y DU â'r unben hwnnw? Gofynnaf i chi ystyried y sylwadau hynny yr ydych newydd eu gwneud. 

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Pe baech wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn a ddywedais, arweinydd yr wrthblaid, yr hyn a ddywedais oedd ein bod wedi clywed dro ar ôl tro am ymyrraeth Putin mewn democratiaethau gorllewinol ac mewn etholiadau gorllewinol. Mae bod â rheoleiddiwr cryf, annibynnol ar gyfer etholiadau yn hanfodol i atal yr ymyrraeth honno. Nid oeddwn yn cymharu'r hyn y mae Putin yn ei wneud gyda'r Ceidwadwyr, felly gofynnaf i chi dynnu hynny'n ôl, arweinydd yr wrthblaid.

Llywydd, byddwch yn falch o wybod, a bydd pawb arall yma'n falch o wybod, yn enwedig y rhai sy'n mynd i'r pêl-droed, nad wyf yn mynd i ailadrodd fy nadl am LCMs nac am y Bil hwn.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:39, 29 Mawrth 2022

Mawr obeithiaf y gwelwn ni Fil etholiadau Cymreig yma yn y Senedd a fydd yn dangos unwaith eto sut mae Senedd Cymru yn rhoi hawliau a chyfiawnder a phobl yng nghanol pob gweithred rŷn ni yn ei wneud. Dwi'n cofio Adam Price yn dweud wrthyf fi un tro bod cyfiawnder, bod chwarae teg, yn rhan o DNA ni'r Cymry. Wel, does dim chwarae teg yn y Bil yma. Doedd dim chwarae teg yn y Bil cenedligrwydd—Bil sy'n cosbi ffoaduriaid, sy'n cosbi Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Fe wnaeth y Senedd yma gydsynio i ran o'r Bil yna. Yn hytrach na chydsynio, dwi'n credu dylen ni fod wedi anfon neges hollol glir i San Steffan nad ydym ni eisiau wnelo dim â Biliau sy'n sathru ar hawliau pobl. Mae’r ddadl ein bod ni ond yn cydsynio i’r adrannau sydd o fewn ein setliad datganoledig, yn fy marn i, yn un gwan. Dyw’r ffaith fod yna rhannau da o’r Bil ddim yn ei gwneud hi’n werth i ni fan hyn ei chefnogi. Does dim modd i ni fan hyn yn y Senedd i wahanu ein hunain o’r darlun ehangach. Dywedodd un o fy arwyr i, y bardd a’r comiwnydd Niclas y Glais, y geiriau hyn:

'Mae’r byd yn fwy na Chymru / Rwy’n gwybod hynny'n awr / A diolch fod hen Gymru fach / Yn rhan o fyd mor fawr.'

Oherwydd ein bod ni'n rhan o rywbeth cymaint mwy na jest y setliad datganoledig, cymaint mwy na jest ni yng Nghymru, allwn ni ddim cuddio tu ôl i'r setliad datganoledig a dweud, ‘Wel, dŷn ni’n cytuno â’r rhannau sy’n ymwneud a datganoli’. Oherwydd yn y bôn, fel rŷch chi wedi dweud, Gwnsler Cyffredinol, mae’r Bil yma yn un gwael. Does dim angen y Bil yma. Mae'r Bil yma wedi cael ei gynllunio i danseilio hawliau pobl, ac oherwydd hynny, ni allwn ni fan hyn ym Mhlaid Cymru—a dwi'n browd ohonom ni fel plaid—gydsynio i siẁt Fil. Diolch yn fawr. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:41, 29 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Alun Davies. [Torri ar draws.] Na, na, na, na, na, na. 'O Dduw', ddywedasoch chi? Pwy ddwedodd hynna? Alun Davies.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Gallai fod wedi bod fy mhlant, a bod yn deg, Llywydd. [Chwerthin.] Rwyf yn siarad o blaid y Llywodraeth a'r cynnig sy'n cael ei wneud y prynhawn yma. I ddechrau lle daeth Rhys ab Owen i'w gasgliad, wrth gwrs nid yw yn ein pŵer i roi cydsyniad ar gyfer y ddeddfwriaeth hon i gyd. Dyma ddeddfwriaeth San Steffan sydd wedi'i chynllunio'n bennaf ac yn gyffredinol ar gyfer etholiadau'r DU ac etholiadau Lloegr. Nid yw yn ein pŵer i atal y Bil rhag mynd yn ei flaen, ac nid wyf yn credu y dylem esgus ei fod. Yr hyn yr wyf i eisiau ei wneud y prynhawn yma yw llongyfarch y Cwnsler Cyffredinol ar y modd y mae wedi negodi gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a sicrhau bod yr eitemau hynny wedi'u tynnu o'r Bil, a bod gennym gyfle i ddiogelu etholiadau Cymru rhag yr ymosodiad hwn ar onestrwydd ein democratiaeth. Hoffwn atgoffa Rhys yn dyner, pe bai Plaid Cymru wedi pleidleisio dros ddeddfwriaeth 2017, rwy'n credu, bydden nhw wedi gallu pleidleisio dros hwn hefyd, gan wybod eu bod wedi rhoi'r cyfle inni roi'r gorau i Gymru o'r ddeddfwriaeth hon.

Mae'r Bil cyffredinol sy'n cael ei gyflwyno drwy Senedd San Steffan yn Fil gwael. Mae'n Fil gwael iawn sy'n gwneud pethau drwg. Mae'n ceisio tanseilio uniondeb ein democratiaeth drwy danseilio annibyniaeth a phwerau'r rheoleiddiwr. Ar adeg pan yr ydym ni i gyd yn pryderu'n fawr am ddylanwad arian tywyll—rwyf yn petruso cyn dweud 'arian budr', ond rwy'n amau bod arian budr yng ngwleidyddiaeth Prydain hefyd—mae angen i ni gryfhau rheoleiddio ein democratiaeth yn annibynnol, ac mae angen i ni gryfhau gallu'r Comisiwn Etholiadol i gynnal ymchwiliadau i ble y daw arian, i ddilyn y trywydd ac i erlyn y bobl hynny sy'n euog o gamweddau. Rwyf eisiau gweld rheoleiddiwr mwy pwerus yn diogelu ein democratiaeth, nid rheoleiddiwr llai pwerus. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn a allwn ni yn y lle hwn i wreiddio nid yn unig prosesau democratiaeth, ond hefyd ddiwylliant o ddemocratiaeth, yr ydym ni weithiau'n anghofio amdano.

Wrth gefnogi dull gweithredu'r Llywodraeth ar y ddeddfwriaeth hon, tybed a gaf i ddweud dau beth wrth y Cwnsler Cyffredinol. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai ymateb wrth grynhoi. Yn gyntaf oll, a oes gennym ni gyfle dros y Senedd hon i gryfhau'r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru a chryfhau'r modd y mae'n gallu rheoleiddio etholiadau sy'n digwydd yng Nghymru—etholiadau'r Senedd ac awdurdodau lleol—i sicrhau ein bod yn dangos ein bod eisiau gweld yr uniondeb hwn yn y ffordd yr ydym ni ein hunain yn cael ein hethol?

Yn ail, Gwnsler Cyffredinol, byddwn yn edrych ar ddiwygio'r Senedd dros dymor y Senedd hon, a gobeithio, wrth wneud hynny, y byddwch yn gallu cyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth sy'n cydgrynhoi'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n rheoleiddio sut yr ydym ni'n cynnal ein hetholiadau, er mwyn sicrhau bod gennym un Ddeddf sy'n darparu ar gyfer yr holl reolau a rheoliadau ar gyfer etholiadau yng Nghymru, fel ein bod yn gwella nid yn unig y ffordd yr ydym yn rheoli ein democratiaeth, ond hefyd yn gallu deall beth yw'r ddemocratiaeth honno hefyd. Rwy'n credu, pa ffordd bynnag y mae Llywodraeth y DU yn tanseilio diwylliant democratiaeth yn y Deyrnas Unedig, yng Nghymru yr hyn y gobeithiaf y gallwn ei wneud yw cadw'r golau hynny i dywynnu a sicrhau ein bod yng Nghymru yn dangos uniondeb nid yn unig o Lywodraeth ddemocrataidd ond o ddemocratiaeth a democratiaeth seneddol lle mae uniondeb y ddemocratiaeth honno'n bwysicach na cheisio trwsio gwahanol rannau ohoni. 

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i holl Aelodau a Chadeiryddion y pwyllgorau am eu sylwadau, ac a gaf i ategu nad wyf yn anghytuno â'r pryderon a godwyd o ran craffu? Rwy'n credu ei fod yn un o'r rhannau anffodus o'r ffordd y mae deddfwriaeth wedi bod yn dod o San Steffan a pha mor gyflym y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â materion, gwelliannau a newidiadau, a gorfod mynd ar daith droellog bron drwy Sewel i ddod i gasgliad terfynol. Byddwch yn sylwi, ar y ddeddfwriaeth hon, i bob pwrpas, oni bai am ddwy eitem yno, ni fyddai angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol o gwbl ar hyn. Daethom â'r cynnig cydsyniad yn benodol i bwysleisio'r materion cymhwysedd a gawn—nid yr anghytuno ar yr agwedd bolisi, ond y ffaith ein bod yn credu bod materion cymhwysedd, a byddwn yn ymgorffori'r rheini mewn deddfwriaeth yn y dyfodol. 

A gaf i ddweud hefyd, wrth gwrs, mai un o'r problemau, fel y byddwch chi wedi sylwi o'r gwahanol ddyddiadau sydd wedi'u crybwyll, yw bod y trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt. Effeithiwyd ar yr amserlen gan ad-drefnu ac yna rhai amgylchiadau personol ac yn y blaen a ohiriodd y cyfarfodydd rhyng-weinidogol. Ac, mewn gwirionedd, aeth i'r eiliad olaf o ran y ddwy eitem ddiwethaf hynny o ran trafodaethau a newidiadau. Ond rwy'n cydnabod hynny, ac mae mater sylfaenol yno sydd, yn fy marn i, yn fwy o un rhynglywodraethol o ran y broses ddeddfwriaethol briodol sydd yno. 

O ran y pwyntiau a wnaethpwyd gan Rhys, nid ydym yn cydsynio i'r Bil. Ein gofyniad o dan ein Rheolau Sefydlog yw ymdrin â'r pwyntiau hynny sy'n ymwneud â'n cymhwysedd datganoledig, a'r unig ddarnau yr ydym yn cytuno iddynt, mewn gwirionedd, yw'r eitemau penodol hynny sydd wedi'u nodi yno. Ac fel yr wyf eisoes wedi ei ddweud, mae'r rhan fwyaf o'r Bil arfaethedig wedi'i dynnu allan mewn gwirionedd—mae Cymru wedi'i thynnu allan o hwnnw. A gaf i gytuno â'i ddadansoddiad ar hynny? A gaf i hefyd gadarnhau wrth Alun, bod angen i ni—? Drwy dynnu allan y trefniadau o ran y Comisiwn Etholiadol o ran yr agwedd ar Gymru, rwy'n credu bod hynny wedi bod yn arwyddocaol iawn. Ac mae'n peri pryder i mi, wrth gwrs, am yr hyn sy'n aros o fewn Bil y DU, ond nid yw hynny o fewn ein cymhwysedd. Ac wrth gwrs, mae diwygio etholiadol yn fater yr wyf eisoes wedi gwneud sylwadau arno yn fy natganiad. 

Ac a gaf i ailadrodd y pwynt a wnaethpwyd yn arbennig gan Alun—a byddai'n anfoesgar i mi, oni fyddai, i sôn, pe baech wedi cael eich ffordd ar Ddeddf 2017, na fyddem yn awr mewn sefyllfa i dynnu allan y ddeddfwriaeth hon oherwydd y byddai wedi gwneud cais yn awtomatig? Ac rwy'n credu bod y llywodraeth yn y sefyllfa yn ôl bryd hynny, ein bod yn cydnabod pwysigrwydd cael y rheolaeth gyfansoddiadol honno dros ein system etholiadol. Ac rwy'n credu y dylid rhoi rhywfaint o glod i Lywodraeth Cymru am y penderfyniad penodol hwnnw ar yr adeg benodol honno. Diolch, Llywydd. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:48, 29 Mawrth 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Torri ar draws.] A oedd yna wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gweiddwch, felly, eich gwrthwynebiad, i fi gael clywed yn iawn. Felly, derbynnir y—na, ni dderbynnir y cynnig. Fe ohiriwn ni'r ymateb tan y bleidlais, gan fod yna wrthwynebiad. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:49, 29 Mawrth 2022

Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, felly byddwn ni'n cymryd toriad byr. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:49.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:52, gyda'r Llywydd yn y Gadair.