– Senedd Cymru am 4:43 pm ar 29 Mawrth 2022.
Eitem 8 nesaf—datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: gwaith teg, y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd blynyddol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gwell cytundeb i weithwyr yn ganolog i Gymru decach, fwy cyfartal a mwy ffyniannus. Nid yn unig mai dyma'r peth cywir i'w wneud dros weithwyr, ond mae hefyd o fudd i'n gweithleoedd, ein heconomi a'n gwlad gyfan. Rydym ni'n gweithio mewn partneriaeth ar draws y Llywodraeth a gyda'n partneriaid cymdeithasol i ddefnyddio pob cyfrwng sydd gennym ni i hyrwyddo a galluogi gwaith teg, ymdrin â chamfanteisio ar lafur a mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru Gomisiwn Gwaith Teg i wneud argymhellion ar sut y gallwn ni hyrwyddo gwaith teg, ac mae ei adroddiad yn parhau i lunio ein dull gweithredu. Rwy'n falch ein bod ni wedi gweithredu pob un o'r chwe argymhelliad blaenoriaeth y comisiwn, gan gynnwys rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn flynyddol fel hyn, ac rydym ni'n gwneud cynnydd da ar lawer o argymhellion eraill. Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod ni'n dehongli gwaith y Comisiwn Gwaith Teg mewn ffyrdd sy'n ein galluogi ni i ymateb mewn amser real. Y rheswm am hyn yw bod byd gwaith yn parhau i newid ac mae cyflymder a graddfa'r newid, fel symud tuag at weithio hybrid, wedi cyflymu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Er bod pandemig y coronafeirws wedi dangos bod gwahanol ffyrdd o weithio yn bosibl, mae hefyd wedi canolbwyntio'n fwy clir ar heriau sector a Chymru gyfan ac wedi dinoethi perygl o sut y gall anghydraddoldebau gael eu gwreiddio. Wrth i ni symud o'r pandemig, nid yw erioed wedi bod yn fwy amserol i bwyso a mesur a chymryd camau i alluogi dyfodol o waith tecach.
Wrth gwrs, mae gwaith teg yn cynnwys materion datganoledig a materion a gedwir yn ôl, gan effeithio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud ar waith teg a sut y gallwn ni wneud hynny. Mae gennym ni bum dull eang sydd ar gael i ni, ac rydym ni'n defnyddio pob un ohonyn nhw. Yn gyntaf, rydym ni'n dylanwadu'n uniongyrchol ar amodau gwaith yn y sector cyhoeddus datganoledig. Yn ail, rydym ni'n defnyddio ein dulliau caffael a phŵer y pwrs cyhoeddus i annog gwaith teg. Yn drydydd, rydym ni'n defnyddio ein pŵer cynnull, gan ddod â phartneriaid cymdeithasol ac eraill at ei gilydd i feithrin gwaith teg a hyrwyddo arfer da. Yn bedwerydd, rydym ni'n cefnogi unigolion a sefydliadau i uwchsgilio a chael cyfle i fanteisio ar waith teg. Ac yn olaf, rydym ni'n ceisio dylanwadu ar hawliau, dyletswyddau a diogeliadau cyflogaeth a gedwir yn ôl a fydd yn effeithio ar weithwyr a gweithleoedd yng Nghymru.
Ar lefel sector, rydym ni wedi gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol drwy fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol. Mae'r fforwm wedi chwarae'r rhan allweddol wrth fwrw ymlaen â'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i dalu'r cyflog byw gwirioneddol yng ngofal cymdeithasol. Bydd y cynnydd hwn yn dechrau cyrraedd pecynnau cyflog yn ystod y mis nesaf, ac mae'r fforwm yn parhau i weithio gyda'i gilydd i ymdrin â'r heriau ehangach yr ydym ni'n ymwybodol bod y sector a'r rhai sy'n gweithio ynddo yn eu hwynebu a cheisio datrysiadau iddyn nhw. Rydym ni wedi manteisio ar y profiad hwn, gan sefydlu fforwm manwerthu, sy'n gweithio i ymgorffori gwaith teg yn ein gweledigaeth ar gyfer manwerthu. Gan weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, ein nod yw prif ffrydio gwaith teg mewn sectorau eraill lle mae heriau difrifol a brys, fel y sectorau sy'n ymwneud â'r economi ymwelwyr.
O ran agweddau penodol ar waith teg, rydym ni wedi gwneud cynnydd gyda'r cyflog byw gwirioneddol. Rydym ni'n glir bod y cyflog byw gwirioneddol yn elfen, nid yn rhan derfynol, o waith teg. Y llynedd, bu'r cynnydd mwyaf erioed yn nifer y cyflogwyr achrededig cyflog byw, cynnydd trawiadol o 44 y cant ar waith y flwyddyn flaenorol. Mae cyfran yr holl swyddi gweithwyr yng Nghymru sy'n cael eu talu o leiaf y cyflog byw gwirioneddol wedi parhau i godi, sef ychydig dros 82 y cant yn 2021, o'i gymharu ag ychydig o dan 78 y cant yn 2020, gan gau'r bwlch â'r sefyllfa ledled y DU gyfan, ond mae angen i ni gynnal y cynnydd hwnnw. Rydym ni wedi partneru gyda Cynnal Cymru fel partner achredu'r Sefydliad Cyflog Byw yng Nghymru, gan eu hariannu i gefnogi eu gallu i ymgysylltu â chyflogwyr a chyflymu mabwysiadu ac achredu cyflog byw gwirioneddol.
Rydym ni'n ymgorffori gwaith teg yn ein dulliau gweithredu ar draws y Llywodraeth. Mae gwaith teg yn thema graidd yn ein cynllun a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, ac rydym yn gweithio i wella cyrhaeddiad ac effaith dulliau fel y contract economaidd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Rydym ni ar y trywydd iawn i gyflwyno Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus, ac rwy'n falch o ddweud y caiff Aelodau gyfle i graffu ar y Bil hwn yn ddiweddarach eleni. Yn ogystal â hyn, rydym ni'n gweithio gyda TUC Cymru ar brosiect treialu i ymgysylltu â phobl ifanc am rôl undebau llafur, ac rwy'n disgwyl bod mewn sefyllfa i gyhoeddi rhagor o fanylion am hyn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Rydym ni'n cydnabod bod llawer o ymgyrchoedd a heriau o'n blaenau, o wythnos waith fyrrach i fynd i ymdrin â bylchau cyflog a sicrhau bod profiad gweithwyr yn deg wrth bontio ym maes sero net, awtomeiddio a digideiddio. Rydym ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i archwilio pa gamau y gallwn ni eu cymryd yn y meysydd hyn. Ond mae angen i Lywodraeth y DU gymryd ei chyfrifoldebau am hawliau a dyletswyddau cyflogaeth o ddifrif. Faint yn rhagor o enghreifftiau fel P&O Ferries y mae angen i ni eu gweld cyn i Lywodraeth y DU ddeall bod diogeliadau annigonol, ynghyd â gorfodaeth wan ac amharodrwydd i weithredu yn gyfuniad a fydd yn arwain at ras i'r gwaelod ar hawliau gweithwyr? Mae'r Llywodraeth hon yn gwneud yr hyn y gallwn ni ei wneud, a byddwn ni bob amser yn gwneud yr hyn y gallwn ni gyda'r dulliau sydd gennym ni, ond rydym angen i Lywodraeth y DU weithredu hefyd, a gweithredu nawr.
Mae dirwyn hawliau gweithwyr yn ôl a pheth o'r ddeddfwriaeth undebau llafur fwyaf cyfyngol yn Ewrop wedi mynd ymlaen yn rhy hir o lawer, ac rydym ni'n dyst i ganlyniadau ansefydlogol a dinistriol hyn i'n pobl, ein cymunedau a'n heconomi. Mae angen undebau cryf arnom ni i gydbwyso buddiannau cyflogwyr a gweithwyr. Dirprwy Lywydd, nid wyf i'n ymddiheuro am barhau i'w gwneud yn glir mai ymuno a bod yn rhan o undeb llafur yw'r ffordd orau i unrhyw weithiwr ddiogelu ei hawliau yn y gwaith, gwella eu cyflog, eu telerau ac amodau a sicrhau eu bod yn cael eu clywed a'u cynrychioli.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu'r cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud, a byddwn ni'n gweithio gyda'n partneriaid cymdeithasol i hyrwyddo agenda gwaith teg yng Nghymru. Diolch.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad. Rwy'n credu y byddai pawb yma ac ar draws pob Llywodraeth yn y DU yn cytuno bod y rheini sy'n cael amodau gwaith teg a chyflog teg yn hapusach, yn iachach ac yn fwy cynhyrchiol yn eu swyddi, mae'n debyg, ac y dylem ni i gyd fod yn ymdrechu i ddwyn Llywodraethau i gyfrif er mwyn sicrhau bod gan bawb amodau gwaith teg. Er rwy'n siŵr y byddai'r rhai yma wrth eu bodd yn gweld system berffaith eisoes yn gwbl weithredol, mae'n rhaid i ni gofio bod y pethau hyn yn cymryd amser, ac ar hyd y ffordd bydd problemau'n codi y bydd angen eu datrys cyn y bydd modd gwneud unrhyw gynnydd arall.
Rwy'n falch o glywed yn eich datganiad heddiw eich bod chi'n ymrwymo i dalu'r cyflog byw gwirioneddol yn y sector gofal cymdeithasol. Rwyf i wedi cyfarfod â grwpiau gofal cymdeithasol yn fy rhanbarth i sy'n arbennig o bryderus bod cyfraddau cyflog yn rhwystr mawr i ddarparu gofal cyson yn y sector gofal cymdeithasol i oedolion, gan ei fod yn gysylltiedig â throsiant staff uwch, lle mae llawer yn symud i swyddi sy'n talu'n uwch ac sy'n llai heriol yn y pen draw, fel y sector manwerthu. Gyda dros 72,000 o swyddi yn y sector gofal cymdeithasol i oedolion yn unig, a'r ffaith bod y rhan fwyaf o weithwyr gofal yn cael isafswm cyflog, neu'n agos at isafswm cyflog, mae'r sector hwn yn cynrychioli tua thraean o'r gweithlu yng Nghymru sy'n ennill llai na'r cyflog byw, ac rwy'n siŵr y bydd gweithredu'r cyflog byw gwirioneddol yn mynd ychydig o'r ffordd ymlaen i helpu'r sector.
Hoffwn i dynnu sylw hefyd at y ffaith bod datganiad gweledigaeth y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol yn honni nid yn unig y dylai cyflogau gweithwyr gofal cymdeithasol gael eu gwella, ond hefyd y dylai eu telerau ac amodau gael eu gwella hefyd, ac nid yw'ch datganiad yn ymdrin â hyn. Gyda hyn mewn golwg, ac o ystyried y pwysau aruthrol sydd ar y sector o ran straen eithriadol a chadw swyddi, hoffwn i ofyn i'r Dirprwy Weinidog pa ystyriaeth ac asesiad y mae'r Llywodraeth hon wedi'u gwneud o fudd-daliadau mewn gwaith eraill a all gyfrannu at amgylchedd gwaith iach i weithwyr gofal cymdeithasol. Rwy'n credu y byddai modd gwneud mwy i ddarparu manteision hirdymor mewn gwaith i'r rhai sy'n cael eu cyflogi yn y sector ac y byddai gwelliannau'n cymell mwy o staff i ddatblygu gyrfaoedd a helpu i gadw swyddi yn y tymor hir. Yn benodol, rwy'n credu y byddai modd gwobrwyo gweithwyr gofal cymdeithasol gyda chyfraniadau pensiwn uwch, mwy o hawliau gwyliau neu lwfansau tanwydd, neu hyd yn oed ad-daliadau'r dreth gyngor, y byddai modd eu defnyddio fel dull i helpu i gefnogi'r gweithwyr gofal cymdeithasol ar y cyflogau isaf yn well, neu hyd yn oed annog gweithwyr i aros mewn ardaloedd gwledig neu symud iddyn nhw.
Bydd y Dirprwy Weinidog yn gwbl ymwybodol bod gan Gymru'r oedran canolrif uchaf o holl wledydd y DU, ac ar ben hyn mae gennym ni fewnlifiad net o bobl sydd wedi ymddeol o Loegr sy'n dymuno byw yng nghefn gwlad Cymru neu yn ein pentrefi a'n trefi arfordirol. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio gymaint, mae angen i ni fod yn ddiwyd wrth sicrhau bod gennym ni sector gofal cymdeithasol hyfyw sydd wedi'i gefnogi'n dda, ac rwy'n credu y byddai dewis gwell o fudd-daliadau mewn gwaith yn gwneud llawer i helpu pobl i aros yn y sector hwn yn y tymor hir.
O ran cyflogau teg, rwyf eisiau codi mater hysbysebu Prifddinas-ranbarth Caerdydd bod cyflogau cyfartalog yma yn llawer is nag mewn dinasoedd eraill yn y DU, a llafur rhad Cymru yw'r rheswm pam y dylai busnesau geisio buddsoddi yma. Mae Prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi amddiffyn y sefyllfa hon drwy ddweud eu bod yn tynnu sylw, yn eu geiriau nhw, at y ffaith bod 'cyflogau'n gystadleuol ar hyn o bryd', ac maen nhw eisiau
'ysgogi rhagor o fuddsoddi i godi cyflogau ar draws y ddinas-ranbarth.'
Rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno bod hyn yn rhesymeg hurt, oherwydd os ydych chi eisiau denu buddsoddi mewn busnes, mae rhywun yn hysbysebu set sgiliau o ansawdd da y gweithlu, neu—a gwn i fod hyn yn hwb gwirioneddol i Lywodraeth Cymru, o ystyried eu hanes—yn ceisio tynnu sylw at ansawdd da y seilwaith sydd gennym yma yng Nghymru. Efallai fod y Dirprwy Weinidog yn synnu yma, ond rwy'n cytuno ag ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Shavanah Taj, wth iddi gondemnio Llywodraeth Cymru am hysbysebu mai Cymru sydd â'r cyflog cyfartalog isaf
'dull digalon sy'n peri rhwyg ac sy'n peryglu sefydlu economi cyflog isel i'r cymunedau niferus y mae arweinyddwyr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn eu cynrychioli.'
A hoffwn i ychwanegu mai'r hyn y mae'r math hwn o farchnata yn ei wneud mewn gwirionedd yw anfon neges isymwybodol i fuddsoddwyr bod gweithwyr yng Nghymru yn cael llai o dâl oherwydd eu bod yn werth llai. Mae hefyd yn anfon neges glir i'r gweithwyr medrus hynny a allai fod eisiau dod i Brifddinas-ranbarth Caerdydd fod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi llafur rhad. Rwy'n cydnabod yn llwyr, Dirprwy Weinidog, ei bod yn debyg nad oeddech chi'n ymwybodol o'r llyfryn marchnata hwn, ac nad yw'n cynrychioli strategaeth farchnata ehangach Cymru. Fodd bynnag, mae'n gwneud rhywfaint i ddangos y meddylfryd sy'n sail i ddull gweithredu cyffredinol Llywodraeth Cymru, ac mae angen i ni gydnabod y bydd gwybodaeth fel hon yn aros yn gyhoeddus. Er y gallech chi ddadlau, ymhlith popeth arall, fod hyn yn fân beth, byddwn i'n dadlau na fyddwn ni byth yn llwyr sylweddoli'r niwed y mae'r math hwn o weithredu yn ei achosi yn y tymor hir. Rwy'n gofyn felly i'r Dirprwy Weinidog sut yr ydych chi'n bwriadu gorfodi gwell strategaethau marchnata a fydd mewn gwirionedd yn adlewyrchu ansawdd a set sgiliau amrywiol gweithwyr yng Nghymru, o gofio eich bod chi wedi derbyn argymhelliad i sicrhau mai cyfrifoldeb holl Weinidogion a swyddogion Cymru yw gwaith teg. Sut y bydd y Llywodraeth hon nawr yn sicrhau bod egwyddorion gwaith teg sy'n cael eu hawlio gan y Llywodraeth hon yn cael eu cynnwys mewn gwirionedd mewn deunydd marchnata buddsoddwyr yn y dyfodol?
Yn olaf, hoffwn i godi'r pwynt o adrodd ar eich cynnydd blynyddol. Rydych chi wedi sôn am y cyflog byw gwirioneddol, ac wrth gwrs eich broliant gwerthu di-gywilydd i'ch goruchwylwyr undebau llafur, a gwleidyddoli siomedig y Dirprwy Weinidog o weithwyr P&O yn y datganiad hwn, y mae condemnio eang wedi bod gan Lywodraeth y DU ynghylch y cam gweithredu hwn ac maen nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu'r gweithwyr hynny. Rydych chi wedi penderfynu siarad am y materion hyn ar draul rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, a fyddai, rwy'n siŵr, wedi croesawu hyd yn oed sôn wrth fynd heibio am hynny. Tybed pam—
Mae angen i chi orffen nawr, os gwelwch yn dda.
Iawn, dim ond ychydig o frawddegau olaf. Tybed pam nad ydych wedi sôn am unrhyw gynnydd ar gyfer gwaith teg i bobl anabl, pam nad ydych chi wedi sôn am unrhyw gynnydd i ddileu a lleihau'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu, a tybed pam nad ydych chi wedi sôn am unrhyw fentrau i helpu i gau'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl. Gyda hyn mewn golwg, a all y Dirprwy Weinidog ddweud wrth y Siambr hon pa gynigion sydd gan y Llywodraeth hon i helpu pobl anabl i gael mynediad i amgylchedd gwaith teg? Oherwydd fel grŵp sy'n cael ei effeithio'n anghymesur, dylen nhw fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Diolch.
Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir: rydym ni wedi ymrwymo'n fawr i sicrhau bod Cymru'n genedl o waith teg ac nid ydym ni'n credu y dylech chi hyrwyddo cyflogau isel fel rheswm dros fuddsoddi. Ac rwy'n croesawu dechrau cyfraniad yr Aelod, gyda'i awgrymiadau adeiladol ynghylch y gwaith yr ydym ni'n ei wneud yn y sector gofal cymdeithasol a'r cyflog byw gwirioneddol, ond rwy'n nodi ei fod, tua'r diwedd, wedi llwyddo, o gyfraniad blaenorol, i israddio fy nghydweithwyr yn yr undebau llafur o fod yn fy mhenaethiaid undebau llafur i fod yn fy ngoruchwylwyr undebau llafur nawr. Ond rwy'n siŵr y byddai Shavanah Taj wrth ei bodd bod Joel James yn cytuno â hi ar un peth.
Ond, o ddifrif, rwy'n credu bod y pwynt y gwnaethoch chi ei godi ar y dechrau, Joel, ynghylch pethau'n cymryd amser a bod problemau ar hyd y ffordd—. Ac rwy'n credu mai dyna un o werthoedd ein gwaith partneriaeth gymdeithasol, nid gydag undebau llafur yn unig, ond gyda chyflogwyr o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gan ddod â phobl sydd â'r profiad a'r arbenigedd bywyd mewn gwahanol feysydd yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael â nhw i mewn a symud ymlaen a datblygu pecyn cyfan o amgylch cyflog teg, nad yw, rydych chi'n hollol gywir, yn ymwneud â dim ond y cyflog a gewch; mae'n ymwneud â'r lles a'r amodau ehangach ynghylch eich gwaith hefyd. Mae partneriaeth gymdeithasol yn ein galluogi ni i wneud hynny, ac fe'n galluogodd ni i wneud hynny yn ystod y pandemig, pan oeddem ni'n gallu dod at ein gilydd fel y fforwm iechyd a diogelwch, ymdrin â'r pethau sy'n ymwneud ag asesiadau risg yn y gweithle, ac yna cawson nhw eu gweithredu, ac yna roedd gennym ni fforwm i ddod yn ôl ato a dweud, 'Wel, mewn gwirionedd mae angen addasu'r pethau hyn er mwyn iddyn nhw fod yn llawer mwy effeithiol yn ymarferol a chyflawni'r diben yr oedd wedi'i fwriadu ar eu cyfer.'
O ran y pwyntiau ynghylch y cyflog byw gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol, yn fy natganiad, nodais fod y cyflog byw gwirioneddol yn fan cychwyn i fynd i'r afael ar unwaith â rhai o'r pryderon hynny y gwnaethoch chi dynnu sylw atyn nhw ynghylch recriwtio a chadw staff hefyd, a rhaglen waith y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol nawr yw ystyried y materion ehangach hynny y gwnaethoch chi dynnu sylw atyn nhw ynghylch beth arall a allai—. Oherwydd nid yw gwaith teg, fel y dywedais i, yn ymwneud â'ch cyflog yn unig fel rhan o hynny; mae'n ymwneud â'ch amodau gwaith ehangach. Ac rydych chi'n hollol gywir bod angen i ni gyrraedd sefyllfa lle'r ydym yn gwneud yn siŵr bod gan y sector hwn, y mae'n debygol y byddwn ni i gyd yn troi ato rywbryd yn ystod ein hoes, ac sy'n gofalu'n fawr iawn am ein hanwyliaid—y gydnabyddiaeth, y statws a'r gefnogaeth y mae'n eu haeddu.
Diolch yn fawr ichi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog.
Roedd yn dda clywed eich condemniad o driniaeth staff P&O Ferries, sydd wedi cael eu trin yn warthus. Yn absenoldeb hawliau cryfach y mae mawr eu hangen i weithwyr, rwy'n gobeithio y bydd y drychineb cysylltiadau cyhoeddus a ddeilliodd o hynny yn gorfodi penaethiaid y cwmni i ailfeddwl. Roeddwn i hefyd yn falch o glywed sôn dro ar ôl tro am waith teg yn eich datganiad. Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, rhaid i ni sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae hon yn un o gredoau craidd Plaid Cymru.
Yr hyn yr ydym ni wedi'i weld mewn dirwasgiadau blaenorol a dirywiad economaidd yw mai pobl ar ddau ben y sbectrwm oedran gweithio sydd wedi dioddef fwyaf o'r argyfwng. Gyda fy nghyfrifoldeb dros bobl hŷn, rwy'n awyddus i Gymru ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol. Er enghraifft, yn ystod cwymp ariannol 2008, bu bron i ddiweithdra ymhlith gweithwyr hŷn ddyblu yn y DU. Rydym ni'n gwybod, pan gaiff pobl hŷn eu diswyddo, eu bod yn ei chael hi'n anoddach dod o hyd i waith. Heb gymorth digonol, rydym ni'n wynebu'r risg o genhedlaeth gyfan o bobl hŷn, yn eu 50au a'u 60au, na fydd yn dod o hyd i swydd arall cyn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth. Yr hyn sy'n gwaethygu pethau yw bod llawer o bobl hŷn yn wynebu rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithle. Felly, hoffwn i glywed gan y Dirprwy Weinidog heddiw ynghylch sut y maen nhw'n bwriadu unioni'r pryderon hyn.
Hoffwn i hefyd godi mater a gafodd ei grybwyll gan fy nghyd-Aelod yn fy mhlaid, Luke Fletcher, yn ystod y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf. Mae llawer o fy etholwyr yn cymudo i Gaerdydd o'u trefi a'u pentrefi, felly roeddwn i'n siomedig o weld Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn marchnata'r ardal fel hafan i gyflogwyr sy'n talu cyflogau is. Mae hyn yn gwrth-ddweud gwaith y Comisiwn Gwaith Teg i hyrwyddo'r polisi bod gwaith teg yn cyfateb i wobr deg. Dylem ni fod yn ceisio unioni gwahaniaethau cyflog a pheidio â brolio amdano mewn prosbectysau i gwmnïau, gan barhau â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o anodd yn ystod argyfwng costau byw sydd wedi tynnu llawer o deuluoedd i dlodi llwm. A wnewch chi felly gondemnio'r hysbysebu gan Brifddinas-ranbarth Caerdydd? Rwy'n nodi eich ateb i gwestiwn blaenorol, ond sut ydych chi'n bwriadu ymdrin â'r canfyddiad ei bod yn iawn i fusnesau ddod i Gymru a thalu cyflog is i weithwyr? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Peredur, am eich cwestiwn. Os caf i gyfeirio at y pwynt olaf yn gyntaf, ac ailadrodd yr hyn y dywedais i wrth Joel James, mae ein safbwynt ni fel Llywodraeth Cymru yn glir: nid ydym ni'n credu y dylem ni hyrwyddo cyflogau isel fel rheswm dros fuddsoddi yng Nghymru. Cefais i fy siomi gan y dull a gymerodd Prifddinas-ranbarth Caerdydd o ran pwysleisio cyfraddau cyflog graddedigion is o'i gymharu â rhai rhannau o'r DU. Rwy'n deall bod y rhanbarth nawr wedi egluro ei safbwynt a'i ddyhead i godi cyflogau ac ansawdd gwaith ar draws y rhanbarth, ond rwy'n ailddatgan yn frwd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod gwaith teg yn cael ei wreiddio a'i hyrwyddo trwy popeth a wnawn, fel sydd wedi'i argymell gan adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg.
Os trof i at rai o'r pwyntiau a wnaethoch chi yn huawdl iawn, a'ch pwyntiau gwerthfawr iawn ynghylch yr heriau i bobl ar bob pen o'r sbectrwm oedran gweithio, ddywedwn ni, o ran y sefyllfa yr ydym ni ynddi, efallai, yr amgylchiadau economaidd dan fwy o bwysau. Fel rhan o'n strategaeth cyflogadwyedd a sgiliau ddiweddar, rwyf i a Gweinidogion eraill ar draws y Llywodraeth—yn enwedig fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol—wedi gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr fel Gweinidog yr Economi a chydweithwyr ledled yr economi, partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg i sicrhau bod gwaith teg nid yn unig wedi'i ymgorffori yn rhan o hyn, ac yn cael ei ystyried yn rhan ohono, ond, mewn gwirionedd, bod yr ystyriaethau hynny yr oeddech chi wedi'u codi yn cael eu prif ffrydio trwy bopeth a wnawn ni, a'i fod yn ystyried hefyd y mathau hynny o heriau sy'n ymwneud â chroestoriadeddau, nid yn unig i bobl hŷn, ond i fenywod, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig hefyd. Felly, mae'n rhywbeth sydd wrth wraidd yr hyn a wnawn ni, ac rwy'n fwy na pharod i drafod hynny gyda'r Aelod y tu allan i'r datganiad heddiw, dim ond i ymdrin â rhai o'r cwestiynau yr ydych chi wedi'u codi.
Un o'r pethau yr ydym ni wedi bod yn ei ystyried hefyd yw sut y gallwn ni ddefnyddio'r ysgogiadau hynny, yn enwedig yn y sector cyhoeddus, lle mae gennym ni fwy o ddylanwad oherwydd ein cyfrifoldeb datganoledig. Mae'n rhywbeth yr wyf i wedi gweithio arno mewn swydd flaenorol mewn bywyd blaenorol hefyd, fel y dywedwn ni, a dyna, mewn gwirionedd, yw'r gwerth y gall pobl hŷn gyfrannu at y gweithle o ran trosglwyddo eu sgiliau. Felly, ystyried cyfleoedd ar gyfer pethau fel ymddeoliad graddol a lleihau eu horiau fesul cam, a gallu gweithio gyda phobl iau i helpu i uwchsgilio ac yna trosglwyddo eu sgiliau fel rhan o'r cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau hynny. Felly, mae cynlluniau yno ac mae gwaith wedi'i wneud, ac fel yr wyf i bob amser yn ei ddweud, mae llawer mwy i'w wneud, ond fel y dywedais i, rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu â'r Aelod ynghylch sut y gallwn ni gydweithio ar hyn.
Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog ynghylch gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, ac a gaf i ymuno ag eraill i groesawu'r cyflog byw ym maes gofal cymdeithasol? Ond, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddim contractau camfanteisiol a bod cyflog byw gwirioneddol yn cael ei dalu i bawb ym mhob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru? A wnaiff Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau caffael i eithrio cwmnïau contractau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu sy'n talu llai na'r cyflog byw gwirioneddol, neu'n ddefnyddio contractau camfanteisiol? Yn olaf, a wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i gondemnio diswyddo ac ailgyflogi, ac a fydd cwmnïau sy'n defnyddio hynny'n cael eu gwahardd o gontractau sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru? A gan wrando ar yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud am gyflog isel, os oedd cyflog isel yn bwysig ar gyfer buddsoddi a thwf, esboniwch i mi Palo Alto, esboniwch i mi Efrog Newydd, esboniwch i mi Mannheim, esboniwch i mi Caergrawnt. Yr ardaloedd â chyflogau uchel yw'r rhai sy'n cael y buddsoddiad, nid y rhai â chyflogau isel.
Diolch i Mike Hedges am ei gyfraniad angerddol iawn, a gwn i fod hwn yn faes y mae Mike wedi ymgyrchu arno ac wedi'i fynegi yn y Siambr hon am nifer o flynyddoedd. Yr ateb byr i'ch cwestiwn ynghylch a fyddwn i'n condemnio diswyddo ac ailgyflogi yw 'byddwn'. Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i ddefnyddio'r holl ddulliau y gallwn ni i fynd mor bell ag y gallwn ni i sicrhau, mewn gwirionedd, nad yw'r arfer hwnnw'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, mae angen y ddeddfwriaeth honno ar lefel y DU arnom ni ac nid yw'r Bil cyflogaeth a gafodd ei addo yn 2019 wedi'i gyflwyno o hyd. Fel y dywedais i yn fy natganiad, am faint y gallwn ni barhau i gael rhai o'r diogeliadau mwyaf cyfyngol a chyfyngedig i weithwyr yn Ewrop gyfan, ac enghreifftiau fel P&O ac eraill—? Mae wedi'i ganolbwyntio arno'n fwy pendant, rwy'n meddwl, yn ystod y chwe mis diwethaf yn ystod y pandemig, ac mae mwy o bobl yn ymwybodol o ganlyniadau tactegau fel diswyddo ac ailgyflogi oherwydd, mewn gwirionedd, mae ein strwythur presennol yn caniatáu i hynny ddigwydd. Felly, yn sicr, rwyf i'n ei gondemnio ac mae angen ei wahardd, ac mae angen mwy o ddiogeliadau ar bobl mewn gwaith lle bynnag y maen nhw'n gweithio ledled y DU.
O ran contractau allanol, y pwynt allweddol yw na chaiff contractau allanol eu defnyddio i erydu telerau ac amodau, fel modd, ddywedaf i, i aralleirio, i ostwng y gwastad. Bydd angen i sefydliadau a gaiff eu cynnwys yn ein Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus ymdrin â'r materion hyn mewn ffyrdd sy'n gyson â'r dyletswyddau caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol. Rydym ni hefyd yn ceisio cryfhau'r cod ymarfer a chaffael moesegol ochr yn ochr â hynny, ac mewn gwirionedd y dyletswyddau caffael yn y Bil, byddwn ni hefyd yn ystyried gwneud hynny'n gymwys i gadwyni cyflenwi hefyd. Felly, rydym ni'n ystyried yr holl ysgogiadau hynny sydd gennym ni yng Nghymru i wneud gwahaniaeth yn y meysydd y gwnaeth Mike Hedges eu codi, yn ogystal ag, ac ochr yn ochr â'n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i sicrhau ein bod ni'n archwilio lle y mae modd dod â gwasanaethau'n gynaliadwy ac yn fforddiadwy yn ôl i sector cyhoeddus cryfach, byddwn ni'n gwneud hynny.
Gan gadw at P&O, dyma gwmni sydd, mewn gwirionedd, yn cyflogi pobl gyda gwahanol amodau gwaith yn y diwydiant llongau; hyd y gwn i, maen nhw i gyd yn defnyddio lleoedd alltraeth i gofrestru eu cwmnïau, ac maen nhw i gyd yn talu cyflogau gwarthus iawn, ac mae'r amodau y maen nhw'n lletya'r bobl hyn ynddyn nhw wir yn ofnadwy. Ond does fawr dim y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, nid hyd yn oed cydweithio â Llywodraeth y DU. Mae hon yn broblem ryngwladol y mae'n rhaid i'r Cenhedloedd Unedig ymdrin â hi.
Gan gadw at yr hyn y gallwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch, gwnaethoch chi ddweud mai un o'r ysgogiadau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi unigolion a sefydliadau yw gwella eu sgiliau, fel y gallan nhw gael gwaith teg. Felly, roeddwn i eisiau ystyried meysydd yr economi lle'r ydym yn ymwybodol bod heriau recriwtio a chadw. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi swm mawr o arian i ymestyn y cyflog byw gwirioneddol i ofal cymdeithasol a gofal plant, yn ogystal â buddsoddi miliynau lawer, yn amlwg, yn y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Sut ydych chi'n uwchsgilio pobl sydd wedi'u tangynrychioli yn y sectorau hynny, a phwy, p'un a ydyn nhw'n lleiafrifoedd ethnig neu'n fwy o ddynion mewn gofal plant, mwy o fenywod fel gosodwyr inswleiddio yn y diwydiant adeiladu?
Diolch i Jenny Rathbone am ei chyfraniad ac am godi a nodi'r heriau sy'n ein hwynebu ni mewn lleoliadau cenedlaethol a rhyngwladol, oherwydd, yn amlwg, nid yw'r diogeliadau cyfreithiol yno ac yn sicr nid ydyn nhw'n ddigon cryf i ddiogelu gweithwyr mewn gweithleoedd ledled y DU a thu hwnt.
O ran yr hyn y gallwn ni ei wneud, rydych chi'n iawn i nodi'r meysydd hynny lle gallwn ni gefnogi ac uwchsgilio a defnyddio'r dulliau hynny sydd ar gael i ni i geisio gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl ac effeithio arnyn nhw gymaint ag y gallwn ni, mewn cymunedau ledled y wlad. Felly, unwaith eto, rydym ni'n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, gan sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda phobl sy'n gallu dod â nid yn unig profiad o'r sector cyflogaeth a'r heriau sy'n eu hwynebu nhw, ond hefyd o ran profiad bywyd pobl sy'n gweithio yn y sectorau hynny, a hefyd brofiad bywyd pobl yr ydym ni eisiau eu huwchsgilio, ar yr un pryd â chefnogi'r sectorau i'w cryfhau a chryfhau'r statws a sicrhau bod cyfleoedd ehangach.
Felly, rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid cymdeithasol i sicrhau bod cyflogwyr ac undebau llafur yn gweithredu fel hyrwyddwyr ar gyfer y newid hwnnw, i wir fwrw ymlaen â hynny, i'n helpu ni i ledaenu ymwybyddiaeth ac ymarfer ac i drawsnewid y diwylliannau sefydliadol hynny i ddatblygu pobl, gweithio'n rhagweithiol i hyrwyddo manteision gweithlu amrywiol, a sicrhau bod yr amgylcheddau gwaith yno sy'n gynhwysol ac yn cefnogi gweithwyr o leiafrifoedd ethnig i gymryd rhan, ac nid dim ond i gymryd rhan, ond i symud ymlaen a ffynnu hefyd, sydd, yn fy marn i, yn hollbwysig.
Ac ochr yn ochr â hynny, rydym ni'n gwella ein gwasanaethau cyflogadwyedd a sgiliau rheng flaen, gan sicrhau eu bod wir yn gynhwysol, ac yn adlewyrchu'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, fel y dylai hi fod, a chymryd camau i ehangu cyfranogiad grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn y system sgiliau. Rwy'n gwybod ein bod ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth gyda fy nghyd-Aelod Jane Hutt o ran y cynllun gweithredu gwrth-hiliol yr ydym ni'n ei ystyried nawr a chynlluniau gweithredu eraill sy'n ymwneud â gweithwyr anabl a'r gymuned LGBTQ+ hefyd, i sicrhau ein bod ni'n meddwl am bethau yn y gweithle yn ogystal ag yn y gymuned hefyd, i sicrhau bod hynny wedi'i wreiddio ar draws y Llywodraeth a thrwy ein strategaethau cyflogadwyedd a sgiliau wrth symud ymlaen.
Ac yn olaf, Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ganmol y Gweinidog am y gwaith y mae hi wedi'i wneud yn y maes hwn, nid yn unig fel Gweinidog neu Aelod o'r Senedd, ond wrth gwrs yn ei swydd flaenorol fel undebwr llafur? A hoffwn i gofnodi fy aelodaeth falch o Unite the Union, undeb cymunedol, sydd yma heddiw.
Gwnes i wrando gyda diddordeb pan wnaethoch chi sôn am wythnos waith fyrrach yn eich datganiad. Efallai ei bod yn bryd cael sgwrs ehangach am hynny, ac wrth gwrs bydd y Pwyllgor Deisebau yn cynnal ymchwiliad i hynny, a hoffem ni glywed eich barn am hynny, yn sicr. Ond rwyf i eisiau codi'r enghraifft y gwnes i ei chodi yr wythnos diwethaf yn y Siambr, pan ddywedodd menyw ifanc, sy'n gweithio yn y sector lletygarwch wrthyf i, ac eto, rwy'n dyfynnu, y byddai hi'n cael mwy o dips pe na bai'n gwisgo mwgwd. Ni allaf i ddeall hyn o gwbl. Pwy ar y ddaear sy'n meddwl bod hynny'n beth derbyniol i'w ddweud? Mae'n gwbl warthus.
Felly, Gweinidog, 'Sut mae grymuso gweithwyr ifanc?' yw fy nghwestiwn i. Rwyf i, wrth gwrs, yn gwybod bod llawer o'r pwerau hyn yn rhai Llywodraeth y DU a bydd fy nghyd-Aelodau yn ymwybodol iawn heddiw, rwy'n siŵr, o fy nheimladau i tuag at gymhwysedd Llywodraeth Geidwadol y DU yn y maes hwn, ond wedi dweud hynny, beth allwn ni ei wneud, gan weithio gyda'r pwerau sydd gennym ni yn Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur, i sicrhau bod gweithwyr ifanc yn cael eu grymuso a'u diogelu?
Diolch i fy nghyd-Aelod Jack Sargeant am ei gyfraniad ac am y gwaith y mae'n ei wneud o ran cefnogi a hybu llais gweithwyr ifanc, sy'n bwysig iawn. A gaf i ymuno'n llwyr â chi i gondemnio profiad y fenyw ifanc honno a oedd yn gweithio a'r hyn mae wedi ei wynebu yn y gweithle? Ond rwy'n credu, yn anffodus, y bydd pob un ohonom ni yma yn dweud nad yw hynny'n annodweddiadol, mae'n debyg; mae'n debyg bod hwnnw yn brofiad llawer rhy gyffredin. A'r hyn yr wyf i wedi ei ganfod, nid yn unig yn y rôl hon, ond fel yr ydych chi wedi ei ddweud o'r blaen, yw mai gweithwyr ifanc, yn anecdotaidd, yw'r rhai mwyaf tebygol o gael eu hecsbloetio gan nad ydyn nhw’n gwybod beth yw eu hawliau.
Felly, rwy'n credu i ni fel Llywodraeth Cymru, un o'r pethau y gallwn ni ei wneud mewn gwirionedd yw'r ffordd yr ydym yn cysylltu i'r gwaith yr ydym yn ei wneud gyda Gyrfa Cymru, yr ydym yn ei wneud ar gyfer y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, a sefydliadau a chyrff eraill a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ein bod ni'n sicrhau bod pobl, yn enwedig gweithwyr ifanc, yn gallu cael gwybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle, a hefyd y gefnogaeth y gall bod yn rhan o undeb llafur ei rhoi i chi. Ac rwy'n ei awgrymu yn y datganiad ein bod ni'n awyddus i wneud rhywfaint o waith, gan weithio gyda'r prosiect treialu gyda TUC Cymru, i estyn allan at weithwyr iau, pobl ifanc mewn ysgolion, i siarad â nhw am eu hawliau a'u cyfrifoldebau, a'r rôl mae undebau llafur yn ei chwarae mewn gweithleoedd a chymunedau yng Nghymru. Rwyf i yn cofio ysgrifennu rhywbeth flynyddoedd lawer yn ôl ynghylch pam y dylech chi ymuno ag undeb llafur. Onid ydym ni, Joel? Joel, fe ddof i â ffurflen aelodaeth i chi i ymuno ag undeb llafur y tro nesaf. Ond o ddifrif, rydych chi'n treulio rhan mor sylweddol o'ch bywyd fel oedolyn mewn gwaith, oni bai eich bod chi’n ennill y loteri neu'n ennill arian drwy ddulliau annilys, mae mor, mor bwysig eich bod chi’n gwybod beth yw eich hawliau a'ch amddiffyniadau a'r ffordd orau o wneud hynny yw bod yn rhan o undeb llafur.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.