– Senedd Cymru am 4:27 pm ar 14 Mehefin 2022.
Felly, symudwn ymlaen i eitem 7, datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, diweddariad ar Wcráin, a galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, am roi cyfle arall i ni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n ceisio noddfa yng Nghymru. Pan roddais yr wybodaeth ddiweddaraf i chi ddiwethaf bron i fis yn ôl, roedd Cymru wedi croesawu ychydig dros 1,120 o bobl Wcráin o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, gan gynnwys drwy ein llwybr uwch-noddwr, ac rwy'n falch o ddweud bod y rhif hwn bron wedi dyblu ers hynny. Roedd bron i 2,200 o bobl o Wcráin, wedi'u noddi gan bobl o Gymru, wedi cyrraedd y DU erbyn 7 Mehefin. Mae eraill wedi cyrraedd hefyd, wrth gwrs, o dan gynllun teulu Wcráin, ond nid yw Llywodraeth y DU yn darparu'r data hynny.
Mae dros 5,200 o fisâu wedi'u rhoi bellach i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, felly gallwn ddisgwyl i nifer y bobl sy'n cyrraedd barhau i gynyddu'n gyflym yn yr wythnosau nesaf. Mae ein partneriaid mewn llywodraeth leol, y GIG, y trydydd sector, gwirfoddolwyr ac, wrth gwrs, yr holl bobl hynny sy'n gweithredu fel noddwyr yn gwneud ymdrechion aruthrol i gefnogi ceiswyr noddfa gyda'r gwasanaethau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Cyfarfu'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a minnau ag arweinwyr a phrif weithredwyr awdurdodau lleol yr wythnos diwethaf i ailddatgan ein hymrwymiad cyffredin i'r gwaith hwn yn dilyn yr etholiad.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais y byddem yn gohirio dros dro ein cynllun uwch-noddwyr am weddill y mis hwn. Mae'r llwybr uwch-noddwyr wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers ei lansio wyth wythnos yn ôl. Aethom ati i noddi 1,000 o bobl ac mae wedi rhagori'n llwyr ar ein disgwyliadau. Mae'r data a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru, hyd at 7 Mehefin 2022, yn dangos bod dros 3,000 o fisâu wedi'u rhoi drwy'r cynllun uwch-noddwyr, ond mae data gweithredol yn awgrymu y gallai hynny fod gymaint â 50 y cant yn fwy erbyn hyn.
Fe wnaethom sefydlu'r llwybr uwch-noddwyr oherwydd ein bod ni'n dymuno lleihau'r risgiau diogelu a lleihau rhwystrau i bobl o Wcráin, menywod a phlant yn bennaf, sy'n dianc rhag y gwrthdaro angheuol hwn ac yn ceisio noddfa. Yr wythnos diwethaf ymwelais ag un o'n canolfannau croeso, ynghyd â'r Cwnsler Cyffredinol, ac roedd hi'n bleser mawr gweld effaith gadarnhaol y gwaith hwn.
Yn rhan o nodi Wythnos Ffoaduriaid yr wythnos nesaf, mae'r Prif Weinidog a minnau hefyd yn bwriadu ymweld ag un arall o'n canolfannau. Rydym ni wedi sefydlu ac ariannu'r canolfannau croeso, gyda'u cefnogaeth gynhwysfawr, i ddarparu ar gyfer ein hymrwymiad cychwynnol o 1,000 o bobl. Mae ein canolfannau croeso presennol yn llawn, ac rydym yn ymdrechu ar frys i geisio sefydlu rhagor o ganolfannau a ffynonellau eraill o lety dros dro. Rydym yn falch y gallwn ni ddarparu llwybr at noddfa i gynifer, ond mae'n her enfawr i ni sicrhau y gallwn ehangu ein cynnig i gefnogi pawb sy'n cyrraedd.
Byddai'n gwbl anghyfrifol i ni gadw'r llwybr hwn ar agor oni bai ein bod yn hyderus bod gennym ni bopeth yn ei le i sicrhau y bydd pawb yr ydym yn eu noddi yn cael profiad o ansawdd da pan fyddan nhw'n cyrraedd Cymru. Bydd yr oedi dros dro hwn yn y gweithrediadau yn rhoi cyfnod byr o amser i ni a'n partneriaid sicrhau bod ein holl brosesau a gwasanaethau ar waith i gefnogi pawb yr ydym wedi ymrwymo iddyn nhw. Mae bod yn genedl noddfa yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gallu anrhydeddu'r addewidion yr ydym wedi eu gwneud i bobl sy'n dymuno dod i Gymru. Rydym yn llwyr ddisgwyl ailagor y cynllun ar gyfer ceisiadau fis nesaf. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi eto pan fyddwn yn cwblhau ein hadolygiad ddiwedd mis Mehefin.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda llywodraeth leol ac eraill, yn enwedig y trydydd sector, i sicrhau bod pawb sy'n cyrraedd ac yn aros yn y canolfannau croeso yn cael eu cefnogi wrth iddyn nhw ddechrau ymgynefino â bywyd yng Nghymru. Mae dewisiadau tai ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin yn cael eu cynllunio gyda phartneriaid yn y sector rhentu cyhoeddus a phreifat. Nid ydym ni eisiau i bobl aros yn y canolfannau croeso am fwy o amser nag sydd ei angen. Rydym wedi cysylltu â phawb yng Nghymru sydd wedi mynegi diddordeb mewn croesawu rhywun o Wcráin ond nad ydyn nhw wedi eu paru eto. Mae awdurdodau lleol yn cynnal gwiriadau eiddo a diogelu bob dydd.
Dirprwy Lywydd, rydym yn gweithio'n agos ac yn dibynnu ar arbenigedd a phrofiad y trydydd sector o ran cefnogi pobl sy'n ceisio noddfa. Mae'n debygol y bydd angen cymorth amrywiol ar bobl sy'n cyrraedd o Wcráin, gan gynnwys cyngor ac eiriolaeth, wrth iddyn nhw ymgynefino â bywyd yng Nghymru. Mae ein canolfan gyswllt, yr ymwelais â hi'n ddiweddar, wedi gwneud tua 21,000 o alwadau bellach ac wedi ateb dros 2,000 o alwadau, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor hanfodol i bobl Wcráin a noddwyr yng Nghymru. Byddwn hefyd yn ymestyn ein gwasanaeth noddfa i Gymru, dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru, i sicrhau bod gan bobl Wcráin fynediad i'r gwasanaeth hanfodol hwn. O fewn y gwasanaeth byddwn yn sicrhau bod cyfleoedd cymorth gan gymheiriaid yn cael eu darparu, cyngor cyfreithiol ar fewnfudo, gwasanaethau cyngor gwaith achos ac eiriolaeth.
Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi agor eu cartrefi. Rydym wedi diweddaru ein canllawiau i noddwyr yn rheolaidd, ac rydym yn gweithio gyda Housing Justice Cymru i sicrhau bod sesiynau gwybodaeth, hyfforddiant a chymorth cymheiriaid i fynd i'r afael â thrawma ar gael yn ehangach.
Yn fy nghyfarfodydd rheolaidd â Gweinidog y DU dros Ffoaduriaid, rwy'n parhau i ddadlau dros gyllid cyfartal i gefnogi pobl sy'n cyrraedd o dan gynllun teulu Wcráin. Nid yw Llywodraeth y DU wedi cytuno i hyn eto. Yma hefyd, rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y trydydd sector i sicrhau bod cymorth cynhwysfawr ar gael i'r holl deuluoedd hynny sydd wedi dod at ei gilydd unwaith eto drwy gynllun teulu Wcráin, ac y mae angen cymorth arnyn nhw. Rydym wrthi'n cwblhau'r manylion.
Byddwn hefyd yn sicrhau bod taliadau 'diolch' yn cael eu gwneud i letywyr eilaidd, pan fydd trefniant llety drwy gynllun teulu Wcráin yn chwalu. Rwy'n annog Lywodraeth y DU i gefnogi'r gwaith hwn yn iawn.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, rydym yn cynnal cyfres o weithdai i ymgysylltu â sefydliadau'r trydydd sector am yr heriau y bydd pobl Wcráin yn eu hwynebu ledled Cymru. Rydym yn gweithio mor gyflym ag y gallwn i sicrhau y gall bobl elwa ar yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, o gyfieithu i hyfforddiant iaith, cymorth gyda gwaith achos neu wasanaethau iechyd, ond bydd rhywfaint o hyn yn parhau i gymryd amser i feithrin gallu. Mae hon yn ymdrech wirioneddol gan Gymru gyfan y gallwn fod yn falch ohoni.
Yn eich datganiad ysgrifenedig lle rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin ddydd Mercher diwethaf, fe wnaethoch chi gyfeirio at ffigurau diweddaraf Llywodraeth y DU bryd hynny, a oedd yn nodi bod 4,909 o fisâu wedi eu rhoi i bobl o Wcráin a oedd â noddwr yng Nghymru ar 30 Mai, a oedd yn gynnydd o 1,609 mewn tair wythnos, a chafodd 2,453 o'r rhain eu noddi gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn gynnydd o 1,453 mewn tair wythnos yn unig. Fe wnaethoch chi ddweud bryd hynny fod 1,961 o bobl â noddwyr wedi cyrraedd Cymru bellach, yn ogystal â'r rhai sy'n cyrraedd o dan gynllun teulu Wcráin. Os byddaf yn ailadrodd y cwestiwn yr wyf i bob amser yn ei ofyn i chi yn y datganiadau hyn: beth felly yw eich dealltwriaeth o faint sydd wedi cyrraedd Cymru i gyd hyd yn hyn, o dan y ddau gynllun, neu onid yw'r data hynny ar gael o hyd? A pha drafodaethau penodol pellach ydych chi wedi eu cael gyda Gweinidog Ffoaduriaid y DU am y rhesymau dros y bwlch sy'n lleihau, ond sy'n dal yn bodoli, rhwng nifer y fisâu a gyhoeddwyd a chyfanswm y bobl sy'n cyrraedd, a'r hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn ymhellach?
Fel y gwyddoch chi, rwyf i wedi siarad yn y Siambr hon droeon am waith Haven of Light gyda Link International ar ymateb gogledd Cymru i'r sefyllfa yn Wcráin. Tynnais eich sylw at hyn gyntaf yn y Siambr ar 15 Mawrth, pan ddywedais,
'Maen nhw'n cael eu sefydlu gan dîm o weithwyr proffesiynol lleol a phartneriaeth sefydliadau'r trydydd sector ac eglwysi ar draws y gogledd, gan weithio o ganolfan ganolog yn Llandudno, i baratoi ar gyfer dyfodiad gwladolion o Wcráin ac eraill y mae'r rhyfel yn effeithio arnyn nhw a fydd yn dod i'r gogledd yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.'
Gofynnais i chi:
'Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r mentrau hanfodol hyn ac yn hwyluso ymgysylltiad awdurdodau lleol â nhw?'
Felly, roeddwn i'n falch o gael e-bost yn gynharach y mis hwn gan Ali Ussery, Haven of Light, yn dweud ei bod hi a'r Parchedig Tim Hall, o'r elusen Link International, yn eistedd ar y grŵp rhanddeiliaid allanol gyda chi. Ac ychwanegodd Ali,
'Fel y gwyddoch chi, rwyf i bob amser yn rhoi pwyslais ar weithio ar lawr gwlad, yn cyfarfod â'r bobl ac yn gadael iddyn nhw arwain.'
Fe wnaeth hi fy ngwahodd i farbeciw gyda phwyslais ar deuluoedd o Wcráin sy'n byw yn sir Conwy bellach, a byddaf yn mynd iddo. A wnewch chi felly roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am waith y grŵp rhanddeiliaid allanol, yn enwedig gyda phobl ar lawr gwlad ledled Cymru? Dywedodd Ali wrthyf fod 100 o Wcrainiaid wedi dod a threulio'r diwrnod gyda'i gilydd, yn cyfarfod yn anffurfiol, yn rhannu profiadau, yn wylo, yn chwerthin ac yn chwarae yn eu digwyddiad diwethaf, gan ychwanegu ei bod yn wych gweld cynifer o blant yn cael hwyl a siarad ag eraill yn eu hiaith eu hunain.
Wrth ymateb i'ch datganiad yn rhoi'r manylion diweddaraf am sefyllfa Wcráin chwe wythnos yn ôl, gofynnais sut yr oeddech yn gweithio gyda'ch cyd-Weinidogion i sicrhau bod lleoedd mewn ysgolion a meddygfeydd teulu lleol a gwasanaethau'r GIG lleol ar gael i ffoaduriaid o Wcráin pan fyddan nhw'n cyrraedd Cymru. Fe wnaethoch chi ymateb gan ddweud,
'Mae'n hanfodol o ran addysg y gall plant gael eu derbyn i ysgolion, ac, yn wir, hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, i'r gwasanaeth iechyd, i'w meddygon teulu, i'r gwiriadau iechyd sydd ar y gweill. Caiff hyn ei fonitro'n ddyddiol.'
Wrth ymateb i chi bedair wythnos yn ôl, cyfeiriais at yr etholwr a oedd wedi cysylltu â mi i ddweud bod teulu o ffoaduriaid o Wcráin yn cyrraedd y bore canlynol o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, a oedd wedi cael gwybod gan uned derbyniadau ysgol yr awdurdod lleol na allai plentyn oedran ysgol gynradd y teulu ddechrau addysg nes iddi gael asesiad meddygol gan y meddyg teulu, a gan feddyg teulu cofrestredig y teulu â nhw ei fod yn gwrthod cynnal yr asesiad meddygol, nad oedd yn gwybod dim am y gofyniad hwn ac nad oedd ganddyn nhw le. Fe wnes i ddiolch i chi am eich ymateb prydlon, lle wnaethoch chi ddweud bod swyddogion yn holi'r swyddog derbyniadau yn yr awdurdod lleol i gadarnhau, ar yr amod bod y plentyn yn iach, nad oes angen iddo aros am asesiad iechyd i fynychu'r ysgol ac, o ran y sefyllfa a gafodd ei mynegi i'r teulu gan y feddygfa, roeddech chi wedi gofyn i swyddogion iechyd ymchwilio i hynny gyda'r bwrdd iechyd fel mater o frys. Felly, fe wnes i gloi drwy ofyn sut rydych chi'n gweithio gyda'ch cyd-Aelodau, felly, i sicrhau yr ymdrinnir â'r mater hwn o ran capasiti ac, yn olaf, sut y byddwch chi'n sicrhau bod awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd ledled Cymru yn deall beth rydych chi'n ei ddisgwyl ganddyn nhw. I ba raddau, felly, y mae eich oedi dros dro gyda chynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar brinder llety, ac i ba raddau oherwydd cyfyngiadau o ran prinder y gwasanaethau sydd ar gael, gan gynnwys lleoliadau ysgol a darpariaeth iechyd? A oes modd mynd i'r afael â hyn yn realistig ac, os felly, erbyn pryd a sut?
A fy nghwestiwn olaf, o ystyried eich cyfeiriad at lety: ym mrecwast gweddi seneddol Dewi Sant i Gymru ar 3 Mawrth, eisteddais wrth ymyl rhywun sy'n gweithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i ddatblygu llety dros dro o safon ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin sy'n cyrraedd y DU. O dan yr amgylchiadau yr ydych yn eu disgrifio, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael neu a allech eu cael gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ynghylch Cymru'n manteisio ar y ffynhonnell bosib honno o dai o safon, er mai dros dro?
Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Diolch yn fawr am eich holl gwestiynau defnyddiol iawn. Yn amlwg, bob tro y byddwn yn cyfarfod, mae ffigurau newydd—ffigurau newydd i roi diweddariad yn eu cylch ers yr wythnos diwethaf, pan gyhoeddais fy natganiad ysgrifenedig. Ond, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, ar 14 Mehefin, o ran ceisiadau a gyflwynwyd i Gymru, 4,017; ceisiadau a gadarnhawyd, 3,293; fisâu a gyhoeddwyd, 2,699; amcangyfrif o unigolion sydd wedi cyrraedd, 1,717. Nawr, maen nhw ar gyfer yr unigolion a noddir—y rhai sy'n cael eu paru â noddwr, y llwybr unigol fel rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcráin.
Felly, os trown at ein llwybr uwch-noddwyr, sef y llwybr yr ydym yn ei ohirio am yr wythnosau hyn yn unig, roedd gennym ni 6,016 o geisiadau wedi'u cyflwyno mewn gwirionedd. Roedd hynny'n trosi i 4,808 o geisiadau wedi'u cadarnhau, ac mae 3,435 o fisâu wedi'u cyhoeddi o dan ein cynllun uwch-noddwyr. Rwyf eisoes wedi dweud bod y canolfannau croeso yn llawn. Yr amcangyfrif o'r niferoedd sy'n cyrraedd, fel yr oedd pethau ar 14 Mehefin, o dan ein cynllun uwch-noddwyr yw 759. Mewn gwirionedd, pan ymwelodd y Cwnsler Cyffredinol a minnau â'r ganolfan groeso yr wythnos diwethaf, roedd bron yn llawn bryd hynny, ac fe wnaethon nhw ddweud eu bod yn disgwyl i bobl gyrraedd dros y penwythnos, ac y byddai'n llawn wedyn. Ond erbyn diwedd y penwythnos, roedd ein holl ganolfannau croeso yn llawn. Mewn gwirionedd, cyrhaeddodd dros 100 o bobl dros y penwythnos, a chadarnhawyd bod 100 yn rhagor yn teithio rhwng dydd Llun a dydd Gwener yr wythnos hon.
Felly, nawr mae gennym ni dros 6,000 o geisiadau yn y system, a thua 4,700 o geisiadau wedi'u cadarnhau, ac amcangyfrif, fel y gwnaethom ei ddweud o'r cychwyn cyntaf, y byddem yn gallu darparu llety i hyd at 1,000 o bobl. Felly, dyma le y mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod nid yn unig yn gallu cefnogi'r rhai hynny sydd yn y system, oherwydd roedd pawb a oedd yn y system hyd at ddydd Gwener, roeddem yn mynd i drosglwyddo eu ceisiadau ar gyfer y llwybr uwch-noddwyr i ganolfannau croeso. Bydd pawb arall, wrth gwrs, yn parhau. Bydd y rhai hynny sy'n dod o dan y noddwr unigol, cynllun noddi Cartrefi i Wcráin, yn cyrraedd hefyd, felly bu—.
Mae'n dda, ar un ystyr, eich cwestiwn am fylchau rhwng y fisâu sydd wedi eu cymeradwyo a'r niferoedd sydd wedi cyrraedd. Mae'r bwlch hwnnw wedi lleihau. Rwyf wedi sôn bob tro yr wyf wedi cyfarfod â'r Arglwydd Harrington, ac yn wir fy nghyd-Aelod o'r Alban, Neil Gray, y Gweinidog, am y materion hyn, ond mae hynny wedi mynd yn llai o broblem oherwydd bod y bwlch hwnnw wedi lleihau. Felly, dyna'r wybodaeth ddiweddaraf yn unig, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ffigurau wrth i bethau newid.
Hoffwn i ddweud rhywbeth am Haven of Light, a'r ffaith i chi fy nghyflwyno iddyn nhw yn gynnar iawn yn ôl ym mis Chwefror. Mae eu profiad, eu harbenigedd, eu gofal a'u hymrwymiad yn aruthrol. Rwyf wedi cwrdd â nhw droeon. Maen nhw wedi ymrwymo'n llwyr. Maen nhw'n pryderu'n benodol am ddiogelu. Mae ganddyn nhw lawer o brofiad ynglŷn â chamfanteisio rhywiol, masnachu pobl. Maen nhw'n awyddus i sicrhau bod pobl yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod y Parchedig Tim Hall a'i gydweithwyr yn eistedd ar y grŵp allanol yr wyf i'n ei gadeirio.
Ond rwyf wedi rhoi cryn dipyn o wybodaeth i chi yn fy natganiad—wna i ddim ailadrodd popeth a ddywedais, ond gallwch chi weld—am y gwaith yr ydym yn ei wneud gyda'r trydydd sector i sicrhau y gallwn gael cymorth arbenigol, a rhoddir rhywfaint o gyllid i rai sefydliadau fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Mae'r Groes Goch yn chwarae rhan hynod bwysig. Roedden nhw yno yn y ganolfan groeso y gwnaethom ymweld â hi yr wythnos diwethaf. Maen nhw i gyd yn chwarae rhan allweddol, ond y digwyddiadau gwych sy'n cael eu cynnal ledled Cymru, y gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i deuluoedd ac aelwydydd.
Rwyf am sôn yn gyflym am addysg, ydym, rydym ni wedi bod yn glir iawn bod gan bob plentyn sy'n byw yng Nghymru yr hawl i fynd i'r ysgol, ac mae gennym y canllawiau hynny ynghylch ceisiadau am dderbyniadau i ysgolion ar wefan Ysgolion Noddfa. Mae'r awdurdodau lleol i gyd wedi gwneud eu rhan i helpu gyda'r anhawster mewn llawer o achosion lle na fu capasiti. Mae hynny wedi bod yn broblem, ond mae awdurdodau lleol yn edrych ar ffyrdd y gallan nhw fynd i'r afael â'r capasiti hwnnw o ran maint dosbarthiadau. Mae wedi bod yn her mewn rhai ardaloedd, ond rwy'n falch iawn bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a minnau, ddydd Iau diwethaf, wedi cyfarfod â'r holl arweinwyr newydd. Fe wnaethom ni gyfarfod ar yr achlysur hwnnw'n benodol ag aelodau'r cabinet tai, oherwydd af ymlaen at eich pwynt nesaf.
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau y gall pobl symud ymlaen o'n canolfannau croeso. Bydd rhai yn mynd i deuluoedd sy'n cynnig llety, a bydd eraill yn mynd i lety mwy parhaol am yr amser y byddan nhw'n ei dreulio yng Nghymru. Rydym yn edrych ar bob cyfle arall y tu hwnt i'r pum canolfan sydd gennym ni, ac mae gennym ni un arall yn agor cyn bo hir. Felly, diolch i chi eto am grybwyll hynny. Fe wnes i roi adborth am gyswllt y Weinyddiaeth Amddiffyn a gawsoch o frecwast gweddi Dewi Sant, a byddaf yn mynd ar drywydd hynny hefyd.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'n bryder, wrth gwrs, bod y cynllun uwchnoddwr wedi gorfod cael ei atal dros dro, gan ein bod ni'n gwybod mai dyma'r cynllun ble y gallwn ni warantu orau bod anghenion ffoaduriaid yn cael eu cwrdd, a bod eu diogelwch a lles yn cael eu diogelu. Rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi hefyd, wrth gwrs, yr angen i sicrhau bod y gefnogaeth briodol honno mewn lle, a bod oedi'r cynllun i ddatrys unrhyw rwystrau i ddarparu hynny, felly, yn beth cyfrifol i'w wneud. Ond o'r hyn rŷn ni wedi'i glywed gan awdurdodau lleol sydd â chanolfannau croeso yn eu hardaloedd, mae yna broblem wirioneddol, mae'n ymddangos, wedi codi gan fod yna ddiffyg llety ar gael ar gyfer y rhai sy'n barod i symud ymlaen o'r canolfannau croeso. Mae hyn, efallai, yn rhannol yn sgil y pwysau ar stoc tai awdurdodau lleol. Rŷn ni'n gwybod bod nifer y bobl ddigartref mewn llety dros dro yn cynyddu, a bod diffyg llety parhaol iddyn nhw yn rhwystr i leihau y nifer o bobl sydd mewn llety dros dro.
Felly, all y Gweinidog gadarnhau bod diffyg llety parhaol yn rhannol gyfrifol am yr oedi yn y cynllun uwchnoddwr, a beth yn union yw'r datrysiadau sy'n cael eu cynnig? Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod yr awdurdodau lleol, rheini sydd â chanolfannau croeso, a'r rhai sydd heb, yn cydweithio i ddatrys hyn? Y nod, wrth gwrs, yw ailgychwyn y cynllun uwchnoddwr, felly beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud nawr er mwyn sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei ddarparu yn y dyfodol o dan y cynllun yn ddigonol ac yn ymarferol bosib? Ydy'r Gweinidog yn ffyddiog na fydd angen oedi'r cynllun eto? Rŷch chi wedi sôn bod capasiti yn fater o bryder yn y canolfannau croeso, ac o gofio yr anhawster yma i ganfod llety parhaol i deuluoedd, beth fydd yn digwydd os bydd rhai sydd wedi derbyn fisa dan y cynllun uwchnoddwr yn cyrraedd tra bod y cynllun wedi'i oedi? Lle fyddan nhw'n mynd?
Mae nifer o adroddiadau yn y wasg dros yr wythnosau diwethaf sy'n sôn am ffoaduriaid yn wynebu anawsterau mawr, ac yn wir, rhai bellach wedi cael eu gwneud yn ddigartref wrth i drefniadau chwalu, naill ai yn sgil methiant yn y berthynas gyda'r rhai sy'n cynnig cartref, neu yn sgil materion yn ymwneud â llety amhriodol yn cael ei gynnig, a'r awdurdodau lleol wedyn, wrth gwrs, sy'n gorfod camu i'r adwy i gefnogi'r bobl yma. Ydy achosion fel hyn yn cael eu monitro gan y Llywodraeth? Os felly, beth yw’r darlun o ran hyn yma yng Nghymru? A beth hefyd yw'r cynlluniau ar gyfer canfod llety parhaol ar gyfer y ffoaduriaid sydd wedi cael eu noddi gan deuluoedd ar ôl i'w cyfnod o chwe mis o lety ddod i ben, a’r rhai sydd wedi cynnig eu cartrefi yn methu neu ddim am ymestyn y cyfnod hwnnw? O gofio hefyd nad yw cyllid yn cael ei ddarparu, fel y gwnaethoch chi sôn, gan Lywodraeth San Steffan i gefnogi cynllun uwchnoddi Llywodraeth Cymru, a all y Gweinidog sôn wrthym ni beth yw effaith hyn ar y cynllun, nawr bod nifer o wythnosau wedi mynd rhagddynt?
Rwyf wedi codi o'r blaen y pryderon am ddiffyg darpariaeth cymorth iechyd meddwl a gwasanaethau trawma arbenigol i’r rhai sydd wedi ffoi o Wcráin. Mae elusennau'n rhybuddio bod anghenion yn dwysáu, o gofio sut mae'r rhyfel wedi datblygu. Felly, pa ddarpariaeth ychwanegol ac arbenigol sydd yn ei le ar gyfer y rhai sy’n cael noddfa yma yng Nghymru dan yr amrywiol gynlluniau noddi? O gofio bod y niferoedd o bobl yn cynyddu, fel rŷch chi wedi nodi, ydy'r Llywodraeth wedi adolygu digonolrwydd y gwasanaethau sydd ar gael, ac ymateb i unrhyw fylchau neu faterion yn ymwneud â chapasiti, er mwyn sicrhau bod y ffoaduriaid sy'n cyrraedd Cymru, ac angen cefnogaeth o'r fath, yn cael eu cefnogi? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch i chi am gydnabod yr her enfawr, ond hefyd y cyfrifoldebau sydd gennym ni i wneud hyn yn iawn o ran y ffordd yr ydym yn darparu ein cefnogaeth. Fel y dywedais yn fy natganiad ar y cynllun uwch-noddwyr, fe wnaethom ei ddatblygu fel y llwybr mwyaf diogel i'n ffoaduriaid o Wcráin, ond, fel y byddwch yn gwerthfawrogi, hyd yn oed o'r ffigurau diweddaraf, mae gennym ni bellach, mewn gwirionedd, 3,435 o fisâu wedi'u cyhoeddi o dan y cynllun uwch-noddwyr yna, ac rydym ni eisiau sicrhau y gallwn ni ddarparu ar gyfer hynny. Ni fyddan nhw i gyd yn dod beth bynnag o reidrwydd o ran cyrraedd yma, fel yr amlinellwyd yn y cwestiwn cynharach, gan fod rhai ohonyn nhw wedi ticio mwy nag un blwch o ran pa lwybr y byddan nhw'n ei ddilyn. Ond, yn amlwg, mae gennym ni ymrwymiad i ddiwallu'r angen hwnnw. Mae unrhyw un a oedd yn y system mewn gwirionedd erbyn dydd Gwener, pan ohiriwyd y cynllun, maen nhw i gyd yn symud ymlaen, y ceisiadau hynny. Ond nid oeddech yn gallu rhoi tic yn y blwch hwnnw o ddydd Gwener ymlaen o ran y llwybr uwch-noddwyr. Felly, byddai hynny'n berthnasol i ymgeiswyr newydd, ond mae'n ddigon posibl eu bod wedi ticio'r blwch arall o ran gallu dod drwy'r cynllun noddi unigol. Ond byddwn yn ailagor hynny cyn gynted â phosib—rwyf wedi dweud y mis hwn. Byddwn yn ailagor hynny, a dof yn ôl i'r Senedd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hyn.
Hoffwn i edrych yn benodol ar y materion i awdurdodau lleol yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw, oherwydd bod hyn wedi bod yn her wirioneddol iddyn nhw o ran tai a sut y gallwn eu cefnogi. O ran digartrefedd, mae'r defnydd o lety dros dro ar hyn o bryd yn eithaf sylweddol, ac felly roedd cyfarfod ag arweinwyr yr awdurdodau lleol ddydd Iau yn bwysig iawn. Dyna pam y gwnaethom ni gyfarfod hefyd ag aelodau'r cabinet—aelodau cabinet newydd, arweinwyr newydd, yn ogystal â'r rhai presennol sy'n dychwelyd i'w swyddogaethau. Fe wnaethom ni gytuno ar ymateb ar gyfer Cymru gyfan. Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol wneud ei ran. Mae hynny'n cynnwys y rhai nad oes ganddyn nhw ganolfannau croeso, fel yr ydych chi'n ei ddweud, Sioned. Mae gennym ni fframwaith ar gyfer llety, sy'n nodi disgwyliadau ar gyfer pob awdurdod lleol, ac mae'n darparu gwybodaeth am y fformiwla ar gyfer y cyfrifoldeb hwnnw. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn monitro ble mae pobl wedi eu hailgartrefu, a hefyd yn sicrhau bod amrywiaeth o lety ar gael—llety unigol, y sector rhentu preifat, mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn cymryd rhan bellach, a thai cymdeithasol.
Rwyf wedi sôn am bwysau ar awdurdodau lleol, ac mae hyn yn rhan o fod yn genedl noddfa. Mae gennym ni eisoes rai teuluoedd o Afghanistan nad ydyn nhw wedi symud i lety hirdymor eto. Mae gennym ni dros 7,300 o bobl yng Nghymru mewn llety dros dro. Mae angen i ni fod yn hyblyg ac yn greadigol ynghylch sut y gallwn ni helpu awdurdodau lleol. Ddydd Iau, roeddem yn gallu dweud wrth awdurdodau lleol fod gennym ni raglen gyfalaf newydd ar gyfer llety trosiannol. Gall awdurdodau lleol wneud cais i'r rhaglen honno i gynyddu faint o lety sydd ganddyn nhw i gefnogi'r pwysau presennol ar dai, ochr yn ochr â'r ymateb i'r sefyllfa yn Wcráin. Ac, yn amlwg, mae gennym ni waith yn mynd rhagddo o ran atal digartrefedd—dyma'r dull 'cynnwys pawb'—yn ogystal â'r rhaglen ailsefydlu. Rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi ein bod yn ceisio cefnogi hyn y gorau y gallwn ni o ran yr anghenion sydd gennym ni.
Mae lleoliadau yn chwalu. O ran y cynllun teuluol, nad oes gennym y data yn ei gylch, ac nad oes gennym ni gyllid ar ei gyfer, nid ydym yn gwybod o hyd faint sydd gennym ni yng Nghymru oni bai eu bod yn rhoi gwybod i ni am hynny, ond maen nhw mewn gwirionedd yn cysylltu ag awdurdodau lleol pan fydd lleoliad yn chwalu, ac maen nhw'n cael eu hymgorffori yn y fframwaith hwn ar gyfer canllawiau llety, ac yna'n sicrhau bod trefniant ail-baru. Wrth gwrs, mae gennym ni linell gymorth Llywodraeth Cymru. Fel y dywedais, ymwelais â hi. Mae ar agor bob dydd, ddydd a nos. Maen nhw'n gweithio'n galed iawn i ddiwallu rhai o'r anghenion hyn sy'n dod i'r amlwg o ganlyniad i'r pwysau ar awdurdodau lleol a'u trefniadau.
Yn olaf, byddwn i'n dweud, o ran y sefyllfa gyllid, fod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at hyn. Rydym yn genedl noddfa, ac rydym yn bryderus iawn nad yw Llywodraeth y DU yn rhoi'r arian sydd ei angen ar Lywodraeth Cymru i weithredu ein canolfannau croeso. Ond rydym yn gweithio gyda nhw i geisio sefydlu memorandwm cyd-ddealltwriaeth i gael cyllid tuag at y cymorth sydd ei angen ar deuluoedd o Wcráin drwy'r rhaglen uwch-noddwyr, a gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni barhau i bwyso ar hyn, wrth i mi gyfarfod yn rheolaidd. Rwy'n gobeithio bod hyn wedi rhoi rhyw syniad i chi o beth yw'r dasg i awdurdodau lleol, cymunedau, noddwyr—yr holl noddwyr newydd sy'n dod ymlaen—a'r trydydd sector. Rydym yn edrych ar gyfleoedd newydd ar gyfer mwy o ganolfannau croeso, ond hyd yn oed gyda mwy o ganolfannau croeso, mae angen trefniant symud ymlaen.
Mae cymorth iechyd meddwl yn hollbwysig. Rwyf am ddweud, yn y ganolfan groeso yr ymwelais â hi, fod yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd wedi cyfarfod â ni, a bod ganddyn nhw dîm o bedair nyrs a oedd yno'n darparu cymorth, gan gynnwys mynd i'r afael ag iechyd meddwl a thrawma, o ran cymorth cyntaf seicolegol. Roedden nhw'n ymgysylltu ac roedd ganddyn nhw gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd, felly roedd ymrwymiad clir yn y ganolfan groeso honno. Ond mae hyn hefyd ar gyfer yr holl deuluoedd sy'n noddwyr; mae angen iddyn nhw hefyd gael mynediad at wasanaethau seicolegol hefyd. Mae hwn yn alw newydd enfawr i'n holl wasanaethau, yn enwedig mewn cysylltiad ag iechyd meddwl a chymorth.
Diolch, Gweinidog, am y diweddariad pwysig yna. Mae profiadau'r rhai hynny sy'n goroesi ac yn ymladd yn y rhanbarthau sy'n dioddef waethaf yn Wcráin yn wirioneddol frawychus ac yn drawmatig. Hoffwn i sôn am iechyd meddwl, oherwydd, gyda chymaint o'u perthnasau bellach yn byw yma yng Nghymru, mae'n anochel, yn anffodus, fod realiti creulon rhyfel yn mynd i effeithio ar y rhai hynny sydd bellach yn ddiogel yn ein gwlad. Rwyf wedi cael gohebiaeth gan un etholwr sy'n lletya ffoadur o Wcráin. Fis diwethaf, cafodd ei mab ei anafu'n ofnadwy oherwydd ffrwydrad tir, ac os bydd yn goroesi, bydd wedi ei greithio am oes. Mae hi'n gofidio am hyn; mae hi mor ofidus ei bod hi mor bell i ffwrdd ac yn methu â helpu'r un sydd mor annwyl iddi. Mae'r teulu sy'n rhoi llety iddi yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w chysuro a'i helpu ac maen nhw hyd yn oed wedi trefnu i arian gael ei anfon i helpu i dalu am ei lawdriniaeth. Po hiraf y bydd y rhyfel yn parhau, y mwyaf o ffoaduriaid fydd yn cael eu heffeithio, gan fod eu ffrindiau a'u teulu sy'n aros yn Wcráin yn cael eu dal yn erchyllterau'r digwyddiadau. Felly, pa gymorth emosiynol ac iechyd meddwl ydym ni'n gallu ei roi i'r Wcrainiaid a'r teuluoedd sy'n eu lletya—fe wnaethoch chi sôn yn benodol am y ganolfan groeso—fel ein bod ni'n sicrhau, pan fydd y newyddion gwaethaf hynny'n cyrraedd, fod cymorth ar gael ar bob ffurf pan fydd ei angen ar bobl fwyaf?
Diolch yn fawr iawn, Jayne Bryant. Rwy'n credu y byddwn ni i gyd yn teimlo i'r byw yr adroddiad am y profiad hwnnw gan deulu o noddwyr a pha mor anobeithiol y mae'n rhaid eu bod yn teimlo, a'r pellter, y golled, yr ofn a'r unigedd o beidio â gallu bod yno i'w teulu. Dyma hanfod y rhyfel; nid yw yn y penawdau drwy'r amser, ond mae hyn yn digwydd nawr, wrth i ni siarad yma heddiw. Pan wnaethom ymweld â'r ganolfan groeso yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni sylweddoli'r trawma yr oedd pobl wedi'i ddioddef. Allwch chi ddim diystyru hynny a dweud y gellir ateb y sefyllfa gyda thai neu addysg. Hynny yw, yn amlwg, mae'r holl bethau hyn yn helpu i ddarparu system gymorth, ac rydym ni eisiau darparu hynny i bawb. Rydych chi'n gwybod bod pob teulu, wrth iddyn nhw ddod, yn cael eu hannog i gofrestru gyda meddyg teulu—a all gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl. Mae hyn mewn gwirionedd, hefyd, yn ymwneud â phwysigrwydd darparu cymorth emosiynol ac iechyd meddwl, fel yr wyf wedi ei ddweud, gan fod hyn wedi cael sylw cydradd, fel yr ydym wedi ei weld o brofiadau pobl sy'n dod o dan y cynllun uwch-noddwyr a'r rhai sy'n cyrraedd drwy'r llwybr noddi teuluoedd.
Yn enwedig ar gyfer canolfannau croeso, rwyf wedi crybwyll ein bod yn edrych ar hyn o ran ein dull gweithredu. Rydym yn cael cefnogaeth gan bobl fel Straen Trawmatig Cymru, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu deunyddiau. Mae yna ddogfen ganllaw sy'n canolbwyntio ar gymorth i bobl sydd wedi'u dadleoli yng Nghymru mewn llety preifat. Maen nhw i gyd wedi eu cyfieithu i Wcraineg a Rwsieg. Ond mae gennym ni hefyd linell gymorth iechyd meddwl CALL, sy'n gallu defnyddio LanguageLine. Fel y dywedais i, mae canllawiau i fyrddau iechyd beth bynnag ar iechyd a lles ceiswyr lloches a ffoaduriaid, ond mae Mind Cymru a'r holl gynlluniau cymorth lleol hynny hefyd.
Byddaf yn dangos yr Aelodau; dyma'r pecyn sy'n cael ei roi i bawb yn ein canolfannau croeso, ac roeddwn yn gofyn i fy nghyd-Aelod a ddaeth gyda mi, Mick Antoniw, beth oedd y cyfieithiad: 'Laskavo prosymo, pryvit', sef 'croeso'. Ac mae hwn yn becyn llawn gwybodaeth, wedi ei gyfieithu i Wcraineg a Rwsieg, oherwydd dyna sydd ei angen arnyn nhw pan fyddan nhw'n dod i'n canolfannau croeso ac i'r teuluoedd, fel y teulu lletya gwych sy'n cefnogi'r ffoadur o Wcráin.
Gweinidog, diolch yn fawr i chi am y diweddariad pwysig hwn. Yng nghanllawiau Cartrefi i Wcráin—rwy'n credu mai dyna'r hyn yr oeddech chi'n cyfeirio ato—ychydig sydd wedi'i grybwyll am yr amddiffyniad hirdymor sy'n cael ei gynnig, er gwaethaf parodrwydd Llywodraeth Cymru i fod yn uwch-noddwr. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod problem caethwasiaeth fodern yma yng Nghymru. Gall rhwydweithiau troseddol fanteisio ar bobl sy'n agored i niwed a'u gorfodi i gaethwasiaeth fodern. Yn 2021 cafwyd 479 o atgyfeiriadau o Gymru ar gyfer dioddefwyr caethwasiaeth fodern—roedd dros hanner yn blant ac roedd tua hanner yn dod o wledydd fel Swdan. Gan y bydd yr amgylchiadau ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin sy'n cyrraedd Cymru yn debyg i'r rhai o Swdan, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau diogelwch ffoaduriaid o Wcráin o dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, ar ôl iddyn nhw gael eu lleoli? A pha wybodaeth ydych chi'n ei darparu i ffoaduriaid i sicrhau eu bod yn gwybod beth yw eu hawliau a sut y byddan nhw'n cael diogelu? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain. Wel, rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau penodol ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern. Mae ar y wefan, ond mae hefyd yn cael ei ddarparu mewn pecynnau fel y rhai rydw i newydd eu dangos i chi. A hefyd, canllawiau i'n cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Rydym ni wedi cyfeirio at gynlluniau fisa Wcráin, ac mae gennym ni gyngor, hefyd, o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a diogelwch ar-lein. Mae'r canolfannau croeso hefyd yn hanfodol o ran eu cyfleoedd i ddarparu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth. Mae canolfannau croeso yn arddangos posteri awdurdod gangfeistr ac cham-drin llafur hefyd, i rybuddio pobl o Wcráin am risg o gyflogwyr diegwyddor a masnachwyr pobl a rhoi cyngor ar sut y gall pobl o Wcráin aros yn ddiogel. Ac rydym ni wedi sefydlu pryderon am risgiau caethwasiaeth fodern gyda Llywodraeth y DU. Rydym ni wedi cydlynu cyfarfodydd gyda sefydliadau partner yng Nghymru, fel Safe Haven yn y gogledd, hefyd. Felly, mae hyn yn allweddol iawn i'r gefnogaeth rydym ni'n ei rhoi i'n ffoaduriaid o Wcráin.
Diolch i'r Gweinidog.