3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 18 Mai 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bederfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) fod adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd wedi ei nodi fel gwasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol? TQ624
Diolch yn fawr. Mae hwn yn adroddiad siomedig, ac mae'r methiannau mewn gofal sydd wedi eu nodi yn annerbyniol. Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau i ni fod trefniadau goruchwyliaeth cadarn nawr mewn lle. Rŷn ni'n disgwyl i'r bwrdd iechyd weithio gydag Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru i gyflymu gwelliannau, ac mi fyddwn ni'n parhau i gynnig cefnogaeth er mwyn galluogi newid.
Wel, faint o weithiau ydw i wedi clywed yr ateb yna o'r blaen, Gweinidog? Sgandal arall, adroddiad damniol arall, cwestiwn brys arall yn y Senedd, ac ateb tila arall, dwi'n ofni, gan y Llywodraeth. Rŷn ni'n mynd rownd mewn cylchoedd fan hyn, onid ydyn ni? Rŷn ni yn mynd rownd mewn cylchoedd fan hyn. Faint o weithiau ydyn ni'n gorfod gwrando arnoch chi yn addo bod pethau'n mynd i wella, tra bod cyrff fel Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru a chynghorau iechyd cymunedol ac eraill yn dweud stori wahanol iawn wrthyn ni? Pryd wnewch chi dderbyn bod geiriau fel hyn ddim yn ddigon bellach, a bod yr amser wedi dod i ystyried newidiadau strwythurol i sut mae gwasanaethau iechyd yn cael eu cyflwyno yn y gogledd?
Rydych wedi bod yn addo gwelliannau i gleifion yng ngogledd Cymru ers blynyddoedd mawr, ac nid ydynt byth i'w gweld yn cael eu gwireddu. Rydych wedi rhoi cynnig ar fesurau arbennig, ac roedd yn fethiant; rydych wedi rhoi cynnig ar bob math o ymyriadau dwysach ac mae'n amlwg nad ydynt yn gweithio. Ychydig wythnosau'n ôl, roeddem yma yn trafod methiannau difrifol gwasanaethau fasgwlaidd yn y gogledd a'r risg yn sgil hynny i ddiogelwch cleifion. Cyn hynny, wrth gwrs, roeddem yn trafod y methiannau parhaus mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd, a'r ffordd y câi cleifion eu niweidio er gwaethaf rhybuddion gan adroddiadau a gyhoeddwyd flynyddoedd ynghynt. A heddiw, yn awr, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn rhybuddio mai'r adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd yw'r waethaf a welodd erioed, a bod hynny, wrth gwrs, yn arwain at ganlyniadau difrifol i ddiogelwch cleifion.
Felly, onid ydych yn cytuno, Weinidog, fod yr amser wedi dod yn awr i Lywodraeth Cymru ddechrau sgwrs ehangach ynghylch diwygio gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru? Maent yn dweud, 'Os nad yw wedi torri, peidiwch â'i drwsio.' Wel, wyddoch chi beth? Mae wedi torri ac mae angen ei drwsio. Felly, a wnewch chi dderbyn o'r diwedd fod yr amser ar ben i Betsi y tro hwn?
Rwy'n gwbl glir nad yw hyn yn dderbyniol. Mae'r sefyllfa—
Rydym wedi clywed hyn o'r blaen.
Os gadewch imi orffen—nid yw'n dderbyniol. Cyn gynted ag y clywais fod problem, euthum i dreulio'r diwrnod cyfan yn yr ysbyty er mwyn gweld drosof fy hun beth oedd yn digwydd ac i weld y pwysau a oedd arnynt. A gallaf ddweud wrthych fy mod wedi cyfarfod â rhai aelodau o staff y bu'n rhaid iddynt roi'r gorau iddi am eu bod, mewn gwirionedd, yn eu dagrau oherwydd y pwysau a oedd arnynt. Wrth gwrs, mae angen inni gefnogi'r staff hynny ac mae angen inni eu helpu, ac mae'r bwrdd iechyd bellach wedi ein sicrhau y byddant yn cryfhau goruchwyliaeth weithredol dros adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd. Os mai eich ateb yw ailstrwythuro ar adeg pan fo pobl yn aros am lawdriniaethau, a'ch bod eisiau dadelfennu'r bwrdd iechyd cyfan ar yr adeg hon, pan wyf i, a bod yn onest, eisiau bwrw ymlaen â'r gwaith o wella pobl—
Wel, nid yw'n gweithio. [Anghlywadwy.]—nid yw'n gweithio. [Anghlywadwy.]—deng mlynedd. [Anghlywadwy.]
Gadewch—. Byddaf—
Os ydych yn credu mai ailstrwythuro yw'r ateb ar hyn o bryd—
Weinidog—. Credaf ei bod yn bwysig inni adael i'r Gweinidog ateb heb dorri ar draws, os gwelwch yn dda.
Nid ailstrwythuro yw'r ateb ar hyn o bryd. Byddwn yn cael cyfarfod teirochrog ym mis Mehefin a bydd hwnnw'n darparu argymhellion i mi ar y lefel briodol o uwchgyfeirio. Rwyf wedi gofyn am sicrwydd fod fy swyddogion yn barod ar gyfer unrhyw bosibilrwydd a ddaw o'r cyfarfod teirochrog hwnnw, ac mae gennym ddulliau gwahanol yn awr o sicrhau y gallwn gefnogi ac ymyrryd yn y ffordd fwyaf ymarferol bosibl i ddarparu'r cymorth y maent ei angen. Nawr, eich ateb bob amser yw difrïo'r gwasanaeth a'r bobl—[Torri ar draws.]—a'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwnnw sydd ar eu gliniau, sydd yn eu dagrau. Ac wrth gwrs, mae gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i wasanaethu pobl y gymuned honno. Os ydych yn credu mai ailstrwythuro yw'r ateb ar hyn o bryd, mae arnaf ofn fy mod yn meddwl eich bod wedi camgymryd. Nid dyna fyddaf yn ei wneud. Nid wyf yn mynd i ailstrwythuro yng nghanol pandemig. Nid dyna'r ffordd i sicrhau newid. Rydym yn rhoi pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn yr ardal, rydym yn cyfarfod yn aml â'r GIG yn yr ardal, a byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn ymateb mewn ffordd gynhyrchiol a blaengar, sy'n adeiladol. Ac wrth gwrs, mae sefyllfa o'r fath yn annerbyniol, ond byddwn yn eu cefnogi i sicrhau eu bod yn gwneud gwelliannau.
Weinidog, rydym ni yng ngogledd Cymru wedi cael llond bol, a dweud y gwir, ar eich clywed yn dweud wrthym na allwn daflu goleuni ar y pethau ofnadwy sy'n digwydd yn ein gwasanaeth iechyd yn y gogledd. A bod yn onest, roedd yr adroddiad heddiw nid yn unig yn siomedig, roedd hefyd yn frawychus. Efallai nad yw'n frawychus i chi, ond mae'n frawychus i'r bobl yn fy etholaeth y mae'r adran achosion brys honno'n eu gwasanaethu. Mae pobl yn fy etholaeth yn dibynnu ar yr adran achosion brys honno, a phan fyddant yn darllen fod problemau ynddi oherwydd diffyg gwelyau, diffyg staff, cofnodion gwael neu gofnodion nad ydynt yn bodoli, diogelwch cleifion yn cael ei roi mewn perygl dro ar ôl tro, cleifion sy'n agored i niwed y dylid eu gweld mewn 10 munud nad ydynt yn cael mynediad at feddyg ymgynghorol neu arbenigwr am chwe awr, cleifion iechyd meddwl hunanladdol yn cael eu rhoi mewn rhannau o ardal aros lle na ellir eu gweld na'u monitro ac sydd weithiau'n diflannu heb i unrhyw un yn yr ysbyty wybod eu bod wedi gadael mewn gwirionedd—. Dyma fwrdd iechyd sydd wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu neu'n destun mesurau arbennig ar gyfer ei wasanaethau iechyd meddwl ers dros chwe blynedd. Mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen. Ac os darllenwch yr adroddiad, fe welwch ei fod yn adleisio bron bob adroddiad a ddaeth i sylw'r Senedd tra bûm yn Aelod ohoni, ymhell dros ddegawd, fel y dywedwyd eisoes. Ac a dweud y gwir, mae'n ddrwg gennyf ddweud nad oedd yn syndod i mi, yr adroddiad hwn, oherwydd wythnos ar ôl wythnos, rydym yn gweld cleifion, rydym yn gweld aelodau o'u teuluoedd a'u hanwyliaid, yn ein cymorthfeydd, yn anfon e-byst atom ac ar y ffôn yn dweud wrthym fod problemau yn yr adrannau hyn. Rydym yn eu codi gyda'r bwrdd iechyd a chawn y math o nonsens yr ydych newydd ei roi inni heddiw—eu bod wedi rhoi sylw i'r pethau hyn, fod pethau'n gwella, eu bod wedi cynhyrchu cynllun gwych sydd ar silff yn barod i gael ei weithredu.
Mae angen i'r Aelod ofyn ei gwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda.
A hyn gwta ddeufis ar ôl adroddiad arall ar y gwasanaethau fasgwlaidd. Wyddoch chi, dau wasanaeth yn unig yng Nghymru a ddisgrifiwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fel gwasanaethau sydd angen eu gwella'n sylweddol. Mae'r ddau ohonynt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—yn unman arall, dim ond ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae angen i'r bwrdd iechyd wella, Weinidog. Nid wyf yn gwybod, a dweud y gwir, a yw newid strwythurol yn briodol. Nid wyf wedi fy argyhoeddi o hynny eto—
Darren—
Rwy'n hapus i gael y sgwrs honno.
Darren, mae angen ichi ofyn y cwestiwn. Rwy'n gwybod eich bod yn teimlo'n angerddol, ond mae angen ichi ofyn cwestiwn.
Rwyf am ofyn cwestiwn, ac os gadewch imi ei ofyn, fe wnaf. Ond mae staff yn dweud wrthyf mai'r broblem sylfaenol yw nad oes digon o welyau i gleifion mewnol yn yr ysbyty hwnnw, ac nad oes digon o aelodau staff. Beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau bod cydbwysedd y gwelyau i gleifion mewnol yn iawn ar gyfer y boblogaeth leol honno yng Nghonwy a sir Ddinbych sy'n dibynnu ar yr ysbyty hwnnw? Oherwydd, yn ddemograffig, dyma'r boblogaeth hynaf yng Nghymru, ac eto mae llai o welyau ar gyfer nifer y preswylwyr sy'n cael eu gwasanaethu gan yr ysbyty hwnnw nag mewn unrhyw ran arall o'r wlad. Ac a ydych yn derbyn—a ydych yn derbyn—fod y penderfyniad a wnaed gan eich rhagflaenydd, sy'n eistedd wrth eich ymyl yn y Siambr ac sydd wedi bod yn cilwenu yn ystod y cwestiwn hwn—
Nid wyf wedi bod yn cilwenu.
Rydych wedi bod yn cilwenu yn ystod y cwestiwn hwn. A ydych yn derbyn bod y penderfyniad—
A gaf fi—? [Torri ar draws.] Arhoswch. Arhoswch am eiliad, bawb, os gwelwch yn dda. [Torri ar draws.] Darren, arhoswch am eiliad. Mae angen inni fod yn ofalus o'r iaith sy'n cael ei defnyddio yn y Siambr hon ar bob ochr, os gwelwch yn dda. Felly, gadewch inni sicrhau bod y cwestiynau'n canolbwyntio ar y mater sydd wedi'i godi heddiw, a gadewch inni gadw at y cwestiynau hynny ar y mater.
Mae'r cwestiwn yn ymwneud â'r mater. A ydych yn derbyn bod y sawl sy'n eistedd wrth eich ymyl chi, eich rhagflaenydd, wedi gwneud y penderfyniad anghywir pan benderfynodd dynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig cyn etholiad diwethaf y Senedd? Roedd y penderfyniad hwnnw'n anghywir, Weinidog, ac mae angen ichi ddatrys y broblem.
Rwyf am geisio tawelu'r sefyllfa yma rywfaint, a gadewch inni geisio bod ychydig bach yn fwy adeiladol. Nawr, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi dweud yn union beth sydd angen ei wneud yn y sefyllfa hon. Maent wedi dweud—maent wedi rhestru'r hyn y mae angen ei wneud. Nid oedd yr ymateb fel y dylai fod pan aethant yn ôl i mewn; bellach cafwyd ymateb gan y bwrdd iechyd. Felly, gadewch imi ddweud wrthych beth y maent yn bwriadu ei wneud. Maent yn bwriadu cryfhau goruchwyliaeth weithredol ar adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd; maent yn bwriadu rhoi mwy o fewnbwn uwch-arweinwyr a hapwiriadau yn y fan honno—yn ystod fy ymweliad, roeddwn yn sicr yn teimlo bod angen gwneud hynny; byddant yn cael cyfarfodydd diogelwch bob dwy awr fel bod dulliau gweithredu'n cael eu cryfhau o fewn y cwadrant brys, ynghyd â'r amlygrwydd cynyddol i uwch-arweinwyr; bydd hyfforddiant yn cael ei gynyddu ar draws nifer o feysydd. Gallwch ddychmygu iddynt orfod oedi hyfforddiant yn ystod y pandemig oherwydd bod cymaint yn digwydd—bydd yr hyfforddiant hwnnw'n cael ei aildrefnu. Caiff cleifion sy'n agored i niwed eu nodi a'u trafod yn y cyfarfodydd diogelwch a gynhelir bob dwy awr, a bydd y gwaith o gynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion yn dechrau pan fyddant yn cyrraedd.
Ac nid gwelyau yw'r ateb bob amser, a dweud y gwir—yn sicr nid dyna y mae AGIC yn ei ddweud, a byddai'n well gennyf wrando ar AGIC, sef yr arbenigwyr. A gadewch inni fod yn glir, mewn gwirionedd, nad rhoi pobl mewn gwelyau yw'r ateb. Ein cynnig a'n dull polisi yw rhyddhau pobl o'r ysbyty cyn gynted â phosibl. Bydd yna system olrhain cleifion ddigidol newydd a fydd yn symleiddio teithiau cleifion gyda mwy o hyfforddiant i staff ar sut i'w defnyddio. Felly, mae mesurau ar waith. Maent wedi bod yn glir iawn ynglŷn â sut y maent yn bwriadu ymateb i hyn ac wrth gwrs, byddwn yn edrych ar hyn yn y cyfarfod teirochrog ym mis Mehefin.
Weinidog, roeddem eisoes yn gwybod, fel Aelodau lleol, nad yw adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd yn un sy'n perfformio'n dda yng Nghymru. Rwy'n drist iawn, fy hun, ar ôl darllen yr adroddiad a dysgu mai dyma'r adran achosion brys sy'n perfformio waethaf yng Nghymru erbyn hyn. Ym mis Mawrth 2022, dim ond 44.1 y cant o gleifion a welwyd o fewn y targed pedair awr; cafodd 62.4 y cant eu gweld o fewn y targed wyth awr; a threuliodd 1,351 o bobl fwy na hanner diwrnod, 12 awr, yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys. Nawr, mae ein gwaith achos yn tynnu sylw at y sefyllfa dyngedfennol yng Nglan Clwyd, ond cipolwg yn unig y mae adroddiad AGIC yn ei roi i ni ar ba mor ddrwg yw pethau mewn gwirionedd. Ac rwy'n cydnabod eich bod yn cydnabod hynny, a diolch i fy nghyd-Aelod, Llyr Gruffydd, oherwydd pe na baech chi wedi codi hyn fel cwestiwn amserol, roeddwn yn gobeithio ei godi fel rhyw fath o gwestiwn brys.
Rwy'n cytuno'n llwyr â sylwadau Darren Millar. Mae'n dorcalonnus bod yn Aelod pan fo pobl yn cysylltu â ni bob dydd gyda phethau sy'n mynd o chwith yn y bwrdd iechyd hwn. Ac nid ydym eisiau beirniadu'r bwrdd iechyd hwn yn ddi-sail. Mae gennym staff gwych yno'n gweithio'n galed iawn, ond maent hwy eu hunain o dan straen mawr. Fe fyddwch yn colli aelodau o staff, nid oherwydd yr hyn a ddywedwn yma, ond oherwydd yr amodau y maent yn gweithio ynddynt a'r pwysau sydd arnynt. Weinidog, sut y credwch chi rwy'n teimlo wrth ddarllen hyn? Fod yr amgylchedd generig, yr ystafell glinigol, offer dadebru, offer sugnedd ocsigen, offer codi a chario yn fudr; fod cyfleustodau a chegin ward yn llychlyd neu'n fudr; fod cleifion sydd angen troli yn y prif ardaloedd, os ydynt ar gael—
Rydym angen y cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda.
Iawn, rwy'n dod ato yn awr.
Yn awr, os gwelwch yn dda.
Rydych wedi rhoi amser i Aelodau eraill, rhowch amser i mi, os gwelwch yn dda.
Gofynnwch y cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda.
Maent yn cael eu cadw yn yr ystafell aros fel mater o drefn; nid oes unrhyw wiriadau cyson na pharhaus i gleifion risg uchel. Gallai hynny fod yn unrhyw un o'n perthnasau neu berthnasau ein hetholwyr. Mae cydymffurfiaeth â—
Rwyf wedi diffodd y meicroffonau, oherwydd gofynnais i sawl Aelod gadw eu cwestiynau—. Rydych yn gyfyngedig o ran amser cwestiynau, fe wyddoch hynny, ac felly rydych wedi mynd y tu hwnt i'r amser a neilltuwyd eisoes. Cadwch at y cwestiwn os gwelwch yn dda.
Iawn, fe wnaf hynny. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Weinidog, pan roddwyd y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig yn 2015, roedd angen gwelliannau o ran arweinyddiaeth a llywodraethu. Tynnodd adroddiad AGIC sylw at bryderon difrifol. Felly, a yw'n wir, saith mlynedd yn ddiweddarach, fod amcanion y mesurau arbennig hyn yn dal i fod heb eu cyflawni? Cwestiwn 1 oedd hwnnw. A'r cwestiwn olaf, Ddirprwy Lywydd: Weinidog, fe wyddoch yn iawn beth yw fy marn am adrannau achosion brys yng ngogledd Cymru—yng ngoleuni methiant yr ysbyty penodol hwn, a wnewch chi edrych yn awr ar Ysbyty Cyffredinol Llandudno, ac ar roi mesurau ar waith yno a fyddai o leiaf yn tynnu pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd ac yn arwain, gobeithio, at ganlyniadau mwy diogel ar gyfer ein hetholwyr? Diolch.
Diolch yn fawr. Wel, wrth gwrs, mae Glan Clwyd, ynghyd ag adrannau damweiniau ac achosion brys eraill, yn gweld cynnydd enfawr yn y galw, ac mae rhywfaint o'r galw hwnnw'n deillio o'r ffaith bod pobl na wnaeth geisio cymorth yn ystod y pandemig yn gwneud hynny yn awr. Ond mae'r sefyllfa yng Nglan Clwyd yn waeth nag mewn ysbytai eraill, a dyna pam y mae angen inni sicrhau ein bod yn tynnu sylw at Ysbyty Glan Clwyd—ac nid oes neb yn dweud na ddylech dynnu sylw ato; mawredd, os na thynnwch chi sylw ato, gallaf ddweud wrthych y byddaf i'n tynnu sylw ato. Felly, mae'n bwysig inni ddeall bod yr arweinyddiaeth a'r trefniadau llywodraethu a oedd yn destun mesurau arbennig ond sydd bellach yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu, sy'n rhywbeth yr ydym yn dal i'w fonitro ac angen ei wella, a dyna pam y byddwn yn ailedrych ar hyn pan gawn ymateb a'r argymhelliad o'r cyfarfod teirochrog ym mis Mehefin—cawn weld beth fydd ganddynt i'w ddweud am hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod pobl yn deall y bydd yna dîm rheoli ysbytai estynedig a phresenoldeb gweithredol yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys, ac y bydd yna fwy o ddefnydd o hapwiriadau cadw cofnodion. Mae'n gwbl annerbyniol i ysbyty gael ei ddisgrifio'n 'fudr', yn enwedig yn yr hinsawdd presennol. Nid yw'n adroddiad deniadol, ac yn amlwg mae angen inni sicrhau eu bod yn deall difrifoldeb yr hyn sy'n digwydd yma.
Gallaf ddweud wrthych fod Ysbyty Cyffredinol Llandudno eisoes yn cael ei ddefnyddio fel man lle mae pobl yn mynd i gael eu rhyddhau. Felly, mae hwnnw eisoes yn cael ei ddefnyddio, ac rwyf wedi ymweld—[Torri ar draws.] Rwyf wedi ymweld ag ef, ac mae'n—. Mae'n eithaf llwyddiannus o ran ysgwyddo rhywfaint o'r baich. Ac yn amlwg, os oes angen parhau â'r trefniant hwnnw yn fwy hirdymor, rwy'n siŵr y bydd y bwrdd iechyd yn ystyried hynny. Ond rwy'n derbyn bod Ysbyty Glan Clwyd mewn sefyllfa anodd iawn mewn gwirionedd, a byddwn yn sicr yn sicrhau bod y bwrdd iechyd yn deall bod brys gwirioneddol yn awr i wella'r sefyllfa.
Darllenais adroddiad gwirio ansawdd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru y bore yma, ac roedd ei gynnwys yn frawychus—yn wirioneddol frawychus. Ac rwy’n bryderus iawn am ddiogelwch fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd, ac rwy'n bryderus hefyd am fy etholwyr sy’n gweithio ar y rheng flaen yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r ysbyty ac arweinyddiaeth y bwrdd iechyd wedi gwneud cam â'r cleifion a'r staff dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae’r ffaith i’r adroddiad hwn dynnu sylw at yr angen am newid diwylliannol sylweddol er mwyn gwneud yr adran yn amgylchedd diogel ac effeithiol i gleifion a staff yn peri cryn bryder, fel y mae’r ffaith nad yw’r gwersi a ddysgir o ddigwyddiadau'n cael eu rhannu fel mater o drefn ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Weinidog, a ydych yn credu bod y bwrdd iechyd lleol yn addas at y diben? A gofynnodd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, y cwestiwn i chi, ac ni chredaf ichi ateb y cwestiwn, felly fe ofynnaf i chi eto: a ydych yn gresynu at benderfyniad eich Llywodraeth i dynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig cyn etholiadau'r Senedd y llynedd? Ac a oes gennych unrhyw gynlluniau i adolygu gwasanaethau ar draws y rhanbarth er mwyn sicrhau amgylchedd diogel i gleifion a staff?
Diolch yn fawr iawn. Wel, yn sicr, rydym wedi gweld pwysau aruthrol yng Nglan Clwyd, ac mae hynny'n un o'r rhesymau pam yr euthum yn syth i'r ysbyty cyn gynted ag y gwelais yr adroddiad cyntaf, a threulio'r diwrnod yn yr ysbyty, nid ymweliad cyflym yn unig, ond treuliais amser gyda phobl ar y rheng flaen yn yr adran achosion brys, yn gweld y math o bwysau sydd arnynt, a gallaf ddweud wrthych fod y pwysau'n aruthrol. Cyfarfûm hefyd â’r undebau llafur, a soniodd wrthyf sut y mae staff yn ymdopi. Mae hwn yn gyfnod anodd ac maent yn sefyllfaoedd anodd, ond mae’n amlwg nad yw Glan Clwyd a Betsi'n ymdopi cystal â byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Ac wrth gwrs, felly, mae angen inni edrych ar hynny, a dyna pam y bydd y cyfarfod teirochrog yn rhoi rhyw syniad i ni a oes angen inni uwchgyfeirio'r sefyllfa.
Credaf fod fy rhagflaenydd wedi gwneud y peth iawn yn edrych ar y ffordd yr oedd bwrdd Betsi'n cael ei redeg a sicrhau ei fod yn eu hisgyfeirio o’r ymyrraeth a oedd ar waith. Ond ers hynny, rydym wedi cael prif weithredwr newydd, credaf fod gennym gadeirydd sy'n weithgar ac sy'n ymgysylltu â'r gweithlu ac sy'n gwbl benderfynol o newid y sefyllfa. A chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sicrhau'r cydbwysedd iawn yma rhwng sicrhau ein bod yn gweld gwelliannau enfawr ym mwrdd Betsi, yn enwedig yn yr adran achosion brys a gwasanaethau fasgwlaidd, a hefyd yn sicrhau ein bod yn cefnogi'r staff, sydd wedi bod dan bwysau aruthrol dros gyfnod hir iawn o amser.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Nid oeddwn am siarad ar y pwnc hwn, ond fe wnaf yn awr, felly gobeithio bod yr hyn a ddywedaf yn iawn. Yn aml, gofynnir i mi a wyf yn credu bod y bwrdd iechyd yn rhy fawr. Ac mae fy synnwyr cyffredin, fy adwaith greddfol, yn dweud, 'Ydy, mae'n rhy fawr.' Mae'n ardal enfawr—[Torri ar draws.] Synnwyr cyffredin. Ond rwy'n hoffi holi pobl, felly gofynnais i weithwyr iechyd proffesiynol, gofynnais i bobl yn y gwasanaethau cymdeithasol, beth roeddent yn ei feddwl, hynny yw, a oes angen inni wneud rhywbeth yn awr. Ac roeddent yn dweud y byddai gwneud rhywbeth yn awr yn weithred gostus, fod ad-drefnu'n ddrud iawn, a bod pethau eraill y mae angen rhoi sylw iddynt yn gyntaf. Mae llawer o wasanaethau rhagorol ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac rwyf mor falch fod fy merch, sy’n byw ar yr ochr arall i'r ffin, wedi gallu cael ei phlentyn yn Wrecsam, oherwydd, dros y ffin yn swydd Amwythig, mae’r gwasanaethau iechyd mamolaeth yno'n wirioneddol wael. Felly, mae rhai adrannau da iawn, ac nid wyf am ladd arnynt, ond mae rhai sydd angen buddsoddiad.
Ond mae angen ichi ofyn eich cwestiwn hefyd, os gwelwch yn dda.
Mae'n ddrwg gennyf. Mae'n ddrwg gennyf, dywedais nad oeddwn am—. Felly, gwn fod Ysbyty Brenhinol Alexandra yn gobeithio cael buddsoddiad yn hynny, i helpu i leddfu'r pwysau ar yr uned mân anafiadau—[Torri ar draws.] Mân anafiadau. Ond gwn fod problem oherwydd y gostyngiad o 11 y cant yn y cyllid cyfalaf gan Lywodraeth y DU—[Torri ar draws.] Na, rwy'n siarad, rwy'n gofyn cwestiwn.
Arhoswch funud. Os gwelwch yn dda, gofynnwch eich cwestiwn, gan ein bod yn symud ymlaen, mae'r amser yn mynd rhagddo.
Iawn. Diolch.
Gofynnwch y cwestiwn.
Felly, rwy’n gofyn i’r Gweinidog a yw’r diffyg cyllid cyfalaf hwnnw, gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru, yn cael effaith ar ein gallu i adeiladu gwasanaethau ychwanegol i dynnu’r pwysau oddi ar rai ysbytai penodol. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Wel, byddwn yn cytuno â chi, Carolyn, fy mod yn credu y byddai meddwl am ad-drefnu yng nghanol y pandemig, pan fo gennym y rhestrau aros hiraf erioed, yn weithred ddiangen. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bobl, a’r hyn y maent ei eisiau yw cael eu trin yn dda a bod yn siŵr eu bod yn cael eu gweld mewn modd amserol. Credaf hefyd ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sôn am yr hyn y mae bwrdd Betsi'n ei wneud yn dda. Ganddynt hwy y mae'r cyfraddau canser gorau, er enghraifft, yng Nghymru.
Credaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd eich bod yn llygad eich lle ei bod yn anodd, oherwydd y cyfyngiad ar ein cyllid cyfalaf, inni roi’r buddsoddiad y byddem wedi’i ddymuno. Edrychwch, credaf ei bod yn bwysig iawn—[Torri ar draws.] Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall, fel Llywodraeth, ein bod wedi ymrwymo i wella’r sefyllfa yng Nglan Clwyd, ond hefyd yn fwy cyffredinol ledled Cymru, lle mae ein holl adrannau damweiniau ac achosion brys o dan bwysau aruthrol. Nid ydynt erioed wedi gweld galw fel hyn o'r blaen. Rwyf wedi cael cyfarfodydd heddiw gyda’r gwasanaeth ambiwlans, i sicrhau ein bod yn deall y math o bwysau sydd arnynt, a gallaf ddweud wrthych eu bod yn gweld cynnydd o fis i fis yn nifer y bobl sy'n galw am eu gwasanaethau.
Diolch, Weinidog. Cyn imi symud ymlaen, a gaf fi atgoffa’r Aelodau, os gwelwch yn dda, pan fydd gennym fater angerddol fel hwn—ac mae’n ennyn angerdd ac emosiwn ymhlith yr Aelodau, gan eich bod yn cynrychioli eich etholwyr—i barchu'r Cadeirydd pan fydd y Cadeirydd yn gofyn ichi ofyn cwestiynau a dim areithiau hir. Mae’n bwysig inni gyrraedd y cwestiynau fel y gall yr Aelodau eu gofyn a’r Gweinidogion eu hateb. Canolbwyntiwch ar hynny.
Bydd y cwestiwn olaf heddiw yn cael ei ateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Galwaf ar Huw Irranca-Davies.