2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 15 Mehefin 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a phrynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Siambr hon nad oedd angen ymchwiliad annibynnol i wasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru, er gwaethaf ymchwiliadau tebyg yng ngwledydd eraill y DU ac er gwaethaf galwadau gan lawer o'r arbenigwyr yn y sector. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y cyfoeth o gyngor ac adroddiadau a gafodd eich Llywodraeth, megis yr 'Adolygiad Argyfwng Gofal' yn 2018 ac adroddiad 'Born into care: newborns and infants in care cases in Wales' 2019 gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield. Dywedodd y Prif Weinidog nad oedd angen rhagor o gyngor arnoch. A wnewch chi egluro felly pam fod dau arbenigwr yn y maes yn 2022 yn dweud bod gofal cymdeithasol plant yng Nghymru mewn argyfwng ac yn galw am adolygiad annibynnol?
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Nid wyf yn credu bod angen ymchwiliad arall arnom yng Nghymru ar hyn o bryd. Credaf y gallwn ddysgu o'r ymchwiliadau sydd wedi digwydd ac yn sicr, rydym yn astudio'r ymchwiliad yn Lloegr. A chredaf fod llawer o bwyntiau yn yr ymchwiliad yn Lloegr sy'n debyg iawn i'r math o bethau y bwriadwn eu gwneud yma. Teimlwn mai'r hyn sydd ei angen arnom yw gweithredu, nid ymchwiliad arall. Credaf ein bod yn gwybod bod angen diwygio gofal cymdeithasol. Rydym yn argyhoeddedig fod angen ei ddiwygio ac rydym yn cynllunio i'w ddiwygio ac mae gennym restr gyfan o ddiwygiadau y byddwn yn eu cyflawni. Felly, teimlwn o ddifrif fod arnom angen gweithredu ac ni welwn unrhyw ddiben cael ymchwiliad arall ar hyn o bryd. Ond fel y dywedais, byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar argymhellion yr ymchwiliad sydd newydd ei gyhoeddi yn Lloegr a byddwn yn sicr yn dysgu o'r argymhellion hynny, ond mae gennym gynllun ar gyfer diwygio yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef.
Wel, mae eich ateb yn fy siomi, Ddirprwy Weinidog, a bydd rhaid inni gytuno i anghytuno ynghylch yr angen am yr adolygiad. Ac mae gennym ddyletswydd, rhwymedigaeth, i ddiogelu ein plant rhag niwed, i'w diogelu rhag profiadau niweidiol. Mae llawer gormod o blant yn dal i gael eu trin ar gyfer dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau. Nid yw nifer y bobl sy'n cael eu trin ar gyfer syndrom alcohol ffetws yn cael ei gadw'n ganolog, felly nid oes gennym ddarlun cyflawn. Ddirprwy Weinidog, rydych wedi gwrthod ein galwadau i fabwysiadu targed 70/30 Ymddiriedolaeth WAVE am nad yw'n mynd yn ddigon pell, ond beth a wnewch i ddileu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yma yng Nghymru?
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Rydym wedi gwrthod argymhellion WAVE am nad ydym yn credu y gallwch ddweud mai dim ond 70 y cant o blant y byddwch yn eu helpu a bod 30 y cant nad ydych yn eu helpu—rydym am helpu 100 y cant o blant. Felly, rwy'n siŵr bod y bwriadau sy'n sail i argymhellion WAVE yn rhai da iawn, ond ni allwch ddweud eich bod yn gwrthod 30 y cant o'r plant—na allwch helpu. Ac felly dyna sy'n sail i'n rhesymau dros beidio â derbyn Ymddiriedolaeth WAVE.
Ac oes, mae gennym ddyletswydd i ddiogelu ein plant a dyna pam ein bod yn rhoi'r symiau mwyaf erioed o arian tuag at ofal cymdeithasol, i'r gwasanaethau cymdeithasol, er mwyn cynorthwyo teuluoedd i fagu eu plant a'u cefnogi mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, oherwydd mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i gynorthwyo teuluoedd ac i gynorthwyo plant i aros mewn teuluoedd oherwydd credaf y byddem i gyd yn cytuno mai gyda'u teuluoedd yw'r lle gorau i blant, ac mae llawer gormod o blant yn derbyn gofal gan y wladwriaeth yng Nghymru ac rydym am weld y niferoedd hynny'n gostwng. Ac felly rydym yn rhoi mwy o gymorth tuag at ddiogelu plant mewn teuluoedd.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Credaf mai uchelgais yw'r hyn sydd ei angen arnom. Wrth gwrs, rydym am ddiogelu 100 y cant o blant yng Nghymru, ond byddai cyrraedd 70 y cant a mabwysiadu polisi sy'n cael ei dderbyn gan wledydd eraill y DU yn gam i'r cyfeiriad iawn, ac rwy'n argymell yn gryf y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried hyn. Mae llawer o'ch cymheiriaid, yma ac yn San Steffan, yn cefnogi camau i sicrhau gostyngiad o 70 y cant yn y lefelau o blant sy'n wynebu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod erbyn 2030, sef, gyda llaw, yr isafswm pendant y mae'r ymddiriedolaeth yn galw amdano, yn hytrach na'r uchafswm. Yn wir, mae mwyafrif eich cymheiriaid yn y Blaid Lafur yn cefnogi'r targed. Safodd pob Aelod Llafur o Senedd yr Alban ar faniffesto a'u hymrwymai i 70/30. Pam y gwahaniaeth rhwng gwahanol rannau eich plaid? Rydych yn rhanedig ar ddatganoli, rydych yn rhanedig ar y cyfryngau, rydych yn rhanedig ar y cyfansoddiad, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—mae'r rhestr yn parhau, Ddirprwy Weinidog, ac ni allwn eistedd yn segur a derbyn hyn. A wnewch chi felly gytuno i gyfarfod gyda mi, Ymddiriedolaeth WAVE ac un o'u llysgenhadon yng Nghymru, sydd eu hunain wedi goroesi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac a all rannu eu profiad?
Diolch yn fawr iawn. Ni allaf ond siarad am yr hyn yw ein polisi yma, a'n polisi yma yw peidio â mabwysiadu cynigion Ymddiriedolaeth WAVE. Rwyf wedi cyfarfod ag Ymddiriedolaeth WAVE, cefais gyfarfod hir gydag Ymddiriedolaeth WAVE, rwyf wedi trafod gyda hwy'n fanwl pam nad ydym yn cefnogi eu cynigion. Credaf eu bod yn deall pam, oherwydd ein bod yn uchelgeisiol, ac nid ydym yn credu y gallwn anghofio am 30 y cant o'n plant. Ac ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o'r swm mawr o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi tuag at brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, er mwyn ceisio atal profiadau o'r fath. Dyna fu un o gonglfeini sylfaenol allweddol ein polisïau. Ac rydym hefyd wedi bod yn rhoi llawer mwy o arian tuag at adnoddau cymunedol ar lawr gwlad, lle y gellir atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod drwy gefnogaeth cymuned. Felly, mae ein gwaith ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi symud, ac mewn gwirionedd, rydym yn un o'r gwledydd blaenllaw mewn perthynas â gwaith ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Felly, rwy'n meddwl bod parhau i fod eisiau cefnogi Ymddiriedolaeth WAVE—yr hyn yr ydym yn dymuno ei wneud yw gwella pethau yma i blant yng Nghymru. Rwy'n hapus i wrando ar Ymddiriedolaeth WAVE, rwyf wedi cyfarfod â hwy, rwy'n gwybod beth y maent yn ei ddweud, ac rydym yn parhau i geisio gwneud ein gorau dros blant Cymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Cwestiwn yn gyntaf roeddwn i wedi bwriadu ei ofyn cyn sylweddoli ein bod ni fel pwyllgor iechyd yn cyhoeddi heddiw ein hadroddiad ar lif cleifion drwy'r system iechyd a gofal. Mae'r argymhellion, dwi'n meddwl, yn rhai pwerus, maen nhw'n rhai pwysig, yn ymwneud â'r angen i gryfhau'r system gofal cymdeithasol, i ddenu a chefnogi staff. Mae'n sector, wrth gwrs, sydd wedi cael ei anwybyddu yn llawer, llawer rhy hir. Ond gaf i awgrymu bod yna eliffant arall yn yr ystafell pan fo'n dod at sicrhau bod cleifion yn gallu cael eu rhyddhau'n amserol o'n hysbytai acíwt ni? Mae yna ryw 10,500 o wlâu ysbyty yng Nghymru; 30 mlynedd yn ôl, mi oedd yna dros 15,000. Dŷn ni wedi colli un o bob tri gwely. Ac mi oedd llawer o'r gwlâu, wrth gwrs, sydd wedi cael eu colli yn welyau cymunedol, gwlâu step-down, lle'r oedd pobl yn gallu mynd i greu rhagor o le a chreu rhagor o gapasiti yn yr ysbytai acíwt . Ydy'r Gweinidog yn cytuno bod colli'r capasiti yna, o dan oruchwyliaeth un Gweinidog Llafur ar ôl y llall, wrth gwrs, wedi helpu i greu'r argyfwng presennol, a beth ydy ei chynlluniau hi i adfer y capasiti cymunedol yna?
Diolch yn fawr, a diolch hefyd i'r pwyllgor am yr argymhellion. Mi fyddaf i'n cymryd amser i fynd drwy'r rheini, ond dwi'n siŵr y bydd yna lot o syniadau. Dyw e ddim yn rhywbeth rŷn ni wedi bod yn ei anwybyddu, mae'n rhywbeth rŷn ni wedi bod yn talu lot o sylw iddo. Ond fel y mae'r pwyllgor nawr yn deall, mae'n system sy'n gymhleth tu hwnt, lle mae'n rhaid ichi anelu at wneud gwelliant ar bob lefel o'r system, yn cynnwys y system gofal rŷn ni wedi bod yn ei thrafod y bore yma.
Ar y cwestiwn o welyau yng Nghymru, wrth gwrs, beth y mae'n rhaid inni ei gofio yw, yn ddelfrydol, beth rŷn ni eisiau ei weld yw cleifion yn mynd mewn, cael eu trin, ac wedyn mynd adref. Rŷn ni eisiau gweld mwy o ofal gartref i gleifion. Ac yn sicr, dyna ble mae fy ffocws i—i geisio cael pobl allan cyn gynted â phosibl. A beth mae hynny'n ei olygu yw, mewn gwirionedd, rŷch chi eisiau llai o welyau, achos rŷch chi eisiau iddyn nhw fod allan, gartref. A beth mae'n rhaid inni ei wneud yw cryfhau'r gofal, fel rŷch chi'n ei ddweud, yn y cymunedau, a dyna beth dwi eisiau ei weld. Mae'n ddiddorol bod y Nuffield Trust, er enghraifft, yr wythnos diwethaf, wedi dweud yn eu hadroddiad nhw bod
270 o welyau i bob 100,000 yng Nghymru o'i gymharu â 170 o welyau i bob 100,000 yn Lloegr. Felly, os cymharwch ein ffigurau, o ran gwelyau yma yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr, rydym yn gwneud yn llawer gwell nag y maent hwy'n ei wneud.
A gall gwleidyddion yn Lloegr feirniadu Llywodraeth Lloegr am yr hyn y maent hwy'n ei wneud ynglŷn â cholli gwelyau cymunedol. Y broblem yw eich bod yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar y sector gofal, oherwydd colli'r cyfleuster cam-i-lawr hwnnw. Credaf y bydd datrys mater llif cleifion yn cyfrannu'n helaeth at y gwaith o fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn y gwasanaeth iechyd—yr amseroedd aros. Ond mae angen inni hefyd adeiladu capasiti newydd yno a chael syniadau newydd.
Nawr, pan gyhoeddodd y Gweinidog gynlluniau i dorri rhestrau aros ac amseroedd aros yn ddiweddar, dywedwyd wrthym y gallai rhai arbenigeddau gael eu hepgor. Yn anhygoel, awgrymwyd y gallai hyn gynnwys orthopedeg hyd yn oed, lle mae amseroedd aros mor hir, ond mae gennym gynllun ar gyfer orthopedeg. Fe'i gelwir yn strategaeth glinigol genedlaethol ar gyfer llawdriniaeth orthopedig. Cefais gyflwyniad heddiw gan y ddau feddyg ymgynghorol a'r rheolwr a'i lluniodd, ac mae'n wych, yn union y math o waith manwl a arweinir gan arbenigwyr ac wedi ei yrru gan ddata sydd ei angen arnom. Maent yn argymell tri hyb annibynnol wedi'u hadeiladu o'r newydd ar gyfer llawdriniaethau orthopedig dewisol, maent am gael adolygiad cenedlaethol o'r gweithlu amlddisgyblaethol, ac maent am weld rhwydwaith orthopedig i Gymru yn cael ei sefydlu gyda'r pwerau dirprwyedig sydd eu hangen i fwrw ymlaen â hyn. A wnaiff y Gweinidog ein sicrhau y bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i gyflawni hynny?
Wel, yn bendant, rydych wedi camddeall os credwch ein bod rywsut wedi hepgor orthopedeg o'n strategaeth gofal wedi'i gynllunio. Dyna lle mae gennyf fwyaf o bryderon, oherwydd mae'r rhestrau aros yn faith iawn mewn gwirionedd, a dyna pam ein bod yn rhoi llawer o sylw iddo ac yn canolbwyntio arno. Ac rwyf wedi dweud yn gwbl glir, fel y gŵyr yr Aelod, fy mod yn awyddus iawn i weld hybiau rhanbarthol yn cael eu datblygu, ac rydym yn gweld yr union beth yr ydych yn ei awgrymu yn cael ei ddatblygu, yn Hywel Dda er enghraifft.
Gallai hyn gymryd lle hynny.
Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod yn gwrando ar glinigwyr. Ni yw'r bobl sydd wedi gofyn i'r bobl hyn feddwl am syniadau. Y cyfyngiad arnom yw cyfalaf, felly dyna'r broblem sydd gennym. A allwn ni sefydlu'r sefydliadau hyn mewn gwirionedd? Rwy'n credu y bydd angen inni addasu'r hyn sydd gennym, yn hytrach nag adeiladu cyfleusterau newydd, ond ni chewch unrhyw wrthwynebiad yma rhag gwneud hynny. Ac wrth gwrs, y mater arall yw nad yw'n ymwneud â llawfeddygon yn unig, mae'n ymwneud â'r holl dimau o'u cwmpas mewn gwirionedd, a dyna'n sicr yw'r neges a glywais yn uchel ac yn glir iawn gan Gymdeithas Lawfeddygol Cymru ddydd Gwener.