3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 18 Mai 2022.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o unrhyw oblygiadau i Gymru o'r cyhoeddiad diweddar gan Ysgrifennydd Tramor y DU ynghylch y bwriad i ddeddfu i newid telerau protocol Gogledd Iwerddon? TQ626
Diolch am eich cwestiwn. Mae angen mwy o fanylion arnom ynglŷn â'r cynigion hyn er mwyn asesu eu heffaith. Mae gennym ddiddordeb uniongyrchol mewn unrhyw beth sy’n effeithio ar y ffordd y mae nwyddau’n symud rhwng Prydain ac ynys Iwerddon, ac mae angen i Weinidogion y DU ymgysylltu â ni ar fyrder ynglŷn â'u cynigion.
Gwnsler Cyffredinol, mae cyhoeddiad Ysgrifennydd Tramor y DU yn codi pryderon clir ynghylch llif nwyddau rhwng Prydain ac ynys Iwerddon i'n porthladdoedd sy’n wynebu’r gorllewin, yn enwedig Caergybi, ac i fusnesau Cymru yn fwy cyffredinol. A gwae ni os ydym yn anwybyddu pwysigrwydd diogelu ac amddiffyn cytundeb Gwener y Groglith. Rydym yn nodi dyhead Llywodraeth y DU i ailysgrifennu protocol Gogledd Iwerddon yn unochrog. Mae’n gytundeb rhyngwladol rhwymol, y gwnaethant ei negodi eu hunain, gwnaethant gytuno arno eu hunain, ac fe wnaethant ei werthu i Senedd y DU ac i’r cyhoedd ym Mhrydain fel rhan o’r cytundeb gwych a oedd yn barod i'w bobi, ac fe wnaethant hefyd warantu ar yr un pryd na fyddai unrhyw archwiliadau rhwng Gogledd Iwerddon a’r DU. Ac wrth gwrs, mae dadwneud y protocol yn tanseilio enw da’r DU fel partner rhyngwladol dibynadwy. Felly, Gwnsler Cyffredinol, a fu Llywodraeth Cymru yn rhan o unrhyw drafodaethau ynglŷn â chyhoeddiad Llywodraeth y DU i ailysgrifennu protocol Gogledd Iwerddon? Ac o gofio pwysigrwydd hyn yn uniongyrchol i Gymru yn ogystal ag i’r DU yn gyffredinol, a yw Llywodraeth y DU wedi cytuno â chais Prif Weinidog Cymru i drafod hyn ar fyrder yn un o gyfarfodydd y grŵp rhyngweinidogol ar gyfer cysylltiadau rhwng y DU a'r UE?
Diolch am eich cwestiwn atodol, ac wrth gwrs, rydych yn codi materion pwysig mewn perthynas ag achosion posibl o dorri cyfraith ryngwladol, ac ni ddylid tanbrisio'r rheini. Ysgrifennodd y Prif Weinidog at Brif Weinidog y DU ddydd Llun 16 Mai i fynegi ei bryderon ynghylch y cynigion i gyflwyno deddfwriaeth i gyflwyno rhannau o’r protocol. Cafodd Gweinidog yr Economi alwad gyda James Cleverly nos Lun, pan roddodd y Gweinidog Cleverly wybodaeth am y datganiad, ond ni chafwyd unrhyw drafodaeth arall o sylwedd. Rydym yn cydnabod bod y protocol yn gymhleth ac yn fater sensitif, a dyna pam mai drwy ddeialog yn unig, nid drwy gamau gweithredu unochrog, y gellir dod o hyd i ateb y gall y ddwy ochr gytuno arno.
Credaf ei bod hefyd yn hanfodol—ac mae’n deillio o’r cwestiwn atodol—fod y sefyllfa bresennol yn cael ei thrafod gyda Llywodraethau datganoledig mewn perthynas â Chymru yn benodol. Mae gennym ddiddordeb uniongyrchol mewn unrhyw beth sy’n effeithio ar y ffordd y mae nwyddau’n symud rhwng Prydain ac ynys Iwerddon ac ar faterion a allai effeithio ar fusnesau Cymru yn fwy cyffredinol. Yn benodol, mae angen inni ddeall beth fydd eu cynigion yn ei olygu i fewnforion o ynys Iwerddon yr ydym yn datblygu’r seilwaith angenrheidiol i gynnal archwiliadau iechydol a ffytoiechydol ar eu cyfer. Felly, am y rheswm hwnnw, galwodd y Prif Weinidog yn ei lythyr am drafodaethau gweinidogol pellach, o bosibl mewn un o gyfarfodydd y grŵp rhyngweinidogol ar gyfer cysylltiadau rhwng y DU a'r UE. Nid ydym wedi cael ymateb i hynny eto. Y peth olaf sydd ei angen arnom yw i’r argyfwng costau byw presennol, y mae effeithiau economaidd Brexit eisoes yn effeithio arno, gael ei waethygu ymhellach gan anghydfod masnach rhwng y DU a’i phartner masnachu pwysicaf.
Credaf ei bod yn bwysig fod deialog bellach rhwng yr UE a'r DU, a chredaf ei bod hefyd yn bwysig iawn fod Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â'r Llywodraethau datganoledig lle y ceir effaith ar bobl, yn enwedig yma yng Nghymru, yn amlwg. Nid oes unrhyw un yn dymuno gweld camau gweithredu unochrog. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir nad oedd yn dymuno bod mewn sefyllfa lle roedd angen iddi gyflwyno newidiadau posibl i’r cytundeb ar un ochr yn unig, ond mae’n bwysig cael atebion pragmatig. Credaf fod y Bil a luniwyd a’r cynigion a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ddoe yn bragmatig. Nid oeddent yn sôn am rwygo cytundeb rhyngwladol o gwbl; cafodd mân newidiadau eu cynnig er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r pryderon sylweddol sydd wedi'u codi ledled Gogledd Iwerddon, yn enwedig gan y gymuned fusnes. A ydych yn derbyn, Gwnsler Cyffredinol, er nad yw’r mater hwn wedi’i ddatganoli, mai cyfyngedig fydd yr ymgysylltu sy’n gorfod digwydd gyda Llywodraeth Cymru, am mai rhwng Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd y mae'r cytundeb, wrth gwrs? Ac a ydych yn derbyn fod angen i'r Undeb Ewropeaidd hefyd symud a cheisio cyfaddawdu os ydym am ddod i gytundeb—[Torri ar draws.]—os ydym am ddod i gytundeb sy'n sicrhau heddwch yng Ngogledd Iwerddon ac sy'n cynnal egwyddorion cytundeb Gwener y Groglith?
Diolch am eich cwestiwn. Mae'n sicr yn wir fod deialog yn bwysig, a chredaf ei bod yn bwysig eich bod yn cydnabod pwysigrwydd deialog â'r Llywodraethau datganoledig. Ni chredaf ei fod yn fater bach. Mae’n fater a allai gynnwys Llywodraethau datganoledig o’r diwrnod cyntaf un, gan fod buddiannau economaidd sylweddol ynghlwm wrth hyn. Credaf fod yr Aelod blaenorol, Huw Irranca-Davies, wedi cyfeirio at yr effeithiau economaidd sylweddol ar borthladdoedd Cymru. Credaf eich bod yn tanbrisio goblygiadau’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei gynnig, sef ei bod, o fewn ychydig wythnosau, yn mynd i gyflwyno deddfwriaeth. Credaf hefyd fod angen inni fod yn glir ynglŷn â'r llanast y mae Llywodraeth y DU wedi'i greu, drwy'r hyn sy'n fethiant gwladweinyddol a diplomyddol.
Gadewch inni fod yn glir: llofnododd gytundeb sy'n gyfreithiol rwymol mewn cyfraith ryngwladol. Dyma gytundeb Prif Weinidog y DU. Nawr, un cynnig a awgrymodd oedd y dylem ddefnyddio erthygl 16 o brotocol Gogledd Iwerddon. Dim ond mesur brys y gellir ei ddefnyddio ar gyfer sefyllfa dros dro yw hwnnw. Mae hefyd yn agor y drws i'r UE ddefnyddio gwrthfesurau. I bob pwrpas, mae’r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU yn un sy’n agor y drws i ryfel masnach. Mae proses gymrodeddu annibynnol yn bosibl, ond nid yw’r Llywodraeth wedi sôn am hynny. Wrth gwrs, yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yw gwneud ei hun yn agored i her gyfreithiol yn Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd.
Un peth sy’n glir iawn yw hyn: ni waeth beth a wnaiff Llywodraeth y DU, os yw’n deddfu, mae’n dal yn ofynnol iddi gydymffurfio ag erthygl 4 ac adran 7A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, sydd drechaf. Felly, hyd yn oed os yw’n cyflwyno ei deddfwriaeth ddomestig ei hun, ni all anwybyddu ei rhwymedigaethau rhyngwladol. Ni waeth beth a wnaiff y DU ar lefel cyfraith ddomestig, ni all ddirymu rhwymedigaethau cyfraith ryngwladol, felly mae mewn perygl difrifol o ddinistrio ei henw da rhyngwladol, ei hygrededd mewn cyfraith ryngwladol, a dylem fod yn wlad sy’n cadw at ein gair, neu fel arall, pam fyddai unrhyw wlad byth yn ceisio masnachu gyda'r DU os na ellir ymddiried ynddi?
Credaf mai dau bwynt arall sydd angen eu gwneud mewn ymateb i’ch cwestiwn yw, yn gyntaf, beth sy’n digwydd: mae’r dull a fabwysiadwyd, yn gyntaf, yn ansefydlogi’r sefyllfa wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon, ac mae'n rhaid inni beidio â thanbrisio hynny, ond mae hefyd mewn perygl o greu difrod sylweddol iawn i economi Prydain ac i economi Cymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ailystyried ei safbwynt o ddifrif, y bydd yn cymryd rhan mewn deialog, ond yn anad dim, y bydd yn ymgysylltu â’r Llywodraethau datganoledig ynghylch materion sy’n effeithio'n uniongyrchol ar ein llesiant economaidd.
Bythefnos cyn refferendwm Brexit, rhagwelodd Syr John Major, pe bai Brexit yn digwydd, y byddai pos jig-so’r broses heddwch yn cael ei daflu i’r awyr ac na fyddai gan unrhyw un syniad lle byddai’r holl ddarnau’n glanio. Ond roedd gan un dyn yr ateb, ac nid unrhyw hen ateb, roedd ganddo ateb parod i'w bobi yn 2019, ac arwyddwyd, seliwyd a thraddodwyd yr ateb hwnnw gan ei Lywodraeth drwy brotocol Gogledd Iwerddon. Mae bellach yn dymuno torri ei air ar y cytundeb rhyngwladol rhwymol hwnnw, ac mae wedi cael ei rybuddio gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, gan Taoiseach Iwerddon i beidio â gwneud hynny. Onid dyma'r eironi yma, fod y Brexiteers rhonc sydd â chymaint o obsesiwn ynghylch statws Prydain yn y byd, a bod Prydain yn wych yn y byd unwaith eto, yn gwneud y gwrthwyneb yn llwyr? Maent yn tanseilio statws Prydain yn y byd—
A wnewch chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda?
A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi, gadewch inni fod yn onest, nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig unrhyw atebion ynghylch sut i ddatrys y cwestiwn ynglŷn â ffin Gogledd Iwerddon, nid oes ganddynt unrhyw atebion ynglŷn â sut i ddatrys y materion cyfansoddiadol sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ac mewn gwirionedd, fod eu gweithredoedd eu hunain yn prysur gyflymu tranc eu hundeb gwerthfawr?
Mae’r Aelod yn gwneud ei bwynt yn dda iawn. Mae gennyf ddau bryder penodol. Y cyntaf yw tanseilio cyfraith ryngwladol, ac mae hynny’n rhywbeth a ddylai beri pryder i unrhyw un o swyddogion y gyfraith, a byddwn yn gobeithio bod swyddogion eraill y gyfraith ar draws Llywodraethau’r DU yn rhannu’r pryderon hynny sydd gennym. Mae'r pwynt arall y mae’n ei wneud, wrth gwrs, yn ymwneud â'r effaith ansefydlogi. Fe gyfeirioch chi at Lywodraeth yr Unol Daleithiau a goblygiadau'r broses hon o ran tanseilio cytundeb Gwener y Groglith, ond yn anad dim, methiant diplomyddiaeth a gwladweinyddiaeth ar ran Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y sefyllfa y mae ynddi. Ni fydd clecian cleddyfau gyda'r bygythiad o ddeddfwriaeth sy’n torri cyfraith ryngwladol yn datrys unrhyw beth, ac rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ailfeddwl. Ond unwaith eto, rwy'n gwneud y pwynt hollbwysig hwn fod osgoi neu beidio ag ymgysylltu'n briodol â'r Llywodraethau yn y DU sydd hefyd â phryderon sylweddol am yr effaith economaidd yn dangos dirmyg tuag at y Llywodraethau hynny. Rwy'n gobeithio y bydd yn ailystyried ei safbwynt, ac y bydd Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol agos iawn.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym eisoes wedi gweld rhywfaint o niwed y Brexit parod i’w bobi wrth gwrs, neu’r syniad hanner pan, fel y mae’n well gennyf ei alw, ar borthladdoedd Cymru, gan eu bod yn osgoi ein porthladdoedd yn barod. Felly, rydym eisoes wedi gweld hynny. Wrth gwrs, Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, a luniodd y cynllun gwych hwn—nad yw mor wych, mae'n debyg, yn ôl yr hyn a ddywed bellach. Felly, hoffwn ofyn i chi, Gwnsler Cyffredinol, y tu hwnt i’r niwed y bydd rhwygo’r cytundeb hwn yn ei achosi i statws rhyngwladol Cymru a'r DU yn y byd ehangach, a fyddwch yn cael trafodaethau â’ch swyddogion cyfatebol yn y gwledydd datganoledig i annog Prif Weinidog y DU i ailystyried y sefyllfa ryngwladol niweidiol iawn i fasnach ac ymddiriedaeth y mae ar fin rhoi'r DU ynddi?
Wel, diolch am eich cwestiwn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd Gweinidog yr Economi a Phrif Weinidog Cymru yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod y buddiannau rhyngwladol hynny a buddiannau’r DU, ond yn enwedig buddiannau Cymru, ar frig yr agenda mewn unrhyw drafodaethau, ac yn defnyddio pob cyfle i geisio dod â rhywfaint o synnwyr i'r sefyllfa hon.
Fe sonioch chi am yr effaith economaidd, ac wrth gwrs, ar adeg pan fo'n argyfwng costau byw, efallai y caf gyfeirio at yr hyn a ddywedodd cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Ngogledd Iwerddon. Os na fydd Llywodraeth y DU yn gwrando ar y Llywodraethau datganoledig, efallai y bydd yn gwrando ar Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, llais busnes yng Ngogledd Iwerddon, a ddywedodd hyn:
'dylai gwleidyddion ym mhobman ganolbwyntio ar helpu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yng nghanol yr argyfwng costau byw gwaethaf ers degawdau.
'Gyda chwmnïau eisoes yn gwegian yn sgil cost gynyddol gwneud busnes, y peth olaf y maent am ei weld yw ansicrwydd pellach mewn trefniadau masnachu ynghanol heriau byd-eang gyda chadwyni cyflenwi.'
Credaf fod y datganiad hwnnw’n siarad drosto’i hun.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.