Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:43, 21 Mehefin 2022

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r wlad heddiw'n llawn tagfeydd traffig oherwydd streiciau'r rheilffyrdd, y streiciau mwyaf ers y 1980au. A ydych chi'n cefnogi'r streiciau, Prif Weinidog? 

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Llywydd, nid oes streiciau yng Nghymru. Nid oes unrhyw anghydfod rhwng Trafnidiaeth Cymru a'r undeb llafur. Lle yr wyf i yn gyfrifol am y pethau hyn, nid yw gweithwyr ar streic, oherwydd y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar sail partneriaeth gymdeithasol i ddod â phobl o amgylch y bwrdd at ei gilydd i sicrhau bod sgyrsiau'n digwydd a bod atebion yn cael eu cyflawni. Pa mor wahanol iawn i Lywodraeth gwbl absennol y DU, sy'n rhoi'r gorau i'w cyfrifoldebau sy'n golygu nad yw miloedd o bobl yn gallu teithio oherwydd bod y llywodraeth honno'n esgeuluso'i dyletswydd, rhywbeth sydd mor amlwg yn eu hagwedd tuag at gysylltiadau diwydiannol. 

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:44, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Does dim byd tebyg i herio'r bleidlais gyflogres i'r undebau, nac oes, pan fydd eich rhai chi eich hun yn curo eu desgiau. Ni chlywais i nhw'n curo eu desgiau pan oedden nhw i fod i gefnogi eu hetholwyr a oedd yn sownd ar drenau na allen nhw ddarparu gwasanaeth gan Trafnidiaeth Cymru. A phan ewch chi i orsaf Caerdydd Canolog heddiw, neu'r rhwydwaith rheilffyrdd yn y gogledd neu'r canolbarth, nid oes trenau'n rhedeg, Prif Weinidog. Rwy'n sylwi na ddywedoch chi eich bod yn cefnogi'r streiciau, sydd i'w groesawu, Prif Weinidog, ond yn sicr, mewn oes pan fo angen i'r system trafnidiaeth gyhoeddus ddod yn ôl yn fyw ar ôl COVID, mae angen i ni symud oddi wrth arferion gwaith y 1950au a symud i'r 2020au—arferion sy'n gweld pobl yn peidio â rhannu faniau i gyrraedd yr un safle i weithio, arferion sy'n dyfarnu na ddylid defnyddio dronau oherwydd iechyd a diogelwch, neu na ddylid defnyddio apiau ar ffonau i anfon negeseuon at weithwyr mewn lleoliadau bregus. Siawns na chytunwch chi â mi ar hynny, Prif Weinidog—bod angen diweddaru arferion gwaith yn ein rheilffyrdd, boed hynny yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, fel bod gennym rwydwaith rheilffyrdd diogel a dibynadwy.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:45, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, gadewch imi egluro i arweinydd yr wrthblaid pam nad yw trenau'n rhedeg yng Nghymru: y rheswm am hynny yw bod ei Lywodraeth wedi creu anghydfod gyda Network Rail, ac mae Network Rail wedi symud rhai o'r staff, a allai fod wedi bod ar gael i redeg trenau yng Nghymru, er mwyn cadw trenau i redeg yn Lloegr. Tybed a yw'n cefnogi'r mesur hwnnw, a oedd yn benderfyniad gan ei Lywodraeth ef, i wrthod y cyfle i bobl yng Nghymru deithio—lle nad oes anghydfod—drwy symud y gweithwyr hynny i ofalu am yr hyn sy'n amlwg iddyn nhw yn fwy o flaenoriaeth nag y bydd dinasyddion Cymru byth.

Yr undebau llafur—Llywydd, wrth gwrs, mae'r undebau llafur eisiau negodi ac eisiau negodi ynghylch arferion gweithio diogel ar gyfer y dyfodol, ond yr arferion gweithio diogel. Pan edrychwch chi ar yr hyn y mae Network Rail yn ei gynnig ar hyn o bryd, ni fyddwn i eisiau teithio ar drên gyda gyrrwr sydd newydd weithio am 16 awr yn olynol. Ni fyddwn i eisiau bod ar drên lle na allwn fod yn ffyddiog bod y trefniadau diogelwch a'r bocsys signalau yr hyn y mae angen iddyn nhw fod.

Llywydd, dim ond drwy negodi y caiff unrhyw anghydfod yn y pen draw ei ddatrys. Yr hyn yr wyf i eisiau ei weld yw Llywodraeth y DU yn defnyddio'r pŵer sydd ganddi, y pŵer cynnull sydd ganddi, cyhyrau'r trefniadau ariannu sydd ganddi, i gael pobl o gwmpas y bwrdd ac i sicrhau bod y trafodaethau hynny'n ailddechrau ac yn mynd tuag at gasgliad y cytunwyd arno. Absenoldeb Llywodraeth y DU sy'n gwrthod arfer y cyfrifoldebau hynny sy'n gyfrifol am y problemau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio teithio heddiw.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:46, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae'n amlwg nad ydych chi wedi bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae ysgrifennydd cyffredinol yr RMT wedi'i ddweud, pan ddywedodd ar goedd na fyddai'n negodi gyda Llywodraeth Geidwadol, sy'n ymddangos yn rhyfedd o ystyried bod ganddyn nhw fandad i lywodraethu—[Torri ar draws.] Rwy'n gwerthfawrogi bod y bleidlais gyflogres yn cynhyrfu tipyn, ac rwy'n siŵr y bydd y pleidiau Llafur etholaethol yn cael y rhoddion y maen nhw'n eu haeddu—[Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:47, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Iawn, iawn, iawn. Rydym yn amlwg—. Mae llawer ohonom yn ôl yn y Siambr—dim ond dau berson ar Zoom heddiw—ac rwy'n clywed effaith hynny o'm cwmpas. [Chwerthin.] Ond, mae angen i mi hefyd glywed arweinydd yr wrthblaid, felly os gallwn ni barhau â'r cwestiwn.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae nyrsys, mae myfyrwyr sy'n awyddus i sefyll eu harholiadau, mae busnesau na allant gael gweithwyr i'w gweithle, sy'n dioddef oherwydd y streic hon. Felly, efallai y byddwn yn anghytuno ar wahanol bwyntiau, Prif Weinidog, ond a ydych chi'n cytuno â mi ar y pwynt amlwg hwn: pan elwir streic—ac rwy'n parchu'r hawl i alw streic, oherwydd mae hynny'n rhan sylfaenol o ddemocratiaeth—y dylid gwarantu lefelau gofynnol o wasanaeth ar seilwaith trafnidiaeth allweddol? A ydych chi'n credu bod hynny'n rhan hanfodol o'r hyn sydd ei angen ar system drafnidiaeth fodern yn yr unfed ganrif ar hugain, yn hytrach nag arferion gwaith y 1950au, yr ydych yn ymddangos mor abl i'w hamddiffyn?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:48, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae'r streic hon wedi'i galw yn erbyn y lefelau eithriadol o gydsyniad sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth y blaid Dorïaidd. Er mwyn i undebau allu cynnal streic heddiw, bu'n rhaid iddyn nhw symud drwy gyfres o rwystrau y mae ei Lywodraeth wedi'u gosod. Nawr mae eisiau gosod rhwystrau pellach o flaen pobl. Nid yw hynny'n rhan o'r trefniadau y mae ei Lywodraeth wedi'u rhoi ar y llyfr statud. Gadewch iddo siarad â'i Lywodraeth. Eich rheolau chi yw'r rheolau y mae'r undebau llafur yn gweithredu oddi tanyn nhw. Nawr rydych chi eisiau newid y llyfr rheolau, wrth gwrs.

Ond, fe ddywedaf i hyn wrth arweinydd yr wrthblaid: rwyf wedi ceisio yn fy atebion y prynhawn yma i bwysleisio'r ffaith mai consensws yw'r unig ffordd y caiff anghydfodau eu datrys erioed. Byddai'n well iddo ychwanegu ei lais ar yr ochr honno i'r ddadl, yn hytrach nag adleisio'r iaith bryfoclyd y mae'r Llywodraeth hon yn San Steffan yn ei defnyddio'n fwriadol. Mae eisiau brwydr gyda'r undebau, mae'n pryfocio brwydr gyda'r undebau, ac nid yw hynny o fudd i neb o gwbl.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rhaid i mi ddweud, yn yr wythnos pan fo miloedd o hediadau wedi'u canslo ac mae'r rhwydwaith rheilffyrdd wedi dod i stop ac mae prisiau petrol wedi codi eto, mae dewis y Torïaid i godi trafnidiaeth yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ac yn eu cynnig yr wrthblaid yr wythnos hon yn ddewis dewr iawn. Maen nhw'n dweud nad yw'r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn addas i'r diben. Yr hyn nad ydyn nhw'n barod i'w ddweud yw ei fod yn methu oherwydd eu Llywodraeth nhw yn San Steffan, ac mae'r streic rheilffyrdd yn enghraifft berffaith o hynny: gall gwasanaethau redeg o Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful i Radur, lle maen nhw'n stopio, oherwydd dyna'r rhan o'r seilwaith rheilffyrdd yr ydym ni'n ei reoli ein hunain yma yng Nghymru, lle nad oes dadl, oherwydd ein bod ni yng Nghymru yn credu bod trin gweithwyr â chwrteisi yn rhan annatod o ddarparu gwasanaeth cyhoeddus teilwng. Onid yw honno'n ddadl arall eto—? A'r hyn yr ydych chi wedi'i rannu nawr, Prif Weinidog, sef bod Network Rail yn blaenoriaethu Lloegr dros Gymru unwaith eto, onid yw honno'n ddadl eto dros ddatganoli pwerau'n llawn dros reilffyrdd i Gymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:50, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, mae arweinydd Plaid Cymru yn llygad ei le wrth ddweud nad yw'r rhesymau sydd gennym—[Torri ar draws.] Rwy'n deall mai gwadu yw noddfa gyntaf Plaid Geidwadol Cymru, ac maen nhw'n brysur yn gwneud hynny y prynhawn yma. Y rheswm pam nad oes trenau i'r de o Radur yw oherwydd bod penderfyniadau'n cael eu gwneud gan gyrff nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Mae'r rhesymau pam nad oes trenau o gwbl yn y gogledd yr un rhesymau'n union. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU a Network Rail drin Cymru gyda'r parch yr ydym yn ei haeddu, a chydnabod nad oes gennym anghydfod yma yng Nghymru, ac eto, oherwydd eu gweithredoedd, nid yw trenau a allai fod yn rhedeg heddiw yn rhedeg.

Fe'n hatgoffwyd gan arweinydd Plaid Cymru o Grant Shapps. Dyna enw—gwelaf bod rhai Aelodau yma'n gyfarwydd ag ef. Ond mae'n ergyd driphlyg ryfeddol, onid yw hi, i ddod â'r rheilffyrdd i stop, i ddod â'r meysydd awyr i stop, ac, yn olaf, ar ôl tua wyth wythnos, rwy'n credu, ei fod wedi sylweddoli nad oedd y 5c a dynnwyd oddi ar bris petrol wedi'i drosglwyddo i bobl yn y rhan honno o'r sector trafnidiaeth ychwaith. Mae'n hanes hynod o fethiant, ac mae arnaf ofn mai pobl nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y Deyrnas Unedig sy'n talu cost y methiant hwnnw heddiw.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:52, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

O ran datganoli rheilffyrdd, rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gael safbwynt clir ar hynny yma yng Nghymru, ond hefyd gan Blaid Lafur y DU hefyd, sydd wedi bod yn amwys ar y gorau, ac, mewn gwirionedd, wedi cefnogi rheilffordd integredig yn y DU yn yr etholiad diwethaf.

Nawr, yn argyfwng rheilffyrdd San Steffan, mae'n ymddangos bod cystadleuaeth rhwng gwleidyddion i weld pwy all fod y mwyaf anweledig. Ai Grant Shapps sy'n gwrthod eistedd i lawr gyda'r undebau rheilffyrdd, ynteu Keir Starmer sy'n gwahardd ei Gabinet yr wrthblaid o'r llinellau piced a'u dwrdio rhag siarad o blaid? Roeddwn i ar linell biced RMT y bore yma—yn falch o fod yno'n mynegi fy undod â gweithwyr sy'n ymladd am swyddi a chyflogau ac amodau gweddus. Ar adeg pan fo undebau llafur a gweithwyr yn cael eu pardduo, yn cael eu troi'n fychod dihangol, yn cael eu difrïo i dynnu sylw oddi ar fethiannau niferus Boris Johnson, onid yw'n bwysicach fyth ein bod yn dangos ein cefnogaeth iddyn nhw? Felly, a wnewch chi gadarnhau nad yw gwaharddiad Mr Starmer yn berthnasol i'ch aelodau chi o'r Cabinet, ac a wnewch chi eich hun, Prif Weinidog, ymweld â llinell piced fel symbol o'ch undod a'ch cefnogaeth?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:53, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, nid oes unrhyw rwystr yn bodoli rhag i aelodau o fy ngrŵp ddangos eu cefnogaeth i'r mudiad undebau llafur. Mae Keir Starmer mewn sefyllfa wahanol iawn. Mae'n gwybod yn iawn, pe bai'n cymeradwyo hynny, na fyddai'r stori byth, byth, yn ymwneud â chefnogi'r mudiad undebau llafur; y Torïaid fyddai'n llwyddo yn eu dymuniad i bortreadu hyn fel enghraifft rywsut o'r wlad yn dychwelyd i ddyddiau yr ydym wedi eu gadael ymhell ar ôl. Felly, yn ein cyd-destun ni, lle mae gennym ddull partneriaeth gyda'n hundebau llafur, lle nad oes gennym anghydfod gyda'n hundebau llafur, wrth gwrs gall aelodau o'r Blaid Lafur yma yng Nghymru ddangos eu cefnogaeth i'n cydweithwyr yn yr undebau llafur, ond rydym yn gweithredu mewn cyd-destun gwahanol a down i gasgliadau gwahanol am resymau da iawn.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:54, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Yn wyneb yr argyfwng costau byw cynyddol a diffyg twf yn yr economi, chwyddiant ar y naill law a diffyg twf ar y llaw arall ar yr un pryd fel y cafwyd yn y 1970au yn dychwelyd, mae gennym Lywodraeth yn San Steffan sy'n credu mai'r ymateb priodol i'r argyfwng hwn yw torri cyflogau gweithwyr ymhellach fyth—dychwelyd at ddogma'r 1930au. Nid yw'n syndod bod athrawon a nyrsys yn ystyried streicio. Efallai ei fod yn un o arwyddion yr oes fod hyd yn oed bargyfreithwyr wedi pleidleisio dros streicio, a dylai hynny fod yn ddigon o rybudd hyd yn oed i'r Llywodraeth fyddar hon. Rwy'n credu mai streic gan urdd bargyfreithwyr Paris, os cofiaf yn iawn, a sbardunodd y chwyldro Ffrengig. Os yw Lloegr eisiau ei haf o anfodlonrwydd, a allwn ni wrthgyferbynnu hynny yma yng Nghymru, o fewn y meysydd hynny yr ydym yn eu rheoli, gyda haf o undod, a gwrando, er enghraifft, ar yr alwad gan yr undebau iechyd am gytundeb cyflog sydd, o leiaf, ar yr un raddfa â chwyddiant cynyddol?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:55, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, gadewch i mi gytuno â rhan gyntaf yr hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru, oherwydd yn yr anghydfod a welwn yn y diwydiant rheilffyrdd a'r pleidleisiau a welwn ar gyfer streicio mewn rhannau eraill o'r gwasanaethau cyhoeddus, rydym yn medi corwynt 10 mlynedd o gyni. Rwy'n meddwl am yr amser, dro ar ôl tro pan gefnogodd Aelodau meinciau'r Ceidwadwyr y polisi hwnnw a'i amddiffyn—y polisi hwnnw, sydd wedi cadw cyflogau i lawr, sydd wedi gwrthod rhoi codiadau cyflog i bobl, ac sy'n golygu, ym mhob stryd yma yng Nghymru, fod gennym deuluoedd sy'n waeth eu byd heddiw na phan ddaeth ei blaid i rym yn 2010. A phan ychwanegwch chwyddiant sy'n rhemp a Changhellor sydd wedi colli rheolaeth dros yr economi, yna nid oes amheuaeth o gwbl bod y camau hyn yn cael eu hysgogi gan y methiant economaidd cyfansawdd hwnnw.

Fodd bynnag, mae'r sefyllfa yng Nghymru o ran cyflogau yn y sector cyhoeddus yn rhan o'r broblem a grëwyd gan y Llywodraeth Geidwadol. Rydym yn cael swm penodol o arian bob blwyddyn. Os ydym eisiau talu mwy i rai gweithwyr nag yr ydym yn cael ein hariannu i'w talu, nid oes unman i ni fynd. Ni allwn godi arian ein hunain i ychwanegu at hynny. Ni allwn godi arian ein hunain—[Torri ar draws.]

Mae gen i ddiddordeb mawr yn wir. Llywydd, ni fydd pobl sy'n gwrando wedi clywed arweinydd yr wrthblaid yn dadlau o blaid codi trethi pobl yma yng Nghymru er mwyn talu am gyflogau pobl oherwydd dyna a wnaeth. Dywedodd wrthyf y dylem godi trethi er mwyn talu am godiadau cyflog. [Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:57, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Na na. Dim pwynt o drefn. Fe glywais innau chi yn ei ddweud e hefyd. [Torri ar draws.] Na na. Gadewch i ni barhau ac yn o fuan, fe ddown at Afon Wysg a bydd hynny'n tawelu pawb. Alla i ddim cofio, Wysg—.

Mae'r Prif Weinidog wedi gorffen neu—?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Llywydd, fel yr wyf wedi esbonio, er mwyn i ni godi cyflogau pobl, fel yr hoffem ei wneud, fel y maen nhw'n ei haeddu, byddai'n rhaid i ni gymryd yr arian hwnnw o ryw ran arall o gyllideb Llywodraeth Cymru, a bydd Aelodau yma'n gwybod pa mor dynn yw'r gyllideb honno. Mae'n werth £600 miliwn yn llai heddiw nag yr oedd ar y diwrnod y datganodd y Canghellor y gyllideb yn ôl ym mis Tachwedd. Yr ateb yw bod yn rhaid i Lywodraeth y DU ddod at y bwrdd hwnnw, rhaid iddi fod yn barod i ariannu'r setliadau hynny'n iawn, ac yna bydd pobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn gallu cael eu talu yn y ffordd y maen nhw'n ei haeddu ac y byddem ni yn dymuno.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:58, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Nawr, fe ddown at y cwestiwn ar Afon Wysg.