– Senedd Cymru am 3:05 pm ar 22 Mehefin 2022.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv). Y ddadl yma ar rymuso cymunedau. Dwi'n galw ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.
Cynnig NNDM8018 Mabon ap Gwynfor, Luke Fletcher, Buffy Williams
Cefnogwyd gan Adam Price, Carolyn Thomas, Heledd Fychan, Huw Irranca-Davies, Janet Finch-Saunders, Jenny Rathbone, Joel James, Llyr Gruffydd, Mark Isherwood, Paul Davies, Peredur Owen Griffiths, Rhys ab Owen, Sam Rowlands, Sarah Murphy, Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Cymru'n gartref i filoedd o grwpiau cymunedol lleol, gyda channoedd yn rhedeg asedau sylweddol sy'n gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt.
2. Yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae grwpiau cymunedol wedi'i wneud o ran cefnogi pobl leol drwy heriau'r pandemig.
3. Yn nodi bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai 'ddatblygu rhaglen o rymuso cymunedau ledled Cymru gyda’r sector gwirfoddol, gan weithredu fel gwladwriaeth alluogi ar gyfer gweithredu cymunedol'.
4. Yn nodi'r rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn aml yn ei chwarae o ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau, a gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i sicrhau menter gymunedol lwyddiannus.
5. Yn nodi adroddiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig, Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir, a ganfu mai cymunedau Cymru yw'r rhai lleiaf grymus ym Mhrydain ac sy'n galw am ad-drefnu sylweddol ym maes polisi cymunedol yng Nghymru.
6. Yn nodi ymhellach adroddiad diweddar Canolfan Cydweithredol Cymru, Tir ac asedau sy’n eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yng Nghymru.
7. Yn nodi nad oes gan Gymru, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, unrhyw ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau lleol o werth cymunedol.
8. Yn credu bod galluogi grwpiau cymunedol i gadw adeiladau a thir lleol fel cyfleusterau cymunedol a'u cefnogi i ddatblygu cymunedau gweithgar ac ymgysylltiedig yn allweddol i adeiladu Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrddach.
9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydweithio i greu strategaeth cymunedau i ddatblygu gwladwriaeth sy'n galluogi gweithredu cymunedol;
b) edrych i mewn i'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng Nghymru.
Diolch, Lywydd. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd eleni, canfu Sefydliad Bevan mai gan Gymru y mae rhai o'r darpariaethau gwannaf ar gyfer hawliau perchnogaeth a rheolaeth gymunedol yn y DU. Canfu adroddiad arall fod cymunedau'n wynebu proses sydd bellach yn anodd ac yn ddigalon, a'i bod yn debygol iawn fod y sefyllfa yng Nghymru wedi arwain at lawer o gymunedau'n colli asedau'n barhaol. Gall asedau fel caeau chwarae, adeiladau hanesyddol ac ardaloedd o harddwch naturiol trawiadol gael eu gadael i fynd yn adfail neu'n segur o ganlyniad i system wael a chymhleth. Fel gwlad sydd â hanes balch o hyrwyddo ein cymunedau, ni allwn ganiatáu i hyn barhau.
Golygodd y pandemig COVID-19 a'r cyfnodau o gyfyngiadau symud yn ei sgil ein bod i gyd wedi dod i wybod ychydig mwy am ein trefi, ein dinasoedd a'n pentrefi lleol. Roeddem yn fwy ymwybodol o'r llwybr bach braf hwnnw rownd y gornel, y cae newydd i lawr y ffordd i fynd â'r ci iddo, neu'r caeau chwarae nad oeddem wedi ymweld â hwy er pan oeddem yn blant. Er gwaethaf y nifer fawr o safleoedd gwych ledled y wlad, rhaid inni fod yn rhagweithiol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda a'u defnyddio'n dda yn eu cymunedau. Un o'r ffyrdd gorau o sicrhau bod y parc lleol neu beth bynnag y bo yn cael gofal yw ei roi yn nwylo'r gymuned. Wedi'r cyfan, pwy sydd mewn gwell sefyllfa i sicrhau bod ased cymunedol yn cael y gofal a'r sylw y mae ei angen ac yn ei haeddu na'r gymuned ei hun?
Yn dilyn y pandemig, dangosodd adroddiad diweddaraf 'Llesiant Cymru' gynnydd amlwg yn nifer y bobl sy'n teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau yn eu hardal leol. Ledled Cymru, gwelsom ymateb ar lefel gymunedol i COVID, a arweiniodd at nifer o enghreifftiau o well dealltwriaeth, penderfyniadau a chydweithredu rhwng cymunedau a chyrff cyhoeddus. Rydym yn byw mewn gwlad lle mae pobl yn falch o'u cymunedau ac eisiau bod yn rhan o'u dyfodol. Ond er ein bod yn wlad sy'n llawn o gymunedau balch, nid ydym eto wedi cyrraedd sefyllfa lle mae'r gefnogaeth ar gael i rymuso'r cymunedau hyn. Mae adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir' yn cynnig nifer o argymhellion a fyddai, pe baent yn cael eu deddfu, yn caniatáu i drigolion reoli eu hardal leol a sicrhau dyfodol cryf a grymus i'w cymuned, yn ogystal ag adroddiad Canolfan Cydweithredol Cymru, 'Tir ac asedau sy'n eiddo i'r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yng Nghymru'. Fodd bynnag, nid yw'r system sydd gennym ar hyn o bryd yn addas i'r diben. Mae'r system trosglwyddo asedau cymunedol yn un sy'n fwy addas ar gyfer torri costau awdurdodau lleol yn hytrach na grymuso cymunedau.
Nid oes angen inni edrych yn bell am enghreifftiau o rymuso cymunedau a gefnogir gan Lywodraethau. Mae Cronfa Tir yr Alban wedi caniatáu i nifer o gymunedau ledled yr Alban sicrhau rheolaeth ar asedau lleol a'u mowldio'n rhywbeth sy'n addas i bobl leol. Dyma sydd ei angen yng Nghymru. Dyna pam ein bod yn galw ar y Llywodraeth i gydgynhyrchu strategaeth gymunedol, i ddatblygu gwladwriaeth sy'n galluogi gweithredu cymunedol, ac i'r Llywodraeth archwilio'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng Nghymru. Ers gormod o amser, nid yw ein cymunedau wedi cael digon o bŵer, ac maent ar drugaredd buddiannau allanol. Yr hyn a gynigiwn—Mabon, Buffy a minnau—yw ein bod yn rhoi'r pŵer yn ôl yn nwylo'r bobl. Mae mor syml â hynny.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r cynnig heddiw, hefyd i Buffy Williams a Luke Fletcher am ei gyd-gyflwyno. Yn ogystal â hyn, wrth gwrs, roeddwn yn falch o allu cofnodi fy nghefnogaeth i'r cynnig heddiw, ac fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rwy'n siŵr, nid wyf byth yn colli cyfle i siarad am ein cymunedau lleol, yn enwedig eu grymuso, fel sydd mor bwysig, fel yr amlinellwyd eisoes ar y cychwyn gan Luke Fletcher. Ond wrth gyfrannu yn y ddadl heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar ddau faes allweddol sydd, yn fy marn i, yn hanfodol i rymuso ein cymunedau lleol cyn ceisio mynd i'r afael â'r ddau brif bwynt gweithredu yn y cynnig heddiw.
A'r pwynt cyntaf mewn gwirionedd yw pwysigrwydd a rôl ein cynghorwyr a'n cynghorau i wneud yr uchelgais hwn yn llwyddiant. Fel y dywedais dro ar ôl tro yn y Siambr, cynghorwyr sy'n adnabod eu cymunedau orau yn aml a hwy sy'n dadlau orau dros eu cymunedau, oherwydd cânt eu hethol yn ddemocrataidd i wneud hynny. Ac i gynghorwyr y dylid rhoi'r ysgogiadau a'r pŵer i gyflawni newid yn ôl yr angen yn y gymuned, er mwyn eu grymuso hwy a'r trigolion y maent yn eu cynrychioli.
Mae'n nodi ym mhwynt 4 y cynnig heddiw fod 'awdurdodau lleol yn aml yn chwarae rôl bwysig
'o ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau,' wrth weithio gyda grwpiau cymunedol. Nawr, gwnaeth Luke Fletcher bwynt da yn yr ystyr nad yw rhai o'r pwerau presennol efallai mor dryloyw nac mor hawdd ag y dylent fod i grwpiau cymunedol ymgysylltu â hwy.
Ond hefyd, fel yr amlinellir ym mhwynt 2, y grwpiau a'r cynghorwyr cymunedol hyn a aeth y tu hwnt i'r galw yn ystod y pandemig COVID-19, ac ni allwn golli'r brwdfrydedd hwnnw. Dylem ei harneisio mewn gwirionedd. Mae'n hanfodol fod ein hyrwyddwyr etholedig lleol yn ennyn ymddiriedaeth ac yn cael eu cefnogi'n llawn os ydym am fanteisio i'r eithaf ar y brwdfrydedd a welsom dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn ail, wrth sôn am rymuso cymunedau, rwyf am sôn am bwysigrwydd balchder mewn lle, bod yn falch o'r lle yr ydym yn gweithio ac yn byw ynddo. Fel y gwyddom, yn anffodus, mae angen dybryd am welliannau sylfaenol iawn yn llawer o'n cymunedau ac efallai nad ydynt yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu i bobl fod â balchder o'r fath yn y lle y maent yn byw ynddo. Unwaith eto, drwy'r pandemig, gwelsom ymdeimlad newydd o gymuned a balchder yn ein hardaloedd lleol, fel yr amlinellodd Luke Fletcher eisoes—roedd nifer o bobl yn defnyddio ein parciau lleol, yn gwerthfawrogi golygfeydd naturiol, sy'n aml wedi eu cymryd yn ganiataol ers amser hir, ond yn sydyn yn dod yn fyw wrth i bawb ohonom wneud ein hawr o ymarfer corff dyddiol ar hyd y llwybr troed lleol. Mae gweld y gwelliannau bach hynny yn y lle yr ydym yn byw ynddo yn gwneud cymaint o wahaniaeth, ac mae ymdeimlad gwirioneddol o berchnogaeth hefyd yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Gwelwn y gwelliannau mewn mannau eraill drwy weld y gwelliannau ffisegol yn yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. Rydym yn gweld cymunedau'n ffynnu, balchder newydd yn y lle yr ydym yn byw ynddo, ac yn aml hyrwyddwyr cymunedol, ein trigolion lleol, sydd wrth wraidd hyn i gyd.
Ond ar y camau gweithredu, fel petai, yn y cynnig heddiw, mae'r cynnig
'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
'a) cydweithio i greu strategaeth cymunedau i ddatblygu gwladwriaeth sy'n galluogi gweithredu cymunedol;
'b) edrych i mewn i'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng Nghymru.'
Fel y byddech yn ei ddisgwyl gennyf fi, mae hawl i brynu yn rhywbeth rwy'n sicr yn ei chefnogi mewn sawl ffordd wahanol. Dyna pam ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr heddiw yn hapus iawn i gefnogi'r cynnig heddiw, oherwydd, fel yr amlinellwyd gennym yn ein maniffesto diweddar fel Ceidwadwyr, credwn fod grymuso cymunedau lleol yn bwysig iawn, ac mae gallu eu cefnogi i ddiogelu eu gwasanaethau lleol yn bwysig hefyd. Rydym wedi archwilio ac wedi meddwl am syniadau ynglŷn â phethau fel cronfa perchnogaeth gymunedol, a allai fod yn rhywbeth y gallai Llywodraethau feddwl amdano yn y dyfodol hefyd. Byddai cronfa perchnogaeth gymunedol yn helpu cymunedau lleol i brynu cyfleusterau, megis tafarn, siop neu lyfrgell leol y mae angen eu hachub ac sydd efallai'n cau, ac yn grymuso'r cymunedau neu'r grwpiau hynny o ddifrif i sicrhau perchnogaeth ar y pethau sy'n bwysig iawn i'w pentref neu i'w tref.
Fel rwy'n siŵr y byddai Aelodau ar draws y Siambr yn cytuno, unwaith eto, y bobl leol hynny, ein trigolion a wasanaethir gennym ar lefel leol iawn, sy'n aml yn gwybod orau beth sydd ei angen ar gyfer eu hardal, ond nid oes ganddynt y pwerau a'r arfau cywir ar hyn o bryd i'w galluogi i wneud hynny'n gyflym—
Tybed a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr, Rhianon.
Diolch yn fawr iawn. Ni fyddai neb yn anghytuno ag unrhyw un o'r safbwyntiau hynny—
Diolch yn fawr iawn.
—a'r sylwadau hynny, ond fy nghwestiwn i, mewn gwirionedd, yw hwn: onid yw grymuso cymunedau'n ymwneud â chael cyllid o fewn y cymunedau hynny fel bod gennym lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden ac ysgolion gweithgar, ac a fyddech yn dweud bod yr agenda cyni, toriadau bwriadol i Gymru, wedi lleihau'r gallu hwnnw?
Rydych chi'n hollol gywir; fel y dywedais, mae cyllid yn elfen bwysig o hyn, ac mae gan awdurdodau lleol rôl i'w chwarae yn hynny. Er hynny, credaf mai'r hyn y soniwn amdano yma yw asedau mewn gwirionedd, perchnogaeth ar bethau, nid mynd drwy awdurdodau lleol yn unig, ond ar lefel fwy lleol fyth, gyda grwpiau cymunedol, unrhyw un sy'n gweld rhywbeth y maent yn credu ei fod yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w cymuned i gael gafael arno a gwneud gwaith da o redeg y cyfleuster hwnnw mewn gwirionedd.
Ond diolch am eich sylwadau agoriadol yno, Rhianon; rwyf bob amser yn gwerthfawrogi cael fy nghefnogi gennych draw acw. Ni allaf gofio lle roeddwn wedi'i gyrraedd yn yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud; fe wnaethoch fy nrysu.
Ond yn ogystal â'r pwyntiau a wnaed, mae grymuso cymunedau lleol hefyd yn edrych fel cynlluniau cymdogaeth lleol hefyd. Ar adegau, rwy'n credu y gall ein system gynllunio, gyda'r holl gyfyngiadau cyfreithiol sydd arni ac sy'n rhaid eu cael, fod yn amddifad o gysylltiad lleol iawn â phobl yn cael penderfynu ynglŷn â sut y mae pethau'n edrych ac yn teimlo yn eu hardal, sut y mae pethau'n edrych ac yn teimlo am yr hyn sydd wedi ei adeiladu o'u cwmpas hefyd.
Felly, wrth gloi heddiw, rwy'n credu ei fod yn gyfle gwych i ni fel Aelodau ar draws y Senedd, ar draws y Siambr wleidyddol, ddod at ein gilydd i gydnabod pwysigrwydd ein cymunedau lleol a chefnogi'r dyhead i'w grymuso, fel y dywedodd Rhianon mor huawdl. Yng ngoleuni hyn, hoffwn ddiolch eto i Mabon am gyflwyno'r cynnig heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed llawer mwy o gyfraniadau ac at allu cyfrannu ymhellach fy hun, gobeithio, wrth i'r ddadl fynd rhagddi. Diolch yn fawr iawn.
Credaf fod hon yn ddadl bwysig iawn i wneud i bobl deimlo bod ganddynt rywfaint o reolaeth dros eu cymunedau, pan ymddengys bod cymaint nad yw o dan reolaeth pobl. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn paratoi cymunedau'n well i ddiogelu eu hunain rhag buddiannau allanol heb unrhyw fudd mewn ardal, sydd ond am roi gwerth ariannol i bopeth y gallant gael eu dwylo arno.
Talodd Dom Phillips a Bruno Pereira gyda'u bywydau wrth geisio tynnu sylw at ddinistr enfawr yr Amazon, y goedwig law fwyaf yn y byd. Yn drasig, mae rheolaeth y gyfraith wedi'i thanseilio neu ei hanwybyddu, yn enwedig gan Lywodraeth bresennol Brasil. Nid yw buddiannau masnachol—rhai buddiannau masnachol—yn cydnabod unrhyw ffiniau wrth chwilio am elw, heb eu poeni gan yr effaith ar natur, Indiaid yr Amazon sydd wedi byw yno ers milenia, a'r effaith ddinistriol y mae hyn gyda'i gilydd yn debygol o'i chael ar ddyfodol ein planed. Mae'n enghraifft eithafol, ond nid yw'n ddigwyddiad ynysig, felly rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar bwynt 8 yn y cynnig, ynglŷn â galluogi cymunedau i gadw adeiladau a thir lleol fel cyfleusterau cymunedol.
Ymwelais yn ddiweddar â safle cronfeydd dŵr Llanisien a Llys-faen, sydd ar y ffin rhwng Caerdydd Canolog a Gogledd Caerdydd, a fydd ymhen ychydig flynyddoedd yn dychwelyd i fod yn ased cymunedol sy'n agored i'r cyhoedd. Byddai'r amwynder wedi'i golli'n llwyr oni bai am ymdrechion y gymuned, wedi'u harwain gan Grŵp Gweithredu'r Gronfa (RAG) ac ymgyrch 10 mlynedd i ymladd un o'r cwmnïau rhyngwladol Americanaidd mwyaf—Pennsylvania Power & Light—a oedd am ei droi'n dai oherwydd, yn amlwg, mae hynny'n llawer mwy proffidiol na bod yn geidwad hen gronfa ddŵr.
Cyn gynted ag y cafodd ei brynu gan Dŵr Cymru yn 2004, aeth Pennsylvania Power & Light ati i gychwyn y clwb hwylio a oedd ar y safle, gwrthod caniatâd i'r clwb pysgota a gosod rhwystrau enfawr i atal pobl rhag mynd ar y safle i fwynhau'r safle arbennig hwn o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn sgil presenoldeb amrywiaeth eang o ffyngau glaswelltir ac adar sy'n gaeafu sy'n glanio ar gronfa ddŵr Llys-faen.
Felly, roedd Pennsylvania Power & Light, drwy ei is-gwmni, Western Power Distribution, yn dadlau nad oedd angen yr amwynder hwn mwyach, a dim ond ymdrechion RAG a'i galluogodd i ddod yn adeilad rhestredig, a chymerodd dri ymchwiliad cyhoeddus i drechu Pennsylvania Power & Light. Rhoesant y gorau iddi yn y pen draw yn 2010—na, ychydig yn ddiweddarach rwy'n credu, yn 2013, ond nid nes eu bod eisoes wedi draenio cronfa ddŵr Llanisien yn llwyr, proses sy'n costio miliynau o bunnoedd i ail-lenwi ac atgyweirio, o ystyried y cyfyngiadau llym mewn perthynas â chronfeydd dŵr, am resymau da. Felly, mae'n eironig fod yr ased hwn bellach yn ôl yn nwylo Dŵr Cymru oherwydd ymdrechion yr annwyl Carl Sargeant, y gwelir ei golli'n fawr, a'u perswadiodd i ailfeddiannu'r safle yr oeddent wedi'i werthu yn y lle cyntaf.
Bydd yn safle gwych, ond oni bai am ymdrechion gwirioneddol ymgyrch gymunedol ar raddfa fawr iawn, ni fyddai'r safle gennym, a'r gymuned sydd wedi ei ddiogelu mewn gwirionedd. Felly, mae'n dangos pa mor benderfynol y mae angen i bobl fod a hefyd y ffaith bod y gyfundrefn gynllunio a'r rheoliadau asedau cymunedol sy'n bodoli mewn rhannau eraill o Brydain yn absennol yng Nghymru, ac mae angen unioni hynny.
Felly, o ran problemau presennol, mae yna dafarn o'r enw Roath Park yn fy etholaeth i, ar Heol y Ddinas. Dyma'r dafarn oes Fictoria olaf sydd ar ôl ar y ffordd honno, ac mae'n cael ei dymchwel oherwydd ei bod yn rhatach ei chwalu ac adeiladu fflatiau modern yn lle hynny. Rwy'n siŵr y byddant yn erchyll. Ac yn lle hynny, gallent addasu'r adeilad cain hwn i wneud anheddau i'w defnyddio yn y dyfodol. Felly, rhaid bod opsiwn arall yn lle hyn. Gwrthododd Cadw ei restru, a hyd yn oed pe bai wedi'i restru'n lleol gan Gyngor Caerdydd, ni fyddai hynny wedi'i ddiogelu.
Felly, mae angen inni edrych eto ar sut y gallwn ddiogelu pethau yn ein cymunedau y mae pobl yn eu hystyried yn werthfawr ac am eu cadw. Ac os yw pobl yno'n dweud, 'Fe wnawn rywbeth am hyn', ni ddylai pobl sydd ag arian i wneud hynny ac am wneud elw sydyn allu eu hatal rhag gwneud hynny. Ac os na wnawn hyn, nid oes unrhyw ffordd y byddwn yn gallu datblygu'r ddinas 15 munud sy'n cael ei datblygu ym Mharis a Nottingham a lleoedd eraill, sef yr unig ffordd ymlaen os ydym am gyflawni ein nodau cynaliadwyedd.
Fel y gwyddom ni oll, mae grwpiau cymunedol yn chwarae rôl bwysig a hanfodol yn ein cymunedau a hoffwn ddechrau drwy ddiolch, o waelod calon, i bob grŵp cymunedol sydd yn weithgar yn y rhanbarth rwyf yn ei gynrychioli. Ac er bod nifer o grwpiau cymunedol yn derbyn cefnogaeth gan awdurdodau lleol, mae nifer yn wynebu heriau hefyd. Yr hyn yr hoffwn i yn bersonol ei weld yn deillio o'r cynnig hwn yw ei gwneud hi'n haws i gymunedau berchnogi asedau lleol o werth cymunedol.
O fis Hydref 2021 i Ebrill eleni, fe dderbyniodd fy swyddfa 11 ymholiad gan grwpiau cymunedol yn ceisio cymorth yn benodol o ran y broses trosglwyddo asedau cymunedol. Mae un enghraifft o grŵp cymunedol sydd eisiau achub caeau chwarae lleol a'u hadfer ar gyfer deunydd cymunedol, tra bod y cyngor lleol, sydd berchen y tir, eisiau gwerthu'r tir ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol. Profiad y grŵp cymunedol hwn oedd bod swyddogion y cyngor, oedd i fod i gefnogi trosglwyddo asedau cymunedol, wedi cael eu cyfaddawdu oherwydd bod barn bendant gan y cyngor o ran dyfodol y llecyn hwnnw o dir. Ble, felly, oedd y gefnogaeth ar gyfer y grŵp penodol hwn?
Yn wir, mae tir yn cael ei werthu'n rheolaidd gan gynghorau lleol heb i gymunedau fod yn ymwybodol nac ychwaith gael cyfle i'w diogelu fel asedau cymunedol. Mae llawer o'r rhain yn ddarnau bychan o dir o fewn cymunedau presennol sy'n cael trafferth gyda materion lluosog megis parcio, mynediad i wefru cerbydau trydan, ac, wrth gwrs, efo'r argyfwng costau byw, ddim efo llecyn er mwyn tyfu bwyd yn lleol. Byddai hawl cymunedol i brynu yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau ystadau ymgysylltu â chymunedau lleol ynghylch cynlluniau i werthu parseli o dir, ac ymgysylltu â'r gymuned i sefydlu diddordeb a phenderfynu sut y gellid defnyddio asedau o'r fath i ddiwallu anghenion lleol.
Mae grŵp arall a gysylltodd â'm swyddfa newydd sicrhau'r brydles ar eu hased cymunedol, bum mlynedd ar ôl dechrau eu trafodaethau â'r awdurdod lleol. Gall y broses hirfaith hon roddi pwysau aruthrol ar wirfoddolwyr sy'n rhan o grwpiau cymunedol a rhoi cyllid y mae dirfawr ei angen arnynt mewn perygl, a hefyd bygwth dyfodol yr asedau y mae cymunedau'n gweithio'n galed i'w hachub, oherwydd rydym ni'n gwybod eu bod nhw'n mynd i ddirywio os nad ydy'r buddsoddiad yna'n dod tra maen nhw'n aros penderfyniad gan y cynghorau lleol.
Profiad cymunedau sydd wedi cysylltu â mi, felly, yw bod rhai awdurdodau lleol yn trin cymunedau fel pe baent yn endidau masnachol yn hytrach na fel rhan allweddol o'r gymuned y mae'r awdurdod wedi ymrwymo i’w gwasanaethu. Mae'n sicr bod yn rhaid inni roi rhyw fesur ar waith. Dydy'r system fel y mae hi ddim yn gweithio, a dwi'n ddiolchgar i Mabon ap Gwynfor am godi'r pwnc pwysig eithriadol hwn. Wedi'r cyfan, rydym ni i gyd yn elwa os ydym ni'n grymuso ein cymunedau. Rydym ni i gyd yn elwa os ydy adeiladau hanesyddol neu ddarnau o dir yn cael defnydd sydd er budd i ni oll. Felly dwi'n falch iawn o gefnogi, ond mae angen hefyd gweld gweithredu gan y Llywodraeth ar hyn. Diolch.
Mae'n wych gweld cymaint o gefnogaeth o bob rhan o'r Siambr. Mae'n siŵr bod cymuned yn bwysig lle bynnag yr ydych yn byw yn y byd. Efallai fy mod yn rhagfarnllyd, ond credaf fod y gymuned yn fwy arbennig byth i bobl sy'n byw yng Nghymru. Wrth ein natur, rydym yn bobl radlon, garedig ac anhunanol. Efallai mai dyna pam ein bod yn tueddu i chwilio am gysylltiadau cyffredin drwy deulu, ffrindiau neu leoliad geni, yn hytrach na phroffesiwn, pan fyddwn yn cyfarfod â rhywun am y tro cyntaf. Felly, mae'n anodd clywed gan felin drafod uchel ei pharch fel y Sefydliad Materion Cymreig mai cymunedau yng Nghymru yw'r rhai sydd wedi'u grymuso leiaf yn y DU. Mae'r pandemig yn dangos faint o ysbryd cymunedol sy'n para yn ein trefi a'n pentrefi, er nad oes ganddynt amodau i allu ffynnu, fel ein cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr.
Mae'n anghysondeb rhyfedd nad oes hawl gymunedol i brynu yng Nghymru. Cyflwynwyd deddfwriaeth gan y Torïaid yn Lloegr ddegawd yn ôl. Yn yr Alban, mae'r amddiffyniad i gymunedau hyd yn oed yn gryfach. Yma yng Nghymru, dim byd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch yn fawr iawn, Peredur. Rydych yn llygad eich lle yn nodi bod Llywodraeth y DU, 10 mlynedd yn ôl, wedi cyflwyno trosglwyddo asedau cymunedol, hawl gymunedol i brynu, ac mewn gwirionedd, roedd yn ddeddfwriaeth dda iawn yr oeddem am ei gweld yma yng Nghymru. Yn wir, fe'i codais fy hun droeon pan oeddwn yn Ysgrifennydd Cabinet yr wrthblaid, fel y'i gelwid bryd hynny, dros lywodraeth leol. Ac mae'n deg dweud bod fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, yn y 10 mlynedd hynny, wedi'i godi hefyd. Felly, rydym ni fel grŵp wedi codi hyn dro ar ôl tro. Oni fyddech yn cytuno ein bod wedi gwastraffu 10 mlynedd? Ac rydych wedi bod i mewn gyda'r Llywodraeth Lafur dros y cyfnod hwn. Oni chredwch ein bod wedi gwastraffu amser ac mae gwir angen inni ofyn cwestiwn cadarn i Lywodraeth Lafur Cymru er mwyn bwrw ymlaen ag ef?
Fel rydym yn ei ddweud yma heddiw, credaf ei bod yn bryd gwneud rhywbeth yn ei gylch, felly mae'n dda—[Torri ar draws.]
Beth bynnag. Heb y ddeddfwriaeth, bydd llawer o gymunedau yng Nghymru wedi colli asedau cymunedol dros y degawd diwethaf. Gallaf roi enghraifft ddiweddar o rywle sydd i'w weld yn mynd i golli'r unig dafarn mewn cymuned fach iawn. Mae'r bobl y tu ôl i'r ymgyrch i achub y dafarn wedi gofyn imi beidio â datgelu pwy ydynt am fod llygedyn bach o obaith y gallai pethau fynd eu ffordd hwy, ac nid ydynt am beryglu'r berthynas â pherchennog presennol y dafarn. Er bod ganddynt gefnogaeth ariannol, cynllun busnes cadarn a chefnogaeth gref gan y gymuned, mae'r ymdrechion i achub y dafarn wedi bod yn aflwyddiannus hyd yma, ac mae'n debyg y bydd y dafarn yn cael ei gwerthu ar y farchnad breifat. Pan ddywedwyd wrthynt am ymdrech Plaid Cymru i gael deddfwriaeth hawl gymunedol i brynu yng Nghymru, dywedodd fy nghyswllt yn yr ymgyrch, 'Cynllun hawl gymunedol i brynu? Byddai hynny wedi bod mor ddefnyddiol. Byddem yn berchen ar ein tafarn erbyn hyn a byddem yn eistedd y tu allan iddi yn mwynhau'r heulwen.' Felly, os gwelwch yn dda, yn ymateb y Llywodraeth i'r ddadl hon, gobeithio na chlywaf ddadl sy'n dweud nad oes angen deddfwriaeth, neu o leiaf, ceisiwch ddweud hynny wrth y bobl rwyf mewn cysylltiad â hwy sy'n brwydro i achub y dafarn a'r unig ganolfan gymunedol am filltiroedd.
Ceir enghreifftiau o adeiladau'n cael eu hachub, eu hadfer a'u dychwelyd i ddefnydd y gymuned. Cefais y pleser o gadeirio digwyddiad i randdeiliaid y Pwyllgor Cyllid yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd yr wythnos diwethaf. Mae'r adeilad aruthrol hwn, sef rhodd i'r bobl o gyfraniadau glowyr, yn adnodd anhygoel, ac yn lleoliad ar gyfer pobl yr ardal leol a thu hwnt. Ceir enghreifftiau eraill, ond mae rhai o'r asedau cymunedol hyn wedi'u hachub er budd y trigolion lleol yn groes i bob disgwyl. Gadewch inni wneud pethau'n haws i gymunedau gadw eu treftadaeth a chadw cyfleusterau. Dylent, o leiaf, gael eu trin yn yr un modd â'u cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr.
Cefais fy atgoffa o bwysigrwydd hyn yn ystod ymweliad yn fy rhanbarth ychydig fisoedd yn ôl. Roeddwn wedi mynd i ymweld ag etholwr a oedd yn arwain ymgyrch i adfer ased cymunedol sydd â photensial mawr ac a allai drawsnewid yr ardal. Dywedodd wrthyf am ei hymdrechion i ennyn diddordeb yn y prosiect drwy godi stondin yng nghanol y dref gerllaw. Fe wnaeth y difaterwch a ganfu yn y bobl y siaradodd â hwy ei diflasu'n fawr. Yn ei geiriau hi, 'Mae cymaint o bobl wedi rhoi'r ffidil yn y to.' Oni weithredwn yn fuan a grymuso ein cymunedau, rwy'n ofni y byddwn nid yn unig yn colli'r bobl hynny, ond y cenedlaethau sy'n dilyn yn ogystal. Ni allwn ganiatáu i hyn ddigwydd. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig hon? I ddilyn yr hyn a ddywedodd nifer o'r Aelodau sydd wedi siarad heddiw, hoffwn ddweud fy mod innau hefyd yn falch o'r cyfle i gydnabod y miloedd o grwpiau cymunedol ledled Cymru, a diolch iddynt am wneud cymaint o wahaniaeth i fywyd y cymunedau a gefnogant. Ac wrth gwrs, mae llawer o'r grwpiau cymunedol hyn yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, yn trechu tlodi, yn meithrin hyder, hunan-barch, ac yn gwella iechyd a llesiant. Mae llawer o'r grwpiau hyn eisoes hefyd yn rheoli cyfleusterau cymunedol, adeiladau a mannau gwyrdd, sy'n gweithredu fel ffocws ar gyfer gweithredu cymunedol, ac yn darparu mynediad lleol at wasanaethau hanfodol. Ac mae'n amlwg y gall asedau sy'n eiddo i'r gymuned ac sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned helpu i rymuso ein cymunedau, sef byrdwn eich dadl heddiw—grymuso cymunedau—a gwella eu gwytnwch hefyd. Oherwydd mae'n gwbl glir fod tystiolaeth yn dangos y gall cymunedau sydd ag adnoddau fel asedau cymunedol, partneriaethau cryf a hyrwyddwyr lleol fod yn wydn iawn mewn gwirionedd wrth ymateb i'r mathau o ergydion y mae cynifer o gymunedau wedi'u profi yn ystod y blynyddoedd diwethaf—nid yn unig y pandemig, ond llifogydd, ac yn awr, wrth gwrs, yr argyfwng costau byw, argyfwng costau byw nad ydym wedi'i weld ers degawdau. Ac mae cymunedau'n ymateb i hynny.
Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn rhy hwyr i siarad ar yr eitem hon. Hoffwn gadarnhau rhywbeth—ein bod yn sôn am gyfleusterau cymunedol, sy'n wirioneddol bwysig. Oherwydd mae gennyf broblem braidd gyda'r Ceidwadwyr yn credu y gallai gwirfoddolwyr redeg gwasanaethau cyhoeddus a bod trosglwyddo cyfleusterau cymunedol i grwpiau gwirfoddol, yn hytrach na chael eu rhedeg gan arian cyhoeddus, er mwyn torri costau gwasanaethau cyhoeddus, yn bolisi dymunol iawn. Ac yn fy mhrofiad i, mae prosiectau'n aml yn anghynaliadwy heb rywun i arwain arnynt a heb gymorth cyllid canolog. Felly, mae hyn yn ymwneud â chyfleusterau cymunedol, onid yw? Hoffwn gael y cadarnhad hwnnw. Diolch.
Mae hwn yn faes cymhleth o ran datblygu polisi cymunedol, a hoffwn symud ymlaen at hynny, a beth fydd hyn yn ei olygu o ran darparu’r gwasanaethau hynny ar lawr gwlad, a hefyd, gan gydnabod bod rhwystrau, fod hyn yn ymwneud â'r berthynas waith. Mae gennyf ddiddordeb mawr, er enghraifft, yn y rôl y mae Cyngor Sir y Fflint wedi'i chwarae wrth weithio'n rhagweithiol iawn gyda'u cynghorau tref a chymuned—efallai ichi fod yn rhan o hynny yn rhinwedd eich rôl flaenorol fel cynghorydd—ar drosglwyddo asedau. Oherwydd mae'r awdurdod lleol, sir y Fflint, y cyngor gwirfoddol sirol lleol, grwpiau sydd am i asedau gael eu trosglwyddo, wedi cydweithio. Dyna y byddem yn dymuno'i weld ledled Cymru gyfan, ac mae hynny'n gwella'r gobaith o lwyddo i drosglwyddo cyfleusterau, er enghraifft, gyda'r awdurdod lleol, gyda chefnogaeth y cyngor gwirfoddol sirol, a ariennir gennym i chwarae'r rôl hon wrth gwrs. Hefyd, mae gan sir y Fflint restr o'i holl asedau trosglwyddadwy ar eu gwefan. Mae'r wefan honno'n hygyrch, ac mae'n gwahodd cynigion gan grwpiau sy'n awyddus i reoli'r asedau hynny.
Hoffwn symud ymlaen at y ffaith bod gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol, fel y dywedais, wedi chwarae rhan hynod bwysig wrth ymateb i’r pandemig, yn enwedig, a’r ffaith bod rhai grwpiau gwirfoddol a chymunedol hefyd—mae gan bob un ohonom rai yn ein hetholaethau—yn chwarae rhan bwysig, er enghraifft, wrth sicrhau adferiad teg a gwyrdd. Maent yn gweithio ar bob lefel, yn aml o'u pen a'u pastwn eu hunain, ond gan ymgysylltu â’r awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, a thirfeddianwyr eraill hefyd, yn enwedig o ran y ffaith bod cymaint o grwpiau gweithredu dros natur a grwpiau amgylcheddol ledled Cymru.
Mewn perthynas â pheth o adferiad Cymru wedi'r pandemig, dylwn ddweud ein bod wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â chyngor partneriaeth y trydydd sector a gadeirir gennyf fi. Mae cynrychiolaeth draws-sector yno i bob math o grwpiau cymunedol a gwirfoddol y trydydd sector. Credaf fod y cynllun adfer yn bwysig, ac mae’n ein helpu wrth imi ymateb i’r ddadl hon, oherwydd o ganlyniad i’r cynllun adfer a’n hymateb yn awr i’r argyfwng costau byw, rydym yn cymryd y camau cyntaf i ddatblygu polisi cymunedau. Credaf fod Luke Fletcher wedi gofyn y cwestiwn hwnnw i mi yn ei sylwadau agoriadol, ynglŷn â sut yr awn ati i ddatblygu ffyrdd cydgynhyrchiol newydd o weithio gyda chymunedau. Mae ein polisi cymunedau'n rhoi cyfle i ni, a byddwn yn dweud bod y ddadl hon hefyd yn ganllaw clir i hynny.
Oherwydd yr hyn a ddywedasom, a siaradais am hyn yn y gynhadledd Gofod y bore yma, yw ein bod yn anelu at sicrhau bod cymunedau Cymru yn ffynnu, wedi'u grymuso ac yn gysylltiedig, fel y gallant ymateb i heriau newydd. Mae 'ffynnu' yn golygu bod gan ein cymunedau sylfeini cryf, cynaliadwy, y gallant adeiladu ar eu hasedau, fod ganddynt yr arfau sydd eu hangen arnynt i ymdopi ag anawsterau ac ymateb i gyfleoedd newydd. Mae 'wedi'u grymuso' yn golygu bod ein cymunedau'n rhan annatod o benderfyniadau ar bob lefel, fod ganddynt y capasiti nid yn unig i ddylanwadu ond hefyd i ddatblygu ffyrdd o weithio i nodi eu hasedau, eu hanghenion a'u blaenoriaethau eu hunain, ac i wneud penderfyniadau a darparu atebion. Rwy'n gweld rhywun yn codi eu llaw arnaf.
Weinidog, a gaf fi nodi—mae'n ddrwg gennyf, fe'ch collais, Huw—fod Huw'n dymuno gwneud ymyriad?
Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Nid oeddwn eisiau siarad yn y ddadl hon, ond rwy’n falch iawn o gefnogi’r ddadl hon heddiw a chlywed eraill yn siarad, ac mae’n wych clywed y Gweinidog yn sôn am yr ymgysylltu â fu gyda chanolfan cydweithredol Cymru. A fyddai'n cydnabod bod llawer o’r cynnig yma heddiw, y cynnig trawsbleidiol hwn, yn adlewyrchiad teilwng o'r ymgyrchoedd hirfaith gan y Blaid Gydweithredol yng Nghymru, a ledled y DU, o ran grymuso, adeiladu cyfoeth, perchnogaeth, ac yn cynnwys archwilio'r potensial ar gyfer deddfwriaeth? Felly, yn ei sylwadau, wrth gloi, tybed a fyddai'n cyfeirio at hynny hefyd, wrth groesawu'r ddadl hon heddiw a'r cyfraniadau gwych a gawsom.
Diolch yn fawr iawn, Huw Irranca-Davies. Rwy'n falch iawn eich bod wedi gwneud yr ymyriad hwnnw ac wedi cydnabod egwyddorion nid yn unig y Blaid Gydweithredol, sydd wedi'u hymgorffori yng ngwerthoedd ac egwyddorion Llywodraeth Cymru hefyd, gan fod fy nhrydydd pwynt yn ymwneud â bod yn gysylltiedig. A beth a olygwn wrth hynny? Y gall cymunedau weithio’n effeithiol mewn partneriaeth i gydgynhyrchu’r gwasanaethau a rheoli asedau a’r cymorth sydd ei angen arnynt.
Wrth orffen fy ymateb, rwyf am ddweud fy mod yn croesawu’r adroddiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar berchnogaeth gymunedol gan y Sefydliad Materion Cymreig a Chanolfan Cydweithredol Cymru, sef Cwmpas erbyn hyn. A hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau yn y Senedd fod cymunedau, a gweithredu cymunedol, a sut y gallwn eu cefnogi a’u grymuso, yn ganolog i raglen lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Hoffwn grybwyll pwysigrwydd adnoddau. Mae'r rhaglen cyfleusterau cymunedol yn darparu grantiau i helpu cymunedau i brynu, datblygu a gwella asedau cymunedol. Credaf y bydd pob un ohonoch yn gwybod beth y gall yr arian hwnnw ei olygu yn eich cymunedau, ac i rai o’r asedau cymunedol, adeiladau a mannau gwyrdd hyn. Rydym wedi darparu dros £41 miliwn mewn grantiau cyfalaf i 295 o brosiectau. Ceir cymaint o’r prosiectau hynny, gyda £19.5 miliwn drwy’r rhaglen cyfleusterau cymunedol dros y tair blynedd nesaf, felly cofiwch annog cynigion a datblygiadau. Ymwelais ag ambell un yn ddiweddar, megis Gerddi Rheilffordd yn y Sblot ddydd Sadwrn, a weithredir gan y Wiwer Werdd, sy’n enghraifft mor wych o hyn—cymuned amrywiol yn cydweithio, cymuned sy'n pontio’r cenedlaethau, gweithredu cymunedol, busnesau lleol, diwylliant, cerddoriaeth a bwyd. Ond hefyd, mae angen ichi ymweld â chanolfan Dusty Forge yn Nhrelái, y prosiect Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, ond hefyd, sicrhau bod arian yn cyrraedd lleoliadau chwaraeon, canolfannau cymunedol, mosgiau, temlau, yn ogystal ag eglwysi a chapeli. Nid yw'r holl asedau yn eiddo i'r gymuned, ond mae cymaint ohonynt yn cael eu rhedeg gan y gymuned a chyda'r gymuned, ac rydym bellach yn symud tuag at sicrhau y gallwn helpu'r prosiectau hyn gyda buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni. Yn ddiweddar, Ymddiriedolaeth Gymunedol y Fenni—maent yn awyddus i gyflawni sero net; mae ganddynt y paneli solar, ac fe wnaethom eu helpu i ariannu hynny. Ac rydym hefyd wedi lansio cronfa benthyciadau asedau cymunedol, sy'n werth £5 miliwn, a weithredir ar ein rhan gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, i ategu'r rhaglen cyfleusterau cymunedol.
Rwyf wedi dod i ddiwedd yr amser sydd gennyf i siarad â chi heddiw, ond hoffwn ddweud, o ran ein cymorth i'r trydydd sector, fod CGGC, 19 o gynghorau gwirfoddol sirol yng Nghymru, sefydliadau'r trydydd sector, Cwmpas a Chymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru oll yn ein helpu ac yn edrych ar ffyrdd y gallwn gryfhau ein hymrwymiad. Mae gan awdurdodau lleol ran hollbwysig i’w chwarae yn y gwaith o drosglwyddo asedau cymunedol, lle mae perchnogion yr asedau yn rhan o’r broses cyn, yn ystod ac ar ôl y trosglwyddo. [Torri ar draws.]
Mae eich amser ar ben.
Yn olaf, a gaf fi roi sicrwydd i chi fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw? Credaf mai dyma'r cam cyntaf i ni o ran edrych ar lwybr cydgynhyrchiol ar gyfer ein polisi cymunedau newydd. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd dros dro.
A gaf fi ddweud ar ddechrau fy nghyfraniad fod gennym nifer o ddinasyddion ifanc Cymru yma? Croeso i bawb; efallai'n wir y byddwch chi'n eistedd yma rywbryd yn y dyfodol.
Mae'n bleser cael cloi y ddadl yma heddiw, a dwi eisiau diolch i Luke Fletcher am agor y ddadl mor huawdl, ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu. Dwi am ddweud, cyn mynd ymlaen i sylwedd y pwnc, y byddai Buffy Williams wedi hoffi bod yma heddiw, ac mae Buffy yn ganolog i'r cynnig. Mae hithau yn gyforiog o brofiad yn y maes, ac mi fuasai wedi cyfoethogi'r ddadl yma. Felly, diolch iddi am ei chydweithrediad a chymorth wrth gyrraedd y pwynt hwn.
Dwi ddim am dreulio gormod o amser yn lladd ar y Llywodraeth. Mae hynny'n beth hawdd iawn i wneud, o ran gwleidyddiaeth y peth, ond y gwir ydy fy mod i wirioneddol am weld hyn yn cael ei weithredu mor fuan â phosib, a dim ond y Llywodraeth all wneud hynny. Felly, dwi ddim yn meddwl y caf i lawer o lwyddiant drwy fwrw sen arnyn nhw am funudau olaf y drafodaeth.
Ond mae'n rhaid nodi, cyn mynd ymhellach, ei fod yn hen bryd i'r Llywodraeth wireddu'r addewidion sydd wedi cael eu gwneud. Oes, mae yna gamau mewn lle, megis y community asset transfer, sydd, ar bapur, yn galluogi cymunedau i gymryd perchnogaeth o eiddo pan fo awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus yn cael gwared ohono. Ond, a dwi'n siarad o brofiad personol fan hyn, mae'n broses lafurus ac anodd iawn, iawn i weithredu gan filwrio yn erbyn grwpiau cymunedol, gyda llawer yn rhoi'r ffidil yn y to cyn gwireddu'u huchelgais. Dwi'n gwybod hyn o brofiad. Mae Heledd wedi sôn am y profiadau yna yn ei chyfraniad hithau hefyd.
Mae dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers i Gomisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu er mwyn galluogi cymunedau i restru eu hasedau cymunedol a chael y cynnig cyntaf, wrth i asedau cymunedol ddod ar y farchnad. Mae'n saith mlynedd ers i'r Gweinidog, ar y pryd, dros gymunedau a thaclo tlodi gyhoeddi gwaith ymgynghori ar y syniad o ddatblygu polisi Cymreig i rymuso cymunedau, gan ddweud bod yna gefnogaeth gref i'r syniad o sefydlu cynllun fyddai'n rhoi moratoriwm ar werthu asedau tra bod grŵp lleol yn trefnu ei hun i wneud cais i'w brynu. Yn wir, rhoddwyd ymrwymiad y byddai fframwaith deddfwriaethol yn cael ei roi mewn lle i ddatblygu cynllun asedau o werth cymunedol yma, ac y byddai hynny'n digwydd yn dilyn etholiadau 2016. Ond, a ninnau bellach yn 2022, mi rydym ni dal yn aros.
Mae gan yr Alban ddeddfwriaeth sydd wedi bod mewn lle ers dros 20 mlynedd, fel ddaru fy nghyfaill Peredur sôn, ac wedi cael ei gryfhau ers hynny. Mae gan gymunedau ar draws yr Alban, yn wledig ac yn drefol, yr hawl gyntaf i roi ceisiadau am dir ac asedau cymunedol efo cofrestr o eiddo a thir cyhoeddus. Ac mae degau o filiynau o bunnoedd yn cael eu rhoi tuag at gynorthwyo grwpiau cymunedol yno a chymorth ymarferol yn cael ei roi hefyd. Dyma sydd ei angen yma. Mae llawer o hyn yn digwydd yn organig yma yng Nghymru, ar lawr gwlad, ond mae angen dealltwriaeth o'r systemau, ac, yn fwy na dim, mae'n cymryd dygnwch, amser ac ymroddiad, sydd ddim efo nifer o bobl.
Dwi am gymryd y cyfle yma, os caf i, i dalu teyrnged i un a wnaeth yr amser ac a ddaeth i ddeall y system, tad y mudiad gweithredu cymunedol yng Nghymru fodern, os leiciwch chi, y diweddar Dr Carl Clowes, a weithiodd mor galed er mwyn ailfywiogi cymuned Llanaelhaearn, drwy sefydlu Antur Aelhaearn, ac yna mynd ymlaen i sefydlu Nant Gwrtheyrn. Ef hefyd, gyda llaw, oedd un o sylfaenwyr Dolen Cymru, efo'r berthynas odidog yna rhwng Lesotho a Chymru. Bu farw Carl yn gynharach eleni, ond am waddol ar ei ôl. Ef a chriw gweithgar Llanaelhaearn sefydlodd y fenter gymunedol gydweithredol gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol ar ôl gweld difrod a'r niwed a grëwyd wrth i'r chwareli gwenithfaen gau yn yr ardal. Ysbrydolodd y gymuned i ddod ynghyd, a chreu menter o dan berchnogaeth leol, oedd, ar un pwynt, yn gwerthu dillad a nwyddau i rai o siopau mwyaf Efrog Newydd a Pharis. Dwi'n falch dweud bod y fenter, Antur Aelhaearn, yn parhau i weithredu yn Llanaelhaearn hyd heddiw.
Gŵyr pawb, gobeithio, am hanes rhyfeddol Nant Gwrtheyrn, wrth i Carl a'r criw adfeddiannu'r hen bentref diarffordd hwnnw, a'i droi yn ganolfan dysgu Cymraeg cwbl lwyddiannus, gan nid yn unig rhoi bywyd newydd i adeiladau ond i gymuned, i bobl ac i iaith. Mae gwaddol Carl a gwaith yr antur i'w weld heddiw, o dafarndai cydweithredol Y Fic yn Llithfaen, Pengwern Cymunedol yn Llan Ffestiniog, Y Plu yn Llanystumdwy a'r Heliwr yn Nefyn i waith cwmni Bro Blaenau Ffestiniog a'r dwsinau o fentrau cydweithredol sydd yn britho Gwynedd.
Dyma'r ysbryd sydd angen ei harnesu: yr ysbryd cydweithredol, cymunedol, fel ddaru Peredur sôn. Mae'r awydd a brwdfrydedd a'r cariad at fro yno. Rhaid inni ond edrych ar y gwaith cymunedol rhagorol a wnaed mewn cymunedau yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth i gymunedau adnabod y gwendidau a dod ynghyd i ofalu am ei gilydd, fel ddaru Sam sôn yn ei gyfraniad.
Sawl gwaith ydyn ni wedi clywed sgyrsiau yn y tŷ tafarn neu wrth giât yr ysgol, gyda pobl yn sôn am dafarn, hen sinema, garej, hen westy, hen gapel neu darn o dir gwag yn sefyll yn segur, a hwythau’n dweud, 'Dwi'n siŵr bod yna rhywbeth y fedrwn ni ei wneud efo'r deunydd hwnnw'?
Sawl gwaith ydyn ni wedi gweld adeiladau sydd ag iddyn nhw bwysigrwydd hanesyddol lleol yn cael eu dymchwel er mwyn codi blociau o swyddfeydd neu fflatiau moethus, fel ddaru Jenny sôn yn ei chyfraniad? Rhaid inni ond fynd allan i ganol Caerdydd i weld y difrod pensaernïol a diwylliannol yma wrth inni golli nifer o'n hen adeiladau.
Mae'n stori llawer rhy gyfarwydd, ac yn anffodus mae'n un sydd wedi gwaethygu dros y 10 mlynedd ddiwethaf, fel ddaru Janet sôn yn ei hymyrraeth, wrth i awdurdodau lleol orfod gwerthu asedau er mwyn gwneud i fyny am golledion ariannol yn sgil y toriadau a gafwyd. Ond mae gan y Llywodraeth yma'r gallu i weithredu a sicrhau bod cymunedau yn cael eu grymuso i gymryd perchnogaeth o'r asedau yma a'u datblygu ar gyfer budd cymunedol.
A beth sydd o ddiddordeb i fi yn benodol ydy'r posibilrwydd cyffrous gwirioneddol y gall cymunedau gychwyn datblygu tai fforddiadwy i gyfarch y galw yn eu cymuned. Meddyliwch am hynny. A ninnau'n dioddef argyfwng tai ac argyfwng costau byw—ill dau'n gysylltiedig, gyda llaw—meddyliwch beth fedrai cymunedau, wrth iddyn nhw adnabod anghenion lleol a chael parsel o dir i ddatblygu tai o'r maint perthnasol ar gyfer eu trigolion, ei wneud. Nid elw fyddai yn eu cyflyru, ond yr angen i roi to uwchben eu teulu a'u cymdogion. Nid breuddwyd gwrach mo hyn; mae'n bosibilrwydd go iawn.
Meddyliwch am y posibilrwydd, drwy Ynni Cymru, i alluogi cymunedau i ddatblygu eu hynni eu hunain, a'r budd economaidd cymunedol a ddaw yn sgil hynny, neu meddyliwch am Gymru wedi'i britho â siopau, sinemâu, rhandiroedd, canolfannau hamdden cydweithredol, yn creu swyddi o ansawdd, efo'r pres wedi’i gloi mewn yn y gymuned.
Dwi yn croesawu cyfraniad y Gweinidog, a dwi'n falch o glywed na fydd y Gweinidog yn gwrthwynebu'r cynnig. Ddaru'r Gweinidog sôn am a chanmol sir y Fflint yn cynnig rhestr o'r asedau. Wel, beth am ddilyn esiampl sir y Fflint a sicrhau bod yna restr genedlaethol o'r asedau cymunedol ar gael? Pam ddim dilyn arweiniad sir y Fflint?
Diolch hefyd i Huw Irranca-Davies am bwysleisio'r angen am ddeddfwriaeth. Dwi heb glywed yma heddiw gan y Gweinidog beth ydy bwriadau'r Llywodraeth o ran deddfwriaeth, ond dwi'n gobeithio bod yna sgôp yno inni weithio arni yn symud ymlaen. Felly, i chi, Weinidog, ac i'r Llywodraeth, cydiwch yn y cyfle yma—cyfle i ddatblygu polisi a, gobeithio, deddfwriaeth sydd efo’r potensial i wyrdroi rhagolygon ein cymunedau a’n trigolion yma yng Nghymru.
Buasai’n dda gweld deddfu yn y maes, wrth gwrs—deddfwraeth grymuso cymunedau, yn cynnwys cofrestr o asedau cymunedol a’r gallu i gymunedau gael y cynnig cyntaf ar asedau, deddfwriaeth wedi cael ei chyd-greu efo’n cymunedau fydd yn sicrhau ei bod hi'n bosib trosglwyddo asedau yn syml i grwpiau cymunedol strwythyredig, ac, ie, efo cymalau fydd yn golygu nad ydyw’r eiddo hynny yn cael ei golli o reolaeth gyhoeddus. Sicrhewch fod y gyllideb yno, ond hefyd y cymorth ymarferol i hebrwng cymunedau ar hyd y daith, gan sicrhau mai nhw sydd mewn rheolaeth. Diolch yn fawr iawn.
Y cynnig—. Arhoswch funud, dyna'r darn nesaf. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.