1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 27 Ebrill 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Fel rhywun sy'n frwdfrydig iawn dros gynghorau, rwy'n siŵr fod y Gweinidog yr un mor falch â minnau o weld yr etholiadau llywodraeth leol yr wythnos nesaf. Ac yn gyntaf, Weinidog, gyda'r cylch etholiadol yn dod i ben, rwy'n siŵr yr hoffech ymuno â mi i ddiolch i'r holl gynghorwyr sydd wedi bod yn cyflawni'r rôl honno dros y pum mlynedd diwethaf. Mae wedi bod yn gyfnod heriol i’r holl aelodau etholedig hynny wrth iddynt weithio gyda’u swyddogion i ddarparu gwasanaethau gwirioneddol hanfodol dros y cyfnod o bum mlynedd. Cynghorwyr, fel y gwyddom, yw arwyr di-glod ein cymunedau yn aml.
Ond i symud ymlaen, Weinidog, sut y byddech yn asesu’r rôl y mae Llywodraeth Cymru wedi’i chwarae dros y pum mlynedd diwethaf o ran caniatáu i’n cynghorau gyflawni eu blaenoriaethau? Diolch.
Ie, diolch yn fawr am roi’r cyfle hwnnw imi ddiolch ar goedd, a diolch ar ran Llywodraeth Cymru, i gynghorwyr o bob plaid wleidyddol a'r rhai annibynnol sydd wedi gwasanaethu eu cymunedau dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig i’r rhieni sy’n dewis camu i lawr y tro hwn. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r rheini, a hefyd, o safbwynt personol, diolch enfawr i’r arweinwyr llywodraeth leol y buom yn gweithio mor agos â hwy ers imi fod yn y swydd, ond ymhell cyn hynny hefyd, yn sicr, gan eu bod wedi gwneud gwaith anhygoel. Credaf ichi gyfeirio at y gwaith sydd wedi’i wneud dros y pum mlynedd diwethaf, ac os oes angen i unrhyw un wybod beth yw gwerth llywodraeth leol, nid oes ond angen ichi edrych ar yr ymateb a gafwyd gan gynghorwyr lleol yn ystod y pandemig, wrth iddynt fynd y tu hwnt i'r galw bob dydd i ddiwallu anghenion pobl yn eu cymunedau. Nid oes gwleidyddiaeth bleidiol ynghlwm wrth hynny. Mae’n ymwneud â diolch ar goedd am hynny.
Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio gweithio’n adeiladol ac yn gydweithredol â llywodraeth leol dros y pum mlynedd diwethaf, a chredaf ein bod wedi datblygu perthynas ragorol â llywodraeth leol. Rydym wedi ceisio cael trafodaethau’n gynnar fel y gallwn gael gwared ar broblemau cyn iddynt droi'n broblemau go iawn, a chredaf fod gennym y berthynas aeddfed honno â hwy bellach, ac mae awydd ar ein rhan i gefnogi llywodraeth leol i wireddu eu huchelgeisiau. A gallwch weld rhywfaint o hynny drwy'r cymorth y buom yn ei roi drwy'r dinas-ranbarthau, ond hefyd drwy'r gwaith y buom yn ei wneud gyda'r cyd-bwyllgorau corfforedig a cheisio'u cefnogi i ddod yn llwyddiannus, er bod y gwaith hwnnw megis dechrau o hyd, fel y byddwch yn deall.
Diolch, Weinidog, ac rydych yn sôn am rai o’r cyrff rhanbarthol sydd wedi’u sefydlu, rwy'n credu, o’ch safbwynt chi, i helpu’r cynghorau hynny i gyflawni eu blaenoriaethau. Ond rwy’n clywed gan gynghorau a chynghorwyr am rywfaint o’r rhwystredigaeth ynghylch yr haenau o fiwrocratiaeth a’r haenau o lywodraethu a byrddau a chyrff sy’n cael eu rhoi ar waith, a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, byrddau partneriaeth rhanbarthol, byrddau arweinyddiaeth rhanbarthol, a’r cyd-bwyllgorau corfforedig y sonioch chi amdanynt. Ac mae nifer o'r byrddau a'r cyrff hyn wedi'u sefydlu dros y blynyddoedd diwethaf ac yn mynd ag amser ac egni oddi ar lawer o'r gwasanaethau rheng flaen hynny sy'n darparu'r hyn sydd ei angen ar drigolion ar lawr gwlad. Felly, tybed pa gynlluniau a allai fod gennych, neu pa gamau y byddwch yn ystyried eu cymryd dros y tymor nesaf, wrth weithio gyda chynghorau, i gael gwared ar rywfaint o'r fiwrocratiaeth honno a chael gwared ar rai o'r haenau hynny, a all fynd â llawer iawn o amser ac egni ar brydiau. Fe sonioch chi am arweinwyr y cynghorau, ac yn aml, yr arweinwyr sy'n eistedd ar yr holl gyrff a byrddau ymhell o'r canol, fel petai, sy'n clywed y materion sy'n codi ar lawr gwlad y mae angen iddynt eu cefnogi a chymryd camau i fynd i'r afael â hwy. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i gael gwared ar rywfaint o’r fiwrocratiaeth honno? Diolch.
Credaf fod gennym oll ddiddordeb cyffredin mewn sicrhau bod tirwedd partneriaeth strategol ledled Cymru yn addas i'r diben ac yn galluogi yn hytrach na llesteirio cyflawniad i gymunedau. Credaf fod ffocws arbennig gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol, yn benodol, ond nid oes unrhyw beth i atal aelodau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rhag dewis uno i gyd-fynd â'r bwrdd iechyd lleol, ac felly, ôl troed y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, er enghraifft. Felly, mae opsiynau gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol.
Rydym yn sicr wedi bod o’r farn y dylai unrhyw newidiadau o’r fath fod o’r gwaelod i fyny, ond rwyf wedi ymrwymo i gyfarfod â holl gadeiryddion y byrddau partneriaeth rhanbarthol i drafod eu profiadau, ac efallai y bydd hwn yn gyfle i glywed ganddynt beth y credant sy'n gweddu orau, os mynnwch, ar gyfer gwasanaethu cymunedau lleol. Ond yn sicr, nid wyf am weld dyblygu. Nid wyf am weld gwaith beichus i unigolion. Felly, mae gwaith i’w wneud, ac mae’n rhan o’n hymrwymiad gyda Phlaid Cymru i edrych ar dirwedd ein partneriaethau strategol i sicrhau eu bod yn gweithio yn y ffordd orau bosibl. Ond rwy'n croesawu syniadau o bob rhan o’r Siambr.
Diolch, Weinidog, ac mae'n galonogol clywed y bydd y gwaith hwnnw’n cael ei wneud i ddeall effeithiolrwydd yr holl fyrddau a chyrff hynny, a pha mor bwysig yw hi, wrth gwrs, fod ein cynghorwyr a etholwyd yn lleol yn cyflawni ar lawr gwlad ar ran eu trigolion. Ond dros yr 20 mlynedd neu fwy diwethaf, wrth gwrs, rydym hefyd wedi gweld tangyllido hanesyddol mewn perthynas â'r cynghorau, sydd wedi gorfodi cynghorwyr i gynyddu’r dreth gyngor—cynnydd o oddeutu 200 y cant o dros yr 20 mlynedd—gyda’n trigolion gweithgar yn ysgwyddo baich y costau hyn. Byddwn yn dweud mai nawr yw’r amser i ddarparu cynllun i sicrhau cymunedau cryfach a mwy diogel, a grymuso pobl leol, gan mai hwy sy'n gwybod beth sydd orau i'w hardal, fel y dywedaf, i gyflawni ar lawr gwlad, gan fynd i’r afael â’r problemau sy’n difetha ein cymunedau. Ac wrth gwrs, byddwn yn dweud mai dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â'r gallu i gyflawni yn ein cymunedau lleol. Felly, Weinidog, a fyddech yn rhannu fy mrwdfrydedd y bydd pleidlais dros y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos nesaf yn etholiadau'r cynghorau yn grymuso cynghorau lleol gan ddarparu cymunedau cryfach a mwy diogel?
Rwyf bob amser yn hoffi ateb cwestiwn uniongyrchol gydag ateb uniongyrchol. Felly, na, nid wyf yn cytuno â’r Aelod ar hynny. Rwy’n synnu, yn ystod wythnos yr etholiadau llywodraeth leol, neu ychydig cyn wythnos yr etholiadau llywodraeth leol, fod yr Aelod Ceidwadol yn dymuno codi’r hyn y mae’n ei alw'n dangyllido hanesyddol mewn perthynas â llywodraeth leol yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, mae hyn, uwchlaw dim, yn ganlyniad i'r cyfnod o gyni y buom drwyddo. Mae'n sicr yn wir mai dim ond y cyllid a gawn gan Lywodraeth y DU y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i lywodraeth leol, ac er inni gael setliad gwell eleni, rydym bob amser wedi ceisio blaenoriaethu llywodraeth leol o fewn y cyllid sydd gennym. Ond rydym wedi bod drwy 10 mlynedd o gyni ac mae awdurdodau lleol yn dal i deimlo effaith hynny, wrth gwrs eu bod, yn ogystal ag aelwydydd ledled Cymru, wrth inni fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ym mis Chwefror, mi gyhoeddodd eich Llywodraeth y bydd 53,000 o weithwyr gofal yng Nghymru yn cael taliad bonws o ryw £1,000 o bunnau. Mae unrhyw arian ychwanegol i weithwyr yn y sector i'w groesawu, wrth gwrs, ond nid taliadau bonws one-off ydy'r ateb. Dydy o ddim yn mynd i'r afael â'r broblem go iawn. Beth sydd angen ydy i weithwyr yn y sector gofal gael eu gwobrwyo a'u cydnabod fel maen nhw yn eu haeddu yn eu cyflogau fis ar ôl mis, blwyddyn ar ôl blwyddyn, a chael eu trin hefyd yn gyfartal efo gweithwyr sydd yn y sector iechyd. Pennawd yn unig oedd y taliad bonws; plastr dros dro. Felly pa gyllid sydd ar gael ac mewn lle ar gyfer gwobrwyo, sefydlogi a thyfu'r gweithlu gofal yn yr hir dymor, fel sydd ei angen?
Wel, roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o gyflawni ein hymrwymiad maniffesto yn gynnar iawn i ddarparu cyflog byw gwirioneddol i bobl sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, ac wrth gwrs, mae’r gwaith hwnnw’n cael ei arwain gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y gwasanaethau cymdeithasol, ond roeddem yn falch iawn o allu cyflawni hynny. Ond er mwyn cynorthwyo'r gweithwyr yn y sector hwnnw i bontio i hynny, wrth gwrs, fe wnaethom gyhoeddi'r bonws diweddar, neu'r taliad diweddar, dylwn ddweud, i bobl sy'n gweithio yn y sector hwnnw fel gweithwyr proffesiynol cofrestredig, gweithwyr gofal cymdeithasol—yn benodol, y rheini mewn cartrefi gofal, gofal cartref a chynorthwywyr personol sy’n cael eu talu drwy daliadau uniongyrchol—er mwyn sicrhau eu bod yn cael y budd o hynny cyn i daliad y cyflog byw gwirioneddol ddechrau. Ond gwnaethom geisio sicrhau bod camau cynnar iawn yn cael eu cymryd ar hynny o ran cyflawni'r addewid penodol hwnnw.
Mae'r Llywodraeth wedi gwneud llanast o'r ymgais i gyflwyno taliadau bonws dro ar ôl tro, mae'n rhaid dweud, dros y blynyddoedd diwethaf. Mi ddywedais i, funud yn ôl, wrth gwrs fod unrhyw daliad ychwanegol i gael ei groesawu gan y rhai sy'n ei dderbyn o, ond problem fawr arall ydy bod llawer ddim yn ei gael o: gweithwyr ceginau a glanhawyr mewn cartrefi gofal, fel mae etholwyr i fi ac undeb Unsain wedi tynnu sylw ato fo—pobl sy'n gweithio mewn canolfannau dydd i oedolion hefyd. Mae'n rhestr hirfaith, ac iddyn nhw y cwbl maen nhw'n ei weld ydy eu rôl nhw yn cael ei thanseilio. Rŵan, mae'r taliad yn creu dwy haen yn y gweithlu, ac mae'n anodd meddwl am ffordd fwy amlwg i ddweud wrth rai, 'Sori, dydych chi ddim yn cael eich gwerthfawrogi.' Rŵan, gan eich bod chi mor grediniol fel Llywodraeth mai drwy daliadau bonws one-off mae dangos gwerthfawrogiad, a gawn ni ymrwymiad i dalu'r bonws o £1,000 i'r holl weithlu gofal?
Er eglurder, nid yw'r taliad o £1,000 yr ydym yn sôn amdano yma yn daliad bonws. Bu modd inni dalu dau daliad bonws i bobl sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig. Roedd y cyntaf yn daliad o £500, ac yna cafwyd ail daliad o £735. Fe wnaethom ddweud yn glir mai taliadau bonws oedd y rheini, roeddent yn daliadau diolch am y gwaith a wnaed gan bobl a oedd yn gweithio yn y sectorau hynny, yn gweithio dan straen aruthrol, yn gweithio mewn sefyllfaoedd anodd a phryderus iawn, ac roedd hwnnw’n daliad i ddweud diolch am y gwaith hwnnw.
Yr hyn sydd gennym heddiw a’r hyn yr ydym yn sôn amdano heddiw yw’r taliad o £1,000, sydd, fel rwyf wedi’i ddisgrifio, yn daliad pontio rhwng adeg cyhoeddi’r cyflog byw gwirioneddol a’i roi ar waith drwy'r gyllideb ar gyfer eleni a'r blynyddoedd i ddod. Felly, maent yn ddau daliad gwahanol iawn, a dyna pam nad ydynt yn berthnasol i'r un grwpiau o bobl. Nid yw'r taliad yr ydym yn sôn amdano yn awr yn daliad bonws yn yr un ffordd â'r taliadau blaenorol. Felly, credaf ein bod yn sôn am ddau daliad gwahanol. Nid wyf am roi'r argraff o gwbl nad yw gwaith pawb yn y lleoliadau hyn yn cael ei werthfawrogi'n llwyr, ond rydym yn sôn am ddau daliad gwahanol a chanddynt ddibenion gwahanol.