– Senedd Cymru am 3:41 pm ar 29 Mawrth 2022.
Eitem 6 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar ddiwygio ardrethi annomestig. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans.
Diolch. Ym mis Chwefror 2021 cyhoeddais 'Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru: Crynodeb o'r Canfyddiadau'. Ochr yn ochr â diwygiadau i'r dreth gyngor, archwiliodd yr adroddiad cynhwysfawr hwn sut y gellid gwella'r system ardrethi annomestig, ystyriodd newidiadau i'r dreth bresennol ac edrychodd ar y posibilrwydd o newid mwy sylfaenol tuag at dreth gwerth tir.
Mae ardrethi annomestig wedi bod yn rhan bwysig o system gyllid llywodraeth leol ers dros 30 mlynedd. Mae sicrhau bod refeniw hanfodol yn cael ei gasglu i ariannu'r gwasanaethau lleol yr ydym ni i gyd yn eu defnyddio a sicrhau cyfraniad teg a chynaliadwy gan fusnesau wedi bod yn gydbwysedd heriol i'w gyflawni erioed. Mae hon yn sefyllfa sy'n esblygu'n gyson ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i adolygu ac addasu polisi trethiant lleol i ymateb i heriau sy'n bodoli eisoes ac sy'n dod i'r amlwg.
Ar 7 Rhagfyr cyhoeddais ein cynlluniau ar gyfer diwygio'r dreth gyngor yn sylweddol. Heddiw, rwy'n cyhoeddi rhaglen o ddiwygio ardrethi annomestig a fydd yn cael ei chyflawni dros y pedair blynedd nesaf. Mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru decach, wyrddach a chryfach. Mae'r egwyddorion hyn yn sail i unrhyw newidiadau posibl i'r system ardrethi annomestig.
Agwedd hollbwysig ar drethiant lleol yng Nghymru yw'r rhan y mae llywodraeth leol yn ei chwarae. Mae eu profiad a'u hymroddiad yn rhan annatod o gasglu a gweinyddu trethi lleol yn effeithiol. Mae ymrwymiad anhygoel awdurdodau lleol cyn a thrwy gydol pandemig COVID wedi bod yn ganolog i ddarparu rhyddhad ardrethi, grantiau busnes a chymorth treth gyngor. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth agos â llywodraeth leol i ddiwygio'r system ardrethi, gan ddefnyddio eu harbenigedd helaeth a'u gwybodaeth leol.
Byddwn hefyd yn parhau i archwilio cyfleoedd i ddiwygio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru. Mae datganoli yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyrff prisio hyn weithredu mewn ffyrdd newydd ac arloesol, gan gyflawni swyddogaethau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer anghenion Cymru. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gweithredu ledled Cymru a Lloegr, ac mae'n hanfodol bwysig bod swyddogaethau prisio yn esblygu yn unol â nodau polisi treth lleol Llywodraeth Cymru. Mae gwaith ar y gweill gyda'r asiantaeth a'r tribiwnlys i archwilio a chyflwyno ffyrdd newydd o weithio i Gymru.
Un maes newid pwysig yw'r cylch ailbrisio. Rydym wedi gwrando ar alwadau gan randdeiliaid am ailbrisiadau amlach, gan sicrhau bod y sylfaen drethi yn adlewyrchu'r amodau economaidd a'r amgylchedd y mae busnesau'n gweithredu ynddyn nhw. Rydym yn parhau i archwilio pa mor aml y dylid ac y gellid darparu ailbrisiadau'n ymarferol ar gyfer Cymru, gan fanteisio ar gyfleoedd a gyflwynir gan sylfaen drethi unigryw Cymru.
Mae eiddo annomestig ledled Cymru yn cael ei ailasesu ar hyn o bryd ar gyfer y broses ailbrisio sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2023, a bydd yn adlewyrchu effaith y pandemig ar ein sylfaen drethi. Ein nod yw cyflwyno deddfwriaeth i symud tuag at gylch ailbrisio tair blynedd, yn unol â rhannau eraill o'r DU, ac rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer cylchoedd ailbrisio byrrach. Mae hyn yn cynnwys archwilio'r posibilrwydd o leihau'r bwlch rhwng y dyddiad prisio a'r dyddiad y mae'r rhestr ardrethu newydd yn dod i rym.
Un o'r gofynion allweddol ar gyfer ailbrisiadau amlach fydd yr angen i adolygu'r broses apelio yng Nghymru a'i diwygio ymhellach o bosibl. Byddwn yn cymryd camau cychwynnol i wella'r broses apelio bresennol ar gyfer mis Ebrill 2023, a bydd diwygiadau pellach i gefnogi cylchoedd ailbrisio amlach yn y dyfodol.
Rydym wedi cymryd camau breision o ran rhannu data a gallu dadansoddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth fanwl o sut y mae'r system ardrethi'n gweithredu, ac mae wedi bod yn hollbwysig wrth feddu ar yr wybodaeth briodol i wneud penderfyniadau polisi mewn tirwedd economaidd sy'n newid yn gyflym. Rydym yn datblygu ein seilwaith data ymhellach fel rhan o'n hagenda ddiwygio. Bydd hyn yn ein helpu ni a'n partneriaid i gyflawni gwelliannau eang o ran targedu cymorth a darparu gwasanaethau digidol i drethdalwyr.
Byddwn yn cynnal adolygiad o'n cynlluniau rhyddhad ardrethi. Mae rhyddhad ardrethi wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi busnesau drwy gydol y pandemig ac mae lefel gyffredinol y rhyddhad a roddir i drethdalwyr wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond nawr yw'r amser i gamu yn ôl ac adolygu ein holl gynlluniau presennol i sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac yn darparu cymorth yn y ffordd fwyaf effeithiol. Bydd ein hadolygiad yn ystyried yr ystod o gynlluniau rhyddhad, lefel y cymorth, sut y caiff rhyddhad ardrethi ei dargedu a pha mor hir y mae'n para.
Yn ystod pumed tymor y Senedd, gwnaethom ddatblygiadau o ran mynd i'r afael â thwyll ac osgoi yn y system drethu leol. Gwnaethom ddiwygio rhyddhad ar eiddo gwag i leihau'r posibilrwydd o gylchoedd rhyddhad ardrethi dro ar ôl tro. Gwnaethom hefyd newid y rheolau dim sgôr ar gyfer eiddo gwag er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol roi dim sgôr dim ond mewn achosion pan fo angen gwirioneddol i elusen fod yn berchen ar adeilad gwag neu ei brydlesu.
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn rhoi pwerau ymchwilio cryfach i gynghorau, gan gynnwys y gallu i gynnal archwiliadau eiddo a gofyn am wybodaeth gan drethdalwyr ac eraill. Mae'r Ddeddf hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer dyletswydd newydd ar drethdalwyr i roi gwybod i gynghorau am newidiadau mewn amgylchiadau, rhywbeth sy'n ofynnol gan drethdalwyr o dan gyfundrefnau treth eraill. Rwy'n bwriadu cyflwyno rheoliadau ar gyfer mis Ebrill 2023. Mae ein huchelgais i fynd i'r afael â thwyll ac osgoi yn parhau i fod yn gryf a byddwn yn mynd ar drywydd newidiadau pellach yn ystod tymor y Senedd.
Er bod ein rhaglen bresennol yn canolbwyntio ar newidiadau yn y tymor byr a chanolig, mae rhai opsiynau ar gyfer diwygio yn parhau i fod yn flaenoriaethau ar gyfer y tymor hwy. Rydym yn parhau i archwilio'r posibilrwydd o dreth gwerth tir yn lle ardrethi annomestig, gan adeiladu ar asesiad technegol manwl Prifysgol Bangor y tymor diwethaf. Dros y pedair blynedd nesaf, byddwn yn symud ymlaen gyda chanfyddiadau'r adroddiad hwn, gan ddefnyddio ystod eang o arbenigedd i ddatblygu dealltwriaeth glir o sut y byddai newid mor sylweddol yn edrych i Gymru a sut y gallai weithio yn ymarferol. Bydd y dadansoddiad hwn yn cynnwys map ffyrdd posibl i'w weithredu.
Rydym yn glir y dylai diwygio ddarparu trethi lleol sy'n amlwg yn well i Gymru, nid rhai sy'n wahanol i'r system bresennol yn unig. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd datblygiadau pellach yn gofyn am gydweithio agos â'n holl bartneriaid ac ymgysylltu'n helaeth â chyflogwyr ardrethi.
Bydd y pecyn sylweddol hwn o ddiwygio ardrethi hefyd yn gofyn am gyfuniad o newid deddfwriaethol sylfaenol ac eilaidd. Byddaf yn gweithio'n agos gyda'r Senedd a rhanddeiliaid drwy gydol y gwaith o archwilio a chyflawni'r pecyn uchelgeisiol hwn o ddiwygio ardrethi a byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau.
Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw ar ddiwygio ardrethi annomestig. Fel y gwyddom, mae ardrethi busnes yn parhau i fod yn bryder enfawr i lawer o fusnesau ar hyd a lled Cymru, a chynhaliodd y Ffederasiwn Busnesau Bach arolwg cyn etholiadau'r Senedd yn 2021 a ganfu mai ardrethi busnes oedd y brif broblem sy'n wynebu busnesau, wrth i 99 y cant o'r rhai a ymatebodd gredu y byddai camau i liniaru'r rhain yn cael effaith gadarnhaol ar eu busnes a'r economi.
Am ormod o amser, mae ein busnesau lleol a'n strydoedd mawr wedi eu gadael i ddirywio'n araf o dan bwysau'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain. Ar yr ochr hon i'r meinciau, byddai'n llawer gwell gennym weld ardrethi busnes yn cael eu diddymu ar gyfer busnesau bach a diwygio'r dreth hen ffasiwn hon ar dwf.
Yn fwy nag erioed, nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth a chefnogi ein busnesau. Felly, pan welais yr eitem hon ar yr agenda heddiw, roeddwn i'n edrych ymlaen at weld y Gweinidog yn cyflwyno rhywfaint o ddiwygio gwirioneddol, ac mae'n amlwg bod ei angen yn y maes hwn, ond rwyf i wedi fy siomi, Gweinidog, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda'r diffyg manylion yn y datganiad heddiw. Rwy'n sylweddoli efallai ei fod yn fwy o drosolwg heddiw, ond hoffwn i siarad yn fyr am sut y gallwn ni weld mwy o fanylion y tu ôl i'r sylwadau sydd yma heddiw. Ac rwyf i wedi herio yn y gorffennol y defnydd o'r gair 'diwygio' wrth gyfeirio at y dreth gyngor. Ac eto, dyma'r gair yn cael ei ddefnyddio, diwygio, ond nid ydym yn gweld llawer iawn o ddiwygio'n digwydd—efallai ei fod yn fwy o addasu o amgylch yr ymylon.
A thrwyddi draw yn eich datganiad, Gweinidog, mae ymadroddion yn cael eu defnyddio yma, fel 'byddwn yn parhau i weithio', 'byddwn yn parhau i archwilio', 'rydym wedi gwrando ar alwadau', 'ein nod yw cyflwyno', 'byddwn yn cymryd camau cychwynnol', 'rydym yn datblygu ymhellach', 'byddwn yn cynnal adolygiad'—nid yw'n ymddangos bod yr un ohonyn nhw yn ymrwymo i gyfeiriad neu faes o'r diwygiad hwn sydd ei angen. Ac rwy'n siŵr bod llawer o'r rhai hynny y mae diwygio ardrethi annomestig yn effeithio arnyn nhw, a'r 99 y cant o'r busnesau hynny sy'n ystyried mai ardrethi busnes yw'r broblem fwyaf sy'n eu hwynebu, yn dymuno gwybod beth rydych chi'n ei wneud mewn gwirionedd a beth fyddwch chi'n ei wneud, a sut y bydd pobl a busnesau yn cael budd o'r diwygiad hwn. Ond nid wyf i'n cael syniad heddiw, o'r hyn yr ydych wedi ei rannu, ynglŷn â'r hyn yr ydych chi'n ei ystyried yw'r materion allweddol a'r hyn yr ydych chi'n ei ystyried yw'r atebion i'w datrys fel Llywodraeth.
Yn eich datganiad, Gweinidog, rydych chi hefyd yn awgrymu y gallai'r darn hwn o waith gymryd pedair blynedd. Byddai gen i ddiddordeb mawr mewn deall pam rydych chi'n meddwl y bydd yn cymryd cymaint o amser i'r diwygiad hwn ddigwydd.
Serch hynny, ar yr ochr gadarnhaol, roeddwn i'n falch iawn o weld eich sylwadau ynglŷn â'r rhan y mae llywodraeth leol yn ei chwarae, gan ddweud bod eu profiad a'u hymroddiad yn rhan annatod o gasglu a gweinyddu trethi lleol yn effeithiol, gan gynnwys y gwaith y gwnaethon nhw yn ystod y pandemig, ac, fel gwir hyrwyddwyr llywodraeth leol, rydym ni yn croesawu rhoi rhagor o bwerau i gynghorau ac yn edrych ymlaen at gyflwyno rheoliadau pellach ym mis Ebrill 2023. Byddai'n dda gen i wybod a ydych chi'n rhagweld y bydd unrhyw bwerau ychwanegol yn cael eu rhoi i lywodraeth leol o ran diwygio ardrethi annomestig hefyd.
Yn olaf, Gweinidog, roedd yn ddiddorol i mi weld y byddwch yn parhau i archwilio'r posibilrwydd o dreth ar werth tir yn lle ardrethi annomestig. Fodd bynnag, mae'n drueni nad ydym wedi cael rhagor o wybodaeth am hyn heddiw. A Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae ardrethi busnes yng Nghymru yn dal i fod yn uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU. Wrth gwrs, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cyfeirio at gynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach Llywodraeth Cymru, sydd wedi helpu llawer o fusnesau bach, ond nid yw'n newid y ffaith bod ardrethi annomestig yng Nghymru yn dal i fod yn uwch, gyda lluosydd yng Nghymru o 53.5c, ac yn Lloegr y lluosydd safonol yw 51.2c. Felly, yng ngoleuni hyn, Gweinidog, hoffwn i wybod a allech chi amlinellu sut y bydd eich diwygiadau arfaethedig yn sicrhau nad yw'r busnesau hynny yng Nghymru o dan anfantais o'u cymharu â busnesau mewn mannau eraill. Diolch yn fawr iawn. Diolch.
Diolch i Sam Rowlands am y sylwadau hynny, ac i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn fy natganiad, mai'r datganiad hwn heddiw yw chwaer ddatganiad y datganiad y gwnes i ar ddiwygio'r dreth gyngor yn ôl ym mis Rhagfyr. Ac wrth gwrs, mae hwn yn ymgymeriad sylweddol ac mae llawer o elfennau iddo, a dyna pam y mae'n ddarn o waith tymor hirach na dim ond cyflwyno rheoliadau i wneud newidiadau tymor byr iawn.
O ran y sylwadau a wnaed am lefel y dreth a delir yma yng Nghymru, rwy'n agored i gael pob math o drafodaeth, ond rwyf i yn credu os oes galwad i ddileu ardrethi busnes yn llwyr, yna rwy'n credu bod yn rhaid iddi ddod gyda'r baich o roi manylion am sut y byddech chi'n codi £1.1 biliwn i ariannu llywodraeth leol a gwasanaethau'r heddlu. Nid wyf i'n credu ei bod yn beth rhesymol gofyn iddyn nhw gael eu dileu heb allu cyflwyno syniadau ynghylch sut y gellid codi arian arall. Ac mae'n bwysig cydnabod hefyd fod pob un geiniog o ardrethi annomestig yn cael ei hailfuddsoddi mewn awdurdodau lleol. Mae'n mynd yn ôl i awdurdodau lleol i helpu i ariannu'r gwasanaethau lleol hynny.
Ac rydym ni yn cydnabod y pwysau y mae'n ei roi ar fusnesau, a dyna pam yr ydym wedi darparu dros £620 miliwn o ryddhad ardrethi i drethdalwyr yng Nghymru eleni, wedi ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru wrth gwrs, sy'n wahanol i'r sefyllfa dros y ffin yn Lloegr. Ac mae angen i ni gofio hefyd fod tri chwarter y trethdalwyr ledled Cymru yn cael rhyddhad ardrethi eleni. Mae hynny'n fwy na 70,000 o fusnesau nad ydyn nhw'n talu unrhyw ardrethi o gwbl. Ac rwy'n credu hefyd fod angen i ni gydnabod bod y sylfaen drethi yma yng Nghymru yn wahanol i'r sylfaen yn Lloegr. Y gwerth ardrethol cyfartalog yng Nghymru yw tua £19,000—yn Lloegr, mae tua £32,000—felly mae'n iawn bod ein system ardrethi a'r rhyddhad sydd ynghlwm wrthyn nhw yn adlewyrchu'r amgylchiadau unigryw sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Roedd cwestiynau ynglŷn â'r gwaith ar drethi gwerth tir, a chais am ragor o wybodaeth. Wel, fe wnes i gyhoeddi adroddiad manwl iawn iawn a ddarparwyd gan Brifysgol Bangor ym mis Mawrth 2020. Rwy'n gwerthfawrogi nad oedd yr Aelod yn y Senedd bryd hynny, ond rwy'n hapus i'w ailddosbarthu i gyd-Aelodau. Ein hamcan mewn gwirionedd wrth archwilio treth gwerth tir yn lle un neu'r ddau o'r trethi lleol yn bennaf yw codi refeniw sefydlog ar gyfer gwasanaethau lleol yn y ffordd decaf bosibl wrth chwilio, yn amlwg, am ganlyniadau manteisiol eraill lle bo hynny'n bosibl. Fe wnaeth Prifysgol Bangor ddod i'r casgliad y gallai trethi gwerth tir lleol godi digon o refeniw i ddisodli'r trethi lleol presennol, ac y gallai dosbarthu atebolrwydd fod yn fwy blaengar, a hynny i raddau sylweddol, na'r drefn trethi lleol bresennol. Ond mae hefyd yn tynnu sylw at feysydd gwaith y byddai angen i ni eu gwneud yn y dyfodol i asesu'n llawnach a fyddai'n amlwg yn well na'n trefniadau presennol, a dyna'r math o waith y mae angen i ni fod yn ei wneud wrth i ni symud ymlaen ar yr agenda bwysig hon.
Codwyd y cwestiwn ynglŷn â'r lluosydd, ond wrth gwrs yn 2021-22 fe wnaethom ni ddewis rhewi'r lluosydd, a hynny er mwyn atal cynnydd mewn biliau i drethdalwyr a darparu cymorth parhaus i fusnesau yn ystod yr hyn yr ydym yn dal i'w gydnabod yn gyfnod heriol iawn. Gallaf gadarnhau ein bod yn cynnal y dull hwn ar gyfer 2022-23, gan gydnabod effaith estynedig pandemig y coronafeirws ar fusnesau ac ar sefydliadau eraill.
Rwy'n ddiolchgar i'r Ffederasiwn Busnesau Bach am y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud yn y maes hwn. Rydym o'r farn bod ein trafodaethau gyda nhw yn hynod gynhyrchiol. Maen nhw'n rhanddeiliaid rhagorol o ran cynrychioli barn busnesau bach ac maen nhw'n cydnabod eu hunain, rwy'n credu, fod cydbwysedd heriol i'w sicrhau o ran codi refeniw'n deg ac ariannu gwasanaethau lleol. Maen nhw hefyd yn cydnabod y bydd angen gwneud gwaith sylweddol i symud i ffwrdd o unrhyw system sydd wedi esblygu ac sydd wedi ei hymgorffori dros 30 mlynedd. Mae hwn yn dasg enfawr, a dyna pam yr wyf i wedi amlinellu yn y datganiad heddiw rai o elfennau pwysig y gwaith hwnnw—bydd ailbrisio a'n dull o wneud hynny yn hollbwysig. Bydd y system apelio yn hollbwysig. Ond rwyf i hefyd wedi myfyrio ar rywfaint o'r cynnydd sylweddol yr ydym ni wedi ei wneud eisoes, yn enwedig, yn fy marn i, ym meysydd osgoi trethi a thwyll, lle gallwn ddweud yn sicr ein bod ni wedi cymryd camau pwysig yn ddiweddar.
Felly, mae hwn yn ddarn parhaus o waith. Mae'n ddarn enfawr o waith, ond rwy'n awyddus iawn i fynd ati mewn ffordd gydweithredol iawn, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau gyda'r holl gyd-Aelodau yn y dyfodol.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Dwi ddim eisiau cael fy nhynnu mewn i ryw ddadl ynglŷn â pha ochr i'r ffin sy'n talu'n fwyaf neu'n talu'n lleiaf; y cwestiwn dwi eisiau ei ateb yn y Siambr yma yw: pa ochr o'r ffin sydd â'r gyfundrefn decaf, a'r gyfundrefn sydd yn cael ei gweithredu'n fwyaf effeithiol? A doed a ddelo wedyn beth yw'r gost, cyhyd â bod pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu trin yn deg o fewn y gyfundrefn fydd neu sydd ohoni.
Nawr, rwy'n cytuno, rŷn ni wedi clywed bod ardrethi busnes yn fater gwbl allweddol i fusnesau, onid yw e? Mae'n un o'r costau mwyaf maen nhw'n ei wynebu, ac mae'n ffactor allweddol yn hyfywedd y busnesau yma. Felly, mae cael system sydd mor deg â phosibl yn allweddol. Fel dywedodd y Gweinidog, rŷn ni eisiau creu sefyllfa lle mae'n decach, mae'n wyrddach, ac mae Cymru'n gryfach yn sgil y gyfundrefn yma. Felly, mae yna rôl bwysig o ran adfywio'r stryd fawr yn y drafodaeth sydd o'n blaenau ni, yn ogystal, wrth gwrs, â helpu mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a gyrru lawr allyriadau carbon. Yr un rhwystredigaeth sydd gen i, wrth gwrs, yw, fel sydd wedi cael ei fynegi, rŷn ni wedi bod yn trafod y mater yma ers blynyddoedd mawr. Dwi'n cofio Mark Drakeford, pan oedd e'n Weinidog cyllid, yn trafod yr angen i ddiwygio, a dwi yn gobeithio, a dwi yn cymryd y datganiad yma am beth yw e, fod hwn yn ddatganiad o fwriad i symud nawr go iawn i weithredu ac i ddiwygio ac i gyflwyno'r newidiadau mae nifer ohonom ni eisiau eu gweld.
Yr un nodyn, efallai, o siom yn hyn oll yw, tra bod yna eglurder nawr y bydd diwygiadau i'r dreth annomestig wedi'u cwblhau a'u gweithredu o fewn pedair blynedd—dyna dwi'n deall o'r datganiad—mae sôn am barhau i archwilio treth gwerth tir. Yn ddelfrydol, mi fyddwn i wedi hoffi gweld newid mwy radical yn digwydd yn y pedair blynedd nesaf—cyflwyno, neu yn sicr mynd llawer bellach tuag at gyflwyno, treth gwerth tir. Felly, dwi eisiau clywed gan y Gweinidog beth yw'r amserlen o safbwynt hynny, te. Rŷch chi'n sôn am archwilio'r dreth yna, gwneud mwy o ymchwil, edrych i mewn i'r peth, ond a fydd yna gynnig ar y bwrdd erbyn diwedd y pedair blynedd, er efallai na fydd e wedi cael ei gyflwyno, ar gyfer y diwygiadau ehangach y mae nifer ohonom ni eisiau eu gweld?
Mae rôl llywodraeth leol, fel rydych chi'n cydnabod yn eich datganiad, yn allweddol; y capasiti yw'r cwestiwn, wrth gwrs. Ydych chi'n hyderus bod ganddyn nhw'r capasiti fel ag y mae i chwarae rhan lawn yng nghyd-ddatblygu a chyd-gynhyrchu'r cynigion newydd yma, ond hefyd pan fo'n dod i weithredu neu weinyddu unrhyw ofynion penodol? Rŷn ni'n cwyno bod nifer o gyrff sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn cael llawer mwy o ddyletswyddau a chyfrifoldebau newydd ond ddim wastad yn cael eu hariannu i gyflawni hynny'n llawn. Byddwn i'n hoffi sicrwydd, os oes yna unrhyw ofynion ychwanegol i'r perwyl yna, y bydd yr adnoddau ar gael yn hynny o beth.
Asiantaeth y Swyddfa Brisio a'r tribiwnlys, rydych chi'n sôn amdanyn nhw yn gweithredu mewn modd mwy addas i Gymru—grêt—a byddwn i'n dweud bod Awdurdod Cyllid Cymru yn enghraifft berffaith i ni o'r math o ddiwylliant rydyn ni eisiau ei annog. Yn wahanol i HMRC, sy'n delio â phroblemau ar ôl i rywun dramgwyddo, mae holl ddiwylliant a holl ffocws Awdurdod Cyllid Cymru ar, wrth gwrs, sicrhau bod hynny ddim yn digwydd yn y lle cyntaf.
Dwi'n cytuno bod angen ailbrisio, neu system revaluation, mwy cyson, mwy deinamig, mwy abl i ymateb i ac adlewyrchu newid mewn amgylchiadau. Gwnaethoch chi sôn am ddiwygio'r broses apêl erbyn Ebrill 2023, ac mae hynny wrth gwrs yn hanfodol, oherwydd byddai rhywun yn rhagweld llawer iawn o waith fyddai angen ei wneud erbyn bod yr ailbrisio yna wedi digwydd. Ond a allwch chi hefyd roi sicrwydd y bydd yna ddigon o gapasiti i ddelio unwaith eto â'r ceisiadau apêl yma mewn modd amserol ac mewn modd tryloyw?
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiynau a'r sylwadau yn y fan yna, ac fe wnaf ddechrau gyda threth gwerth tir, gwn fod hwnnw, rwy'n gwybod, yn faes o ddiddordeb cyffredin rhwng ein pleidiau. Hoffwn i gadarnhau y bydd y gwaith yn mynd rhagddo ochr yn ochr â'r newidiadau y byddwn yn eu cyflwyno dros y cyfnod sydd i ddod. Rwy'n falch iawn bod Prifysgol Bangor, o fewn cwmpas yr ymchwil, wedi gallu llunio model ystadegol rhagarweiniol i amcangyfrif cyfres o werthoedd tir, ac na fu ymgais hyd yn oed i roi'r fath manylion yn llenyddiaeth Cymru o'r blaen, ac mae wedi galluogi Bangor yn awr i bennu cyfraddau treth posibl y byddai angen codi treth gwerth tir arnyn nhw i godi refeniw sy'n cyfateb yn fras i'r systemau trethiant lleol presennol. Fodd bynnag, un wers allweddol a ddysgwyd o'r gwaith modelu oedd ei bod yn llawer mwy heriol amcangyfrif gwerthoedd tir at ddibenion annomestig nag ydyw at ddibenion domestig.
Un canfyddiad pwysig i'w ystyried yn y dyfodol yw'r buddsoddiad sydd ei angen i fodloni'r gofynion gwybodaeth manwl y gellid seilio treth o'r fath arnyn nhw. Felly, byddai'n rhaid i ni gael cofnod cynhwysfawr o dir—mae hynny'n ymgymeriad enfawr ynddo'i hun—ac yn amlwg ddulliau cadarn ar gyfer prisio. Ond, yn gyffredinol, mae'r adroddiad yn amlwg yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i'n dealltwriaeth o ddiwygiadau posibl yn y dyfodol, ond mae yn cydnabod y bydd angen llawer mwy o waith o ran goblygiadau ymarferol a pholisi'r syniad, er enghraifft, a ellid cynllunio gwahanol opsiynau mewn ffordd i gefnogi amcanion polisi ehangach, fel datgarboneiddio a mynd i'r afael â thlodi, ac yn hollbwysig sut y gellir cynnal y cysylltiad rhwng talwyr trethi lleol a gwasanaethau lleol. Felly, rwy'n credu bod y gwaith blaenorol yr ydym wedi ei wneud ar hyn yn pennu i ba gyfeiriad y mae angen i ni deithio ar gyfer ymchwil bellach, trafodaeth bellach a dadansoddiad pellach yn y cyfnod o'n blaenau. Ond, fel y dywedais i, bydd yn cael ei wneud ochr yn ochr â'r gwaith yr wyf i wedi ei ddisgrifio heddiw, a dywedais i hefyd yn y datganiad mai'r nod fyddai darparu map ffyrdd posibl er mwyn i ni gyrraedd y pwynt hwnnw fel rhan o'r gwaith pwysig hwnnw.
Codwyd yr ailbrisio. Bydd yr ailbrisiad nesaf yng Nghymru, a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn cael ei gynnal yn 2023, ond bydd yn seiliedig ar werthoedd ardrethol ar 1 Ebrill 2021. Felly, mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, ac un o'r pethau y gallem ei archwilio yn y dyfodol fyddai lleihau'r bwlch deddfwriaethol hwnnw rhwng y pwynt lle y pennir y gwerthoedd ardrethol a'r pwynt lle maen nhw'n dod i rym. Felly, gallai hynny fod yn rhywbeth y byddwn ni'n edrych arno. Mae'n amlwg nad yw newidiadau i werth ardrethol o ganlyniad i ailbrisio mis Ebrill 2023, sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, yn hysbys, ond rydym ni yn disgwyl cyhoeddi rhestr ardrethu ddrafft newydd erbyn diwedd eleni i roi rhyw fath o sicrwydd i bobl am y ffordd ymlaen yn hynny o beth.
Ac, ydw, mae'n amlwg fy mod i'n dymuno rhannu'r sylwadau hynny am y rhan hanfodol y bydd llywodraeth leol yn ei chwarae yn y darn hwn o waith, a rhoi sicrwydd fy mod i yn eu hystyried yn bartneriaid wrth gyd-lunio'r gwaith pwysig hwn, ac, yn amlwg, bydd y trafodaethau hynny yn cynnwys y cwestiwn ynghylch pa adnoddau y mae awdurdodau lleol yn credu sydd eu hangen arnyn nhw, ac a oes angen iddyn nhw newid y math o fodel sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd. Felly, mae llawer o ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar hyn, ac mae ganddyn nhw arbenigedd anhygoel yr ydym yn awyddus iawn i'w ddefnyddio yn y maes hwn.
Yna, mae pwysigrwydd system apelio wirioneddol gadarn yn rhywbeth sydd hefyd wedi ei godi. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n gobeithio gwneud cynnydd da arno a lansio ymgynghoriad arno yn ystod y flwyddyn hon. Felly, bydd hyn yn rhywbeth y gall cyd-Aelodau fynd i'r afael â hi fel eitem gynnar o'r diwygiad hwn. Byddwn yn edrych, er enghraifft, ar haenau'r system apelio; pa un a ddylid cael ffioedd apelio ai peidio ac a ddylid eu newid; ble y dylid eu gosod, ac yn y blaen; a ddylid cael cosbau am ddarparu gwybodaeth ffug, ac os felly, lle y byddem yn gosod y cosbau hynny; edrych ar amserlenni a deall beth yw'r goblygiadau pan fydd amserlenni'n wahanol dros y ffin yn Lloegr; ac egluro gwybodaeth y byddai angen ei darparu i Dribiwnlys Prisio Cymru, er enghraifft. Felly, mae llawer o bethau sy'n eithaf manwl, ac weithiau pethau technegol y bydd angen i ni fod yn ymgynghori arnyn nhw yn ystod y flwyddyn hon, ond rwy'n credu y gallwn ni wneud rhywfaint o gynnydd cynnar o ran apeliadau, fel y byddwn yn ei wneud o ran ailbrisio hefyd.
Ac, ydw, rwy'n cydnabod bod gan Awdurdod Cyllid Cymru ffordd wirioneddol ragorol o weithio, yn yr ystyr ei fod yn ceisio galluogi trethdalwyr i dalu'r swm cywir o dreth y tro cyntaf, yn hytrach na chanolbwyntio ar geisio mynd ar drywydd trethdalwyr ar ôl y digwyddiad. Ac rwy'n credu bod y math hwnnw o ethos yn rhagorol. I fynd yn ôl i'r dechrau, mewn gwirionedd, i'r man lle dechreuodd Llyr Gruffydd o ran pwysigrwydd tegwch mewn treth, dyna ein hegwyddor treth Rhif 1 y dylid casglu treth yn deg yng Nghymru, a bydd hynny'n sicr ar flaen ein meddyliau ac yn ganolbwynt i'r diwygiadau wrth i ni fwrw ymlaen â hyn.
Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr, ac rwy'n falch iawn o weld derbyn ardrethi annomestig cenedlaethol yn rhan bwysig o incwm llywodraeth leol. Wrth gwrs, cyn ardrethi annomestig cenedlaethol, cafodd ardrethi eu talu gan fusnesau i'r cyngor lleol. Pam nad yw'r Gweinidog yn dymuno dychwelyd ardrethi busnes i awdurdodau lleol?
Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ailbrisiadau mwy rheolaidd. Dylai hyn atal y codiadau mawr a'r gostyngiadau mewn gwerthoedd ardrethol yr ydym wedi'u gweld o'r blaen. Mae gan ardrethi busnes un fantais fawr dros drethi busnes eraill gan eu bod yn anodd eu hosgoi. Ni allwch guddio'r adeilad, ni allwch fynd â'r adeilad dramor, ac ni allwch wneud yr holl bethau clyfar maen nhw'n eu gwneud i osgoi treth gorfforaeth.
Er fy mod i'n croesawu ystyried treth ar werth tir, a yw'r Gweinidog yn derbyn y gallai treth o'r fath arwain at rai ardaloedd o werth tir uchel heb siopau? Rwy'n meddwl am ardaloedd yn eich etholaeth eich hun sydd â gwerthoedd uchel iawn i lawr ar benrhyn Gŵyr, ac mae gwerth y tir mor uchel ei fod yn ddigon posibl na allai siopau ei fforddio.
Ac yn olaf, a yw'r Gweinidog yn derbyn bod yn rhaid i'r prif bwyslais fod ar sicrhau bod beth bynnag sy'n cael ei wneud yn dod ag union yr un swm o arian ag sydd gennym yn awr, oherwydd bod ei angen ar lywodraeth leol?
Diolch yn fawr am godi'r materion hyn, a dyna yw'r her fawr, onid yw, o ran cydbwyso anghenion busnes ochr yn ochr ag anghenion llywodraeth leol, sy'n darparu'r gwasanaethau yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Felly, dyna'r her a osodais i'r rhai hynny a fyddai'n dymuno i ni gael gwared â rhyddhad ardrethi'n llwyr, sef dangos sut y byddai'n cael ei dalu. Ac rwy'n credu ei bod yn her dda.
Rwy'n croesawu'r hyn yr oedd gan Mike Hedges i'w ddweud am ailbrisio a symud atyn nhw'n amlach. Felly, dyna un o'r pethau y byddwn yn ei archwilio, pa mor aml y byddwn yn cael yr ailbrisiadau hynny, ond yna hefyd yr amser rhwng yr ailbrisio a phryd y daw i rym ac y rhoddir ar waith.
A bydd y cwestiynau sy'n ymwneud â threth ar werth tir, unwaith eto, yn rhan o'n darn o waith wrth i ni symud ymlaen o ran deall y goblygiadau i wahanol gymunedau o'r newidiadau posibl a allai ddigwydd, pe baem yn symud at dreth gwerth tir. Ond rwy'n credu bod yr ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor yn nodi rhai o'r heriau hyn a byddwn yn bwrw ymlaen â mwy o waith arnyn nhw yn y dyfodol agos.
Ac rwy'n credu bod y pwynt am awdurdodau lleol yn cadw ardrethi annomestig yn bwysig iawn. Mae'n bwysig cydnabod bod yr holl refeniw o ardrethi annomestig yng Nghymru yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol i ariannu'r gwasanaethau lleol hynny, ac, yn amlwg, mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar y sylfaen dreth yr ardrethi ac ar gyfraddau casglu. Mae angen i ni ddeall yr effeithiau hynny cyn y gallem ni ystyried sut y byddwn yn symud ymhellach byth mewn cysylltiad â newidiadau i'r ffordd yr ydym yn ymdrin ag ardrethi annomestig, oherwydd yn amlwg nid ydym yn dymuno i awdurdodau lleol fod yn llai cadarn yn ariannol o ganlyniad i unrhyw un o'r newidiadau y gallem ni ystyried eu cyflwyno. Fodd bynnag, rydym ni wedi nodi cynlluniau ar gyfer edrych ar y ffordd y mae system gyllid llywodraeth leol yn gweithredu yn ei chyfanrwydd, ac mae'n ymwneud â'r cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau lleol.
Mae'n werth dysgu gwersi o'r hyn sy'n digwydd dros y ffin o ran lleoleiddio ardrethi annomestig. Yn Lloegr, mae hynny'n rhan o'r newidiadau ehangach y maen nhw'n eu gwneud i gyllid llywodraeth leol yno, ac maen nhw wedi cynnwys gostyngiadau sylweddol, serch hynny, i'r Grant Cynnal Refeniw o ganlyniad. Felly, dros y ffin, mae awdurdodau lleol yn cadw 50 y cant o'r cyfraddau, gyda chynlluniau i gynyddu hynny i 75 y cant o 1 Ebrill 2022, ond mae'r trefniadau yno'n gymhleth, ac mae'r manteision o ran ysgogi twf economaidd lleol, yn ein barn ni, yn amheus.
Rydym wedi gwahodd awdurdodau lleol yng Nghymru, gan weithio gyda'i gilydd fel rhanbarthau, i gyflwyno cynigion ar gyfer sut y gallai dull elw cyfranddaliadau o ymdrin ag ardrethi annomestig weithio, lle gallan nhw ddangos bod eu gweithredoedd wedi sicrhau twf. Felly, rydym eisoes wedi cytuno ar gynnig penodol ar gyfer cadw ardrethi yn rhannol gyda dinas-ranbarth bae Abertawe, i gefnogi ei fargen ddinesig.
Rwyf i yn deall y galwadau gan rai mewn llywodraeth leol am gadw ardrethi, a gallai fod o fudd i awdurdodau a all adeiladu eu heconomïau lleol yn gyflymach na'u holl gymdogion. Mae'r un awdurdodau hynny, wrth gwrs, yn aml yn galw am sefydlogrwydd o ran cyllid, ac mae rhywfaint o dystiolaeth bod cadw ardrethi yn cael effaith andwyol ar gyllid mewn ardaloedd llai bywiog, gan gynyddu anghydraddoldeb rhwng y rhanbarthau yn Lloegr. Felly, rwy'n credu bod hwn yn faes lle mae awdurdodau lleol yn well gyda'i gilydd i gydnabod y risgiau sy'n bodoli, a pharhau â'n traddodiadau gwasanaeth cyhoeddus cryf o gydweithredu a chydraddoli'r budd i Gymru gyfan.
Ac i orffen ar y pwynt hwn—gallaf deimlo llygaid y Dirprwy Lywydd arnaf—ar hyn o bryd dim ond pedwar o'r 22 awdurdod yng Nghymru a fyddai'n elwa'n gyson ar eu cadw pe baem yn gweithredu system debyg i'r un yn Lloegr, a hyd yn oed ar gyfer y pedwar hyn, byddai cadw ardrethi yn dibynnu ar allu cynyddu twf yn gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly, rydym yn awyddus i ddysgu o'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill, ond nid ydym yn credu mai'r model hwnnw yw'r un iawn i ni yng Nghymru. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog.