– Senedd Cymru am 2:53 pm ar 24 Mai 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar y Jiwbilî Blatinwm, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, 70 mlynedd yn ôl, ni ddechreuodd y flwyddyn 1952 yn dda yng Nghymru. Ar y 10fed o Ionawr, fe gwympodd un o awyrennau Aer Lingus a oedd yn hedfan o Ddulyn i Lundain yn Eryri, gan ladd y 22 o deithwyr a'r tri aelod o'r criw. Lai na mis yn ddiweddarach, bu farw'r Brenin Siôr VI, ac fe ddechreuodd yr hyn a alwodd y Prif Weinidog ar y pryd, Winston Churchill, yn 'oes Elisabeth newydd'. Yn y cydblethu rhwng y ddau fywyd hynny—Prif Weinidog tua diwedd ei yrfa waith a brenhines ar ddechrau ei theyrnasiad hi—rydym yn gweld llinyn rhyfeddol yn cysylltu ein bywydau ni heddiw, yn ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain, yr holl ffordd yn ôl drwy'r ugeinfed ganrif gyfan hyd at chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn i Brif Weinidog Churchill fod y cyntaf o 14 o Brif Weinidogion sydd wedi cyfarfod yn wythnosol â'r Frenhines erbyn hyn, fe allai ef edrych yn ôl ar ddianc o wersyll carcharorion rhyfel yn ystod rhyfel y Boer yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Roedd yn aelod o'r Llywodraeth Ryddfrydol a fu'n gyfrifol am y diwygio mawr ym 1906 pan oedd y Brenin Edward VII ar yr orsedd. Bu'n Ganghellor y Trysorlys am dymor seneddol cyfan pan oedd Siôr V yn frenin. Bu'n arweinydd plaid y Brenin yn ystod teyrnasiad byr y Brenin Edward VIII, ac yn Brif Weinidog i Siôr VI, ac yn awr ail Frenhines Elisabeth. Yn ystod y flwyddyn honno, ym 1952, roedd yn ben ar adeg ddiddymu'r cardiau adnabod a gyflwynwyd yn ystod yr ail ryfel byd, a chyflwyno taliadau am bresgripsiynau—5c am bob eitem, a diddymu dogni te, a pherfformiad cyntaf The Mousetrap gan Agatha Christie.
Nawr, dim ond unigolyn eofn iawn a fyddai wedi edrych ymlaen gydag unrhyw sicrwydd at y 70 mlynedd o barhad a newid a oedd i ddod, oherwydd bod cyflymder y newid yn ystod y 70 mlynedd hynny wedi bod yn enfawr, yn sicr. Yma yng Nghymru, mae diwydiant trwm wedi ildio i raddau helaeth i wasanaethau ariannol a gwasanaethau eraill. Mae'r Deyrnas Unedig ei hun yn wahanol iawn i honno ym 1952. Nid oes un wladwriaeth unedol ganolog erbyn hyn; mae diwygiadau cyfansoddiadol wedi meithrin cymdeithas fwy lluosog, lle caiff pŵer ei ddyrannu i Seneddau eraill ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae symudiadau i mewn ac allan o'r Gymanwlad, yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt wedi creu poblogaeth fwy amrywiol ac amlddiwylliannol.
Wedi dweud hynny, Llywydd, nid yw rhai pethau wedi newid. Yn ystod 70 o flynyddoedd o newid mawr, mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi bod yn bresennol bob amser ym mywydau pobl Cymru a thu hwnt. Rydyn ni'n meddwl am y ffordd y mae hi wedi ymrwymo i wneud ei dyletswydd. Mae hi wedi bod mor ffyddlon i'r llw a gymerodd hi adeg ei choroni. Rydyn ni'n meddwl hefyd am yr urddas a'r hwyliau da y mae hi'n eu dangos bob amser wrth iddi wneud ei dyletswydd.
Y llynedd, buasai wedi bod yn anodd i beidio â chael eich cyffwrdd wrth iddi alaru ar ôl marwolaeth ei gŵr. Ymunodd hi â miloedd ar filoedd o'i dinasyddion sy'n parchu'r gyfraith a glynu at y cyfyngiadau yr oedd eu hangen i gadw pobl eraill yn ddiogel. Mae'r Frenhines wedi treulio cymaint o adegau preifat ei bywyd yn llygaid y cyhoedd, ond bydd y ddelwedd honno yn arbennig yn para am byth.
Dros y blynyddoedd, mae'r Frenhines wedi ymweld â Chymru yn aml, o'i hymweliad cyntaf fel tywysoges ifanc a thaith y coroni ym 1953, i agor y Cynulliad Cenedlaethol a'r Senedd yn swyddogol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dros y 70 o flynyddoedd hynny, mae'r Frenhines wedi ymweld â phob cwr o Gymru. Ambell dro, roedd yn amser i ddathlu, dro arall roedd yn amser i ymuno mewn adegau dwys o alaru ac o gofio, er enghraifft pan oedd hi'n ymweld ag Aberfan.
Nawr, wythnos nesaf, Llywydd, fe fydd llawer ledled Cymru yn defnyddio cyfle'r gwyliau cyhoeddus estynedig i ddathlu'r Jiwbilî Blatinwm—o gyngerdd yng nghastell Caerdydd i bicnic yn Llantrisant, te parti ym Mhorth Tywyn a regatta ym mae Tremadog. Llywydd, rhan o'r cyfrifoldeb o fod yn Brif Weinidog yn y Senedd hon yw bod yn aelod o Gyfrin Gyngor y Frenhines ac, fel y cyfryw, ar yr ail o Fehefin, fe fyddaf i'n cynrychioli'r Llywodraeth a'r bobl yma yng Nghymru yn y saliwt gynnau brenhinol a'r ŵyl gerddoriaeth ym Mae Caerdydd, ynghyd â miloedd o ddinasyddion eraill o Gymru, rwy'n siŵr. Drannoeth, byddaf yn y gwasanaeth diolchgarwch am y Jiwbilî Blatinwm yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul. Ac, ar y 4ydd o Fehefin, byddaf i ym Mhalas Buckingham ar gyfer uchafbwynt dathliadau'r penwythnos.
Ond, ymhell y tu hwnt i'r digwyddiadau mwy ffurfiol hynny, fe fydd yna lawer mwy o gyfleoedd eraill, wrth gwrs, i nodi'r Jiwbilî Blatinwm. Fe fydd ffaglau yn cael eu cynnau ledled Cymru—yng Nghasnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Aberhonddu, Trefaldwyn, Llanidloes a'r Rhyl—gan ymuno â dros 1,500 o ffaglau o'r fath ledled y Deyrnas Unedig ac ymhell y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig, ledled y Gymanwlad. Mewn araith ar ddiwrnod ei choroni, fe wnaeth y Frenhines ei hadduned, ar ôl iddi neilltuo ei bywyd i wasanaeth ei phobl,
'Drwy gydol fy mywyd a gyda fy holl galon fe ymdrechaf i fod yn deilwng o'ch ymddiriedaeth.'
Ac nid oes amheuaeth, Llywydd, i'r ymddiriedaeth honno gael ei hennill dros y 70 mlynedd sydd wedi dilyn ers hynny. Fe fydd dathliadau a digwyddiadau'r wythnosau nesaf yn arwydd o'r parch mawr sydd i'r Frenhines, ac yn fynegiant o'r diolchgarwch am ei blynyddoedd lawer o wasanaeth diarbed. Ar y sail honno rwy'n gwahodd holl Aelodau'r Senedd i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron y prynhawn yma, ein bod ni'n llongyfarch y Frenhines ar achlysur ei Jiwbilî Blatinwm ac yn talu teyrnged i'w chefnogaeth gadarn hi i Gymru dros y 70 mlynedd diwethaf. Diolch yn fawr.
A minnau'n un a oedd yn rhan o orymdaith gwisg ffansi yn ein pentref lleol i ddathlu'r Jiwbilî Arian yn ôl ym 1977—ni ddyweda i beth oeddwn i'n ei wisgo—[Torri ar draws.]—prin yr oeddwn i'n meddwl y byddwn i, yn 2022, yn sefyll mewn siwt a thei yn myfyrio ar deyrnasiad 70 mlynedd o hyd sydd wedi ennyn anwyldeb i'w Mawrhydi'r Frenhines ym mhob sector o gymdeithas, byddwn i'n ei awgrymu. Rwy'n deall y gallai fod gweriniaethwyr a brenhinwyr mewn democratiaeth, ond ni all neb ddweud mewn gwirionedd nad yw'r Frenhines wedi ennill parch y wlad hon at y ddyletswydd gyhoeddus a'r gwasanaeth cyhoeddus y mae hi wedi ei rhoi ar hyd ei theyrnasiad cyfan. Ac mae hi'n ffaith, fel crybwyllodd y Prif Weinidog, ei bod hi wedi cael gwasanaeth 14 o Brif Weinidogion, wedi gweld 13 o Arlywyddion yn UDA—dim ond un Arlywydd ni wnaeth hi ei gyfarfod; sef Lyndon Johnson—ac mae 10 Arlywydd Ffrainc wedi cwrdd â'i Mawrhydi'r Frenhines. Mae hi wedi bod ar 152 o ymweliadau gwladwriaethol. Bu pum Pab yn ei hamser hi, ac yn yr amser yr wyf i wedi bod yn y Senedd hon, mae hi wedi dod ar bedwar achlysur ar gyfer agoriad swyddogol y Senedd.
Bydd llawer o'r Aelodau yn cydnabod nad oeddwn i yma ym mis Hydref pan ddaeth hi i agor y Senedd ar gyfer tymor mandad cyfredol y Senedd, ond wrth ei gwylio ar y teledu, i weld ei hwyneb a'r pleser gwirioneddol yr oedd hi'n ei gael—ac rwy'n credu y byddai'r Llywydd yn eilio hyn—y pleser gwirioneddol yr oedd hi'n yn ei gael drwy fynd o gwmpas yn cyfarfod nid yn unig â'r Aelodau, ond y grwpiau cymunedol a oedd wedi ymgynnull i fyny'r grisiau—nid sioe oedd hynny, roedd yna gynhesrwydd a phleser gwirioneddol o fod yma yng Nghymru ac yn y lle hwn yng nghartref democratiaeth Cymru, i'w agor am ei dymor ei swydd. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth y gallwn ni fod yn hynod falch ohono, fod gennym ni frenhines sy'n cydnabod bod y wlad yn newid a bod y frenhiniaeth yn newid gyda'r wlad er mwyn bod yn berthnasol.
Mae hi'n ffaith, pan aned y Frenhines ym 1926, nad hi oedd yr etifedd, nad hi oedd y dewis naturiol i'w chodi i deyrnasu, ond drwy ymddiorseddiad 1937, fe newidiodd ei bywyd cyfan a bywyd ei theulu y tu hwnt i bob rheswm. Yn ystod blynyddoedd y rhyfel bu'n gwasanaethu'n weithredol gyda'r Gwasanaeth Tiriogaethol Atodol, ac yna yn y pen draw, ar ôl cyfnod byr, byr gyda'i gŵr ym Melita, arweiniodd afiechyd ei thad—y Brenin Siôr VI, yn amlwg—at farwolaeth gynamserol Ei Fawrhydi a'r Frenhines yn dod i'r orsedd ym 1952.
Rydym yn edrych yn ôl ar gyfnod pan fyddai'n rhaid trosglwyddo newyddion o'r fath drwy gyfrwng y telegraff, yn hytrach na phwyso botwm yn gyflym a'r rhyngrwyd, neu godi eich ffôn a chael y newyddion drwy glicio swits. Rydym ni hefyd yn gweld y trenau stêm yn gwibio o gwmpas yn yr hen ffilmiau du a gwyn ac erbyn hyn mae gennym ni drenau trydan. Rydym ni hefyd yn gweld y byd ar adeg pan oedd hi'n beth mawr i hedfan o amgylch y byd. Heddiw mae'r byd ar agor i bob dyn, menyw a phlentyn, os ydyn nhw'n dymuno mynd o'i gwmpas, ac yn y pen draw rydym yn gwthio'r ffiniau i'r gofod. Ac mae yn bwysig myfyrio bod hyn i gyd wedi digwydd yn ystod teyrnasiad o 70 mlynedd.
Mae hi'n werth myfyrio ar y ffaith bod gan y Frenhines le mawr yn ei chalon i Gymru, yn enwedig o ran y nawdd y mae hi wedi ei roi i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, i Undeb Rygbi Cymru, a nifer o elusennau a sefydliadau, y mae hi wedi helpu i godi eu proffil, ac wedi dangos diddordeb brwd yn y sefydliadau hynny. Ac fel y crybwyllodd y Prif Weinidog, un drasiedi ymysg eraill oedd trychineb Aberfan a welodd hi ei hun ac mae hi wedi dangos diddordeb mawr yn y ffordd y mae'r cymunedau hynny wedi eu hadfer, heb anghofio am friwiau'r damweiniau a'r trychinebau hynny sydd wedi digwydd i'r cymunedau hynny, lle bynnag y bônt yng Nghymru.
Mae hefyd yn werth myfyrio ar ei chysylltiad cryf â'r lluoedd arfog, yn gadlywydd yn bennaf, ac, yn amlwg, mae Cymru wedi bod â rhan weithredol wrth anfon mwy, yn gymesur, na'i phoblogaeth i'r lluoedd arfog hynny, boed yn y fyddin, y llynges neu'r Awyrlu Brenhinol, a'r cysylltiad cryf y mae llawer o bobl yn ei deimlo â'r teulu brenhinol sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog, o ba gymunedau bynnag y maen nhw'n dod. Ac fel crybwyllodd un o'r Aelodau y prynhawn yma, ac y tynnodd yr Aelod dros Orllewin Clwyd sylw ato, un o nodweddion hirhoedlog y Jiwbilî hon fydd Wrecsam yn dod yn ddinas, a dyna rywbeth y gallwn ni uniaethu ag ef fel achos arall i ddathlu, â'r holl ddinasoedd eraill a gafodd eu sefydlu mewn Jiwbilîs eraill, megis y Jiwbilî Aur, y Jiwbilî Arian ac yn amlwg y Jiwbilî Blatinwm yr ydym ni'n ei dathlu yn 2022.
Mae hi hefyd yn werth myfyrio ar y ffaith bod ffydd yn rhan fawr o gyfansoddiad y Frenhines, ac er mai hi yw Goruchaf Lywodraethwr Eglwys Loegr, mae hi yn cydnabod nad y wlad yr oedd y Deyrnas Unedig yn y 1950au yw'r wlad yn 2022, a'n bod ni'n gymdeithas aml-ffydd, sy'n rhywbeth y mae hi ac eraill yn ei ddathlu yn helaeth. A'r cyfansoddiad hwn o Brydain gyfoes yr ydym ni'n ei ddathlu bob dydd.
I mi, rhywbeth sy'n amlwg iawn yn ystod yr argyfwng COVID diweddar oedd anerchiad Ei Mawrhydi i'r wlad ym mis Ebrill 2020, pan ddywedodd hi, 'Fe wnawn ni gyfarfod eto.' Yn y pen draw, ar yr adeg honno, pan oedd tywyllwch gwirioneddol, ac roedd pobl yn edrych dros y dibyn yn ôl ym mis Ebrill 2020, siaradodd yn ddidwyll a theimladwy am ei chred y byddai'r wlad hon yn dod drwy'r argyfwng hwnnw ac y byddem ni'n gweld amseroedd gwell. Diolch byth, rydym ni wedi dod drwy'r argyfwng ac rydym ni yn gweld amseroedd gwell, ond nid ydym yn anghofio'r rhai a gollodd anwyliaid a'r aberth enfawr y mae llawer wedi gorfod ei wneud.
Mae hi'n ffaith hefyd fod y teulu brenhinol eu hunain wedi gorfod dioddef llawer o drychinebau, a llawer iawn o darfu ar ei bywydau. Ond rydym ni yn credu yn angerddol bod y Frenhines a'r profiad y mae hi wedi ei ennill dros y 70 mlynedd wedi cofio yr hyn sydd orau am Gymru a'r hyn sydd orau am Brydain ym mhob penderfyniad y mae hi wedi eu gwneud dros y wlad hon, ein cenedl unedig ni, gan sefyll yn dalsyth yn y byd.
Rwy'n ymuno â'r Prif Weinidog i gymeradwyo'r cynnig ar y papur trefn y prynhawn yma, ac rwy'n gwybod yn iawn y bydd y penwythnos o ddathlu sydd ar ddod yn cael ei nodi mewn sawl cwr o'r wlad hon, nid yma yng Nghymru yn unig, nid yma yn y Deyrnas Unedig yn unig, ond ar draws y Gymanwlad yn y cenhedloedd y mae'n hi'n ben arnyn nhw ac yn eu harwain gyda'r fath falchder ac angerdd. Ac nid oes gen i unrhyw betruster, ar ran fy ngrŵp i a'r blaid, wrth gymeradwyo'r cynnig sydd gerbron y Senedd heddiw.
Gyda'r perygl o ddechrau tuedd, fe wnes i ennill gwobr am 'y wisg orau yn y carnifal' yng ngharnifal Jiwbilî Llanwnnen ym 1977—ac mae lluniau ar gael.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch. [Torri ar draws.] Ie, dilynwch hynny, ie. Ymhlith ei rhagflaenwyr, ni all Elisabeth II honni mai hi sydd wedi treulio'r cyfnod hwyaf yng Nghymru—fe all dau Harri ac un Edward, a aned yma mewn gwirionedd, frwydro am y goron benodol honno—ond y hi, yn ddi-os, yw'r frenhines Brydeinig sydd wedi ymweld â Chymru amlaf, ac mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at rai o'r achlysuron hynny. Hyd yn oed ar y dechrau, roedd ein cenedl ni yn bwysig ym mywyd y Frenhines anfwriadol hon. Yn ystod y rhyfel, mae haneswyr yn dweud wrthym y lluniwyd cynlluniau i dawelu cenedlaetholdeb Cymreig drwy feithrin cysylltiadau cryfach rhwng Cymru ag Elisabeth. Fe wrthodwyd ei phenodi hi'n gwnstabl castell Caernarfon am fod hynny'n anymarferol yn ddaearyddol, ac roedd ei gwneud hi'n noddwr i'r Urdd yn cael ei ystyried yn ddewis rhy radical, felly bu'n rhaid iddi hi wneud y tro â chael ei sefydlu i'r Orsedd, yn 20 oed, gan yr archdderwydd ar y pryd, Crwys.
Cynhaliwyd ymweliad swyddogol cyntaf Elisabeth â Chymru ar 28 Mawrth 1944. Fe ddigwyddodd hyn ar y diwrnod y pleidleisiodd ASau yn San Steffan i dalu'r un faint i athrawon, boed yn ddynion neu fenywod, carreg filltir bwysig yn y mudiad tuag at gydraddoldeb sydd wedi bod yn un o'r edau niferus a fu'n rhan o dapestri bywyd a theyrnasiad hir Elisabeth II. Roedd hi'n ddarpar frenhines, oedd, ond fe wrthodwyd yr union gydraddoldeb hynny iddi hi ar y dechrau; yn y dyddiau cyn ei hymweliad â Chymru, roedd deiseb gan awdurdodau lleol Cymru, yn yr hyn a elwid yn Blaid Seneddol Cymru, i'w chyhoeddi hi'n Dywysoges Cymru. Ond fe wrthodwyd yr hawl honno iddi, oherwydd ar y pryd ni allai menyw fod yn ddim mwy nag etifedd tebygol, ac nid yn etifedd gweladwy.
Mewn ymateb i gael rhyddid dinas Caerdydd, mynegodd y Dywysoges Elisabeth fod ganddi hi gysylltiad personol iawn â Chymru serch hynny. Mae'n ddigon posibl ei bod hi'n dwyn i gof y Bwthyn Bach—model cwbl weithredol o dŷ oedd hwnnw a gyflwynwyd iddi hi oddi wrth bobl Cymru ym 1932, ar ei phen-blwydd yn chwech oed. Roedd wedi'i leoli yn Windsor Great Park, ac roedd yn cynnwys cegin gyda stôf ac oergell, ac ystafell fyw â'r enw Siambr Fach, gyda goleuadau trydan a ffôn a oedd yn gweithio, dwy ystafell wely ac ystafell ymolchi yn cynnwys dŵr poeth ac oer a hyd yn oed rheil gwres ar gyfer tyweli. O dan amgylchiadau'r cyfnod hwnnw gartref yng Nghymru, fe fyddai'r model hwn o fwthyn wedi ymddangos yr un mor balasaidd â Windsor ei hun.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, a hithau newydd ei choroni'n Frenhines Elisabeth, ad-dalodd ein haelioni ar y cyd drwy agor y llyfrgell genedlaethol yn Aberystwyth yn ffurfiol, lle'r oedd ei thad-cu, y Brenin Siôr V, 44 mlynedd yn gynharach, wedi gosod y garreg sylfaen; rhywbeth araf a thrafferthus y bu adeiladu cenedl yng Nghymru erioed. Fe ddisgrifiodd hi fod y llyfrgell wedi cadw
'cymeriad unigryw aelod bach ond unigol o fy nheulu i o genhedloedd', teulu a oedd, o dan ei stiwardiaeth hi, yn trawsnewid ei hun yn gyflym o fod yn Ymerodraeth i fod yn Gymanwlad o wledydd annibynnol—statws yr ydym ni'n gobeithio, yn ein plaid ni, y bydd Cymru yn ei fwynhau hefyd ryw ddiwrnod.
Efallai mai'r cysylltiad mwyaf arwyddocaol a hirhoedlog a fu rhwng Cymru a'r Frenhines oedd yr un a dyfodd o'i chydymdeimlad, fel cyfeiriwyd ato eisoes, yn dilyn trychineb Aberfan. Roedd hwnnw'n achlysur prin pan adroddwyd ei bod deigryn wedi llifo ohoni yn gyhoeddus. Dywedodd un fam wrth ohebydd teledu:
'Rwy'n cofio'r Frenhines yn cerdded trwy'r mwd. Roedd hynny'n teimlo fel ei bod hi wedi bod gyda ni o'r dechrau.'
Nid anghofiodd y Frenhines Elisabeth Aberfan erioed. Fe ymwelodd hi ym 1973 i agor y ganolfan gymunedol newydd, ac eto ym 1997 i nodi deng mlynedd ar hugain ers y trychineb.
Llywydd, mae gennym ni yn y Senedd reswm arbennig dros gydnabod swyddogaeth y Frenhines ym mywyd Cymru. Roedd ei hagoriad cyntaf hi o'n Senedd yn dilyn yr etholiadau cyntaf ym 1999 yn tanlinellu, drwy ei phresenoldeb hi, arwyddocâd y dechreuad newydd hwnnw ar ein taith ddemocrataidd genedlaethol—yn groes i ddymuniadau Prif Weinidog y DU ar y pryd, mae'n ymddangos. Nawr, ar drothwy dod i amlygrwydd fel cenedl gwbl hunanlywodraethol, mae Cymru wedi trawsnewid y tu hwnt i bob disgwyl o'i chymharu â'n hamgylchiadau ym 1952—gwlad heb gyfalaf, heb sôn am Senedd. Wedi ei naddu yn y Jiwbilî hon, felly, y mae ein taith ninnau hefyd o'r Siambr fach i Siambr fwy, oherwydd ein hanes ni, yn rhannol o leiaf, yw ei stori hi hefyd.
Ni ellir gwadu bod Ei Mawrhydi'r Frenhines yn ddynes ryfeddol sydd wedi gwasanaethu'r wlad hon a'r Gymanwlad gyda ffyddlondeb ac ymroddiad mawr. Mae hi'n fraint fawr i mi sefyll yma yn y Siambr hon heddiw, yn eich plith chi i gyd, yn talu teyrnged i'w Mawrhydi wrth i'r wlad uno i ddathlu ei Jiwbilî Blatinwm.
Mae Ei Mawrhydi'r Frenhines wedi torri recordiau di-rif ers iddi esgyn i'r orsedd 70 mlynedd yn ôl ac erbyn hyn hi yw'r frenhines sydd wedi bod yn teyrnasu am y trydydd cyfnod hwyaf yn y byd. Yn ystod ei theyrnasiad o 70 mlynedd, mae'r Frenhines a gweddill y teulu brenhinol wedi ymweld â Chymru droeon, fel yr ydym wedi'i glywed eisoes, gan gryfhau eu cysylltiadau cryf iawn â'n gwlad. Y llynedd, roedd Ei Mawrhydi yn yr union Siambr hon yn ein plith ni i gyd ar gyfer agoriad swyddogol y Senedd, gyda thorfeydd yn sefyll ar y strydoedd y tu allan, yn gobeithio cael cipolwg o'n brenhines wych. Ac a gaf i ddweud, fe gefais i'r anrhydedd mawr o gwrdd â'i Mawrhydi pan ddaeth hi i'r fan hon, fel y cafodd, rwy'n gwybod, llawer o fy nghyd-Aelodau Ceidwadol yng Nghymru hefyd?
Dros y blynyddoedd, mae'r Frenhines wedi agor ei drysau, nid yn unig i'r rhai ohonom ni o'r DU ond o bob rhan o'r Gymanwlad, i grwpiau, unigolion a sefydliadau i fynychu ei phartïon gardd blynyddol, ac mae hi wedi anrhydeddu pobl ddi-rif am eu cyfraniadau yn eu meysydd proffesiynol ac am eu gwaith elusennol hefyd. Mae'r Frenhines wedi bod ar fwy na 325 o ymweliadau tramor mewn 130 o wledydd yn bersonol, wedi cyfarfod â mwy na 100 o benaethiaid gwladwriaethau, a bod yn deyrn cyntaf mewn 100 can mlynedd i ymweld â Gweriniaeth Iwerddon. Yn syml iawn, mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth, yn batrwm o ymddygiad di-sigl i filiynau o bobl yma yng Nghymru, a gweddill y Deyrnas Unedig, ac yn fyd-eang.
Nid yw hi wedi gwyro hanner cam drwy gydol ei theyrnasiad, ac mae wedi bod yn ffigwr cyson i'r DU yn ystod cyfnodau o newid enfawr. Rwyf wedi dweud hyn yn y Siambr o'r blaen, ond un o gyflawniadau mwyaf teyrnasiad y Frenhines fu trawsnewid yr Ymerodraeth yn Gymanwlad. Yn cynnwys 53 o wledydd annibynnol, gyda phoblogaeth gyfunol o 2.4 biliwn, mae gennym ni i gyd nodau a rennir i hyrwyddo democratiaeth, datblygiad ac, yn y pen draw, heddwch. Er bod rhai gwledydd yn cael eu diarddel neu'n gadael dros y blynyddoedd, heddiw mae'r Gymanwlad yn cydsefyll fel modd i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, democratiaeth a hawliau dynol.
Un o'r pethau yr wyf i'n eu hoffi fwyaf am Ei Mawrhydi yw ei hangerdd am anifeiliaid a'r gwaith gwych y mae hi wedi ei wneud drostyn nhw. Amcangyfrifir bod y Frenhines wedi bod yn berchen ar dros 30 o gorgwn, yn arbennig—ac rwy'n siŵr y bydd llawer o fy nghyd-Aelodau yn hapus i glywed—corgwn Cymru Penfro, ochr yn ochr â cheffylau di-rif a rhai anifeiliaid mwy egsotig, fel slothiau a haid o ystlumod. Mae Ei Mawrhydi yn noddwr i fwy na 30 o elusennau anifeiliaid, gan gynnwys yr RSPCA, Clwb Cŵn Labrador a Chymdeithas Frenhinol Rasio Colomennod. Mae'n amlwg ei bod hi'n hoff iawn o anifeiliaid drwyddi draw.
Mae hi wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd i'w Mawrhydi a'i theulu yn dilyn colled drasig ei hannwyl briod, Dug Caeredin yn ddiweddar. Wrth i ni i gyd ddod at ein gilydd i ddathlu'r Jiwbilî Blatinwm, boed hynny mewn digwyddiad yn eich cymuned neu dim ond nodi'r achlysur gyda ffrindiau a theulu, fe ddylem ni gymryd eiliad i fyfyrio ar deyrnasiad hir y Frenhines a'r holl les y mae hi wedi'i wneud ledled y byd. Yr wythnos nesaf, rwy'n gobeithio y bydd pawb y tu mewn i'r Siambr hon a'r tu allan i'r Senedd hon yng Nghymru yn codi gwydryn i'w Mawrhydi ac yn anrhydeddu'r Tywysog Philip, a oedd wrth ochr y Frenhines am flynyddoedd lawer ac nad yw yn ein plith bellach. Nid oes amheuaeth nad yw Ei Mawrhydi yn parhau i fod wrth galon ein cenedl, a bydded iddi hi barhau i deyrnasu arnom am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch i chi.
Yn groes i'r duedd, ni enillais i erioed gystadleuaeth am y wisg orau, ond rwy'n gobeithio y gallai hynny newid yr wythnos nesaf yn nathliadau'r Jiwbilî Blatinwm yn Rhiwabon. Hoffwn i ddechrau, serch hynny, drwy ddweud cymaint o bleser yw cyfrannu at y ddadl hon a chefnogi'r cynnig, a diolch i bob sefydliad yn Ne Clwyd sydd wedi trefnu ystod mor amrywiol o ddigwyddiadau ar gyfer dathlu'r Jiwbilî Blatinwm. Rwyf i o'r farn, p'un a ydych chi'n frenhinwr neu'n weriniaethwr neu, yn wir, yn ddifater, mae'r foment arbennig hon yn ein hamser ni'n cydnabod rhywbeth y gallwn ni i gyd gytuno arno: rydym ni'n dathlu gwaith caled di-baid, ymrwymiad diflino, teyrngarwch, urddas a pharch at ddyletswydd sydd gan y frenhines sydd wedi teyrnasu am y cyfnod hwyaf yn hanes Prydain erioed. Ac mae hwn yn amser i ni i gyd ddod at ein gilydd i gydnabod y priodoleddau anhygoel hyn a mynegi ein parch ni i'w Mawrhydi'r Frenhines. Fe fydd y Jiwbilî Blatinwm yn cynnig cyfle prin i ni i'r genedl roi ymraniadau o'r neilltu a chymryd amser i werthfawrogi cymuned, gwasanaeth cyhoeddus a theyrngarwch i eraill.
Nawr, nid yw'r Frenhines erioed wedi mynegi safbwyntiau eithafol; yn hytrach mae hi wedi bod yn rhyfeddol wrth roi undod a lles ei phobl yn gyntaf wrth gyflawni dyletswydd mor anhygoel o anodd. Ac mewn byd lle mae ymraniad wedi dod yn fwyfwy amlwg ar lefel ryngwladol a chenedlaethol a rhanbarthol, mae'r Frenhines wedi ymdrechu i sicrhau bod y Gymanwlad yn parhau i fod mor berthnasol ag erioed. Mae hi wedi gosod undod cenhedloedd, undod rhyngwladol ac undod rhanbarthau wrth galon ei gwaith bob amser.
Nawr, efallai na fydd rhai pobl yn dewis dathlu teyrnasiad y Frenhines Elisabeth II yn ystod yr wythnos i ddod, ond rwy'n gobeithio y bydd pawb yn canmol cyfraniad digyffelyb a chadarnhaol iawn y Frenhines at ein hanes ni. Ac wrth i ni ymlwybro tua 2023 a 2024 wedi hynny, gadewch i ni obeithio y bydd y Frenhines yn mynd ymlaen nid yn unig i fod felly i Brydain, ond yn frenhines hwyaf ei theyrnasiad yn y byd i gyd. Diolch.
Mae hi'n anrhydedd i mi gael cyfrannu at y ddadl hon heddiw a thalu teyrnged i'n brenhines hwyaf ei theyrnasiad, Ei Mawrhydi'r Frenhines. Fe ellir crynhoi bywyd a theyrnasiad Ei Mawrhydi'r Frenhines ag un gair: dyletswydd. Yn 19 oed, ymrestrodd Ei Mawrhydi yn ystod yr Ail Ryfel Byd i wasanaethu yng Ngwasanaeth Tiriogaethol Ategol y menywod, a dim ond dechrau bywyd o ymrwymiad i'n gwlad a'i phobl oedd hynny. Cafodd ei hymrwymiad gydol oes i'r wlad ei ragfynegi yn ei haraith enwog yn Cape Town, De Affrica, lle dywedodd hi:
'Rwyf yn datgan yn eich gwŷdd chi y bydd fy oes gyfan, boed yn un hir neu'n un fer, wedi ei neilltuo i'ch gwasanaeth'.
Gyda'r teyrnasiad hwyaf yn hanes Prydain, mae hi wedi parhau i fod yn ddylanwad sefydlog a thawel ar y wlad. Mae hi wedi teyrnasu, fel y dywedodd fy arweinydd yn gynharach, dros gyfanswm o 14 o Brif Weinidogion yn ei hamser, sy'n gyflawniad anhygoel. Mae hi wedi moderneiddio'r frenhiniaeth a'i throi'n sefydliad poblogaidd fel y mae heddiw, gyda chyrhaeddiad byd-eang sy'n denu llawer o ymwelwyr i Brydain bob blwyddyn.
Mae Ei Mawrhydi'r Frenhines yn eicon i mi a menywod ledled y byd—y ffordd y mae hi'n ei chario ei hun, ei chryfder a'i hymrwymiad cadarn i'w swydd. Fe ellir gweld ei hymdeimlad o ddyletswydd yn glir drwy ei hymroddiad i'w helusennau di-rif, a hithau'n noddwr neu'n llywydd i dros 600 o elusennau yn ei hamser. Nid dim ond ei hymroddiad i'w gwlad y dylem ni i gyd fod yn rhyfeddu ato; mae'r Frenhines wedi parhau i hyrwyddo'r Gymanwlad yn fawr, fel dywedwyd yn awr, dros y blynyddoedd, gan weithio i feithrin cydberthnasau a chadw ei haelodau gyda'i gilydd ers 1952. Pan goronwyd Ei Mawrhydi, roedd gan y Gymanwlad wyth aelod-wladwriaeth; heddiw, mae 54 ohonyn nhw. Mae'r Frenhines wedi goruchwylio proses lle mae'r ymerodraeth Brydeinig gyfan, yn ymarferol, wedi ei thrawsffurfio yn gymdeithas wirfoddol o genhedloedd sofran yn gweithio gyda'i gilydd, law yn llaw. Yn syml iawn, mae'r Frenhines wedi bod yn bennaeth a theyrn cadarn i'r wladwriaeth. Fe fyddwn ni yn ei dyled hi am byth. Ac rwy'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran y Siambr gyfan pan ddywedaf i: hir oes iddi; Duw gadwo'r Frenhines.
Rwyf i wrth fy modd heddiw am ein bod ni'n cael y cyfle unwaith mewn oes hwn i ddathlu bywyd o wasanaeth a roddir i bobl Prydain Fawr a'r Gymanwlad gan unigolyn anhygoel, rhywun sydd wedi rhoi dyletswydd a gwasanaeth ac ymroddiad uwchlaw pob peth arall. Yr unigolyn hwnnw yw Ei Mawrhydi, y Frenhines Elisabeth II.
Am 70 o flynyddoedd, mae'r Frenhines wedi ein gwasanaethu â theilyngdod, a bydd fy etholwyr i ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed a minnau'n ddiolchgar am byth am wasanaeth Ei Mawrhydi ac ymweliadau Ei Mawrhydi â fy etholaeth i, fel yr ymweliad â Chwm Elan ym 1952 neu'r ymweliad â Dolau yn 2002 ar gyfer Jiwbilî Aur Ei Mawrhydi, ac, yn fwy diweddar, fe ymwelodd Ei Mawrhydi â Glan Wysg ger Crucywel yn 2012 ar gyfer ei Jiwbilî Ddiemwnt. Diwrnod budr oedd hwnnw, rwy'n ei gofio yn dda, a'r hyn a wnaeth hi oedd bwrw ymlaen â'r gwaith o gwrdd â phobl a gwneud i bawb deimlo yn arbennig, ac rwy'n credu i Ddug Caeredin ar y pryd wneud y dewis callaf ac eistedd yn y car a chyfarch pobl trwy'r ffenestr. Rwyf i, ynghyd â llawer o fy etholwyr i, yn ddiolchgar iawn am yr ymweliad â Brycheiniog a Maesyfed.
Drwy gydol teyrnasiad hir Ei Mawrhydi, mae'r Frenhines wedi cysylltu â'r Cymry mewn amseroedd o lawenydd ac adfyd fel ei gilydd. Fe welwyd hyn yn y negeseuon a roddwyd yn ystod agoriad Senedd Cymru, ac, yn fwy diweddar, yn ystod pandemig y coronafeirws. Bob blwyddyn, mae'r teulu brenhinol yn cynnal dros 2,000 o ddigwyddiadau brenhinol, yn y DU a thramor. Mae'r Frenhines wedi cynnal dros 325 o ymweliadau tramor mewn 130 o wledydd yn bersonol, ac, ar ben hynny, mae'r Frenhines wedi cyfarfod â phenaethiaid gwladwriaethau o bob lliw gwleidyddol, a 14 o Brif Weinidogion. Fel y dywedodd y diweddar Ddug Caeredin, mae'n rhaid i Frenhines fod â digonedd o amynedd. Mae hynny'n dangos mai hi yw'r llysgennad gorau a welodd ein gwlad erioed.
Yn 18 oed, ymunodd â'r gwasanaeth ategol a mynnodd y Frenhines ei bod hi'n ymuno, ac fe sicrhaodd y diweddar Frenin Siôr VI nad oedd hi'n cael unrhyw driniaeth arbennig oherwydd pwy oedd hi; roedd hi'n awyddus i fwrw ymlaen â'r gwaith o wasanaethu ei gwlad. Mae hoffter Ei Mawrhydi o'r awyr agored wedi bod yn nodwedd o'i theyrnasiad, ac fe welais i hynny'n uniongyrchol pan siaradodd Ei Mawrhydi a minnau am ffermio wrth agor y Senedd, ac fe allaf i gadarnhau ei bod hi'n wybodus iawn o ran arferion ffermio a'i bod hi hyd yn oed wedi dysgu un neu ddau o bethau nad oeddwn i'n gwybod dim amdanyn nhw.
Mae ei gwaith hi dros ein cenedl wedi bod yn doreithiog ac amrywiol. Ar ôl marwolaeth drist ei gŵr o flynyddoedd lawer, Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin, mae'r Frenhines wedi parhau i wasanaethu pobl Cymru a'r byd, gan ddangos nad oes unrhyw arwyddion o arafu. Fe welsom ni hynny ddoe, pan aeth Ei Mawrhydi i Sioe Flodau Chelsea'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol mewn bygi golff gyda'r llysenw 'Queenmobile'. Felly, fe fydd hi'n cadw at ei datganiad y bydd angen ei gweld hi i'w chredu bob amser. Hyd yn oed ar oedran pan fyddai llawer o bobl yn ystyried ymddeol a byw bywyd tawel, mae'r Frenhines yn parhau i fod yn flaenllaw yn ein cenedl, yn gwasanaethu fel arwyddlun brenhinol ac yn gweithredu fel ffigur sy'n uno. Fe dyngais fy llw i'w Mawrhydi wrth ymuno â'r Senedd hon, ac mae hi'n bleser mawr gen i ddweud: Duw a gadwo'r Frenhines, a Jiwbilî Blatinwm hapus, Eich Mawrhydi.
A minnau'n Aelod a etholwyd dros Aberconwy, mae hon, yn wir, yn anrhydedd ac yn fraint i mi fod yn achub ar y cyfle hwn i longyfarch Ei Mawrhydi ar achlysur ei Jiwbilî Blatinwm, a mynegi diolch hefyd am y gwasanaeth amhrisiadwy y mae hi'n parhau i'w roi yma yng Nghymru.
Rydym ni wedi cael y fraint o'i phresenoldeb yn y gogledd ar sawl achlysur. Yn wir, fe wnaeth fy nhref enedigol, Llandudno, ei chroesawu ym 1963, 1977, a 2010. Cymaint yw'r parch at ei Mawrhydi a'r teulu brenhinol fel bod parc yn ein tref ni o'r enw Mountbatten Green a chartref gofal o'r enw Queen Elizabeth Court. Yn wir, rwy'n gwybod y bydd dathliadau ar draws Llandudno a gweddill yr etholaeth, oherwydd bod yr awdurdod lleol eisoes wedi derbyn wyth cais i gau ffyrdd ar gyfer partïon stryd Jiwbilî. Wrth gwrs, fe fydd llawer mwy yn cynllunio partïon te yn eu gerddi ac yn gwylio'r dathliadau o gysur eu soffas. Ond gofynnaf i gynifer o bobl â phosibl neilltuo munud i gymryd rhan yn y Cinio Jiwbilî Mawr. Ddydd Sul, byddwn ni'n cael ein hannog i ddathlu cysylltiadau lleol a dod i adnabod ein cymdogion ychydig bach yn well. P'un a yw'n hynny'n golygu cwpanaid o de ar garreg y drws neu barti mwy yn y stryd, gallwn ni i gyd wneud ein rhan i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Ni all yr un ohonom ni fyth anghofio bod Ei Mawrhydi wedi eistedd ar ei phen ei hun wrth ffarwelio â'r diweddar Ddug Caeredin. 'Alone in her grief' oedd pennawd y Sunday People. 'Sitting alone, the Queen bids her final farewell', oedd pennawd y Sunday Telegraph, a'r Sunday Mirror yn adrodd 'The loneliest goodbye'. Mae 57 y cant o bobl hŷn yn dweud eu bod nhw'n teimlo yn unig o bryd i'w gilydd. Felly, gadewch i ni ddilyn esiampl Ei Mawrhydi a meddwl beth allwn ni ei wneud i gefnogi eraill sy'n llawer llai ffodus na ni.
Ar ei phen-blwydd yn un ar hugain oed, mewn araith a ddarlledwyd ar y radio o Cape Town, ymrwymodd Ei Mawrhydi ei bywyd i wasanaeth y Gymanwlad. Dywedodd,
'Rwyf yn datgan yn eich gŵydd chi y bydd fy oes gyfan, boed yn un hir neu'n un fer, wedi ei neilltuo i'ch gwasanaeth.'
Ac mae hi'n cadw at yr addewid honno. Er enghraifft, er budd ein cenedl, mae Ei Mawrhydi yn noddwr brenhinol neu'n llywydd ar 600 o elusennau. Er budd ein cenedl a chysylltiadau rhyngwladol, mae Ei Mawrhydi wedi cynnal 152 o ymweliadau swyddogol â gwladwriaethau, gan gynnwys 13 o Arlywyddion Unol Daleithiau America a phum Pab. Ac er budd pobl yn fyd-eang, gwasanaethodd Ei Mawrhydi yn bennaeth y Gymanwlad. Rydym ni'n ffodus o fod â brenhines sydd wedi arloesi arloesedd. Ei choroni oedd y cyntaf i gael ei ddarlledu yn llawn, er bod llawer o swyddogion yn gwrthwynebu hynny. Ei Mawrhydi oedd y frenhines gyntaf i gyhoeddi neges Nadolig fyw ar y teledu a'r frenhines Brydeinig gyntaf i drydar. Yn wir, rwy'n credu ei bod yn ganmoladwy bod Ei Mawrhydi wedi gwneud ymdrech deg i barhau i fod yn gyfoes a bod yn ymwybodol o heriau ein cyfnod. Nid yw hyn yn syndod, o gofio ei bod hi eisoes wedi gweld 14 o Brif Weinidogion a phedwar Prif Weinidog Cymru. Hyd yn oed yn ddiweddar iawn, mewn ymateb i argyfwng ffoaduriaid o Wcráin, mae'r palas wedi dweud eu bod nhw'n cynorthwyo mewn nifer o ffyrdd.
Byddem ni i gyd yn sicr yn disgwyl i rywun neu unrhyw un sy'n 96 oed ddechrau ymlacio. Serch hynny, mae'r Jiwbilî Blatinwm hon, fel y dywedodd Andrew Marr, yn 'nodi 70 mlynedd o fod yn ddirwgnach wrth wasanaethu ei phobl.' Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi i gyd yn ymuno â mi i fynegi'r gobaith y bydd Ei Mawrhydi yn parhau i wasanaethu ein cenedl, ein byd, ac yn llenwi ein calonnau. Llongyfarchiadau a Duw a'ch bendithio, Eich Mawrhydi.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i ymateb i'r ddadl.
Dirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn gwerthfawrogi pa mor anodd yw hi i ychwanegu at y teyrngedau sydd wedi eu talu i'r Frenhines heddiw. Mae'r thema gyson ym mhob un o'r areithiau heddiw yn un gyfarwydd i ni. Mae'n un yr ydym ni'r gwleidyddion yn ei ystyried o bwys mawr. Gwasanaethu'r cyhoedd yw hynny. Mewn byd o gyfryngau cymdeithasol, o newyddion ar unwaith, yr un thema sy'n atseinio yw gwasanaethu'r cyhoedd, a, beth bynnag yw safbwynt unrhyw un o ran y frenhiniaeth, beth bynnag fo gwleidyddiaeth unrhyw un, beth bynnag yw ei gredoau, mae yna un farn, rwy'n credu, sy'n croesi'r holl wahaniaethau hyn, sef ei bod hi, ar hyd ei hoes, wedi bod yn batrwm o amlygu pwysigrwydd dyletswydd gyhoeddus.
Yr hyn na ellir ei wadu ychwaith yw'r anwyldeb mawr a'r parch y mae hi'n eu hennyn, ar draws y Siambr hon ac ymhlith llawer iawn o'r rhai yr ydym ni'n eu cynrychioli. Ac nid yw'r anwyldeb na'r parch wedi eu cymryd yn ganiataol. Byddai hi wedi bod yn demtasiwn, a hithau wedi ei geni i safle breintiedig, i hawlio teyrngarwch ac awdurdod yn rhinwedd hynny, fel y mae'n bosibl y gwnaeth ei rhagflaenwyr yn yr oesoedd canol. Ond, drwy ei gweithredoedd, mae hi wedi ymdrechu bob amser i haeddu ymddiriedaeth y bobl, fel y dangoswyd yn y straeon a'r hanesion yr ydym ni wedi eu clywed heddiw.
Yn ein brenhiniaeth gyfansoddiadol, yn gwbl briodol, nid yw'r frenhines yn trafod materion gwleidyddol yn gyhoeddus. Serch hynny, mae yn ymddangos ei bod hi'n mynegi ei barn weithiau mewn ffyrdd sy'n fwy cynnil, yn fwyaf diweddar, wrth arddangos blodau yn lliwiau baner Wcráin yn y cefndir wrth gyfarfod â Phrif Weinidog Canada yn gynharach eleni. Ac ychydig iawn a fydd yn anghofio neu'n anghytuno â'r sylwadau a glywyd ganddi wrth agor y Senedd yn ddiweddar, wrth drafod COP26 gyda'n Llywydd ni, rwy'n cofio, sut roedd hi'n cael ei chythruddo gan bobl—rwy'n amau mai sôn am wleidyddion oedd hi—sy'n siarad ond yn gwneud dim.
Rwy'n diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Mae hi'n iawn ein bod ni wedi cymryd rhywfaint o amser i fyfyrio ar gymeriad a chyfraniad ein brenhines fwyaf hirhoedlog a hwyaf ei theyrnasiad. Wrth i ni edrych ymlaen at ddathlu gyda'r Frenhines yr wythnos nesaf, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn ymuno â mi unwaith eto i fynegi cydnabyddiaeth ein cenedl o'i hymroddiad a'i gwasanaeth, a'n llongyfarchiadau ar achlysur cyrraedd carreg filltir mor bwysig. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.