– Senedd Cymru am 2:54 pm ar 14 Mehefin 2022.
Eitem 3 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol—diweddariad ar gostau byw. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.
Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw ynglŷn â'r argyfwng costau byw cynyddol, sy'n cael ei deimlo yn enbyd gan y rhai mwyaf agored i niwed, gan bobl anabl a chartrefi incwm is. Dros yr wythnos diwethaf, rydym ni wedi gweld tystiolaeth bellach o ba mor gyflym y mae prisiau yn codi. Aeth y gost o lenwi car teulu o faint cyfartalog dros £100 am y tro cyntaf, ac, wythnos yn ôl i heddiw, fe welodd prisiau wrth y pwmp eu cynnydd undydd mwyaf mewn 17 mlynedd. Mae llawer iawn o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Mae gwaith gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi canfod bod tua 48,000 o gartrefi yng Nghymru eisoes yn wynebu biliau bwyd ac ynni sy'n fwy na'u hincwm gwario nhw. Yn anffodus, fe fydd yr argyfwng hwn yn gwaethygu wrth i ni nesáu at y gaeaf, gyda'r cap arall ar brisiau ynni yn codi ym mis Hydref, a allai ychwanegu £800 arall at filiau ynni.
Dirprwy Lywydd, yn y Llywodraeth rydym ni bob amser wedi canolbwyntio ar helpu pobl gyda chostau bob dydd drwy gyflwyno ystod eang o raglenni sy'n rhoi arian yn ôl yn eu pocedi nhw. Rydym ni'n darparu miloedd o frecwastau rhad ac am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd bob blwyddyn ac, o ganlyniad i'r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, fe fyddwn ni'n ymestyn prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd o fis Medi ymlaen. Rydym ni'n darparu cymorth gyda chostau o ran danfon plant i'r ysgol. Mae ein talebau Cychwyn Iach ni'n rhoi gostyngiadau ariannol i deuluoedd ar eu neges nhw o'r siopau. Rydym ni'n cynnig nofio rhad ac am ddim i'r hen a'r ifanc, ac rydym ni'n cefnogi cannoedd o filoedd o bobl gyda biliau'r dreth gyngor yn flynyddol. Rydym ni'n helpu pobl i gael y budd-daliadau y mae ganddyn nhw'r hawl i'w cael nhw—rydym ni wedi cynnal dwy ymgyrch lwyddiannus 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' ac mae'r un ddiweddaraf ym mis Mawrth wedi helpu pobl i hawlio mwy na £2.1 miliwn o incwm ychwanegol. Lansiwyd gwasanaethau cyngor ar fudd-daliadau ein cronfa gynghori sengl ni i helpu pobl i lywio'r system fudd-daliadau ddwy flynedd yn ôl. Ac mae ein cynllun Cartrefi Clyd ni wedi gwella effeithlonrwydd ynni cartref ar dros 67,000 o aelwydydd incwm is, ac mae dros 160,000 o bobl wedi cael cyngor effeithlonrwydd ynni ers ei lansio ef yn 2011. Rydym ni'n datblygu fersiwn nesaf y rhaglen ar hyn o bryd.
Ond mae'r argyfwng costau byw hwn yn un digynsail. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud bydd eleni yn gweld y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw yn y DU ers dechrau cadw cofnod o hynny. Fe fyddwn ni'n parhau i wneud popeth yn ein gallu ni i helpu pobl yng Nghymru drwy'r argyfwng hwn, gyda chymorth a anelir at y rhai sydd â'r angen mwyaf amdano. Wrth i'r argyfwng waethygu, rydym ni wedi cyflwyno dau becyn newydd o fesurau sy'n unigryw i Gymru ac a anelir at y rhai y mae angen ein cymorth ni arnyn nhw fwyaf. Ychydig ddyddiau nôl, fe gyhoeddais i £4 miliwn i helpu pobl ar fesuryddion rhagdalu ac aelwydydd nad ydyn nhw'n cael nwy o'r prif gyflenwad—dau grŵp a adawyd allan o becyn mesurau diweddaraf y Canghellor. Rydym ni'n ariannu'r Sefydliad Banc Tanwydd i ddarparu talebau tanwydd i helpu pobl ar fesuryddion rhagdalu sy'n wynebu caledi gwirioneddol. Fe fydd tua 120,000 o bobl yn gymwys. Mae pobl ar fesuryddion rhagdalu wedi cael eu taro yn arbennig o galed gan godiadau mewn taliadau sefydlog yn ystod y misoedd diwethaf; mae'r cynnydd wedi bod ar ei uchaf yn y gogledd. Bydd talebau gwerth £30 yn yr haf a £49 yn y gaeaf ar gael i bob aelwyd gymwys, ac fe fydd pobl yn gallu hawlio hyd at dair gwaith mewn cyfnod o chwe mis. Rydym ni hefyd yn lansio cronfa wres i helpu'r aelwydydd hynny nad ydyn nhw'n cael nwy o'r prif gyflenwad, y mae llawer ohonyn nhw'n byw yng nghefn gwlad Cymru, ac wedi gweld costau yn codi yn gyflym, gyflym iawn am olew neu nwy hylif, ac fe fydd hyn yn helpu tua 2,000 o aelwydydd ledled Cymru. Mae hynny ar ben y taliadau cymorth ar gyfer aelwydydd oddi ar y grid sydd ar gael drwy'r gronfa cymorth dewisol. Mae dros 1,000 o bobl wedi cael grantiau gwerth bron i £192,000 rhwng mis Hydref a mis Ebrill.
Wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol £4.5 miliwn ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth i ofalwyr dros y tair blynedd nesaf. Bydd gofalwyr di-dâl yn gallu gwneud cais am hyd at £500 i dalu am fwyd, eitemau cartref ac eitemau electronig. Dirprwy Lywydd, mae'r cymorth hwn ar ben ein cynlluniau eraill ni i Gymru gyfan, fel y taliad cymorth tanwydd gaeaf o £200 a'r taliad o £150 i bawb ym mandiau A i D y dreth gyngor, sy'n parhau i gael ei dalu i gyfrifon banc pobl heddiw. Y tu hwnt i'r cynlluniau hyn, rwyf i wedi cyfarfod â chyflenwyr ynni i drafod pa gymorth sydd ar gael i aelwydydd sy'n cael trafferth gyda biliau ynni a dyledion. Mae llawer o gwmnïau yn ariannu grantiau o hyd at £600 i aelwydydd sydd â phroblemau dyled hirdymor. Fe gefnogodd y cyflenwyr ein galwadau ni ar Lywodraeth y DU i ymestyn y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes a chyflwyno tariff cymdeithasol ynni ar gyfer aelwydydd incwm is. Rwyf i wedi cynnal uwchgynhadledd costau byw hefyd, wedi cadeirio bwrdd crwn tlodi bwyd, ac wedi cyfarfod â Fforwm Hil Cymru i ddeall effaith yr argyfwng ar ein cymunedau ni'n well. Fe fyddaf i'n cwrdd â'r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl yn ddiweddarach y mis hwn ac fe fyddaf i'n cynnal uwchgynhadledd ddilynol ym mis Gorffennaf. Fe fydd yr holl ddigwyddiadau hyn yn helpu i lywio ein camau ni ac yn meithrin partneriaethau i gryfhau ein hymateb ni dros y misoedd nesaf.
Ond, Dirprwy Lywydd, yn Stryd Downing ac oherwydd camau gan Lywodraethau Ceidwadol olynol y mae'r argyfwng costau byw hwn yn tarddu, yn sicr. Llywodraeth y DU, gyda'i phwerau hi o ran trethu a budd-daliadau, sydd â'r gallu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r argyfwng hwn, ac fe ddylai hi wneud hynny. Mae angen i ni weld taliadau budd-daliadau yn cael eu huwchraddio ar fyrder i gyfateb i chwyddiant cynyddol a thariff ynni is ar gyfer aelwydydd incwm is, ac adfer cyllid ar gyfer taliadau tai yn ôl disgresiwn. Heb weithredu fel hyn, mae yna berygl gwirioneddol y bydd llawer iawn o deuluoedd yn wynebu'r dewis ofnadwy rhwng gwresogi neu fwyta yn ystod y gaeaf sydd i ddod. Mewn gwlad gyfoethog fel ein gwlad ni, dewis yw hwnnw na ddylai neb fyth orfod ei wneud.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch. Rydych chi'n dweud—. Rwyf i am ddechrau gyda'r pwynt olaf a chael diwedd ar y rhan ddadleuol. Rydych chi'n dweud bod yr argyfwng costau yn tarddu yn sicr o Stryd Downing. Yn wir, mae chwyddiant hyd at fis Mai, sef y ffigurau rhyngwladol diwethaf yr wyf i'n gallu cael gafael arnyn nhw, yn cyfeirio at chwyddiant yn yr Iseldiroedd ar 8.8 y cant, yr Unol Daleithiau ar 8.6 y cant, yr Almaen ar 7.9 y cant, ac yng ngwladwriaethau'r Baltig cyn uched ag 20 y cant. A yw Stryd Downing yn gyfrifol am hyn i gyd, neu a yw'r argyfwng costau byw rywsut—ac rwy'n fodlon defnyddio'r gair hwnnw—yn unigryw i ni yn y DU a heb unrhyw gysylltiad â'r argyfwng costau byw byd-eang sy'n cael effaith mewn ffyrdd difrifol mewn cymaint o rannau o'r byd?
Yn dilyn eich datganiad ysgrifenedig chi ddydd Gwener diwethaf a oedd yn cyhoeddi cynllun talebau tanwydd Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o estyn cymorth argyfwng i'r aelwydydd hynny sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu hynni nhw a heb fodd i wneud hynny, gyda thalebau atodol i gwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu, fe ddywedodd cynrychiolwyr y sector wrthyf i, ac yntau'n gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, er bod hyn yn newyddion i'w groesawu, roedd angen rhagor o wybodaeth eto. Mae'r Cam Gweithredu Ynni Cenedlaethol yn amcangyfrif y bydd y cynnydd yn y cap ar brisiau o fis Ebrill ymlaen yn golygu y bydd 100,000 o aelwydydd ychwanegol yng Nghymru mewn tlodi tanwydd, gan wneud cyfanswm o 280,000. Mae eich datganiad ysgrifenedig chi a'r datganiad i'r wasg yn cyfeirio at unigolion a phobl o ran y cynllun talebau. Felly, faint o aelwydydd y mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y cynllun talebau hwn yn eu cwmpasu?
Mae eich datganiad chi'n dweud y bydd y cynllun yn arwain at lansio gwasanaeth argyfwng newydd i aelwydydd sydd oddi ar y grid nwy ac nad ydyn nhw'n gallu fforddio prynu poteli nwy na llenwi eu tanc olew nhw, na rhoi dim yn y storfa goed tân na'r cwt glo. Pryd fydd hwnnw'n cael ei lansio? Rydych chi'n dweud y bydd yr arian yn darparu cymorth cronfa gwres y Banc Tanwydd i helpu 2,000 o aelwydydd hefyd—felly fe wnaethoch chi nodi'r nifer yn yr achos hwn—sy'n byw oddi ar y grid nwy sy'n ddibynnol ar wresogi sydd heb ei reoleiddio, olew a nwy hylif ar gyfer eu hanghenion domestig a gwresogi dŵr, a fydd o fudd i ryw 4,800 o unigolion, yn dibynnu ar nifer y bobl sy'n byw ar yr aelwyd. A ydych chi'n bwriadu i gronfa wres y Banc Tanwydd dalu yn llawn am gost 500 litr o olew, lle nodir y bydd cymorth tebyg i'r hyn sydd ar gael o'r gronfa cymorth dewisol a gyfyngir i £250 ar hyn o bryd, sy'n golygu na all llawer o aelwydydd ar incwm isel sy'n agored i niwed fforddio'r danfoniad lleiaf bob amser? Yn gyffredinol, beth, os o gwbl, yw'r meini prawf cymhwysedd arfaethedig ar gyfer y cynllun hwn, am ba hyd y bydd y cyllid hwn ar gael, a/neu sut y bydd yn gweithio ochr yn ochr â chymorth tebyg sydd ar gael ar hyn o bryd drwy'r gronfa cymorth dewisol?
Wrth eich holi chi yn y fan hon wythnos diwethaf, fe ofynnais i a fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd y £25 miliwn o gyllid canlyniadol sy'n llifo i Lywodraeth Cymru o estyniad Llywodraeth y DU i'r gronfa cymorth i gartrefi yn cael ei anelu, yn ei gyfanrwydd, at aelwydydd a ergydiwyd fwyaf gan y cynnydd mewn costau byw y tu hwnt i'r cyhoeddiadau ariannu a wnaethoch chi cyn cyhoeddi'r arian ychwanegol hwn. Roedd eich ymateb chi'n aneglur. A fydd Llywodraeth Cymru yn anelu'r cyllid hwn felly, yn ei gyfanrwydd, at aelwydydd a drawyd fwyaf gan y cynnydd mewn costau byw—bydd neu na fydd? Os bydd, pryd caiff ei ddyraniad ei gyhoeddi ac a fydd cynllun talebau tanwydd Llywodraeth Cymru a chronfa wres y Banc Tanwydd yn rhan o hynny?
Roeddwn i'n aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a gynhaliodd yr ymchwiliad i 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well' yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf. Ar ôl clywed oddi wrth amrywiaeth o dystion, gan gynnwys Sefydliad Bevan a Chartrefi Cymunedol Cymru, fe argymhellodd adroddiad ein pwyllgor ni yn 2019 y dylid sefydlu
'“system fudd-daliadau Gymreig” gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd y mae’n gyfrifol amdanynt.... Dylai’r egwyddorion hyn gael eu cydgynhyrchu gyda phobl sy’n hawlio’r budd-daliadau hyn a’r cyhoedd ehangach yng Nghymru.'
Fel dywedodd y pwyllgor:
'Mae’n fater o degwch sylfaenol bod pobl yn cael yr holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo, a hynny mewn ffordd mor hawdd â phosibl.'
Fe dderbyniodd Llywodraeth Cymru'r argymhelliad hwn. Pa gamau y gwnaethoch chi eu cymryd i gyflawni hyn felly?
Roedd ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau cyn etholiadau'r Senedd yn 2021 yn canfod bod pobl yng Nghymru yn teimlo'n fwyfwy analluog i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol. Roedden nhw'n tynnu sylw at adroddiad 'Left behind?' yr Ymddiriedolaeth Leol yn Lloegr, sy'n dangos bod gan yr ardaloedd tlotach sydd â mwy o gapasiti cymunedol a seilwaith cymdeithasol ganlyniadau iechyd a llesiant gwell, cyfraddau cyflogaeth uwch a lefelau is o dlodi plant o gymharu ag ardaloedd tlotach heb y capasiti hwnnw, gan ychwanegu:
'Credwn fod cyfle mawr i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol ddatblygu gwell cefnogaeth ar gyfer dulliau lleol hirdymor a arweinir gan y gymuned yng Nghymru'.
Pa ystyriaeth a wnaethoch chi ei rhoi felly i'r adroddiad 'Left behind?', neu a ydych chi'n bwriadu gwneud hynny?
Mae—
Mark, rydych chi wedi cael mwy na'ch amser chi nawr, felly tynnwch tua'r terfyn, os gwelwch chi'n dda.
Iawn, fe wnaf i hynny. Mae canllawiau cynllun cymorth costau byw Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol yn caniatáu i daliadau gael eu gwneud hyd nes y bydd y cynllun yn cau ar 30 o fis Medi, ond yn gadael iddyn nhw benderfynu pryd yn union y byddai hynny'n digwydd. Pa gamau, yn olaf, felly, y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan drigolion mewn nifer o ardaloedd awdurdodau lleol ynglŷn ag oedi cyn talu'r ad-daliad treth gyngor i'r rhai nad ydyn nhw'n talu eu treth gyngor drwy ddebyd uniongyrchol?
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Fe fyddwn i'n rhyfeddu yn fawr iawn, gan eich bod chi'n gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, pe na fyddech chi'n cydnabod llymhau'r argyfwng costau byw a methiant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r materion hyn gyda'u pwerau nhw o ran trethu a budd-daliadau. Dim ond o ran cydnabod, fel dywedais i, mai Llywodraeth y DU sydd â'r cyfrifoldeb mwyaf am y system dreth a budd-daliadau.
Mae Gweinidogion Cymru wedi galw dro ar ôl tro ar Weinidogion y DU i gyflwyno cap pris is ar gyfer aelwydydd incwm isel, ac fe gefais i gefnogaeth i hynny gan y darparwyr ynni y bûm i'n cyfarfod â nhw, i sicrhau eu bod nhw'n gallu talu costau eu hanghenion ynni nawr ac yn y dyfodol. Ni chafwyd ymateb oddi wrth Lywodraeth y DU. Rydym ni hefyd wedi gofyn iddyn nhw gyflwyno cynnydd sylweddol yn yr ad-daliad sy'n dod drwy gynlluniau fel gostyngiad Cartrefi Cynnes a chynlluniau tanwydd gaeaf. Rydym ni wedi gofyn iddyn nhw ddileu'r holl gostau polisi cymdeithasol ac amgylcheddol o filiau ynni'r cartref a thalu'r costau hyn o drethiant cyffredinol. Rydym ni wedi gofyn am adfer y cynnydd o £20 mewn credyd cynhwysol unwaith eto, ond yn hanfodol bwysig, ac yn y fan honno mae'r cyfrifoldeb yn aros, yn Stryd Downing, a'r hyn y dylen nhw fod yn ei wneud yw cynyddu ac uwchraddio taliadau o fudd-daliadau ar gyfer 2022-23 i gyfateb i chwyddiant yn hytrach na defnyddio ffigur mynegai prisiau defnyddwyr mis Medi 2021 o 3.1 y cant. Mae chwyddiant ar 9 y cant erbyn hyn ac yn codi.
Nid wyf i am dreulio fy amser i heddiw yn dyfynnu'r hyn mewn gwirionedd y mae gwledydd eraill yn ei wneud, yn sicr yn yr UE, sef llawer mwy na'r Llywodraeth hon yn y DU, ond edrychwch chi ar Ffrainc, yr Eidal a'r Almaen. Mae'r Almaen yn cyflwyno cymorthdaliadau ar gyfer aelwydydd incwm isel, gan wario €15 biliwn yn ychwanegol ar gymorthdaliadau tanwydd, torri trethi petrol a disel, darparu taliadau untro i bobl, estyn cymorth gofal plant ychwanegol, rhoi gostyngiadau ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dyna'r math o fesurau y dylem ni fod yn eu gweld oddi wrth Lywodraeth y DU.
Ond rwy'n falch eich bod chi'n croesawu'r cyhoeddiad a wnes i ddydd Gwener. Mae yna ddatganiad ysgrifenedig llawn, wrth gwrs, a gyhoeddwyd ddydd Gwener, Mark, ac fe wyddoch chi fy mod i wedi lansio hwnnw yn Wrecsam. Cafodd ei lansio gennyf i yn Wrecsam oherwydd bod y ffigurau yn dangos mai pobl â mesuryddion rhagdalu yn y gogledd yw'r rhai sydd wedi cael eu taro galetaf yn y DU gan daliadau sefydlog cynyddol. Yn wir, fe soniodd Prif Weinidog Cymru am hynny yn ei gwestiynau ef. Mae costau yn cynyddu 102 y cant yn y gogledd, yr uchaf yn y DU, ac mae taliadau sefydlog i bobl â mesuryddion rhagdalu yn y de wedi codi 94 y cant, y pedwerydd uchaf ym Mhrydain.
Nawr, rydym ni'n gwneud hyn gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd. Maen nhw wedi ymgysylltu eisoes—fe glywsom ni'n gynharach am rai banciau bwyd, gan gynnwys ym Mlaenau Gwent, y bûm i ar ymweliad â nhw a chyfarfod â nhw a chyfarfod â'r sefydliad tanwydd, ac yn y gogledd hefyd, yn Wrecsam, lle mae yna wyth o ganolfannau. Mae yna wyth o ganolfannau—wyth canolfan—ar gyfer banc bwyd Wrecsam, ac maen nhw eisoes, gyda chyllid blaenorol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â phwysau'r gaeaf, wedi bod yn darparu'r talebau tanwydd hyn mewn gwirionedd. Nawr, fe fydd Cymru gyfan yn elwa ar hynny, ac mae hi'n bwysig ystyried, fel gwelwch chi yn y datganiad ysgrifenedig a'r ymateb i'ch cwestiynau chi, y bydd bron i 120,000 o bobl—roedd hyn yn fy natganiad i—yn gymwys i gael tua 49,000 o dalebau i'w cefnogi nhw yn ystod yr argyfwng costau byw.
Nawr, mae'r gronfa wres yn bwysig hefyd. Bydd honno'n rhoi cymorth uniongyrchol i aelwydydd cymwys sy'n byw oddi ar y grid nwy, gan ddibynnu ar olew a nwy hylif. Rwyf i wedi dweud eisoes yn fy natganiad y dylai hi fod o gymorth i hyd at 2,000 o aelwydydd yng Nghymru. Rwyf i o'r farn y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn, mewn gwirionedd, pe gallai Mark, yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, wahodd rhywun o gronfa gwres y banc tanwydd efallai i un o'ch cyfarfodydd grŵp trawsbleidiol chi, oherwydd maen nhw'n ymgysylltu erbyn hyn yn llawn ac mae partneriaeth—[Torri ar draws.] Da iawn, wir. Wel, rwy'n falch iawn o glywed hynny. Felly, yr hyn sy'n amlwg i ni yw bod rhaid i ni weithio mewn partneriaeth—wrth ateb eich cwestiynau chi—gyda'r trydydd sector. Ymunodd National Energy Action â'r cyfarfod a gefais i gyda darparwyr ynni bythefnos yn ôl. Mae Cyngor ar Bopeth yn hanfodol, mae hi'n amlwg. Pan wnes i gyfarfod â gwirfoddolwyr banciau bwyd Wrecsam, a Sefydliad y Banc Tanwydd, roedden nhw'n dweud un o'r pwyntiau pwysicaf am ymweld â banc bwyd—ac mae llawer o fentrau bwyd eraill sy'n bwysig iawn—yw ei fod yn cyfeirio pobl at gymorth arall, er mwyn gallu hawlio budd-daliadau eraill. Pobl â mesuryddion rhagdalu yw'r rhai sydd fwyaf agored i gostau cynyddol a thaliadau sefydlog uwch, ac mae'r rhai nad ydyn nhw â chysylltiad â'r prif rwydwaith nwy, fel dywedais i wythnos diwethaf, yn gweld costau tanwydd cynyddol ac yn cael eu gyrru i dlodi tanwydd, gyda thua un o bob 10 aelwyd yn dibynnu ar olew gwresogi yng Nghymru. Ond rwy'n gallu eich sicrhau chi, o ran ymgysylltu ar lefel gymunedol ac, yn wir, o ran yr elusennau a'r grwpiau ymgyrchu cenedlaethol hynny, roedden nhw i gyd yn rhan o'n huwchgynhadledd costau byw ni fis Chwefror diwethaf ac yna ymlaen i'r uwchgynhadledd tlodi bwyd, a'r uwchgynhadledd y byddwn ni'n ei chynnal, fe fyddan nhw'n cael eu gwahodd unwaith eto, ym mis Gorffennaf.
Fe wnaethoch chi ofyn—ac rwyf i am orffen ar y pwynt hwn—pwynt pwysig ynglŷn â thalu taliad costau byw'r dreth gyngor. Mae'n hwnnw'n cael ei roi, fel gŵyr pawb, i fandiau A i D y dreth gyngor, ac, yn wir, i'r rhai sydd â chyfrifon eisoes. Mae'n mynd yn syth i'w cyfrifon nhw, ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn ymwybodol bod bobl yn dweud, 'Mae wedi mynd i mewn i fy nghyfrif i.' O ran y rhai nad oes cyfrifon ganddyn nhw, sef eich cwestiwn chi, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw archwilio hynny, i gael gwybod gan y sawl sy'n cael budd-daliadau penodol am y £150, o ran y ffordd orau o wneud y taliad hwnnw, ac mae hynny'n cael ei fonitro yn ofalus iawn gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac yn wir fy swyddogion i fy hun. Ond fe fydd y taliadau sy'n cael eu gwneud yn eang ledled Cymru yn parhau i gael eu talu ac fe fyddwn ninnau'n parhau i fynd i'r afael â hynny i sicrhau eu bod nhw'n hawlio'r hyn y dylen nhw fod yn ei gael. Yn wir, dyna pam y gallwn ni sicrhau—fel ein taliad cymorth tanwydd gaeaf o £200 ac yna'r taliad o £150—yn wir, dyma sut y gallwn gael arian yn uniongyrchol i bobl, ac mae'r daleb tanwydd yn un cam arall nawr ar y ffordd o ran helpu pobl i wynebu'r argyfwng costau byw erchyll hwn, a luniwyd yn Stryd Downing, fe fyddwn i'n dadlau o hyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae maint yr argyfwng sy'n wynebu llawer gormod o aelwydydd yng Nghymru yn wirioneddol arswydus. Mae chwyddiant, fel clywsom ni, ar ei uchaf ers 40 mlynedd, ac mae prisiau ynni yn codi 23 gwaith yn gynt na chyflogau. O ystyried yr argyfwng sy'n wynebu'r aelwydydd hyn, mae Plaid Cymru yn cytuno y dylai Llywodraeth y DU adfer y cynnydd o £20 i gredyd cynhwysol o fis Gorffennaf ymlaen i amddiffyn aelwydydd sy'n agored i niwed rhag yr argyfwng costau byw, ac rydym ni o'r farn y dylid ymestyn y cynnydd hwnnw hefyd i'r rhai sy'n cael budd-daliadau etifeddol, ac y dylid uwchraddio'r budd-daliadau i gyd yn unol â chwyddiant ac atal didyniadau awtomatig.
Mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi amcangyfrif bod tua 92,000 o aelwydydd sy'n hawlio credyd cynhwysol yng Nghymru yn cael £60 yn llai ar gyfartaledd bob mis nag y mae ganddyn nhw'r hawl iddo oherwydd didyniadau awtomatig o'u taliad credyd cynhwysol nhw. Mae'r didyniadau hyn yn effeithio ar tua 106,000 o blant yng Nghymru. Cymru sydd â'r gyfradd tlodi uchaf ymhlith pedair gwlad y DU, gyda bron i un o bob pedwar o bobl yn byw mewn tlodi, ac felly, os nad yw San Steffan yn fodlon arddangos y mymryn lleiaf o barch tuag at bobl a mynd i'r afael â maint yr argyfwng hwn mewn ffordd ddigonol, a ydych chi, Gweinidog, yn cytuno â mi na ellir dadlau yn erbyn galw am bwerau dros les er mwyn i ni allu cefnogi ac amddiffyn pobl Cymru yn well, y bobl hynny sydd angen y cymorth mwyaf, cymorth y gellir ei anelu orau drwy'r system fudd-daliadau?
Fe wyddom ni, fel rydych chi wedi dweud, y bydd y darlun yn gwaethygu eto hyd yn oed ac y bydd nifer y rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fynd i dlodi tanwydd yn codi eto yn yr hydref. A fyddai'r Gweinidog yn egluro pryd y bydd y taliad cynllun cymorth tanwydd gaeaf nesaf yn cael ei roi? A fydd hwnnw'n cael ei roi, fel nododd hi o'r blaen, cyn mis Hydref?
Mae'r mesur a gyhoeddwyd wythnos diwethaf, sef y cynllun talebau tanwydd i helpu aelwydydd â mesuryddion rhagdalu sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu hynni nhw, ac yn aml, fel roeddech chi'n dweud, y nhw yw'r aelwydydd tlotaf, i'w groesawu yn fawr. Fe hoffwn i ofyn—. Roedd y Prif Weinidog yn sôn am hynny'n gynharach. Fe dynnodd ef sylw at y ffaith, ac rydych chithau wedi gwneud hynny, fod gofynion bod taliadau sefydlog a dyledion yn cael eu talu cyn i'r cyflenwad ddechrau—a allai hynny effeithio ar effeithiolrwydd y mesur hwn? Byddai hynny'n golygu na fyddai ychwanegu taleb tanwydd gwerth £30 at gyfrif rhagdalu yn ddigon mewn rhai achosion i alluogi'r cwsmer i droi'r goleuadau hynny ymlaen, i ddefnyddio'r oergell a'r popty, i wresogi'r cartref. Felly, sut fydd y cynllun newydd hwn yn sicrhau y bydd pobl yn cael digon o fodd ariannol i osgoi'r sefyllfa hon? A hefyd sut ydym ni'n gwybod a ydym ni'n helpu'r rhai sydd ag angen cymorth? Fe wyddom ni nad yw'r defnydd o fesurau eraill i fynd i'r afael â thlodi tanwydd wedi bod yn ddelfrydol bob amser, ac felly ai cyfeirio at y cynllun hwn yw'r dull mwyaf effeithiol o wneud hynny? Beth sy'n digwydd i'r rhai nad oes ganddyn nhw gysylltiad â sefydliadau neu heb fod yn ymwybodol o'r cynllun?
Wrth i gostau godi, un o'r costau mwyaf sydd gan deuluoedd ar incwm isel yw dodrefn ac offer arall. Mae cost dodrefn yn parhau i godi ac mae cost dodrefn, dros y 10 mlynedd diwethaf, wedi codi 32 y cant, tra bod offer i'r cartref wedi codi 17 y cant. Mae Brexit a chwyddiant yn gyrru'r prisiau hyn yn uwch eto, hyd yn oed. Nid oes gan o leiaf 10,000 o blant yn y DU eu gwely nhw eu hunain i gysgu ynddo, ac mae 4.8 miliwn yn byw heb o leiaf un teclyn cartref hanfodol, fel popty neu oergell, ac mae'r rhain yn ffigurau o'r amser cyn y pandemig, yr ydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi codi llawer mwy erbyn hyn.
Dim ond 2 y cant o dai cymdeithasol yn y DU sy'n cael eu gosod yn rhai â chelfi neu â rhywfaint o gelfi, o gymharu hynny â 29 y cant yn y sector rhentu preifat, ac mae rhywfaint o'r ymchwil a wnes i yng Nghymru yn dangos bod hynny'n wir am lawer o gymdeithasau tai yma hefyd. Mae tenantiaethau â chelfi o fudd enfawr i denantiaid a landlordiaid, ac maen nhw'n gallu ysgafnu'r pwysau ar gronfeydd cymorth argyfwng fel y gronfa cymorth dewisol. Fe all byw heb ddodrefn hanfodol gael effaith enfawr ar lesiant meddyliol a chorfforol pobl a chreu cost ychwanegol. Er enghraifft, mae hyd at 15 y cant o wres eich cartref chi'n cael ei golli os nad oes deunydd llawr gennych, ac mae hi'n anodd iawn cael hwnnw pan fyddwch chi ar incwm isel. Mae elusennau sy'n darparu moddion ariannol ar gyfer eitemau fel hyn, ond nid oes llawer o ddarpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer eitemau fel deunydd llawr, ac mae llawer o landlordiaid cymdeithasol yn cael gwared ar ddeunydd llawr, ac mewn rhai achosion bu achosion pan godwyd tâl ar denantiaid am godi lloriau ar derfyn eu tenantiaeth nhw. Felly, tybed, Gweinidog, a fyddech chi'n ystyried gweithio ochr yn ochr â darparwyr tai cymdeithasol i annog ymgysylltu â thenantiaid ynghylch cadw hen ddeunydd lloriau a dodrefn pan fo hynny'n berthnasol. A ellid ychwanegu hyn at delerau atodol contractau nesaf Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru adolygu telerau'r gronfa cymorth dewisol a chronfeydd argyfwng eraill i gynnwys darparu deunydd lloriau addas? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Ydych, rydych chi'n nodi, fel gwnes innau, pa mor eang yw'r argyfwng—chwyddiant sydd ar ei lefel uchaf ers mis Mawrth 1982 erbyn hyn, pan oedd ar 9.1 y cant; y cynnydd ym mis Ebrill, sy'n cael ei yrru gan gostau ynni, o fwy na 50 y cant oherwydd codi'r cap ynni; a'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud bod yr aelwydydd tlotaf yn wynebu cyfraddau chwyddiant o 10.9 y cant. Rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol briodol i ni gydnabod dadansoddiad Jack Monroe—mae'r cyfraddau 3 y cant yn uwch na chyfraddau chwyddiant ar gyfer y degradd cyfoethocaf, ac rwy'n gweld gwerth y pwyslais hwnnw mewn gwirionedd o ran yr hyn y mae'n ei olygu i'r aelwydydd tlotaf yng Nghymru, Ac, wrth gwrs, mae'r ffaith bod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn dweud wrthym ni fod biliau bwyd ac ynni yn fwy na'u hincwm gwario. Maen nhw'n rhybuddio, rwy'n credu—a dyna pam mae hwn yn fater mor allweddol, a thrwy gydol y prynhawn yn barod, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog—fe fydd hyn yn gwthio miloedd o aelwydydd, os na wnawn ni ymyrryd ac nad yw Llywodraeth y DU yn gweithredu ar unwaith, i ddyled ac ansefydlogrwydd. Ond dyna pam mae ein dewisiadau ni, yn enwedig o ran y talebau tanwydd a'r bartneriaeth honno gyda'r sefydliad tanwydd, yn fy marn i, wedi bod mor bwysig. Mae ganddyn nhw bartneriaeth gyda Llywodraeth yr Alban eisoes, ac maen nhw wedi hen ennill eu plwyf o ran sut y gall hyn weithredu, felly rwy'n falch fod cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd yn ymgysylltu â'r Sefydliad Banc Tanwydd erbyn hyn, oherwydd mae ganddyn nhw brofiad o sut i'w reoli. Ac oes, mae yna feini prawf o ran cael cymorth oddi wrth y banc tanwydd: yn amlwg, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn gwsmeriaid ynni sy'n rhagdalu neu oddi ar y grid nwy a bod mewn argyfwng ariannol dwys. Ond y sefyllfa o ran y credyd sy'n mynd cyn belled â'r ddyled sy'n deillio o'r taliadau sefydlog—fe fyddaf i'n egluro'r pwynt hwnnw gyda nhw o ran sut y bydd y cynllun hwn yn gweithio. Mae angen i ni sicrhau ei fod yn gweithio ar sail profiad ac ar sail ar sut y gallwn ni helpu pobl sy'n ei chael hi galetaf.
Mae hi'n amlwg y gall pobl sy'n ei chael hi'n anodd o ganlyniad i'r argyfwng costau byw droi at ddarparwyr eu cronfa gynghori sengl nhw, ac rwyf i am fynd ymlaen at y gronfa cymorth dewisol hefyd, oherwydd, yn amlwg, mae honno eisoes ar waith. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gyfleu'r neges hon, onid yw hi, ynglŷn â mynediad i'r cynllun talebau tanwydd newydd. Rydym ni'n hysbysu pobl am hynny, yn amlwg, drwy gyfrwng ein banciau bwyd ni, ond wrth gwrs mae llawer o bobl sy'n mynd i fanciau bwyd wedi'u hatgyfeirio; mae ganddyn nhw ffordd i gysylltu ag asiantaethau. Ond mae hwn yn rhywbeth y mae angen i ni fod ag ymgyrch gyhoeddusrwydd yn ei gylch, ymgyrch gyfathrebu, ac rwy'n sicr yn croesawu'r ffaith eich bod chi'n gofyn y cwestiynau hyn. Roeddwn i'n gwneud rhywfaint o waith cyhoeddusrwydd ynglŷn â hyn ddydd Gwener, ond mae angen i ni gyfleu'r neges i bobl, ac fe wn i fod y sefydliad tanwydd yn awyddus i ymgysylltu. Fe wnaethom ni hynny'n gyflym iawn—rhoddwyd y cynllun hwn ar waith gennym ni, ac mae'n rhaid i ni ei roi ar waith nawr a'i redeg fel ein bod ni'n estyn allan at y rhai mwyaf anghenus a bregus eu sefyllfaoedd. Ond rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom ni Aelodau'r Senedd yn adnabod pobl sydd wedi ein stopio ni ar y stryd, sydd wedi dod i'n cymorthfeydd ni, yn y sefyllfa hon—yr amgylchiadau hyn o orfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta. Ac fe allwn ni eu cyfeirio nhw nawr at y cynllun hwn, yn arbennig felly am fod cymaint o'r rhain yn ddibynnol ar fesuryddion rhagdalu.
Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf nesaf—wel, rydym ni'n sicr yn awyddus i'w roi ar waith cyn mis Hydref; rwy'n awyddus i'w ddosbarthu ym mis Medi. Fe fyddaf i'n sicr yn cyhoeddi'r meini prawf estynedig ar gyfer cynllun cymorth tanwydd y gaeaf yn fuan iawn, oherwydd fe wnaethom ni hynny fis Rhagfyr y llynedd oherwydd yr argyfwng costau byw a oedd yn dod i'r amlwg. Bydd yn ymestyn y cymhwysedd, fel dywedais i. Mae hi'n hanfodol fod awdurdodau lleol â rhan lawn yn hyn o beth hefyd—y nhw sy'n rheoli taliadau cymorth tanwydd y gaeaf—ac, yn wir, ochr yn ochr â'r dull sydd gennym ni o fod yn rym gwirioneddol o ran nawdd cymdeithasol. Rwy'n hoffi'r ymadrodd 'nawdd cymdeithasol'. Rwy'n hoffi'r ffaith mai nawdd cymdeithasol yw'r hyn yr ydym ni'n credu ynddo. Ie, sôn am les yr ydym ni, rydym ni'n siarad yn ein cytundeb cydweithredu am edrych ar ein pwerau ni o ran lles, ac mae'r holl waith a wnaeth John Griffiths yn y Senedd flaenorol gennym ni, felly mae gennym ni sylfaen gref o ran tystiolaeth ac mae gennym ni gytundeb i fwrw ymlaen â hyn o ran yr hyn y gallem ni ei gyflawni, beth allem ni—wyddoch chi, o ran grym canoli Llywodraeth y DU, beth yw ein sefyllfa ni? Nid ydyn nhw'n cyflawni unrhyw beth, felly rwy'n edrych ymlaen at fwrw ymlaen â hynny. Ond erbyn hyn mae gennym ni ystod mor eang o fuddion uniongyrchol yr ydym ni'n eu talu fel bod hyn yn gwneud synnwyr, onid yw, i fwrw ymlaen fel hyn.
Yn olaf, rwy'n dod at eich pwynt chi ynglŷn â'r anghenion eraill sydd gan bobl o ran deunydd lloriau, yn ogystal ag offer arall hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei drafod nawr gyda swyddogion a'r trydydd sector o ran taliadau cymorth yn ôl disgresiwn. Rwy'n credu bod y cynllun taliadau cymorth dewisol, y gwnaethom ni ei ymestyn, wrth gwrs, oherwydd y pandemig, fel gwyddoch chi—ac rydych chi wedi cefnogi'r ffaith bod hynny'n parhau, yn y ffyrdd yr ydym ni'n ei ariannu—rwy'n credu bod y gronfa cymorth dewisol yn bwysig iawn, oherwydd mae hi'n galluogi pobl i gael mwy nag un taliad o ran cymorth—a buddsoddi mwy na £100 miliwn yn y gronfa cymorth dewisol a chynllun cymorth tanwydd y gaeaf eleni. Ac yn wir, fe fydd hyn yn sicrhau y bydd mwy o bobl yn parhau i gael cymorth ar frys ac mewn argyfwng pan fydd ei angen ef arnyn nhw, ac mae hynny'n cynnwys offer i'r tŷ fel oergell ac ati, ond mae angen i ni edrych ar yr agweddau eraill hyn.
Ond rwyf i am ddweud yn olaf un, ac rwy'n credu bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn y fan hon, sef, ydi, wir—roedd y Gweinidog gyda mi, yn siarad hefyd ar ystod eang o faterion a'i chyfrifoldebau hi o ran yr argyfwng costau byw, ond partneriaid sy'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol o ran darparwyr tai, maen nhw i gyd â rhan yn hyn, ac fe fyddwn ni'n sicr yn codi hyn o ran yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud, yn arbennig, am ddeunydd lloriau. Mae llawer ohonom ni hefyd wedi gweld elusennau yn ein hetholaethau ni sydd â rhan yn hynny erbyn hyn. Roedd rhywbeth gwych a elwid yn gronfa gymdeithasol yn arfer bod. Ond fe aeth hynny i gyd. Cafodd Llywodraethau Ceidwadol blaenorol wared ar y gronfa gymdeithasol. Ac fe wnaethom ni barhau i roi'r arian ar waith a datblygu'r gronfa cymorth dewisol. Ond fe fyddwn ni, mewn gwirionedd, yn gwerthuso'r gronfa cymorth dewisol yn ddiweddarach eleni i ystyried ei swyddogaeth a'i chyd-destun hi. Felly, yn sicr, mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Ac yn olaf, wrth gwrs, rydym ni wastad wedi galw am adfer yr £20 ychwanegol, sef y toriad creulon o £20 i gredyd cynhwysol.
Rwy'n diolch i'r Gweinidog am roi'r datganiad hwn gerbron heddiw. Busnes costus iawn yw bod yn dlawd. Rydych chi'n talu mwy am ynni gyda thalebau rhagdalu, rydych chi'n fwy tebygol o fyw mewn tŷ sydd ag inswleiddio gwael iawn, rydych chi'n mynd i'r gwely yn gynnar i osgoi costau gwresogi, ac yn y gaeaf rydych chi'n deffro i weld rhew o'ch anadl chi ar y tu mewn i'ch ffenestri chi. Mae rhent wedi codi, mae nwy wedi codi, mae trydan wedi codi, mae costau byw cyffredinol wedi codi hyd at bwynt pan fo gan bobl lai i'w wario ar fwyd, ac mae llawer o gynhyrchion rhesymol wedi codi llawer iawn mwy yn eu pris na'r cynnydd cyffredinol yng nghost bwyd. Mae pobl yn bwyta llai neu'n colli prydau bwyd, neu'n bwyta llai o fwyd maethlon, yn bwyta pethau sy'n llenwi fel reis gwyn a phasta ac yn hepgor ffrwythau a llysiau ffres sy'n costio mwy, ac yn gwneud prydau bwyd sy'n llenwi, ond heb fod yn brydau maethlon. Ac, wrth gwrs, yn y pen draw, mae'r plant yn cael bwyd a'u rheini nhw'n gwneud heb fwyd.
Rwyf i'n croesawu camau Llywodraeth Cymru—nid wyf i am eu henwi nhw i gyd, ond pethau fel cymorth gyda chostau tanwydd, a chost anfon eich plant i'r ysgol, talebau Cychwyn Iach, cymorth i gannoedd o filoedd o bobl bob blwyddyn o ran biliau'r dreth gyngor, ac rwyf i'n croesawu dwy ymgyrch lwyddiannus 'Hawlio'r hyn sy'n ddyledus i chi', ac fe fu'r un ddiweddaraf yn llwyddiannus iawn. A yw'r Gweinidog yn cytuno, serch hynny, mai'r cam mwyaf effeithiol fyddai diddymu'r oedi o bum wythnos ar gyfer y taliad credyd cynhwysol cyntaf, sy'n gyrru pobl i dlodi ar unwaith, a gwyrdroi'r toriad o ran credyd cynhwysol? Nid fyddai hynny'n datrys y problemau i gyd, ond fe fyddai hynny'n gwella rhyw ychydig ar sefyllfa enbyd iawn.
Wel, diolch yn fawr iawn i chi, Mike Hedges. Rydych chi'n disgrifio gwirioneddau bod yn dlawd yn eglur iawn, ac mae hi'n costio mwy i chi fod yn dlawd ym mhob agwedd ar fywyd, a pha mor greulon yw'r sefyllfa honno, o ran bwyd, gwres, a thai. Felly, diolch i chi am groesawu llawer o'r mesurau yr ydym ni'n eu cymryd. Rwyf i'n cytuno yn llwyr â chi, ac rwyf i am fynd yn ôl at y mater hwnnw gyda Llywodraeth y DU, ynglŷn â'r oedi o bum wythnos, oherwydd, pan gyflwynwyd credyd cynhwysol, roeddem ni i gyd yn dweud mai trychineb fyddai hynny, ac, yn wir, roedd hi yn drychinebus, o ran cyflwyno'r cynllun treialu yn unig a'r ddyled a ddechreuodd gronni wedyn.
Nawr, un o'r pethau sy'n eglur iawn yw ei bod hi, hefyd, nid yn unig yn gostus i fod yn dlawd, ond ym mhob ffordd arall, o ran eich iechyd, eich llesiant, eich iechyd meddwl, eich hunan-barch i gyd oherwydd mae pob ystyr sydd i'ch bywyd chi dan fygythiad a than warchae gan dlodi. Ac yna mae'n rhaid i chi ymdrin â'ch dyledion chi oherwydd yr oedi am bum wythnos, sy'n gwbl gywilyddus. Felly, diolch i chi am godi hynny. Wrth gwrs, rwyf i wedi dweud eisoes ein bod ni'n galw am wyrdroi'r toriad o ran credyd cynhwysol, ond fe fyddaf i'n mynd nôl nawr i ystyried y materion hyn. Ac, yn wir, wrth gwrs, fe wnaethon nhw gyflwyno'r adolygiad cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ynglŷn â dyled, ond rwyf i am fynd nôl at Lywodraeth y DU yn hynny o beth.
Dwi a Phlaid Cymru wedi codi'r cyswllt rhwng yr argyfwng costau byw a chostau tai nifer o weithiau ar lawr y Senedd yma, ac mae'r cyswllt yn amlwg. Rydyn ni wedi gweld rhentu yn cynyddu'n aruthrol yma yng Nghymru—cynnydd o tua 12, 13 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, a hyn ar adeg pan nad ydy'r ddeddfwriaeth ar gyfer rhentu tai yn weithredol er mwyn gwarchod tenantiaid rhag cael eu lluchio allan y tu hwnt i rybudd o ddau fis.
Hyd yma, mae'n flin gen i ddweud nad ydy'r atebion sydd wedi cael eu cyflwyno heddiw, yn sicr, nac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wedi mynd yn ddigon pell er mwyn mynd i'r afael â'r elfen o dai o'r argyfwng costau byw. Yr wythnos yma, fe gyhoeddodd y Sefydliad Bevan ei hymchwil yn dangos mai dim ond 24 eiddo oedd ar gael trwy Gymru gyfan ar gyfraddau'r LHA—y lwfans tai lleol. Mae rhaid, rhaid i ni weld y lwfans yma yn cael ei gynyddu. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael efo Llywodraeth San Steffan er mwyn gweld y lwfans yma'n codi?
Ac, yn olaf, mae'r argyfwng tai presennol yn boenus o acíwt. Felly, mae'n rhaid defnyddio pob arf o fewn ein gallu. Fel y sonioch chi yn eich cyhoeddiad, mae gennym ni yma y gallu i ddefnyddio taliadau disgresiwn at gostau tai—y DHP. Gan nad ydy'r Ddeddf rhentu tai mewn grym eto, a bod yna argyfwng go iawn yn wynebu nifer o bobl, a wnewch chi gydweithio efo'r Gweinidog cyllid er mwyn sicrhau bod yna gynnydd yn y taliadau disgresiwn ar gostau tai, a sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn manteisio yn llawn ar y pot yma o bres?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Wrth gwrs, fel rydym ni wedi dweud, ac fel gwyddom ni—ac mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd gyda ni'r prynhawn yma ac wedi ymgysylltu â'r trafodaethau hyn i gyd—mae hwn yn gyfrifoldeb traws lywodraeth o ran mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, gyda darparwyr tai, darparwyr tai cymdeithasol, ond gyda'r sector rhentu preifat yn ymgysylltu hefyd, yn ogystal â hynny.
O ran toriadau i'r lwfans tai lleol, mae'r toriadau wedi bod dros flynyddoedd ac ni chafodd hynny ei gynyddu ac fe gafodd ei rewi unwaith eto. Ond, rwy'n credu eich bod chi'n ymwybodol o'r datganiad a wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd ar 8 o fis Ebrill am daliadau tai yn ôl disgresiwn. Rwyf i wedi codi'r holl bwyntiau a godwyd gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n disgwyl iddyn nhw ei wneud o ran costau a chymorth ynni, y gostyngiad Cartrefi Cynnes, ac ati, ond hefyd, fel gwnaeth Julie James fis Ebrill diwethaf, rydym ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i adfer ei chyllid ar gyfer taliadau tai yn ôl disgresiwn—cylch arall o doriadau sylweddol i'r ffynhonnell werthfawr hon o gyllid. Fe ddefnyddir yr arian hwnnw gan awdurdodau lleol, fel gwyddoch chi, i liniaru effeithiau diwygiadau lles eraill, gan gynnwys y dreth ystafell wely, pobl yr effeithir arnyn nhw gan y cap ar fudd-daliadau, ac, wrth gwrs, effaith rhenti cynyddol. Ac mae hynny'n helpu tenantiaid i beidio â mynd i ôl-ddyledion rhent pan fydd pobl yn wynebu'r argyfwng hwn o ran costau byw, fel yr ydych chi'n dweud, gyda'r rhent yn codi. Ac mae hi'n amhosibl deall pam—ac rwy'n dyfynnu'r Gweinidog Newid Hinsawdd:
'mae'n amhosibl deall pam mae llywodraeth y DU wedi penderfynu gwneud toriadau mor llym', o ran taliadau tai yn ôl disgresiwn. Mae llawer o bobl nad ydyn nhw'n ymwybodol o'r manylion hyn i gyd, na'r hyn sy'n digwydd, ond, mewn gwirionedd, mae'r gostyngiad yn y cyllid Taliad Disgresiwn at Gostau Tai sydd ar gael i awdurdodau lleol Cymru yn y flwyddyn ariannol hon yn cyfateb i doriad o tua 27 y cant o'i gymharu â 2021-22. Felly, rydym ni wedi rhoi rhywbeth ar ben hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu £4.1 miliwn at y gronfa y llynedd, a'r swm o arian yr ydym ni'n ei roi nawr i bob un o'r cynlluniau hyn a'r taliadau atodol hefyd, at rywbeth sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU mewn gwirionedd, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â hyn, ac fe allaf i eich sicrhau chi mai dyna'r hyn yr ydym ni'n bwriadu galw amdano.
Ac, yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Un o'r nodweddion sy'n diffinio llawer o'r cymorth a roddodd Llywodraeth Cymru hyd yma yw pa mor effeithiol yr anelwyd hwnnw at y rhai sydd â'r angen mwyaf. Felly, os ydym ni'n edrych ar y cynllun talebau tanwydd, y gronfa wres, y gronfa cychwyn iach, y gronfa newydd i ofalwyr, mae hynny'n mynd yn uniongyrchol i'r rhai sydd â'r angen mwyaf nawr. Ni ellir dweud yr un peth, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i mi ddweud, am un o gynlluniau Llywodraeth y DU, sef y grant ynni i bob aelwyd, sy'n mynd i bob cartref, ac os ydych chi'n berchen ar fwy nag un cartref, yna fe gewch chi'r grant hwnnw sawl tro, ni waeth faint o gartrefi sydd gennych chi.
Ond a gaf i godi un agwedd benodol ar hyn yr hoffwn i'r Gweinidog—? A hefyd, mae hi'n wych bod â'r Gweinidog arall yn y fan hon sy'n gyfrifol am dai hefyd. Mae hi'n debyg eu bod nhw wedi ystyried hyn yn barod. Mae'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, adran y DU, wedi dweud, os ydych chi'n denant ar y biliau cyfleustodau neu beidio, yna fe ddylid trosglwyddo'r taliad hwn o £400 yn uniongyrchol i chi'r tenant; ni ddylai fynd i'r landlord. Ond ni chafodd hynny ei nodi yn unman; nid yw'n ofyniad, dim ond felly y 'dylai' hi fod. Mae Cyngor ar Bopeth wedi gofyn am arweiniad clir ynglŷn â hyn, ond unwaith eto, canllawiau yw'r rhain. Tybed, Gweinidog, a wnewch chi, yn eich trafodaethau chi gyda Gweinidogion y DU a'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet, ystyried sut y gallwn ni sicrhau y bydd yr arian hwn yn mynd yn uniongyrchol i'r deiliaid ac nid i'r landlordiaid.
Diolch yn fawr. Pwynt pwysig iawn yw hwnnw. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ymwybodol o hynny eisoes, sef y pryderon eto gan Cyngor ar Bopeth, ein darparwyr cynghori sengl ni, ac oni bai ei bod hi'n gwbl eglur a gorfodol ei fod yn mynd i'r deiliad, ni allwn ni ymddiried yn hynny. Felly, fe fyddwn ni'n codi'r pwynt hwnnw. Diolch yn fawr iawn i chi, Huw Irranca-Davies.
Diolch i'r Gweinidog.